38
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Chapter Gorffennaf / Awst / Medi 2013

  • Upload
    chapter

  • View
    238

  • Download
    7

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Chapter Gorffennaf / Awst / Medi 2013

Citation preview

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Mae Chapter yn lleoliad uchelgeisiol, aml-gelfyddydol sy’n cyflwyno, yn cynhyrchu ac yn hyrwyddo celfyddyd rhyngwladol, perfformiadau byw a ffilm yn ein gofod cymdeithasol deinamig. Fel sefydliad, rydym yn dathlu gwahaniaeth — y cyfoes a’r cymunedol, celfyddyd a chynulleidfaoedd, gweithiau heriol a meddylfryd agored. Nid ydym yn ofni newid a datblygu, cymryd risgiau — a methu o bryd i’w gilydd. Yr ysbryd chwilfrydig hwn sydd wedi diffinio’r trawsffurfiad o hen ysgol anghyfannedd i ganolfan unigryw ar gyfer celfyddyd, syniadau ac arloesi. I gael gwybod mwy am ein hanes, yr hyn sy’n digwydd nawr a’r pethau gwych sydd gennym wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol, edrychwch ar ein gwefan newydd www.chapter.org.

Croeso02 chapter.org

James HarderGwirfoddolwr Roeddwn i wedi clywed pethau gwych am Chapter, felly pan symudais i Gaerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynais wirfoddoli. Roeddwn i’n ddi-waith ar y pryd ac roedd gwirfoddoli’n golygu fy mod i’n gallu gweld cynyrchiadau a ffilmiau gwych. Mae gen i swydd lawn amser bellach, ond dw i’n dal i weithio shifft neu ddwy bob mis. Fel gwirfoddolwr, dw i wedi gweld ambell em go iawn na fyddwn i wedi gweld fel arall. Dw i’n edrych ymlaen at weld 100 Acts of Minor Dissent Mark Thomas a sioe Henning Wehn, Authentic German Christmas Do. Fe dreuliais i nifer o flynyddoedd yn yr Almaen felly dw i wir yn mwynhau ei weledigaeth gomig ef, fel Almaenwr sy’n byw yn y DG.

ChapterHeol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

Oriel tudalennau 4–8

Bwyta, Yfed, Llogi tudalen 9

Theatr tudalennau 10–20

Dysgu tudalen 21

Chapter Mix + Chapter yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu tudalennau 22–25

Sinema tudalennau 26–38

Amserlen tudalennau 42–43

Cefnogwch ni tudalen 44

Gwybodaeth tudalen 45

Sut i archebu tudalen 46

03Uchafbwyntiauchapter.org

Delwedd y clawr: Chloe Loftus Dance, The Day We Realised the World was an Oyster. Delwedd â chaniatâd caredig Keith Morris

CYMRYD RHAN

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Cerdyn ChapterGallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C.Cerdyn Sengl: £20/£10Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref)Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Oriel04 029 2030 4400

Delwedd: Sean Edwards, Di-deitl, 2013, print Giclee archifol wedi’i fframio. Trwy garedigrwydd yr Artist, Oriel Tanya Leighton, Berlin a Limoncello, Llundain.

Oriel 05chapter.org

Sean Edwards Drawn in CursiveRhagolwg: Gwe 26 Gorffennaf, 6 — 8pm Arddangosfa: Sad 27 Gorffennaf — Sul 22 Medi

“Mae gen i ddiddordeb yn llif y pethau hynny sydd ar y cyrion; casgliadau o wrthrychau, delweddau a lluniau, ffotograffau a thoriadau. Y munudau achlysurol a’r gwrthrychau bychain mewn bywyd a gaiff eu hanwybyddu fel arfer.”

Mae gwaith Sean Edwards yn ymchwilio i botensial cerfluniol pethau bob dydd, ac yn aml yn defnyddio olion gweithgareddau blaenorol fel man cychwyn, er mwyn ffurfio archif o ryw 600 o wrthrychau, toriadau, darluniau a deunyddiau hapgael eraill. Mewn nifer o’r gweithiau mae yna deimlad bod y gwrthrychau hyn yn bethau ar y gweill, yn amhenodol ac yn newidiol; gwahoddir y gynulleidfa i ymuno yn y broses o’u creu. Dim ond yng nghyd-destun yr arddangosfa y mae yna syniad o gwblhau, a hynny’n tanseilio’r canfyddiad o’r oriel fel gofod ar gyfer gweithiau celfyddydol “gorffenedig”. Mae Edwards yn disgrifio’r agwedd hon ar ei waith fel ‘greddf artistig’. Caiff gwrthrychau eu casglu’n reddfol ond mae ganddynt bob un gysylltiadau cryfion â’i gilydd. Yn yr arddangosfa hon bydd yn gweithio’n agosach â’r casgliad, er mwyn creu deialog â’r gofod ehangach o’i gwmpas. Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Chapter ac yn cael ei dangos wedi hynny mewn dau leoliad arall ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn esblygu, yn symud ac yn newid — deialog â phensaernïaeth, hanes a lleoliad pob gofod: adeilad Chapter sy’n gyn-ysgol; Netwerk, Aalst, Gwlad Belg sy’n gyn-ffatri decstilau ac Oriel Mostyn sy’n oriel gelfyddyd wedi’i chreu at y perwyl hwnnw’n benodol.

Cafodd Sean Edwards ei eni yng Nghaerdydd ac mae’n byw yn y Fenni. Enillodd radd BA mewn Celfyddyd Gain o Athrofa Prifysgol Cymru (2003) ac MA mewn Celfyddyd Gain o’r Slade, Llundain (2005). Mae ei sioeau unigol diweddar yn cynnwys Kunstverein Freiburg, Freiburg, Oriel Tanya Leighton, Berlin (2012); Spike Island, Bryste (2011). Mae ei sioeau grŵp rhyngwladol diweddar yn cynnwys Casgliad Zabludowicz (2011); Galeria März, Lisbon ac Oriel Wallspace, Efrog Newydd (y ddwy yn 2010); Oriel Lisson, Llundain (2009); The Approach, Llundain, Frank Elbaz & Art: Concept, y ddwy ym Mharis; Centre, Berlin (2008); a Tanya Bonakdar, Efrog Newydd (2007).Caiff ei gynrychioli gan Limoncello, limoncellogallery.co.uk Llundain a Tanya Leighton, Berlin tanyaleighton.comOriel Mostyn, 17 Hydref 2014 — 4 Ionawr 2015. Netwerk, Aalst, Gwlad Belg:8 Rhagfyr 2013 — 9 Mawrth 2014.

Celfyddyd yn y BarGwe 12 Gorffennaf — Sul 29 Medi

BLWCH GOLAUGwe 12 Gorffennaf — Sul 29 Medi

Mae Drawn in Cursive yn rhan o Ddyfarniad Llysgennad Cymru Greadigol Sean Edwards, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Oriel06 029 2030 4400

Celfyddyd yn y Bar

Emma Bennett Thief of TimeMer 1 Mai — Sul 7 Gorffennaf Mae peintiadau swynol o brydferth Emma Bennett yn ystyried gofod, amser a breuder y cyflwr dynol. Mae Bennett yn meddiannu delweddau o draddodiad celfyddydol yr Iseldiroedd a’r Eidal ac yn cyfleu’n berffaith bowlenni o ffrwythau aeddfed, duswau o flodau’n blodeuo, anifeiliaid hela wedi marw a phlygiadau o ffabrig cyfoethog sy’n adlewyrchu traddodiad hir o beintio bywyd llonydd — naturiolaeth ymddangosiadol sy’n dibynnu ar ddyfeisiau cyfansoddiadol ac ar atal amser. Mae’r gwrthrychau’n dod i’r amlwg allan o wagle tywyll y cynfas ac yn awgrymu byrhoedledd; bywyd, marwolaeth a’r byd a ddaw.Yn ei gwaith diweddaraf, mae Bennett yn ystyried darfodedigrwydd y cof a delweddau a’r awydd i wneud eiliadau’n fwy parhaol; mae hi’n cyfeirio at weithiau ffotograffwyr bywyd llonydd hanesyddol a chyfoes — o Roger Fenton i Wolfgang Tillmans. Mae Bennett yn goleuo ochr dywyll y traddodiad, trwy ddefnydd o alegori a thrwy adlewyrchu ing colled — yr ing sy’n rhan mor annatod o bob ymdrech i adfer a chadw, i rewi amser ac i ddal gafael ar bethau sy’n darfod.Mae bywgraffiad llawn ar gael ar www.chapter.org

Emma BennettDw i wedi bod yn ymweld â Chapter ers pan oeddwn i’n ferch ifanc yn Aberhonddu felly roedd cael gwahoddiad i ddangos fy ngwaith yma yn rhan o ŵyl Diffusion, ac i weld sut mae’r ganolfan wedi datblygu, yn wych. Hon, mae’n debyg, oedd yr oriel gelfyddyd gyfoes gyntaf i mi ymweld â hi ac yn sicr dylanwadodd ar fy mhenderfyniad i fynd i ysgol gelf. Dw i’n cofio gweld Withnail and I yn Chapter pan gafodd y ffilm ei rhyddhau yn y sinema a dw i’n cofio fy mand cyntaf yn chwarae yma yn yr 80au hwyr. Dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Chapter i berfformio gyda fy mand presennol, Dear Thief, ar ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf.

Delwedd: Emma Bennett, Hollowed (unhallowed), 2009, olew ar gynfas, 140x110cm

Oriel 07chapter.org

CHAPTER MAN ARALL

Mae Pennaeth Celfyddydau Gweledol a Byw Chapter, Hannah Firth, wedi derbyn gwahoddiad i gomisiynu gwaith newydd gan artistiaid yng Nghymru yn rhan o’r newidiadau mawrion i Faes Awyr Caerdydd.Gall teithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ddisgwyl croeso cynhesach a gwell argraff gyntaf o Gymru, diolch i gynllun wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i wella profiad ymwelwyr o’r maes awyr.Bydd y gwaith yn dathlu diwylliant, treftadaeth, tirwedd, cynnyrch a busnesau bywiog Cymru. Mae’r prosiect yn un elfen o’r gweithgarwch ehangach a argymhellir gan Dasglu Maes Awyr Caerdydd, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, er mwyn edrych ar ffyrdd o wneud y maes awyr yn fwy cystadleuol a gwireddu ei botensial. Cytunwyd ar y gwaith cyn i Lywodraeth Cymru brynu’r Maes Awyr fis diwethaf. Bydd comisiynau Chapter yn rhedeg am dair blynedd a byddant yn cynnwys gwaith cyfoes gan artistiaid o Gymru — gan gynnwys peintiadadau, darluniau, testun a gwaith gosod.Bydd mwy o wybodath ar gael yn fuan ar www.chapter.org

Delw

edd:

Mat

t Ne

edle

Illu

stra

tion

s w

ww

.mat

tnee

dle.

co.u

k

Oriel08 029 2030 4400

Tooth & ClawrMaw 20 Awst 7pmGyda’r nod o hybu ymgysylltiad beirniadol trwy drafodaethau’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd, mae grŵp darllen Tooth & Clawr yn edrych ar ddeunydd o amrywiaeth eang o ffynonellau — gweithiau ffuglennol, damcaniaethol ac ymylol!Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Tooth & Clawr wedi denu cefnogaeth gref ac mae’r trafodaethau’n fywiog a diddorol bob amser. Maen nhw wedi’u cynllunio i wyntyllu cymaint o agweddau â phosib ar bob arddangosfa.Bydd y drafodaeth nesaf yn defnyddio arddangosfa Sean Edwards, Drawn in Cursive, fel man cychwyn, felly dewch draw i’r Oriel i weld yr arddangosfa cyn y drafodaeth. Gallwn groesawu uchafswm o 15 o bobl i bob trafodaeth felly mynnwch eich lle mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.

Come Along DoLlun 15 Gorffennaf Gan gymryd y ffilm Piercing Brightness fel man cychwyn bydd Gill Nicol yn arwain trafodaeth fanwl a bywiog o gelfyddyd a ffilm.Gweler tudalen 31 am fanylion pellach

Oh So Crafty Sad 21 Medi 11am — 6pmMae Oh So Crafty yn ffair chwarterol sy’n llawn pethau llachar a hardd — o emwaith a nwyddau i’r cartref i decstilau a gwaith cerameg. Esgus perffaith i chwilota ac archwilio’r crefftau lleol gorau!I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn yr Oriel ewch i www.facebook.com/chaptergallery neu dilynwch ni ar Twitter @ChapterGallery

Dear Thief + Cefnogaeth Sad 6 Gorffennaf 8pmMae Dear Thief wedi teithio’n bell ers eu halbwm gyntaf, Under Archway, yn 2011. Wrth berfformio casgliad o ganeuon newydd, mae’r band yn archwilio ochr drymach eu sain. O anhunedd blinedig Hotel i ostyngeiddrwydd ingol Ground Pull, maent yn cynnal y momentwm â riffs melodig, trwm a rhythmau uniongyrchol, gan ennyn cymariaethau â bandiau fel Shellac a The Jesus Lizard. Maent yn cydblethu grŵfs trwm ag eiliadau personol, ac yn consurio plethwaith hypnotig o batrymau traws-acennog — a dawn B’layachi i adrodd straeon yn gosod y tempo.Aelodau Dear Thief yw Yusuf B’layachi, Emma Bennett a Tim Greany.

“Organig ac yn llawn grŵf caled ...” Mike @ Norman Records£5 ymlaen llaw / £8 wrth y drws [email protected] [email protected]

DigwyDDiADAu CELfyDDyDoL

Bwyta Yfed Llogi 09chapter.org

BwyTA, yfED, LLogi

2il Burgerfest Blynyddol Chapter Iau 4 — Sul 7 GorffennafAr ôl blwyddyn gyntaf hynod lwyddiannus, mae’r Burgerfest yn dychwelyd! I’r rheiny ohonoch sydd wrth eu bodd â byrgyr da, bydd yna ddigonedd o ddewis, fel The Return of the Sloppy Geoff a’r Juicy Lucy. Cadwch eich llygaid ar ambell ddewis newydd, fel porc barbeciw, a chynnyrch lleol godidog wedi’i baratoi yn arddull y ‘diner’ Americanaidd clasurol. Gyda’r danteithion hyn, bydd yna sglodion tsili, sglodion tatws melys, cylchoedd winwns a byrbrydau caws tsili. Dewch draw ym mis Medi i roi cynnig ar ambell bryd arbennig wedi’u hysbrydoli gan bythefnos Bwyd a Diod yr Alban, Wythnos Genedlaethol y Cupcake ac Wythnos Cawsiau Prydeinig.

YfedYn dilyn llwyddiant diweddar ein gŵyl gwrw Almaenaidd, Maibock, byddwn yn cynnig amrywiaeth eang o gwrw unigryw dros fisoedd yr haf. Edrychwch ar ein bwrdd du i weld y newydd-ddyfodiaid a’ch ffefrynnau hopysaidd am brisiau gostyngol arbennig.Bydd y bragdy o Gaerffili, The Celt Experience, yn lansio detholiad newydd o gwrw Imperial yr haf hwn — yn Chapter, ble arall? Ar ôl ennill llu o wobrau yng ngwobrau Cymru a’r Gorllewin SIBA (5 medal aur, gan gynnwys y brif wobr am y Cwrw Gorau), bydd sylfaenydd y cwmni a’r prif fragwr, Tom Newman, gyda ni i rannu samplau o’i gwrw buddugol a straeon o’r bragdy. Dyddiad i’w gadarnhau — cadwch lygad ar ein gwefan.

Pop Up ProduceBob dydd Mercher 4-7pmMae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Mae Bara Mark yn cynnig llu o’ch hoff dorthau a bara arbenigol, Charcutier Ltd yn cynnig y cigoedd gorau wedi’u halltu a’u magu — o Brydain, Ewrop a Gogledd America. Mae The Parsnipship yn cynhyrchu ac yn gwerthu bwyd llysieuol a fegan unigryw a gwreiddiol wedi’i wneud â chynhwysion tymhorol lleol.

LlogiMae nifer o leoedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwefan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld beth sydd ar gael. Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, i ffilmio fideo, ymarfer neu i gynnal digwyddiad i’ch tîm, mae gennym gyfleusterau gwych, gwybodaeth dechnegol a staff cyfeillgar i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at [email protected]

Theatr10 029 2030 4400

Chw

ith:

DRO

P

Theatr 11chapter.org

Llun 16 — Sad 28 MediYn ystod mis Medi, bydd Chapter yn cynnal Dance Roads Open Process (DROP), sef preswylfa a chynhadledd ddawns Ewropeaidd a fydd yn dwyn ynghyd artistiaid, arweinwyr ac arbenigwyr dawns o bob rhan o’r UE er mwyn trafod arferion gwaith artistig ac edrych ar y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn amrywiol rwydweithiau byd dawns.

CYMRYD RHAN

Jo Fong: Y Gynilleidfa, Proses Agored

Cathy Boyce Cydlynydd y Rhaglen TheatrMae Coreo Cymru — Cynhyrchydd Creadigol Dawns Cymru — yn fenter gelfyddydol gyffrous arall â’i phencadlys yn Chapter. Gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, tasg y Cynhyrchydd Creadigol yw datblygu’r sector dawns yng Nghymru â rhaglen o brosiectau cyffrous ac arloesol dros gyfnod o dair blynedd. Mae Dance Roads yn un prosiect o’r fath — arddangosfa unigryw o artistiaid dawns gorau Ewrop, sy’n cynnig cyfle i goreograffwyr i rydweithio ac i berfformio ar lwyfan rhyngwladol. Ymunwch â ni yn Chapter am bythefnos o ddawnsio rhyngwladol.

Mae’r coreograffydd a’r cyfarwyddwr Jo Fong yn cynrychioli Cymru ym mhrosiect Dance Roads Open Process ac yn yr wythnosau ymlaen llaw, bydd hi’n gwahodd perfformwyr proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd fel ei gilydd i gydweithio er mwyn creu dawns newydd. Bydd yr ymchwil hwn yn edrych ar y modd yr awn ati i gyfathrebu a chreu deialog, nid yn unig rhwng perfformwyr ar lwyfan, ond hefyd rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr.Bydd yr artist gweledol Heloise Godfrey yn dogfennu’r gwaith.Mae Jo Fong yn gyfarwyddwr, coreograffydd a pherfformiwr sy’n gweithio â dawns, ffilm, theatr a’r celfyddydau gweledol. Perfformiodd gyda Rosas, Theatr Gorfforol DV8, Cwmni Dawns Rambert, Cwmni Mark Bruce, Theatr y Young Vic ac Igloo. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gyda Theatr Quarantine.Mae Jo yn Artist Cysylltiol gyda Sherman Cymru a Coreo Cymru.www.jofong.com

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Sherman Cymru, Coreo Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.

Sad 20 — Sul 21 + Sad 27 — Sul 28 Gorffennaf 10–6pmOs ydych yn ddawnsiwr proffesiynol neu’n berfformiwr theatr dewch i ymuno â Jo am ddwy sesiwn benwythnos. Bydd y gwaith yn datblygu fel prosiect â chyflog i ddau berfformiwr a dangosiadau cam wrth gam o Y Gynulleidfa yn 2014. Hoffech chi gymryd rhan? E-bostiwch eich CV a’r dyddiadau pan fyddwch chi’n rhydd at [email protected]

RHAD AC AM DDIM

Sul 21, Sul 28 Gorffennaf + Mer 7, Gwe 9 Awst 5–6pmBeth petai gan Y Gynulleidfa lais? Mae angen cynulleidfa i ystyried... Beth welwch chi? Beth hoffech chi ei weld? Sut allwn ni weld y gwaith mewn ffyrdd gwahanol? Beth gaiff ei golli — neu’i ganfod — wrth gyfieithu? Mae Jo yn gwahodd adborth a syniadau gan aelodau o’r cyhoedd er mwyn creu cyfieithiad dilys a diffinio cyfeiriad y gwaith newydd, Y Gynulleidfa. RHAC AC AM DDIM — Archebwch docyn yn y swyddfa docynnau os gwelwch yn dda

Mae’r digwyddiad hwn yn un agwedd ar brosiect ehangach sy’n cael ei arwain gan Chapter a Coreo Cymru. DROP yw’r prosiect dawns Cymreig cyntaf i dderbyn nawdd gan Raglen Ddiwylliant yr UE a’i nod yw datblygu ac ehangu’r ddarpariaeth i sefydliadau dawns bychain yn Ewrop.Bydd artistiaid dawns o Gymru, Ffrainc, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd a Chanada yn dod i Chapter am gyfnod preswyl pythefnos o hyd dan arweiniad y coreograffydd nodedig, Faizal Zeghoudi. Bydd yr

artistiaid a gaiff eu dethol ar gyfer rhwydwaith Dance Roads yn cydweithio i ddatblygu darnau byr ar y gweill ac yn eu cyflwyno i fynychwyr y gynhadledd a gwesteion dethol eraill. Caiff y darnau hyn eu datblygu ymhellach a’u cyflwyno yn Chapter ym mis Mehefin 2014 yn rhan o daith Dance Roads. Derbyniodd y prosiect hwn nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r testun hwn yn cyfleu barn yr awdur yn unig, ac ni fydd y Comisiwn yn gyfrifol am unrhyw ddefnydd a wneir o’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

CoREo CyMRu: DANCE RoADs oPEN PRoCEss

Theatr12 029 2030 4400

Seymour Black a’i ffrindiau: Seeing is believingIau 4 Gorffennaf 7.30pmMae’r gweledydd, yr athronydd, y raconteur a’r bardd, Mr Seymour Black, yn ein diddanu â hanesion am ei ymdrechion arwrol yn erbyn adfyd. Cefnogaeth gan Paul James, Penfold & I’w gadarnhau. £5 wrth y drws

Young Guns II: A Blaze of GlorySad 6 Gorffennaf 7.30pmY gig blynyddol sy’n cyflwyno’r talentau comig lleol mwyaf addawol addawol, gan gynnwys, Sam Lloyd, Luke Smith, Simon Dunn, Charlie Smith, Lewis Bowman, Leroy Brito & Jordan Brooke. £4 wrth y drws

ROMESH RANGANATHAN & VIKKI STONEMer 10 Gorffennaf 8pm

Romesh RanganathanErs ffrwydro ar y sîn gomedi yn 2010, mae Romesh wedi swyno cynulleidfaoedd â’i ffraethineb sych sy’n cymysgu sylwebaeth gymdeithasol a gwleidyddol a hanesion personol. Ar ôl ymddangos yn rownd derfynol Cystadleuaeth Latitude New Acts, a So You Think You’re Funny yn 2010, mae e wedi bod yn cefnogi Seann Walsh ar daith dros y 7 mis diwethaf ac fe ymddangosodd yn ddiweddar ar sioe boblogaidd Comedy Central, The Comedy Store.

Vikki StoneComedi gerddorol a ‘stand up’ gwobrwyol “doniol a gwych” (Heat) gan Vikki Stone (Flashprank ar MTV, Britain in Bed a Most Annoying People ar BBC3). Mae hi’n cyflwyno’i sioe gyntaf ers ei sioe hynod lwyddiannus yn 2011 (5 Uchaf Perfformwyr 2011, Rhestrau 10 Uchaf The Observer & The Independent). £12

Mae Chapter yn falch iawn o fod yn lleoliad partner i Ŵyl Gomedi Caerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae’r ŵyl a gynhelir ar hyd a lled y ddinas yn cyfuno digrifwyr, dramâu comedi, gweithdai comedi ieuenctid, cystadlaethau, digwyddiadau rhad ac am ddim, adrodd straeon a llawer iawn mwy, ac yn cyflwyno talentau o Gymru a phedwar ban byd i’r brifddinas. Dyma’r hyn sydd gennym ar eich cyfer.

Chw

ith,

o’r

top

i’r g

wae

lod:

Rom

esh

Rang

anat

hen,

Vik

ki S

tone

, Eric

Lam

paer

t, P

aul F

Tay

lor

GWyl Gomedi Caerdydd

Theatr 13chapter.org

Eric LampaErt & pauL F tayLorIau 11 Gorffennaf 8pm

Eric LampaertUn o sêr mwyaf addawol T4 yn 2012, mae Eric Lampaert wedi ennill gwobrau am ei gomedi ac yn prysur wneud enw iddo’i hun fel un o’r digrifwyr mwyaf cyffrous ar y gylchdaith. Mae e newydd orffen cefnogi Mark Watson ar daith. Mae ei waith teledu yn cynnwys Life’s Too Short gan Ricky Gervais ar BBC2 a Viva, MTV.

“Cadwch lygad arno. Hynod, hynod ddoniol.” Time Out

paul F taylorPerfformiwr y byddwch chi’n cynhesu ato’n syth bin - mae ei grefft yn ddigon slic i wneud digrifwyr llawer mwy profiadol yn genfigennus. Mae Paul F Taylor yn ddigrifwr unigryw. Mae’n adnabyddus am ei hiwmor dyfeisgar arsylwadol ac annisgwyl a’i gyflwyno chwareus. £12

JarrEd christmas & stEphEn carLinGwe 12 Gorffennaf 8pm

Jarred christmasR’ych chi wedi’i weld e ar Mock the Week, 8 Out Of 10 Cats, Argumental, Dave’s One Night Stand, ac yn dawnsio fel Madonna ar Let’s Dance ar gyfer Comic Relief. Ef yw’r dyn â’r sideburns a’r sbectol... Ie, dyna chi — Jarred Christmas. Mae ganddo jôcs a straeon, egni a phersonoliaeth — a chwip o sioe. Let’s Go MoFo!

stephen carlinMae Carlin wedi ennill clod beirniadol, gwobrau a nifer cynyddol o ffans â’i arddull wreiddiol a’i ysgrifennu craff a medrus. Cafodd ei enwi gan Stewart Lee yn un o’r ‘Deg Digrifwr Gorau yn y Byd Erioed’. Yn 2011, roedd Stephen yn gyfrifol am gyd-greu a chyd-ysgrifennu sioe newydd BBC Radio 4, ‘The Headset Set’, wedi’i gosod yng Nghanolfan Alw Smile5. Fe’i darlledwyd dros gyfnod o 6 wythnos rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf. £12

“...Un o ‘stand-ups’ mwyaf dyfeisgar y Fringe ...” Chortle

nick hELm & thE scottish FaLsEtto sock thEatrESad 13 Gorffennaf 8pm

nick helmEnwebiad am wobr Sioe Orau Gwobrau Comedi Caeredin Foster’s 2011 a enwebiadau hefyd fel seren addawol gan T4 (2012) a Dave (2011). Disgrifir Nick Helm fel

“...digrifwr gwirioneddol unigryw …Mae ei sioe’n llawn egni dilyffethair ac r’ych chi’n teimlo y gallech chi fod yng nghwmni ‘megastar’ posib.” — James Kettle, The Guardian Guide

the scottish Falsetto sock theatre companyMae “Abbott a Costello byd hosanau” (Time Out), a sêr llwyfan, sgrin a YouTube, yn cyflwyno’u sioe newydd sy’n cynnwys caneuon, sgetsys, sanau a thrais gwyddonias. £12

Gwobr digrifwyr heb Gytundeb cymruRhagbrofion: Llun 1 Gorffennaf, Maw 2 Gorff 7.30pmRownd gynderfynol: Llun 8 Gorffennaf, Maw 9 Gorffennaf 7.30pmMae’r Gwobrau i Ddigrifwyr Heb Gytundeb (WUSA), wedi’u noddi gan Glwb Glee, yn dychwelyd i Chapter am yr eildro. Mae’r Gwobrau’n ceisio dod o hyd i seren gomedi nesaf Cymru ac yn cynnig gwobr sylweddol a fydd yn rhoi’r cystadleuydd buddugol ar ben ffordd yn y diwydiant. Bydd y rhagbrofion a’r rowndiau cynderfynol yn Chapter yn dod o hyd i’r 6 digrifwr gorau a fydd yn brwydro wedyn am £1000, penwythnos o gigs cyflogedig yn y Glee Club, cyfle i berfformio yn niweddglo mawreddog Gŵyl Gomedi Caerdydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, teitl mawreddog Pencampwr WUSA 2013 — a’r fez porffor.£5 wrth y drws www.cardiffcomedy.co.uk

Swnio fel y math o beth y byddech chi’n ei hoffi? Mae’n siŵr y byddwch yn mwynhau ffilmiau Go Faster Stripe, sy’n cael eu dangos yn ein sinema hefyd (t.28-29)

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Jar

red

Chris

tmas

, The

Sco

ttis

h Fa

lset

to S

ock

Thea

tre

Com

pany

Theatr14 029 2030 4400

Mark Thomas 100 Acts of Minor DissentRhagolwg o Sioe CaeredinMer 3 Gorffennaf 8pm Mae Mark Thomas yn hyddysg yn y grefft o greu anhrefn creadigol a, dros y blynyddoedd, mae e wedi llwyddo i newid cyfreithiau, costio miliynau o bunnoedd i gwmnïau a gwylltio’r rheiny a oedd yn haeddu hynny. Nawr, mae e’n dychwelyd at yr hyn a wna orau — creu drygioni; ymddwyn yn fwriadol wael, at bwrpas penodol. Ar ôl ei sioe wobrwyol, Bravo Figaro, mae Mark yn ceisio cyflawni 100 gweithred o fân droseddu mewn blwyddyn. Mae Mark yn cofnodi popeth o’r ystumiau lleiaf at y gwrthdaro mwyaf mawreddog ac mae’r canlyniadau yn ddoniol, yn gyfreithiol, gan mwyaf, ac weithiau’n hollol ysbrydoledig. £10/£8 www.markthomasinfo.co.uk

Dear Thief + Cefnogaeth Sad 6 Gorffennaf 8pmMae Dear Thief wedi teithio’n bell ers eu halbwm gyntaf, Under Archway, yn 2011. Wrth berfformio casgliad o ganeuon newydd, mae’r band yn archwilio ochr drymach eu sain. O anhunedd blinedig Hotel i ostyngeiddrwydd ingol Ground Pull, maent yn cynnal y momentwm â riffs melodig, trwm a rhythmau uniongyrchol, gan ennyn cymariaethau â bandiau fel Shellac a The Jesus Lizard. Maent yn cydblethu grŵfs trwm ag eiliadau personol, ac yn consurio plethwaith hypnotig o batrymau traws-acennog — a dawn B’layachi i adrodd straeon yn gosod y tempo.Aelodau Dear Thief yw Yusuf B’layachi, Emma Bennett a Tim Greany.£5 ymlaen llaw / £8 wrth y drws [email protected] [email protected]

“Organig ac yn llawn grŵf caled...” Mike @ Norman Records

Henning Wehn: Authentic German Christmas Do Iau 4 Gorffennaf 7.30pmMae’r Nadolig yn cyrraedd yn gynnar eleni! Dathlwch amser hapusaf y flwyddyn gyda Llysgennad Comedi yr Almaen. Yn ogystal â pherfformiadau ‘stand-up’ wedi’u cynllunio’n ofalus a’u gweithredu’n berffaith, bydd yna ddatganiadau o’r rhan fwyaf o hoff garolau Nadolig y Vaterland, megis ‘O Tannenbaum’, ‘Stille Nacht — heilige Nacht’, a ‘Klingglöckchen klingelingelingelingelingelingelingeling’. Mae ganddo ffyrdd o wneud i chi chwerthin. A chanu. Fröhliche Weihnachten yn wir!£10/£8 www.henningwehn.de

CHLOE LOFTUS DANCE

The Day We Realised the World was an OysterIau 11 — Gwe 12 Gorffennaf 9.30pmMae Chloe Loftus Dance wedi cydweithio ag Ysgol Bensaernïaeth nodedig Cymru i greu perfformiad awyr agored byr yn seiliedig ar belen drawiadol sy’n tywynnu o ganol tywyllwch y nos. Yn y darn newydd arloesol hwn, mae perfformwyr yn dawnsio, yn dringo ac yn archwilio’r lleoliad hudolus hwn wrth i’w byd ddod yn fyw. Dewch i’r sffêr unigryw yma i weld cyfuniad hudolus o bensaernïaeth, goleuo a chwarae corfforol.Cyflwyniad y tu allan i fynedfa flaen Chapter.Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Sherman Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Diolch arbennig i Vincent Pfleger.

RHAD AC AM DDIM

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Mar

k Th

omas

, Hen

ning

Weh

n

Theatr 15chapter.org

Ryan MacGrathMaw 16 Gorffennaf 8pmThe Pink Lark yw trydedd record Ryan MacGrath ac mae’n llwyfan i’w lais angerddol, pwerus, geiriau personol sy’n adlewyrchu ei brofiad diweddar o chwalu’n ddarnau mân a mynd ar drywydd cariad o lannau hallt Nova Scotia, Canada i ddyffrynnoedd Innsbruck, Awstria. Wedi’i enwebu sawl gwaith am wobrau cerddorol (Gwobrau Cerddriaeth Arfordir Dwyrain Canada) ac enillydd gwobr yr Albwm Amgen Orau (Gwobrau Cerddoriaeth Nova Scotia, Canada), mae Ryan MacGrath wedi ysgrifennu a pherfformio caneuon ar gyfer ffilmiau nodwedd, rhaglenni teledu a gweithiau dogfen, ac wedi teithio ledled Canada, Ewrop a’r DG. £7 ymlaen llaw / £10 wrth y drws www.ryanmacgrath.com

DAFYDD JAMES & COMPANY YN CYFLWYNO

My Name is SueGan Dafydd James a Ben LewisSad 20 Gorffennaf 8pmMae’r sioe gerdd gwlt boblogaidd yn dychwelyd am un noson yn unig cyn teithio i’r gogledd i Ŵyl Caeredin! Mae’r proffwyd a’r pianydd gwyllt o Gymru yn edrych ymlaen at eich tywys chi — ar gân — drwy ei bywyd, o ddiwedd ei gyrfa yn yr ysgol hyd Ddydd y Farn. Â sgiliau piano rhyfeddol, falsetto anhygoel a’i band ffyddlon, mae Sue yn adrodd hanesion am deithiau ar fysus rhad, Armageddon yng Nghaerdydd a gwaith Julia Roberts. Enillodd My Name is Sue Wobr Total Theatre am gerddoriaeth a theatr yng Ngŵyl Caeredin 2009.Perfformiad yng Ngŵyl ‘Fringe’ Caeredin 12 — 26 Awst, Bristo Square, Topside, 2pm

£14/£12

GAGGLEBABBLE & THEATR IOLO YN CYFLWYNO

The Bloody BalladGan Lucy Rivers, Cyfarwyddo gan Adele Thomas Mer 17 — Gwe 19 Gorffennaf 8pmTaith lofruddgar ac afreolus a fydd yn siŵr o wneud i chi dapio’ch traed, a gwingo mewn ofn, yng nghwmni Mary and The Missing Fingers.Dewch i gwrdd â Mary, merch â gorffennol tywyll sydd wedi cael wythnos uffernol! Mae hi’n mynd i adrodd hanes y cwbwl lot, sut y syrthiodd hi mewn cariad a chael ei bradychu, sut y lladdodd hi ddau ddyn, a dod yn wystl, sut y cymerodd hi ran mewn ymyrch losgi a syrthio mewn cariad unwaith eto! Cyfuniad o’r Brodyr Grimm a Tarantino, mae’r stori gariad greulon hon yn seiliedig ar ddathliadau Diwrnod y Cofio yn America y 1950au. Yn cynnwys cerddoriaeth fyw wreiddiol wedi’i hysbrydoli gan y Blŵs, Rockabilly ac Americana. Cyfuniad o gig, ffilm

‘slasher’, ‘road movie’, baled am lofruddiaeth — llond lle o hwyl rhempus! Mae hwn yn ddarn o theatr gerddorol na fyddwch chi erioed wedi gweld ei debyg. Mae’r cast yn cynnwys Lucy Rivers, Adele Thomas, Tom Cottle, Hannah McPake, Dan Messore ac Oliver Wood.Addas i gynulleidfaoedd 14+ oed Cefnogir gan Theatr Iolo a Chyngor Celfyddydau Cymru Perfformiadau yng Ngŵyl ‘Fringe’ Caeredin, 31 Gorffennaf — 25 Awst 2013 Roxy Assembly 7.45pm

£12/£10/£8 www.gagglebabble.co.uk @gagglebabble1

“Sbort ofnadwy!” The Times

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Rya

n M

acGr

ath,

The

Blo

ody

Balla

d

Theatr16 029 2030 4400

CWMNI SHOCK N AWE YN CYFLWYNO

FallenMer 31 Gorffennaf — Sad 3 Awst 8pmMatinée Gwe 2 Awst 2.30pmUn nos Wener, mae dyn golygus ac egsotig yn disgyn o’r awyr i afon ger fferm Gymreig sydd, i bob golwg, wedi’i melltithio. Felly y mae’r ddrama newydd dywyll a doniol hon gan awdur y cynhyrchiad gwobrwyol “Muscle” yn cychwyn. Pan ddaw’r ffermwr a’i dri o blant mewn oed o hyd i’r corff, mae’r we o euogrwydd a hanes sydd wedi’u rhwymo nhw at ei gilydd yn dechrau datod. Wrth iddyn nhw syrthio mewn cariad bob un â’r dieithryn angylaidd, maent yn ceisio dyfalu o ble y gallai fod wedi syrthio a pham fod y dyn sinistr mewn côt Barbour gwyrdd mor benderfynol o ddod o hyd iddo?Ysgrifennu a Chyfarwyddo gan Greg CullenCerddoriaeth gan Jak Poore£12/£10/£8

DARKMAN PRODUCTIONS

Robert Golding Richard ParkerRobert Golding Mer 24 Iau 25 Gorffennaf 8pm Cyflwyniad Dwbl, Gwe 26 + Sad 27 Gorffennaf: Richard Parker 7pm, Robert Golding 9pmMae’r gomedi dywyll, ‘Richard Parker’, wedi’i hysbrydoli gan gyd-ddigwyddiadau, ac enillydd gwobr y Sioe Ryngwladol Orau yng Ngŵyl ‘Fringe’ Hollywood 2012, yn dychwelyd, ar y cyd â’r dilyniant newydd iddi. Mae’r gomedi dywyll, ‘Robert Golding’, yn adrodd hanes cynllwynion a chysgodion, lle mae ymddangosiad pethau’n gwbl dwyllodrus. Mae cwpl priod yn dathlu ar y noson cyn agoriad eu bwyty newydd — ac yn croesawu gwestai i’w bwrdd a fydd yn troi eu bywydau wyneb i waered. Cyfle unigryw i weld y cyflwyniad dwbl hwn a fydd i’w weld yng Ngŵyl ‘Fringe’ Caeredin yr haf hwn hefyd. Peidiwch â’i golli! Awdur: Owen ThomasSêr: Alastair Sill, Gareth John Bale, Sara Lloyd-GregoryAriennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mae pob sioe yn para awr £8 am un sioe, £12 am y ddwy.

Chw

ith:

Fal

len,

del

wed

d ga

n Br

an S

ymon

dson

Theatr 17chapter.org

MAN ARALL

Broken Souls Shadow BoxingMaw 23 — Sad 27 Gorffennaf 7.30pm yn ChapterMae Flynn yn focsiwr. Mae’n byw yng nghysgod methiant ei dad. Ar ôl gweld ei dad yn colli’n rhacs yn y sgwâr bocsio, mae Flynn yn addunedu y bydd yn hyfforddi ac yn brwydro i fod ganwaith gwell na’r hen ddyn. Er mwyn iddo fod cystal ag y gall fod, rhaid i Flynn dderbyn a goresgyn ei orffennol, ei ragfarnau ac, yn bennaf oll, ddod i delerau â’i wir hunaniaeth. Wedi’i hysgrifennu gan yr actor James Gaddas (Emmerdale a Waterloo Road), mae Shadowboxing yn berffomiad 50 munud o hyd sy’n llawn egni a grym. Bydd yr actor Alex Harries (Pobol Y Cwm) yn cael ei wthio i’r eithaf wrth iddo baratoi ei gorff a’i feddwl at frwydr fythgofiadwy yn y sioe un dyn hon sy’n ymwneud â dygnwch mewn byd yn llawn dynion caled. Drama drawiadol — manteisiwch ar y cyfle hwn i’w gweld.Cyfarwyddo a Chynhyrchu gan James AshtonHyd: 1 awr + amser teithio Oed 16+ Cynhyrchiad yn cynnwys iaith gref

Mae’r perfformiad safle-benodol hwn yn cael ei gynnal yng Nghampfa Baffio Phoenix yn Llanrhymni. Bydd bysiau’n gadael Chapter am 7.30pm yn brydlon. Mae lleoedd yn brin felly archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi. Gan fod hwn yn gynhyrchiad safle-benodol mewn campfa go iawn, dylech ddweud wrth aelod o staff pan fyddwch yn archebu tocynnau os oes angen cymorth arbennig arnoch gan na fydd yna seddi theatr ar gael.

£12/£10/£8

www.brokensouls.co.uk @BrokenSoulStage

Theatr18 029 2030 4400

Theatr Iolo: Here Be MonstersMaw 6 — Sad 10 Awst 2pm (+ Iau 8 + Gwe 9, 7pm)Mae gwyliau’r haf newydd ddechrau ac mae rhywbeth rhyfedd ar droed yn y dref. Mae’r cŵn fel petaent yn cyfarth ar bethau anweledig, mae arogl sur a llaith ar yr awyr, ac mae sŵn taranau i’w glywed er bod yr wybren yn olau a chlir. Allwch chi weld beth sy’n cuddio reit o flaen eich llygaid?Mae Ed a Elfi yn frawd a chwaer newydd. Nid yw’r trefniant newydd yn plesio’r un ohonynt. Ond â’r dref dan fygythiad, rhaid iddynt roi eu ffraeo o’r neilltu a darganfod gwir ystyr byw fel teulu.Mae’r cwmni gwobrwyol, Theatr Iolo (Gwobr Beirniaid Theatr Cymru 2013: Enillydd Y Ddrama Orau i Blant a Phobl Ifanc) yn falch iawn o gyflwyno stori hudolus, ffantasïol, lawn antur gan yr awdur Mark Williams (a oedd yn gyfrifol am addasu Horrible Histories: The Frightful First World War a Horrible Science).Gweithdai a gweithgareddau i’r teulu ar gael. Gofynnwch am fanylion pellach gan y swyddfa docynnau.Addas i blant 8+ oed £10/£8 Tocyn Teulu: £25 (2 oedolyn + 2 blentyn)

Theatr 19chapter.org

After Hours at the Polestar ClubIau 15 Awst 8pmYn sownd mewn clwb cabaret di-nod, does gan y rheolwraig, y cerddor a’r local ‘styfnig unman arall i fynd — yr union amgylchiadau i esgor ar stori dda...Hanes rhyfedd merch ifanc yn y gofod. Sgwrs trwy gyfrwng y Cerrynt Awroraidd.Ffordd o fynd o gwmpas y magnetosffer.Mae’r clwb ar gau... ond mae croeso cynnes i chi yno yr un modd.Bydd Clwb Polestar yn croesawu’r storïwr cosmig, Christine Watkins, artist sy’n mapio’r bydysawd, Maria Hayes, a’r feiolinydd/gantores hynod, Sianed Jones.Mae After Hours at the Polestar Club yn gyflwyniad cydweithredol gan Honeysuckle Direction a’r Ganolfan Ymchwil i Berfformio. Hoffem gydnabod cefnogaeth hael Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

£12/£10/£8

Stalking John Barrowman Maw 27 — Gwe 30 Awst 7.30pmDau enaid coll, un genhadaeth: dod o hyd i ddyn eu breuddwydion! Mae Jamie a Julie yn hoff iawn iawn o Barrowman ac yn hoffi sbïo hefyd — ond a fydd hynny’n eu harwain i ddyfroedd dyfnion? Ymunwch â’r ditectifs ar daith rempus drwy Gaerdydd yn y sioe gerdd newydd a doniol hon gan Naomi Chiffi, Jude Garner a Patrick Steed. Oed 16+ Mae’r sioe yn cynnwys hiwmor ac iaith anaddas i blant ifainc £12/£10

Barry Cryer a Ronnie GoldenMer 4 Medi 7.30pmMae Go Faster Stripe yn falch o gyflwyno DVD arall.Mae’r deuawd deinamig — y cawr comig, Barry Cryer (I’m Sorry I Haven’t A Clue) a’r cyn-Fabulous Poodle, Ronnie Golden — yn addo sioe afreolus o gomedi a chân. Anghofiwch eu hoedran cyfun — 142! — mae’r ddau ddyn mor ddoniol ag erioed a does ‘na ddim golwg o rwyd diogelwch neu ffrâm Zimmer!Cyfuniad gogoneddus o jôcs a straeon chwedlonol Barry ar y cyd â strymio medrus Ronnie a’i ffraethineb drygionus ef — digwyddiad hollol unigryw.Gallwch ddisgwyl caneuon sy’n delio â phynciau llosg y dydd: ewthanasia gwirfoddol, problemau â’r ffôn symudol, Stannah Stairlifts a John Prescott!Bydd sesiwn holi-ac-ateb yn dilyn y sioe “best of” hon.£10

“Mae gan Cryer allu di-ffael i gyflwyno’i ddeunydd a gwneud iddo swnio’n ffres, dro ar ôl tro ar ôl tro.” The Guardian

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Aft

er H

ours

at

the

Pole

star

Clu

b, B

arry

Cry

er a

Ron

nie

Gold

en

Theatr20 029 2030 4400

Sinfonia Cymru Unbuttoned Gwe 6 Medi 9pmProsiect cyfoes newydd gan Sinfonia Cymru. Mae Unbuttoned yn addo noson unigryw o berfformiadau clyweledol rhyngweithiol. Yn gyfuniad o sgôr fyw wedi’i pherfformio gan Sinfonia Cymru a delweddau sy’n ymateb i’r gerddoriaeth a seinweddau electronig byrfyfyr, bydd y theatr yn cael ei drawsnewid yn barc chwarae i’r synhwyrau. Ar y cyd â Tom Raybould, Arc Vertiac, Roughcollie a Chameleonic. Cefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn.

£10/£8

CWMNI THEATR WELSH FARGO

Dandelion gan Patrick JonesMer 11 — Sad 14 Medi 8pmYn dilyn menter ddeng-mlynedd nodedig y Cyfarwyddwr Artistig, Michael Kelligan, o gyflwyno perfformiadau sgript-mewn-llaw o weithiau gan awduron newydd a sefydledig o Gymru, mae’r cwmni’n falch iawn o gyhoeddi ei daith fawr gyntaf ledled Cymru ar y cyd â Chapter.Mae llawer o waith y bardd, y dramodydd a’r awdur o’r Coed Duon, Patrick Jones, yn delynegol a heriol. Mae ei ddrama newydd yn fwy tyner. Mae’r ddrama yn deyrnged sensitif a doniol i’r ysbryd dynol ac yn canolbwyntio ar fywydau pedwar o bobl, tair merch ac un dyn sy’n byw mewn hosbis.

£12/£10/£8

Wonders of the Universe gan Karol Cysewski & Army of Me gan Joanna YoungSul 22 Medi 6pmCyflwyniad o ddau ddarn o waith dawns newydd gan y coreograffwyr Karol Cysewski a Joanna Young, i’w ddilyn gyda thrafodaeth gyda’r artistiaid.Mae Wonders of the Universe yn ddehongliad doniol a chyffrous o raglen ddogfen Brian Cox o’r un enw. Yn aml-haenog ac yn llawn hiwmor, bydd y cyflwyniad hwn yn gwneud i chi feddwl am y pethau bychain, pethau o faint dynol a phethau o faint y bydysawd.Mae Army of Me yn bortread o sawl hunan, wedi’i gyflwyno ar ffurf adleisiau gwyrgam mewn byd o ddarnau bychain. Mae’r gwaith yn mapio’r gwir a’r rhithiol, gydag ysbrydoliaeth gan yr artist gweledol Brychan Tudor a chyfres o baentiadau gan Amy Cutler. Perfformiad hypnotig gan y dawnsiwr Kirsty Arnold a sgôr wreiddiol gan y cyfansoddwr Filipe Sousa. £8/£6 www.joannayoung.co.uk

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Sinf

onia

Cym

ru U

nbut

tone

d, A

rmy

of m

e (im

age:

Iain

Pay

ne),

Won

ders

of t

he U

nive

rse

(imag

e: R

oy C

ampb

ell-

Moo

re)

Dysgu 21chapter.org

Diwrnodau Astudio Ffilm yr HafGwyliau’r Haf: Yn wythnosol 9am-3.30pm 9-12 oedGweithdy undydd bob wythnos o wyliau’r haf. Dangosiad o ffilm wedi’i ddilyn gan weithgareddau ymarferol i archwilio themâu’r ffilm a’i gyd-destun.£15 (heb gynnwys cinio — dewch a bocs bwyd)

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly bydd cadw lle yn hanfodol. Am ragor o fanylion ac i gadw eich lle, ewch i www.chapter.org neu ffoniwch 029 2030 4400.

Animeiddio i Ddechreuwyr O fis Medi 16+ oedDysgwch elfennau sylfaenol animeiddio a meddalwedd animeiddio yn y cwrs 6 wythnos hwn, a gynhelir ar y cyd â thenantiaid Chapter, Winding Snake. Bydd cyfle i gyfranogwyr weithio hefyd tuag at gymhwyster Lefel 1 Agored Cymru.Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch â [email protected]

Animeiddio ar gyfer Pobl Ifanc ar Sbectrwm AwtistiaethO fis Medi 9-12 a 12-16 oedRhaglen dair blynedd o gyrsiau animeiddio a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer pobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth rhwng 9-12 a 12-16 oed (gellir ystyried eithriadau i’r amrediad oedran hefyd). Arweinir y cyrsiau gan y gwneuthurwr ffilm profiadol Ben Ewart-Dean gyda chymorth Mark Faiers o Chapter — mae ganddo fe brofiad helaeth o weithio gyda phobl ifainc awtistig. Os ydych chi’n credu y gallai eich plentyn chi elwa ar un o’r cyrsiau hyn, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Ysgolion a’r GymunedAr Orffennaf y 4ydd a’r 5ed, bydd Chapter yn croesawu 240 o fyfyrwyr 6ed dosbarth o Ysgolion St Cyres a St Teilo’s i ddathliad diwylliannol deuddydd o hyd i gyflwyno elfen ieithyddol Bagloriaeth Cymru. Bydd yr ieithoedd a astudir yn cynnwys Eidaleg, Sbaeneg a Mandarin a bydd y gweithgareddau’n cynnwys dangosiadau ffilm, trafodaethau, gweithdai celf, salsa, tai chi, gwersi geirfa a chyfle i flasu 3 chwrs o fwyd Eidaleg, Sbaeneg a Tsieineaidd. Yn ystod yr haf, bydd Matt hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Troseddwyr Ifainc Caerdydd i ddarparu cyfres o weithdai animeiddio i bobl ifainc sydd mewn peryg o droseddu, gan gynnig cyfle iddyn nhw ddatblygu eu creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd. Dewch nôl i’n gwefan tua diwedd mis Awst i weld y ffilmiau a grëwyd ganddynt.

Dysgu

Yma yn Chapter, r’yn ni wrth ein bodd yn dysgu ac r’yn ni’n gwybod eich bod chi hefyd. Yn ogystal â threfnu llu o weithdai a grwpiau astudio yn Chapter, mae ein Swyddog Dysgu a Chyfranogi, Matt Beere, yn treulio llawer o’i amser yn mynd o gwmpas y lle, yn gweithio gydag ysgolion, elusennau, grwpiau cymunedol ac eraill i’w helpu nhw i ddysgu trwy gyfrwng ffilm. Dyma grynodeb o’r hyn y bydd e’n ei wneud dros yr ychydig fisoedd nesaf. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at [email protected] neu ewch i www.chapter.org/cy/dysgu-chyfranogi.

Chapter Mix22 029 2030 4400

Dadl Siop Goffi y Sefydliad Materion Cymreig Maw 2 Gorffennaf 6.30 — 7.30pmPam mae lluniau’n bwysig? Gyda Peter Lord.RHAD AC AM DDIM. Er mwyn sicrhau lle, cofrestrwch gyda Emma Brennan os gwelwch yn dda — [email protected]

Music Geek MonthlyIau 27 Mehefin 8pm + Sad 20 Gorffennaf 3.30pmIau 25 Gorffennaf 8pm + Sad 10 Awst 3.30pmIau 29 Awst 8pm + Sad 14 Medi 3.30pmIau 26 Medi + Sad 12 Hydref 3.30pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddyddiau Sadwrn.RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Clwb Comedi The DronesGwe 5 + Gwe 19 Gorffennaf, Gwe 2 + 16 Awst, Gwe 6 + Gwe 20 MediClint Edwards yn cyflwyno’r digrifwyr ‘stand-up’ newydd gorau.£3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua CaerdyddCylch Straeon: Sul 7 Gorffennaf + Sul 1 Medi 8pmStraeon ar Dro’r Flwyddyn: Sul 4 Awst 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon

— croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Bwrw’r Sul â Gêmau BwrddSul 14 Gorffennaf + Sul 11 Awst + Sul 8 Medi 5.30pmYmunwch â siop gêmau gyfeillgar Caerdydd, Rules of Play, yn ein Caffi Bar ar gyfer y noson gêmau fisol hon. Dewch â’ch hoff gêmau bwrdd neu dewch yn waglaw a benthycwch gêm am y noson.RHAD AC AM DDIM

The ForgeIau 18 Gorffennaf 7.30pmMae The Forge yn galluogi artistiaid mewn disgyblaethau gwahanol i ymwneud â chynulleidfaoedd er mwyn archwilio syniadau creadigol ac i brofi gwaith sydd ganddynt ar y gweill. Bydd rhai o’r dangosiadau’n arw, bydd rhai yn barod i dderbyn adborth gan y gynulleidfa — os hoffech chi leisio barn, hynny yw. Dewch i ddarganfod y sêr mawrnesaf ac i fod yn rhan o ddatblygiad theatr a pherfformio yng Nghymru. Os hoffech chi ddangos gwaith yn The Forge, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch [email protected]£3

Carnifal Dros Dro SWICAGwe 19 Gorffennaf 5.30 — 9pmI ddathlu lansiad Carnifal Caerdydd 2013, mae SWICA, arbenigwyr pennaf celfyddydau carnifal Cymru, yn cynnig cyfle rhad ac am ddim i drawsffurfio’ch hun trwy wisgo penwisgoedd moethus — ffrwydrad o secwinau, gliter a phlu: golwg ar liw carnifal Rio heb adael Chapter!RHAD AC AM DDIM

Jazz ar y SulSul 21 Gorffennaf, Sul 18 Awst + Sul 22 Medi 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM

Chapter Mix 23chapter.org

Confidence With Shakespeare, gyda Dick BradnumSad 20 Gorffennaf 9.30 — 4.15pmCwrs un-dydd o ddatblygiad proffesiynol parhaol i weithwyr proffesiynol y theatr sydd am fagu hyder wrth weithio â thestunau Shakespeare. Bydd y diwrnod yn fodd o adolygu eich hyfforddiant / addysg Brifysgol ac o baratoi ar gyfer clyweliadau yn y dyfodol, neu yn galluogi i chi weithio ar y testunau gwych — ond brawychus! — hyn am y tro cyntaf. Byddwn yn edrych ar ddulliau ymarferol o wneud i’r iaith weddu i chi, a bydd cyfle i chi weithio ar eich testun mewn cyd-destun cadarnhaol a chefnogol. Mae Dick Bradnum wedi perfformio mewn cynyrchiadau o ddramâu Shakespeare ledled y DG dros yr 20 mlynedd diwethaf ac wedi dysgu a darlithio Shakespeare yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, a threfnu ysgolion haf Shakespeare ar gyfer yr RSC a’r Brifysgol Agored. £20 (nifer cyfyngedig o leoedd — y cyntaf i’r felin gaiff falu)

Dod o Hyd i’ch Llaisgyda Frankie Armstrong Sul 25 Awst 10am — 4.30pmMae hi’n bosib i bob un ohonom lefaru â llais nerthol, llawn mynegiant. Mewn awyrgylch cefnogol, byddwn yn archwilio technegau ar gyfer datgloi’r llais hwnnw. Byddwn yn chwarae â’r ffin rhwng canu a llefaru, yn dod o hyd i dechnegau ar gyfer rhyddhau ein hanadl trwy gyfrwng osgo ac agweddu corfforol ac yn archwilio ffyrdd posib o ddod o hyd i amrediad naturiol y llais ynghyd â’r “lliwiau” y gallwn eu cyfleu ag ef — a’r cyfan mewn sesiwn hamddenol a hwyliog. £30/£25

I gael mwy o wybodaeth ac i archebu cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2048 0429

Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol TregannaMer 4 Medi 5 — 7pmYdych chi wedi clywed am gyfryngau cymdeithasol ond heb fod yn siŵr sut mae’r holl beth yn gweithio? Neu sut y gallan nhw fod o fudd i chi neu eich grŵp? Dewch draw i’r Cwtsh yn y Caffi Bar am gyfarfod hamddenol ac anffurfiol. Perffaith ar gyfer dechreuwyr, neu os ydych chi neu eich grŵp cymunedol eisiau magu mwy o hyder.RHAD AC AM DDIM @cantonsms

Clonc yn y CwtchBob dydd Llun 6.30 — 8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd

Brecht and His Kind Caneuon Bertolt Brecht gyda Frankie Armstrong a Mikey PriceSul 8 Medi 7.30pmBydd Frankie Armstrong a Mikey Price yn perfformio caneuon a ysgrifennodd Brecht ar gyfer sioeau cabaret ac operâu dychanol yn yr Almaen yn ystod y 1920au a’r 1930au ac ar ôl hynny, yn ystod cyfnod ei alltudiaeth yn yr UDA yn y 1940au. Yn gantores broffesiynol ers 1964, mae Frankie’n adnabyddus am ei Gweithdai Llais arloesol sy’n seiliedig ar arddulliau ethnig o ganu — mae hi wedi cyflwyno’r rhain ledled Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Fe recordiodd hi Let No One Deceive You: Songs of Bertolt Brecht gyda’r cerddor blŵs Americanaidd chwedlonol, Dave Van Ronk (y dyn a ddysgodd y gân House of the Rising Sun i Bob Dylan).£8/£6 (wrth y drws) www.frankiearmstrong.com

“Datganiad gwych... llais amrwd Van Ronk a chanu grymus Armstrong... mae’r albwm hon yn llawn gwreichion soniarus.” Adolygiadau Albwm, Billboard, UDA

Darlith SWDFAS The Wilton Dyptych EnigmaGan Leslie Primo BA. MA.Iau 12 Medi 2pmErs i’r Oriel Genedlaethol brynu’r panel dwbl dirgel a adwaenir fel y Wilton Dyptych yn 1929, mae’r dyfalu ynghylch ei darddiad wedi bod yn rhemp. Er bod llawer o ddarganfyddiadau wedi eu gwneud, ychydig iawn o sicrwydd sydd yna o hyd parthed y darn.£6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

Chapter Mix24 029 2030 4400

Mae Chapter yn gartref i gymuned eang o gwmnïau preswyl a gweithwyr unigol sy’n ymwneud â phob ffurf ar gelfyddyd. Mae’r partneriaid hyn yn aml yn gweithio’n agos gyda ni, ac rydym yn rhannu arbenigedd, adnoddau, syniadau — a darn o deisen nawr ac yn y man. Maent yn ychwanegu bob un at ein gallu i gyflawni ein nod o feithrin lleisiau annibynnol ac o fod yn fan cyfarfod ar gyfer syniadau ac ysbrydoliaeth. Mae eu gwaith nhw, ar y cyd â’n gwaith ni ein hunain, yn gwneud Chapter yn un o dai cynhyrchu pwysicaf y DG.Mae mwy na 30 o stiwdios ar ein prif safle ac yn Nhŷ’r Farchnad dros y ffordd, a’r rheiny’n gartref i gwmnïau dawns a theatr, artistiaid unigol, animeiddiwyr a gwneuthurwyr ffilm, asiantaethau datblygu cynulleidfaoedd, dylunwyr graffig, dylunwyr rhyngweithiol a graffeg symudol, trefnwyr carnifalau a mwy.Ond rydym yn estyn ymhell y tu hwnt i’r adeiladau eu hunain; ewch i’n gwefan newydd i weld fwy o fanylion am ein cwmnïau cysylltiol — cwmnïau nad ydyn nhw wedi’u lleoli yma ond sydd yn gweithio’n agos gyda ni ar sawl lefel. Gallwch hefyd ganfod manylion am yr Undeb Cyfalaf arbennig rydym yn rhannu gyda thri o’n cwmnïau preswyl — Earthfall, Theatr Iolo a Ffotogallery. Mae’r rhain yn gweithio gyda ni ar ddatblygu’r safle yn Nhreganna ymhellach.

Visu

al In

fluen

ce, w

ww

.vis

ualin

fluen

ce.c

o.uk

Chapter Mix 25chapter.org

Ar ôl cael trefnwyr a bywyd newydd y llynedd, mae Jazz Aberhonddu yn dychwelyd i’r calendr diwylliannol yn ystod mis Awst, wedi’i hadfywio gan aduniad yr ŵyl â’i lleoliadau traddodiadol yng nghanol y dref, gan gynnwys yr Eglwys Gadeiriol syfrdanol, a fydd eleni yn gartref i Lwyfan Chapter. Bydd y bartneriaeth hon yn dod â’r sacsoffonydd Gilad Atzmon a’i Orient House Ensemble, a’r pianydd Zoe Rahman, a enwebwyd am wobr Mercury, at ei gilydd ar ddydd Gwener y 9fed ac, ar ddydd Sadwrn y 10fed, bydd Ian Shaw a Phedwarawd Julian Siegel yn perfformio deunydd newydd. Bydd yr Artist Preswyl, Huw Warren, yn cyflwyno’r cyntaf o ddau ddarn comisiwn rhyngwladol dan faner Cymru Fyd Eang, gyda’r gantores o Napoli, Maria Pia de Vito. Bydd Warren yn dychwelyd ar ddydd Sul yr 11eg, y tro hwn yn rhan o driawd Quercus a bydd yr arloeswr jazz Prydeinig, John Surman,

a’r hynod addawol Laura Jurd hefyd i’w gweld y diwrnod hwnnw. Hefyd yn yr ŵyl, bydd y gantores gospel chwedlonol Mavis Staple yn ymddangos yn Neuadd y Farchnad (dydd Sadwrn) a’r aml-offerynnwr Courtney Pine i’w weld ar y dydd Gwener. Â chyfanswm o 18 gwobr Grammy rhyngddynt, mae The Impossible Gentlemen (dydd Sul, Theatr Brycheiniog) yn gerddorion a hanner, fel yr ardderchog Django Bates (dydd Sadwrn, Theatr Brycheiniog). Yn ôl y disgwyl, mae’r holl docynnau i weld Jools Holland eisoes wedi’u gwerthu, ond fe ddylai’r rheiny a chanddynt dueddiadau arbrofol frysio draw i weld y trwmpedwr o Norwy, Nils Petter Molvaer, a’i gydwladwyr, Biosphere (dydd Gwener, Theatr Brycheiniog) a fydd yn chwalu’r ffiniau rhwng jazz ac electro mewn perfformiad unigryw.www.breconjazz.com

Andy EagleCyfarwyddwr Dw i wrth fy modd y bydd Chapter yn trefnu un o brif lwyfannau Gŵyl Jazz fawreddog Aberhonddu eleni. Bydd llwyfan Chapter wedi’i leoli yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ac yn cyflwyno’r jazz arloesol diweddaraf gan rai o artistiaid newydd mwyaf cyffrous y DG ac Ewrop. Mae Chapter wedi dechrau cyflwyno rhaglen gerddorol ehangach o lawer yn ddiweddar, ac mae jazz yn chwarae rôl allweddol yn y datblygiad hwn. Mwynhewch Jazz Aberhonddu a chadwch lygad ar agor am fwy o jazz ardderchog yn ystod yr hydref a’r gaeaf.

Gair gan Pablo Janczur, Cyfarwyddwr Jazz Aberhonddu

Chapter yng ngWyl Jazz aberhonddu

Sinema26 029 2030 4400

“Un o bleserau pennaf ‘The Iceman’ yw rhagoriaeth dawel y cast ensemble — mae’r ffilm yn llawn perfformiadau cain ac annisgwyl.”

– Variety

The

Icem

an

siNEMA

chapter.org 27Sinema

Thérèse Desqueyroux Gwe 28 Mehefin — Iau 11 GorffennafFfrainc/2012/110 mun/is-deitlau/12A. Cyf: Claude Miller. Gyda: Audrey Tautou, Gilles Lellouche, Anais Demoustier.

Mae Thérèse yn wraig ifanc rwystredig yn Ffrainc yr 1920au ac yn mygu mewn priodas o gyfleustra. Ar ôl gweld ei ffrind gorau yn cychwyn ar garwriaeth angerddol â dyn ifanc golygus, mae Thérèse yn ysu am gael dianc i fywyd bohemaidd oes jazz Paris. Mae hi’n dysgu bod meddyginiaeth ei gŵr yn cynnwys arsenig ac yn rhoi cynllun ar waith er mwyn dianc. Melodrama gyfnod ac addasiad gogoneddus o nofel glasurol François Mauriac. Mae Tautou yn cyfleu cymeriad dwys a chymhleth, yn llawn o ddolur a phoen, cariad a thristwch.

“Ar ôl Amélie, mae Tautou wedi dod o hyd i rôl sy’n gwneud cyfiawnder â’i doniau” Piers Handling, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto

The IcemanGwe 28 Mehefin — Iau 11 GorffennafUDA/2012/105mun/15. Cyf: Ariel Vromen. Gyda: Michael Shannon, Winona Ryder, James Franco, Ray Liotta, Chris Evans, David Schwimmer.

Ffilm yn seiliedig ar stori wir am Richard Kuklinski, llofrudd cyflog â chysylltiadau â theuluoedd troseddol arfordir Dwyreiniol yr UDA yn ystod y 1950au hwyr. Ar ôl ennill y llysenw “The Iceman” (o ganlyniad i’w arfer o rewi cyrff er mwyn twyllo’r heddlu), mae’r ffilm gyffro iasol hon yn cyfleu gwaed oer y prif gymeriad a’i effeithlonrwydd marwol. Er byw mewn byd o glybiau pŵl, theatrau porno a lladd-dai gwaedlyd, mae Richie’n llwyddo i gynnal bywyd teuluol cymharol normal gyda’i wraig a’i blant — tan i’w “swydd” arswydus ddod i’r amlwg, yn araf bach a bob yn dipyn.

Come As You AreGwe 28 Mehefin — Iau 4 GorffennafGwlad Belg/2012/108mun/is-deitlau/15. Cyf: Geoffrey Enthoven. Gyda: Robrecht Vanden Thoren, Gilles De Schryver, Tom Audenaert.

Mae tri ffrind ifanc anabl yn penderfynu mynd ar daith i golli eu gwyryfdod ar ôl clywed am buteindy yn Sbaen i “bobl fel ni”. Mae Josef bron yn gyfan-gwbl ddall, mae Philip mewn cadair olwyn ac mae Lars yn dioddef o salwch terfynol dirywiol sy’n achosi parlys a ffitiau achlysurol. Wedi’i hysbrydoli gan brofiadau’r ymgyrchydd a’r siaradwr ysgogol, Asta Philpot, mae’r ffilm orfoleddus hon yn codi’r hanes ar ôl i Lars dderbyn prognosis anffafriol, pan geisia’r ffrindiau ei helpu i fwynhau i’r eithaf weddill ei fywyd.

The Act of KillingGwe 28 Mehefin — Iau 4 GorffennafDenmarc/2013/115mun/15. Cyf: Joshua Oppenheimer.

Yn ystod y 1960au, roedd Anwar Congo yn un o arweinwyr mudiad parafilwrol yn Indonesia o’r enw Ieuenctid Pancasila. Roedd yn gyfrifol, ar y cyd â’i ddilynwyr taer, am lofruddio ac arteithio mwy na miliwn o Gomiwnyddion honedig, Tseinïaid ethnig a deallusion. Yn falch o’u gweithredoedd ac â’u traed yn rhydd, mae Anwar a’i ffrindiau yn defnyddio actorion, yn adeiladu setiau cywrain a hyd yn oed yn defnyddio effeithiau pyrotecnig i ail-greu’r llofruddiaethau ar gyfer y ffilm ddogfen hon. Mae e’n frwdfrydig iawn ar y cychwyn ond, wrth i drais y ffilm gael ei ail-greu, mae Anwar yn dechrau teimlo anesmwythder ac edifeirwch.

“Dw i ddim wedi gweld ffilm mor bwerus, mor swrrealaidd ac mor frawychus ers degawd o leiaf... Mae hwn yn waith digymar yn hanes y sinema.” Werner Herzog

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Thé

rèse

Des

quey

roux

, Com

e As

You

Are

Sinema28 029 2030 4400

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

John

Shu

ttle

wor

th, T

ony

Law

, Will

Hod

gson

, Rob

in In

ce, R

icha

rd H

errin

g

I gyd-fynd â Gŵyl Gomedi Caerdydd, a fydd yn cael ei chynnal yn ein theatr yn ystod mis Gorffennaf (t 12-13) rydym wedi ymuno a thîm Go Faster Stripe, i gyflwyno’r digrifwyr newydd gorau. Cafodd llawer o’r perfformiadau isod eu ffilmio fan hyn yn Chapter ac rydym yn falch iawn o allu cyflwyno detholiad o’u ffilmiau gorau. www.gofasterstripe.com

chapter.org 29Sinema

Stewart Lee 90s Comedian Mer 3 Gorffennaf70 munud

Yn dychwelyd i’r llwyfan wedi drama Jerry Springer — The Opera, bydd Lee yn cyflwyno ei sylwadau ar Gristnogion ffwndamentalaidd a protestiadau anwybodus yn erbyn y BBC.

“Bwriadol sarhaus!” Daily Telegraph

Robin Ince Is As Dumb as You Mer 10 Gorffennaf69 munud

Mae’n debyg i Robin recordio’r sioe hon yn ystod wythnos o anhunedd — felly os clywch chi unrhyw strwythurau rhyfedd yn ei frawddegau, mae hynny am fod ei ymennydd yn ei gadw’n effro fel rhyw fath o jôc niwrolegol.

Wil Hodgson — Skinheads, Readers Wives and My Little Ponies Mer 17 Gorffennaf56 munud

Mae Will yn cyfaddef nad yw’r byd yn barod amdano — dyn dros ei bwysau sy’n casglu teganau, a chanddo wallt pinc a meddwl sy’n gweithio fel meddwl lesbiad yn ei harddegau. Penderfynwch chi.

“Cryfder Hodgson yw ei allu i adrodd stori sy’n denu eich sylw’n llwyr... mae e’n storïwr comig medrus” BBC Radio 7

Tony Law — An Hour and Some of Tony Law Mer 24 Gorffennaf65 munud

Dewch i glywed y gwir am bynciau y mae eraill yn ofni’u trafod — eirth du, Gwlad Belg a’r didgeridoo. Dyma neges gan Tony: “RHYBUDD: Nid sioe ‘thinky thinky’ yw hon. Mae hi’n fwy o sioe ‘thunky thunky’.”

John Hegley a Tony Curtis Mer 31 Gorffennaf70 munud

Caneuon a barddoniaeth. A llawer iawn o chwerthin. Caneuon yn cynnwys Eddie Don’t Like Furniture, I Need You, I’m a Potato, Hotel, Luton Bungalow... a mwy!

John Shuttleworth — The Minor Tour Mer 7 Awst74 munud

Gyda’i allweddellau Yamaha, mae’r digrifwr yn canu am bob dim — o baneidiau o de, i DIY a melysion. Mae’r recordiad, sy’n cynnwys y gân sydd bellach yn glasur, “I can’t go back to savoury now”, yn dangos John ar ei orau.

Kevin Eldon is Titting About Mer 14 Awst54 munud

Kevin Eldon yw’r dyn yna sydd i’w weld yn y rhan fwyaf o sioeau comedi gorau y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys It’s Kevin, Brass Eye, Nighty Nighty, Jam a Big Train — a dyma’r tro cyntaf iddo wneud sioe unigol. Dyma recordiad o’r sioe wych yng Nghaeredin.

“Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, mae’r perfformiadau’n ddi-fai, yn gynnil a dros ben llestri ar yr un pryd ac yn arddangos rheolaeth dynn ac amseru comig ffrwydrol”. Chortle

Simon Munnery — Fylm Makker Mer 21 Awst63 munud

Yn lle ymddangos ar y llwyfan, mae Simon yn eistedd yng nghanol y gynulleidfa ar gyfer y sioe hon, y tu ôl i focs sy’n gallu dangos ei wyneb, y bwrdd neu’r ddau ar yr un pryd ac mae e’n gwneud ffilmiau byw. Ac fe allwch chi weld canlyniadau doniol yr arbrofion hyn o safbwynt y cynulleidfaoedd a oedd yn bresennol yn ei sioeau.

Richard Herring — What is Love Anyway? Mer 28 Awst97 munud

‘‘What is l-uh-uh-uh-uh-uh-uh-uh-uhve anyway? Does anybody love anybody anyway?’Dyna oedd cwestiwn mawr y canwr, y bardd a’r athronydd gwallgof o Gymru, Howard Jones, ym 1983. Ond yn ystod y 30 mlynedd ers hynny, does neb wedi meiddio ateb ei gwestiynau. Tan nawr. Mae Richard Herring yn mynd ati i geisio diffinio a dinistrio cariad. Cyn i gariad ei ddinistrio fe. Unwaith eto.

The ComedianGwe 26 Gorffennaf — Iau 1 AwstDG/2012/80mun/15. Cyf: Tom Shkolnik. Gyda: Edward Hogg, Elisa Lasowski, Nathan Stewart-Jarrett.

Mae Ed yn ei ugeiniau ac yn ceisio gwneud gyrfa ar gylchdaith gomedi Llundain. Mae’n cadw deupen y llinyn ynghyd drwy weithio mewn canolfan alw yn ystod y dydd, er mwyn mynd i berfformio mewn tafarndai a chlybiau comedi gyda’r nos. Gyda’i gyd-letywr, Alissa, a Nathan, dyn hoyw carismatig y daw ar ei draws ar fws, mae’r ffilm yn archwilio ymdeimlad Ed o ansicrwydd yn y Brydain ôl-argyfwng sydd ohoni.

“Mae ysbryd Dogma 95 yn fyw ac yn iach ac wedi’i adfywio yn The Comedian” Variety

Sinema30 029 2030 4400

Before MidnightGwe 5 — Iau 18 GorffennafUDA/2013/108mun/15. Cyf: Richard Linklater. Gyda: Julie Delphy, Ethan Hawke.

Y drydedd ran yng nghyfres Linklater o ffilmiau [Before Sunrise, Before Sunset] sy’n archwilio ymhellach y berthynas rhwng yr Americanwr, Jesse, a’r Ffrances, Céline, wrth iddyn nhw gyrraedd eu 40au. Archwiliad ffraeth o’r hyn sy’n digwydd pan fo’ delfrydau ifainc yn dod i wrthdrawiad â chyfrifoldebau canol oed. Yn llawn o ddeialog miniog y ffilmiau blaenorol, mae hon hefyd yn llawn emosiwn wrth i ochr dywyll bywyd ddechrau dod i’r amlwg. Mae’n bleser gweld bywydau’r cymeriadau hyn yn datblygu dros gyfnod o flynyddoedd — ynghyd â pherfformiadau perffaith gan yr actorion a sylw Linklater i fanylion.

MovieMaker Chapter Llun 1 GorffennafSesiwn reolaidd i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion.RHAD AC AM DDIM [email protected]

The Eye Of The StormGwe 5 — Iau 11 GorffennafAwstralia/2011/119mun/15. Cyf: Fred Schepisi. Gyda: Charlotte Rampling, Geoffrey Rush, Judy Davis.

Yn y stori ddwys, dyner a breuddwydiol hon, rydym yn cwrdd â’r matriarch cyfoethog, Elizabeth Hunter; cymeriad pwerus sy’n rheoli pob agwedd ar ei bywyd

— ei chymdeithas, ei staff a’i phlant. Ag un weithred herfeiddiol olaf, mae hi’n dymuno rheoli ei marwolaeth hefyd. Â’i phlant wedi ymgynnull at yr achlysur, caiff y mygydau eu tynnu’n ôl yn araf bach i ddatgelu creulondeb a ffyrnigrwydd dan yr wyneb. Mae sgript ffraeth ynghyd â pherfformiadau deallus a phwerus yn nodweddu’r addasiad hardd hwn o waith yr enillydd Gwobr Nobel o Awstralia, Patrick White.

“Am ffilm. Rampling, Davis a Rush ar eu gorau a chyfarwyddo di-fai gan Fred Schepisi. Gwirioneddol ardderchog”. Stephen Fry

Clwb Ffilmiau Gwael Airport 75Sul 7 GorffennafUDA/1975/104mun/PG. Cyf: Jack Smight. Gyda: Charlton Heston.

Ar gyfer y Clwb Ffilmiau Gwael olaf cyn gwyliau’r haf rydym wedi penderfynu trefnu noson ffrwydrol ar eich cyfer. Y math o ffrwydrad sy’n digwydd pan fydd awyren 747 yn mynd i wrthdrawiad ag awyren fechan yn yr awyr. Dyna blot y ffilm drychineb glasurol hon o 1975, Airport ‘75. A all y rheolwyr yn y tŵr sicrhau bod yr awyren yn glanio’n ddiogel? Faint o or-actio all un tiwb metel ei gynnwys? Dewch i weld drosoch chi’ch hun!

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Bef

ore

Mid

nigh

t, T

he E

ye O

f The

Sto

rm

chapter.org 31Sinema

Piercing BrightnessLlun 15 — Iau 18 GorffennafDG/2013/75mun/15. Cyf: Shezad Dawood. Gyda: Houda Ecouafni, Chen Ko.

Man cychwyn y ffilm hon yw’r ffaith taw yn Sir Gaerhirfryn y mae’r nifer fwyaf o achosion o bobl yn gweld UFOs yn y DG. Mae’r artist nodedig Shezad Dawood yn gwau at ei gilydd elfennau dogfennol a stori ffuglennol Jiang a Shin sydd yn cyrraedd Preston mewn llong ofod. Wedi’u hanfon i godi asiantau o gyrch blaenorol, mae nifer o’r trigolion hynny o’r blaned arall wedi anghofio pwrpas gwreiddiol eu taith i’r Ddaear ac wedi dechrau dod dan ddylanwad eu cartref newydd. Mae gwyddonias yn aml yn cael ei ddefnyddio fel modd o frwydro yn erbyn syniadau diwylliannol sefydledig ac yn y fan hon mae Dawood yn defnyddio’r ffurf i drafod hil, mudo a hunaniaeth.+ Come Along Do, Llun 15 GorffennafDan gadeiryddiaeth Gill Nicol, bydd y digwyddiad hwn ar ôl y dangosiad yn defnyddio Piercing Brightness fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth fanwl a bywiog o gelfyddyd a ffilm.£2.50 (Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch mewn da bryd.) Bydd angen i chi archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân.

Summer in February Gwe 12 — Iau 25 GorffennafDG/2013/101mun/15. Cyf: Christopher Menaul. Gyda: Dominic Cooper, Dan Stevens, Emily Browning.

Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae hon yn stori o gariad a cholled ymysg aelodau Grŵp Lamorna, y gymdeithas fohemaidd o artistiaid a oedd yn byw ar arfordir deheuol Cernyw cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r artist gwrth-Fodernaidd AJ Munnings yng nghanol triongl serch cymhleth sy’n cynnwys yr artist addawol Florence Carter-Wood a Gilbert Evans, yr asiant tir sy’n gyfrifol am stad Cwm Lamorna.

Claire VaughanSwyddog y Rhaglen Ffilm a Sinema Mae hunaniaeth yn gysyniad newidiol a haniaethol a dw i’n fy nghael fy hun yn ystyried y cwestiynau hyn bob dydd — dw i wrth fy modd felly â’n rhaglen yn y sinema y mis hwn. Bydd Gill Nicol yn archwilio syniadau am hunaniaeth ddiwylliannol yn ffilm Shezad Dawood Piercing Brightness yn sesiwn Come Along Do. Hunaniaeth deuluol yw testun ffilm Sarah Polley Stories We Tell ac fe fydda i’n trafod ein hunaniaethau gwirioneddol yn nhrafodaeth Lavender Screen ar ôl y dangosiad o Beyond The Candelabra. Fel Cernywes, bydd hi’n ardderchog gweld fy mamwlad yn cael ei phortreadu yn Summer in February. Erbyn mis Awst efallai y bydd gen i well syniad o bwy ydw i.

RenoirGwe 26 Gorffennaf — Iau 1 AwstFfrainc/2012/111mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Gilles Bourdos.

Ar ystâd meistr argraffiadaeth, Pierre-Auguste Renoir, ym 1915, mae mab y peintiwr, Jean, yn dychwelyd am gyfnod i wella yn ystod y rhyfel. Yn ystod cyfnod ei arhosiad, caiff ei ddenu gan Andrée, ‘muse’ hudolus ei dad sy’n cyflwyno Jean i gelfyddyd newydd — ffilm. Mae hi’n rhoi cyfle iddo i ddianc o gysgod artistig hollgwmpasol ei dad. Stori synhwyrus o gariad rhwng dau ddyn sy’n cystadlu â’i gilydd ac sy’n digwydd bod yn dad a mab. Yr unig reol i’r gêm arbennig hon yw bod cariad a rhyfel yn caniatáu unrhyw beth o gwbl.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Sum

mer

in F

ebru

ary,

Ren

oir

Sinema32 029 2030 4400

Journey to ItalySul 7 + Maw 9 GorffennafYr Eidal/1957/86mun/PG. Cyf: Roberto Rossellini. Gyda: Ingrid Bergman, George Sanders.

Mae Alexander a Katherine Joyce yn gwpwl Saesnig cyffyrddus eu byd sydd wedi dod i Napoli i werthu eiddo ac i weld y golygfeydd. Ond mae rhywbeth am yr hamdden gorfodol hwn, a harddwch aflonyddol y tirwedd, sy’n prysuro tranc eu priodas gythryblus. Maent yn fwy byw nag erioed ac yn hynod ymwybodol ohonyn nhw eu hunain, yn unigol ac fel cwpwl. A allan nhw adfer eu perthynas yn y ddinas feddwol hon?

TheoremSul 14 + Maw 16 GorffennafYr Eidal/1968/98mun/15. Cyf: Pier Paolo Pasolini. Gyda: Terence Stamp, Silvana Mangano, Massino Girotti.

Terence Stamp yw’r ymwelydd hardd ag aelwyd dosbarth-canol-uchaf ym Milan. Mae e’n cyffroi pob aelod o’r teulu: y mab, y ferch, y forwyn, y fam a hyd yn oed y tad claf, cyfoethog — ac yn gadael anhrefn creadigol a dinistriol ar ei ôl. Mae’r stori abswrd a chwareus hon gan Pasolini yn uno chwyldroadau rhywiol a gwleidyddol y cyfnod ac yn dychmygu’r byd bourgeois yn chwythu’n yfflon dan ddylanwad syniadau newydd.

CleopatraSad 13 — Sul 14DG/1963/243mun/PG. Cyf: Joseph L Mankiewicz. Gyda: Richard Burton, Elizabeth Taylor, Rex Harrison.

Dathliad o ben-blwydd yn 50 oed ffilm a ystyrir gyda’r mwyaf ysblennydd, epig a drud yn hanes y sinema. Mae’r gwaith yn adrodd hanes bywyd a bywyd carwriaethol brenhines yr Aifft. Yn benderfynol o ddal gafael ar ei gorsedd yn wyneb datblygiadau’r ymerodraeth Rufeinig, mae Cleopatra’n defnyddio’i holl swyn er mwyn ceisio cynghreirio gyda Iwl Cesar. Pan gaiff Cesar ei lofruddio, mae hi’n troi at y Mark Anthony poblogaidd — ond buan y try rhamant yn drychineb. Dyma gyfle prin i weld y print hyd llawn, sydd wedi’i adfer â gofal — a chychwyn stori gariad Burton a Taylor.

Shun Li and The PoetGwe 19 — Iau 25 Gorffennaf2012/100mun/is-deitlau/15. Cyf: Andrea Segre. Gyda: Tao Zhao, Rade Serbedzija.

Mae Shun Li yn fam sengl o Tsieina sy’n gweithio mewn pentref pysgota yn yr Eidal yn y gobaith o sicrhau dyfodol gwell. Mae’n cyfarfod â Bepi, hen bysgotwr blinedig, sy’n alltud o Ddwyrain Ewrop ac yn ddarllenwr barddoniaeth brwd. Mae hi’n rhannu straeon am Qu Yuan, bardd enwocaf Tsieina, ag ef. Mae eu cyfeillgarwch annisgwyl yn ennyn drwgdybiaeth y bobl leol, sy’n ei gwneud hi’n berffaith glir nad yw perthynas ddatblygol Shun Li a Bepi yn eu plesio. Ffilm gain, wedi’i saethu’n hyfryd, sy’n profi bod telynegiaeth ar gael i bawb waeth pa iaith y siaradwn.

The Gospel According To MatthewSul 28 + Maw 30 GorffennafYr Eidal/1964/137mun/PG. Cyf: Pier Paolo Pasolini. Gyda: Enquie Irazoqui, Susanna Pasolini, Margherita Caruso.

Yn y fflach ffyrnig hwn o neo-realaeth, mae Pasolini’n dychmygu’r Crist fel radical sy’n ymgyrchu yn erbyn grym anghyfiawn y Rhufeiniaid. Â deialog wedi’i gymryd o’r efengylau’n uniongyrchol a chast o actorion amatur (gan gynnwys ei fam ei hun yn rhan y Forwyn Fair), mae hon yn stori deimladwy ac amrwd ac yn gwneud drama’r Dioddefaint yn berthnasol i gynulleidfaoedd modern trwy dynnu cymariaethau â gwleidyddiaeth gyfoes a thrac sain pryfoclyd.

“Sinema yw’r arf fwyaf pwerus” Cymerodd Mussolini ddiddordeb gweithredol personol yn y diwydiant ffilm Eidalaidd, ac fe agorodd y Cinecittà ar ben-blwydd sefydlu Rhufain — gan esgor, yn ddiarwybod iddo, ar genhedlaeth gyfan o auteurs y dyfodol. Ar ôl ei farwolaeth, defnyddiodd y cyfarwyddwyr hyn y cyfleusterau hynny i greu rhai o’r ffilmiau mwyaf cofiadwy erioed. Bydd cyfle hefyd i weld Cleopatra a Shun Li and the Poet, dwy ffilm a ysbrydolwyd gan — ac a gwblhawyd — yn yr Eidal.

Sinema 33chapter.org

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Jour

ney

to It

aly,

The

orem

, Shu

n Li

and

The

Poe

t, C

leop

atra

, The

Gos

pel A

ccor

ding

To

Mat

thew

Sinema34 029 2030 4400

Behind The CandelabraGwe 19 Gorffennaf — Iau 1 AwstUDA/2013/118mun/15. Cyf: Steven Soderbergh. Gyda: Michael Douglas, Matt Damon, Rob Lowe, Dan Aykroyd, Debbie Reynolds.

Cyn Elvis, Elton John, Madonna a Lady Gaga, roedd Liberace: pianydd virtuoso, diddanwr beiddgar ac un o sêr mwyaf llachar y llwyfan a’r sgrin. Roedd gan Liberace fywyd lliwgar hefyd — roedd e wrth ei fodd â gormodedd yn ei fywyd preifat fel ar y llwyfan. Yn ystod haf 1977, daeth dieithryn golygus ifanc o’r enw Scott Thorson i’w ystafell wisgo ac, er gwaetha’r gwahaniaeth oedran a’r ffaith eu bod yn byw mewn bydoedd tra gwahanol, fe ddechreuodd y ddau garwriaeth ddirgel a barhaodd am bum mlynedd. + Lavender Screen, Maw 30 Gorffennaf

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.

The CameramanSul 21 + Maw 23 GorffennafUDA/1929/69mun/U. Cyf: Edward Sedgwick. Gyda: Buster Keaton, Marceline Day.

Un o gomedïau mwyaf doniol a mwyaf meistrolgar Keaton. Mae ein harwr truenus yn syrthio mewn cariad â Sally, merch ifanc sy’n gweithio yn Stiwdios MGM. Ar ôl dechrau gweithio fel dyn camera er mwyn bod yn agosach ati, mae yna rwystrau i’w serch ymhob man. Fodd bynnag, mae cyfarfyddiad â mwnci sy’n perfformio yn arwain at ddiweddglo annhebygol a hyfryd! Mae’r ffilm yn llawn perfformiadau gwych a golygfeydd rhyfeddol o Efrog Newydd yn 1929.Bydd y pianydd a’r cyfansoddwr o Aberhonddu, Paul Shallcross, a’i arddull sy’n adleisio ragtime a Gershwin, yn bresennol i gyfeilio. £12/£10/£8. Matinée dydd Mawrth £7/£6/£5

Springsteen & ILlun 22 GorffennafUDA/2013/80mun+15mun/dim tyst. Cyf: Baillie Walsh.

Mae’r cawr roc Bruce Springsteen yn un o artistiaid mwyaf America. O strydoedd ei New Jersey brodorol i uchelfannau buddugoliaethus areithiau Arlywydd du cyntaf yr Unol Daleithiau, does ‘na’r un artist arall sy’n fwy o ymgorfforiad o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r Freuddwyd Americanaidd. Mae’r ffilm yn cyfuno deunydd archif nas gwelwyd o’r blaen o berfformiadau Bruce dros gyfnod o 40 mlynedd a chyfraniadau gan y dyn ei hun a’i ffans. Bydd y dangosiad yn cynnwys delweddau o’i daith gyfredol mewn ffilm fer 15 munud o hyd. £10

Noys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos BogiezAr ddydd Sul olaf y mis byddwn yn cymryd eich hoff ffilmiau alt/roc/metal/pync i’ch hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

The Decline of Western Civilization Pt II: The Metal YearsSul 28 Gorff Drysau’n agor am 7.00pm, ffilm am 8pmUDA/1988/93mun. Cyf: Penelope Spheeris.

Cipolwg diddorol ar fyd hedonistaidd, dros ben llestri roc metel yr 80au. Mae The Decline of Western Civilization Part II: The Metal Years yn glasur. Yn cynnwys cyfweliadau a pherfformiadau gan Megadeth, Alice Cooper, Gene Simmons ac Ozzy, mae’r ffilm yn ddogfen awdurdodol o gyfnod pan oedd codi twrw a chwistrell wallt yn ffordd o fyw. Cyfweliad gyda Chris Holmes o WASP sy’n crynhoi’r cyfnod orau, efallai. Yn eistedd ar gadair sy’n arnofio yn ei bwll ac yn yfed poteli cyfain o fodca yng ngolwg ei fam, mae angen gweld y ffilm er mwyn credu’r fath bethau.Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org ac yn Bogiez

“ Fe ddylai cerddoriaeth roc ddylanwadu ddigon ar blant i wneud iddyn nhw feddwl. Does dim byd yn bod ar feddwl”. — Alice Cooper

Sinema 35chapter.org

Gyda

’r cl

oc o

’r to

p: B

ehin

d Th

e Ca

ndel

abra

, The

Dec

line

of W

este

rn C

ivili

zati

on P

t II:

The

Met

al Y

ears

, Spr

ings

teen

& I

Sinema36 029 2030 4400

This Is The EndGwe 19 — Iau 25 GorffennafUDA/2013/107mun/15. Cyf: Evan Goldberg. Gyda: James Franco, Paul Rudd, Seth Rogen.

Mae’r apocalyps yn tarfu ar barti yn nhŷ James Franco. Wrth i’r byd ddadfeilio ac wrth i’w cypyrddau wagio, rhaid i’r cyfeillion fentro allan i’r byd go iawn i wynebu eu tynged. Â chast sy’n debycach i restr o sêr ‘indie’ Americanaidd, mae’r ffilm hon yn olwg eironig ar enwogrwydd ac yn fyfyfyrdod ysgafn ar ein hymatebion i Ddydd y Farn.

Stories We TellGwe 12 — Iau 18 GorffennafCanada/2012/108mun/12A. Cyf: Sarah Polley.

Ffilm ddogfen yw hon yn ôl Sarah Polley ond mae’n waith llawer mwy direidus na hynny mewn gwirionedd. Fel gwneuthurwr ffilmiau a ditectif, mae hi’n ymchwilio i gyfrinachau ei theulu’i hun — teulu o storïwyr. Trwy gyfrwng cyfweliadau chwareus ac onest â chymeriadau niferus, mae hi’n gofyn yr un cwestiynau i bawb — ac mae’r atebion yn aml yn gwrthddweud ei gilydd wrth i bob un adrodd ei fersiwn ei hun o’r fytholeg deuluol. Mae atgofion yn y presennol yn troi’n olygfeydd hiraethus o’u mam, a fu farw’n ifanc ac a adawodd lu o gwestiynau heb eu hateb. Wrth i’r straeon fynd rhagddynt, datgelir hanfod teulu cymhleth, cynnes, blêr a chariadus.

“Mae Polley’n trin y gwirionedd â dyfeisgarwch a chryn fedr. Canlyniad hynny — safbwyntiau gwahanol a ffraethineb slei — yw gwaith unigryw a bythgofiadwy.” — Peter Travers, Rolling Stone

Blackfish Gwe 26 Gorffennaf — Iau 1 AwstUDA/2013/90mun/TICh. Cyf: Gabriela Cowperthwaite.

Lladdodd orca o’r enw Tilikum, a oedd yn berfformiwr mewn parc acwatig, nifer o bobl yn ystod cyfnod ei gaethiwed. Trwy gyfrwng deunydd brawychus a chyfweliadau gyda’r staff, mae’r ffilm yn archwilio natur eithriadol y creadur, y driniaeth ohono a’r pwysau o du diwydiant parciau acwatig gwerth biliynau o ddoleri. Mae’r stori emosiynol yn ein herio i ystyried ein perthynas â natur ac yn datgelu cyn lleied y mae dynoliaeth wedi’i ddysgu gan ein cyd-famaliaid deallus a hynod sensitif. Ffilm gyffro seicolegol â morfil llofruddgar wrth ei chalon, hon yw’r ffilm gyntaf ers Grizzly Man i ddangos sut y mae natur yn dial ar ddyn pan gaiff ei bygwth a’i chaethiwo.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Thi

s Is

The

End

, Bla

ckfis

h

Sinemachapter.org 37

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

Iron Man 3 (2D)Sad 6 GorffennafUDA/2013/131mun/12A. Cyf: Shane Black. Gyda: Robert Downey Jr, Gwyneth Paltrow a Don Cheadle.

Pan gaiff byd Tony Stark ei ddinistrio gan y terfysgwr Mandarin, mae e’n cychwyn ar antur i ddod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol ac i ddiogelu’i anwyliaid.

Cody the RobosapienSad 13 GorffennafUDA/2013/86mun/PG. Cyf: Sean McNamara. Gyda: Robbie Coleman, Penelope Ann Miller.

Mae bachgen robot a bachgen dynol yn dod at ei gilydd i achub eu rhieni, sydd wedi cael eu carcharu gan y sefydliad a ariannodd greawdwr y robot.

Epic [2D]Sat 20 — Iau 25 GorffennafUDA/2013/102mun/U. Cyf: Chris Wedge. Gyda: Beyoncé Knowles, Colin Farrell.

Mae byddin o bryfed yn galw ar greaduriaid mytholegol o’r enw ‘Leaf Men’ i’w helpu nhw i warchod eu gardd rhag brenhines ddrwg y corynnod mewn cartŵn sy’n seiliedig ar y llyfr i blant gan William Joyce.

Despicable Me 2 [2D]Gwe 26 Gorffennaf — Iau 1 AwstUDA/2013/hyd i’w gadarnhau/TICh. Cyf: Pierre Coffin, Chris Renaud. Gyda: Steve Carell, Kristen Wiig a Ken Jeong.

Dyw Gru ddim yn ddihiryn bellach ond mae ei fywyd tawel, digyffro newydd yn newid yn annisgwyl pan gaiff ei recriwtio gan y Cynghrair Gwrth-ddihirod i helpu i warchod yn erbyn dihiryn nerthol newydd.

Carry On Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion. Ar gyfer pobl â babanod danflwydd oed yn benodol.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Iro

n M

an 3

(2D)

, Des

pica

ble

Me

2

FFilmiau i’r Teulu CyFan

Sinema38 029 2030 4400

Roedd yna ambell i berl yng nghystadleuaeth gŵyl Cannes ym Mai, gan gynnwys The Bling Ring gan Sofia Coppola, sy’n adrodd hanes ysgytwol grŵp o bobl ifainc a gollodd eu rheswm ym mryniau Hollywood ac a dorrodd i mewn i gartrefi cyfoethogion ac enwogion.Rydym yn edrych ymlaen at Days of Grace, golwg egnïol ar fyd tanddaearol gangiau cyffuriau Mecsicanaidd, a’r ddrama newydd The Deep — ffilm newydd un o gyfarwyddwyr mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol Gwlad yr Iâ, Baltasar Kormakur (Jar City, 101 Reykjavik) a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau go iawn, pan drodd cwch pysgota drosodd ym 1984 mewn dyfroedd rhewllyd.Bydd y gomedi newydd swynol Frances Ha, gan ffefryn yr ‘indies’, Greta Gerwig (sydd hefyd yn chwarae prif ran), yn goleuo’r haf a ddwy flynedd ar bymtheg ar ôl ei ffilm fampir gyntaf, Interview with the Vampire, bydd y cyfarwyddwr Neil Jordan yn dychwelyd â’i ffantasi gyffrous Byzantium, gyda Gemma Arterton. Bydd y cyfarwyddwr Goro Miyazaki (Tales From Earthsea) yn dychwelyd gyda’r ffilm ysblennydd From Up On Poppy Hill, ac mi fyddwn yn datgelu cyfrinachau tywyll yn Chinatown, Point Blank a Repulsion, ffilmiau a gafodd eu hail-fastro yn ddiweddar. Byddwn hefyd yn parhau â’n tymor o ffilmiau comedi gyda thîm Go Faster Stripe, ac yn cyflwyno’r ffilmiau cerddoriaeth gorau yn ein slot poblogaidd, Cine Phonic, ynghyd â’n detholiad o ffilmiau teuluol ar gyfer gwyliau’r haf.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

The

Blin

g Ri

ng, D

ays

of G

race

, The

Dee

p

I ddod yn fuan