Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1
Pecyn Gwybodaeth Recriwtio
Rheolwr Rhoddion Mawr
Canolfan Mileniwm Cymru
2
Llythyr gan y Rheolwr Gyfarwyddwr
Annwyl Ymgeisydd
Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru.
Fel canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru, ein gweledigaeth yw 'Ysbrydoli ein Cenedl a
Chreu Argraff ar y Byd'. Mae cyflawniadau'r Ganolfan yn ystod ein 12 mlynedd cyntaf wedi
bod yn anhygoel. Rydym wedi croesawu dros 16.5 miliwn o ymwelwyr drwy ein drysau, mae
mwy na 4 miliwn o bobl wedi dod i'r theatr, ac rydym wedi ysbrydoli dros 300,000 o blant a
phobl ifanc drwy ein rhaglen Dysgu Creadigol. Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo, ac
mae gennym lawer i'w gyflawni o hyd, ac fel sefydliad cymharol newydd, croesawn syniadau
newydd a ffyrdd newydd o feddwl.
Mae hon yn adeg gyffrous yn hanes y Ganolfan. Yn ddiweddar, rydym wedi ailbennu ffocws
rhai timau allweddol er mwyn sicrhau bod gennym y capasiti a'r gallu i wireddu ein
huchelgais ar gyfer y dyfodol, gan arwain at rolau a chyfleoedd newydd. Mae'r Ganolfan
wedi adeiladu seiliau llwyddiannus a chadarn iawn a bydd y rolau hyn yn cynnig cyfle i chi
ddod â'ch syniadau, eich creadigrwydd, eich angerdd, eich gwybodaeth a'ch profiad i'r
Ganolfan. Yn gyfnewid am hynny, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cadarn
mewn lleoliad o'r radd flaenaf, sy'n datblygu'n ‘bwerdy creadigol' go iawn ym mhob ystyr.
Diolch am eich diddordeb a Phob Lwc!
Dymuniadau Gorau
Mathew Milsom
Rheolwr Gyfarwyddwr
3
Beth yw barn pobl eraill amdanom?
"…… Yn syml, dyma un o'r cyfleusterau gorau yn y byd - A'r theatr orau yn y byd a
adeiladwyd yn ystod y 50 mlynedd diwethaf"
Yr Arglwydd Lloyd Webber
"Mae gan y sefydliad diwylliannol hwn rym llew ac mae'n llwyddiant rhyngwladol. Mae'n un
o'r lleoliadau gorau a adeiladwyd ers degawdau"
Valery Gergiev, Cyfarwyddwr Artistig, Theatr y Mariinsky
"Mae'n theatr â graddfa operatig. Mae pob sioe dwi wedi ei llwyfannu yma wedi bod yn
llwyddiant ysgubol.”
Syr Cameron Mackintosh
"Roedd yr adborth a gefais gan gynadleddwyr, cydlynwyr ymweliadau a hyd yn oed ein
cysylltiadau allanol yn wych. Mae pawb yn cytuno bod yr ystafelloedd cyfarfod yn hyfryd, yn
gyfforddus iawn ac o safon uchel iawn. Roedd y cyfleusterau clyweledol a threfn yr
ystafelloedd yn ardderchog – roedd y staff yn hynod o garedig ac yn gymwynasgar. A rhaid i
mi beidio ag anghofio am y bwyd – ym mwyty Ffresh ac a weinir yn y Cyntedd – cawsom
wledd gan y staff arlwyo arbennig.
Dorota Drajewicz, British Council
“…roedd yna awyrgylch carnifal ac, yn union fel y cadnawod, mi roedd e'n gampus.”
The Stage, ar gyfer Dinas yr Annisgwyl Roald Dahl
"Mae'r cynhyrchiad deallus ac unigryw hwn yn cyfuno theatredd a realiti yn berffaith. Y
canlyniad yw sioe fawr, emosiynol iawn sy'n rhoi llawer o foddhad. Un o sioeau gorau
Canolfan y Mileniwm efallai ers iddi gael ei sefydlu 11 mlynedd yn ôl."
Theatr yng Nghymru, ar gyfer Only the Brave
4
Ein Gweledigaeth
Nod Canolfan Mileniwm Cymru yw 'Ysbrydoli ein Cenedl a Chreu Argraff ar y
Byd'
Cyflwyniad
Canolfan Mileniwm Cymru yw Canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru ac mae wedi ei
lleoli yng nghanol Bae Caerdydd. Wedi'i agor gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2004, mae ein
cartref diwylliant a chreadigrwydd eiconig, sydd wedi'i leoli ar safle 7.5 erw, wedi croesawu
dros 16.5 miliwn o bobl drwy ein drysau – ac rydym yn parhau i fod yn un o'r atyniadau
mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yng Nghymru.
Yn gartref i wyth o sefydliadau preswyl eraill rydym yn cydweithio â nhw ac yn eu cefnogi,
ein cenhadaeth yw creu canolbwynt ar gyfer diwylliant, hunaniaeth a thalentau Cymru. Ein
nod yw Ysbrydoli ein Cenedl a Chreu Argraff ar y Byd drwy arddangos amrywiaeth eang o
genres theatraidd, rhaglenni addysg greadigol, gwyliau ac arddangosfeydd sy'n cael effaith
gadarnhaol ac yn cynnig budd hirsefydlog i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau cofiadwy a chyfleoedd a all newid bywydau sy'n
datgloi creadigrwydd, p'un ai drwy gyflwyno sioeau cerdd a dramâu o'r radd flaenaf; drwy
greu a chynhyrchu gwaith artistig newydd neu drwy roi cyfle i ddarganfod y celfyddydau a
chymryd rhan ynddynt.
Rydym yn falch o'r gefnogaeth a gawn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth
Cymru, ac rydym yr un mor falch mai dim ond 21% o'n hincwm blynyddol yw'r cymhorthdal
hwn. Caiff y gwaith a wnawn i godi dyheadau pob person ifanc yng Nghymru a chefnogi'r
celfyddydau yng Nghymru ei ariannu i raddau helaeth gan y refeniw a geir o werthu
tocynnau, incwm o ddigwyddiadau codi arian a'n cefnogwyr ffyddlon.
Cyflwyno
Y sioe gerdd fawr gyntaf a lwyfannwyd yn y Ganolfan oedd Miss Saigon ac, ers hynny, rydym
wedi cyflwyno mwy na 500 o deitlau ar ein prif lwyfan ac wedi croesawu dros 4 miliwn o
bobl i'r theatr.
Mae theatr ysblennydd Donald Gordon yn ail gartref i sioeau cerdd mawr y West End sydd
ar daith fel Les Miserables, The Lion King a Wicked; dramâu epig fel War Horse a Far Side of
the Moon gan Robert Lepage a chynyrchiadau dawns hudol fel Edward Scissorhands gan
5
Matthew Bourne, Swan Lake gan Gwmni Bale Brenhinol Birmingham a Theatr Ddawns
Americanaidd Alvin Ailey.
Rydym hefyd wedi croesawu cynyrchiadau o bob cwr o'r byd gan gynnwys Cape Town
Opera, Cerddorfa Mariinsky, cwmnïau opera a bale o Rwsia, Cloudgate Dance o Taiwan a'r
Kodo Drummers o Japan.
Mae Stiwdio Weston yn cynnig cymysgedd eclectig o sioeau theatr, dawns a cherddoriaeth
sefydledig a newydd i gynulleidfaoedd eu mwynhau, yn ogystal â gweithdai, sgyrsiau,
arddangosfeydd a gweithgareddau gŵyl.
Mae'r Ganolfan hefyd yn cyflwyno rhaglen dymhorol o gerddoriaeth fyw, adloniant a
chabaret mewn awyrgylch ymlaciol, ac mae'r arlwy o goctêls creadigol a phrydau blasus yn
ychwanegu at y profiad hwnnw.
Mae'r gofodau hyn yn rhoi llwyfan i'r Ganolfan roi, rhannu a dathlu llais – un o'n prif rolau
fel canolfan ddiwylliannol yn y Brifddinas.
Cynhyrchu
Yn ogystal â chroesawu cynyrchiadau o'r radd flaenaf, mae'r Ganolfan wedi cychwyn ar
daith i gynhyrchu ei gwaith artistig ei hun, gan greu cynyrchiadau sydd 'wedi'u gwneud yng
Nghymru' a fydd yn dangos y gorau o Gymru i'r byd. Yn 2016, roeddem yn falch iawn o
gyflwyno ein cynhyrchiad cyntaf ar y prif lwyfan, sef Only The Brave. Wedi'i leoli yn ystod yr
Ail Ryfel Byd, roedd y sioe hon yn adrodd stori ingol ac ysbrydoledig dau gwpwl a ddygwyd
ynghyd gan y gwrthdaro.
Yn 2017, bydd y Ganolfan yn cynhyrchu ac yn lansio'r cynhyrchiad cyntaf yn y byd o Tiger
Bay the Musical, taith theatraidd gyffrous i dafarndai anniwair a strydoedd cefn hen ardal
Butetown yng Nghaerdydd, a'r gymuned amlethnig ar ddechrau'r 20fed Ganrif.
Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu portffolio cryf o gynyrchiadau llai o faint gan gynnwys
Man to Man, Land of our Fathers a The Last Mermaid a chyd-gynyrchiadau fel La Voix
Humaine gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae llawer o'r cynyrchiadau hyn wedi bod ar
daith o amgylch y DU ac yn cychwyn ar deithiau ymhellach i ffwrdd yn y dyfodol agos.
Yn ein hymgais i ddatblygu ein proffil fel sefydliad sy'n cyflwyno rhaglen amrywiol, ddiddorol
a grymusol, mae'r Ganolfan wedi cynhyrchu gŵyl a gynhelir bob dwy flynedd sy'n dathlu un i
asedau mwyaf Cymru – y llais. Cynhaliwyd 'Gŵyl y Llais' am y tro cyntaf yn 2016, gyda mwy
na 100 o berfformiadau mewn 52 o leoliadau gwahanol ar draws y ddinas. Bydd yr ŵyl
uchelgeisiol hon, a gaiff ei chynnal bob dwy flynedd, yn cynnwys y dalent ryngwladol a lleol
6
orau yn ogystal ag amrywiaeth o gyd-gynyrchiadau a digwyddiadau hygyrch sy'n annog pobl
i gymryd rhan.
Yn 2016, aeth y Ganolfan ati, ar y cyd â National Theatre Wales, i gynhyrchu un o'r
digwyddiadau diwylliannol mwyaf a welwyd yn y ddinas erioed. Llwyfannwyd Dinas yr
Annisgwyl Roald Dahl i nodi canmlwyddiant yr awdur, a aned yng Nghaerdydd, gyda
pherfformiadau a digwyddiadau yn cynnwys dyfodiad annisgwyl Eirinen Wlanog, Cadno
Campus yn cerdded rhaff dynn a phicnic pyjamas enfawr yn y parc.
Cymryd rhan
Nod ein Strategaeth Dysgu a Chyfranogi Creadigol yw meithrin dyhead, hunangred a sgiliau
creadigol ymhlith pobl ifanc ledled Cymru. Byddwn yn cynnig darpariaeth i bob teulu,
plentyn a pherson ifanc, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y sawl sydd wedi ymddieithrio neu
sy'n wynebu tlodi ac anfantais.
Y llynedd, gwnaethom weithio gyda thua 70,000 o bobl ifanc drwy amrywiaeth o fentrau,
gweithdai a pherfformiadau. Mae ein prosiectau yn galluogi pobl i ganfod eu llais creadigol,
ac i gefnogi taith gydol oes i'w archwilio. Credwn fod gan bawb lais artistig, p'un a gaiff ei
fynegi drwy ganu, y gair llafar, dawns, y gair ysgrifenedig, y celfyddydau gweledol neu fathau
eraill o gelfyddyd a chrefft. Mae dod o hyd i'r llais hwn yn gwella bywyd ac yn creu cyfleoedd
newydd – gan rymuso pobl i adeiladu dyfodol cryfach.
Rydym yn cynnig gweithgareddau dysgu gydol oes sydd wedi'u gwreiddio mewn profiadau
ymdrwythol sy'n gysylltiedig â sioeau, digwyddiadau a gwyliau mawr a gynhyrchir gan y
Ganolfan ac a ategir gan gynnwys ac adnoddau dysgu digidol arloesol.
Ein Hamcanion
• Bod yn ganolfan o'r radd flaenaf ar gyfer theatr a'r celfyddydau, gan hyrwyddo, creu a chyflwyno'r digwyddiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol gorau ar draws sbectrwm eang o'r celfyddydau a chynnig profiad o'r radd flaenaf i gwsmeriaid.
• Bod yn ganolfan gynhyrchu a chartref creadigol o safon uchel i sefydliadau preswyl y Ganolfan - Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Urdd Gobaith Cymru, Tŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a Touch Trust.
• Bod yn gyrchfan diwylliannol dwyieithog dynamig, gan ddenu ymwelwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
7
• Bod yn weithrediad cynaliadwy sy'n hyfyw yn ariannol.
• Bod yn sefydliad sy'n cyfrannu at hyrwyddo digwyddiadau a chymryd rhan yn y celfyddydau ledled Cymru yn y ddwy iaith.
• Bod yn fan lle y gall pobl o bob oedran, cefndir a phrofiad ddysgu am y celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.
Rhagor o wybodaeth am ein Sefydliadau Preswyl
Mae'r Ganolfan hefyd yn gartref parhaol i naw o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol
blaenllaw eraill sy'n cydweithio â'i gilydd a'r Ganolfan ar brosiectau.
Llenyddiaeth Cymru – asiantaeth lenyddol Cymru
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – cwmni dawns gyfoes sy'n teithio'n helaeth ledled y DU a thramor
Theatr Hijinx – cwmni sy'n arbenigo mewn mynd â theatr o'r radd flaenaf ar daith i gymunedau a phobl sydd ag anableddau dysgu
Touch Trust – sy'n darparu gweithgarwch ym maes y celfyddydau drwy gerddoriaeth a symud i bobl sydd â'r anableddau dwysaf
Tŷ Cerdd – sy'n cynrychioli cerddoriaeth amatur ac ieuenctid yng Nghymru, gyda stiwdio recordio, llyfrgell gerddoriaeth a chanolfan wybodaeth
Urdd Gobaith Cymru – sefydliad ieuenctid cenedlaethol Cymru
Opera Cenedlaethol Cymru – cwmni opera teithiol o'r radd flaenaf sydd â chwmni parhaol o 250 o bobl
8
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC sy'n breswyl yn Neuadd Hoddinott, gyda chyfleusterau recordio o'r radd flaenaf, ers mis Ionawr 2009
Cyngor Celfyddydau Cymru - sydd hefyd wedi'i gydleoli ar y safle
Canllawiau Gwneud Cais
Sut i Wneud Cais
Cyflwynwch curriculum vitae â llythyr eglurhaol / datganiad ategol (2 dudalen ar y mwyaf),
gan sicrhau eich bod yn cynnwys manylion eich pecyn cydnabyddiaeth presennol.
Mae beth yr hoffem i chi ei wneud (Proffil y Rôl) a beth rydym yn chwilio amdano (Manyleb
Person) yn nodi'r cymwyseddau allweddol rydym yn chwilio amdanynt gan yr ymgeisydd
llwyddiannus. Cyn gwneud eich cais, dylech sicrhau y gallwch ddarparu tystiolaeth ddigonol
o brofiad arbenigol a chymhwysedd arwain. Mae'n werth nodi na fydd unrhyw un y tybir na
all wneud hyn ym marn y panel yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio.
Dylid anfon ceisiadau trwy e-bost at [email protected] erbyn hanner dydd Dydd Llun 27 Tachwedd 2017. Cofiwch nodi teitl y rôl yr ydych yn ymgeisio amdani yn llinell testun eich e-bost.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ar-lein, yn gwbl
gyfrinachol, ar https://www.surveymonkey.co.uk/r/MLR8L6V
https://www.surveymonkey.co.uk/r/MLR8L6V
9
Pecyn Cydnabyddiaeth – Rheolwr Rhoddion Mawr
Pecyn Cyflog
£28,000 i £32,000 y flwyddyn
Yn ogystal, mae'r Ganolfan yn cynnig pecyn cyflogaeth hael sy'n cynnwys cyflog cystadleuol,
ynghyd â'r buddion canlynol:
• Gwyliau blynyddol (25 diwrnod y flwyddyn)
• Gostyngiad ar aelodaeth o gampfa
• Talebau gofal plant (aberthu cyflog)
• Tocynnau di-dâl
• Gwersi Cymraeg
• Pecyn adleoli *
• Cynllun pensiwn cystadleuol
• Cyfleodd dysgu a datblygu
• Gostyngiadau ar gyfer bwytai a manwerthwyr ar y safle a rhai gostyngiadau ar gyfer
bwytai a busnesau oddi ar y safle ym Mae Caerdydd
• Parcio ceir wedi'i sybsideiddio
• Rhaglen cymorth i staff am ddim
* Mae'r pecyn adleoli ar gael i bobl sy'n byw 150 milltir y tu allan i Gaerdydd, ac sy'n barod i adleoli o fewn 20 milltir i'r
Ganolfan.
10
Ymholiadau
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ar unrhyw agwedd ar y broses benodi, os bydd angen
rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol, yna mae croeso i chi gysylltu
â:
Richard Newton (Cyfarwyddwr, Richard Newton Consulting), ar 029 2039 7341, neu e-bost:
Neu
Jo Duggan (Rheolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol) ar 029 2063 6381, neu ffôn symudol:
07788448017, neu e-bost: [email protected];
Byddwn yn parchu cyfrinachedd unrhyw ymholiad neu ddatganiad o ddiddordeb cychwynnol
yn y swydd hon, boed yn ffurfiol neu'n anffurfiol.
Pob Lwc.
11
12
Proffil y Rôl Rheolwr Rhoddion Mawr
Teitl y Rôl : Rheolwr Rhoddion Mawr
Cyfeirnod y
Swydd
Oriau Gwaith: 39 Awr yr Wythnos
Cyflog:
Y Prif Ddiben :
Datblygu a chyflawni incwm codi arian ar gyfer y Ganolfan drwy
godi arian o roddion mawr, gan gynnwys cymynroddion
Cyfrifoldebau
Arbenigol:
(paramedrau
eang / gofynion y
rôl ac nid rhestr
lawn o'r
dyletswyddau /
cyfrifoldebau)
1. Datblygu a chyflawni cynllun 3 blynedd ar gyfer diogelu
incwm o roddion mawr a rhoddion gan unigolion
2. Datblygu a rhoi cynllun ar waith ar gyfer creu incwm o
roddion mawr a chymynroddion yn unol â'r strategaeth
Datblygu cyffredinol - sicrhau y caiff targedau blynyddol
uchelgeisiol eu cyflawni, gyda chynnydd o flwyddyn i
flwyddyn
3. Paratoi strategaeth ar gyfer rhoddion mawr rheolaidd a
phenodol yn ogystal â rhoddion o gymynroddion
4. Monitro, gwella a chynnal cydberthnasau â chefnogwyr
rhoddion mawr
5. Ysgrifennu cynigion creadigol a chymhellol gyda'r gallu i
gyfleu syniadau cymhleth a'n hangen i gael cefnogaeth
6. Arwain rheoli cyllideb ac adrodd ariannol ar gyfer yr holl
waith codi arian o roddion mawr, gan gefnogi'r Pennaeth
Datblygu wrth iddo/iddi reoli'r gyllideb codi arian yn
gyffredinol
7. Annog a meithrin dull gweithredu dynamig ac arloesol i'r
holl waith codi arian o roddion mawr yn y Ganolfan
13
Meysydd
Cyfrifoldeb:
Rhoddion Mawr a Chymynroddion
Rhoddion gan Unigolion
Swyddog Rhoddion gan Unigolion
Swyddog Datblygu Digwyddiadau
8. Goruchwylio a mentora'r Swyddog Datblygu Digwyddiadau
wrth iddo/iddi greu rhaglen ddigwyddiadau drawiadol
Cyfrifoldebau
Arbenigol:
(paramedrau
eang / gofynion y
rôl ac nid rhestr
lawn o'r
dyletswyddau /
cyfrifoldebau)
1. Rheoli'r tîm Rhoddion gan Unigolion yn uniongyrchol
2. Rheoli a datblygu cydberthnasau cryf gyda chefnogwyr
rhoddion mawr presennol a chefnogwyr rhoddion mawr
posibl
3. Arwain ymchwil arloesol ac archwilio i nodi a meithrin
rhagolygon rhoddion mawr
4. Hyrwyddo neges codi arian gryf ar gyfer y Ganolfan yn
fewnol ac yn allanol
5. Manteisio i'r eithaf ar y defnydd o dechnoleg, megis
Tessitura, i adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau masnachol
6. Datblygu a meithrin tîm sy'n perfformio'n dda, gan gynnwys
yr amrywiaeth lawn o gyfrifoldebau rheolwr llinell
7. Cynllunio a chydlynu cydweithio ar draws y Ganolfan i
wella gwaith codi arian o roddion mawr
Mesurau
Llwyddiant :
Llwyddo yn erbyn -
Targedau ariannol
Cynnal a datblygu cefnogwyr
Adolygiad o Berfformiad a Datblygiad ac amcanion
blynyddol
Boddhad ac Adborth Staff / Cwsmeriaid
14
Beth Rydym Yn Chwilio Amdano… Rheolwr Rhoddion Mawr
Pan fyddwch yn paratoi eich cais ysgrifenedig, bydd angen i chi roi tystiolaeth ar gyfer y cymwyseddau hanfodol a dymunol canlynol. Wrth i chi ystyried pob un,
defnyddiwch enghraifft o ble rydych wedi gwneud hyn yn flaenorol, naill ai mewn sefyllfa gwaith neu sefyllfa arall.
A. Gwybodaeth a Phrofiad
Cyfeiriwch at sut rydych yn bodloni'r gofynion hanfodol hyn yn eich cais.
B. Sgiliau a Galluoedd
Cyfeiriwch at sut rydych yn bodloni'r gofynion hanfodol hyn yn eich cais.
Rhif Hanfodol Dymunol
1. Sgiliau rhyngbersonol eithriadol, gyda rhwydwaith dosbarth cyntaf, i
adeiladu cydberthnasau cryf a pharhaus gyda chefnogwyr
X
2. Dull o weithio cydweithredol a darbwyllol. Yn ennyn diddordeb, yn
ystyriol ac yn ddiplomyddol wrth weithredu
X
3. Ymdriniaeth systematig tuag at godi arian gyda gweinyddiaeth wych,
sylw i fanylder a sgiliau trefnu
X
4. Sgiliau meddwl strategol gyda'r gallu i nodi cyfleoedd newydd a
chyflwyno gweithgareddau codi arian creadigol ac arloesol
X
Rhif Hanfodol Dymunol
1. Profiad llwyddiannus amlwg o godi arian o Roddion Mawr X
2. Profiad rheoli effeithiol; rhaid bod wedi rheoli timau. Y gallu i ennyn
perfformiad da gan unigolion a thimau
X
3. Yn gyfforddus ac yn llawn cymhelliant wrth weithio tuag at dargedau.
Profiad o weithio i dargedau o dros £500,000 y flwyddyn a
thystiolaeth amlwg o agosáu yn uniongyrchol i gael rhoddion mawr
X
4. Profiad helaeth o godi arian X
5. Profiad o ddatblygu strategaethau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
(CRM) effeithiol ar gyfer ystod eang o roddwyr a rhanddeiliaid, yn
ddelfrydol gan ddefnyddio Tessitura
X
6. Profiad o ymchwilio a nodi cefnogwyr posibl o amrywiaeth o
adnoddau
X
7. Profiad blaenorol o weithio'n agos gydag unigolion gwerth net uchel,
aelodau o'r Bwrdd ac uwch arweinwyr
X
15
5. Cyfathrebwr gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar - gallu cyfathrebu
achos yn frwd gydag unigolion ar lefel Bwrdd
X
6. Y gallu i gyflwyno rhagolygon unigolion newydd i'r Ganolfan X
7. Sgiliau rhifedd rhagorol gan gynnwys y gallu i gasglu a dadansoddi
data, a phennu a monitro cyllidebau
X
8. Sgiliau rheoli busnes gwych; rheoli cyllideb, rheoli prosiectau a rheoli
amser
X
9. Arweinydd tîm cryf gydag arddull gyfathrebu agored, da sy'n
gweithio ar y cyd ac yn sensitif i'r angen i rannu gwybodaeth â
chydweithwyr
X
Gallu datrys problemau a gweithio o dan bwysau ac i derfynau
amser lluosog
X
10. Sgiliau gweinyddol a sgiliau trefnu cadarn gan gynnwys y gallu i
flaenoriaethu a rheoli prosiectau yn effeithiol ac i ymdrin â nifer o
brosiectau ar yr un pryd
X
11. Y gallu i siarad yn Gymraeg er mwyn adeiladu cydberthnasau
dwyieithog cryf gyda chefnogwyr sy'n siarad Cymraeg
X
C. Gwerthoedd
Cyfeiriwch at sut rydych yn bodloni'r gofynion hanfodol hyn yn eich cais.
Rhif Hanfodol Dymunol
1. Profiad o reoli, datblygu ac ysgogi timau a chydweithio â thimau
mewnol a rhanddeiliaid eraill.
X
2. Ymrwymiad i sicrhau y caiff diwylliant a hunaniaeth Cymru eu
gwerthfawrogi a'u datblygu mewn modd creadigol ym mhob agwedd
ar weithgareddau'r Ganolfan
X
3. Dangos gwerthoedd y Ganolfan yn barhaus; gan eu hymgorffori yn
eich cyflawniadau o ddydd i ddydd
X
Ch. Arall
Cyfeiriwch at sut rydych yn bodloni'r gofynion hanfodol hyn yn eich cais.
Rhif Hanfodol Dymunol
1. Ymrwymiad i weithio ym maes y celfyddydau ac yn frwdfrydig dros
wneud
X
2. Y gallu a'r parodrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol ar
gyfer digwyddiadau, perfformiadau a phan fydd angen
X
16
D. Cymwysterau
Cyfeiriwch at sut rydych yn bodloni'r gofynion hanfodol hyn yn eich cais.
Rhif Hanfodol Dymunol
1. Addysg at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol X
Dd. Y Gymraeg
Mae’r tabl isod yn amlinellu’r sgiliau Iaith Gymraeg sydd eu hangen ar gyfer y rôl
yma, rhowch wybod sut yr ydych chi’n cwrdd â’r gofynion hanfodol hyn yn eich cais
(os yw’n berthnasol).
Rh Hanfodol Dymunol
1. Y gallu i siarad Cymraeg X
2. Y gallu i wrando a deall sgyrsiau yn Gymraeg X
3. Y gallu i ysgrifennu yn Gymraeg X
4. Y gallu i ddarllen deunydd Cymraeg X
Mae'r proffil rôl hwn yn nodi prif ddyletswyddau'r swydd ar y dyddiad y cafodd ei
lunio. Gall y dyletswyddau hyn amrywio o bryd i'w gilydd heb newid cymeriad cyffredinol y swydd na'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrthi. Mae amrywiadau o'r fath
yn gyffredin ac nid ydynt ynddynt eu hunain yn cyfiawnhau ailystyried gradd y swydd.
Llythyr gan y Rheolwr GyfarwyddwrBeth yw barn pobl eraill amdanom?Ein GweledigaethNod Canolfan Mileniwm Cymru yw 'Ysbrydoli ein Cenedl a Chreu Argraff ar y Byd'CyflwyniadCyflwynoCynhyrchuCymryd rhanEin HamcanionRhagor o wybodaeth am ein Sefydliadau PreswylCanllawiau Gwneud CaisPecyn Cydnabyddiaeth – Rheolwr Rhoddion Mawr
Pecyn CyflogYmholiadau