12
Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Cronfa Fuddsoddi Leol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Citation preview

Page 1: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Buddsoddi ymMhen-y-bont ar Ogwr

Page 2: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

2

Helpu busnesau lleol i greuswyddi, buddsoddiad a thwf

Cynllun cymorth ariannol yw Cronfa Fuddsoddi Leol De-ddwyrain Cymru, ac fe’i darperir mewnpartneriaeth ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili,Merthyr Tudful a Thorfaen. Datblygwyd y prosiect gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru trwy GronfaDatblygu Rhanbarthol Ewrop, dan y Rhaglen Cydgyfeirio.

Roeddwn wrth fymodd pan gefaisgais i ddweudychydig o eiriau igyflwyno’r llyfrynpwysig hwn, sy’nrhoi sylw i rai o’rcwmnïau syddwedi cael buddo’r GronfaFuddsoddi Leol

ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Fel cyngor rydym yn ymroddedig iddarparu cyngor a chymorth ariannol ifusnesau lleol trwy Gronfa DatblyguRhanbarthol Ewrop.

Mae’r Gronfa Fuddsoddi Leol wedi bod yngweithredu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2009 ac yn ddiweddarcyrhaeddodd garreg filltir o fod wedi rhoi£1 miliwn o gymorth ariannol i fusnesaulleol. Mae’r busnesau eu hunain wedicyfrannu cyfanswm o £1.5 miliwn o ariancyfatebol.

Mae Uned Datblygu Economaidd y cyngorbellach wedi cymeradwyo 200 o grantiau i

gynorthwyo buddsoddiad cyfalaf a chreuswyddi; mae 117 o fusnesau a oeddeisoes yn bodoli a 37 o fusnesau newyddwedi derbyn cymorth trwy’r cynllun achrëwyd bron i 300 o swyddi o ganlyniaduniongyrchol.

Mae wedi cynorthwyo llawer o fusnesau iddatblygu a thyfu trwy fuddsoddi mewnprosiectau offer cyfalaf, er enghraifft prynucyfarpar a pheiriannau, offer TGCh,datblygu gwefannau, marchnata a gwaithadeiladu mewnol ac allanol.

Rwyf yn hynod o falch o ganlyniadaucynllun y Gronfa Fuddsoddi Leol. Mae’nllwyddiant gwirioneddol yn lleol, gangynorthwyo i greu cyfleoedd cyflogaeth oansawdd da yn y fwrdeistref sirol a thuhwnt. Mae wedi cynorthwyo i ddiogelubron i 1,300 o swyddi hefyd.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllenrhywfaint am rai o’r cwmnïau yr ydymwedi bod yn falch o’u helpu.

Y Cynghorydd MEJ Nott, OBE –Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref SirolPen-y-bont ar Ogwr

Page 3: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

3

Menter fusnes newyddsy’n barod ac yn abl

Sefydlwyd aible gan Ami Jones acAlison Watkin ym mis Ebrill 2012.Roedd y partneriaid busnes ynawyddus i rannu gyda busnesaubach a chanolig ledled de Cymru yprofiad a’r sgiliau gweithredol astrategol eang yr oeddynt wedi eudatblygu ym maes AdnoddauDynol ac iechyd galwedigaetholwrth weithio mewn sefydliadcorfforaethol mawr a byd-eang.

Meddai’r Cyd-Gyfarwyddwr AmiJones:

“Cyn sefydlu’r busnes,gwnaethom waith cefndir helaeth isicrhau ein bod wedi sefydlu’r hollbolisïau a’r gweithdrefnau cywir ermwyn darparu gwasanaeth oansawdd uchel. Yn y misoeddwedi hynny aethom ati i amlinelluein strategaeth fusnes a sicrhaubod ein strategaeth farchnata yncyd-fynd â hi, felly aeth tua dau fisheibio cyn i ni ddechraumasnachu.

“Pobl sy’n llunio busnes, a dyna llemae ein pwyslais. Rydym yncefnogi busnesau ar sail ad-hocneu trwy sefydlu tâl cadw misol argyfer gwaith Adnoddau Dynol neu

iechyd galwedigaethol neu’rddau!”

Busnesau bach a chanolig yn neCymru yw prif gleientiaid y cwmniar gyfer ei wasanaethau ad-hoc –rhai sydd ag angen cyngor ymmaes AD neu iechydgalwedigaethol yn hytrach nachymorth mewnol amser llawn. Ynddiweddar maent wedi gweithiogyda chwmnïau mwy hefyd, i’wcynorthwyo â’u cynlluniau lles.

Meddai Ami: “Cafwyd cymorthgan y Gronfa Fuddsoddi Leol ibrynu offer, marchnata a datblyguein gwefan. Roedd yr offer ynhynod o bwysig inni gan mai uno’n gwasanaethau mwyafpoblogaidd yw arolygu iechyd,sy’n ofyniad cyfreithiol i lawer osefydliadau.

“Mae’r cyllid wedi bod o gymorthmawr gan ei fod wedi ein galluogi igynnig mwy o gynhyrchion agwasanaethau ychwanegol. Maewedi golygu hefyd ein bod wedigallu cael y wefan yr oeddem amei chael, sy’n offeryn marchnatahanfodol i ni.”

www.aible.co.uk

Y math o fuddsoddiad – peiriannau, offer TG,gwefan a marchnata (dau ddyfarniad)

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £7,549.54

Y buddsoddiad gan y Gronfa £3,012.80

Page 4: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

4

Cymorth yn adeiladu dyfodoli fusnes gwyddor bywydMae Zoobiotic, sy’n masnachu dan yrenw Biomonde, yn cynhyrchu cynrhon di-haint a ddefnyddir ledled Ewrop i drinbriwiau cronig gan eu helpu i wella athrechu haint. Gyda chymorth gan yGronfa Fuddsoddi Leol adeiladodd ycwmni labordy newydd yn ei bencadlysym Mharc Busnes Dunraven yn ymylcanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Meddai Gareth Kempson, RheolwrGyfarwyddwr y cwmni: “Nid oeddemmewn sefyllfa i ariannu’r gwaith oadeiladu’r labordy ein hunain, ond bu’nbosibl gwneud hyn gydag arian gan yGronfa Fuddsoddi Leol. Mae’r labordyymchwil a datblygu newydd hwn yn gwblallweddol i’r gwaith o ddatblygucynhyrchion newydd yn y dyfodol.

Ychwanegodd Gareth: “Y gobaith, trwydargedu’r gwaith ymchwil yn fwypenodol, yw y gallwn ddatblygucynhyrchion ychwanegol ac ehangugweithrediadau. Bydd hyn yn eincynorthwyo i greu mwy o swyddi. Hefyd,bydd cyfleusterau ymchwil a datblygu oansawdd uchel yn ein galluogi i ddenu’rmathau cywir o adnoddau a sgiliau. Ynddiweddar, rydym wedi gallu denumyfyriwr PhD o’r safon uchaf, o GolegImperial Llundain, i ddod i weithio gydani.”

Y cwmni biodechnoleg o Ben-y-bont arOgwr oedd y busnes masnachol cyntaf i

ddeillio o Ymddiriedolaeth GIG ar ôl myndat Gyllid Cymru i ofyn am fuddsoddiad yn2005. Tyfodd eto yn 2010, pan brynodd eigystadleuwr, Biomonde, o’r Almaen.

Defnyddiwyd therapi tebyg, ganddefnyddio cynrhon, trwy gydol y 1930auond fe’i disodlwyd gan feddyginiaethaugwrthfiotig a thechnegau llawdriniaeth addatblygwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Ailgyflwynwyd therapi cynrhon yn y1970au a’r 1980au ond dim ond ar raddfafach pan yr oedd meddyginiaethaugwrthfiotig a llawdriniaeth wedi methu.

Mae’r cwmni’n cyflogi 50 o bobl yn y DUac yn yr Almaen gyda throsiant o fwy na£4 miliwn.

Ychwanegodd Gareth: “Roedd yn brosesgymharol rwydd i ymgeisio am y cyllid, acyn rhannol mae’r diolch am hynny i’rcymorth a gafodd Biomonde gan ycyngor.

“Mae’r tîm yn yr Uned DatblyguEconomaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwrwedi bod yn gefnogol iawn ac mae hynwedi gwneud y broses yn llawer haws.Maent yn gwybod yn union beth maentyn ei wneud ac yn cael gwared ar lawer o‘boendod’ y broses ymgeisio, gan eiwneud yn hynod o hawdd o’i gymharu âmathau eraill o gyllid.”

www.zoobiotic.com

Y math o fuddsoddiad - gwaith adeiladu

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £45,505.59

Y buddsoddiad gan y Gronfa £10,000

Page 5: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

5

Cwmni lleol yn mowldio dyfodolMae Corilla Plastics, rhan o’r Grŵp Corilla, wedi ffynnu ergwaethaf y cyfnod anodd economaidd drwy sefydlu ei hunfel un o brif gwmnïau’r DU ym maes mowldio plastigtrwy broses cylchdroi.

Aeth rhagflaenydd, a oedd wedi ei leoli ar yr unsafle, i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2009, ondachubwyd y busnes gan Thomas Fleming(dyn busnes o Fanceinion), wedi iddo ef arhai o’i gydweithwyr brynu asedau’rbusnes, gan ddiogelu 15 o swyddi lleol.Dair blynedd yn ddiweddarach, mae’rcwmni wedi mwy na threblu nifer ygweithwyr i 54 ac mae’r gwerthiantblynyddol yn £4 miliwn, o’i gymharuâ gwerthiant o £800,000 yn ystod yflwyddyn gyntaf yn 2009.

Mae Corilla wedi derbyn cymorthgan Uned Datblygu Economaidd ycyngor er mwyn cynorthwyo â’iddatblygiad, a daeth cyn faerBwrdeistref Sirol Pen-y-bont arOgwr, y Cynghorydd MarleneThomas, sydd hefyd yn gynweithiwr yn y ffatri, i ymweld â’rsafle yn ddiweddar.

Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr,Thomas Fleming: “Mae Grŵp Corillayn astudiaeth achos gwych o brynubusnes sy’n tangyflawni, cyflwynocynllun gwella ac yna gweithredustrategaeth ar gyfer twf, hyd yn oedmewn cyfnod anodd yn economaidd.

“Yn amlwg, nid yw strategaeth o’r fathwedi bod yn rhwydd ond mae cefnogaeth achymorth gan Lywodraeth Cymru a’r cyngorlleol wedi bod yn wych.

“Rydym mor falch mai ni yw’r cyflogwr mwyaf yn y cwm ac maehyn yn rhoi mantais gystadleuol unigryw inni ym marchnad

y DU, gyda gweithlu â sgiliau sy’n destun eiddigeddcystadleuwyr eraill yn y sector hwn. Mae ein gweithlu

yn rhoi mantais gystadleuol i ni ac maent ynallweddol i lwyddiant Corilla.

“Mae buddsoddiad mewn offer penodol igynhyrchu bwiau mordwyaeth wedi rhoihwb i dwf y cwmni; maent bellach yn caeleu cynhyrchu yn ein ffatri a’u gwerthuledled y byd.

“Hefyd, rydym wedi ennill contractmawr yn ddiweddar gyda chwmniceir rhyngwladol, ar sail einharbenigedd yn y sector hwn. Mae’rcontract yn werth dros £1 miliwn yflwyddyn i ni fel busnes ac mae’rclod am hyn i’r gweithlu gan yrenillwyd y contract oherwydd ysgiliau sydd ganddynt.”

Mae’r cwmni wedi dweud hefyd eifod yn recriwtio ar hyn o bryd ibenodi prentisiaid ym mhob maeso’r busnes ac mae wedi sefydlurhaglen fuddsoddi fawr i hyfforddi’rgweithlu cyfan.

www.corillaplastics.co.uk

Y math o fuddsoddiad - peirianwaith

Cyfanswm y buddsoddiad yny prosiect

£41,974.40

Y buddsoddiad gan y Gronfa £16,426.76

Page 6: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

6

Sefydlwyd Creation Engineering Ltd yn 2011 gan yCyfarwyddwr, y Dr. Daniel J. Thomas, i ddarparuarbenigedd peirianneg dylunio i’r sector uwch-dechnoleg yng Nghymru. Ers hynny, mae’r cwmniwedi mynd o nerth i nerth.

Mae Creation Engineering yn gweithio gydabusnesau sydd am ddatblygu cynhyrchion newydd,ac mae’n darparu hyfforddiant trwy ei bartner React2 Training Ltd hefyd – gan ddysgu datblygwyrcynhyrchion newydd sydd â gwybodaeth sylfaenolam beirianneg sut i droi syniad yn gynnyrch goiawn.

Mae craidd y busnes wedi datblygu ei bortffolio eihun o gynhyrchion a gwasanaethau biodechnolegyn benodol ar gyfer y sector technolegaumeddygol.

Mae prif safle’r cwmni yng Nghanolfan Fenter Llynfiym Maesteg a chynhelir gweithgareddau ymchwil adatblygu ychwanegol yng Nghanolfan NanoiechydPrifysgol Abertawe yn Ysbyty Singleton.

Mae cymorth gan y Gronfa Fuddsoddi Leol wedigalluogi Creation Engineering i ehangu ei allu i greuprototeipiau’n gyflym a datblygu labordy gweithdymanwl arbenigol a fydd yn cael ei ehangu trwygydol 2013.

Yn ystod y chwe mis diwethaf mae’r busnes wedigallu dechrau datblygu nifer o gynhyrchion newydd;gan gynnwys system sgrinio canser cynnar, pwmpmaint darn un geiniog ar gyfer rhoi inswlin achyffuriau, sy’n cael eu treialu ar hyn o bryd, amodelau o esgyrn i alluogi llawfeddyg i gynlluniollawdriniaethau orthopaedeg cymhleth ymlaen llaw.

Cyllid yn cynorthwyo cwmnipeirianneg i ehangu

Meddai’r Dr Daniel Thomas, Cyfarwyddwr CreationEngineering: “Mae’r sector biodechnoleg yng Nghymruyn newydd ond mae’n ddiwydiant a fydd yn bwysig yn ydyfodol. Mae ein partneriaid yn Ewrop, Tsieina aphrifysgolion yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi dangosdiddordeb mawr yn ein gwasanaethau ac mewn datblygugwaith ar y cyd.

“Rydym yn gweithio ar brosiect newydd cyffrous ar hyn obryd gydag Asiantaeth Gofod Ewrop a’r cydrannau ar

gyfer menter strategol fawr ym maes ymchwildeunyddiau.

Mae cydrannau ar gyfer y prosiect hwn eisoes yn cael eucynhyrchu yma ym Maesteg. Rydym wedi datblygu’ngyflym ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfleoedda fydd yn codi yn y dyfodol.”

www.creationengineering.co.uk

Y math o fuddsoddiad - peirianwaith, offer TG

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £2,518.47

Y buddsoddiad gan y Gronfa £1,001.36

Page 7: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

7

Cyllid yn cynorthwyo busnes ecogyfeillgar i gynnigcyngor arbenigol

Ffurfiwyd The Environmental and SustainabilityPartnership, sydd wedi ei leoli ym Mhorthcawl, gan AnnStevenson ac Ed Gmitrowicz i ddarparu cyngor achymorth ymarferol ynglŷn â chynaliadwyedd isefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.Mae’r ddau ar y cyd wedi treulio mwy na 50 mlynedd yngweithio yn sector yr amgylchedd a chynaliadwyedd acmaent wedi cyfuno eu harbenigedd i ffurfio menternewydd.

Mae’r cwmni’n gweithio gyda chleientiaid yn y sectorpreifat i wella perfformiad amgylcheddol, gan gynnwysdefnyddio adnoddau a dŵr yn effeithlon, rheoli gwastraff

a charbon, a defnyddio ynni cynaliadwy. Mae’r fenterhefyd yn rheoli prosiectau a rhaglenni ar ran y sectorcyhoeddus i ddarparu cyngor a chymorth amgylcheddoli sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

Mae’r cwmni’n gweithio mewn partneriaeth ag ystodeang o arbenigwyr annibynnol i ddarparu tîm arbenigolam bris cystadleuol sydd wedi ei addasu i fodlonianghenion unigol sefydliadau.

Cafwyd cymorth gan y Gronfa Fuddsoddi Leol i brynugliniaduron a pheiriant argraffu sy’n ecogyfeillgar, ynogystal ag i greu gwefan â brand llawn.

Meddai Ann Stevenson: “Bu’r cyllid o help mawr iddechrau ein menter busnes yn llawer cyflymach nag yroeddem wedi ei ragweld. Sefydlwyd y busnes ym misMai 2011 ac o ganlyniad, enillwyd ein contract mawrcyntaf dri mis yn gynt nag a nodwyd yn ein cynllunbusnes. Roedd y cyllid o gymorth i sicrhau ein bod yncael cychwyn cadarn mewn cyfnod economaidd anodd.Roedd y broses ymgeisio’n rhwydd iawn ac roedd ycyllid yn ein galluogi i brynu cynhyrchion ac offerecogyfeillgar yn unol ag ethos ein busnes.”

www.environmentandsustainability.co.uk

Y math o fuddsoddiad - Offer TG, gwefan amarchnata

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £5,910.72

Y buddsoddiad gan y Gronfa £2,319.26

Page 8: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

8

Ffurfiwyd First Link Trading, sef cangen fasnachu’r elusen ‘Every Link Counts’ ymmis Mehefin 2007, a’i nod yw creu elw trwy weithgareddau masnachu sy’ncyfrannu’n ôl i’r elusen trwy gymorth rhodd. Bwriad y gangen fasnachol oeddceisio lleihau dibyniaeth yr elusen ar gyllid grant gyda’r nod hirdymor o sicrhau eibod yn gynaliadwy.

Meddai Steve Donovan, Rheolwr Datblygu First Link Trading: “Mae Every LinkCounts yn elusen sy’n cefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu rhwng 14 a 30 oed igymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden prif ffrwd yn eucymunedau eu hunain.

“Rydym yn bodoli oherwydd bod cymaint o bobl sydd wedi eu heffeithio gananabledd yn ei chael yn llawer mwy anodd cael eu cynnwys ym mhrif ffrwdcymdeithas. Mae gan ein holl aelodau gyfle cyfartal i wireddu eu dyheadau ymmha bynnag faes y maent yn ei ddewis.

“A ninnau â hyder yn eu gallu i gyflawni eu hamcanion mewn bywyd, rydym yncymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol yn y gymuned, gan ddefnyddiocanolfannau hamdden, sinemâu ac ati.”

Nododd y cwmni, sy’n cyflogi 21 o bobl, dri busnes gwahanol ac ar wahân gyda’rnod o greu elw a chynnig cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu sef:

Link–up - asiantaeth sy’n darparu cynorthwywyr personol i unigolion aganableddau er mwyn eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol.

Digi-link - gwasanaeth argraffu digidol a TG, ar gyfer mentrau cymdeithasol erailla sefydliadau’r trydydd sector yn bennaf.

Rosettes - cwmni sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi rhosglymau wedi eu haddasu’nbenodol.

Gwnaeth Steve gais a llwyddo i dderbyn cymorth ariannol drwy’r GronfaFuddsoddi Leol. Meddai: “Roedd angen y cymorth trwy’r Gronfa i sefydlu gwefangynhwysfawr a fyddai’n gallu ymdopi â phob agwedd ar y tri busnes.”

Ychwanegodd Steve: “ Heb y cymorth hwn, ni fyddai’r prosiect wedi gallu myndyn ei flaen yn ei gyfanrwydd. Ers derbyn y grant yn 2010, mae’r busnes wediehangu o’i safle yng Nghanolfan Menter Llynfi ym Maesteg.”

Cyllid yn rhoi hwb isefydliad cymunedol

Y math o fuddsoddiad - datblygu gwefan

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £2,816.60

Y buddsoddiad gan y Gronfa £1,126.64

Page 9: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

9

Cwmni newydd yncael sêl bendithSefydlwyd HW Powder CoatingLtd gan gyn bostmon, GavinWaters o Felin Ifan Ddu.

Mae’r busnes, sydd wedi ei leoliar Ystâd DdiwydiannolPenllwyngwent ym Mro Ogwr, ynarbenigo mewn paentio, gorffen achydosod cynhyrchion metel.Mae hefyd yn darparugwasanaeth gosod haen bowdr,siotsgwrio a saernïo ar raddfafawr i fusnesau masnachol,diwydiant a’r cyhoedd yn y DU.

Meddai Gavin: “Fy nod bobamser oedd dechrau fy musnesfy hun ac ar ôl gweithio yn ydiwydiant am 15 mlynedd, daethcyfle i brynu’r math o offer yroedd ei angen arnaf. Derbyniaisrywfaint o dâl pan gafodd fyswydd ei dileu, ond nid oedd ynddigon i ddechrau’r busnes.

“Cysylltais â’r Uned DatblyguEconomaidd i ofyn a oeddunrhyw gymorth ar gael adywedwyd bod cymorth ar gaelgan y Gronfa Fuddsoddi Leol.Llenwais y ffurflenni angenrheidiolfy hun a chyflwyno cais, a chefaisgrant o £10,000. Roeddwn wrthfy modd! Dim ond pythefnos ar ôlcyflwyno fy nghais gwreiddiol,derbyniais lythyr yn rhoi gwybodfy mod wedi bod ynllwyddiannus.”

“Mae’r cymorth wedi agorpennod newydd i mi gan nafyddwn wedi gallu dechrau’rbusnes hebddo mae’n debyg; nifyddwn wedi gallu prynu’r holloffer angenrheidiol.

“Gyda chymorth y cyngor, rwyfwedi gallu symud i uned ym MroOgwr ac mae gen’ i ddauweithiwr bellach.”

“Rwyf hefyd yn gobeithioehangu’r busnes er mwyn cynnigmwy o gyfleusterau sy’n cynnwyscynhyrchion dalennau metel.”

www.hwpowdercoating.co.uk

Y math o fuddsoddiad - peirianwaith

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £28,500

Y buddsoddiad gan y Gronfa £10,000

Page 10: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

10

Pan adawodd Kimberley Epton y brifysgol gyda gradd mewn astudiaethau’r cyfryngau roedd yngwybod ar unwaith ei bod am sefydlu a gweithredu ei busnes ei hun. Ar ôl dilyn cwrs a gynhaliwydyn lleol gan Business in Focus, roedd o’r farn bod ganddi’r sgiliau a’r cymwysterauangenrheidiol i wneud hynny. Sefydlodd Kimberley Red Cell Films ym mis Medi 2010.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth.

Meddai Kimberley, a anwyd ym Maesteg: “Er bod gennyf ypenderfyniad a’r sgiliau i ddechrau busnes, roeddwn ynsylweddoli hefyd bod angen i mi gael yr offer gorauy gallwn eu fforddio er mwyn cystadlu â chwmnïaua oedd eisoes wedi eu sefydlu.

“Ar ôl siarad â’m cynghorydd lleol, trefnwyd cyfarfodgyda’r Uned Datblygu Economaidd yn y cyngor idrafod y dewisiadau o ran cyllid. Roedd y tîm amwneud yn siŵr fy mod i’n gwneud digon o ymchwil i’rfarchnad er mwyn penderfynu a oedd digon oddiddordeb i gynnal fy musnes.

“Ar ôl gwneud yr ymchwil, cyflwynais gais am gymorthgan y Gronfa Fuddsoddi Leol a chynigiwyd grant oychydig dros £3,500 i mi. Roedd yn fy ngalluogi i brynu’rcamerâu a’r offer cyfrifiadurol proffesiynol yr oedd wir euhangen ar gyfer y busnes.

“Mae’n gynnar o hyd, ond rwyf yn falch o ddweud bodpethau’n mynd yn dda. Rwyf yn cael gwaith rheolaidd ganTheatr Genedlaethol Cymru, ac mae fy mhrosiect diweddarafwedi cynnwys gweithio gyda’r Gymdeithas Deledu Frenhinol.”

Ychwanegodd Kimberley: “Rwyf yn falch hefyd o fod wedi fylleoli yng Nghymru ac yn gweithio o gartref ym Maesteg, syddwedi bod yn ddewis da iawn i’r busnes. Gobeithio y gallafehangu’r busnes yn y dyfodol trwy weithio’n agosach gydamyfyrwyr yn y diwydiant ffilmiau a chyfnewid sgiliau gyda nhw.”

www.redcellfilms.com

Cyllid yn cynorthwyo i sefydlubusnes ffilmio

Y math o fuddsoddiad - offer a TG gwneud ffilmiau

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £9,088.86

Y buddsoddiad gan y Gronfa £3,635.54

Page 11: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

11

Arbenigwr TG ynadeiladu sylfeinicadarn ym Mhen-y-bont arOgwrMae’r arbenigwyr cymorth TG, RockIT, wedi cyflwynocynlluniau ehangu uchelgeisiol wrth iddo symud i saflenewydd ym Mharc Bocam yn ddiweddar.

Mae’r cwmni wedi ennill gwobrau, ac yn un o’r busnesaucymorth TG mwyaf yn y fwrdeistref sirol. Cafodd ei enwihefyd yn un o’r 50 prif gwmni yn y sector hwn yn Ewrop.

Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Rob Dance: “Rydymwedi cael blwyddyn anhygoel ac mae gennym gynlluniauehangu byr dymor a hirdymor, felly bydd y safle newyddyn sicr yn rhoi mwy o le i ni dyfu. Rydym bellach ynagosach at yr M4 sy’n ei gwneud yn haws i ni fodlonianghenion gwasanaeth ein cwsmeriaid”.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi 40 aelod o staff acmae cynlluniau i recriwtio mwy dros y 12 mis nesaf.Mae’r cwmni’n ei hyrwyddo’i hun fel busnes blaengar,

sy’n chwilio am gynhyrchion newydd ac yn datblygugwasanaethau’n barhaus er budd ei gleientiaid.

Gwnaed buddsoddiad mawr mewn technoleg hefyd wrthsymud i Barc Bocam yn ddiweddar. Derbyniodd RockItgymorth i adnewyddu’r safle newydd a’u galluogi i gaeldigon o le i ddatblygu a thyfu.

Meddai Rob: “Daeth y cyllid ar yr union adeg iawn i’rbusnes. Roeddwn yn credu y byddai’n cymryd amsermaith i’w drefnu, ond daeth y cynnig grant o fewn 6diwrnod ar ôl i ni gyflwyno’r cynllun busnes a’r cais.Roedd y grant yn ein galluogi i ddodrefnu ein huned yn ymodd a oedd yn briodol ar gyfer ein diwydiant.

Esboniodd Ray Pearce, Rheolwr Adfywio a DatblygiadEconomaidd; “Roedd y panel grant yn gwybod yn sythbod hwn yn fusnes a fyddai’n gallu tyfu. Roedd y cynllun

busnes yn un o’r rhai mwyaf proffesiynol inni ei dderbynerioed. Roeddem yn ffyddiog y byddai Rob a’i dîm yngallu ehangu, ac fe’n profwyd yn iawn. Pan gafodd Robgymorth gennym i ddechrau, dim ond saith gweithiwr aoedd ganddo. Rydym wedi cael gwybod ei fod yn cyflogitua 40 aelod o staff erbyn hyn. Llwyddiant ysgubol ar ôldim ond pedair blynedd o fasnachu.”

Ychwanegodd Rob, sydd ddim yn un i sefyll yn llonyddyn hir: “Yn bennaf, pwyslais cyffredinol y cwmni ywcynnig atebion er mwyn gostwng costau busnes, agwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant a bydd eindatblygiad diweddaraf yn caniatáu i ni roi mwy o bwyslaisar y meysydd hyn.”

www.rockit.com

Y math o fuddsoddiad - dodrefn swyddfa, offerTG, gwefan a marchnata (dau ddyfarniad)

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £41,790.67

Y buddsoddiad gan y Gronfa £14,937.99

Page 12: Buddsoddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr

12

Spectrum yngwneud ei farc ar y byd

Sefydlwyd Spectrum Technologies PLC ym 1989 a’rcwmni yw prif gyflenwr marchnad y byd ar gyfer offermarcio gwifren laser uwchfioled i’r diwydiant aerofodbyd-eang; Cwmni Boeing yw ei brif gwsmer ers amser.

Mae’r busnes wedi ei leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr adechreuodd gyda dau weithiwr ym 1989. Bellach mae’ncyflogi cyfanswm o 85 o bobl, gan gynnwys 63 ymMhen-y-bont ar Ogwr. Mae Spectrum yn dylunio, yndatblygu ac yn cynhyrchu marcwyr gwifren laseruwchfioled CAPRIS® a NOVA™, a ddatblygwyd yn

wreiddiol ar gyfer y farchnad aerofod, a phlicwyr gwifrenlaser is-goch SIENNA™ i’w defnyddio wrth gynhyrchuoffer electronig critigol.

Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth dros y blynyddoedd,gan gynnwys grant o’r Gronfa Fuddsoddi Leol gan yrUned Datblygu Economaidd, ac mae wedi buddsodditua £125,000 er mwyn ehangu ei swyddfeydd a’rmannau cynhyrchu, gan gynnwys labordy datblygupeirianneg newydd, labordy opteg laser ac ystafellhyfforddi a ffreutur newydd.

Meddai’r Dr Peter Dickinson, Prif Weithredwr SpectrumTechnologies PLC: “Rydym yn gwerthfawrogi’r hollgymorth yr ydym wedi ei dderbyn gan GyngorBwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy’r UnedDatblygu Economaidd. Mae’r sefyllfa economaidd fyd-eang bresennol yn her i bawb ond rydym wedi dangos ygallwn gystadlu’n llwyddiannus iawn ar sail fyd-eang,gyda thechnoleg flaengar, tîm da o bobl a dyfalbarhad.”

Mae allforion yn cyfrif am ryw 95-98 y cant o’r trosiantblynyddol ers 1993 ac rydym wedi gwerthu i dros 40 o

wledydd ledled y byd yn y diwydiannau aerofod,amddiffyn, electroneg, ceir a dyfeisiadau meddygol.

Mae cleientiaid allweddol eraill yn cynnwys Augusta-Westland, Airbus, Alenia, Bombadier, Eurocopter,Foxconn, Gulfstream, Hawker Beechcraft, Kawasaki, L-3Communications, Lockheed Martin, Mitsubishi, Molex,Northrop Grumman, SAAB, TE Connectivity a SikorskyHelicopters.

Y cwmni yw’r arloeswr ym maes datblygu a chyflwynotechnoleg marcio gwifren laser uwchfioled yn y

diwydiant aerofod ac mae wedi ennill nifer o wobrau amarloesedd ac allforio rhyngwladol, gan gynnwys tairGwobr y Frenhines am Allforio / Masnach Ryngwladol.

www.spectrumtech.com

Y math o fuddsoddiad - gwaith adeiladu

Cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect £105,368.35

Y buddsoddiad gan y Gronfa £35,000