20
YN CEFNOGI MYFYRWYR SY’N OFALWYR Eich pecyn gofalwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru Mai 2020

YN CEFNOGI MYFYRWYR SY’N OFALWYR · 2020. 6. 3. · Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am y broses. Gohirio modiwl . Weithiau, gall fod angen gohirio

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 1 of 20

    YN CEFNOGI MYFYRWYR SY’N OFALWYR Eich pecyn gofalwr

    Y Brifysgol Agored yng Nghymru Mai 2020

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 2 of 20

    CYNNWYS

    Rhowch adborth i ni ar y pecyn yma

    1. Croeso i’ch pecyn Gofalwr 3

    2. Trefnu eich amser 4

    3. Trefniadau hyblyg i’ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau 6

    4. Beth os bydd rhywbeth yn digwydd? Ymdrin â'r annisgwyl 7

    5. A oes cymorth ychwanegol ar gael os oes gennyf anabledd? 9

    6. Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored 10

    7. Awgrymiadau astudio/ymdopi gan ein myfyrwyr sy'n ofalwyr 11

    8. Help gyda'ch costau astudio 13

    9. Datblygu eich cymhwyster 14

    10. Archwilio rhagolygon gyrfa 16

    11. Cysylltiadau cymorth a gwybodaeth defnyddiol 18

    https://www.surveymonkey.co.uk/r/DS62365

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 3 of 20

    1. CROESO I'CH PECYN GOFALWYR

    Rydym yn cydnabod y boddhad a'r heriau sy'n gysylltiedig â bod yn ofalwr. Gall bod yn fyfyriwr roi lle personol i chi a'ch helpu i ddatblygu, ond rydym yn deall bod angen i'ch astudiaethau fod yn hyblyg er mwyn gweddu i ofynion eraill yn eich bywyd. Rydym am eich helpu i wneud y gorau o'ch astudiaethau gyda'r Brifysgol Agored a'ch sicrhau ein bod yma i'ch cefnogi a'ch helpu i lwyddo.

    Yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru, rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored, myfyrwyr sy'n ofalwyr, tiwtoriaid Y Brifysgol Agored a chynghorwyr gyrfaoedd ac addysgol er mwyn datblygu'r Pecyn Gofalwyr hwn. Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ac arweiniad i chi ac yn eich cyfeirio at adnoddau eraill a all fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn astudio gyda ni.

    Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn eich galluogi i drefnu eich astudiaethau ar sail gofynion eich bywyd. Mae'n rhan-amser ac yn hyblyg, sy'n golygu y gall eich cwrs gyd-fynd â'ch rôl ofalu a'ch cyfrifoldebau eraill. Gallwch hefyd gael seibiant rhwng modiwlau os bydd angen a datblygu eich cymhwyster ar gyflymder sy'n addas i chi.

    “Yn ystod fy nghwrs, cymerais seibiant pedair blynedd ar ôl i'm priodas ddod i ben”

    Bydd y pecyn hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am astudio gyda'r Brifysgol Agored a'r ffyrdd hyblyg y gallwn eich cefnogi. Ar ddiwedd y Pecyn Gofalwyr hwn, cewch restr o gysylltiadau i'ch cyfeirio at ragor o ffynonellau cymorth, y tu mewn i'r Brifysgol Agored a'r tu allan iddi.

    Efallai na fyddwch am gael yr holl wybodaeth pan ddechreuwch, ond cadwch y pecyn wrth law a gallwch gael cip arno yn ystod eich cwrs ac ar ei ôl.

    Cofiwch fod staff Y Brifysgol Agored bob amser yma i'ch helpu.

    Byddwn yn diweddaru'r pecyn yn rheolaidd. Os oes rhywbeth ar goll, rhowch wybod i ni !

    Mae gofalwr yn cynnwys unrhyw un sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu heb dâl am nad yw'n gallu ymdopi heb gymorth gofalwr oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu fod yn gaeth i rywbeth.

    Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 4 of 20

    2. TREFNU EICH AMSER

    Y peth braf am astudio gyda'r Brifysgol Agored yw mai chi sy'n dewis pryd a ble rydych yn astudio. Gallech fod yn astudio yn eich pyjamas am 1.00 am neu'n darllen deunyddiau eich cwrs wrth aros am apwyntiad, bws neu drên. Gallwch gael gafael ar ddeunyddiau drwy gyfrifiadur personol, gliniadur, llechen neu ffôn symudol.

    I roi syniad i chi o'r amser dan sylw, os ydych yn dechrau gydag un o'n modiwlau Mynediad, bydd angen i chi astudio am ryw 9 awr bob wythnos. Os ydych am astudio'n rhan-amser tuag at radd, bydd angen i chi astudio am ryw 18 awr bob wythnos. Mae astudio rhan-amser yn golygu cwblhau gwerth 60 o gredydau astudio y flwyddyn ac, fel arfer, byddai'n cymryd 6 blynedd i chi gwblhau Gradd Anrhydedd. Os oes gennych fwy o amser, efallai y byddwch am astudio mwy o gredydau mewn rhai blynyddoedd nag eraill. Rydym yn hyblyg a gallwch amrywio gan ddibynnu ar eich ymrwymiadau.

    “ Mae'n anodd iawn rhagweld beth fydd fy mab yn ei wneud, ac roedd hi'n anodd cynllunio ymlaen llaw. Byddwn yn trefnu wythnos i wneud fy aseiniad ac yna byddai rhywbeth yn digwydd gydag ef a byddwn yn brysur gydag apwyntiadau drwy'r wythnos ac ni fyddwn yn gorffen fy aseiniad ar amser. Roedd fy nhiwtor yn wych, roedd yn gwybod fy sefyllfa ac roedd yn gallu rhoi estyniadau ar fy aseiniadau.”

    Gall fod yn anodd dod o hyd i amser astudio a dim ond chi sy'n gwybod pryd mae'n debygol y cewch amser a lle. Fodd bynnag, mae gennym Gynlluniwr Amser ar-lein defnyddiol sy'n eich galluogi i wirio faint o gredydau y gallech eu hastudio bob blwyddyn. Ewch i'r wefan i weld a oes gennych ddigon o amser.open.ac.uk/courses/time-planner

    Byddwn yn rhoi cymorth i chi yn ystod eich astudiaethau i'ch helpu i reoli eich amser. Mae gan bob modiwl galendr astudio manwl, sy'n tynnu sylw at ddyddiadau allweddol ar gyfer aseiniadau a thiwtorialau, gan restru'r hyn y mae angen i chi ei astudio a phryd. Mae eich Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr ar ben arall y ffôn a bydd eich tiwtor yn cynnig arweiniad i chi ar sut i gadw ar y trywydd iawn os oes angen help arnoch.

    Fel gofalwr, gall eich amgylchiadau newid yn ystod eich astudiaethau. Os ydych yn poeni am gael amser i astudio neu os hoffech gael sgwrs am drefnu amser i wneud popeth, cysylltwch â ni.

    http://www.open.ac.uk/courses/time-planner

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 5 of 20

    3. TREFNIADAU HYBLYG I’CH CEFNOGI YN YSTOD EICH ASTUDIAETHAU

    Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig hyblygrwydd gwirioneddol fel y gallwch drefnu eich astudiaethau o gwmpas eich rôl fel gofalwr. Er enghraifft, gallwch astudio ar adegau sy'n addas i chi.

    “Roeddwn yn astudio drwy'r nos gan fod rhaid i mi aros ar ddi-hun gyda'm merch, ac yna'n cysgu yn ystod y dydd pan oedd yn yr ysgol”

    Gallwch lawrlwytho deunyddiau eich modiwl mewn fformatau gwahanol o wefan eich modiwl. Gallech hefyd gael fersiwn sain i wrando arni ar y trên neu lawrlwytho deunyddiau fel e-lyfr i'ch llechen.

    “Roedd yn help mawr i mi gael fersiynau sain o'm llyfrau…roeddwn yn gallu gwrando ar fy ngwaith wrth i mi wneud tasgau eraill, fel mynd â'r ci am dro...”

    Fel gofalwr, gallech fod â hawl i drefniadau arbennig yn ystod eich astudiaethau, er enghraifft sefyll arholiad gartref (gweler yr adran Beth os bydd rhywbeth yn digwydd?).

    “Roeddwn yn gallu sefyll un o'm harholiadau gartref ac roedd yn help mawr”

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 6 of 20

    4. BETH OS BYDD RHYWBETH YN DIGWYDD? YMDRIN Â'R ANNISGWYL

    “Pan ddechreuais fy ngradd, nid oeddwn yn sylweddoli faint o gymorth oedd ar gael i ofalwyr…..O'r diwedd, pan ddywedais wrth un o'm tiwtoriaid fy mod yn ofalwr, cefais syndod faint o gymorth a roddwyd i mi. Esboniodd y gallwn bob amser gysylltu ag ef os oedd angen estyniadau a chymorth ychwanegol arnaf.”

    Yma yn Y Brifysgol Agored, rydym yn gwybod bod pethau'n digwydd mewn bywyd. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cyfuno gwaith cwrs ag ymrwymiadau gwaith a theulu, ond gall eich cyfrifoldebau fel gofalwr hawlio llawer mwy o'ch amser, yn aml heb fawr ddim rhybudd.

    Mae'n bwysig i chi ddweud wrthym eich bod yn ofalwr ac am unrhyw faterion eraill a all effeithio ar eich astudiaethau, fel y gallwn gynnig unrhyw gymorth ychwanegol y gall fod ei angen arnoch.

    “Mae'r ffordd mae llawer o fyfyrwyr yn Y Brifysgol Agored yn cydbwyso eu hastudiaethau â'u cyfrifoldebau gofalu bob amser yn creu argraff fawr arnaf. Nid yw hyn yn hawdd ac, fel tiwtor, rwy'n ddiolchgar iawn pan fo myfyrwyr yn mynd i'r drafferth o gysylltu er mwyn fy helpu i gael darlun gwell o'u sefyllfa, neu i drafod pryd ac os bydd pethau'n mynd yn anoddach yn ystod eu hastudiaethau. Weithiau, gall hyn fod yn rhywbeth y gallaf ei ddatrys yn gyflym (megis trefnu estyniadau byr ar aseiniadau, neu roi cyngor ar y ffordd orau o flaenoriaethu llwyth gwaith y modiwl), neu efallai y gallwn ofyn am help ychwanegol gan y Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr. Y prif beth yw cysylltu a rhannu beth sy'n digwydd. Ni fydd ots gan diwtoriaid - yn wir, byddant wrth eu boddau i gael syniad gwell o anghenion a safbwyntiau unigol pob myfyriwr. Mae hyn yn ein helpu i deimlo'n hyderus ein bod yn gwneud ein gorau i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau."

    Chris Dowling – Tiwtor gyda'r Brifysgol Agored

    PWY I GYSYLLTU AG EF I GAEL CYMORTH

    Eich tiwtor

    Drwy gydol eich astudiaethau, bydd gennych rwydwaith cymorth i'ch helpu i gadw ar y trywydd iawn. Tiwtor eich modiwl fydd y cyswllt cyntaf a all

    • eich helpu i drefnu eich llwyth gwaith a nodi blaenoriaethau astudio pan fydd amser yn brin

    • cynnig sesiynau cymorth unigol i'ch helpu i ddal i fyny gyda'ch gwaith cwrs.

    • egluro rhannau o ddeunyddiau modiwlau a all fod yn heriol i chi.

    • rhoi estyniadau achlysurol i chi ar aseiniadau sy'n cael eu marcio gan diwtor.

    Cofiwch na chaniateir estyniadau ar gyfer aseiniadau sy'n cael eu marcio gan gyfrifiadur (iCMA) nac ar gyfer aseiniadau terfynol y modiwl, felly mae'n hanfodol i chi gynllunio ymlaen llaw a chadw mewn cysylltiad rheolaidd â'ch tiwtor i fod yn ymwybodol o'ch opsiynau.

    Mae cyfoeth o wybodaeth a chyngor yn yr Help Centre sydd ar gael drwyStudentHome.

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 7 of 20

    Eich Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr

    Y cyswllt pwysicaf arall yw eich Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr. Gall cynghorwyr yno eich helpu i ddewis modiwlau a chofrestru neu gynllunio eich cymhwyster. Byddant hefyd yn trafod opsiynau â chi, os byddwch ar ei hôl hi gyda'ch astudiaethau.

    Rhoi gwybod am amgylchiadau arbennig

    Tua diwedd pob modiwl, byddwch yn gallu rhoi gwybod am unrhyw amgylchiadau arbennig a effeithiodd ar eich cynnydd drwy gydol y flwyddyn, fel y gall y Bwrdd Asesu eu hystyried. Bydd eich Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am y broses.

    Gohirio modiwl

    Weithiau, gall fod angen gohirio eich astudiaethau tan y flwyddyn academaidd nesaf. Ar gyfer llawer o'r modiwlau, gallwch “fancio” marciau aseiniadau rydych wedi'u cyflawni hyd yn hyn. Mae hyn yn golygu y gallwch gario'r marciau ymlaen, fel y gallwch ailddechrau lle gwnaethoch orffen. Os credwch fod hyn yn opsiwn, bydd yn hanfodol i chi gysylltu â'ch Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr cyn gynted â phosibl i drafod y ffordd ymlaen.

    Trefniadau arholi arbennig

    Gall eich Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr hefyd roi gwybod i chi am drefniadau arholi. Fel gofalwr, efallai y gallwch sefyll eich arholiadau gartref, felly holwch y Tîm i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud i wneud cais. Tutorials and residential schools

    Mae gan rai cyrsiau ysgolion preswyl a thiwtorialau. Fel gofalwr, gall trefniadau amgen fod ar gael, ac mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n cynnig tiwtorialau ar-lein, yn ogystal â rhai wyneb yn wyneb. Siaradwch â’ch Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr am ragor o wybodaeth..

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 8 of 20

    5. A OES CYMORTH YCHWANEGOL AR GAEL OS OES GENNYF ANABLEDD?

    Efallai na fyddwch yn ystyried eich bod yn anabl, ond, os oes gennych:

    • gyflwr iechyd hirdymor,

    • anhawster dysgu penodol (megis dyslecsia) neu

    • anhawster iechyd meddwl

    mae'r Brifysgol Agored yn ystyried bod gennych hawl i addasiad rhesymol i'ch helpu i astudio. Rydym yn defnyddio'r termau ‘anabl’ neu ‘anabledd’ i gwmpasu'r holl gyflyrau hyn.

    Mae'n bwysig i chi ddweud wrthym os oes gennych anabledd ac am unrhyw faterion eraill a all effeithio ar eich astudiaethau, fel y gallwn gynnig unrhyw gymorth ychwanegol y gall fod ei angen arnoch.

    Os byddwch yn datgan anabledd, cewch eich gwahodd i lenwi ffurflen ar-lein i ddweud mwy wrthym am eich gofynion astudio. Yna, bydd aelod o'r Tîm Cymorth Anabledd yn cysylltu â chi i drafod trefniadau cymorth astudio y gellir eu rhoi ar waith i chi a llunio proffil myfyriwr cyfrinachol a fydd yn helpu eich tiwtoriaid a'ch Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr i wneud yr addasiadau cywir i chi.

    Mae'r addasiadau y gall Y Brifysgol Agored eu gwneud i chi yn cynnwys::

    • Deunyddiau astudio hygyrch

    • Asesiad wedi'i deilwra

    • Cyfarpar arbenigol

    • Cymorth ysgol breswyl

    • Mynediad at diwtorialau ac ysgolion dydd

    Hefyd, gall fod gennych hawl i gymorth ariannol, gan gynnwys Lwfans Myfyrwyr Anabl a hefyd help gyda chost asesiad diagnostig ar gyfer anhawster dysgu penodol, megis dyslecsia.

    Cewch fwy o wybodaeth yma

    Gall dewisiadau eraill fod ar gael yn lle tiwtorialau ac ysgolion preswyl. Siaradwch â'ch Tîm Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.

    Mae gennyf fy anghenion dysgu ychwanegol fy hun hefyd a chefais amser ychwanegol yn fy arholiadau, a threfnodd y Brifysgol Agored i mi wneud fy arholiadau gartref”

    http://www.open.ac.uk/courses/do-it/disability

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 9 of 20

    6. CYMDEITHAS MYFYRWYR Y BRIFYSGOL AGORED

    Mae gan Gymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored ystod o wasanaethau cymorth. Mae ei gwasanaethau a'i grwpiau'n cael eu cynnal gan fyfyrwyr ac mae OUSA yn ffordd wych o gysylltu â chymuned myfyrwyr Y Brifysgol Agored. Cewch fwy o wybodaeth am OUSA yma Isod, rydym wedi rhestru rhai grwpiau penodol a all fod o ddiddordeb i chi fel gofalwr. Grŵp Gofalu a Dibyniaeth Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored - Mae'r grŵp caeëdig hwn ar Facebook i fyfyrwyr Y Brifysgol Agored sydd naill ai'n ofalwyr neu y mae ganddynt ofalwyr. Ei ddiben yw rhoi cymorth a lle diogel i rannu profiadau cyffredin bod yn ofalwr neu fod â gofalwr. Mae'r grŵp yn cael ei weinyddu gan rai o aelodau Grŵp Myfyrwyr Anabl Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored ac aelodau o Bwyllgor Gweithredol Canolog y Gymdeithas.

    Grŵp Myfyrwyr Anabl - Mae'r Grŵp Myfyrwyr Anabl yn cael ei gynnal gan grŵp o fyfyrwyr o bob cyfadran sydd hefyd yn aelodau o'r grŵp: rhai'n israddedig, rhai'n ôl-raddedig. Maent i gyd yn fyfyrwyr ag anableddau neu broblemau corfforol neu iechyd meddwl hirdymor.

    Nightline – Mae Nightline yn wasanaeth gwrando, sy'n darparu cymorth emosiynol. Mae'n cael ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr o 6pm tan 8am, ac mae ar gael drwy'r nos yn ystod y tymor. Ceir gwasanaeth cyfyngedig dros yr haf a'r Nadolig.

    PLEXUS - Mae PLEXUS yn grŵp agored i bob myfyriwr a'i nod yw rhoi cymorth penodol a chysur i fyfyrwyr LGBT+.

    Ymddiriedolaeth Addysgol Myfyrwyr Y Brifysgol Agored (OUSET) yw'r elusen i fyfyrwyr y mae ei harian yn cael ei godi gan fyfyrwyr a'i ddefnyddio er lles myfyrwyr sydd mewn caledi ariannol. Mae'n elusen gofrestredig ar wahân sy'n cael ei gweithredu gan Gymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored.

    http://www.oustudents.com/http://www.facebook.com/groups/540792359433335http://www.facebook.com/groups/OusaDisabledStudentsGrouphttp://www.oustudents.com/nightlinehttp://www.oustudents.com/plexus-lgbt-grouphttp://www.oustudents.com/open-university-students-educational-trust-students-charity

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 10 of 20

    7. AWGRYMIADAU ASTUDIO/YMDOPI GAN EIN MYFYRWYR SY'N OFALWYR

    Isod, ceir rhai awgrymiadau gan fyfyrwyr eraill Y Brifysgol Agored sy'n ofalwyr. Hoffem glywed eich awgrymiadau chi hefyd, rhannwch nhw yma.

    Ysgogiad a sut i ddal ati

    Trefnu eich amser astudio

    “Defnyddiais y calendr astudio ac roeddwn bob amser yn ceisio bod 2 wythnos ar y blaen, fel y gallwn gael ychydig o amser wrth gefn rhag ofn”

    “Defnyddiwch yr amser yn ddoeth. Dewch i adnabod y dudalen gartref i fyfyrwyr ar y dechrau – dyna'r porth i'r holl bethau y bydd eu hangen arnoch.”

    “Y peth arall a weithiodd yn dda iawn i mi, yn enwedig ar yr adegau caletaf, oedd techneg pomodoro [rheoli amser]”

    Gofalu amdanoch eich hun “Byddwn hefyd yn dweud bod angen i chi sicrhau eich bod yn creu amser i chi eich hun. Mae bod yn ofalwr ac yn fyfyriwr yn Y Brifysgol Agored yn heriol, yn feichus ac yn straen. Gallwch deimlo nad oes gennych ddigon o amser i chi eich hun. Er bod eich cyfrifoldebau'n bwysig, sicrhewch eich bod yn creu amser i wneud rhywbeth i chi eich hun.” Hefyd, roedd ymarfer corff wedi fy helpu drwy leihau straen. Er iddo fynd ag amser astudio, gwelais welliant yn fy ngallu i ganolbwyntio a chofio gwybodaeth yn ystod fy amser astudio.”

    “Byddwn i'n dychmygu fy seremoni raddio. Dyna fy ysgogiad i. Pan gyrhaeddais fy nghwrs olaf, gallwn weld y diwedd”

    https://www.surveymonkey.co.uk/r/DS62365http://www.francescocirillo.com/pages/pomodoro-technique

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 11 of 20

    Cysylltwch â'ch tiwtor

    “Cefais ei bod yn well rhoi gwybod i'm tiwtor am yr hyn a oedd yn digwydd er mwyn paratoi'r llwybr ar gyfer estyniad pe bai angen un yn nes ymlaen” ““Ar ddiwedd y dydd, mae pawb yn Y Brifysgol Agored am i chi lwyddo. Mae pawb yno i'ch helpu” “Defnyddiwch yr amser yn ddoeth. Dewch i adnabod y dudalen gartref i fyfyrwyr ar y dechrau – dyna'r porth i'r holl bethau y bydd eu hangen arnoch. “Mae'n anodd iawn rhagweld beth fydd fy mab yn ei wneud, ac roedd hi'n anodd cynllunio ymlaen llaw. Byddwn yn trefnu wythnos i wneud fy aseiniad ac yna byddai rhywbeth yn digwydd gydag ef a byddwn yn brysur gydag apwyntiadau drwy'r wythnos ac ni fyddwn yn gorffen fy aseiniad ar amser. Roedd fy nhiwtor yn wych; roedd yn gwybod am fy sefyllfa ac roedd yn gallu rhoi estyniadau ar fy aseiniadau” “Mae'n bwysig i fyfyrwyr wybod ei bod yn iawn i ofyn am estyniad neu ofyn am help”

    Arholiadau “Peidiwch â phoeni am yr arholiadau. Os ydych wedi adolygu, byddwch yn iawn” “Sefais arholiad gartref ac roedd hyn yn help mawr”

    Dywedwch wrth Y Brifysgol Agored eich bod yn ofalwr a hefyd os oes gennych anabledd neu anghenion ychwanegol “Mae gennyf fy anghenion dysgu ychwanegol fy hun hefyd a chefais amser ychwanegol yn fy arholiadau, a threfnodd y Brifysgol Agored i mi wneud fy arholiadau gartref””

    “Fy nghyngor i unrhyw un sydd ar fin dechrau astudio gyda'r Brifysgol Agored fyddai dweud wrth eich tiwtor(iaid) am eich sefyllfa. Mae bod yn fyfyriwr cyffredin gyda'r Brifysgol Agored yn anodd, ond gall bod yn fyfyriwr â chyfrifoldebau ychwanegol deimlo'n amhosibl weithiau. Peidiwch â gwneud y profiad yn anoddach nag sydd angen drwy beidio â dweud wrth Y Brifysgol Agored am eich sefyllfa. Roedd gennyf gywilydd dweud y gwir ond difaru wnes i yn y pen draw. Mewn gwirionedd, byddai wedi gwneud fy mhrofiad hyd yn oed yn well. Mae llawer o gymorth ar gael ac nid oes rhaid i'r profiad deimlo'n frawychus.“ “

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 12 of 20

    8. HELP GYDA'CH COSTAU ASTUDIO

    Dim ond am y modiwl rydych yn ei astudio ar hyn o bryd y byddwch yn talu ffïoedd ac mae benthyciadau ffïoedd dysgu rhan-amser ar gael drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Byddwch chi ond byth yn talu ffi ar gyfer y modiwl rydych yn astudio ar hyn o bryd ac mae yna fenthyciadau ffi dysgu rhan amser ar gael wrth Cyllid Myfyrwyr Cymru. Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol, fe all bod amryw o gymorthdaliadau hefyd ar gael i chi.

    Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs) Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol. cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl.aspx

    Bydd lefel y cymorth a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol. I gael gwybod am yr hyn a all fod ar gael i chi, ewch i'n gwefan open.ac.uk/courses/fees-and-funding neu ffoniwch ni i fynd drwy'r opsiynau amrywiol. Hefyd, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru – cyllidmyfyrwyrcymru.com

    Ymddiriedolaeth Addysgol Myfyrwyr Y Brifysgol Agored (OUSET) Yw'r elusen i fyfyrwyr y mae ei harian yn cael ei godi gan fyfyrwyr a'i ddefnyddio er lles myfyrwyr sydd mewn caledi ariannol. Mae'n elusen gofrestredig ar wahân sy'n cael ei gweithredu gan Gymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored.. oustudents.com/open-university-students-educational-trust-students-charity

    http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl.aspxhttp://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl.aspxhttp://www.open.ac.uk/courses/fees-and-fundinghttp://www.cyllidmyfyrwyrcymru.com/http://www.oustudents.com/open-university-students-educational-trust-students-charityhttp://www.oustudents.com/open-university-students-educational-trust-students-charity

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 13 of 20

    9. DATBLYGU EICH CYMHWYSTER

    Gyda'r Brifysgol Agored, rydych yn dewis y man cychwyn sydd fwyaf addas i chi: boed yn un o'n modiwlau Mynediad hyd at lefel astudio Ôl-raddedig.

    Lle bynnag y dechreuwch, y cam nesaf yw dewis modiwl lle byddwch yn ennill credydau y gallwch eu defnyddio i ddatblygu cymhwyster. Os ydych eisoes wedi dewis y cymhwyster rydych am weithio tuag ato, bydd y dewis ar gael drwy StudentHome.

    Cyrsiau Israddedig Yn Y Brifysgol Agored, mae cymwysterau Israddedig yn cynnwys Tystysgrifau a Diplomâu Addysg Uwch, a graddau Anrhydedd (Baglor Gwyddoniaeth, y Celfyddydau, y Gyfraith, neu Beirianneg). Er mwyn datblygu'r cymwysterau hyn, rydych yn astudio modiwlau ar lefelau israddedig 1, 2 a 3. Bydd y rhan fwyaf o'r modiwlau hyn yn werth 30 neu 60 o bwyntiau credyd yr un.

    • Mae angen 120 o gredydau arnoch ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch, • 240 ar gyfer Diploma, • a 360 ar gyfer Gradd Anrhydedd lawn.

    Rydym hefyd yn cynnig cymwysterau mwy hyblyg drwy ein Rhaglen Agored, sy'n eich galluogi i ddatblygu cymhwyster drwy astudio modiwlau o amrywiaeth o feysydd pwnc. Mae hyn yn golygu y gallech astudio pynciau sydd o ddiddordeb i chi, yn gyfan gwbl er pleser, a'u defnyddio i ddatblygu cymhwyster yn nes ymlaen os dymunwch. Gallwch ddarllen am ein hystod o gyrsiau israddedig yma.

    Cyrsiau Ôl-raddedig

    Pan fydd gennych radd neu gymhwyster cyfatebol, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn astudio un o'n Tystysgrifau Ôl-raddedig, Diplomâu, neu Raddau Meistr a addysgir. Eto, mae'r rhain yn cynnwys modiwlau lefel ôl-raddedig unigol â phwyntiau credyd penodedig ac rydym yn cynnig rhaglenni mewn ystod eang o feysydd pwnc. Cewch fwy o wybodaeth yma.

    http://www.open.ac.uk/courseshttp://www.open.ac.uk/postgraduatehttp://www.open.ac.uk/postgraduate

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 14 of 20

    Beth os byddaf yn newid fy meddwl ac am newid cwrs? Os ydych yn gweithio tuag at un cymhwyster, ond yn newid eich meddwl, yn aml mae'n bosibl (gan ddibynnu ar y modiwlau rydych wedi'u dilyn) i chi newid i rywbeth arall. Mae ein Graddau Agored yn benodol yn rhoi llawer o hyblygrwydd i chi o ran yr hyn rydych yn ei astudio.

    “Ar ôl i mi gwblhau cwrs Da Vinci ac AA100, sylweddolais fod gennyf ddiddordeb mewn athroniaeth hefyd. Yn lle canolbwyntio ar radd hanes yn unig, meddyliais beth am roi cynnig ar gyfuno'r ddau bwnc. Er i mi ystyried Gradd Agored, dewisais radd dyniaethau ar y cyd mewn athroniaeth a hanes. Rwy'n credu mai dyna un o'r rhesymau pam mae'r Brifysgol Agored yn eithriadol, nid yw'n eich cyfyngu i un pwnc, mae'n caniatáu i chi astudio beth bynnag rydych yn dymuno..”

    Gallwch hefyd gymryd seibiant astudio os bydd bywyd yn rhy brysur ac, mewn rhai achosion, astudio mwy os bydd pethau'n tawelu.

    Cyrsiau ac adnoddau anffurfiol am ddim Mae gan wefannau OpenLearn, OpenLearn Cymru a FutureLearn gyfoeth o gyrsiau ac adnoddau am ddim. Gall y cyrsiau anffurfiol hyn eich helpu i gael rhagflas o feysydd pwnc neu fodiwlau cyn i chi ddechrau astudio'n ffurfiol. Gallant hefyd fod yn baratoad defnyddiol rhwng modiwlau. Mae rhai cyrsiau galwedigaethol penodol ar gael a allai eich helpu i feddwl am yrfaoedd a chyflogaeth ar ôl eich astudiaethau gyda'r Brifysgol Agored.

    Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein cwrs datblygiad personol byr i ofalwyr – Beth amdana i?

    https://www.open.edu/openlearncreate/course/view.php?id=2157

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 15 of 20

    10. ARCHWILIO RHAGOLYGON GYRFA

    Mae rhai o fyfyrwyr Y Brifysgol Agored yn cyfuno eu hastudiaethau â'u cyfrifoldebau gofalu er budd eu datblygiad personol eu hunain. Fodd bynnag, bydd llawer hefyd am archwilio cyfleoedd gyrfa ochr yn ochr â gofalu, neu'n amser llawn os bydd newid i'ch rôl ofalu.

    Os yw eich rôl ofalu wedi golygu eich bod wedi gorfod cymryd seibiant hir o gyflogaeth â thâl, gall meddwl am ddychwelyd i'r gwaith fod yn frawychus. Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Y Brifysgol Agored yno i'ch cefnogi a chynnig yr adnoddau canlynol i'ch helpu i archwilio eich opsiynau a symud ymlaen tuag at eich nodau.

    “Nid wyf wedi gweithio ers ychydig flynyddoedd oherwydd fy iechyd – a chefais drawiad ar y galon yn ystod fy modiwl olaf – ond rwy'n gwella nawr ac rwy'n gobeithio dychwelyd i gyflogaeth ran-amser. Drwy fynd i'r Brifysgol Agored, cadw'n brysur, dysgu mwy a dysgu sgiliau newydd, roeddwn yn meddwl y gallwn werthu fy hun ar y farchnad waith.” “Rwyf wedi siarad gyda phobl yn y Ganolfan Byd Gwaith, ac maent yn fy helpu gyda fy CV newydd, ond mae gan wefan y Brifysgol Agored gymorth ar yrfaoedd hefyd. Nid wyf mor gyfarwydd â CVs a swyddi ers peth amser, ond credaf fod y ffaith fy mod yn astudio ar hyn o bryd wedi fy helpu’n fawr.”

    • Trafodaeth un i un â chynghorydd gyrfaoedd

    Os ydych yn teimlo bod angen cymorth personol arnoch i archwilio eich cynlluniau gyrfa, mae'n hawdd trefnu trafodaeth un i un â chynghorydd gyrfaoedd Y Brifysgol Agored drwy e-bost, dros y ffôn neu ar Skype. Anfonwch ychydig o fanylion atom a byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau.. www.help.open.ac.uk/contact-a-careers-adviser

    • Recordiadau gweminar

    Fel cam cyntaf, mae'n syniad da i fyfyrio ar eich sgiliau a'ch diddordebau. Edrychwch ar y weminar ‘Developing Your Career alongside Caring’ i gael trosolwg o faterion y bydd angen i chi eu hystyried wrth ddechrau cynllunio eich gyrfa.

    • Awgrymiadau cynllunio gyrfa

    Hefyd, mae gan Adran 1 o Career Planning and Job Seeking Workbook Y Brifysgol Agored gyfoeth o wybodaeth a gweithgareddau rhyngweithiol i helpu gyda'r broses hon.

    • Pa sector gyrfa?

    Y cam nesaf yw dechrau archwilio pa sectorau gyrfa a rolau posibl sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau a'ch diddordebau. Ceisiwch gadw meddwl agored nes eich bod wedi ymchwilio i'r opsiynau gwahanol yn drwyadl – mae'n hawdd diystyru pethau oherwydd diffyg hyder. Bydd yr adnoddau canlynol yn eich helpu i gulhau eich dewisiadau a hefyd archwilio mathau eraill a mwy hyblyg o gyflogaeth megis gweithio gartref..

    Gwybodaeth am swyddi a gyrfaoedd Gweithio gartref

    http://www.help.open.ac.uk/contact-a-careers-adviserhttps://learn1.open.ac.uk/course/format/oustudyplan/resource.php?id=21292https://help.open.ac.uk/students/_data/documents/careers/restricted/career-planning-and-job-seeking-workbook.pdfhttps://help.open.ac.uk/topic/careers/category/jobs-and-work-experiencehttps://learn1.open.ac.uk/course/format/oustudyplan/resource.php?id=20376

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 16 of 20

    • Cyfleoedd gwirfoddoli

    Gall gwirfoddoli gynnig ffordd hyblyg a chefnogol i chi ddychwelyd i'r gweithle, gan roi cyfleoedd i chi ddatblygu sgiliau newydd, rhoi cynnig ar fathau gwahanol o waith neu fagu hyder drwy ddychwelyd i amgylchedd gwaith allanol yn raddol. Hefyd, mae gan Gymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored ystod o gyfleoedd gwirfoddoli. Gwaith gwirfoddol Adran wirfoddoli Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored Gweminar: Finding Flexible Work Experience

    • Datblygu eich CV

    Pan fyddwch yn barod i ddechrau gwneud ceisiadau, efallai y byddwch yn poeni am fylchau cyflogaeth ar eich CV neu eich ffurflenni cais, ond mae camau y gallwch eu cymryd i bwysleisio sgiliau a gafodd eu datblygu drwy ofalu, astudio a gweithgarwch di-dâl. Ceir awgrymiadau ac enghreifftiau ar y wefan gyrfaoedd a chadwch lygad am ein gweminarau gofalwyr ar CVs a phynciau eraill sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd.

    Ceisiadau, CVs a chyfweliadau Gweminar

    • OpportunityHub Y Brifysgol Agored

    Cofiwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth swyddi gwag OpportunityHub Y Brifysgol Agored er mwyn monitro cyfleoedd â thâl a gwirfoddol. Gallwch hefyd edrych ar ein hadran gyflogwyr sy'n tynnu sylw at gyflogwyr sydd â diddordeb ym myfyrwyr Y Brifysgol Agored yn arbennig. OpportunityHub Y Brifysgol Agored

    • ‘Dychweliaethau’

    Os oes gennych gefndir proffesiynol ac rydych yn poeni am sut i fynd at ddarpar gyflogwyr, gwyliwch y recordiad gweminar ar y pwnc Dychwelyd i'r Gwaith: Ailddatblygu eich hunaniaeth broffesiynol a ‘Dychweliaethau’. Women Returners

    • Y wybodaeth ddiweddaraf am fudd-daliadau

    Os ydych yn poeni am sut y gallai dychwelyd i'r gwaith effeithio ar unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu hawlio, mae'n syniad da i chi gael gwiriad budd-daliadau cyn gwneud rhagor o benderfyniadau – gall llinell gyngor Gofalwyr y DU gynnal gwiriad budd-daliadau am ddim i chi. www.carersuk.org/wales

    https://help.open.ac.uk/voluntary-workhttps://www.oustudents.com/volunteerhttps://learn1.open.ac.uk/course/format/oustudyplan/resource.php?id=21291https://help.open.ac.uk/topic/careers/category/cv-applications-interviewshttps://learn1.open.ac.uk/course/view.php?id=100172&cmid=22274https://help.open.ac.uk/opportunityhubhttps://learn1.open.ac.uk/course/format/oustudyplan/resource.php?id=21284http://wrpn.womenreturners.com/https://www.carersuk.org/help-and-advice/talk-to-ushttp://www.carersuk.org/wales

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 17 of 20

    • Dysgu anffurfiol

    Mae gan wefannau OpenLearn, OpenLearn Cymru a FutureLearn gyfoeth o gyrsiau ac adnoddau am ddim. Hefyd, mae rhai cyrsiau galwedigaethol penodol ar gael ar ôl eich astudiaethau a allai eich helpu i feddwl am yrfaoedd a chyflogaeth gyda'r Brifysgol Agored. Cafodd Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol i ofalwyr yng Nghymru ei ddatblygu rhwng Y Brifysgol Agored ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a all fod o ddiddordeb. Gweler yr adran wybodaeth ar ddiwedd y pecyn hwn ar gyfer dolenni gwe penodol.

    • Cyfleoedd profiad gwaith ac interniaeth yng Nghymru

    Os ydych yn ofalwr 18-24 oed, gallech fod yn gymwys i ymuno â'n rhaglen profiad gwaith â chymorth. Os ydych yn 18 oed neu drosodd (dim terfyn oedran uchaf) gallech hefyd fod yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Interniaeth Santander. Mae'r ddwy raglen yn cynnig lleoliadau gyda chyflogwyr a busnesau go iawn yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]

    11. CYSYLLTIADAU CYMORTH A GWYBODAETH DEFNYDDIOL

    Mae gan yr adran hon fanylion cyswllt a gwybodaeth gyfeirio ddefnyddiol, gan gynnwys cysylltiadau pwysig yn Y Brifysgol Agored, a sefydliadau allanol sy'n cefnogi gofalwyr.

    Cysylltiadau defnyddiol yn Y Brifysgol Agored Y Brifysgol Agored

    Dyma brif wefan Y Brifysgol Agored. Archwiliwch ein cyrsiau a'n cymwysterau.

    open.ac.uk/study

    Gallwch gyrchu cysylltiadau drwy StudentHome.

    Ffôn: 029 2047 1170

    E-bost [email protected]

    Canolfan Gymorth Y Brifysgol Agored

    A—Y o bynciau cymorth help.open.ac.uk neu drwy StudentHome.

    Gwasanaethau llyfrgell Y Brifysgol Agored

    Dechreuwch arni gyda'n canllaw ar ddefnyddio adnoddau llyfrgell a manteisio i'r eithaf arnynt.

    open.ac.uk/library neu drwy StudentHome.

    https://www.open.edu/openlearncreate/course/view.php?id=2157mailto:[email protected]://www.open.ac.uk/studymailto:[email protected]://www.help.open.ac.uk/http://www.open.ac.uk/library

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 18 of 20

    Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored - OUSA Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored

    Dan arweiniad myfyrwyr, mae gan OUSA ystod o wasanaethau a chymorth cymheiriaid, gan gynnwys: Grŵp Gofalu a Dibyniaeth Cymdeithas Myfyrwyr Y Brifysgol Agored www.facebook.com/groups/540792359433335 Grŵp Myfyrwyr Anabl www.facebook.com/groups/OusaDisabledStudentsGroup Nightline – www.oustudents.com/nightline PLEXUS - cymorth penodol a chysur i fyfyrwyr LGBT+.. www.oustudents.com/plexus-lgbt-group

    oustudents.com

    Cymorth cyngor gyrfaoedd (gwefannau allanol) Gyrfa Cymru Gwefan gyrfaoedd gynhwysfawr i bobl sy'n byw yng

    Nghymru. Mae i bobl o bob oed a gallu ac mae'n cynnwys gwybodaeth am swyddi, cyrsiau a phrentisiaethau. Mae'n wefan ryngweithiol ddwyieithog â gwybodaeth benodol sy'n berthnasol i yrfaoedd a chyfleoedd yng Nghymru.

    gyrfacymru.com/

    Directgov: Gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol

    Gwefan ledled y DU â gwybodaeth a help gyda gyrfaoedd. Mae'n cynnig: Profion sgiliau, Teclyn chwilio am gwrs, Cyngor ar chwilio am swyddi Help personol gan gynghorwyr gyrfaoedd.

    nationalcareersservice.direct.gov.uk/Pages/Home.aspx

    Directgov: education and learning

    Sgiliau ar gyfer astudio gyda'r Brifysgol Agored

    Awgrymiadau ac arweiniad ar astudio'n effeithiol, o baratoi aseiniadau i adolygu ar gyfer arholiadau — dewiswch y dolenni sydd o ddiddordeb i chi.

    open.ac.uk/skillsforstudy neu drwy StudentHome.

    Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored

    Dyma wefan ddefnyddiol i archwilio opsiynau gyrfa posibl sy'n gysylltiedig â chyrsiau a chymwysterau'r Brifysgol Agored. Mae cyfoeth o ddeunyddiau a gwybodaeth yma. Hefyd, gweler y dolenni uniongyrchol yn adran Gyrfaoedd y pecyn hwn.

    open.ac.uk/careers neu drwy StudentHome.

    Rhaglen Go Wales yng Nghymru

    Mae'n cynnig interniaethau a lleoliadau Gwaith. [email protected] gowales.co.uk/hafan.html

    open.ac.uk/wales/cy/ein-gwaith/paratoi-chi-ar-gyfer-gwaith

    http://www.facebook.com/groups/540792359433335http://www.facebook.com/groups/OusaDisabledStudentsGrouphttp://www.oustudents.com/nightlinehttp://www.oustudents.com/plexus-lgbt-grouphttp://www.oustudents.com/http://www.careerswales.com/en/https://nationalcareersservice.direct.gov.uk/tools/skillshealthcheck/Pages/default.aspxhttps://nationalcareersservice.direct.gov.uk/advice/courses/Pages/default.aspxhttps://nationalcareersservice.direct.gov.uk/advice/getajob/Pages/default.aspxhttps://gyrfacymru.llyw.cymru/http://www.nationalcareersservice.direct.gov.uk/Pages/Home.aspxhttp://www.nationalcareersservice.direct.gov.uk/Pages/Home.aspxhttp://www.direct.gov.uk/en/EducationAndLearning/index.htmhttp://www.open.ac.uk/skillsforstudyhttp://www.open.ac.uk/careersmailto:[email protected]://www.gowales.co.uk/hafan.htmlhttp://www.open.ac.uk/wales/cy/ein-gwaith/paratoi-chi-ar-gyfer-gwaithhttp://www.open.ac.uk/wales/cy/ein-gwaith/paratoi-chi-ar-gyfer-gwaith

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 19 of 20

    Cyfleoedd addysg a hyfforddiant eraill Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich addysg gydag adnoddau ar-lein am ddim neu drwy gyrsiau a sesiynau rhagflas lleol, a all fod ar gael drwy eich canolfan gyrfaoedd leol neu ddarparwr addysg oedolion. Hefyd, mae colegau lleol yn cynnig rhaglen o ddosbarthiadau addysg oedolion. OpenLearn (Y Brifysgol Agored)

    Gwefan â 10,000 o oriau o gynnwys dysgu am ddim, gan gynnwys fideo, sain a chyrsiau byr.

    open.edu/openlearn

    OpenLearn Cymru (Y Brifysgol Agored yng Nghymru)

    Gwefan ddwyieithog â chyrsiau am ddim yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys y cwrs Datblygiad Personol i Ofalwyr Beth amdana i?

    open.edu/openlearncymru

    FutureLearn Gwefan ag ystod o gyrsiau a gynigir am ddim gan brifysgolion gwahanol.

    futurelearn.com/

    Academi Khan

    Adnoddau dysgu am ddim a thiwtorialau fideo ar-lein, yn bennaf ar fathemateg, gwyddoniaeth a TG.

    khanacademy.org/

    Addysg Oedolion Cymru

    Y darparwr mwyaf yng Nghymru ar gyfer addysg gymunedol i oedolion. Yn darparu cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol lleol.

    adultlearning.wales/cym

    Colegau addysg bellach lleol

    Mae llawer o golegau addysg bellach lleol yn cynnig cyrsiau addysg gymunedol.

    Mae'r wefan hon yn rhestru'r holl golegau yng Nghymru a thrwyddi gallwch gael dolenni i'w gwefannau. Mae'r colegau yn y gogledd a'r canolbarth yn cwmpasu ardaloedd mawr ac mae ganddynt lawer o ganolfannau lleol.

    Sefydliadau cymorth i ofalwyr yng Nghymru Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

    Cymorth ar-lein 24 awr; ble i ddod o hyd i'ch gwasanaethau gofalwyr lleol; help a chyngor pwrpasol, gan gynnwys hawliau budd-daliadau, asesiadau anghenion gofalwyr a llawer mwy.

    carers.org https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-wales

    Canolfannau a Gwasanaethau Gofalwyr Lleol

    Mae canolfannau gofalwyr yn elusennau annibynnol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth lleol er mwyn diwallu anghenion gofalwyr yn eu cymunedau eu hunain. Mae'r holl ganolfannau gofalwyr yn cynnig y gwasanaethau craidd canlynol dros y ffôn, mewn sesiynau galw heibio neu gymorthfeydd allgymorth:

    • cymorth emosiynol • gwybodaeth a chyngor • llais gofalwr

    Er mwyn dod o hyd i'ch canolfan gofalwyr leol, edrychwch yma.

    Cynlluniau Gofal Croesffyrdd

    Rhwydwaith o elusennau annibynnol lleol yw cynlluniau Gofal Croesffyrdd sy'n cynnig gwasanaethau seibiant yn y cartref i alluogi gofalwyr i gael gorffwys. Gall y rhain gael eu darparu fel rhan o becyn gofal a ariennir drwy'r awdurdod lleol neu y telir amdano'n breifat.

    Edrychwch yma i ddod o hyd i'ch cynllun Gofal Croesffyrdd agosaf yma.

    crossroadsmww.org.uk/?lang=cy

    Y Samariaid Beth bynnag rydych yn mynd drwyddo, ffoniwch ni am ddim ar unrhyw adeg, o unrhyw ffôn ar 116 123.

    Os hoffech gael cymorth emosiynol yn Gymraeg, mae gennym Linell Gymraeg y gellir ei ffonio am ddim. Mae hefyd gennym wasanaeth ysgrifennu llythyron Cymraeg.

    samaritans.org Ffôn: 116 123 (Rhadffon) Ffôn 0808 164 0123 Pob dydd 7pm - 11pm

    http://www.open.edu/openlearnhttp://www.open.edu/openlearncymruhttp://www.futurelearn.com/http://www.khanacademy.org/http://www.adultlearning.wales/cymhttp://www.collegeswales.ac.uk/hafan.php?Lang=2http://www.carers.org/https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-waleshttps://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-waleshttps://carers.org/help-and-info/carer-services-near-youhttp://www.carers.org/http://www.crossroadsmww.org.uk/?lang=cyhttp://www.samaritans.org/

  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Mai 2020 | Page 20 of 20

    Mind Elusen iechyd meddwl sydd ag adran benodol ar y wefan i ofalwyr a sut i ymdopi pan fyddwch yn cefnogi rhywun arall.

    mind.org.uk/cy/mind-cymru/

    Gwybodaeth Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol i ofalwyr Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru

    Mae ofynnol i bob Bwrdd Iechyd, dan Fesur Strategaeth Gofalwyr (Cymru) 2010, gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr leol sy'n dweud wrth ofalwyr pa wybodaeth a chymorth mae ganddynt hawl iddynt, i'w helpu yn eu rôl ofalu.

    Er mwyn cael gwybod yr hyn mae eich Bwrdd Iechyd Lleol yn ei wneud, ewch i wefan ‘GIG Cymru’ a theipiwch ‘gofalwyr’ yn yr opsiwn chwilio.

    Cymorth a roddir gan eich awdurdod lleol

    Bydd gan eich Awdurdod Lleol hefyd fanylion am gymorth i ofalwyr a'r hyn a ddarperir ganddo.

    Cewch restr ohonynt ar y ddolen isod. Cliciwch ar eich rhanbarth a theipiwch ‘gofalwyr’ yn y chwilotwr.

    Cyngor ar Bopeth Cymru

    Cyngor am ddim ar ystod eang o faterion – yn agored i bawb yng Nghymru a ledled y DU.

    citizensadvice.org.uk/cymraeg/

    http://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/http://www.wales.nhs.uk/cymhttps://llyw.cymru/dod-o-hyd-ich-awdurdod-lleol?_ga=2.116422086.1331390841.1590071743-701604791.1556113401http://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

    CYNNWYS1. CROESO I'CH PECYN GOFALWYR2. TREFNU EICH AMSER3. TREFNIADAU HYBLYG I’CH CEFNOGI YN YSTOD EICH ASTUDIAETHAU4. BETH OS BYDD RHYWBETH YN DIGWYDD? YMDRIN Â'R ANNISGWYL5. A OES CYMORTH YCHWANEGOL AR GAEL OS OES GENNYF ANABLEDD?6. CYMDEITHAS MYFYRWYR Y BRIFYSGOL AGORED7. AWGRYMIADAU ASTUDIO/YMDOPI GAN EIN MYFYRWYR SY'N OFALWYR8. HELP GYDA'CH COSTAU ASTUDIO9. DATBLYGU EICH CYMHWYSTER10. ARCHWILIO RHAGOLYGON GYRFA11. CYSYLLTIADAU CYMORTH A GWYBODAETH DEFNYDDIOL