40
intouch RHIFYN 71 | HAF 2012 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Intouch Haf 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Citation preview

Page 1: Intouch Haf 2012

intouchRHIFYN 71 | HAF 2012 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Page 2: Intouch Haf 2012

Nwy PrydainEDFE.ONNpower

Power

Energy

a ydyn nhw’n cynnig y Cynllun

Page 3: Intouch Haf 2012

Llythyr y Golygydd | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd

CynnwysNewyddion a gwybodaeth am WWH 4Adroddiad chwarterol – Newydd! 9Datblygiadau diweddaraf 13Ar waith – Newydd! 15Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 18Byw’n wyrdd 23Byw’n iach 25Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 26Cyfranogiad preswylwyr 28Llythyrau at y Golygydd 29Ymddygiad gwrthgymdeithasol 30Materion ariannol 32Y diweddaraf am elusennau 36Eich sa wyn au a’ch newyddion 37

intouch mewn ieithoedd a ff ormatau eraillOs hoff ech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu ff ormat arall, er enghrai , mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twi er @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 Ebost: [email protected] | Gwefan: www.wwha.co.ukMinicom: 0800 052 5205. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghrai , [email protected]

Helo unwaith eto, bawb. Yn gyntaf, diolch am eich llythyrau, negeseuon e-bost a’ch galwadau ff ôn ynghylch ein gwedd newydd a’r wefan newydd yn enwedig – mae’n dda cael gwybod bod cymaint ohonoch yn hoffi ’r hyn rydym yn ei wneud, ac rydym bob amser yn awyddus i glywed eich awgrymiadau ynghylch sut gallwn wella pethau ymhellach.

Mae diwygio lles, neu doriadau i fudd-daliadau, yn stori amlwg ar hyn o bryd, ac mae adran Materion Ariannol y rhifyn hwn yn edrych ar y ‘Dreth Ystafelloedd Gwely’ fel y’i gelwir, a beth allai ei olygu i chi. Yn ogystal, mae gennym ddwy adran newydd, wych. Mae ‘Ar Waith’ yn edrych ar sut rydym yn eich helpu chi i wneud yn fawr o gyfl eoedd gwaith a hyff orddiant sydd ar gael, ac mae’r Adroddiad Chwarterol (fel mae’r enw yn ei awgrymu), yn rhoi gwybod i chi bob tri mis sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau.

Yn olaf, peidiwch ag anghofi o cadw golwg ar ein gwefan newydd, www.wwha.co.uk , gan ein bod yn ei diweddaru bob dydd, a chofi wch hefyd enwebu eich arwr lleol am Wobr Gwneud Gwahaniaeth. Mwynhewch weddill yr haf!

Cofi on cynnes

Sarah Manners, Rheolwr Cysyll adau Cyhoeddus a Marchnata

Page 4: Intouch Haf 2012

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Mae GKR Maintenance & Building a Thai Wales & West wedi cael clod uchel yn y categori Integreiddio a Chydweithio yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Adeiladu yng Nghymru.

Dywedodd y beirniaid fod y m wedi gweithio’n galed i leihau costau a gwastraff ‘gydag angerdd ac ymroddiad.’

A chlod uchel yng Ngwobrau CEW

“Mae Tai Wales & West yn parhau i ddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol wrth lwyddo gyda’u busnes, drwy gymhwyso arweinyddiaeth sy’n gweld yn bell wedi’i thanategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” dywedodd Arbenigwr Buddsoddwyr mewn Pobl, Mavis Ellio -Smith.

Gwobr Aur i niRydym wedi cael y ganmoliaeth uchaf posibl dan system wobrwyo fawreddog Buddsoddwyr mewn Pobl, gan gyrraedd y safon Aur yn ein hasesiad yn ddiweddar.

Page 5: Intouch Haf 2012

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Symud i guriad newydd yn Ysgol y BetwsBydd plant Ysgol Gynradd y Betws yn symud i guriad gwahanol yn fuan, diolch i’w set drymiau newydd.

Cafodd y set drymiau a dau focs o lyfrau plant eu rhoi gan WWH i helpu’r ysgol ailadeiladu ar ôl y tân a ddinistriodd yr ysgol iau ychydig dros fi s yn ôl.

Dywedodd Liz Pearce, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd y Betws: “Rydym wedi cael ymateb gwirioneddol wych gan y gymuned leol, gyda chynnig o gymorth yn dod gan nifer o bobl ar ôl y tân, ond mae hyn yn rhywbeth gwahanol iawn. Y tymor nesaf, rydym yn mynd i gael cornel benodol ar gyfer cerddoriaeth yn ein neuadd, a bydd y set drymiau gan Wales & West yn cael lle blaenllaw.”

Dywedodd un o breswylwyr WWH a mam i bump o blant, Mandy Hopkins, y mae ei merch Bethan yn ddisgybl

Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd y Betws: “Rydym mor ddiolchgar i Wales & West am y cyfraniad hwn. Mae’r set drymiau yn wych, ac roedd y plant ar ben eu digon gyda’r llyfrau, hefyd.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae nifer o blant Ysgol Gynradd y Betws ymysg ein preswylwyr ifanc, ac mae’r ysgol hon yng nghalon y gymuned.

“Roeddem ar ben ein digon ein bod wedi cael gwahoddiad i gyfl wyno’r set drymiau a’r llyfrau i’r plant yng ngwasanaeth olaf y fl wyddyn ysgol, ac roedd yn wych gweld y cyff ro pan sylweddolodd y plant mai nhw oedd piau’r drymiau. Pwy a ŵyr, efallai y bydd hyn yn ddechrau’r Stereophonics nesaf!”

Page 6: Intouch Haf 2012

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Pencampwyr arferion da!

Diogelwch tân ar y brig!

Mae ein hymroddiad a’n buddsoddiad mewn diogelwch tân wedi cael ei gydnabod gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel pencampwyr arferion da.

Mae dau o’n cynlluniau anghenion cyff redinol mwyaf yng Nghaerdydd wedi elwa ar raglen waith fawr i wella diogelwch tân.

Am y tro cyntaf yn unrhyw le yng Nghymru, bydd cymdeithas tai (WWH – ni!) a’r Gwasanaeth Tân yn cydweithio. Nod y bartneriaeth hon yw:

• arddangos arferion da• arddangos y buddsoddiad sydd ei angen• arddangos yr ymrwymiad sydd ei angen i gyfl awni’r safonau uchaf o ddiogelwch tân, ac mae WWH wedi cael eu cydnabod am wneud hynny.

Unwaith y cafodd y gwaith hwn ei gwblhau, roedd WWH yn gallu newid y cyngor sy’n cael ei roi i breswylwyr ynghylch beth i’w wneud os bydd tân. Oni bai bod perygl agos, cynghorir preswylwyr y cynlluniau hyn i aros yn eu cartref nes bydd y gwasanaeth tân neu aelod o staff WWH yn gofyn iddyn nhw symud. Er y gallai hyn ymddangos yn groes i’n greddf naturiol, mae gwasanaethau tân, asiantaethau’r llywodraeth ac arbenigwyr eraill yn cytuno ei bod yn fwy diogel aros lle’r

Dywed Robin Alldred (uchod, yr ail o’r chwith), Rheolwr Masnachol WWH: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae’n ddigwyddiad arloesol yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth barhaus a fydd o fudd i’n preswylwyr a landlordiaid cymdeithasol eraill.”

ydych chi, yn hytrach na cheisio gadael yr adeilad, a allai fod yn llenwi gyda mwg. Drwy roi amser i ateb arolwg dros y ff ôn am y cyngor newydd hwn, cafodd dau breswyliwr ff odus £50 o dalebau Argos yr un.

Yn y llun, gwelir un enillydd lwcus (a diogel!), sef Mr Philip Oliver. Byddwn yn cysylltu â’r holl breswylwyr maes o law i adolygu’r drefn gyfredol.

Page 7: Intouch Haf 2012

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Ailfrandio Connect pwy?

Fel y gwyddoch, yma yn Nhai Wales & West rydym wedi cael ein hailfranio yn ddiweddar, ac fel rhan o’r broses hon, mae ein larwm mewn argyfwng a’n gwasanaeth ff ôn y tu allan i oriau wedi cael ei ailfrandio hefyd, ac mae’n cael ei alw’n Connect24 erbyn hyn.

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i mi? Wel, o 1 Awst, os ydych yn cysylltu ag un o’r rhain:

• ein gwasanaeth larwm mewn argyfwng unrhyw dro, neu• yn cysylltu â ni y tu allan i oriau swyddfa arferol ynghylch unrhyw beth – er enghrai , os oes gennych atgyweiriad brys, byddwn yn ateb y ff ôn dan yr enw Connect24. Yr un staff fydd yn darparu’r un gwasanaeth o safon, ond bydd yr enw yn wahanol!

Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth larwm personol...Mae bron y cyfan o’n preswylwyr sy’n byw yn ein tai er ymddeol wedi cael eu

cysylltu â’n gwasanaeth larwm personol Connect24. Os ydyn nhw angen help unrhyw dro, mae hyn yn golygu eu bod nhw’n tynnu eu cortyn larwm neu’n gwasgu’r botwm, a bydd ein m Connect24 yn ymateb. Gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r broblem, fe wnawn ni gysylltu ag aelod o’r teulu neu ff rind, y meddyg neu’r gwasanaethau brys. Mae’n rhoi sicrwydd a thawelwch meddwl i breswylwyr sy’n byw yn ein cynlluniau er ymddeol, ynghyd â’u teuluoedd.

“Bore/prynhawn da, Jackie o Connect24 ydw i, sut alla i eich helpu chi?”

Page 8: Intouch Haf 2012

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Ond wyddech chi ein bod ni’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn i unrhyw un? Os ydych yn byw yn un o’n cynlluniau nad yw’n gynllun er ymddeol, neu os oes gennych ff rind neu berthynas sy’n byw yn unrhyw le y credwch y bydden nhw ar eu hennill drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, ff oniwch ni ar 0800 052 2526 a siaradwch gyda’n gosodwyr am ragor o wybodaeth.

Fe wnawn ni osod uned fechan yn eich cartref (fel y gwelir yn y llun isod o un o’n preswylwyr, Mrs Nancy Pilot, ac aelod o staff WWH Sue Dickinson) ac fe wnawn ni ymateb i’ch galwadau ddydd a nos am ffi wythnosol fechan o £2.50 + TAW.

Yn ogystal â’r larwm sylfaenol, gallwn hefyd roi rhagor o ddiogelwch i chi drwy gysylltu cynnyrch ychwanegol â’r larwm, fel canfodyddion tresbaswyr, canfodyddion carbon monocsid a chanfodyddion cwympiadau – mae’r rhain fel arfer yn cos o rhwng 50c a £1.50 yr wythnos. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.wwha.co.uk. Gallwch weld yr wybodaeth yn yr adran ‘Ein gwasanaethau a’n mentrau’.

Gallwch ein ff onio ni unrhyw dro...Mae’r rhan fwyaf ohonoch yn ein ff onio ni yn ystod y dydd, ond wyddech chi eich bod chi’n gallu siarad gyda staff ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid unrhyw dro, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y fl wyddyn? Rydym fel arfer yn cael tua 15 galwad y noson gan breswylwyr WWH, a rhwng 100 a 150 o alwadau dros y penwythnos. Gallwch roi gwybod am atgyweiriadau, talu eich rhent gyda’ch cerdyn credyd neu ddebyd neu roi gwybod i ni am amrywiaeth eang o faterion. Mae staff Connect 24 yn ateb eich galwadau ff ôn pan fydd ein prif swyddfeydd wedi cau, a phan fydd y staff eraill yn mynd adref, fe fyddan nhw’n barod i’ch helpu!!

Daliwch a i’n ff onio ni pryd bynnag sy’n gyfl eus i chi.

A pheidiwch ag anghofi o y gallwch anfon neges destun atom hefyd erbyn hyn, ar 07788 310420 – bydd y gost yr un fath â’r holl negeseuon testun eraill rydych chi’n eu hanfon.

Page 9: Intouch Haf 2012

Adroddiad Chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Beth sy’n bwysig i chi?

Fel rhan o’n hymrwymiad i’ch helpu chi, ein preswylwyr, i ddeall sut rydym yn gweithio, rydym eisiau dweud wrthych chi am ein perff ormiad ar draws y prif feysydd yr ydym yn gweithio ynddyn nhw, fel yr ysgrifenna Catherine Jones, y Pennaeth Gwella Perff ormiad.

I’n helpu ni i wneud hyn, rydym wedi datblygu’r adran reolaidd, newydd hon yn In Touch, a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein prif wasanaethau, sef Atgyweiriadau, Rhen a Gosodiadau, ac yn bwysicaf, adborth ar y lefelau bodlonrwydd rydym wedi eu casglu.

Rydym wedi cynnwys rhai ff eithiau allweddol am y busnes i roi rhywfaint o syniad i chi am sut mae pethau’n mynd.

Dyma lle gallwch chi gyfrannu. Rydym eisiau gwybod beth rydych chi’n ei feddwl.• A yw’r wybodaeth yn briodol i chi? A yw’n eich helpu i benderfynu pa mor dda ydym fel landlord?• Os nad yw, pa fath o wybodaeth fyddech chi’n hoffi ei weld yn rhifynnau’r dyfodol?

Rydym eisiau i’r adran hon fod yn ddefnyddiol i chi, a darparu gwybodaeth

rydych chi eisiau ei gweld, felly rhannwch eich barn gyda ni.

Trowch y dudalen yn awr i weld data allweddol a gasglwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2011.

Page 10: Intouch Haf 2012

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Chwarterol

Atgyweiriadau

76%

99%15

20,615

99.1%Atgyweiriadau a

gwblhawyd mewn un ymweliad

Atgyweiriadau a weithiodd

Nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gwblhau atgyweiriad

Nifer yr atgyweiriadau a gwblhawyd

Cydymff urfi o â diogelwch nwy

Talu rhent97.6%

Rydym wedi casglu 97.6% o rent sy’n ddyledus gan breswylwyr

Page 11: Intouch Haf 2012

Adroddiad Chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Gosod ac adeiladu cartrefi

690Eiddo a osodwyd

176

Nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd

Canolfan Gwasanaethau

Cwsmeriaid

123,846

Nifer y galwadau a atebwyd

98%% o alwadau’r larwm mewn argyfwng a atebwyd o fewn

30 eiliad

41Eiliad

Amser ateb ar gyfartaledd

Page 12: Intouch Haf 2012

12 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Chwarterol

Bodlonrwydd preswylwyr

8

99.5

Delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio

(ceginau, ystafelloedd ymolchi)

Pa mor fodlon oeddech chi gyda’n gwasanaethau?

Sgôr allan o 10Atgyweiriadau

(o ddydd i ddydd)

Gosodiadau (preswylwyr newydd)

9

Felly, beth yw eich barn am ein perff ormiad?Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar unrhyw beth rydym wedi ei ddweud wrthych chi yn yr adran hon, cofi wch roi gwybod i ni. Gallwch gysylltu â ni am hyn neu unrhyw fater arall, unrhyw dro.

Gellir rhoi adborth mewn nifer o ff yrdd: ar-lein ar ein gwefan e-bost llythyr ff ôn testunneu wyneb yn wyneb gydag aelod o staff neu yn ein swyddfeydd. of staff or at our offi ces.

• Rydym bob amser yn falch o glywed gennych chi, pa un ai eisiau holi cwes wn, dweud rhywbeth, awgrymu rhywbeth, canmol neu gwyno ydych chi eisiau ei wneud.

• Pan fyddwch yn rhoi eich adborth i ni, fe wnawn ni ateb unrhyw gwes wn a allai fod gennych, a rhoi sylw i’r materion rydych chi wedi tynnu sylw atyn nhw.

• Fe wnawn ni hefyd ystyried pob awgrym, cwyn, canmoliaeth a sylw a gawn, a’u defnyddio i adolygu ein gwasanaethau.

• Mae’r adborth hwn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a gwelliannau i’n gwasanaethau.

Diolch!

Page 13: Intouch Haf 2012

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Adeiladu rhagor o gartrefi newydd ff orddiadwyMae ein m Datblygu yn brysurach nag erioed ledled Cymru, gyda llawer o gynlluniau newydd cyff rous naill ai’n dwyn ff rwyth ar y safl e, neu wrthi’n cael eu cynllunio.

Yng ngogledd Cymru, mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda yn Llys Jasmine, ein hail ddatblygiad gofal ychwanegol. Wedi ei leoli yn yr Wyddgrug, Sir y Ffl int, bydd y datblygiad £8.5 miliwn hwn yn darparu 61 rhandy gofal ychwanegol, gan gynnwys 15 rhandy wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer pobl â demen a, ynghyd â dau fyngalo gofal ychwanegol arall.

Rydym yn credu y bydd y cynllun hwn yn arloesol yng Nghymru, gan nad oes gan yr un cynllun gofal ychwanegol arall randai gofal demen a arbenigol wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Rydym yn croesawu ceisiadau yn awr gan bobl dros 60 oed sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth sydd eisiau byw yn Llys Jasmine, felly cymerwch olwg ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Mewn mannau eraill, mae gwaith wedi dechrau o ddifrif yn Wrecsam ar ein datblygiad sy’n werth £17 miliwn yn Hightown, yr ydym yn ei adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd dau safl e cyfagos – Kingsmills Road a Rivulet Road – yn darparu 127 o gartrefi newydd ff orddiadwy o safon, ynghyd â

chanolfan gymunedol a chyfl euster adnoddau meddygol wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Mae 20 cartref arall wrthi’n cael eu cynllunio yn Rivulet Road, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Fis diwethaf, fe wnaeth Gweinidog Tai, Adfywio a Thre adaeth Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, fentro drwy’r glaw diarbed i ymweld â’r safl e – fel y gwelir ar glawr blaen y rhifyn hwn.

“Mae’r cynllun yn enghrai ragorol o weithio mewn partneriaeth, gyda nifer o sefydliadau gwahanol, Llywodraeth Cymru, Tai Wales & West, Cyngor Wrecsam, Cymunedau yn Gyntaf Hightown a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyd yn cydweithio. Dyma’r union fath o ddatblygiad rydym angen gweld rhagor ohonyn nhw yng Nghymru i sicrhau ein bod yn darparu cartrefi ff ord-diadwy teilwng i bobl, sy’n cyfl awni eu hanghenion,” meddai’r Gweinidog.

Fis diwethaf, cynhaliodd y contractwr adeiladu lleol, Anwyl, ddigwyddiad llwyddiannus dan y teitl ‘Cyfarfod â’r Contractwyr’ ar y cyd â ni, lle gallai contractwyr ac unigolion lleol ddod i wybod mwy am gyfl ogaeth a chyfl eoedd hyff orddi sydd ar gael.

Page 14: Intouch Haf 2012

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Arbenigwyr ar dai arbenigol, hefyd…Wyddech chi ein bod ni’n adeiladu cartrefi pwrpasol i bobl ag amrywiaeth eang o anghenion arbenigol, ochr yn ochr â chartrefi i deuluoedd ac i bobl hŷn?

Wel, rydym yn gwneud hynny’n union, ac yn Henllan, Sir Ddinbych, mae’r preswylwyr cyntaf newydd symud i mewn i dri byngalo smart newydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol yno ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych. Mae gan y safl e hwn draddodiad hir o gefnogi pobl ag anableddau dysgu, ac rydym yn falch o allu parhau â’r traddodiad hwn.

Ysgrifenna Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu WWH: “Mae trydydd prosiect Wales & West sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer aw s aeth ac anawsterau dysgu wedi cael ei gwblhau yn awr. Cwblhawyd y trosglwyddiad ar 28 Mehefi n 2012. Bydd gan ddeuddeg o bobl gartref diogel wedi’i adeiladu’n bwrpasol, gyda gofal ar y safl e, am y tro cyntaf yn eu bywydau o bosibl. Fe wnaeth mam un o’r dynion ifanc sy’n byw yno yn awr fy ff onio heddiw a dweud ei fod yn lle ‘anhygoel’, a’i fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd eu mab a’u bywyd nhw eu hunain. Da iawn i bawb sy’n rhan o’r cynllun.”

Mae ail gam y datblygiad hwn wedi dechrau erbyn hyn, a fydd yn darparu cartref i chwe theulu.

Helpu i ddatgelu eu hanesMae disgyblion blwyddyn 3 a 4 Ysgol Iau Cyfarthfa wedi bod yn helpu i lanhau a chatalogio arteff actau hanesyddol a ganfuwyd ar safl e Vulcan House, lle’r ydym yn datblygu 15 cartref ym Merthyr Tudful.

Mae cloddiad archeolegol wedi dod o hyd i jariau jamiau o Oes Fictoria, pla au cig a photeli lemonêd, ac mae’r plant yn eu defnyddio i geisio deall hanes y safl e, sy’n gysyll edig â theulu John, y diwydianwyr, a sefydliad y Siartwyr. Bu’r contractwyr Wates yn cydweithio â WWH ac Ysgol Iau Cyfarthfa i drefnu’r diwrnod.

Ewch i www.wwha.co.uk/Our-Services-and-Ini a ves/Developing New Homes - am ragor o fanylion ynghylch ein cynllun pum mlynedd sy’n werth £101 miliwn – yn y bôn, beth rydym yn ei adeiladu, ac ymhle.

Page 15: Intouch Haf 2012

Ar waith | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Diddordeb mewn...?gwaith. sgiliau. profi ad.Mae dod o hyd i waith yn anodd, ac mae dod o hyd i waith o safon â thâl ym marchnad swyddi’r oes sydd ohoni ddwywaith yn anoddach, fel yr ysgrifenna Bridget Garrod, y Rheolwr Mentrau Cymdogaeth.

Mae’n llawer o waith adeiladu a chynnal a chadw ein cartrefi , a darparu’r gwasanaethau o safon y mae ein preswylwyr yn eu disgwyl. Rydym yn cyfl ogi 350 o staff ledled Cymru o amrywiaeth o gefndiroedd, ac mae’r gwaith rydym yn ei gynhyrchu yn creu cyfl eoedd gwaith a phrofi ad yr ydym yn bwriadu eu cynnig er budd ein preswylwyr.

Rydym eisiau cynnig cyfl eoedd o ddifrif i chi, ein preswylwyr, a’ch teuluoedd, i wella eich cyfl eoedd o ddod o hyd i’r gwaith iawn i chi.

Gallai’r rhain helpu pob math o bobl, gan gynnwys pobl ifanc nad ydyn nhw wedi gweithio o’r blaen, graddedigion sy’n ceisio gwella eu profi ad gwaith, neu bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gryn amser.

Ni allwn warantu swyddi, ond gallwn warantu cyfl eoedd profi ad gwaith o safon a fydd yn eich rhoi chi mewn lle gwell i sicrhau gwaith.

Byddwn yn cynnig amrywiaeth o ff yrdd i chi ddysgu sgiliau newydd, profi adau a gwella eich CV, ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gynnig cyfl eoedd mewn rhannau gwahanol o Gymru:

• Profi ad gwaith yn y tymor byr• Lleoliadau gwaith (rhai â thâl)• Pren siaethau

Bydd rhai cyfl eoedd yn dibynnu ar eich oedran, y math o fudd-daliadau rydych yn eu hawlio, neu’r ardal lle’r ydych yn byw.

Os ydych yn byw yn Wrecsam, yna cadwch olwg am gyfl eoedd profi ad gwaith yn eich ardal chi o ganlyniad i’n datblygiad newydd yn Kingsmills Road a Rivulet Road (gweler tudalen 13 am ragor o wybodaeth). Rydym yn cydweithio ag Anwyl Construc on, a bydd rhagor o fanylion ynghylch cyfl eoedd penodol i’w gweld ar ein gwefan yn fuan iawn.

Yn olaf, os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer unrhyw gyfl eoedd posibl ledled Cymru, yna ewch i’r adran Cydweithio â ni ar ein gwefan, a llenwch y ff urfl en y gellir ei llwytho i lawr a’i phos o yn ôl atom.

Edrychwch ar y ddwy dudalen nesaf i weld enghrei iau diweddar o’r lleoliadau gwaith rydym wedi eu cynnig. A chadwch olwg am ragor o fanylion ynghylch cyfl eoedd tebyg yn rhifynnau In Touch yn y dyfodol, yn y wasg leol, ar ein gwefan ac ar Twi er – dilynwch ni @wwha.

Page 16: Intouch Haf 2012

16 | www.wwha.co.uk | intouch | Ar waith

Profi ad gwaith gyda WWH“Bu’r wythnos a dreuliais gyda Thai Wales & West yn bleserus iawn,” meddai Gwilym Boughton, 15 oed, disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Tredelerch yng Nghaerdydd.

“Rydw i wedi cyfarfod pobl hyfryd iawn. Rydw i wedi dysgu nifer o bethau newydd ac wedi gweld arbenigwyr ar waith yn eu meysydd. Gallaf ddweud heb fl ewyn ar dafod fy mod i wedi mwynhau fy hun o ddifrif, ac fe geisiaf ddefnyddio’r wybodaeth a gefais yn y ff ordd orau bosibl.

“Gan mai fy ysgol oedd wedi trefnu’r lleoliad gwaith hwn, nid oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond rydw i wedi cael amser wrth fy modd. Yn ogystal, rydw i wedi creu ffi lm fer am fy amser yn Wales & West. Mae’r ffi lm hon yn sôn am brosiect cymunedol yn ardal

Caerau yng Nghaerdydd, ac fe wnes i fwynhau ei gwneud hi’n fawr – rwy’n gobeithio y bydd y rhai sydd yn y ffi lm yn ei mwynhau hefyd!

“Mae’r staff wedi bod yn gyfeillgar iawn, ac maen nhw wedi fy ngwahodd i gysylltu â nhw os bydd gen i unrhyw gwes wn i’w ofyn.

“Fe wnes i hefyd dreulio amser yn yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth (cyfrifi aduron a thechnoleg), ac mae hyn wedi helpu i ehangu fy ngwybodaeth o ‘godio’, a fydd o gymorth i mi gyda fy ngyrfa.” Cafodd Gwilym gwmni Jordan Evans o Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, disgybl arall sydd ym Mlwyddyn 10. Mae Jordan yn awyddus i fod yn adeiladwr, a dywedodd wrthym fod yr wythnos a hanner o brofi ad a gafodd gyda Wales & West yn ‘wirioneddol dda, llawer gwell nag oeddwn i wedi ei feddwl. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn. Diolch!’ Treuliodd Jordan amser ar y safl e ac yng nghwmni ein mau Datblygu a Gwasanaethau Eiddo, ynghyd â chael profi ad gweinyddol yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd. Dyma lun ohono ar y safl e gyda Rheolwr Datblygu WWH, Lyndon Griffi ths.

Page 17: Intouch Haf 2012

Ar waith | intouch | www.wwha.co.uk | 17

hymgynghorwyr ynni dan hyff orddiantFel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau Cyfl ogaeth Pen-y-bont ar Ogwr) rydym yn hyff orddi dau ymgynghorydd ynni newydd. Wedi eu lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod ar leoliad gyda ni am 6 mis, yn cael profi ad a fydd yn eu helpu i ganfod swyddi parhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r Disgownt Cartrefi Cynnes (WHD) mewn cynlluniau er ymddeol (gweler yr hysbyseb y tu mewn i glawr blaen y rhifyn hwn) ynghyd â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy eff eithlon ac arbed arian ar eu biliau.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfl e hwn i weithio yn Wales & West” meddai Lynn. “Mae helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau tanwydd neu ymgeisio am y Disgownt Cartrefi Cynnes wedi bod yn brofi ad gwerth chweil.”

Dywedodd Howard, sy’n 61 oed: “Plastrwr ydw i yn ôl fy ngalwedigaeth, ond rwyf wedi bod yn ddi-waith ers blwyddyn. Mae hwn yn gyfeiriad newydd i mi, yn rhywbeth

nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n ei wneud. Pan rydych yn ddi-waith, gallwch golli eich hyder, ond mae hyn yn dechrau fy helpu i feddwl eto am weithio.”

Ychwanegodd Lynn, sy’n 46 oed: “Rwy’n fam sengl ac mae hi wedi bod yn anodd mynd yn ôl i weithio gan fy mod i angen dod o hyd i bobl i ofalu am fy merch saith oed. Fe wnes i ymgeisio am y swydd hon gan ei bod yn hyblyg, sy’n help mawr i mi.”

Yn cyfl wyno Lynn a Howard, ein

Page 18: Intouch Haf 2012

18 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Pwy rydych chi’n eu hadnabod sy’n gwneud gwahaniaeth o ddifrif i’ch cymdogaeth? Rhywun sy’n mynd y fi ll r ychwanegol i helpu ff rindiau a chymdogion? Efallai eu bod nhw wedi dechrau grŵp ieuenc d neu grŵp cymunedol?

Efallai eu bod nhw’n gofalu am ardd hyfryd, neu efallai eu bod nhw’n tyfu ff rwythau a llysiau – neu wedi dechrau tyfu cynnyrch ar randir?

Efallai eu bod nhw wedi goresgyn prob-lemau mawr i fynd yn ôl i’r gwaith? Neu wedi mynd i’r coleg i gael cymwysterau newydd? Beth bynnag yw eu stori – ry-dym eisiau clywed amdani.

Ddydd Gwener 19 Hydref, byddwn yn cynnal pumed seremoni fl ynyddol ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth.Wedi ymsefydlu erbyn hyn fel ucha wynt blwyddyn Tai Wales & West, mae’r gwobrau yn dathlu ymdrechion gwych ein holl arwyr ac arwresau di-glod – ynghyd â bod yn noson allan wych.

Bydd pawb sy’n cael eu henwebu – a’r bobl a enwebodd nhw – yn mwynhau swper tri chwrs crand ac adloniant yng ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd.

Gallwch weld rhagor drosoch eich hun ar YouTube – chwiliwch am Wales & West Housing’s Making A Diff erence Awards, lle gallwch weld fi deos byr seremonïau’r tair blynedd fl aenorol.

Y categorïau eleni yw:

Cymydog daDechrau newyddDechrau newydd (adeiladau newydd)Eco bencampwrGarddwr gorau (Ymddeol)Garddwr gorau (Anghenion cyff redinol)Prosiect cymunedola Gwobr David Taylor i Arwr Lleol.

Nid oes angen talu i ymgeisio – nid oes unrhyw beth i’w golli, ond popeth i’w ennill drwy gydnabod y synnwyr o gymuned ymysg y bobl o’ch cwmpas chi.

Llenwch y ff urfl en enwebu ar y tudalennau canlynol a’i phos o yn ôl atom yn Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Neu, os ydi’n well gennych chi, gallwch enwebu rhywun gan ddefnyddio’r dudalen Cysylltu â ni ar ein gwefan. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw: dydd Gwener 31 Awst.

Pwy yw eich arwyr di-glod?

Page 19: Intouch Haf 2012

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth2012

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth2012

Arwr lleol

Cymydog da

Eco

bencampwr

Dechrau

newydd

Prosiect cymunedol

Garddwr

gorau

Page 20: Intouch Haf 2012

20 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Eco bencampwr

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n

Prosiect Cymunedol

Y Categorïau

Mae ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cydnabod ac yn dathlu

Page 21: Intouch Haf 2012

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 21

Cymydog da Garddwr gorau (Tai ymddeol) /Garddwr gorau ( )

Pwy ydych chi’n eu hadnabod sydd

Dechrau newydd / Dechrau newydd (adeiladau newydd)

Arwr lleol(Gwobr arbennig David Taylor)

Page 22: Intouch Haf 2012

Nodwch:

22 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Page 23: Intouch Haf 2012

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 23

Palu ymlaen... Yn galw ar bob preswyliwr… tyfu eich cynnyrch eich hun…Er gwaetha’r mis Mehefi n gwlypaf a gofnodwyd erioed, mae nifer ohonoch yn dal a ac yn tyfu eich ff rwythau a’ch llysiau eich hunan ledled y wlad, fel yr ysgrifenna Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Mae’n rhy gynnar i ddweud sut beth fydd y cynhaeaf eleni, ond nid yw’r glaw diweddar yn debyg o helpu cnydau sy’n ff ynnu yn yr haul… gobeithio’r gorau y cawn ni ddigon o haul cyn diwedd yr haf i wneud yn iawn am hynny!

Mae ein Cronfa Amgylchedd yn parhau i gefnogi ein preswylwyr sy’n ff urfi o clybiau garddio er mwyn tyfu eu ff rwythau a’u

llysiau eu hunain. Mae clybiau garddio yn ff ordd wych o rannu sgiliau a throsglwyddo gwybodaeth.

Nid yw’n bwysig os nad ydych yn gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng ff a dringo a radisys, na chêl cyrliog a brocoli piws, rydych bron yn siŵr o fod mewn cyrraedd rhywun sy’n gyfarwydd â garddio.

Patricia Lavercombe a Martyn Bryant o Glan yr Afon Court yn cymryd seibiant o’u gwaith

caled yn trosglwyddo eginblanhigion.

Page 24: Intouch Haf 2012

24 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Felly, os ydych chi’n awyddus i ddechrau garddio, beth am siarad gyda’ch cymdogion i weld a oes unrhyw ddiddordeb mewn sefydlu clwb garddio? Os oes diddordeb, yna gallai ein Cronfa Amgylchedd helpu eich grŵp gyda rhywfaint o gyllid! Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw siarad gyda’ch Rheolwr Cynllun, Swyddog Rheoli Asedau neu Rheolwr Tai, cytuno ar lain o dir y gellid ei defnyddio gennych chi, a’m gwahodd i, Owen Jones, i gyfarfod o’ch clwb garddio am sgwrs ynghylch eich cynlluniau.

Mae clybiau garddio yn ff ordd wych o ddysgu, trosglwyddo sgiliau a chadw’n heini. Gall unrhyw un chwarae’i ran, a gall pobl sy’n cael traff erth symud ddefnyddio off er wedi’u haddasu’n arbennig neu hyd yn oed ddefnyddio gwelyau planhigion wedi’u codi, ac mae ff urfi o clwb gyda

nodau cyff redin yn ff ordd wych o ddod â chymuned at ei gilydd.

Mr a Mrs Dave a Freda Watkins, y goruchwyliwr safl e Peter Merry ac Yvonne Humphreys yn Dan y Mynydd, gyda’u gwelyau planhigion newydd wedi’u codi

Martyn Bryant a’r rheolwr cynllun Amie Absalom gyda chnwd ff a dringo eleni, unwaith eto yng Nglan yr Afon

Page 25: Intouch Haf 2012

Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 25

Deddf Cydraddoldeb 2010... beth mae’n ei olygu i mi?Dyma’r drydedd yn ein cyfres o erthyglau sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010 – yn y rhifynnau blaenorol, rhoddwyd sylw i Oedran ac Anabledd, fel yr ysgrifenna Claire Bryant, y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Mae 9 ‘nodwedd wedi’i diogelu’ yn y Ddeddf, a nod yr erthyglau hyn yw dadansoddi’r jargon cyfreithiol yn rhywbeth sy’n hawdd i bawb ei ddeall.

Felly, beth yw’r 9 nodwedd sydd wedi’u diogelu?Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, tueddfryd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifi l, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd, a chrefydd neu gred. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi sylw i ailbennu rhywedd.

Bachgen neu ferch? Nid oes amheuaeth bod y gymdeithas yn rhannu pobl yn gategorïau – yn fachgen neu’n ferch – yn dibynnu ar wedd wrywaidd neu fenywaidd baban pan enir ef neu hi. Mae gan ein horganau atgynhyrchu, ynghyd â’n hymennydd, nodweddion gwrywaidd a benywaidd gwahanol iawn. Mae’r gwahaniaethau corff orol hyn yn diffi nio ein rhyw, tra bod ein ‘hunaniaeth ryweddol’ yn disgrifi o’r synnwyr mewnol o wybod ein bod ni’n ddynion neu’n ferched, ac mae’r ‘rôl rhywedd’ yn disgrifi o sut rydym yn ymddwyn yn y gymdeithas.

Er hynny, mae rhai pobl yn teimlo nad yw eu hymddangosiad allanol yr un peth a’r

hyn maen nhw’n ei deimlo y tu mewn. Gallai’r ff ordd y mae disgwyl iddyn nhw ymddwyn fod yn eithaf gwahanol i’r ff ordd maen nhw eisiau ymddwyn o ddifrif. Mae hyn yn peri teimlad o anesmwythdra, sydd weithiau’n cael ei ddisgrifi o fel dysphoria rhywedd (mae dysphoria yn golygu anhapusrwydd). Er hynny, nid salwch meddwl yw hyn. Mae dysphoria rhywedd yn gyfl wr meddygol cydnabyddedig. Mae rhai unigolion yn teimlo mor gryf nad ydyn nhw’n perthyn i’r rhywedd a ddynodwyd pan anwyd nhw, fel eu bod nhw’n mynd drwy gyfuniad o feddyginiaeth hormonaidd a llawfeddygaeth i ddod â’u cyrff yn debycach i’w hunaniaeth ryweddol sylfaenol. Mae hyn yn cael ei alw’n ailbennu.

Ledled y wlad, mae cyfreithiau, polisïau ac agweddau’n newid, gan wneud bywyd yn well i bobl trawsryweddol yn gyff redinol. Ond mae nifer o bobl trawsryweddol yn dioddef gwahaniaethu yn y gweithle ac mewn mannau eraill, fel gofal iechyd a lleoliadau cymdeithasol. Mae’r Ddeddf newydd yn nodi ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau neu wasanaethau neu wrth gyfl ogi, ond mewn gwirionedd, yr hyn sy’n bwysig yw parch, a thrin pobl yn deg ac yn urddasol.

Page 26: Intouch Haf 2012

26 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad Preswylwyr

Er nad yw prysurdeb y traffi g fyth ymhell i ff wrdd, mae hi’n clywed yr adar yn canu bob dydd, ac mae ei chartref yn llawn po au blodau lliwgar. Mae llawer o bobl yn ymweld â Madge, gan gynnwys ei phum plentyn, naw ŵyr a phum gor-ŵyr, felly roedd hi wedi gwirioni pan ddywedodd Tai Wales & West wrthi y byddai ei hen gegin yn cael ei gweddnewid gan Cambria Maintenance Services.

“Roeddwn i’n cael dewis y paent, lliw’r cabinetau, y teils, y lloriau a’r wynebau gweithio, a gallwn hyd yn oed gynnwys fy nheils waliau fy hunan, er mwyn torri ar undonedd y teils plaen ar y wal. Dim ond pum niwrnod fu’r gweithwyr wrthi’n newid popeth, ac roedd Gareth, Richard a Jason o Cambria yn gymwynasgar iawn, yn eff eithiol ac yn llawn hwyl wrth weithio,” dywedodd wrthym.

“Pan oedden nhw yma, roeddwn i’n ymddiried yn llwyr ynddyn nhw i wneud

y gwaith tra’r oeddwn i’n mynd am ginio gyda ff rindiau.

“Cyn hynny, cefais gawod y gellir cerdded yn syth i mewn iddi, gan na allwn ddefnyddio’r baddon mwyach. Pan oedd y gwaith wedi gorff en, cefais alwad ff ôn i ofyn a oeddwn i’n fodlon gyda’r gwaith, ac ysgrifennais lythyr i fynegi fy niolchgarwch.”

Mae Mrs Madge Walters of Fairleigh Court yng Nghaerdydd, sy’n 77 oed, wedi bod yn un o breswylwyr Tai Wales & West ers saith mlynedd.

Rydw i wedi gwirioni gyda’m cegin newydd

Page 27: Intouch Haf 2012

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Dyma’r cynlluniau rydym yn bwriadu eu huwchraddio yn ystod gweddill 2012 fel rhan o’n rhaglen barhaus i gydymff urfi o â Safon Ansawdd Tai Cymru:

CeginauMaes y Ffynnon, CrughywelTrem y Mynydd, TreorciMaes Cefndy, y Rhyl

Ystafelloedd ymolchiTŷ’r Porthmon, AberhondduLlwyn y Môr, AbertaweTŷ Gwaunfarren, Merthyr TudfulHanover Court, y Barri

Ffenestri / DrysauSt Donats Close, Llanilltud FawrTeilos Drive, Bracla, Pen-y-bont ar OgwrMaes Hyfryd, WrecsamYstad Goff a, y Ffl int – Drysau yn unigCwrt Leighton, Cei Connah – Drysau yn unig

Cysylltwch â’n m contractau os oes gennych unrhyw gwes wn:Mike Wellock – Rheolwr MasnacholSean Gough – Rheolwr ContractauSimon Legg – Rheolwr ContractauKate Solomon – Rheolwr ContractauPeter Jenkins – Rheolwr ContractauLucy Simms – Cynorthwyydd Gwasanaethau EiddoGemma – Cynorthwyydd Coleman Gwasanaethau Eiddo

£ ££Cyfl e i ennill £250 os caiff eich bwyler wasanaethu at y cynnig cyntafMiss Rae o Wrecsam oedd enillydd ff odus gwobr PH Jones o £250 y chwarter hwn. Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud am gyfl e i ENNILL yw caniatáu i ni wasanaethu eich bwyler nwy ar yr apwyn ad CYNTAF a wnawn gyda chi, neu os byddwch yn rhoi o leiaf

48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad. Yna, fe gewch chi eich cynnwys yn awtoma g yn y RAFFL FAWR AM DDIM. Mae’n hawdd iawn, a gallwch ENNILL siec am £250.

Page 28: Intouch Haf 2012

28 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Cydnabod preswylwyr WWH mewn seremoni wobrwyo genedlaethol Cafodd preswylwyr Tai Wales & West o rannau gwahanol o Gymru dair gwobr yng ngwobrau cenedlaethol Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenan aid Cymru ym mis Mai. Fe wnaeth y canlynol, a gafodd eu gwobrau yn y seremoni a gynhaliwyd yn Llandudno, gyrraedd y brig o fl aen holl breswylwyr tai cymdeithasol Cymru:

• Cafodd Sian Hope o Wrecsam yr ail wobr yng nghategori Ruth Radley am Gyfl awniad Eithriadol am ei gwaith gyda’i chymdeithas preswylwyr lleol a’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr.• Cafodd Lauren, sydd hefyd yn dod o Wrecsam, yr ail wobr yng nghategori Tenant Ifanc y Flwyddyn am y gwaith a wnaeth yn ei chymuned leol.• Cafodd Caerau Po ers, grŵp garddio o’r Caerau, Caerdydd (yn y llun uchod) y drydedd wobr yn y categori Gwella’r Amgylchedd. Dim ond am ychydig

dros fl wyddyn y mae’r grŵp wedi bod yn cydweithio, ond gyda chymorth staff WWH a’n gran au Gwneud iddo Ddigwydd ac Amgylcheddol, fe wnaethon nhw drawsff urfi o darn o dir llwm yn werddon ecolegol ar eu stad fawr. Ydych chi’n adnabod rhywun yn eich stad neu gynllun sy’n haeddu cael eu cydnabod? Peidiwch ag anghofi o eu henwebu am wobr yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol. Mae modd enwebu yn awr – gweler tudalennau 18 i 22 am fanylion ynghylch sut i enwebu.

Oes gennych chi syniad am brosiect neu weithgaredd cymunedol?• Gallai ein grant Gwneud iddo Ddigwydd ddarparu rhwng £200 a £500 i chi ar gyfer gweithgaredd cymunedol. Cysylltwch â mi, Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, am ragor o fanylion ar 0800 052 2526 neu gallwch anfon e-bost a : [email protected]• Gall ein Cronfa Amgylcheddol eich helpu chi os oes gennych chi syniad am brosiect ecogyfeillgar, fel tyfu

ff rwythau a llysiau, gwelyau wedi’u codi neu rywogaethau brodorol o goed ff rwythau. Cysylltwch ag Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, am ragor o fanylion – ei gyfeiriad e-bost ydi [email protected]

Peidiwch ag anghofi o y gallwch gysylltu ag Owen a Claire drwy ein tudalen Cysylltu â ni ar y wefan: www.wwha.co.uk neu drwy ff onio 0800 052 2526.

Page 29: Intouch Haf 2012

Llythyrau at y Golygydd | intouch | www.wwha.net | 29

Yn cyf lwyno TAP – Panel Cynghori Tenantiaid

Helo, James Rides o Bontcanna, Caerdydd ydw i. Rydw i’n un

o breswylwyr WWH ac rydw i’n cynrychioli tenantiaid ar Banel Cynghori

Tenantiaid (TAP) Llywodraeth Cymru.

Mae TAP yn gr�p o breswylwyr a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2009 i fwydo

saf bwyntiau preswylwyr ar reoliadau i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru, y bwrdd ymgynghorol

annibynnol sy’n monitro ac yn cynghori Gweinidog Tai Cymru.

Rydym wrthi’n cynnal prosiect ar hyn o bryd i roi sylw i’r modd y mae landlordiaid cymdeithasol

cofrestredig yng Nghymru yn cyfathrebu gyda’u preswylwyr, a hoffem eich gwahodd chi i

roi eich saf bwyntiau drwy lenwi holiadur sydyn ar-lein: www.surveymonkey.com/s/T YQZ8LS.

Mae hyperddolen ar dudalen f laen gwefan WWH. Bydd eich adborth yn cael ei drin yn gwbl

gyfrinachol, a bydd yn rhan o adolygiad Bwrdd Rheoleiddiol Cymru o’r safonau cyfathrebu.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg, am ein project neu am TAP, cysylltwch �

Hannah Smith, gweinyddwraig TAP, Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, Milbourne Chambers,

Glebeland St, Merthyr Tudful, CF47 8AT. Neu gallwch ffonio ein swyddfa yn ystod yr

wythnos waith rhwng 9am a 5pm ar 01685 723922. Gallwch hefyd anfon e-bost:

[email protected] neu fe allwch ddilyn TAP ar Twitter @TAP Wales

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Page 30: Intouch Haf 2012

30 | www.wwha.co.uk | intouch | Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Troi allan denan aid niwsans ar ôl ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â chyff uriau

Dyfarnwyd gorchymyn meddiannu i Dai Wales & West gan Lys Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 12 Mehefi n 2012, a’n galluogodd i gymryd cartref dwy ystafell wely yn ôl i’n meddiant yn Dan y Coed Rise, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.

Ymunodd ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol â Heddlu De Cymru i sicrhau’r gorchymyn yn dilyn dwsinau o ddigwyddiadau a chwynion gan gymdogion yn gysyll edig ag 19 Dan y Coed Rose, a oedd yn torri’r cytundeb tenan aeth.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae iechyd a diogelwch ein holl breswylwyr yn fater difrifol iawn yng ngolwg Tai Wales & West, ac fe wnawn ni beth allwn ni i gefnogi ein dinasyddion sy’n cadw at y gyfraith i fyw mewn cymunedau diogel, heddychlon a chynhyrchiol.

“Ni wnawn ni oddef camymddwyn yn erbyn y gyfraith dan unrhyw amgylchiadau, yn enwedig pan fydd cyff uriau dan sylw, a bydd Tai Wales & West yn parhau i weithio’n ddifl ino gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill i

gymryd y camau mwyaf pendant a chyfl ym ym mhob achos yn y gymuned hon a ledled Cymru. Yn yr achos hwn, mae’r camau hyn wedi arwain at droi allan y tenan aid.

“Rwy’n gobeithio y bydd y gorchymyn hwn yn gwneud i breswylwyr deimlo’n fwy diogel yn eu cymuned eu hunain, a hoff wn ddiolch i’r rhai sy’n byw yn Dan y Coed Rise a’r dalgylch am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth tra’r oedd y camau hyn yn cael eu cymryd.”

Dywedodd Arolygydd Plismona Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Paul Tinkler: “Mae’r camau cadarnhaol hyn yn dangos i’n cymunedau na ddylen nhw orfod disgwyl goddef ymddygiad o’r fath, pa un ai rhentu’r cartref maen nhw’n ei wneud neu ei berchen yn breifat.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd â gwybodaeth am droseddau yn eu hardal, i gysylltu â’r heddlu drwy ff onio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.”

Fe wnaeth digwyddiadau cyson o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â chyff uriau arwain at droi allan denan aid yn un o’n cartrefi yn Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.

Page 31: Intouch Haf 2012

Gwarchod y Gymdogaeth | intouch | www.wwha.net | 31

Gwarchod y gymdogaeth wnewch chi wirfoddoli?

Y nod yw sicrhau cyfathrebu da rhwng y gymuned a’r heddlu ynghylch digwyddiadau amheus neu rai troseddol sy’n digwydd yn eu hardaloedd.

Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn ff ordd wych o fynd i’r afael â phroblemau, ac rydym bob amser angen rhagor o bobl. Felly, os hoff ech gynnig eich enw, cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu eich heddwas lleol.

Yng Nghlos Tan y Fron, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, rydym wedi sefydlu ardal gwarchod y gymdogaeth y mae WWH yn ei chefnogi. Fe wnaeth y Tîm Gwarchod y Gymdogaeth gais am feinciau cymunedol er mwyn i breswylwyr allu cyfarfod, a hoff em ddiolch i WWH am eu cefnogaeth drwy’r grant Gwneud iddo Ddigwydd.

Mae Gwarchod y Gymdogaeth yn sefydliad sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth a’r Heddlu, lle mae preswylwyr yn gallu bod yn gydlynwyr ar gyfer eu strydoedd a’u cartrefi eu hunain, fel yr ysgrifenna un o breswylwyr WWH, Gill Johnson, o Glos Tan y Fron, Pen-y-bont ar Ogwr, a welir ar y chwith yn y tu blaen uchod, gyda Pat Goldsworthy a’r Swyddog Tai Claire Pepper.

Page 32: Intouch Haf 2012

32 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

A fydd newidiadau yn y budd-daliadau yn eff eithio arnoch chi?

Yn y rhifyn hwn, rydym yn edrych yn fanylach ar y dreth ystafelloedd gwely, sef newid yn y budd-dal tai y gallech ei gael yn dibynnu ar faint eich teulu a sawl ystafell wely y mae gennych yr hawl i’w cael dan reolau newydd y budd-daliadau.

Nodwch y bydd y newid hwn yn eff eithio ar bobl yn yr ystod oedran gweithio yn unig, felly os cawsoch eich geni cyn 1 Hydref 1951 (neu os ydych yn 61 oed a 6 mis) ni ddylai hyn eff eithio arnoch chi. Dyma’r lleiafswm oedran y gallwch dderbyn Credydau Pensiwn, felly os ydych yn cael unrhyw fath o Gredyd Pensiwn, ni fydd hyn yn eff eithio arnoch chi. Y Dreth Ystafelloedd GwelyMae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd yn cyfl wyno ‘meini prawf maint’ newydd ar gyfer hawlio budd-daliadau tai cym-deithasol. Bydd hyn yn gymwys o 1 Ebrill 2013 i denan aid sydd wedi cyrraedd oedran gwaith (sef ar hyn y bryd, y rhai a anwyd ar ôl 1 Hydref 1951).

Beth mae’r newidiadau yn ei olygu?Bydd y meini prawf maint yn cyfyngubudd-daliadau tai i ganiatáu un ystafellwely’r un ar gyfer y canlynol:

• Oedolyn sengl neu gwpl• Unrhyw oedolyn arall (16 oed neu’n

hŷn)• Dau blentyn dan 16 oed o’r un rhyw • Dau blentyn dan 10 oed heb ystyried

eu rhyw• Unrhyw blentyn arall• Preswyliwr anabl neu bartner sydd â

gofalwr dros nos nad ydyn nhw’n byw gyda nhw

Pwy fydd yn cael eu heff eithio?Pawb sy’n hawlio budd-dal tai y bernirfod ganddyn nhw o leiaf un ystafellwely sbâr. Mae hyn yn cynnwys:

• Rhieni wedi gwahanu, sy’n rhannu’r gofal dros eu plant ac a allai fod wedi cael ystafell wely ychwanegol i adlewyrchu hyn. Mae rheolau budd daliadau yn golygu bod yn rhaid cael ‘prif ofalwr’ dynodedig ar gyfer plant (yr un sy’n cael y budd-dal plant)

Yn rhifyn blaenorol Materion Ariannol, fe wnaethon ni roi sylw i amrywiaeth eang o newidiadau i fudd-daliadau a allai eff eithio ar breswylwyr dan Ddeddf Diwygio Lles y Llywodraeth.

Page 33: Intouch Haf 2012

EnillyddDebyd uniongyrcholENILLWCH drwy dalu eich rhent drwy ddebyd uniongyrchol.

Llongyfarchiadau i Mrs Games!Mrs Games of Western Court, Cynllun perchnogaeth cartrefi er ymddeol gan WWH yng Nghaerdydd, oedd yr enillydd ff odus yn raffl fawr chwarterol debyd uniongyrchol chwarter olaf 2011. Cyfl wynwyd y siec gan Pat Green, y Rheolwr Cynllun, sydd i’w gweld ar y dde gyda Mrs Games.

Am eich cyfl e i ENNILL, byddwch angen talu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Cysylltwch â’ch Swyddog Tai, a fydd yn helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych, neu ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

Mae talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn cael gwared â’r holl draff erth o geisio cofi o talu’n brydlon, ac mae’n hawdd ei sefydlu.

Materion ariannol | intouch | www.wwha.net | 33

• Cyplau sy’n defnyddio eu hystafel wely ‘sbâr’ i wella ar ôl salwch neu lawdriniaeth• Gofalwyr maeth, gan nad yw plant maeth yn cael eu cyfri’n rhan o’r teulu er dibenion budd-daliadau• Rhieni y mae eu plant yn ymweld â nhw, ond nad ydyn nhw’n rhan o’r cartref• Teuluoedd â phlant anabl• Pobl anabl, gan gynnwys pobl sy’n byw mewn cartrefi a addaswyd neu a ddy uniwyd yn arbennig.

Faint fydd pobl yn ei golli?Bydd y toriad yn ganran benodol o’r rhent sy’n gymwys ar gyfer Budd-dal Tai. Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd hyn yn cael ei osod ar 14% ar gyfer un ystafell wely ychwanegol a 25% ar

gyfer dwy neu ragor o ystafelloedd gwely ychwanegol.

Os ydych yn cael £100 yr wythnos o Fudd-dal Tai tuag at rent o £130, ac y bernir nad ydych yn defnyddio un ystafell wely, mae hyn yn golygu y bydd eich budd-dal yn gostwng £18.20 (14% o’ch rhent o £130). Yna, fe fyddech chi’n cael £81.80 yr wythnos o Fudd-dal tai tuag at eich rhent o £130. Byddai eich rhent taladwy yn cynyddu o £30 yr wythnos i £48.20.

Page 34: Intouch Haf 2012

34 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Enghrai 1 Mae gan Tony a Melanie ddau o blant - Sophie sy’n 5 oed a Ben sy’n 3 oed. Maen nhw’n byw mewn tŷ 3 ystafell wely, ac yn cael £80 o Fudd-dal Tai’r wythnos tuag at eu rhent llawn o £100, sy’n golygu eu bod nhw’n talu £20 arall eu hunain.

Dan reolau newydd y meini prawf maint, dim ond budd-dal tai ar gyfer llety dwy ystafell wely fydden nhw’n gymwys i’w gael – un ystafell wely ar eu cyfer eu hunain ac un ar gyfer eu plant, y mae disgwyl iddyn nhw ei rhannu gan eu bod nhw dan 10 oed. Byddai’r adran Budd-daliadau Tai lleol yn gostwng eu Budd-dal Tai 14% o’u rhent, gan y bydden nhw’n cael eu hystyried fel rhai sydd ag un ystafell wely’n ormod. Byddai hyn yn golygu y bydden nhw’n cael £66.00 yr wythnos o Fudd-dal Tai, gan adael diff yg o rent taladwy o £34.00 (rhent = £100, 14% o hyn yn £14.00 ynghyd â’r £20 yr wythnos yr oedden nhw’n gorfod ei dalu’n barod).

Enghrai 2Mae Jill yn rhiant sengl gyda phedwar o blant, Tom a James sy’n 12 oed, Carly sy’n 15 oed a Sarah sy’n 17 oed.

Mae hi’n byw mewn tŷ pedair ystafell wely, ac ar hyn o bryd yn cael Budd-dal Tai o £80 yr wythnos tuag at ei rhent o £130, sy’n golygu fod yn rhaid iddi dalu £50 yn ychwanegol.

Dan reolau’r meini prawf maint, byddai gan Jill hawl i Fudd-dal Tai am gartref 4 ystafell wely, felly ni fyddai ei budd-dal yn lleihau. Mae hyn oherwydd y byddai ganddi hawl i un ystafell ei hunan, un ystafell ar gyfer Sarah, gan ei bod hi dros 16 oed, un ystafell ar gyfer Tom a James, gan fod disgwyl iddyn nhw rannu, ac un ystafell ar gyfer Carly, gan ei bod hi’n cael ei chyfrif fel plentyn arall.

Felly, beth allwch chi ei wneud?

Os ydych yn meddwl y gallai’r dreth ar ystafelloedd gwely eff eithio arnoch chi, mae angen i chi ystyried beth rydych chi’n mynd i’w wneud.

Efallai eich bod chi’n adnabod rhywun yn eich ardal sydd ar hyn o bryd yn chwilio am gartref mwy o faint, ac efallai eu bod nhw eisiau cyfnewid cartrefi . Os ydych chi,

Isod ceir rhai enghrei iau o sut y gallai hyn eff eithio ar wahanol gartrefi :

cysylltwch â’ch Swyddog Tai i drafod hyn, gan na fyddwn yn caniatáu cyfnewidiadau heb roi ein caniatâd yn gyntaf.

Os nad ydych yn gwybod am unrhyw un sydd eisiau cyfnewid, neu eich bod yn ystyried symud i ardal wahanol neu eisiau ystyried amrywiaeth ehangach o gartrefi , yna cofrestrwch gyda Homeswapper, gwasanaeth cyfnewid cartrefi mwyaf y Deyrnas Unedig.

Page 35: Intouch Haf 2012

Materion ariannol | intouch | www.wwha.net | 35

Enghrai 3Mae Barry yn ddyn sengl sy’n byw mewn ffl at dwy ystafell wely, ac ar hyn o bryd mae’n ddi-waith.

Mae’n rhannu’r gofal dros ei fab gyda’i gyn-bartner. Hi sy’n cael y Budd-dal Plant gan fod eu mab yn treulio’r mwyafrif o’r wythnos gyda’i fam, ac yn aros gyda Barry ar nos Sadwrn.

Dan reolau’r meini prawf maint, byddai Budd-dal Tai Barry yn cael ei ostwng 14%, gan na fyddai’n cael ei gyfrif fel ‘prif ofalwr’ ei fab, a dim ond Budd-dal Tai ar gyfer llety un ystafell wely y byddai’n gymwys i’w gael.

Enghrai 4Mae Sheila yn byw ar ei phen ei hun mewn ffl at er ymddeol 2 ystafell wely. Cafodd ei geni ar 1 Rhagfyr 1951.

Mae hi’n cael Budd-dal Tai o £50 yr wythnos tuag at ei rhent o £75 gan ei bod yn gweithio’n rhan amser. Mae Sheila yn ymwybodol y bydd y rheolau meini prawf maint yn eff eithio arni hi, gan iddi gael ei geni ar ôl 1 Hydref 1951. Bydd ei Budd-dal Tai yn gostwng 14% ar sail swm ei rhent wythnosol, gan ei gadael hi â £39.50 yr wythnos. Er hynny, mae hi wedi cyfrifo ei hoedran credyd pensiwn gan ddefnyddio’r gyfrifi annell pensiwn ar www.directgov.uk , sydd wedi dweud wrthi y bydd hi’n gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn o 6 Gorff ennaf 2013, felly dim ond am tua thri mis y bydd y newid yn eff eithio arni hi.

Fel un o breswylwyr WWH, gallwch wneud hyn am ddim, gan roi mynediad i chi eich hun at amrywiaeth eang o gartrefi ledled y wlad. Mae’n hawdd gwneud hyn – ewch i www.homeswapper.co.uk a rhowch eich manylion, gan sicrhau bod y llety rydych chi’n chwilio amdano yn ateb eich gofynion. Yna, bydd Homeswapper yn eich paru chi’n awtoma g gyda chyfnewidiadau posibl.

Nodwch y byddwch chi angen caniatâd Wales & West cyn cyfnewid eich cartref gydag unrhyw un arall.

Fel eich landlord, fe wnawn ni beth bynnag allwn ni i’ch helpu chi i symud os yw hyn yn eff eithio arnoch chi. Byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol agos i drafod eich dewisiadau, ond os ydych chi’n pryderu am y newid hwn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni unrhyw dro.

Page 36: Intouch Haf 2012

36 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Bu’r mau elusennol yn ein swyddfeydd yn y Ffl int a Chaerdydd yn trefnu te jiwbilî, a oedd yn cynnwys teisennau, sgons a brechdanau blasus ar thema’r diwrnod mawr. Bu nifer o’n cynlluniau er ymddeol yn dathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, gyda’r elusen yn elwa ar raffl au yn Llys Faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle bu gwirfoddolwyr o Help the Heroes yn rhoi sgwrs am yr elusen, ynghyd â chyfraniad o £80.00. Fe wnaeth Ivor Solsberg, sy’n byw yn Oldwell Court yng Nghaerdydd, gyfrannu ei dŷ doliau cartref i raffl er budd Help for Heroes. Yn ogystal, mae staff WWH hefyd yn cyfrannu unrhyw newid mân yn eu cyfl og, tra bod diwrnodau gwisgoedd anff urfi ol bob dydd Gwener nid yn unig yn boblogaidd ond hefyd yn ff ordd lwyddiannus o godi arian - ceir £1 y pen drwy’r fenter hon.

Dringo’n uchel er budd Tŷ HafanMae Her Tri Chopa Cymru yn gofyn am dipyn go lew o stamina, ac yn ddiweddar, fe wnaeth Mark, Jeff , Gary, Paul a John o’n contractwyr Solar

Mae cyfraniadau at ein helusen enwebedig, Help for Heroes, yn parhau i lifo i mewn, ac mae cyfanswm yr arian yn ein casgliad wedi cyrraedd £18,234.64.

Windows gwblhau’r ddringfa serth hon i gopa tri mynydd yng Nghymru er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan. Dechreuodd y grŵp, sydd rhwng 29 a 51 oed, anelu at gopa’r Wyddfa am 04:15 ddydd Sadwrn 23 Mehefi n, cyn dringo Cader Idris mewn tywydd ofnadwy. Fe wnaethon nhw gwblhau’r her drwy ddod i lawr o gopa Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog am 18:50. Cododd y bechgyn bron i £2,500, gyda Thai Wales & West yn cyfrannu £600 am eu hymdrechion ardderchog. Dywedodd John Lewis, rheolwr y contract yn Solar Windows, sydd wedi bod yn cydweithio â WWH er 2001, “Pan oedd pethau’n mynd yn anodd, roeddem yn meddwl am y rheswm dros dderbyn yr her, ac am y plant llai ff odus na ni, ac fe gawson ni’r ewyllys i ddal a .”

Help for Heroes

Page 37: Intouch Haf 2012

Eich sa wyn au a’ch newyddion | intouch | www.wwha.net | 37

Diolch, Lena!Cafodd Mrs Lena Charles o gynllun er ymddeol Danymynydd yng Nghwm Garw syrpreis hyfryd pan ofynnwyd iddi gyfl wyno gwobrau yn ei hen ysgol, Ysgol Iau Blaengarw. Ni ddigwyddodd hynny, gan mai’r disgyblion a fu’n cyfl wyno rhoddion iddi hi, gan gynnwys teisen wedi ei phobi’n arbennig, tusw o fl odau a chopi o’r gofrestr a gymerwyd ar ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol ar 12 Mehefi n 1922, pan oedd Lena yn bedair oed. Rhoddwyd yr anghenion i ddiolch i Lena am ei holl waith da a’i hymdrechion difl ino yn y gymuned.

Pe na bai hynny’n ddigon, cyfl wynodd Lena lun i un o brif ddarlledwyr newyddion y BBC, Huw Edwards (sydd i’w weld isod gyda Lena) - llun o Huw ei hun gan arlunydd lleol, i ddiolch ar

ran pawb yng Nghapel y Tabernacl, Pontycymer, am iddo eu cefnogi yn eu hymdrech lwyddiannus i adfer organ y capel. Da iawn Lena, a diolch eto am eich gwaith caled parhaus.

Page 38: Intouch Haf 2012

38 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich sa wyn au a’ch newyddion

Hwyl y Jiwbilî!Preswylwyr Tai Wales & West yn cynnal par diemwntNi allai unrhyw un yn Wales & West gredu pa mor siomedig oedd y tywydd dros benwythnos Gŵyl y Banc, ond roeddem wrth ein bodd yn gweld nad oedd y tywydd Cymreig wedi amharu ar hwyliau ein preswylwyr. Dyma ddetholiad o’r hyn a ddigwyddodd. Am ragor o storïau, ewch i ran y Preswylwyr ar ein gwefan.

DanymynyddRoedd Yvonne Humphreys, Rheolwr Cynllun Danymynydd, yn falch dros ben pan gafodd lythyr annisgwyl o Balas Buckingham yn diolch iddi am wahodd y Frenhines a’r Tywysog Phillip i’w par gardd jiwbilî ar 7 Mehefi n. Daeth llyfryn gyda’r llythyr i nodi dathliadau’r Frenhines, a diolchodd i bawb yn Danymynydd am eu teyrngarwch a’u cefnogaeth, gan ddymuno y bydden

nhw’n cael par gardd hyfryd. Mae Yvonne wedi ff ramio’r llythyr, ac y mae yn awr yn cael lle blaenllaw yn lolfa preswylwyr Danymynydd.

Mae’r ff otograff o’r dathliadau yn dangos y preswylwyr gyda’r Frenhines Elizabeth (neu mewn gwirionedd, gyda Lena Charles, sy’n 94 oed), Dug Caeredin (sef Trevor Veal, sy’n 91 oed) a morwyn y Frenhines (Yvonne Humphreys).

Page 39: Intouch Haf 2012

Eich sa wyn au a’ch newyddion | intouch | www.wwha.net | 39

St ClementsDathlodd St. Clements Court yng Nghaerdydd y Jiwbilî mewn steil pan dorrodd un o’r preswylwyr, Trevor Bond, ei wallt hir i godi £150 tuag at Adran Ffi siotherapi Ysbyty Rookwood.

Te gyda’r Frenhines!Cafodd Chris ne Price, Rheolwr Cynllun yng Nghwrt Andrew Buchan, ac un o’r preswylwyr, May Maggie, amser gwych fel gwesteion Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ei phar gardd swyddogol ym mis Mai. Gwahoddwyd y ddwy diolch i’w gwaith dros Gymunedau yn Gyntaf.

Cwrt LeightonCododd Cymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton faneri bach uwch ben eu stryd a rhannu mygiau a llyfrnodau’r jiwbilî i bob tŷ yn y cynllun yng Ngogledd Cymru. Bu plant ac oedolion yn gwisgo he au par a chwythu’r chwythwyr cyn mwynhau bwff e digon da i’r Frenhines ei hunan!

Cafwyd canu yn y par hefyd pan ddefnyddiodd y preswylwyr eu peiriant carioci newydd, a brynwyd gyda’r arian a gafwyd drwy grant Gwneud iddo Ddigwydd. Daeth y par i ben gydag enfys wrth i’r plant anghofi o am y glaw a defnyddio’r maes chwarae a ailwampiwyd yn ddiweddar, dan yr enw Rainbow’s End.

Cynhaliwyd dathliadau hefyd yn Oldwell Court yng Nghaerdydd ac yn Nhŷ Bryn-seion ym Merthyr Tudful.

Cynhaliwyd dathliadau hefyd yn Oldwell Court yng Nghaerdydd ac yn Nhŷ Brynseion ym Merthyr Tudful.

Page 40: Intouch Haf 2012

Larymau personol a theleofalDibynadwy, ff orddiadwy ac wedi’i osod er hwylustod i chi

Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth, ond weithiau gall pawb ohonom fod ar ein hennill drwy ychydig yn rhagor o gymorth. Mae larymau personol Connect24 yn golygu bod cymorth a chefnogaeth o fewn cyrraedd wrth wasgu botwm.

Ffoniwch y rhif rhadff ôn 0800 052 2526e-bos wch: [email protected] ysgrifennwch at: Larymau Personol Connect24Cymdeithas Tai Wales & West Cyf.,RHADBOST CF35883 Alexandra Gate, Ffordd PengamTremorfa, Caerdydd, CF10 1YZ