28
1 Gwirfoddoli yng Nghymru 2015 Adroddiad ar ddau arolwg Omnibws Mawrth 2014 a 2015

Gwirfoddoli yng Nghymru 2015 Adroddiad ar ddau arolwg ... · Gellir ei rannu’n ddau gysyniad: gwirfoddoli ffur fiol neu anffurfiol. ... Cafodd y ddau arolwg eu cyfuno i roi cyfanswm

Embed Size (px)

Citation preview

1

Gwirfoddoli yng Nghymru 2015 Adroddiad ar ddau arolwg Omnibws Mawrth 2014 a 2015

2

Awdur yr adroddiad hwn yw Dr Bryan Collis. Dylid cyfeirio ato fel: WCVA (2016) Gwirfoddoli yng Nghymru 2015: Adroddiad ar ddau arolwg Omnibws Mawrth 2014 a 2015 Lluniau’r clawr o’r top: Menter y Felin Uchaf; Innovate Trust; a Hosbis Dewi Sant. Hawlfraint © WCVA, Ebrill 2016 Cyhoeddwyd gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Tŷ Baltig Sgwâr Mount Stuart Caerdydd CF10 5FH Ffôn: 0800 2888 329 Gwefan: www.wcva.org.uk ISBN 978-1-910340-11-0 Cyhoeddwyd Gorffennaf 2016 Mae’r adroddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

3

Cynnwys Cynnwys ..............................................................................................................................3 Cyflwyniad ...........................................................................................................................4

Diffiniadau ........................................................................................................................4 Disgrifiad o’r arolwg a dadansoddiad................................................................................4

Prif ystadegau ......................................................................................................................5

Gwirfoddoli ffurfiol .............................................................................................................5 Gwirfoddoli anffurfiol .........................................................................................................5

Gwirfoddoli ffurfiol ................................................................................................................7

Mathau o fudiadau ............................................................................................................8 Pobl sy’n pontio gwahanol weithgareddau ..................................................................... 10 Rhyw ac oedran.............................................................................................................. 11 Siroedd ........................................................................................................................... 13 Categorïau demograffig .................................................................................................. 15 Siaradwyr Cymraeg ........................................................................................................ 15 Casgliad ......................................................................................................................... 16

Gwirfoddoli anffurfiol .......................................................................................................... 17

Mathau o weithgarwch .................................................................................................... 17 Nifer y gweithgareddau yr ymgymerir â hwy ................................................................... 18 Rhyw .............................................................................................................................. 19 Oedran ........................................................................................................................... 20 Siroedd ........................................................................................................................... 21 Categorïau demograffig .................................................................................................. 22

Siaradwyr Cymraeg .........................................................................................................23 Casgliad ......................................................................................................................... 23

Pob math o wirfoddoli......................................................................................................... 24 Atodiad 1 ............................................................................................................................ 26

Nodyn technegol gan Beaufort Research ....................................................................... 26 Y cwestiynau .................................................................................................................. 26

Atodiad 2: Categorïau demograffig yr Arolwg Darllenwyr Cenedlaethol (NRS) .................. 28

4

Cyflwyniad Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau dau arolwg aelwydydd omnibws1 o oedolion yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2014 a Mawrth 2015 gan Beaufort Research ar ran WCVA. Cafodd arolwg 2014 ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Diffiniadau Mewn datganiad y mae Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y trydydd sector yng Nghymru wedi cytuno arno, disgrifir gwirfoddoli fel:

‘modd pwysig o fynegi dinasyddiaeth, a’i fod yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth. Ei hanfod yw ymrwymo amser ac egni er budd y gymdeithas a’r gymuned a gall fodoli mewn sawl ffurf. Ymgymerir ag ef o ddewis, heb ystyried elw ariannol.’ (Cynllun y Sector Gwirfoddol, 2000)

Gellir ei rannu’n ddau gysyniad: gwirfoddoli ffurfiol neu anffurfiol. Mae gwirfoddoli ffurfiol yn golygu gwirfoddoli â mudiad, boed hwnnw’n fudiad yn y sector gwirfoddol neu’n gorff cyhoeddus neu fusnes heb ei ddiffinio. Mae gwirfoddoli anffurfiol yn gwneud rhywbeth yn ddi-dâl fel unigolyn ar ran cymydog neu ffrind neu aelod o’ch cymuned, nad yw’n aelod agos o’ch teulu. Disgrifiad o’r arolwg a’r dadansoddiad Cynhaliwyd yr arolwg gan Beaufort Research, a cheir manylion am y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn Atodiad 1. Dylid nodi er bod yr arolwg yn gofyn i ymatebwyr a oeddent yn siarad Cymraeg, roedd yr arolwg ei hun wedi’i gynnal yn Saesneg. Mae gan Beaufort Research arolwg Omnibws yn y Gymraeg, ond oherwydd gwahaniaethau methodolegol, nid oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng y ddau. Mae’r arolwg wedi’i gyfyngu hefyd yn yr ystyr ei fod yn cynnwys pobl sy’n 16 oed neu hŷn. Felly nid yw’r gwirfoddoli a wneir gan lawer o bobl ifanc wedi’i gynnwys. Cafodd y cwestiynau a ddefnyddiwyd eu cymryd o holiadur peilot Arolwg Cenedlaethol Cymru. O’r herwydd cawsant eu rhoi ar brawf yn unol â safonau ystadegau cenedlaethol. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn Atodiad 1. Mae’r cwestiynau’n rhestru mudiadau neu weithgarwch penodol sy’n cael eu hawgrymu i’r ymatebwr. Trwy wneud hyn mae diffiniad o wirfoddoli’n cael ei bennu’n gynnil yn y cwestiwn. Mae hyn fel arfer yn arwain at ymateb uwch na’r math o gwestiwn sydd ddim ond yn gofyn ‘a ydych chi’n gwirfoddoli’. Tybir fod hyn yn digwydd am fod gan bobl ddiffiniad mwy cyfyng o wirfoddoli na’r ymchwilydd, neu am fod rhestru mathau o weithgarwch yn ysgogi’r cof. Cafodd y ddau arolwg eu cyfuno i roi cyfanswm o 2,034 o ymatebwyr. Cafodd pwysoliadau newydd eu cyfrifo a gwiriwyd am unrhyw wahaniaethau rhwng y ddau arolwg a gynhaliwyd. Ni chanfuwyd dim gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y ddau arolwg.

1 Mae arolwg omnibws yn ddull o gynnal ymchwil meintiol i’r farchnad lle mae data ar amrywiaeth o bynciau’n cael ei gasglu yn ystod yr un cyfweliadau.

5

Prif ystadegau

• Roedd 70.7% o oedolion wedi gwirfoddoli’n ffurfiol (gyda mudiad) neu’n anffurfiol (fel unigolyn) yng Nghymru yn y 12 mis diwethaf yn y ddau arolwg a oedd yn edrych ar 2013-2025. Mae hyn yn cyfateb i 1,793,749 o wirfoddolwyr, gyda 1,626,599 ohonynt wedi gwirfoddoli’n anffurfiol a 940,533 wedi gwirfoddoli’n ffurfiol.

• Mae 80% o oedolion wedi gwirfoddoli’n ffurfiol neu’n anffurfiol ar ryw adeg yn eu hoes. Mae

hyn yn cyfateb i 2,030,754 o oedolion yng Nghymru. Gwirfoddoli ffurfiol

• Mae cyfran sylweddol o oedolion yng Nghymru’n gwirfoddoli’n ffurfiol gyda mudiad (37%), gyda dros 900,000 o bobl yn gwirfoddoli yn y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn debyg i arolygon cyfatebol yn Lloegr.

• Mae grŵp o weithgareddau sy’n fwy cyffredin, gan gynnwys gwirfoddoli mewn

gweithgareddau plant o fewn a thu allan i’r ysgol, chwaraeon ac ymarfer corff, iechyd a gofal cymdeithasol, grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd. Mae o leiaf 130,000 o wirfoddolwyr ffurfiol yn cymryd rhan ym mhob un o’r gweithgareddau hyn. Mae rhwng chwarter a hanner y gwirfoddolwyr yn y grwpiau hyn yn canolbwyntio ar y gweithgarwch hwnnw’n unig.

• Mae mudiadau eraill sydd â llai o wirfoddolwyr: hawliau dynol, grwpiau dinasyddion a

gwleidyddol a gweithgarwch undebau llafur. Roedd llai na 40,000 o wirfoddolwyr yn gysylltiedig â phob un o’r gweithgareddau hyn. Mae’r gwirfoddolwyr hyn fel arfer yn gysylltiedig â grwpiau eraill, gydag o leiaf dri chwarter y gwirfoddolwyr yn gysylltiedig â gweithgareddau eraill.

• Mae gweithio mewn siopau elusen a chodi arian i elusennau yn rolau penodol yr

ymddengys sy’n apelio at grŵp o bobl sydd, ar y cyfan, yn gwneud y math hwn o wirfoddoli’n unig.

• Mae dynion a menywod yr un mor debygol o wirfoddoli’n ffurfiol, ac mae pobl 35-44 oed yn

fwy tebygol o wirfoddoli na phobl dros 65 oed, yn bennaf am eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n helpu addysg neu weithgareddau plant. Mae rhai gweithgareddau’n fwy tebygol o ddenu gwirfoddolwyr o oedran neu ryw penodol.

• Roedd rhanbarth, categori demograffig a’r gallu i siarad Cymraeg yn effeithio ar y

tebygrwydd y byddai unigolyn yn gwirfoddoli’n ffurfiol. Mae perthynas gymhleth rhwng y nodweddion cyffredinol hyn o bobl sy’n gwirfoddoli sy’n gofyn am ragor o ymchwil i’w deall yn well.

Gwirfoddoli anffurfiol

• Roedd bron i ddau draean yr oedolion yng Nghymru wedi gwirfoddoli’n anffurfiol yn 2013-15, gydag amcangyfrif o 1,626,789 o bobl yn helpu mewn rhyw ffordd yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn golygu cyfraniad sylweddol gan bobl Cymru at les eu cymdogion, eu ffrindiau a’u cymunedau. Mae’r gweithgareddau a restrwyd yn dangos bod gwirfoddoli anffurfiol yn cael effaith ar y galw am wasanaethau gan y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn enwedig o ran gofal i bobl hŷn a phobl agored i niwed. Mae hyn yn debyg i’r hyn a ganfuwyd mewn arolygon yn Lloegr.

6

• Nid yw pobl yn cymryd rhan mewn un yn unig o’r gweithgareddau a restrir, ond rhwng dau a thri, sy’n dangos amrywiaeth o ofal a help yn ystod y flwyddyn, fwy na thebyg i bobl wahanol.

• Y mathau mwyaf cyffredin o helpu a roddir yw mynd ar negeseuon, gofalu am blant, cadw

mewn cysylltiad ag unigolyn sy’n gaeth i’w gartref, darparu trafnidiaeth a rhoi cyngor. Mae o leiaf hanner miliwn o bobl yng Nghymru gwneud un o’r gweithgareddau hyn mewn blwyddyn.

• Mae rhai gweithgareddau (ysgrifennu llythyrau neu lenwi ffurflenni a chynrychioli eraill) fel

arfer yn cael eu gwneud gan bobl sy’n ymgymryd ag ystod ehangach o weithgareddau na phobl eraill.

7

Gwirfoddoli ffurfiol Mae arolygon 2014/15 yn dangos bod 37.0% o oedolion yng Nghymru wedi gwirfoddoli â mudiad yn y 12 mis diwethaf. Gan ddefnyddio’r amcangyfrif o boblogaeth canol blwyddyn 20142 mae hyn yn golygu bod 938,175 o bobl wedi gwirfoddoli â mudiad yn 2013-143. Mae hyn yn cael ei gymharu ag amcangyfrifon diweddar eraill yn Nhabl 1. Mae hyn yn cynnwys dau arolwg cyhoeddus:

• Yr Arolwg Dinasyddiaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU yng Nghymru a Lloegr rhwng 2004 a 2011 ac a oedd fel arfer yn cynnwys tua 500 o ymatebwyr o Gymru4. Roedd hwn yn gofyn cwestiwn wedi’i lunio mewn ffordd debyg ac roedd yn arolwg o aelwydydd a gynhaliwyd wyneb yn wyneb.

• Cynhaliwyd arolwg Peilot Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2009-10 (NSW 2009-10) gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr arolwg hwn yn cynnwys yr un cwestiynau ag a ofynnwyd yn yr arolwg hwn, ond cafodd ei gynnal gan ddefnyddio cymysgedd o gwestiynau’n cael eu hateb trwy holiaduron a oedd yn cael eu llenwi gan yr ymatebwyr a chyfweliadau wyneb yn wyneb.

Yr hyn sy’n arwyddocaol yma yw bod yr amcangyfrif yn debyg i’r un yn yr Arolwg Dinasyddiaeth, sef tua 900,000 o wirfoddolwyr. Mae’r amcangyfrif, fodd bynnag, yn sylweddol uwch na’r amcangyfrif yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Roedd hwn yn amcangyfrif bod 24% o oedolion yn gwirfoddoli â mudiad. Roedd yr arolwg hwn yn defnyddio’r un cwestiwn, ond roedd yn cael ei weinyddu trwy holiaduron a oedd yn cael eu cwblhau gan yr ymatebwyr yn ogystal â chyfweliadau wyneb yn wyneb. Nid yw holiaduron sy’n cael eu llenwi gan yr ymatebwyr yn rhoi cyfle i holi ymhellach ac ysgogi’r cof, a gall hynny fod yn rheswm am y canlyniad gwahanol. Hefyd, mae amcangyfrif arolwg o fudiadau a gynhaliwyd gan WCVA yn 2009 wedi’i gynnwys. Roedd yr arolwg a oedd yn cael ei gwblhau gan yr ymatebwyr yn gofyn faint o wirfoddolwyr sydd ganddynt. Roedd y dull hwn yn rhoi amcangyfrif o nifer y swyddi gwirfoddol yn hytrach na nifer y gwirfoddolwyr. Gall fod yn amcangyfrif rhy uchel (gan fod rhai pobl yn gwirfoddoli â mwy nag un mudiad), neu gall fod yn rhy isel (am fod rheolwyr gwirfoddolwyr yn cynnwys gwirfoddolwyr cofrestredig neu reolaidd ond heb gynnwys gwirfoddolwyr sy’n helpu’n achlysurol yn unig). Mae’r arolwg o fudiadau’n rhoi amcangyfrif is nag unrhyw arolwg o unigolion, a dylid edrych arno efallai fel nifer y gwirfoddolwyr rheolaidd. Tabl 1: Amcangyfrifon o nifer y gwirfoddolwyr ffurfiol yng Nghymru

Arolwg Nifer yr ymatebwyr Amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr

2014 a 2015 wedi’u cyfuno 2,034 o unigolion 938,732 Arolwg Dinasyddiaeth 2009-10 513 o unigolion 974,223 Arolwg Dinasyddiaeth 2010-11 566 o unigolion 881,042 Arolwg peilot Arolwg Cenedlaethol Cymru 2009-10 6,400 o unigolion 590,026

Arolwg gwirfoddoli WCVA 2009 872 o fudiadau 408,000

2 Amcangyfrifon Poblogaeth Canol 2014; amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl yn ôl oedran a rhyw mewn un flwyddyn. Mae nifer yr oedolion 16 oed neu hŷn yn 2,537,195. 3 Mae cyfwng yr amcangyfrif rhwng 884,907 a 991,443 (cyfwng hyfder o 95%). Mae hyn yn cymharu â chyfwng o 869,574 a 1,021,073 ar gyfer arolwg 2014 ar ei ben ei hun, lle’r oedd 1,012 o ymatebwyr. 4 Cafwyd y data o Archif Ddata’r DU.

8

Mae’r Arolwg Bywyd Cymunedol cyfoes ar gyfer Lloegr (sydd wedi disodli’r Arolwg Dinasyddiaeth ac sy’n defnyddio’r un cwestiynau) yn dangos bod 42% o oedolion yn gwirfoddoli â mudiad5. Er bod hyn ychydig yn uwch na’r ffigur ar gyfer Cymru, mae’r cyfeiliornad o ganlyniad i samplo ym mhob arolwg yn golygu nad yw’r gwahaniaeth yn arwyddocaol. Mathau o fudiadau Roedd y mathau o fudiadau roedd pobl yn gwirfoddoli â hwy’n amrywiol iawn (Tabl 2). Y mathau mwyaf poblogaidd o fudiadau oedd addysg plant / ysgolion, gweithgareddau plant / pobl ifanc (y tu allan i’r ysgol), chwaraeon / ymarfer corff (hyfforddi ac ati), Iechyd, anabledd a lles cymdeithasol, grwpiau cymunedol neu gymdogaeth a chrefyddol. Gallai pobl nodi mwy nag un math o fudiad, felly nid yw nifer y gwirfoddolwyr yr un faint â’r cyfanswm. Mae’r un grŵp o weithgareddau’n cael ei sgorio fel y mwyaf poblogaidd yn arolygon NSW 2009-106 a Byw yng Nghymru (LiW) yn 2005-067, gyda hobïau / hamdden / y celfyddydau / clybiau cymdeithasol wedi’u hychwanegu yn y NSW. Am fod dulliau gwahanol wedi’u defnyddio yn yr arolygon mae’n anodd dod i unrhyw gasgliadau ynglŷn â newidiadau dros amser. Mae’r arolwg Oedolion Egnïol, a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru, yn defnyddio arolwg aelwydydd i amcangyfrif ymgysylltiad pobl yng Nghymru mewn gweithgarwch corfforol a mudiadau chwaraeon. Mae arolwg 20148 yn dangos bod 9.1% o oedolion yn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd â chlwb chwaraeon. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r 6.3% a nodwyd yn yr arolwg hwn. Roedd gan yr Arolwg Oedolion Egnïol 13,143 o ymatebwyr, felly hwn yw’r amcangyfrif mwyaf dibynadwy. Gellir priodoli’r gwahaniaeth o bosibl i’r dulliau gwahanol a ddefnyddiwyd yn yr arolygon, y ffaith bod yr arolwg Oedolion Egnïol yn holi am aelodaeth o flaen gwirfoddoli neu am fod gwahanol weithgareddau wedi’u cynnwys. Er enghraifft, roedd y dadansoddiad o weithgareddau ar gyfer gwirfoddolwyr chwaraeon (yn yr Arolwg Oedolion Egnïol) yn cynnwys gweinyddu, hyfforddi, arlwyo, trafnidiaeth, dyfarnu a stiwardio. Mae gan fudiadau eraill lai o wirfoddolwyr: hawliau dynol, grwpiau dinasyddion a gwleidyddol a gweithgarwch undebau llafur. Mae’r grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod wedi’u hanelu at newid cymdeithasol ac mae gwirfoddolwyr yn debygol o fod yn weithredwyr. Mae gweithio mewn siopau elusen a chodi arian i elusennau’n rolau penodol sy’n apelio at bobl sy’n arbennig o frwd dros achos arbennig.

5 Arolwg Bywyd Cymunedol (2014-15) Datganiad Ystadegol i’r Wasg, Swyddfa’r Cabinet https://www.gov.uk/government/publications/community-life-survey-2014-to-2015-statistical-analysis 6 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2011) 2009-10 peilot ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru: Dadansoddiad pellach, Bwletin Ystadegol 14/2011 7 Collis, B.E. (2008) Gwirfoddoli yng Nghymru: dadansoddiad o arolygon Byw yng Nghymru 2004-2006, Caerdydd: WCVA 8Chwaraeon Cymru (2014) Oedolion Egnïol 2014, Cyflwr y Genedl, cyrchwyd yn http://sport.wales/ymchwil-a-pholisi/arolygon-ac-ystadegau/ystadegau.aspx?lang=cy&

9

Tabl 2: Mathau o fudiadau sy’n cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr

Math o fudiad

% o’r boblogaeth

sy’n oedolion

Cyfwng hyder 95%9

Nifer y gwirfoddolwyr

% o’r holl wirfoddolwyr

Addysg plant / ysgolion 8.2 1.2 207,125 22.1 Gweithgareddau plant / pobl ifanc (y tu allan i’r ysgol) 6.8 1.1 172,662 18.4

Chwaraeon / ymarfer corff (hyfforddi ac ati) 6.3 1.1 161,108 17.2

Iechyd, anabledd a lles cymdeithasol 6.1 1.0 154,189 16.4

Grwpiau cymunedol neu gymdogaeth 6.0 1.0 152,394 16.2

Crefyddol 5.2 1.0 131,810 14.0 Hobïau \ hamdden \ y celfyddydau \ clybiau cymdeithasol 5.1 1.0 129,591 13.8

Pobl hŷn 4.7 0.9 118,146 12.6

Yr amgylchedd, anifeiliaid 3.3 0.8 82,527 8.8

Diogelwch, Cymorth Cyntaf 2.6 0.7 67,186 7.2

Addysg i oedolion 2.4 0.7 60,650 6.5

Cyfiawnder a Hawliau Dynol 1.4 0.5 34,542 3.7

Grwpiau dinasyddion 1.3 0.5 31,886 3.4

Gwleidyddol 1.0 0.4 24,957 2.7

Gweithgarwch undebau llafur 0.9 0.4 22,291 2.4

Gweithio mewn siop elusen 0.6 0.3 15,522 1.7

Codi arian i elusennau 0.4 0.3 11,000 1.2

Arall 1.9 0.6 48,783 5.2

Pob un 37.0 2.1 938,732

9 Mae’r cyfwng hyder o 95% yn ganran y gellir ei hadio neu ei thynnu o ganran y boblogaeth sy’n oedolion i roi cyfwng ar gyfer y canran sydd â thebygolrwydd o 95% o fod yr union ganran. Felly yn achos pob gwirfoddoli ffurfiol, mae’r cyfwng yn 37.0+/-2.1, neu rhwng 34.9 a 39.1%. Mae hyn yn cyfateb i nifer o wirfoddolwyr rhwng 885,496 a 991,968.

10

Pobl sy’n pontio gwahanol weithgareddau Roedd 58% o wirfoddolwyr yn gwirfoddoli ag un grŵp gweithgarwch, tra’r oedd 42% o wirfoddolwyr (391,542 o bobl) yn gwirfoddoli mewn mwy nag un math o grŵp. Dywedodd ymatebwyr eu bod yn gwirfoddoli mewn hyd at naw gweithgarwch gwahanol (allan o 18 math, Ffigur 1). Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn gweithredu fel pont rhwng gwahanol fathau o grwpiau a chymunedau yn eu hardal. Mae gan rai gweithgareddau gyfran uwch nag eraill o wirfoddolwyr sydd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill (Ffigur 2). Felly, o’r 207,000 o wirfoddolwyr sy’n helpu mewn ysgolion, mae 42% ohonynt yn gwneud y math hwn o weithgarwch yn unig. Ar y ddau begwn, mae 83% o wirfoddolwyr siopau elusen a 75% o godwyr arian i elusennau yn gwneud y math hwn o wirfoddoli’n unig, tra bod dros 80% o bobl sy’n gwirfoddoli mewn grwpiau dinasyddion neu grwpiau cyfiawnder neu hawliau dynol yn gwirfoddoli hefyd mewn o leiaf un math arall o grŵp. Ffigur 1: Gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn mwy nag un math o weithgarwch

0

10

20

30

40

50

60

1 2 3 4 5 6 7 8 9

Canr

an y

r hol

l wirf

oddo

lwyr

Nifer y gwahanol fathau o weithgarwch

11

Ffigur 2: Cyfraniad gwirfoddolwyr yn ôl grŵp gweithgarwch

Rhyw ac oedran Dengys yr arolwg fod dynion ychydig yn fwy tebygol o wirfoddoli na menywod, er nad yw’r gwahaniaeth yn arwyddocaol (37.6% o’i gymharu â 36.6%, Tabl 3). Pobl 35-44 oed sydd fwyaf tebygol o wirfoddoli, gyda 46.3% yn dweud eu bod yn gwneud hynny. Mae pobl hŷn (65+ oed) yn llai tebygol o wirfoddoli, gyda 30.7% yn dweud eu bod yn gwneud. Yn gyffredinol, mae’r gwahaniaeth rhwng grwpiau oedran yn arwyddocaol rhwng y grwpiau 65+ a 35-44 oed (yr uchaf a’r isaf) yn unig; nid yw pob grŵp oedran arall yn sylweddol wahanol i unrhyw grŵp oedran arall.

Addysg plant / ysgolion

Gweithgareddau Plant / Ieuenctid (y tu allan …

Chwaraeon / ymarfer corff (hyfforddi ac ati)

Grwpiau cymunedol neu gymdogaeth

Iechyd / anabledd a lles cymdeithasol

Hobïau / hamdden / y celfyddydau / clybiau …

Crefyddol

Pobl hŷn

Yr amgylchedd, anifeiliaid

Addysg i Oedolion

Diogelwch, Cymorth Cyntaf

Arall

Cyfiawnder a Hawliau Dynol

Grwpiau Dinasyddion

Gwleidyddol

Gweithgarwch undebau llafur

Gweithio mewn siop elusen

Codi arian i elusennau

Yr unig weithgarwch Dau weithgarwch Tri gweithgarwch neu fwy

12

Tabl 3: Canran y boblogaeth sy’n gwirfoddoli’n ffurfiol, yn ôl oedran a rhyw Canran Oed

16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+ Pob un

Rhyw

Dynion 36.5 41.6 48.2 32.5 37.7 32.0 37.6

Menywod 42.2 34.9 44.6 35.1 38.7 29.3 36.6

Pawb 39.1 38.1 46.3 33.8 38.3 30.7 37.1 Ffigur 3: Proffil rhyw ac oedran gwirfoddolwyr yng Nghymru

Pan fo amcangyfrifon yn cael eu mynegi fel niferoedd o wirfoddolwyr (Ffigur 3), mae anghydbwysedd disgwyliedig o blaid gwirfoddolwyr benywaidd hŷn, sy’n adlewyrchu’r nifer uwch o fenywod hŷn yn y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd hoffterau sy’n gysylltiedig ag oedran a rhyw ar gyfer y mathau o wirfoddoli sy’n cael ei wneud:

• Roedd dynion yn fwy tebygol o wirfoddoli mewn chwaraeon / ymarfer corff na menywod (9.5% o’i gymharu â 3.2%).

• Mae menywod yn fwy tebygol o wirfoddoli mewn addysg (10.3% o’i gymharu â 5.6 i ddynion).

• Roedd pobl o dan 65 oed yn llai tebygol o wirfoddoli mewn addysg plant / ysgolion ac mewn chwaraeon / ymarfer corff na rhai 55+ oed (addysg plant: 14.5% o rai 35-44 oed o’i gymharu â 3.9% o rai 65+ oed; chwaraeon / ymarfer corff: 11.5% o rai 16-24 oed o’i gymharu â 2.3 o rai 65+).

16-24

25-34

35-44

45-54

55-64

65+

Nifer y gwirfoddolwyr

Gwrywaidd

Benywaidd

13

• Roedd pobl hŷn yn fwy tebygol o wirfoddoli mewn gweithgareddau crefyddol a grwpiau cymunedol (crefyddol: 7.9% o rai 55-64 o’i gymharu â 2.9 o rai 16-24; grwpiau cymunedol: 10.2% o rai 45-54 o’i gymharu â 3.6 o rai 16-24).

Gellir priodoli’r gyfran uwch o wirfoddoli ymhlith rhai 35-44 oed i wirfoddoli sy’n gysylltiedig â phlant: mae 9.7% o’r grŵp oedran hwn yn gwirfoddoli mewn addysg plant yn yr ysgol neu weithgareddau plant y tu allan i’r ysgol yn unig. Os na fyddai’r rhain yn cael eu cynnwys, yna byddai cyfran y grŵp oedran hwn sy’n gwirfoddoli yn 36.6. Mae’r mathau hyn o wahaniaethau mewn ymddygiad gwirfoddoli rhwng dynion a menywod a phobl o wahanol oedrannau wedi cael ei amlygu o’r blaen mewn arolygon yng Nghymru a Lloegr10. Siroedd Mae’r arolygon cyfun yn gallu rhoi amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr ym mhob awdurdod lleol (Tabl 4). Dangosir y rhain hefyd ar ffurf graff (Ffigur 4) mewn trefn esgynnol. Roedd gwahaniaethau sylweddol rhwng awdurdodau lleol â’r canrannau uchaf ac isaf o oedolion sy’n gwirfoddoli’n ffurfiol: Sir Fynwy a Phowys oedd â’r canrannau uchaf (63.3 a 58.3%) a Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot â’r isaf (20.0 a 20.5%). Mae’r cyfyngau hyder yn eithaf mawr mewn nifer o ardaloedd, sy’n dangos nifer is y bobl a holwyd yn yr ardaloedd hyn (mae’r cyfwng mwyaf ym Merthyr Tudful, lle holwyd 30 yn unig o bobl, ac mae’r cyfwng hyfer rhwng 28.8 a 64.5%. Nid yw hwn yn amcangyfrif dibynadwy). Ffigur 4: Canran y boblogaeth sy’n oedolion sy’n gwirfoddoli’n ffurfiol, yn ôl awdurdod lleol

10 Collis, B.E. (2008) Gwirfoddoli in Wales: dadansoddiad o’r arolygon Byw yng Nghymru 2004-2006, Caerdydd: WCVA N Low, S Butt, A Ellis Payne a JD Smith (2007) Helping out: a national survey of gwirfoddoli and charitable giving, Swyddfa’r Trydydd Sector, Swyddfa’r Cabinet

0

10

20

30

40

50

60

70

80

Canr

an o

'r bo

blog

aeth

16+

oed

14

Tabl 4: Nifer y gwirfoddolwyr yn ardaloedd awdurdodau lleol Cymru % o’r

boblogaeth sy’n

oedolion

Cyfwng hyder 95%11

Nifer yr

ymatebion Nifer y

gwirfoddolwyr % o’r holl

wirfoddolwyr

Ynys Môn 46.2 13.4 53 26,817 2.9 Gwynedd 28.6 10.6 70 28,960 3.1 Conwy 23.8 9.2 83 23,179 2.5 Sir Ddinbych 40.0 12.3 61 31,060 3.3 Sir y Fflint 41.2 9.6 102 51,629 5.5 Wrecsam 29.5 9.5 88 32,624 3.5 Powys 58.3 9.9 96 64,611 6.9 Ceredigion 41.9 12.3 62 27,007 2.9 Sir Benfro 20.0 10.1 60 20,415 2.2 Sir Gaerfyrddin 33.8 8.2 128 51,535 5.5 Abertawe 42.5 7.3 175 84,975 9.1 Castell-nedd Port Talbot 20.5 8.4 89 23,723 2.5

Pen-y-bont ar Ogwr 43.9 10.7 82 50,813 5.5 Rhondda Cynon Taf 40.5 7.4 168 77,995 8.4 Bro Morgannwg 38.1 10.4 84 39,628 4.3 Caerdydd 40.4 6.4 229 116,626 12.5 Caerffili 30.0 8.9 101 43,730 4.7 Merthyr Tudful12 46.7 17.9 30 22,422 2.4 Blaenau Gwent 21.4 10.7 57 12,306 1.3 Torfaen 25.0 10.5 65 18,671 2.0 Sir Fynwy 63.3 12.1 61 48,588 5.2 Casnewydd 28.9 9.4 89 33,948 3.6 Cymru 37.0 2.1 2,034 931,26113 Dangosodd yr arolwg Byw yng Nghymru 2005-0614 hefyd amrywiad rhanbarthol yng nghyfran y bobl sy’n gwirfoddoli, ond roedd y patrymau’n wahanol ac nid yw’n ymddangos bod unrhyw dueddiadau’n dod i’r amlwg.

11 Mae’r cyfwng hyder o 95% yn ganran y gellir ei hadio neu ei thynnu o ganran y boblogaeth sy’n oedolion i roi cyfwng ar gyfer y canran sydd â thebygolrwydd o 95% o fod yr union ganran. Felly yn achos pob gwirfoddoli ffurfiol, mae’r cyfwng yn 37.0+/-2.1, neu rhwng 34.9 a 39.1%. Mae hyn yn cyfateb i nifer o wirfoddolwyr rhwng 885,496 a 991,968. 12 Mae nifer isel y bobl a holwyd yn yr ardal hon yn golygu nad yw’r amcangyfrif hwn yn ddibynadwy. 13 Mae’r cyfanswm hwn yn wahanol i nifer y gwirfoddolwyr a gyfrifwyd o’r data cyfan (938,732) oherwydd talgrynnu yn y cyfrifiadau. 14 Collis, B.E. (2008) Gwirfoddoli yng Nghymru: dadansoddiad o’r arolygon Byw yng Nghymru 2004-2006, Caerdydd: WCVA

15

Ffigur 5: Canran yr oedolion o gategorïau demograffig sy’n gwirfoddoli’n ffurfiol

Categorïau demograffig Cafodd ymatebwyr eu grwpio’n gategorïau (AB, C1, C2, D ac E) sy’n adlewyrchu’r gallu i ennill cyflog, addysg a statws cymdeithasol (Atodiad 2). Roedd ymatebwyr o’r grŵp AB, gyda’r gallu i ennill mwy, cyrhaeddiad addysgol a statws cymdeithasol uwch yn fwy tebygol o wirfoddoli na rhai â llai o allu i ennill, a chyrhaeddiad addysgol a statws cymdeithasol is (49.7% o’i gymharu â 27.9% ar gyfer grŵp E, Ffigur 5). Mae pobl yn y grŵp AB sydd fwyaf tebygol o fod yn gysylltiedig â gwirfoddoli addysgol mewn ysgolion (14.7%), grwpiau cymunedol (10.3 %) neu weithgareddau y tu allan i ysgol plant (9.6%). Pobl yn y grŵp C1 oedd fwyaf tebygol o wirfoddol mewn chwaraeon / ymarfer corff (9.2%). Pobl yn y grwpiau C2 a D oedd fwyaf tebygol o wirfoddol mewn gwirfoddoli addysgol mewn ysgolion (6.6 a 7.6% yn y drefn honno) a phobl yn y grŵp E oedd fwyaf tebygol o wirfoddoli mewn Iechyd, anabledd a lles cymdeithasol (7.0%). Mae arolygon eraill (LiW 2005-06 a NSW 2009-10) hefyd wedi dangos gwahaniaethau yn y tebygrwydd y bydd pobl yn gwirfoddoli yn seiliedig ar ffactorau cymdeithasol, addysgol ac incwm. Ar y cyfan, mae pobl â gwell addysg, mwy cyfoethog neu berchen-feddianwyr yn fwy tebygol o wirfoddoli’n ffurfiol. Siaradwyr Cymraeg Roedd ymatebwyr a oedd yn siarad Cymraeg yn llawer mwy tebygol o wirfoddoli (44.6% o’i gymharu â 34.1%). Er bod y ganran a ddywedodd eu bod yn gwirfoddoli yn y rhan fwyaf o weithgareddau yn uwch ymhlith siaradwyr Cymraeg, roedd yn arwyddocaol mewn gwirfoddoli chwaraeon / ymarfer corff yn unig (9.2% o’i gymharu â 5.2%) a grwpiau cymunedol (8.6% o’i gymharu â 5.0%). Mae’r canlyniad cyffredinol hwn yn ategu arolygon blaenorol, ond nid yw’r cysylltiad rhwng siaradwyr Cymraeg â gweithgareddau crefyddol a welwyd yn y LiW yn 2005-06 i’w weld yma.

0

10

20

30

40

50

60

AB C1 C2 D E

Y ga

nran

sy'n

gw

irfod

doli'

n ff

urfio

l

Categori Demograffig

16

Casgliad Mae cyfran sylweddol o oedolion yng Nghymru’n cymryd rhan mewn gweithgarwch gwirfoddol ffurfiol â mudiadau (37%), gyda mwy na 900,000 o bobl wedi gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn debyg i’r hyn a ganfuwyd mewn arolygon cyfatebol yn Lloegr. Mae grŵp o weithgareddau sy’n fwy cyffredin na’r lleill, gan gynnwys gwirfoddoli mewn gweithgareddau plant, y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol, chwaraeon ac ymarfer corff, iechyd a gofal cymdeithasol, grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd. Mae o leiaf 130,000 o wirfoddolwyr ffurfiol yn gysylltiedig â phob un o’r gweithgareddau hyn. Mae rhwng chwarter a hanner y gwirfoddolwyr yn y grwpiau hyn yn canolbwyntio ar y gweithgarwch hwnnw’n unig. Mae mudiadau eraill sydd â llai o wirfoddolwyr: hawliau dynol, grwpiau dinasyddion a gwleidyddol a gweithgarwch undebau llafur. Mae llai na 40,000 o wirfoddolwyr yn gysylltiedig â phob un o’r gweithgareddau hyn. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn aml yn gysylltiedig â grwpiau eraill, gydag o leiaf dri chwarter y gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Mae gweithio mewn siopau elusen a chodi arian i elusennau yn rolau penodol sy’n apelio mae’n debyg at grŵp o bobl sydd, gan amlaf, yn gwneud y math hwn o wirfoddoli’n unig. Mae dynion a menywod yr un mor debygol o wirfoddoli’n ffurfiol, ac mae pobl 35-44 oed yn fwy tebygol o wirfoddoli na phobl dros 65 oed, yn bennaf am eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n helpu addysg neu weithgareddau plant. Mae rhai gweithgareddau’n fwy tebygol o ddenu gwirfoddolwyr o oedran neu ryw penodol. Roedd rhanbarth, categori demograffig a’r gallu i siarad Cymraeg yn effeithio ar ba mor debygol yw unigolyn o wirfoddoli’n ffurfiol. Mae perthynas gymhleth rhwng nodweddion cyffredinol y bobl sy’n gwirfoddoli ac mae angen rhagor o ymchwil i’w deall yn well.

17

Gwirfoddoli anffurfiol Gyda’i gilydd, dywedodd 64.1% o oedolion eu bod yn gwirfoddoli’n anffurfiol. Mae hyn yn rhoi amcangyfrif o 1,626,789 o wirfoddolwyr anffurfiol yng Nghymru15 yn 2014-15. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r hyn a welwyd mewn arolygon eraill yng Nghymru (Tabl 5). Fodd bynnag, mae’r Arolwg Dinasyddiaeth a’r Arolwg Bywyd Cymunedol yn Lloegr yn rhoi cyfres amser o ddata rhwng 2001 a 2014 sy’n dangos canran weddol sefydlog o wirfoddolwyr sy’n gwirfoddoli’n anffurfiol rhwng 2001 a 2008 o 62-68% sydd wedyn yn gostwng i tua 55 % yn 2009-2011 ac sydd wedyn yn dychwelyd i 59-64% un 2012-2015. Mae’n ymddangos bod patrwm tebyg yn bodoli yng Nghymru. Tabl 5: Amcangyfrifon o nifer y gwirfoddolwyr anffurfiol yng Nghymru

Arolwg Nifer yr ymatebwyr Amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr

Yr arolwg hwn, 2014-15 2,034 o unigolion 1,626,789 Arolwg Dinasyddiaeth 2009-10 513 o unigolion 1,374,965

Arolwg Dinasyddiaeth 2010-11 566 o unigolion 1,427,514

Arolwg Cenedlaethol Cymru, arolwg peilot 2009-10 6,400 o unigolion 1,081,714

Mathau o weithgarwch Mae natur gwirfoddoli anffurfiol yn golygu y gall y gweithgarwch amrywio o flwyddyn i flwyddyn wrth i anghenion ffrindiau a chymdogion newid. Fodd bynnag, dylai lefel gyffredinol gwirfoddoli anffurfiol adlewyrchu newidiadau cyffredinol i anghenion pobl mewn cymunedau yng Nghymru. Gellid disgwyl wrth i’r boblogaeth heneiddio y bydd mwy a mwy o bobl yn helpu eu cymdogion. Y mathau mwyaf cyffredin o help a roddir yw mynd ar negeseuon, gofalu am blant, cadw mewn cysylltiad â rhywun sy’n gaeth i’w gartref, darparu trafnidiaeth a rhoi cyngor. Mae o leiaf hanner miliwn o bobl yng Nghymru’n gwneud un o’r gweithgareddau hyn mewn blwyddyn (Tabl 6). Ni fydd y canrannau a nifer y gwirfoddolwyr yn adio i roi’r cyfanswm ‘Pob Un’ gan fod ymatebwyr yn gallu nodi mwy nag un math o weithgarwch. Dangosodd peilot Arolwg Cenedlaethol Cymru 2009-10 mai’r un gweithgareddau yw’r rhai mwyaf cyffredin, ond roedd y drefn yn wahanol, a chadw mewn cysylltiad ag unigolyn sy’n gaeth i’w gartref oedd y mwyaf cyffredin. Roedd hyn yn cael ei wneud gan tua’r un nifer o bobl ag a gofnodwyd yma (tua 550,000). Mae angen dadansoddiad pellach i ddeall y gwahanol batrymau yn y ddau arolwg.

15 Mae cyfwng yr amcangyfrif rhwng 1,664,329 a 1,810,237 (cyfwng hyder o 95%).

18

Tabl 6: Mynychder y gwahanol fathau o weithgarwch gwirfoddoli anffurfiol Gweithgarwch gwirfoddoli % o’r

boblogaeth sy’n

oedolion

Cyfwng hyder o 95%16

Nifer y

gwirfoddolwyr

% o’r holl

wirfoddolwyr

Siopa, casglu pensiwn neu dalu biliau 24.5 3.8 621,370 38.2

Gwarchod neu ofalu am blant 23.5 3.8 595,493 36.6 Cadw mewn cysylltiad â rhywun sy’n cael anhawster mynd allan 21.2 3.9 538,321 33.1

Cludo neu hebrwng rhywun (er enghraifft i ysbyty, neu ar drip) 19.9 3.9 504,513 31.0

Rhoi cyngor 19.5 3.9 495,861 30.5 Coginio, glanhau, golchi dillad, garddio neu dasgau eraill yn y cartref

15.7 4.0 398,489 24.5

Gofalu am eiddo neu anifail anwes pan fydd rhywun i ffwrdd 14.7 4.0 373,796 23.0

Ysgrifennu llythyrau neu lenwi ffurflenni 14.0 4.0 355,241 21.8

Addurno, neu waith trwsio i’r cartref neu gar 10.3 4.1 261,938 16.1

Eistedd gyda neu ddarparu gofal personol 8.6 4.2 218,503 13.4

Cynrychioli rhywun 6.3 4.2 160,287 9.9 Hyfforddi \ mentora plant a phobl ifanc (gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog)

0.5 4.3 11,759 0.7

Arall 0.6 4.3 15,580 1.0 Pob un 64.1 3.5 1,626,789 100.0

Nifer y gweithgareddau yr ymgymerir â hwy Mae dau draean o wirfoddolwyr anffurfiol yn helpu mewn mwy nag un ffordd. Ar gyfartaledd nododd ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn gwirfoddoli’n anffurfiol eu bod yn gwneud rhwng dau a thri o’r gweithgareddau (cymedr = 2.8 o weithgareddau o blith y rhai sy’n gwirfoddoli’n anffurfiol). Nododd nifer fach (0.3%) 11 o’r dewisiadau oedd ar gael (12 o weithgareddau ac ‘arall’). Dangosir hyn yn Ffigur 6. Mae un o bob pump o bobl sy’n gwarchod plant yn gwarchod plant yn unig, tra bod llai nag un mewn 20 o bobl sy’n cynrychioli eraill yn cynrychioli eraill yn unig. Mae hyn yn awgrymu bod hierarchaeth o weithgareddau gyda rhai’n cael eu gwneud gan ychydig sydd hefyd yn gwneud llawer o bethau eraill.

16 Mae’r cyfwng hyder o 95% yn ganran y gellir ei hadio neu ei thynnu o ganran y boblogaeth sy’n oedolion i roi cyfwng ar gyfer y canran sydd â thebygolrwydd o 95% o fod yr union ganran. Felly yn achos pawb sy’n siopa ac ati, mae’r cyfwng yn 24.5+/-3.8, neu rhwng 20.7 a 27.3%. Mae hyn yn cyfateb i nifer o wirfoddolwyr rhwng 440,452 a 636,190.

19

Ffigur 6: Nifer y mathau o weithgareddau gwirfoddoli anffurfiol a wnaethpwyd yn y 12 mis diwethaf

Tabl 7: Canran y boblogaeth sy’n gwirfoddoli’n anffurfiol, yn ôl oed a rhyw Canran y Oedran

16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+ Pob un

Rhyw

Dynion 56.8 64.9 59.0 69.1 60.4 59.4 61.5

Menywod 67.7 68.3 72.8 70.1 77.0 52.6 66.5

Pawb 61.9 66.7 66.3 69.6 70.1 55.9 64.1 Rhyw Mae dynion a menywod yr un mor debygol o wirfoddoli’n anffurfiol (Tabl 7). Fodd bynnag, mae rhai gweithgareddau penodol sy’n cael eu gwneud gan fenywod yn bennaf (siopa, casglu pensiwn neu dalu biliau: 28.9% o’i gymharu â 19.8%; gwarchod neu ofalu am blant: 31.5% o’i gymharu â 14.8%). Mae addurno neu drwsio yn y tŷ neu’r car yn fwy tebygol o gael ei wneud gan ddynion (13.8% o’i gymharu â 7.1%). Dangosir y rhain yn Ffigur 7.

0

5

10

15

20

25

30

35

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11

Canr

an

Nifer y mathau o weithgareddau

20

Ffigur 7: Dosbarthiad gweithgareddau gwirfoddoli anffurfiol yn ôl rhyw

Oedran Mae pobl 65+ oed yn llai tebygol o wirfoddoli’n anffurfiol na rhai 25-64 oed (Tabl 7). Mae hyn i’w weld ar y cyfan ym mhob math o wirfoddoli anffurfiol. Y dosbarthiad mwyaf trawiadol sy’n gysylltiedig ag oedran yw gwarchod neu ofalu am blant, lle mae’r tebygrwydd ar ei uchaf yn y grŵp oedran 25-34 (Ffigur 8).

Siopa, casglu pensiwn neu dalu biliau

Gwarchod neu ofalu am blant

Cadw mewn cysylltiad â rhywun sy’n cael anhawster mynd allan

Cludo neu hebrwng rhywun (er enghraifft i ysbyty neu ar drip)

Rhoi cyngor

Coginio, glanhau, golchi dillad, garddio neu dasgau eraill yn y cartref

Gofalu am eiddo neu anifail anwes pan fydd rhywun i ffwrdd

Ysgrifennu llythyrau neu lenwi ffurflenni

Addurno, neu wneud unrhyw fath o waith trwsio yn y cartref neu’r car

Eistedd gyda neu ddarparu gofal personol

Cynrychioli rhywun

Hyfforddi / mentora plant a phobl ifanc (gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog)

Nifer y bobl sy'n gwirfoddoli Gwryw Benyw

21

Ffigur 8: Canran y grwpiau oedran sy’n gwarchod neu’n gofalu am blant

Ffigur 9: Canran y boblogaeth 16+ oed sy’n gwirfoddoli’n anffurfiol

Siroedd Mae amrywiadau sylweddol yng nghyfran yr oedolion sy’n gwirfoddoli’n anffurfiol ledled Cymru (Tabl 8 a Ffigur 9) gyda Sir Ddinbych â’r gyfran uchaf (83.9%) a Blaenau Gwent yr isaf (35.7%).

0

5

10

15

20

25

30

35

40

16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+

Y ga

nran

sy'n

gw

irfod

doli

Grŵp oedran

0 10 20 30 40 50 60 70 80 90

100

Canr

an y

bob

loga

eth

16+

oed

22

Tabl 7: Nifer y gwirfoddolwyr anffurfiol yn ôl ardaloedd awdurdodau lleol

% y boblogaeth

sy’n oedolion

Cyfwng hyfer o 95%17

Nifer yr

ymatebion Nifer y

gwirfoddolwyr % yr holl

wirfoddolwyr

Ynys Môn 65.4 12.9 53 72,198 4.4 Gwynedd 51.4 11.7 70 64,484 4.0 Conwy 47.6 10.7 83 36,976 2.3 Sir Ddinbych 83.9 9.2 61 81,650 5.0 Sir y Fflint 68.6 9.0 102 39,875 2.5 Wrecsam 59.1 10.3 88 59,895 3.7 Powys 75.0 8.7 96 83,071 5.1 Ceredigion 74.2 10.9 62 47,781 2.9 Sir Benfro 41.4 12.7 60 63,005 3.9 Sir Gaerfyrddin 53.1 8.6 128 54,228 3.3 Abertawe 59.1 7.3 175 118,067 7.3 Castell-nedd Port Talbot 61.4 10.2 89 71,168 4.4

Pen-y-bont ar Ogwr 75.6 9.3 82 87,511 5.4 Rhondda Cynon Taf 76.2 6.4 168 146,814 9.0 Bro Morgannwg 76.2 9.1 84 36,608 2.2 Caerdydd 68.4 6.0 229 99,734 6.1 Caerffili 48.0 9.8 101 27,564 1.7 Merthyr Tudful18 73.3 15.8 30 54,768 3.4 Blaenau Gwent 35.7 12.5 57 27,399 1.7 Torfaen 68.8 11.4 65 80,790 5.0 Sir Fynwy 77.4 10.4 61 80,535 4.9 Casnewydd 64.4 9.9 89 186,264 11.4 Cymru 64.1 2.1 2,034 1,627,304 Categorïau demograffig Cafodd ymatebwyr eu grwpio mewn categorïau (AB, C1, C2, D ac E) sy’n adlewyrchu’r gallu i ennill, addysg a statws cymdeithasol (Atodiad 2). Nid oedd dim gwahaniaethau arwyddocaol rhwng cyfran y bobl oedd yn gwirfoddoli, gyda’r cyfwng yn 58.9 ar gyfer categori E a 68.4 ar gyfer categori AB. Dangosodd arolwg peilot NSW 2009-10 fod gwirfoddoli anffurfiol yn cael ei effeithio gan ddeiliadaeth tai'r ymatebwr.

17 Mae’r cyfwng hyder o 95% yn ganran y gellir ei hadio neu ei thynnu o ganran y boblogaeth sy’n oedolion i roi cyfwng ar gyfer y canran sydd â thebygolrwydd o 95% o fod yr union ganran. Felly ar gyfer Ynys Môn mae’r cyfwng yn 65.4+/-12.9, neu rhwng 52.5 a 78.3%. Mae hyn yn cyfateb i nifer o wirfoddolwyr rhwng 57,920 ac 86,477. 18 Mae nifer fychan y bobl a holwyd yn yr ardal hon yn golygu na ellir dibynnu ar yr amcangyfrif hwn.

23

Siaradwyr Cymraeg Nid oedd siarad Cymraeg yn cael effaith arwyddocaol ar y tebygrwydd bod unigolyn yn gwirfoddoli’n anffurfiol (65.6 % o’i gymharu â 63.6 %). Casgliad Roedd bron i ddau draen o oedolion yng Nghymru’n gwirfoddoli’n anffurfiol yn 2013-15, gydag amcangyfrif o 1,626,789 o bobl yn rhoi rhyw fath o help yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn golygu cyfraniad sylweddol gan bobl Cymru at les eu cymdogion, eu ffrindiau a’u cymunedau. Mae’r gweithgareddau a restrir yn dangos bod gwirfoddoli anffurfiol yn cael effaith ar y galw am wasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn enwedig o ran gofal i bobl hŷn a phobl agored i niwed. Mae hyn yn debyg i arolygon a gynhaliwyd yn Lloegr. Nid yw pobl yn gwneud un o’r gweithgareddau a restrir yn unig, ond rhwng dau a thri ohonynt, sy’n dangos amrywiaeth o ofal a help yn ystod y flwyddyn, a hynny o bosibl i bobl wahanol. Y mathau mwyaf cyffredin o help a roddir yw mynd ar negeseuon, gofalu am blant, cadw mewn cysylltiad ag unigolyn sy’n gaeth i’w gartref, darparu trafnidiaeth a rhoi cyngor. Mae o leiaf hanner miliwn o bobl yng Nghymru’n gwneud un o’r gweithgareddau hyn mewn blwyddyn. Mae rhai gweithgareddau (ysgrifennu llythyrau neu lenwi ffurflenni a chynrychioli eraill) fel arfer yn cael eu gwneud gan bobl sy’n ymgymryd ag ystod ehangach o weithgareddau na phobl eraill. Mae menywod a dynion yr un mor debygol o wirfoddoli’n anffurfiol. Mae pobl 65+ oed yn llai tebygol o wirfoddoli’n anffurfiol, ond nid yw categori demograffig na’r gallu i siarad Cymraeg yn cael effaith ar wirfoddoli anffurfiol ar y cyfan. Mae amrywiad daearyddol sylweddol yng nghyfran y bobl sy’n gwirfoddoli’n anffurfiol. Yn achos rhai gweithgareddau mae dosbarthu penodol o ran oedran a rhyw.

24

Pob math o wirfoddoli Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am wirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol yn y 12 mis diwethaf, ac os oedd yr ymatebwr yn dweud nad oedd wedi gwirfoddoli yn y 12 mis diwethaf, a oedd wedi gwirfoddoli erioed. Yn gyffredinol, roedd 37.0% o oedolion wedi gwirfoddoli’n ffurfiol ac roedd 64.2% wedi gwirfoddoli’n anffurfiol yn y 12 mis diwethaf (Tabl 8). Fodd bynnag, mae llawer o wirfoddolwyr ffurfiol yn gwirfoddoli’n anffurfiol hefyd, felly mae cyfanswm cyfran yr oedolion sy’n gwirfoddoli yn 70.7%. Os defnyddir y gyfran hon i amcangyfrif nifer y gwirfoddolwyr, mae 1,793,749 o wirfoddolwyr, gyda 1,626,599 ohonynt yn gwirfoddoli’n anffurfiol a 940,533 yn gwirfoddoli’n ffurfiol (Tabl 9). Amcangyfrifir fod 743,446 o oedolion (mymryn o dan 30% o’r boblogaeth sy'n oedolion) nad oedd wedi gwirfoddoli yn y 12 mis blaenorol yn y ddau arolwg. Wrth ofyn y cwestiwn ‘a ydych chi wedi gwirfoddoli erioed?’ dangoswyd fod 9% o oedolion (237,005 o bobl) wedi gwirfoddoli yn y gorffennol, ond nid yn y 12 mis diwethaf (Tablau 10 ac 11). Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrif o nifer y bobl sydd wedi gwirfoddoli ar ryw adeg yn 2,030,754 neu 80.0% o’r boblogaeth sy’n oedolion. Tabl 8: Gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol yn y 12 mis diwethaf – canran y boblogaeth sy’n oedolion

Canran y boblogaeth sy’n oedolion

Anffurfiol

Do Naddo Cyfanswm

Ffurfiol

Do 30.5 6.5 37.0

Naddo 33.7 29.3 63.0

Cyfanswm 64.2 35.8 100.0 Tabl 9: Gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol yn y 12 mis diwethaf – amcangyfrifon o niferoedd

Nifer y bobl Anffurfiol

Do Naddo Cyfanswm

Ffurfiol

Do 773,383 167,151 940,533

Naddo 853,216 743,446 1,596,662

Cyfanswm 1,626,599 910,596 2,537,195 Tabl 10: Gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol ar unrhyw adeg – canran y boblogaeth sy’n oedolion

Canran y boblogaeth sy’n oedolion

Anffurfiol

Do Naddo Cyfanswm

Ffurfiol

Do 32.9 8.5 41.4

Naddo 38.6 20.0 58.6

Cyfanswm 71.6 28.4 100.0

25

Tabl 11: Gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol ar unrhyw adeg – amcangyfrifon o niferoedd

Nifer y bobl Anffurfiol

Do Naddo Cyfanswm

Ffurfiol

Do 835,753 214,551 1,050,304

Naddo 980,450 506,441 1,486,891

Cyfanswm 1,816,203 720,992 2,537,195

26

Atodiad 1 Nodyn technegol gan Beaufort Research Mae’r arolwg Omnibws wedi’i ddylunio i fod yn gynrychioliadol o’r boblogaeth sy’n oedolion 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru. Yr uned samplo yw Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ac mae 69 o bwyntiau cyfweld yn cael eu dewis ar hyd a lled Cymru gyda thebygolrwydd yn gymesur i’r boblogaeth breswyl, ar ôl haenu’n ôl Awdurdod Lleol a Graddfa Gymdeithasol. Dewisir sampl newydd o leoliadau cyfweld ar ôl pob cyfres. Ym mhob pwynt samplo, defnyddir rheolaeth cwotâu demograffig cyd-gloi oedran a dosbarth cymdeithasol o fewn rhyw i ddethol ymatebwyr. Mae cwotâu’n cael eu pennu i adlewyrchu proffil demograffig unigol pob pwynt a ddetholwyd. Mae sampl newydd o leoliadau cyfweld ac unigolion yn cael eu dethol ar gyfer pob arolwg ac nid oes mwy nag un unigolyn yn cael ei gyfweld ar bob aelwyd. Mae cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yng nghartrefi’r ymatebwyr trwy ddefnyddio technoleg CAPI (Computer Aided Personal Interviewing). Defnyddir gweithwyr maes profiadol Beaufort i ôl-wirio drwy’r post a dros y ffôn yn unol ag ISO 20252. Yn y gwaith maes ar gyfer arolwg Mawrth 2014 cafodd y rhan fwyaf o gyfweliadau eu cynnal rhwng 3 a 14 Mawrth 2014, gyda’r gweddill wedi’u cynnal yr wythnos ganlynol. Cafodd cyfanswm o 1,012 o gyfweliadau eu cwblhau a’u dadansoddi. Y cwestiynau DARLLEN YN UCHEL – Mae’r set nesaf o gwestiynau’n ymwneud â’r math o bethau mae rhai pobl yn eu gwneud gyda’u hamser, heb dâl, i helpu pobl neu er budd eu cymdogaeth neu ardal ehangach, a naill ai trwy fudiad neu fel unigolion. GOFYN I BAWB CERDYN DANGOS 1 C1. A ydych chi wedi gwneud unrhyw waith neu wedi rhoi help di-dâl i unrhyw rai o’r mathau hyn o grwpiau neu fudiadau ar unrhyw adeg yn y 12 mis diwethaf? Os ydych, pa rai? HOLWCH YN FANWL. Unrhyw rai eraill? CODIWCH BOB UN SY’N BERTHNASOL

A. Addysg plant / ysgolion B. Gweithgareddau plant / pobl ifanc (y tu allan i’r ysgol) C. Addysg i oedolion D. Chwaraeon / ymarfer corff (hyfforddi ac ati) E. Crefyddol F. Gwleidyddol G. Iechyd, anabledd a lles cymdeithasol H. Yr henoed I. Diogelwch, Cymorth Cyntaf J. Yr amgylchedd, anifeiliaid K. Cyfiawnder a Hawliau Dynol L. Grwpiau cymunedol neu gymdogaethol M. Grwpiau Dinasyddion

27

N. Hobïau \ hamdden \ y celfyddydau \ clybiau cymdeithasol O. Gweithgarwch Undebau Llafur Arall (rhowch fanylion) Dim un EWCH I C2 Ddim yn gwybod / methu cofio

GOFYNNWCH OS DIM UN YN C1 CERDYN DANGOS 1 ETO C2. A ydych chi wedi gwneud unrhyw waith neu wedi rhoi help di-dâl i unrhyw rai o’r mathau hyn o grwpiau neu fudiadau?

Do Naddo Ddim yn gwybod / methu cofio

GOFYN I BAWB CERDYN DANGOS 2 C3. A ydych chi wedi gwneud unrhyw rai o’r canlynol i ffrindiau, cymdogion neu aelodau eraill o’r gymuned ar unrhyw adeg yn y 12 mis diwethaf? Os ydych, pa rai? HOLWCH YN FANWL. Unrhyw rai eraill? CODIWCH BOB UN SY’N BERTHNASOL

A. Cadw mewn cysylltiad â rhywun sy’n cael anhawster mynd allan (ymweld yn bersonol, ffonio neu e-bostio) B. Siopa, casglu pensiwn neu dalu biliau C. Coginio, glanhau, golchi dillad, garddio neu dasgau eraill yn y cartref D. Addurno, neu unrhyw waith trwsio yn y cartref neu ar gar E. Gwarchod neu ofalu am blant F. Eistedd gyda neu ddarparu gofal personol (e.e. golchi, gwisgo) i rywun sy’n sâl neu eiddil G. Edrych ar ôl eiddo neu anifail anwes tra bod rhywun i ffwrdd H. Rhoi cyngor I. Ysgrifennu llythyrau neu lenwi ffurflenni J. Cynrychioli rhywun (er enghraifft, siarad ag adran o’r cyngor, neu feddyg) K. Cludo neu hebrwng rhywun (er enghraifft i ysbyty, neu ar drip) Arall (rhowch fanylion) Dim un EWCH I C4 Ddim yn gwybod / methu cofio

GOFYNNWCH OS DIM UN YN C3 CERDYN DANGOS 2 ETO C4. A ydych chi wedi gwneud unrhyw rai o’r canlynol i ffrindiau, cymdogion neu aelodau eraill o’r gymuned?

Do Naddo Ddim yn gwybod / methu cofio

28

Atodiad 2: Categorïau demograffig yr Arolwg Darllenwyr Cenedlaethol (NRS) Graddfa Gymdeithasol Statws Cymdeithasol Galwedigaeth A dosbarth canol uwch uwch reolwyr, gweinyddol neu broffesiynol B dosbarth canol rheolwyr, gweinyddol neu broffesiynol canolraddol C1 dosbarth canol is goruchwylio neu glerigol, rheolwyr, gweinyddol neu broffesiynol iau C2 dosbarth gweithiol crefftus gweithwyr llaw crefftus

dosbarth gweithiol gweithwyr llaw lled fedrus neu anfedrus

E y rhai hynny ar lefel pensiynwyr y wladwriaeth

isaf cynhaliaeth neu weddwon (neb arall yn ennill cyflog), gweithwyr achlysurol neu ar y raddfa isaf