20
Pen-y-bont ar Ogwr Gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Cefnogi Clybiau i Bobl Ifanc Cymru Hefyd yn y rhifyn hwn... Rhagor o gartrefi fforddiadwy i Ben-y-bont ar Ogwr Mynd i’r afael â diweithdra

Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Wales & West Housing Association's newsletter for the Bridgend area (Cymraeg)

Citation preview

Page 1: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

Pen-y-bont ar Ogwr Gwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Cefnogi Clybiau i Bobl Ifanc CymruHefyd yn y rhifyn hwn...

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i Ben-y-bont ar OgwrMynd i’r afael â diweithdra

Page 2: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101 miliwn, ein strategaeth newydd

ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr

Lena Charles, yr ail o’r chwith, yn cael ei Gwobr Arwr Lleol WWHA

Page 3: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i ardal Pen-y-bont ar OgwrMae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o fl aenoriaethau pennaf WWHA.

Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfl eusterau gofal ychwanegol. Mae’r cyfan yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru.

Mae datblygiadau WWHA sydd wedi dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu a fydd yn dechrau’n fuan, yn cynnwys:

Coed Castell, Cam 2Ar ôl cael ei gwblhau, bydd y prosiect yn cynnig 39 uned yn Bracla. Mae 16 uned yn rhan o gam 1, a bydd 23 yn ychwanegol yn debyg o gael eu hadeiladu dan gam 2. Mae disgwyl i’r ail gam ddechrau y mis hwn (Mawrth), diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Ffordd MaendyDrwy gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Barratt Homes de Cymru, rydym wedi sicrhau 16 cartref am rent fforddiadwy neu i’w prynu fel rhan o

fenter ‘Rhoi cynnig arni cyn prynu’. Mae chwe ffl at â dwy ystafell wely wedi cael eu gosod, ac mae disgwyl i’r deg cartref arall gael eu cwblhau yn gynnar yn 2012.

Coed ParkRydym wedi cael Coed Park gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda golwg ar ddatblygu prosiect preswyl o 40 uned yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae trafodaethau cychwynnol wedi dechrau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rhagwelir y bydd cais cynllunio yn cael ei gyfl wyno yn gynnar yn ystod haf 2012.

Dywedodd Nikki Cole, Pennaeth Datblygu WWHA: “Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofi ad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfl e i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai.

“Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfl eoedd ym maes tai yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.”

Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rhagwelir Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rhagwelir y bydd cais cynllunio yn cael ei y bydd cais cynllunio yn cael ei

Page 4: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Mynd i’r afael â diweithdra

Mae dau o ardal Pen-y-bont ar Ogwr – a oedd rhyngddyn nhw wedi bod yn ddi-waith am fwy na 15 mlynedd – wedi codi o’r rhigol i sicrhau gwaith llawn amser gyda ni.

Mae Mark Evans a Donna Samuel, y ddau o Faesteg, wedi sicrhau swyddi parhaol gyda WWHA diolch i Jobmatch Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Mark, sy’n 49 oed, yn awr yn Arolygydd Safle gyda WWHA, tra bod Donna, sy’n 43 oed, yn gweithio yng nghanolfan gwasanaethau cwsmeriaid 24/7 y cwmni.

Gweithiodd WWHA ar y cyd â JobMatch Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi Mark a Donna ar raglen Llwybrau Cyflogaeth. Mae’r

rhain yn cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers cyfnod hir i gael y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i’w cael nhw yn ôl i waith cyflogedig.

Yn flaenorol, nid oedd Mark wedi gallu gweithio oherwydd salwch tymor hir, tra’r oedd Donna wedi bod yn ofalwr llawn amser am 12 mlynedd ar ôl gweithio ar y tiliau yn Tesco.

Ar 8 Chwefror, fe gafodd Donna (sydd yn y llun uchod) dystysgrifau am ei gwaith gyda JobMatch gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn digwyddiad ‘Blwyddyn newydd, dechrau newydd’ ym Mhafiliwn Porthcawl.

Donna Samuel yn cael ei thystysgrifau gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones

Page 5: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cyfrannodd Bwrdd WWHA £3,500 at Glybiau i Bobl Ifanc Cymru i gefnogi eu gwaith dros bobl ifanc ledled y wlad.

Fe wnaeth y Prif Weithredwr, Anne Hinchey, ac Ivor Gittens, Cadeirydd y Bwrdd, dreulio amser gyda rhai yn eu harddegau a staff tŷ clwb CYP yn y Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, cyn cyflwyno siec i’r Prif Weithredwr, Joff Carroll.

Mae Clybiau i Bobl Ifanc Cymru yn elusen gofrestredig, sy’n cynnig help a chefnogaeth i glybiau ieuenctid / grwpiau / clybiau chwaraeon, drwy gynnig prosiectau adeiladol i bobl ifanc, nifer o gyfleoedd ym myd chwaraeon, hyfforddiant a llawer mwy.

Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, ac Ivor Gittens, Cadeirydd WWHA, gyda staff a phobl ifanc yn nhŷ clwb CYP yn y Betws, Pen-y-bont ar Ogwr

Cefnogi Clybiau i Bobl Ifanc Cymru

Page 6: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Gwobrau diweddaraf

Roedd 2011 yn flwyddyn lwyddiannus o ran gwobrau yn WWHA.

Cafodd y rheolwr cynllun o Ben-y-bont ar Ogwr, Lucy Clewlow, le ar restr fer Gwobr Cyflawniad Academaidd Eithriadol yng Ngwobrau Tai Cymru 2011.

Fe wnaeth preswylwyr hŷn o Danymynydd, cynllun er ymddeol WWHA yng Nghwm Garw, ennill Gwobr fawreddog Val Feld am Gyfathrebu ym Myd Tai yng Ngwobrau’r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid 2011, am eu prosiect adrodd storïau digidol, ‘Tyfu gyda’n gilydd’.

Fe wnaeth preswylwyr rhwng 80 a 92 oed weithio’n agos gyda phobl ifanc lleol i gofnodi eu storïau, gan ymgorffori hanesion ar lafar, cerddoriaeth a ffotograffau.

Yn ddiweddar, cafodd Lena Charles, sy’n 93 oed, ei hanrhydeddu gan WWHA am oes o wasanaeth i’r gymuned.

Treuliodd Lena fwy na 40 mlynedd yn gwirfoddoli i Wasanaeth Gwirfoddol Brenhinol y Merched yng Nghwm Garw cyn dod yn godwr arian brwd yn Danymynydd, lle mae hi’n byw erbyn hyn.

Preswylwyr Danymynydd, gan gynnwys Lena Charles, yr ail o’r dde, gyda’u gwobr yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWHA 2011

Page 7: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Enillodd Lena, sy’n hen fam-gu i chwech o blant, Wobr Arwr Lleol David Taylor 2011 yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol.

Fe wnaeth cynllun er ymddeol Danymynydd ennill Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011 WWHA am ddau brosiect – codi arian at blant amddifaid yn Belarus a’r prosiect adrodd storïau digidol a grybwyllwyd uchod.

Fe wnaeth Jeff Bunce a Derek Rose, o gynllun er ymddeol Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, ennill gwobr Hyrwyddwyr Eco yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth

2011 WWHA.

Yn y llun isod, gwelir canlyniad eu gwaith caled yng ngerddi cymunol Western Court.

Gerddi yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr.

Page 8: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein stoc bresennol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru.

Rydym yn debygol iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012. Rydym yn defnyddio labrwyr lleol, a lle bynnag y mae hynny’n bosibl, deunyddiau a gynhyrchwyd yn lleol, gan helpu i fuddsoddi yn yr economi leol.

Ledled Cymru, rydym wedi adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi (£1.3 miliwn). Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn cynnwys £68,000 ar waith yn Alexander Road, St Johns Street a chynllun er ymddeol Western Court.

Rydym hefyd wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi, gan gynnwys £60,000 yn Rhiw Las a Phen Onnen.

Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

Ymysg y cartrefi eraill sy’n cael budd drwy fuddsoddiadau lleol, mae Rhiw Cae Mawr, Rhiw Tremaen a LlysHebron, a fydd yn cael drysau a/neu ffenestri newydd. Rydym hefyd yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol, gan gynnwys uwchraddio pafinau, estyn meysydd parcio, atgyweirio simneiau a gosod ffensys newydd.

Page 9: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cartrefi WWHA ar werth yn ardal Pen-y-bont ar OgwrRydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran tenantiaethau i bobl hŷn sy’n dymuno rhentu neu brynu eu cartref eu hunain. Rydym yn rheoli 22 cynllun tai ar werth er ymddeol a chynlluniau prydles i bobl hŷn ledled Cymru, gan gynnig amrywiaeth o brisiau a lleoliadau i’r rhai sy’n dymuno prynu.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym y cartrefi canlynol ar werth ar hyn o bryd yn Restway Gardens, Pen-y-bont ar Ogwr:

• Rhif 2 – rhandy un ystafell wely ar y llawr cyntaf – cysylltwch â’r Gwerthwyr Eiddo Watts & Morgan

• Rhif 8 – tŷ dwy ystafell wely – cysylltwch â Peter Morgan

• Rhif 22 - tŷ dwy ystafell wely – cysylltwch â Peter Morgan

• Rhif 23 - tŷ dwy ystafell wely – cysylltwch â Peter Morgan

Mae’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o randai a thai ar eu

tir eu hunain. Mae 23 cartref yno gyda’i gilydd – 2 fflat un ystafell wely, 4 fflat dwy ystafell wely ac 17 tŷ.

Mae preswylwyr yn gallu defnyddio ein Canolfan Larwm mewn Argyfwng 24/7, ac mae pob cartref yn cynnwys cortyn i’w dynnu mewn argyfwng ym mhob ystafell, a rhoddir larymau i bob preswyliwr eu gwisgo o amgylch eu gyddfau.

Mae’r cynllun wedi ei amgylchynu gan dir sy’n cael ei gadw’n dda, gydag amrywiaeth eang o goed a llwyni prin.

Restway Gardens

Page 10: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Compact Bracla

Tlodi tanwydd

Mae lleihau tlodi tanwydd yn flaenoriaeth fawr i ni, ac rydym wedi bod yn brysur iawn yn ceisio helpu cymaint â phosibl o breswylwyr i arbed ynni.

Yn lleol, rydym wedi rhoi mwy na 100 o becynnau arbed ynni i breswylwyr sy’n cael budd-daliadau cymwys, mewn digwyddiadau ym Merthyr Tudful, Aberhonddu, Bracla a’r Betws.

“Mae’r pecynnau yn cynnwys monitor ynni i alluogi preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus

am sut i ostwng eu biliau trydan” meddai Bridget Garrod, Rheolwr Tîm y Gymdogaeth. “Maen nhw hefyd wedi cael cebl estyniad sy’n lleihau faint o ynni y mae pethau sy’n gysylltiedig â’r teledu yn ei ddefnyddio, fel recordydd DVD neu’r blwch Sky, pan fydd y teledu’n cael ei ddiffodd.”

Yn ychwanegol, mae cannoedd o lyfrynnau ‘Helping You Manage Your Energy Bills’, a gafodd eu cynhyrchu gydag Ymddiriedolaeth Ynni EDF, wedi cael eu dosbarthu.

Mae’r Compact hwn rhwng y Gymdeithas, Cymdeithas Tai Linc Cymru a’n preswylwyr yn Bracla.

Mae’r cyfarfodydd yn agored i bob preswyliwr, ac yn cael eu cynnal bob chwarter blwyddyn. Mae’r aelodau yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gais y preswylwyr, gan gynnwys ystadegau ar:

• lefelau bodlonrwydd ag atgyweiriadau

• yr amser y mae’n ei gymryd i atgyweirio nam

• a wnaeth yr atgyweiriad lwyddo ai peidio

• nifer y cartrefi a osodwyd yn ystod y chwarter blwyddyn blaenorol

• achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae preswylwyr hefyd yn cael gwybod am unrhyw brosiectau cynnal a chadw wedi’u cynllunio sy’n debyg o gael eu

cynnal yn Bracla, ac yn cael gwybod am gynnydd gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud.

Yn ystod cyfarfod Chwefror 2012 ein compact, fe roddom wybod i’r preswylwyr am y cynnydd a wnaed tuag at Gofrestr Dai Gyffredin Pen-y-bont ar Ogwr (gweler tudalen 12 am ragor o wybodaeth), ac ar 16 Chwefror, fe wnaethom gynnal digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol Bracla gyda’r Dogs Trust, gan gynnig gosod sglodyn micro ar gŵn a’u gwneud yn ddiryw – rhywbeth a fyddai’n costio £30 fel arfer – i breswylwyr sy’n cael budd-daliadau cymwys. Daeth eu Swyddog Addysg draw i siarad gyda’r plant am gyfrifoldebau bod yn berchen ar gi.

Yn ogystal, rhoddodd Sarah Richards o Bark Avenue Professional Dog Grooming gyngor ar ofalu am anifeiliaid anwes, gan gynnwys tacluso a thorri ewinedd.

Page 11: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf yn BraclaFel aelod o fwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bracla, rydym wedi cefnogi nifer o weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y Pwyllgor Digwyddiadau.

Mae’r rhain yn cynnwys Digwyddiad Cyngor ar Arian ac Ynni yn Brackla Meadows, lle cawsom gwmni’r heddlu lleol, MoneyLine Cymru, Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr a Chymunedau 2.0.

Daeth Tropical Inc â nifer o anifeiliaid egsotig i helpu i ddiddanu’r plant iau. At hynny, fe wnaeth John, Gail a Steve o Gymunedau yn Gyntaf Bracla

drefnu BBQ a lluniaeth, gyda’r elw yn mynd at eu cronfa i osod polyn lamp newydd ar y llwybr i’r dref ger Heol Bryn Glas. Fe wnaeth preswylwyr gasglu 50% o’r gost, tra bod WWHA wedi ymuno â Chymdeithas Tai Linc Cymru i gyfrannu’r gweddill.

Rydym hefyd wedi cefnogi digwyddiadau codi arian Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn, ac yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror 2012, fe wnaethom dalu am fws mini i fynd â phlant o Bracla i Ysgol Gyfun Maesteg ar gyfer digwyddiad her bêl-droed Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Page 12: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cofrestr Dai Gyffredin Pen-y-bont ar Ogwr

Ynghyd â Hafod, Linc-Cymru a’r Cymoedd i’r Arfordir, rydym yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu cofrestr dai gyffredin.

Mae cofrestr dai gyffredin yn ceisio gwneud y broses o ymgeisio am dai cymdeithasol yn symlach a thecach i bobl, gan mai dim ond un ffurfl en gais am dai y bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr ei llenwi, ac fe gawn nhw eu rhoi ar un rhestr, yn hytrach na gorfod ymgeisio’n unigol i’r holl landlordiaid.

Bydd y gofrestr dai gyffredin yn cael ei chadw yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y broses hon hefyd yn gymwys i breswylwyr cyfredol sy’n dymuno trosglwyddo i gynllun arall o fewn WWHA.

Bydd y gofrestr dai gyffredin o

fantais i ymgeiswyr a’r landlordiaid, gan y bydd yn symleiddio’r broses ac yn galluogi’r mynediad gorau posibl at dai i’r rhai sydd eu hangen nhw fwyaf.

Ymhellach, bydd y gofrestr dai gyffredin o fudd mawr i breswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd yn gynllun tebyg i’r un a fabwysiadwyd gan WWHA yn 2009. Rydym yn gwybod mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i’r rhai sy’n ymgeisio am gartref yn yr ardal yw gallu cael y cyngor diweddaraf ar dai, ac nid dim ond cael eu hychwanegu at restr aros.

Disgwylir i’r cynllun “fynd yn fyw” yn Awst 2012, ond yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch y gofrestr dai gyffredin, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Maria Edwards, y Swyddog Tai, ar 07929 201316 neu’r rhif rhadffôn 0800 052 2526.

Bracla BywWedi ei anelu at blant rhwng 8 ac 13 oed, mae Bracla Byw yn sesiwn chwarae glos â strwythur, sy’n cael ei chynnal unwaith yr wythnos yn Bracla.

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau gan Gymunedau yn Gyntaf a Chyngor Cymuned Bracla i dalu am weithwyr chwarae proffesiynol

i ddarparu’r sesiynau, ac mae pobl leol yn cael eu hyfforddi i helpu i ddarparu’r sesiynau.

Ynghyd â Chymdeithas Tai Linc Cymru, rydym yn talu am ddau fws mini i godi a gollwng plant o ardal Bracla bob nos Wener fel eu bod nhw’n gallu mynd i Bracla Byw.

Page 13: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷnRydym yn ymrwymedig i ddar-paru mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynl-luniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un.

Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu

darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i: www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

Page 14: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Page 15: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

Page 16: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn gryno

Ers ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

Page 17: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

17www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyfforddiantRydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewndigwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfl e i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyfl ogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyfl enwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfl eoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

Page 18: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

18www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Y diweddaraf am ddatblygiadauLedled Cymru, mae ein rhaglen ddatblygu, sy’n werth £101 miliwn dros bum mlynedd, yn mynd o nerth i nerth.

Rydym nawr naill ai wedi dechrau neu ar fi n dechrau gweithio ar fwy na 250 uned mewn pum awdurdod lleol gwahanol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, gofal ychwanegol, anghenion arbennig a llety gofal dementia.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi cwblhau cyfanswm o 47 uned ledled Cymru, gan gynnwys tai a rhandai anghenion cyffredinol, ynghyd ag unedau arbenigol tai â chymorth.

Rydym hefyd yn peilota ein menter ‘Rhoi Cynnig Arni Cyn Prynu’ gyntaf, gydag 16 uned ar gael am rent fforddiadwy, gyda’r dewis o brynu’r cartref ar ôl blwyddyn o denantiaeth lwyddiannus.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau datblygu, ewch i: www.wwha.net/ourservices/development

18

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take Ctrl

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profi ad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fi deo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyfl ogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2012Bydd pumed seremoni fl ynyddol ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael ei chynnal ar 19 Hydref yn y Village Hotel, Coryton, Caerdydd.

Rydym bob amser yn croesawu enwebiadau gan unrhyw un sy’n dymuno enwebu unigolion neu grwpiau sy’n llawn ysbryd cymunedol. Ein hunig faen prawf yw bod yn rhaid i’r rhai a enwebir naill ai fod yn breswylwyr WWHA, neu’n cydweithio â phreswylwyr WWHA, ac mae’r broses enwebu yn gyfl ym ac yn hawdd.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i’n noson gala carped coch, lle bydd synnwyr o gymuned yn cael ei gydnabod gyda chyfres o wobrau.

Y categorïau yw: Dechrau o’r newydd, Arwr lleol, Cymydog da, Eco bencampwr, Garddwr gorau, Pencampwr cymunedol.

Am ragor o fanylion ac i enwebu rhywun, ffoniwch Sharon Buckley ar 029 20 415363 neu e-bostiwch [email protected]

Page 19: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

19www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

19

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y fl wyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi .

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

Achub morgeisiMae ein cynllun achub morgeisi yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

Page 20: Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

20www.wwha.net

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Jackie Bloxham, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)029 2041 4083

[email protected]

Jenny Williams, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 029 2041 [email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O

Cysylltiadauallweddol

STRATEGOL

TAI

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]