Upload
nhi
View
103
Download
4
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cadw cofnodion tywydd. Shw’mai Gyfeillion!. Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth. Cynllunio eich Ymchwiliad. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Cadw cofnodion tywydd
Shw’mai Gyfeillion!
Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych!
Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth.
Cynllunio eich Ymchwiliad.
Cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwiliad mae’n bwysig ystyried cyn cychwyn.
Cofiwch, rydym yn ceisio darganfod:
‘Sut y mae newidiadau i dymheredd y gwanwyn yn effeithio ar amser blodeuo
bylbiau cennin pedr a crocws’.
Beth fyddwch chi yn ei wneud?
Darllenwch ymlaen am ychydig o gymorth.
Cwestiynau da i’w gofyn pan yn cynllunio ymchwiliad…
• Beth yr ydym yn ei ddisgwyl i ddigwydd?
• Pa wybodaeth y dylem ei gasglu?• Sut fyddwn ni yn ei gasglu?• Pa offer fyddwn ni yn ei ddefnyddio?• Sut fyddwn ni yn ei wneud yn brawf
teg?• A fydd unrhyw risg neu beryglon?
Pa wybodaeth sydd angen i ni ei gasglu?
Tymheredd?
Nifer o ddail a farciwyd gan bryfetach?
Glawiad? Nifer o bryfed peillio? (gwenyn
neu glêr )Nifer o Eliffantod?
Taldra planhigyn?
Dyddiad blodeuo?
Nifer o ddail?
Mwyafswm nifer y blodau?
Lliw pensil?
Rhaid i ni gasglu dim ond…
Tymheredd? Nifer o ddail a farciwyd gan bryfetach?
Glawiad? Nifer o bryfed peillio?
(gwenyn neu glêr )Nifer o Eliffantod?
Taldra planhigyn?
Dyddiad blodeuo?
Nifer o ddail?
Mwyafswm nifer y blodau?
Lliw pensil?
Pa offer ac unedau y dylid eu defnyddio ar gyfer cofnodi?
Mesur Offer Unedau
Tymheredd?
Glawiad?
Taldra plahigyn?
Dyddiad blodeuo?
Mae Athro’r Ardd yn awgrymu:
Mesur Offer Unedau
Tymheredd? Thermomedr Selsiws (°C)
Glawiad? Mesurydd glaw
Milimedrau (mm)
Taldra plahigyn?
Pren mesur Milimedrau (mm)
Dyddiad blodeuo?
Calendr Yn ôl dyddiad (01/02/06)
Rheolau Cofnodi
• Mae sut rydyn ni’n casglu gwybodaeth yn bwysig iawn i wneud yn siwr bod eich prawf yn deg, dilynwch fy rheolau cofnodi…
• Rhwng Tachwedd ac Ebrill - cadwch gofnod o’r tywydd.
• Rhwng Ionawr ac Ebrill cadwch gofnodion blodeuo.
Offer angenrheidiol.
• 1 mesurydd glaw• 1 thermomedr• 1 pren mesur• 1 siart tywydd
Cadw cofnod o’r tywydd
•Rhwng Tachwedd ac Ebrill, cadwch gofnodion dyddiol o’r tymheredd (°C) a’r glawiad (mm). Edrychwch ar siart tywydd eich ysgol am fanylion.
•Cofiwch gadw’ch cofnodion tua’r un amser bob prynhawn – ar amser sy’n gyfleus i chi.
•Ar ddiwedd pob wythnos, ewch i’r wefan www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau i anfon eich cofnodion at Athro’r Ardd.
•Bydd angen i chi wybod enw defnyddiwr eich dosbarth a’ch cyfrinair.
Amser ymarfer
• Rhowch tipyn bach o ddwr yn eich mesurydd glaw. Gofynnwch i bawb yn y dosbarth nodi eu mesuriad yn eu tro.
• Ydych chi i gyd wedi nodi’r un ateb? Os na, pam?
• Gwnewch yn siwr bod pawb yn darllen yn iawn.
• Gwnewch ymarfer debyg gyda’r thermomedr.
Os gallwch chi, ymarferwch greu cofnodion y tywydd:
Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant
Astudiwch a chymharwch(www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau)
Ar ôl i chi anfon eich data bydd y wefan yn creu siart dywydd gan roi'ch ysgol ar fap bylbiau'r gwanwyn.
Astudiwch siart dywydd eich ysgol a'i chymharu â siartiau tywydd ysgolion eraill.
Cadwch gofnodion wythnosol i gael
cyfle i ennill taith gweithgaredd natur!
Yn cynnwys: Bws am ddim a diwrnod o weithgareddau natur dan arweiniad ar gyfer un dosbarth. Bydd enillydd o dde Cymru yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru neu bydd enillydd o ogledd Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu teithiau lleol i ysgolion yn Lloegr a’r Alban. Ewch i www.edinatrust.org.uk.
I gael cyfle i ennill:
Cofiwch anfon eich cofnodion tywydd wythnosol i’r wefan erbyn 27 Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 27 Ebrill a caiff y trip ei gynnal ar wythnos 18 Mai.
Bydd pob disgybl sy'n anfon ei gofnodion yn derbyn Tystysgrif Gwyddonydd Gwych ac ychydig o eginblanhigion.
Pwysig: Os na allwch chi anfon eich data cysylltwch ag Athro'r Ardd: [email protected]
Nawr, gobeithio eich bod chi’n deall:
• Pa wybodaeth ddylech chi ei chasglu.
• Pa offer ddylech chi ei defnyddio.
• Sut i gasglu’r wybodaeth.
Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg!
Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych go iawn!
Hwyl!