26
SIR Y FFLINT RHIFYN 6 | HAF 2014 SYLW AR ARDAL

Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

SIR Y FFLINTRHIFYN 6 | HAF 2014

SYLW AR ARDAL

Page 2: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

2 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cyflwyniad Anne Croeso i rifyn Haf 2014 Sylw ar ardal Sir y Fflint. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion am ein gwaith yn Sir y Fflint, yn ogystal ag ar draws Cymru.

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod o brysur yn WWH. Rydym yn cyflawni ein rhaglen adeiladu newydd fwyaf ers sawl degawd, ac mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i lawer o ddiwygiadau lles gael eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r economi yn troi’r gornel ac mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn lawer mwy cadarnhaol na’r rhai diweddar.

Rydym wedi helpu ein preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau i fudd-daliadau, ac osgoi ein hofnau gwaethaf y byddai llawer o bobl mynd i ddyled. Rydym wedi ategu nifer y staff rheng flaen i allu cynnig rhagor o gymorth i breswylwyr, ac mae ein harolwg diweddaraf o fodlonrwydd preswylwyr yn dangos bod hyn wedi cael derbyniad da. Mae ein gwasanaethau amrywiol yn parhau i ddatblygu, gan gynnwys cyngor ar ddyledion ac arian, help gyda biliau ynni, a chiniawau

poeth wedi’u darparu gan Castell Catering. Rydym yn gwrando ar ein preswylwyr fel eu bod yn llunio’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud.

Mae ein busnes wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, felly rydym nawr yn Grŵp o gwmnïau gyda thri is-gwmni yn canolbwyntio ar gynnal a chadw, datblygu a menter gymdeithasol a chyflogaeth. Rydym wedi newid i wneud ein hunain yn fwy effeithlon a defnyddio’r arian rydym wedi ei arbed i adeiladu cartrefi sydd hyd yn oed yn fwy fforddiadwy. Rydym wedi cynyddu maint ac amrywiaeth ein rhaglen adeiladu newydd mewn ymateb i’r angen cynyddol am gartrefi o ansawdd da, wedi’u dylunio’n dda a

Page 3: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

3 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y briffi ad hwn yn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith yn eich ardal chi a thu hwnt. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau am unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywir

Anne Hinchey, Prif Weithredwr, Grŵp Tai Wales & West

ff orddiadwy i’w prynu a’u rhentu. Yn olaf, rwy’n falch iawn o ddweud ein bod nid yn unig wedi cadw ein statws fel y prif sefydliad nid-er-elw yng Nghymru ar restr y Sunday Times o Gwmnïau Gorau, ond hefyd wedi symud dau le i fyny’r rhestr i fod yn rhif 5 ledled y Deyrnas Unedig. Gyda thros 800 o sefydliadau nid-er-elw yn cymryd rhan ym mhroses achredu Cwmnïau Gorau y Sunday Times, rydym yn falch iawn o’n llwyddiant parhaus, sy’n tysti olaethu i’n staff ymroddedig sy’n gweithio’n galed.

Wales & West HousingGroup Structure

Page 4: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

4 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ledled Cymru, cafodd 213 o gartrefi eu darparu ar rent cymdeithasol a thri ar werth fel dewisiadau ‘cartref-berchnogaeth cost isel’. Nikki Cole yw Pennaeth Datblygu WWH, ac wrth gydnabod bod anghenion tai ar lefelau critigol, dywedodd bod ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen yn gofyn am dai. Hyd yn oed gyda marchnata tai ar gynnydd, mae llawer o bobl yn dal yn methu prynu na fforddio rhentu. Bydd ein strategaeth ddatblygu yn golygu y bydd WWH yn adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol, rhent fforddiadwy, ar werth a pherchentyaeth cost isel.

Rydym yn chwilio am safleoedd i’w datblygu ac mae ein Bwrdd wedi

Ein rhaglen adeiladu £150m yn parhau ar garlam

cymeradwyo rhaglen adeiladu £150 miliwn dros bum mlynedd i ddarparu mwy na 1,000 o gartrefi.

Mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn hyd yn oed yn fwy. Mae WWH ar y safle neu ar fin dechrau gweithio mewn 9 lleoliad, ac yn gobeithio cwblhau dros 550 o gartrefi – nifer drwy fenter arloesol Grant HF Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu arbenigedd credadwy fel sefydliad datblygu tai arbenigol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, tai cymdeithasol yn ogystal â thai gofal ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.wwha.co.uk

Ehangodd WWH ei rhaglen ddatblygu sawl blwyddyn yn ôl, ac yn 2013 gwelwyd cynnydd pellach yn nifer y cartrefi a gafodd eu cwblhau

Llun wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur o’r datblygiad newydd yn New Road, Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr

Page 5: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

5 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Dyma ddadansoddiad o brosiectau a gyflawnwyd gan WWH fesul awdurdod lleol yn 2013:

Coed y Castell, Pen-y-bont arOgwr

cynllun 23 ar rent cymdeithasol

Brython Drive, Caerdydd a Thŷ Gwyn,Caerdydd

9 ar rent canolradd a 3 Perchnogaeth Cartref Cost Isel a 4 ar rent canolradd

West Shore, Conwy

12 ar rent cymdeithasol

Sir Ddinbych 0

Llys Jasmine, Sir y Fflint

63 gofal ychwanegol

Vulcan House, Merthyr Tudful

15 ar rent cymdeithasol

Cwmfalldau, Powys

9 ar rent cymdeithasol

Rivulet Road a Kingsmills Road, Wrecsam

78 ar rent cymdeithasol a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown

Bro Morgannwg 0

Nifer y tai oedd yn cael eu datblygu ar 31 Rhagfyr 2013:

• Maesgwyn & New Road, Pen-y-bont ar Ogwr – 28 ar rent cymdeithasol a 40 ar rent cymdeithasol

• Elm Street, Caerdydd – 10 tŷ er ymddeol

• Flint House a Glan y Don, Sir y Fflint – tŷ er ymddeol a 58 ar rent cymdeithasol

• Mynwent y Crynwyr, Merthyr Tudful – 17 ar rent cymdeithasol

• Kingsmills Road a Rivulet Road, Wrecsam – 50 ar rent cymdeithasol ac 20 ar rent cymdeithasol

• Townmills Road, Bro Morgannwg – 5 ar rent canolradd

Staff Datblygu WWH y tu allan i Gynllun Gofal Ychwanegol/Gofal Dementia Llys Jasmine, Sir y Fflint

Page 6: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

6 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a diwygio budd-daliadau Yn Ebrill 2014 roedd hi’n flwyddyn ers cyflwyno’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a gweithrediad parhaus nifer o ddiwygiadau lles eraill. Mae’r newidiadau wedi cael effaith fawr ar lawer o’n preswylwyr, ac mae ein strategaeth i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau wedi bod yn effeithiol iawn.

Cafodd dros 800 o breswylwyr WWH ostyngiad yn eu budd-dal tai yn Ebrill 2013, a chafodd budd-daliadau 12 o deuluoedd eu capio erbyn diwedd mis Medi 2013. Er gwaethaf llawer o lythyrau ac erthyglau yn ein cylchgrawn i breswylwyr, In Touch, ac ar ein gwefan, nid oedd pobl yn barod ar gyfer y newidiadau. Fe wnaethom ymweld â phawb yr oeddem yn meddwl y gallai’r newidiadau effeithio arnyn nhw, sef cyfanswm o dros 1,000 o breswylwyr. Roedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phawb yn rhan hanfodol o’n llwyddiant o ran helpu pobl i ymdopi.

Eglurodd Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr: “Rydym wedi ceisio taro ar gydbwysedd rhwng cefnogi preswylwyr a sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu. Mae wedi bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y rhai sydd ‘ddim eisiau talu’ a’r rhai sydd ‘ddim yn gallu talu’. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i helpu’r rhai sy’n cydweithio â ni ac yn gwneud yr ymdrech.

Mae WWH wedi gwneud hyn:

• Buddsoddi dros £180,000 y flwyddyn mewn Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Crëwyd saith swydd newydd a recriwtiwyd swyddogion i helpu preswylwyr yn uniongyrchol.

• Mae WWH wedi helpu pobl i gynyddu eu hincwm gymaint â £780 y flwyddyn drwy gael budd-daliadau a grantiau, ail-drafod dyledion a gwella rheolaeth ariannol.

• Mae dros 100 o bobl wedi symud i gartref mwy addas, lle’r oedd un ar gael.

• Mae 85% o bobl yn awr yn talu eu rhent yn llawn, sy’n gynnydd o’r 50% oedd yn gwneud hynny ym mis Mai 2013.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi dewis aros yn eu cartrefi. Mae rhai wedi gwneud hynny gan mai yn y gymuned

Page 7: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

7 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

honno maen nhw wedi byw erioed, ac nid ydyn nhw’n dymuno symud plant i ysgolion gwahanol, neu eu bod yn agos at lle maen nhw’n gweithio. Yn achos eraill, maen nhw’n methu symud oherwydd nad oes unrhyw gartref llai i symud iddo.

Yn achos rhai o’n preswylwyr, mae’r tebygolrwydd hyd yn oed yn fwy anodd. Ni all preswylwyr anabl sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi’u haddasu’n gynaliadwy ar gyfer eu hanghenion symud yn hawdd, ac nid oes gwarant o gael addasiadau mewn eiddo arall yn y dyfodol.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi papur ymchwil ar y broblem hon a lobïo’r Llywodraeth i newid y rheolau ac eithrio preswylwyr anabl mewn cartrefi a addaswyd.

Roedd ein canfyddiadau yn arswydus, gyda chost bosibl o £40m i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym ni a’n partneriaid yn Tai Cymunedol Cymru wedi bod wrthi’n lobïo Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad a rhanddeiliaid eraill i ymgyrchu i berswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y polisi hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.wwha.co.uk/About-Us/News/Pages/Public-money-set-to-be-wasted.aspx

Cymaint fu effaith y data yn ein hadroddiad fel ei fod wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y rhai sy’n ymgyrchu yn erbyn ac adrodd ar effaith diwygio lles yng Nghymru, gan gynnwys y Pwyllgor Dethol ar Faterion Seneddol Cymreig, a sesiynau llawn yn y Senedd.

Mae un o’n preswylwyr, Judith Parker, yn byw gyda’i merch Emma, sy’n 21 oed, a’i mab Luke, sy’n 17 oed, mewn byngalo wedi ei adeiladu’n bwrpasol yn Caerau, Caerdydd

Page 8: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

8 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ym mis Chwefror cyrhaeddodd y cwmni safle uchaf y gynghrair o gwmnïau nid-er-elw yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol ym mhroses Cwmnïau Gorau’r Sunday Times, a oedd yn gosod Tai Wales & West yn y 5ed safle ledled y Deyrnas Unedig. Dan yr un broses, fe wnaeth WWH hefyd gadw safon aur gwobr achrediad tair seren y Cwmnïau Gorau.

Yn ystod yr hydref y llynedd, cafodd WWH ei enwi yn rhestr agoriadol Housing 24 o’r 50 Landlord Tai Fforddiadwy gorau yn y Deyrnas Unedig, gan gyrraedd safle 42.

Mae Vulcan Court, cynllun ailddatblygu Bragdy hanesyddol Vulcan ym Merthyr

Tudful, wedi ennill gwobr Datblygiad Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai mawreddog y Deyrnas Unedig 2014, a hefyd wedi cael ei enwi fel un o’r 50 Datblygiad Tai Fforddiadwy Gorau yn rhestr gyntaf Inside Housing.

Cafodd Llys Jasmine, datblygiad gofal ychwanegol a gofal dementia arloesol WWH yn yr Wyddgrug, gogledd Cymru, le ar restr fer categori’r Cynllun Datblygiad Mawr y Flwyddyn Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig.

Yn olaf, cawsom y wobr gyntaf yn y categori Arloesi gydag Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig 2014.

Ni yw’r cwmni nid-er-elw gorau yng Nghymru - eto!Y mae wedi bod yn chwe mis arbennig o lwyddiannus i WWH o ran dyfarniadau ac achrediadau.

Page 9: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

9 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Twf Connect24

Ers 2004 rydym wedi bod yn darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer cymdeithasau tai eraill ledled Cymru, a’r llynedd fe wnaethom groesi’r ffi n i Loegr.

Ers 2012, gan weithio dan is-frand y Grŵp, sef Connect24, rydym yn falch iawn o allu adrodd twf dramati g yn y rhan hon o’n busnes dros y chwe mis diwethaf, wrth i ni ennill dim llai nag wyth contract newydd gyda saith sefydliad gwahanol.

Mae ein gwasanaeth Connect24 bellach yn monitro Larymau mewn Argyfwng mewn mwy na 7,700 o gartrefi ledled Cymru, ac yn ateb galwadau ff ôn y tu allan i oriau i 50,000 o gartrefi . Er bod y cynnydd hwn yn ein busnes yn destun

Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymateb i alwadau larwm mewn argyfwng ein preswylwyr ein hunain a darparu gwasanaeth ff ôn 24 awr / 7 diwrnod yr wythnos sy’n delio â’r amrywiaeth lawn o faterion rheoli tai.

boddhad, rydym yn ymwybodol o’r angen i ddarparu’r un gwasanaeth o safon a pharhau ein perthynas waith ymatebol dda gyda’n holl gleienti aid.

Yn ddiweddar rydym wedi prynu system fonitro gwaith unigol, felly yn fuan byddwn yn gallu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i gleienti aid hen a newydd, eto dan is-frand Connect24 WWH.

Page 10: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

10 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Isod gwelir crynodeb o gontractau Connect24:

Sefydliad Gwasanaeth a ddarperir gan Connect24 WWH

Cymdeithas Tai Abbey field Cymru Larwm mewn argyfwng / TeleofalTai Cymunedol Bron Afon Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Charter Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Derwen Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Elim Ffôn y tu allan i oriauGrwp Gwalia Ffôn y tu allan i oriauHafal Ffôn y tu allan i oriauHafan Cymru Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai’r Canolbarth Larwm mewn argyfwng / TeleofalCartrefi Dinas Casnewydd Larwm mewn argyfwng / Teleofal a

Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Newydd Larwm mewn argyfwng / TeleofalGrŵp Tai Pennaf Larwm mewn argyfwng / TeleofalTai Calon Larwm mewn argyfwng / Teleofal a

Ffôn y tu allan i oriauTemp2Perm Ffôn y tu allan i oriauTai Cymoedd i’r Arfordir Larwm mewn argyfwng / TeleofalWates Ffôn y tu allan i oriauUnigolion preifat Larwm mewn argyfwng / Teleofal

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn, cysylltwch â:

Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi ar 02920 415386 neu [email protected]

Christine Bowns, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 02920 415341 neu [email protected]

Page 11: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

11 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Castell Ventures- menter gymdeithasol newyddMae Castell Ventures yn gwmni newydd, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West, ac sy’n ymroddedig i greu rhagor o fuddsoddiad cymdeithasol a menter mewn cymunedau ledled Cymru. Eglura Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH a Chadeirydd Castell Ventures, pam y cafodd ei greu.

“Mae Cymunedau angen cwmnïau moesegol cryf a chyfrifol, sy’n barod i roi blaenoriaeth i gwsmeriaid a gwasanaethu, a gofalu am y cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. Maen nhw angen cwmnïau sy’n prynu’n lleol, yn gweithio’n lleol ac yn cyfl ogi’n lleol fel bod buddsoddiadau ac elw yn aros yn y gymuned.”

Dywed Anne: “Bydd gan Castell Ventures lawer o ddimensiynau, a bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chynnyrch y mae ein preswylwyr a’n cymunedau yn dweud wrthym eu bod nhw eu hangen. Bydd yn creu cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant, ac yn cefnogi preswylwyr i gyrraedd eu potensial llawn.”

Yr adran gyntaf yw Castell Catering. Fe’i sefydlwyd ym mis Hydref y llynedd i ddarparu prydau poeth i bobl hŷn yn ein cynlluniau gofal ychwanegol a’r gymuned ehangach. Mae ein gwaith gydag Age Connect Gogledd Ddwyrain

Cymru a’n cynlluniau gofal ychwanegol newydd wedi amlygu’r angen am wasanaethau prydau bwyd poeth, ac roedd Cyngor Sir y Ffl int hefyd yn awyddus i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu menter gymdeithasol i greu rhagor o gyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant.

Mae Castell Catering wedi sicrhau wedi sicrhau swyddi i 15 o bobl, ac erbyn hyn mae’n gweini dros 1,000 o brydau poeth blasus yr wythnos. Lle bynnag y bo modd, mae’r cynhwysion yn lleol ac mae’r adborth gan gwsmeriaid wedi bod yn wych.

Am ragor o wybodaeth am Castell Catering, ff oniwch 0800 052 2526. Gallwch hefyd fynd i’r wefan www.wwha.co.uk

Page 12: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

12 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Adroddiad Blynyddol 2013- cryf, cynaliadwy ac yma ar gyfer y tymor hir

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gyfer 2013 wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, a gwelwyd bod 2013 wedi bod yn flwyddyn wych i’r grŵp.

Gyda throsiant o £40 miliwn, fe wnaeth y Grŵp warged o £8.5m a ail-fuddsoddwyd i gefnogi gwariant o £27m ar welliannau fel ceginau, ystafelloedd ymolchi a 213 o gartrefi newydd.

Fel busnes cymdeithasol nid-er-elw, ni thalwyd difidendau cyfranddaliadau ac ni ddyfarnwyd taliadau bonws, oherwydd yn lle hynny aeth yr holl arian tuag at wasanaethau ar gyfer preswylwyr ac i gefnogi cymunedau. Mae cyflawni gwerth am arian i breswylwyr a phartneriaid wrth wraidd y ffordd rydym yn rhedeg ein busnes.

Eglura Tony Wilson, y Cyfarwyddwr Cyllid: “Mae ein strategaeth i ddod â mwy o wasanaethau dan ein gofal ni, rheoli costau’n well a chael gwared ar wastraff wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym wedi ailgynllunio gwasanaethau’n radical i ganolbwyntio’n well ar gyflawni gwerth am arian i breswylwyr, ac mae hyn

wedi ein gwneud ni’n fwy effeithlon, gan allu ail-fuddsoddi rhagor o adnoddau er budd ein cymunedau.”

I weld copi o’r adroddiad :http://www.wwha.co.uk/About-Us/Corporate-Information/Pages/Corporate-reports.aspx

Page 13: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

13 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cambria Maintenance ServicesMae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn y mae wedi treblu mewn maint bron â bod ers i ni ei sefydlu yn 2010

Ar ddechrau 2013, fe wnaethom ymestyn ein gwasanaethau i ogledd Cymru, sy’n golygu bod Cambria bellach yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adweithiol i’n holl eiddo ledled Cymru. Rydym yn hynod falch o’r llwyddiant hwn, a’r ffaith bod Cambria yn cyflogi dros 100 o staff ac yn hyfforddi nifer o brentisiaid.

Ein gweledigaeth yw i Cambria barhau i dyfu a chynyddu ei lwyth gwaith. Heb

os, mae Cambria wedi ein helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol, gydag arbedion o £1.1 miliwn ers ei sefydlu yn 2010. Mae hyn yn cyfateb i 330 o geginau, 380 o ystafelloedd ymolchi neu 21 o gartrefi newydd wedi’u cyllido gan grant. Gallwn adrodd hefyd fod Cambria wedi cynnal 24,500 o atgyweiriadau yn 2013 yn unig, yn ogystal ag adnewyddu 228 o geginau a 466 o ystafelloedd ymolchi.

Page 14: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

14 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant

Drwy gydol 2013, fe wnaeth WWH gefnogi 58 o brentisiaethau, cyflawni mwy na 13,500 awr o hyfforddiant a chynnal cyfartaledd o 83.75% o ran y defnydd o lafur a chadwynau cyflenwi lleol.

Rydym hefyd wedi llwyddo nid yn unig i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy raglen Go Wales, y mae un o gyfranogwyr y cynllun - Libby Price - wedi mynd ymlaen i gael gwaith llawn amser fel rheolwr ein canolfan adnoddau cymunedol newydd yn Hightown, Wrecsam.

Enghraifft arall o leoliad gwaith llwyddiannus oedd myfyriwr Rheoli Digwyddiadau o Brifysgol Morgannwg, Lisa Williams, yn gweithio’n wirfoddol gyda’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Fe wnaeth Lisa helpu i godi dros £9,000 mewn nawdd ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blaenllaw WWH ym mis Hydref 2013.

Yn olaf, mae Jack Donald, myfyriwr adeiladu, dylunio a rheoli o Brifysgol Leeds, a gafodd leoliad gwaith gwirfoddol gyda’n tîm datblygu yng Ngogledd Cymru, erbyn hyn yn cael ei dalu am ei gyfraniad ar sail ansawdd ei waith.

‘Gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau’ yw ein bwriad, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau 2013 gyda chymorth sylweddol pellach ar gyfer cyfleoedd gwaith, cyflogaeth a hyfforddiant ledled Cymru.

Mae Grŵp WWH yn ymrwymedig i gefnogi cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy ei wahanol feysydd busnes.

Yn y llun gwelir y myfyriwr Jack Donald (ar y chwith) gyda Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu WWH

Page 15: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

15 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Gostyngiad o 50% yn yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodwyd Yn 2013 fe wnaethom adolygu’r ffordd rydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ers hynny rydym wedi cwblhau ailwampiad radical o’n system.

Mae ein dull newydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wedi arwain at gwymp enfawr o 50% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad niwsans a nodwyd - o 1260 o ddigwyddiadau a nodwyd yn 2012 i 625 yn 2013. Roedd grymuso preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, gan annog a chynorthwyo preswylwyr i ddod o hyd i atebion parhaol, a chynorthwyo preswylwyr i gynnal eu tenantiaethau drwy roi cymorth perthnasol ar waith yn sylfaen i’n llwyddiant hyd yn hyn.

Mynd yn groes i’r duedd o ran troi pobl allan Datblygiad arall rydym yn hynod falch ohono yw’r gostyngiad yn ein ffigurau ar gyfer troi pobl allan. Yn ddiweddar, mae’r cyfryngau wedi cyfeirio at gynnydd yn nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o dai cymdeithasol, yn enwedig ar ôl cyflwyno’r diwygiadau lles. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad llwyr, mae WWH yn mynd yn groes i’r tueddiad penodol hwn.

Yn 2006 fe wnaethom droi allan 3 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 46 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 49 achos o droi allan.

Yn 2013 fe wnaethom droi allan 6 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 10 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 16 achos o droi allan. Mae’r ffigurau hyn yn

cynrychioli gostyngiad o 67% dros gyfnod o saith blynedd.

Mae Lynnette Glover, Pennaeth Tai yn WWH, yn priodoli’r gostyngiad hwn i ‘newid llwyr yn ein diwylliant, sydd wedi ein gweld ni’n rhoi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf. Rydym yn gweithio’n galed i helpu pobl i gadw eu tenantiaethau, gan ddefnyddio troi allan fel y dewis olaf. Mae ein dull newydd yn cynnwys paneli rhent arloesol, lle mae’r rhai nad ydyn nhw’n talu’n barhaus yn cael cyfle olaf sylweddol i fynd i’r afael â’u problemau a gwneud trefniant parhaol a fydd yn mynd i’r afael â’u hôl-ddyledion, ac mae’r rhain wedi cael eu canmol gan y drefn farnwrol yng Nghymru.’

Page 16: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

16 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Safon Ansawdd Tai Cymru a mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Yn Tai Wales & West rydym yn ymrwymedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â gwneud ein heiddo mor ecogyfeillgar ag y bo modd. Dyma gipolwg ar rywfaint o’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i’r dibenion hyn:

• Mae’r mwyafrif helaeth o eiddo WWH wedi cael eu hinsiwleiddio (waliau ceudod a llofft)

• Rydym wedi gwneud dros 600 o newidiadau tanwydd i nwy gwres canolog ar gost o tua £1.5 - £2 miliwn

• Rydym wedi gwario tua £1.3 miliwn ar y stoc presennol, gan gwblhau:

34 o osodiadau pympiau gwres o’r ddaear

49 o osodiadau pympiau gwres o’r awyr gyda monitorau a rheolyddion o bell

• Byddwn yn gosod 4 system ynni deallus mewn tai cyfan (gwaith a gynlluniwyd ar gyfer Mai 2014 mewn partneriaeth â Phrifysgolion Caerdydd a Glyndŵr - rhan o’r prosiect SOLCER)

• Roeddem yn enillwyr yng nghategori Arloesi mewn Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau 2014 Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig

• Fe wnaeth ein preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont Ogwr ennill Gwobr Tenantiaid Cynaliadwy’r Flwyddyn 2014 yn y Deyrnas Unedig.

Rydym wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn hyn, ac mae ein sylw parhaus yn parhau i fod ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan helpu i wneud cartrefi’n gynhesach a lleihau biliau.

Page 17: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

17 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Part of WWH’s new 147 affordable housing development in Hightown, Wrexham

Dywedodd Tony Graham, un o reolwyr Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, “Hoffwn ychwanegu ein diolch i Tai Wales & West am eu rhodd hael, a fydd yn ein galluogi i wella’r gwaith hanfodol y mae ein banciau bwyd yn ei wneud ledled Cymru. Wrth i bobl yng Nghymru weld bod eu hamgylchiadau yn mynd yn fwy anodd, mae Ymddiriedolaeth Trussell yn croesawu ein partneriaeth gyda Tai Wales & West, a’u cydnabyddiaeth o’r heriau y mae llawer o bobl ledled ein gwlad yn eu hwynebu.”

O’r chwith i’r dde: Karen Lewis, Rheolwr Cynl-lun WWH, Cleide Correia, Tony Graham ac Anne

Hinchey

Cefnogi Ymddiriedolaeth Trussell a banciau bwyd ledled Cymru

Fe wnaeth cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Trussell a chefnogwyr Banc Bwyd Merthyr Cynon gyfarfod â Phrif Weithredwr WWH Anne Hinchey yng nghynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, de Cymru, i dderbyn y siec.

Mae WWH, sy’n rheoli dros 9,500 o dai fforddiadwy mewn 12 ardal awdurdod lleol ledled gogledd, canolbarth a de Cymru, wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth a banciau bwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae WWH yn gweithredu mannau casglu ar gyfer Banciau Bwyd mewn llawer o’i gynlluniau er ymddeol ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint.

Ledled Cymru mae staff a phreswylwyr WWH wedi cyfrannu dros 640kg o fwyd i fanciau bwyd yn Sir y Fflint, Wrecsam, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Merthyr Cynon yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yn gynharach eleni, rhoddodd Bwrdd Tai Wales & West £5,000 i Ymddiriedolaeth Trussell, y sefydliad sy’n gyfrifol am fanciau bwyd ledled Cymru.

Page 18: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

18 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

The new Hightown Community Resource Centre

Left: The Polish community in Hightown celebrate Christmas at the new HCRC

Ongoing development works at Kingsmills Road, Hightown, Wrexham

Rhedeg Marathon Llundain dros Gymdeithas Strôc CymruFe wnaeth Andrew Pritchard, Swyddog Tai gyda WWH, redeg Marathon Llundain mewn pedair awr, tri munud a 26 eiliad, gan godi mwy na £3,000 er budd Cymdeithas Strôc Cymru.

Cafodd Andy, sy’n gweithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ei ysgogi pan welodd drosto’i hunan effeithiau dinistriol strôc pan ddioddefodd ei nain gyfres o ymosodiadau.

Llongyfarchiadau i Andy ar redeg ei farathon gyntaf, ac os hoffech gyfrannu arian, gallwch barhau i wneud hynny, ar ôl y digwyddiad, ar ei dudalen Virgin Money Giving:

www.virginmoneygiving.com/AndrewPritchardLondonMarathon2014

Page 19: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

19 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Datblygiadau

Rydym yn gwybod bod galw mawr am gartrefi newydd ledled y sir, ac rydym yn gweithio’n dda gyda’r adrannau cynllunio tai. Mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill, a rhagor ar eu ffordd. Meddai Craig: “Fel dyn lleol rwy’n gweld drosof fy hunan yr anhawster y mae pobl yn ei brofi wrth geisio dod o hyd i gartref y gallan nhw ei fforddio.”

Mae ein cynllun gofal ychwanegol blaenllaw, sydd wedi ennill gwobrau, yn Llys Jasmine wedi bod yn llawn ers Nadolig 2013, ac mae’r preswylwyr wedi setlo’n iawn yno. Mae WWH yn adeiladu portffolio o gynlluniau ychwanegol, ac mae’r gwaith ar ei thrydydd ar fin dechrau yn y Drenewydd, Powys. Mae Craig hefyd yn gweithio gyda’r cyngor i archwilio dewisiadau yn Nhreffynnon.

Mae Sir y Fflint yn sir bwysig i WWH o ran datblygiadau newydd. Craig Sparrow, y Rheolwr Datblygu, sy’n arwain ar brosiectau WWH yng Ngogledd Cymru.

Page 20: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

20 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Rhagor o dai fforddiadwy ym Maes Glas

Gyda £4.65 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r gwaith adeiladu ar fin dechrau ar y cynllun gwerth £7.8m. Anwyl Construction sydd wedi cael y contract i adeiladu’r datblygiad, a fydd yn cynnwys 44 o

Roeddem yn hynod falch o gael y cyfle i ddatblygu rhagor o dai fforddiadwy i bobl leol yn Sir y Fflint, gyda 58 o gartrefi newydd wedi’u cynllunio ar gyfer Glan y Don, Maes Glas, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

Y ni yw un o’r datblygwyr tai fforddiadwy mwyaf gweithgar, os nad y mwyaf, yng Ngogledd Cymru, ac mae gwaith wedi dechrau ar brosiect sylweddol arall yn y Fflint.

Bydd y prosiect hwn, sy’n werth £3.3 miliwn, yn arwain at ddatblygu bloc newydd pwrpasol o 33 o randai ar gyfer pobl dros 55 oed yng nghanol y Fflint.

Mae Anwyl Construction wedi cael eu penodi i weithio ar safle hen Swyddfeydd Cyngor Delyn yn Flint House yn y dref. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint,

Gwaith adeiladu yn dechrau

yn Flint House

dai a 14 o randai i gwrdd â’r angen am dai cymdeithasol yn lleol. Bydd cymysgedd o dai 1 ystafell gwely, 2 ystafell wely, 3 ystafell wely a 4 ystafell wely. Bydd y gwaith wedi ei gwblhau yn ystod 2015.

Page 21: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

21 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

bydd pob rhandy yn cael ei inswleiddio i lefel uwch na’r safonau gofynnol, ac fe fyddan nhw’n cynnwys bwyleri nwy hynod effeithlon.

Dywed Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West: “Mae Fflint House yn ddatblygiad newydd gwych a fydd yn defnyddio ynni’n effeithlon, ac yn cynnwys cartrefi cynnes a fforddiadwy. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint wedi gwneud hyn yn bosibl, ac wedi rhoi hwb yr oedd ei angen yn fawr ar yr economi leol. Mae tai fforddiadwy yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen, ac mae’r prosiect hwn, ynghyd â’n cynllun yng Nglan y Don, Maes Glas, yn helpu i wneud gwahaniaeth o ddifrif.”

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai: “Mae datblygiadau fel hyn yn hanfodol i helpu i gefnogi tai fforddiadwy, ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy ledled yr ardal. Mae partneriaeth y Cyngor, Llywodraeth Cymru, Tai Wales & West ac Anwyl yn enghraifft wych o asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd er budd preswylwyr lleol.”

Page 22: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

22 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Llawenydd dwbl i ddau frawd Mae cynnig cyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith ystyrlon o ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i Grŵp WWH yn ei gyfanrwydd, fel y byddwch wedi darllen yn ein hadran newyddion drwy Gymru gyfan, ac mae dau frawd o Bagillt, gogledd Cymru, yn enghraifft dda o’r ymrwymiad hwn ar waith.

Ar ôl i’n his-gwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria eu cyflogi fel prentisiaid, yn Nhreffynnon, mae’r myfyrwyr gwaith brics o Goleg Glannau Dyfrdwy Cambria, Sam a Lewis Edwards, yn dweud eu bod yn falch iawn gyda’u prentisiaethau cynnal a chadw newydd.

Dywedodd Lewis, sy’n 20 oed: “Mae’n wych dysgu am sgiliau cynnal a chadw gwahanol.”

Page 23: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

23 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cytuna ei frawd Sam, sy’n 18 oed. “Mae’r brentisiaeth yn werth mynd amdani. Nid yw gweithio ym mhob tywydd yn broblem i mi, chwaith. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at gyflogaeth lawn amser.”

Mae’r brodyr yn mynd i Goleg Glannau Dyfrdwy Cambria fel myfyrwyr sy’n cael eu rhyddhau am y dydd, ac maen nhw’n astudio Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiliadau dros gyfnod o 12 mis.

Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant yn y coleg a thystiolaeth yn y gwaith mewn meysydd sy’n cynnwys gwaith maen, gwaith coed, gwaith plymwr, plastro a gwaith addurno wrth atgyweirio.

Dywedodd Dave Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Adeiladwaith yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy: “Cael myfyrwyr i drosglwyddo i fyd gwaith yw ein prif nod. Mae’n destament i’r cydweithio effeithiol hwn bod dau o’n dysgwyr wedi cael eu cyflogi gan sefydliad blaengar, llawn egni.”

Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth

– gwneud gwahaniaeth

Mae Will Brooks, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru, wedi bod yn cefnogi pob un o’r preswylwyr hyn i helpu i dalu neu symud i gartref mwy addas.

Hyd yn hyn, mae 48 yn llwyddo i dalu, rhai gyda chefnogaeth y cyngor ac mae 4 o breswylwyr wedi cael cymorth i symud.

Mae 59 o’n preswylwyr wedi cael eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd gwely yn Sir y Fflint.

Page 24: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

24 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Fel y byddwch eisoes wedi darllen yn ein hadran newyddion Cymru gyfan, Castell Catering yw ein menter newydd gyffrous yng Ngogledd Cymru, sy’n darparu gwasanaethau arlwyo mewn dau gynllun tai gofal ychwanegol, Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint a Nant y Môr ym Mhrestatyn.

Wrth ymgartrefu yn eu cartrefi newydd, mae preswylwyr Llys Jasmine wedi mwynhau gwasanaethau Castell

Un o’r mentrau cymdeithasol newydd mwyaf cyffrous yng ngogledd Cymru

Catering gyda phrydau ar themâu gwahanol. Un enghraifft o hyn oedd ar 4 Mawrth, pan ddarparodd Castell Catering grempogau ar Ddydd Mawrth Crempog i ddathlu eu hymrwymiad i’r cynllun gofal ychwanegol. Ac rydym yn falch o ddweud bod y bwyd maethlon o ansawdd uchel a ddarperir gan Castell Catering yn ategu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i fwyta’n iach.

Fe wnaeth preswylwyr Llys Jasmine fwynhau’r 4ydd o Fawrth eleni wrth i Castell Catering ddarparu crempogau ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Crempogau i ddathlu eu hymrwymiad i’r cynllun gofal ychwanegol.

Page 25: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

25 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw noddi disgyblion yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Llan, Chwitffordd, Sir y Fflint, a gyrhaeddodd rownd derfynol ranbarthol Addysg Peirianneg F1 STEM Cymru i ysgolion cynradd gogledd Cymru.

Dan ein nod strategol i gefnogi datblygiad gwaith, sgiliau a hyfforddiant, mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria hefyd wedi ffurfio partneriaeth gref gydag ysgolion yng ngogledd Cymru.

Dreigiau Chwitffordd yn rasio yn erbyn ysgolion eraill yn rowndiau terfynol rhanbarthol F1

Yn gwisgo eu siwtiau bwyler trawiadol, wedi eu noddi gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, fe wnaeth y tîm o chwe phlentyn chwim brofi eu car am y tro cyntaf yn Venue Cymru, Llandudno, mewn cystadleuaeth yn erbyn 31 o ysgolion cynradd eraill.

Page 26: Sylw ar ardal sir y fflint haf 2014

Fe wnaeth y car, a gynlluniwyd gan y Peirianwyr Gweithgynhyrchu Archie Tomas, 10 oed, a Tomas Clapson, 11 oed, gyrraedd cyflymder o 0.996 eiliad. Fe wnaeth y Rheolwr Adnoddau Harvey Boyd a’r Peiriannydd Dylunio Daniel Roberts, ill dau yn 10 oed, helpu i danio’r injan a chael dechrau gwych.

Roedd rheolwr y Tîm, Jessica Owen, sy’n 10 oed, yn falch o’u cyflawniadau. Eglurodd: “Nid dim ond adeiladu’r car cyflymaf oedd yn bwysig, ond sut gwnaethom weithio gyda’i gilydd fel tîm, ysgrifennu at noddwyr i ofyn am help ac ati. Fe wnaethom hefyd lunio cyflwyniad a stondin arddangos.”

Oscar Davies, sy’n 10 oed, oedd y dylunydd graffeg, gan helpu i gynllunio’r car a’r brandio ar gyfer y siwtiau boeler.

Dywedodd Mrs Fiona Roberts, sy’n athrawes yn yr ysgol: “Roedd hwn yn brofiad gwerth chweil. Mae Dreigiau Chwitffordd wedi dysgu mai cymryd rhan yn hytrach nag ennill sy’n cyfrif, ac maen nhw gymaint ar eu hennill ar ôl ymwneud â’r prosiect. Byddwn yn ôl y flwyddyn nesaf!”

Yn y llun gwelir: Nigel Parry, Tomas Clapson, Archie Thomas, Harvey Boyd, Mrs Fiona Roberts (athrawes), Daniel Roberts, Mrs Catherine Hughes (athrawes), Oscar Davies a Jessica Owen

26 | Sylw ar ardal SIR Y FFLINT | Haf 2014 | www.wwha.co.uk