2
Yr Awrwydr Newyddlen Archifdy Sir y Fflint Hydref 2016 Cysylltiadau William Emes, Dylunydd Tirlunio o’r 18fed Ganrif, â Sir y Fflint Y Parch. Stephen Glynne (P/28(K)/57) Cynllun o’r parc arfaethedig yn Broad Lane, Penarlâg, 1777, gydag addasiadau gan William Emes (D/HA/601) Yn wreiddiol, roedd Hen Reithordy Penarlâg, sydd wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint ers y 1950au, yn gartref i Reithorion y plwyf am dros 200 mlynedd. Cyflogwyd William Emes, dylunydd tirlunio a oedd yn enwog yn y cyfnod, gan Stephen Glynne, Rheithor Penarlâg rhwng 1770 ac 1780, i weithio ar erddi’r Rheithordy. Dyluniodd gynllun ar gyfer y pedair erw o dir a oedd o amgylch y Rheithordy a phlannodd nifer o goed prin. Talodd y Rheithor Glynne £97-2s-8d i Mr Emes am y gwaith tirlunio, a oedd yn swm sylweddol yn y cyfnod hwnnw. Creodd Emes gynllun o’r ‘parc arfaethedig yn Broad Lane’ hefyd, sef prif gartref teulu’r Glynniaid, ym 1777, ar safle Castell ‘newydd’ Penarlâg. Gellir gweld y cynllun hwn yn Archifdy Sir y Fflint, cyfeirnod: D/HA/601. Dyluniodd a chwblhaodd William Emes gynlluniau yn Eaton Hall (Swydd Gaer), Castell y Waun ac Erddig (Sir Ddinbych). Roedd ei arddull yn debyg i rai ‘Capability’ Brown a Humphrey Repton. Fel rhan o ymgyrch ‘Archwiliwch Eich Archifau’, bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal arddangosfa ddiddorol am William Emes a’i waith yng Ngogledd Cymru. Mae’r arddangosfa wedi cael ei chasglu ynghyd gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, gyda gwybodaeth ychwanegol am ei gysylltiadau â Phenarlâg gan staff yr Archifdy. Mae modd ei gweld yn ystod wythnos Archwiliwch Eich Archifau (19–26 Tachwedd 2016) yn ein cyntedd, yn ystod oriau agor. Gerddi Rheithordy Penarlâg yn y 18fed ganrif (PR/F/123) Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarlâg, CH5 3NR Ffôn: 01244 532364; Ffacs: 01244 538344; e-bost: archives@flintshire.gov.uk gwefan: www.flintshire.gov.uk/archives

Newyddlen Archifdy Sir y Fflint...Newyddlen Archifdy Sir y Fflint Hydref 2016 Cysylltiadau William Emes, Dylunydd ... (19–26 Tachwedd 2016) yn ein cyntedd, yn ystod oriau agor. Gerddi

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Newyddlen Archifdy Sir y Fflint...Newyddlen Archifdy Sir y Fflint Hydref 2016 Cysylltiadau William Emes, Dylunydd ... (19–26 Tachwedd 2016) yn ein cyntedd, yn ystod oriau agor. Gerddi

Yr AwrwydrNewyddlen Archifdy Sir y Fflint

Hydref 2016

Cysylltiadau William Emes, Dylunydd Tirlunio o’r 18fed Ganrif, â Sir y Fflint

Y Parch. Stephen Glynne (P/28(K)/57)

Cynllun o’r parc arfaethedig yn Broad Lane, Penarlâg, 1777, gydag addasiadau gan William Emes (D/HA/601)

Yn wreiddiol, roedd Hen Reithordy Penarlâg, sydd wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint ers y 1950au, yn gartref i Reithorion y plwyf am dros 200 mlynedd. Cyflogwyd William Emes, dylunydd tirlunio a oedd yn enwog yn y cyfnod, gan Stephen Glynne, Rheithor Penarlâg rhwng 1770 ac 1780, i weithio ar erddi’r Rheithordy. Dyluniodd gynllun ar gyfer y pedair erw o dir a oedd o amgylch y Rheithordy a phlannodd nifer o goed prin. Talodd y Rheithor Glynne £97-2s-8d i Mr Emes am y gwaith tirlunio, a oedd yn swm sylweddol yn y cyfnod hwnnw. Creodd Emes gynllun o’r ‘parc arfaethedig yn Broad Lane’ hefyd, sef prif gartref teulu’r Glynniaid, ym 1777, ar safle Castell ‘newydd’ Penarlâg. Gellir gweld y cynllun hwn yn Archifdy Sir y Fflint, cyfeirnod: D/HA/601. Dyluniodd a chwblhaodd William Emes gynlluniau yn Eaton

Hall (Swydd Gaer), Castell y Waun ac Erddig (Sir Ddinbych). Roedd ei arddull yn debyg i rai ‘Capability’ Brown a Humphrey Repton.

Fel rhan o ymgyrch ‘Archwiliwch Eich Archifau’, bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal arddangosfa ddiddorol am William Emes a’i waith yng Ngogledd Cymru. Mae’r arddangosfa wedi cael ei chasglu ynghyd gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, gyda gwybodaeth ychwanegol am ei gysylltiadau â Phenarlâg gan staff yr Archifdy. Mae modd ei gweld yn ystod wythnos Archwiliwch Eich Archifau (19–26 Tachwedd 2016) yn ein cyntedd, yn ystod oriau agor.

Gerddi Rheithordy Penarlâg yn y 18fed ganrif (PR/F/123)

Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarlâg, CH5 3NRFfôn: 01244 532364; Ffacs: 01244 538344;e-bost: [email protected]: www.flintshire.gov.uk/archives

Page 2: Newyddlen Archifdy Sir y Fflint...Newyddlen Archifdy Sir y Fflint Hydref 2016 Cysylltiadau William Emes, Dylunydd ... (19–26 Tachwedd 2016) yn ein cyntedd, yn ystod oriau agor. Gerddi

Os hoffech gopi o’r cyhoeddiad hwn yn

eich iaith eich hun neu mewn fformat

arall fel print bras, braille neu ar dâp sain,

cysylltwch â’r Golygydd.

Os oes gennych unrhwy sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer Yr Awrwydr, cysylltwch â’r Golygydd, ffoniwch: 01244 532364 neu e-bostiwch: [email protected]

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi creu arddangosfa sy’n ysgogi’r meddwl am Frwydr y Somme, gyda grwp Cofebion Rhyfel Sir y Fflint (www.flintshirewarmemorials.com). Cychwynnodd Brwydr y Somme ar 1 Gorffennaf 1916. Anfonwyd dynion ifanc o bob pentref yn Sir y Fflint i’r Rhyfel Byd Cyntaf, a chollodd nifer ohonynt o leiaf un ym mrwydr fawr, waedlyd y Somme. Mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at chwe dyn o Sir y Fflint a aberthodd eu bywydau.Bydd yr arddangosfa yn teithio i’r lleoedd canlynol: Llyfrgell y Fflint: 1–31 Hydref 2016; Neuadd y Sir, yr Wyddgrug 4–18 Tachwedd 2016. Galwch heibio i unrhyw un o’r ddau le yn ystod eu horiau agor i’w gweld.

Yn dilyn rhaglen ficroffilmio, mae mwy o gofrestrau plwyfi nawr ar gael i’w gweld yn Archifdy Sir y Fflint.

Mae’r rhain yn cynnwys: Capel Pabyddol Treffynnon, bedyddiadau 1730-1860 (MF/1356); Eglwys Ddiwygiedig Unedig Lloegr, Bagillt, bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau, 1941-2001 (MF/1356); Eglwys Llys Bedydd, bedyddiadau 1818-2011, priodasau, 1878-1987 a chladdedigaethau 1898-2011 (MF/1355); Eglwys Ffynnongroyw, priodasau 1968-1979 (MF/1354); Eglwys Llanasa, bedyddiadau, 1863-2015, priodasau, 1971-2015 a chladdedigaethau 1890-2008 (MF/1354-55); a chladdedigaethau Eglwys Llaneurgain, 1958-2004 (MF/1355).

Wrth aildrefnu rhai o ysgolion Sir y Fflint yn ddiweddar, trosglwyddwyd y cofnodion canlynol i’r Archifdy i gael eu cadw:

AN 5029 - Cofnodion Ysgol Gynradd Llanfynydd, 1907 - 2016.

AN 5030 - Cofnodion o Ysgol Fabanod Perth y Terfyn, 1907 - 2016.

AN 5031 - Cofnodion o Ysgol Uwchradd Treffynnon a’i rhagflaenyddion (Ysgol Ramadeg y Sir, Treffynnon, ac Ysgol Dinas Basing), 1890au - 2016.

AN 5044 - Cofnodion o Ysgol Maes Edwin, Mynydd y Fflint, 1912-2016.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd Tystysgrif Cadw Cofnodion Digidol Prifysgol Dundee (Dysgu o Bell) i ddau aelod o staff Archifdy Sir y Fflint, sef Steven Davies, Uwch Archifydd, a Liz Newman, Archifydd. Nod y cwrs, sy’n para am un flwyddyn academaidd, yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar weithwyr cadw cofnodion proffesiynol er mwyn gallu mynd i’r afael â’r sialens enfawr sy’n wynebu’r alwedigaeth Archifo ar hyn o bryd o gadw cofnodion a oedd yn ddigidol yn wreiddiol a chofnodion sydd wedi’u digido ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Maen nhw nawr yn gymwys i ymgymryd â’r dasg hon, ac yn barod i roi’r hyn y gwnaethon nhw ei ddysgu ar waith yma yn yr Archifdy.

Arddangosfa Milwyr Sir y Fflint yn y Somme

Cymwysterau Cadwraeth Ddigidol i Staff

Microffilmiau newydd o Gofrestrau Plwyfi ar gael

Portread coffa o Peter Blackwell o Ffynnongroyw. Hysbyswyd ei fod ar goll yn dilyn y cyrch ar Goedwig Mametz ar 10 Gorffennaf 1916 a chadarnhawyd ei fod wedi marw yn ddiweddarach Llanasa, Llanelwy a Sant Cyndeyrn, c.1905,

cerdyn post (PH/35/02)

Derbyniadau Diweddar