24
RHIF 417 80c [email protected] Rhagfyr 2020 NADOLIG LLAWEN! NADOLIG LLAWEN! DAW ETO HAUL AR FRYN! DAW ETO HAUL AR FRYN!

Rhagfyr 2020 [email protected] NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

RHIF 417

80c

[email protected] 2020

NAD OL IG L L AW EN!NAD OL IG L L AW EN!DAW ETO HAUL A R FRYN!DAW ETO HAUL A R FRYN!

Page 2: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

GOLYGYDDIONHarri Bryn Jones - Maes Gwern, 1 FforddHengoed, Yr Wyddgrug CH7 1QD 756606

Marc a Buddug Jones - 4 Y Gilfach, Glynteg,CJH7 1XJ [email protected]

Gareth Victor a Bethan Williams - 16 MaesBodlonfa, Yr Wyddgrug. CH7 1DR [email protected]

CADEIRYDDLaura Edwards -‘Eyton Hurst’, Lôn Bryn CochYr Wyddgrug CH7 1PP Ffôn: 01352 [email protected]

IS-GADEIRYDDGareth Victor [email protected]

YSGRIFENNYDDCatrin Wilde - [email protected]

IS-YSGRIFENNYDDCarys Gwyn 9 Glyn Teg, Yr [email protected]

TRYSORYDDOwen Gwyn Ifans - [email protected]

DOSBARTHWRNesta Gibson [email protected]

Sian Sparrow [email protected] 754352

POSTMON Y PAPURGwenllian [email protected]

CLWB Y BOBOL BACHGwenllian [email protected]

HYSBYSEBIONTrefor Jones - 9, Llys y Fron,Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug,CH7 1QZ [email protected]

CYSODIIoan Huws - +31(0) [email protected]

2PAPUR FAMA RHAGFYR 2020

Argraffwyd gan PRINTCENTRE CYMRUStâd Ddiwydiannol Bromfield, Yr Wyddgrug 700246.

Cyfraniadau sydd eisioes wedi eu teipio mewn atodiad ffeil word neu lluniau trwy ebost at

papurfama@hotmai l .co.ukErfyniwn ar ein cyfrannwyr i’n cefnogi trwy gadw at y dyddiad uchod.Ni ellir sicrhau cynnwys deunydd sy’n cyrraedd wedi’r dyddiad a nodir.Gwerthfawrogwn gyfraniad o £5 am hysbysebion personol neu am ddiolchiadau.Trwy law y trysorydd os gwelwch yn dda.

GOLYGYDD Y MIS

Y RHIFYN NESAF

GOLYGU

CYFRANIADAU I LAW

A THRWY EBOST ERBYN

Marc a Buddug Jones

5ed o Chwefror

Gareth a Bethan Williams

27ain o Ionawr

29ain o Ionawr

Hoffwch eintudalen arFacebook@papurfama

GWAHODDIADDyma eich gwahodd i gyfarfod cyffredinol ar gyfer yr hollbapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fedam 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef HuwEdwards, BBC.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cyfarfod hwn, pan yncofrestru byddwch yn derbyn y ddolen i ymuno drwyZoom.Mae’r cyfarfod hwn ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ynddiwyd ar eich papur bro, felly gofynnwn yn garedig i chiestyn y gwahoddiad ar gyfer y rheiny yn unig os gwelwchyn dda.

Dyma eich gwahodd i gyfarfod Zoom.Pryd: Rhagfyr 10, 2020 7:00 PM Greenwich Mean Time

Cofrestrwch o flaen llaw ar gyfer y cyfarfod:https://zoom.us/meeting/register/tJMkcuivrj0vHdL-RFdxL0zYmEWpgbRX3tcqn (rhowch hwn yn eich porwrwe er mwyn cofrestru, neu glicio arno)

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e bost yn cadarnhaugwybodaeth ar gyfer ymuno â’r cyfarfod, bydd y wybo-daeth yn cynnwys y cyfrinair bydd ei angen arnoch iymuno. Gydag ymddiheuriadau o flaen llaw y bydd yr ebost hwnnw yn un awtomatig gan Zoom ac felly yn uni-aith Saesneg.

Diolch yn fawr - ac edrychwn ymlaen i gael gweld ein gi-lydd yn fuan,Yn gywir,Heledd ap GwynforCydlynydd PartneriaethauMentrau Iaith Cymru

Page 3: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

Lowri Hâf BarkerCwestiynau gyda Lowri Hâf Barker o’r Wyddgrug1. Beth yw dy gefndir?Cefais fy magu yn yr Wyddgrug gyda fy chwaer fawr.Mynychais Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmoncyn cwblhau fy ngradd ym Mrifysgol Glyndwr.2. A thithau’n ferch o’r Wyddgrug beth wnaeth i tibenderfynu setlo yma wedi dyddiau Coleg?Rwyf bellach yn gweithio yn yr Wyddgrug a fi ydiprif Hyfforddwraig Pel Rhwyd yr Wyddgrug ac fellywedi setlo yma.3. Beth yw dy hoff beth am ardal Papur Fama?

Fy hoff beth am fyw yn ardal Papur Famau ydy’rgolyfeydd a llwybrau prydferth ar stepen y drws.4. Beth yw dy waith a beth wyt ti’n fwynhau fwyafamdanoDwi’n gweithio fel “sports therapist” yn Ffisiother-api Grosvenor Street Physiotherapy yn Yr Wyd-dgrug. Fy hoff beth ydy helpu fy nghleifion ideimlo’n well a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.5. Beth yw dy hoff raglen deleduFy hoff raglen a fy “guilty pleasure” ydi Neighbours!Dwi wrth fy modd yn ei wylio ac wedi gwneud ersblynyddoedd6. Beth fyddai dy wyliau perffaithTywydd braf ar traeth poeth gyda coctel! 7. Mae pawb yn dy adnabod fel hyfforddwraig Pêl-Rhwyd yr Wyddgrug. Ers pryd a pham nes di gym-ryd y cyfrifoldeb?Nes i gychwyn hyfforddi pan oeddwn i yn 12 i helpugyda’r chwaraewyr ifanc. Pan oeddwn yn 16 oed mioedd prif hyfforddwraig y clwb yn sâl iawn ac ynanffodus bu farw yn Mis Mawrth 2010. Wedi hynny,cymerais y cyfrifoldeb o fod yn brif hyfforddwraig acrwyn dal i fwynhau bob eiliad!8. Petaet yn Cael gwahodd 3 o bobl fyw neu Farwam bryd o fwyd pwy faset yn ei ddewis a pham?David Attenborough- am ddyn yn llawn streaon!!Beyonce ar gyfer y ‘party factor’ a Thierry Henrygan fy mod yn ffan mawr o Arsenal!

3PAPUR FAMARHAGFYR 2020

theatrclwyd.com/cy/take-part/cerddoriaeth

[email protected]

TheatrClwyd

Cerddoriaeth Theatr Clwyd

dlwyCTheatr

ddoriaeth Theatr ClwyC

ddoriaeth Theatr Clwy

d t Cl d

d

an ar huchel i bob oedrersi offdym yn darparu gwRydd Sir y Fflinasanaeth GerMae Gw

wylus i oedrol, herymarfch i chsgwDy

ddor erd C

d a lled y sir.an ar hanu a theori fferynnol, cersi off ferynnol, c

edi newid i Gert bellach wdd Sir y Fflin

annau 6 - 18!wylus i oedreryn gae off feryn gyarwch i ch

ddoriaeth Theatr Clwy

ol, o saferddiadwy, ymarf feror ri ff forddoriaeth Theatr Clwyedi newid i Ger

annau 6 - 18!ersida gweryn gy

d eatr Clwy yd

on saf fond! Clwy yd!

d

rcyfnod cofMae ein

wylus ac yn eich gwneud yn hapus!af, mae hi’n hsic• Pwyallu darllen• Cryfhau cof a g

• Hybu sgiliau mathematoldebriffoldebeu cyf frif• Cr

dag er• Cryfhau bondiau gy

eryn sgu off feryn buddion rhan dyMae g

an ar huchel i bob oedr

anwynestru i dymor y gwr

wylus ac yn eich gwneud yn hapus!allu darllen

ddu hunan-baryyn• C Cyneg• Hybu sgiliau mathematella cy• Gw

ailldag er

aeddol i bobl if fanc:yffeddol i bobl iferyn buddion rh

d a lled y sir.yan ar h

ynanwyn

wylus ac yn eich gwneud yn hapus!

chddu hunan-bardsymudella cy

anc:

ener 4

clddoriaeth@theatrcerurfiol ne Am sgwrs anff furfiol neu i ofyn unrh

Am rhagor o wybodaeth ac i gof

ydd GwDyagor rcyfnod cofMae ein

g y en

yd.comwyestiynau e-bostiwyw gwurfiol neu i ofyn unrh

clwytheatrch i: estru ewr h ac i gof fr

ydd GwDyan tr 4 Rhagfyanwynestru i dymor y gwr

g y .

ch:estiynau e-bostiwddoriaethe-part/cerakd.com/cy/tlwyyd.com/cy/t

rner 18 Rhagfy ynanwyn

ddoriaeth

Page 4: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

Enw: Carwyn Selway-Joneso’r WyddgrugByw rwan : Mewn tŷ i 5 ynAberystwyth ( gyda thriarall o gyn-ddisgyblionYsgol Maes Garmon)Blwyddyn Prifysgol : Ydrydedd flwyddynCwrs: Daearyddiaeth DynolManteision bod yn fyfyriwryn Aberysytwyth:Bod yn aelod o glwb pêl-droed y Geltaidd.Byw wrth y môr.Cyfarfod pobl newydd a chymdeithasu yn y Gym-raeg.Pawb yn adnabod ei gilydd – cymdeithas glos.Anfanteision: Cerdded i fyny allt Penglais i gyrraedd ein dar-lithoedd.Cael fy chwaer fach yn yr un coleg!!Effaith Covid:Dim gemau pêl-droed na chymdeithasu fel o’rblaen!

Enw: Mari Jones o AfonwenByw rwan : Neuadd GymraegPantycelynBlwyddyn Prifysgol : Y flwyddyngyntafCwrs: BusnesManteision o fod yn fyfyrwraigyn Aberysytwyth:Byw ym Mhantycelyn. Mae’rneuadd newydd yn wych!Cyfleusterau ar y campws –

popeth yn gyfleus .Darlithwyr cefnogol a chyfeillgar.Hawdd gwneud ffrindiau newydd Anfanteision: Cerdded i fyny Allt Penglais yn cario bagiau trwm arôl bod yn siopa bwydEffaith Covid:Gormod a ddarlithoedd ar lein . Dim llawer o gyfel iadnabod myfyrwyr eraill sy’n dilyn yr un cwrs.

Enw: Obed Powell-Davieso’r WyddgrugByw rwan : Mewn tŷ ynAberystwyth ( gyda thri arallo gyn- ddisgyblion YsgolMaes Garmon)Blwyddyn Prifysgol : Ydrydedd flwyddynCwrs: Gwleidyddiaeth Ryng-wladolManteision bod yn fyfyriwryn Aberysytwyth:Cymdeithas glos o Gymry Cymraeg a phawb yn bywo fewn tafliad carreg i’w gilydd.Diodydd rhad!Cymdeithas pêl-droed y Geltaidd.Anfanteision:Braidd yn ynysig, anodd teithio oddi yma e.e. adre .Taith ar fws Traws-Cymru yn cymryd hydoedd!Effaith Covid:Darlithoedd ar lein . Colli’r cyswlllt wyneb ynwyneb.Teimlo nad yw myfyrywr y flwyddyn gyntaf wedicael cyfle ( fel a gawsom ni) i gymdeithasu a dod ynrhan o’r gymuned Gymraeg.

Enw: Marged Selway-Joneso’r Wyddgrug.Byw rwan : Neuadd GymraegPantycelynBlwyddyn Prifysgol : Y flwyd-dyn gyntafCwrs: CymraegManteision bod yn fyfyrwraigyn Aberysytwyth:Byw yng nghanol Cymry Cym-raeg yn Mhantycelyn. Ei

theimlo yn fraint cael bod yn un o’r myfyrywr cyntafi fyw yn y neuadd newydd.Darlithoedd diddorol a thiwtoriaid cefnogolCymdeithas fach – felly yn hawdd gwneud ffrindiaunewydd.Anfanteision: Dim digon o siopau dillad.

4PAPUR FAMA RHAGFYR 2020

Astudio yn AberDyma broffil pedwar o fyfyrwyr ifanc o Sir y Fflint sydd wedi dewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.Mae Aber yn amlwg yn dennu pobl ifanc bro Papur Fama a gofynnwyd i’r pedwar roi cip olwg i ni arfywyd myfyriwr yn Aberystwyth a sut mae’r cyfyngiadau Covid wedi effeithio arnyn nhw hefyd.

A oes gennych chi blant yn astudio mewn colegau eraill yn Mhrydain neu dramor?Beth am eu holi am eu profiadau nhw fel myfyriwr.

Page 5: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

Pantycelyn yn bell o’r dre panmae’n rhaid cerdded adre yn yglaw.Effaith Covid:Gorfod cadw at ein’ bybls’.Dim digwyddiadau fel GwobrauSeler a’r ddawns rhyng-golegol.Digwyddiadau mawr yng nghal-endr myfyrwyr wedi eu gohurio.

A be wedyn...?

Gweithio felFfisiotherapyddNôl yn mis Gorffennaf mi wnes i raddio o BrifysgolGaerdydd a cychwyn fy swydd gyntaf felFfisiotherapydd yn Ysbyty Glan Clwyd. Roeddcychwyn fy swydd yn ystod pandemic yn dipyn osialens rhwng gweithio mewn PPE chwyslyd ynogystal ag addasu i weithio hefo cleifion gydaCOVID. Serch hynny, mae fy nghydweithiwyr wedibod yn hynod o gefnogol a wedi sicrhau fy mod ynsetlo mewn i’r gwaith mewn amodau mor wahanoli’r arfer. Rydw i wedi bod yn gweithio ar y wardiau

ar gyfer yr henoed dros y pum mis diwethaf, yn eucynorthwyo i’w cael nôl ar eu traed ar ôl disgyn neusalwch. Rydw i hefyd wedi cael y profiad o weithioar ITU a HDU yn ogysal â’r wardiau arferol fel rhano’r gwaith penwythnos i drin cleifion gydaphroblemau gyda’u brest. Diwedd mis Tachweddbyddaf yn symud i’r ward Strôc i gynorthwyocleifion i gynnal a gwella cryfder a defnydd eu corff.Mae gallu bod yno i helpu yn deimlad gwerth chweilyn enwedig yn ystod y cyfnod hwn. Edrychwch ar ôleich hun a cadwch yn saff.

Siwan Ifans

5PAPUR FAMARHAGFYR 2020

Page 6: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 6 RHAGFYR 2020

Cyfle i ddathlubywyd a gwaithDaniel Owen yn

2020 Ar waetha’r cyfyngiadau a’r heriaurydym i gyd wedi eu profi eleni llwyd-dwyd i addasu’r rhaglen a chynnig Gŵylwahanol oedd yn gyfuniad o weith-gareddau awyr agored lleol ar gyferpreswylwyr Sir y Fflint ac amrywiaeth oddigwyddiadau rhithiol arlein oedd ynagored i gynulleidfa ehangach. Buom ynhynod o ffodus o ran amseriad gan fodyr olaf o’n teithiau cerdded yn cychwyno Rydymwyn ar hyd dyffryn Alun ar fore yr union

ddydd Gwener panddaeth y Clo Byr i rym yng Nghymruam 6.00 o’r gloch y nos!Eleni bu’n rhaid i ni fel trefnwyr yr Ŵylddarganfod dulliau newydd o gy-fathrebu gyda’n gilydd a gyda’ncynulleidfa yn union fel yr oedd DanielOwen yn arloesi gyda dulliau newydd ogyfarthebu gyda’i ddarllennwyr yn eioes ef. Y fantais fawr o fynd yn ddigidoloedd fod modd ymestyn at gynulleidfaehangach allai ymuno â ni heb deithioo glydwch eu cartrefi. Roedd droswythdeg yn gwrando ar Aled LewisEvans yn trafod dylanwad creadigolDaniel Owen ar yr ysgrifennwyr ddaeth

ar ei ôl gan gynnwys dyfyniadau hwyliog ac addaso’i waith. Mae copi o sgript y ddarlith ar gael ar eingwefan gwyldanielowen.com. Diolch i GymdeithasWil Bryan am noddi’r ddarlith yn ôl eu harfer.Mae’n arferiad gennym osod torchau mewn man-nau cysylltiedig â Daniel Owen yn ystod wythnos yrŴyl. Eleni gosododd Y Cynghorydd Brian Lloyddorch ar y Garreg Goffa ger man geni Daniel Owenyn Long Row, Maes y Dre, mae’r tai yma wedi eudymchwel ers tro bellach. Ar draws y ffordd maeCae’r Ffynnon. Ar ôl llwyddiant ei nofel Rhys Lewisyr adeiladodd Daniel Owen y tŷ yma iddo’i hun, eifam a’i chwaer ar gost o £ 400 a symud yno ym1889. Maer yr Wyddgrug, Y Cynghorydd TeresaCarberry ymunodd â ni i osod torch ar y cerflun ynSgwâr Daniel Owen a’r Dirprwy Faer, Y CynghoryddSarah Taylor osododd y dorch ar fedd Daniel Owenym Mynwent y Dref.

Aled-Lewis-Evans

Kevin Matthias ger y Black Brook Llwyd

Y chwarel Llwyd

Page 7: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 7RHAGFYR 2020

Dros y blynyddoedd mae’r Ŵyl wedi cynnig gweith-gareddau addas i Ddysgwyr a braf oedd cael croe-sawu’r storiwraig Fiona Collins yn ôl atom i sgwrsioa rhannu fersiwn o chwedl Y Fantell Aur gyda dysg-wyr Mynediad blwyddyn 2 +, a Sylfaen ar y NosFawrth. Ar y Nos Fercher roedd Fiona a FrancescaSciarrillo, y ddwy wedi ennill gwobrau Dysgwyr yFlwyddyn y llynedd, Fiona yn yr Eisteddfod Gened-laethol a Francesca yn Eisteddfod Genedlaethol yrUrdd, yn son am eu profiad o ddysgu’r Gymraeggydag Eirian Wyn Conlon. Ar y Nos Iau cawsom orig ddifyr yng ngh-wmni’r Dr Robert Lomas oedd yn trafoddatblygiad cynnar gyrfa lenyddol DanielOwen a dylanwad ei gyfaill NathanielJones, a ofynodd i Daniel gyfieithu cyfan-soddiad dirwestol Americanaidd melodra-matig o’r enw Ten Nights in a Bar i’rGymraeg . Felly y dechreuodd DanielOwen ar ei yrfa fel llenor. Symudodd ystori i’r Wyddgrug a’i hail-adrodd fel DegNoson yn y Llew Du. Mae recordiad saino’r ddarlith ar gael ar ein gwefan gwyl-danielowen.com.Sgwrs ddarluniadol Bryn y Beili – ddoe aheddiw oedd gennym i gloi’r Ŵyl ar y NosWener. Gosododd yr hanesydd lleol DavidRowe Bryn y Beili yn ei gydestyn hanesyd-dol a chymdeithasol. Gan fod y parc ar ganol cael eidrawsnewid, diolch i haelioni Cronfa Treftadaeth yLoteri Genedlaethol a phartneriaethau lleol, brafoedd cael amlinelliad gan Jo Lane, swyddog prosiectBryn y Beili am y gwellianau diweddaraf. Un o’n partneriaid allweddol fel Gŵyl yw TheatrClwyd ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt hwy ac iDysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain, Menter IaithFflint a Wrecsam a Wayne Owens am eu cymorthparod yn hwyluso ochr dechnegol y digwyddiadau

rhithiol ar ein rhan. Mae cystadleuaeth Daniel Owen yn rhan oraglen TYFU Theatr Clwyd i ddatblygu amentora awduron ifanc. Eleni maent ynrhedeg cyfres o weithdai arlein am ddim iysgrifennwyr ifanc rhwng 14 a 30 oed. Iymuno â gweithdy ysgrifennu creadigol ar-lein neu i ddarganfod mwy am y gys-tadleuaeth ewch i wefan Theatr Clwyd.Yn ystod cyfnod y Clo Mawr a’r Clo Byr maellawer ohonnom wedi cael mwy o gyfle iwerthfawrogi’r llwybrau yn ein milltirsgwar. Roedd y teithiau cerdded yn gyfle iddarganfod mwy am yr ardal a’r cysyllti-adau gyda gwaith Daniel Owen, fel y tir-

wedd calchfaen o amgylch Rhydymwyn acolion y gweithfeydd plwm sy’n thema ganolog ynEnoc Huws; wrth gerdded yn ardal Coedllai roed-dem yn cael ein hatgoffa o bwysigrwydd gweith-feydd glo yr ardal a’r amgylchiadau arweiniodd atDerfysg yr Wyddgrug yn Haf 1869 y seilir digwyddi-adau yn Rhys Lewis arno. Diolch i’n partneriaidWalkabout Flintshire a Clwydian Ramblers am ar-wain y teithiau cerdded. Diolch o galon i’n holl noddwyr, partneriaid a

phawb a gyfranodd neu gymrodd ran yn yr Ŵyleleni. Bu’n gyfnod anarferol a gwerthfawrogwn ycyfle gafwyd i gymdeithasu yn rhithiol arlein ac ohyd braich gan barchu pellter cymdeithasol ar y tei-thiau cerdded a’r cyfle i werthfawrogi o’r newydddreftadaeth gyfoethog yr ardal rydym yn byw ynddi.Byddem yn falch iawn o groesawu aelodau newyddatom ar gyfer trefnu Gwyl 2021. Am fwy o fanylioncysylltwch trwy [email protected]

Capel Pen y Fron Llwyd

Taith Gerdded hefo criw Heno yn ffilmio ar gyrion yr Wyddgrug Llwyd

Page 8: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

MENTERIAITH

Sgwrs gyda’r awdur, Rebecca RobertsDewch i glywed gan ‘Awdur y Mis, mis TachweddLlyfrgelloedd Cymru sef Rebecca Roberts dros Zoomar nos Fawrth, 8fed o Ragfyr am 7pm. Bydd y nosonhon yn gyfle i holi Rebecca am ei nofel diweddaraf ibobl ifanc #helynt sydd wedi’i lleoli yng ngogleddddwyrain Cymru, yn ogystal â chlywed mwy am yrhyn sydd ganddi ar y gweill. I ymuno â’r sesiwnarchebwch eich lle drwy e-bostio:[email protected].

Cwis DwyieithogYmunwch â ni ar gyfer ein Cwis DwyieithogNadoligaidd dros Zoom ar nos Sul, 13eg o Ragfyr am7:30pm. Mi fydd y noson hon yn berffaith ar gyferdysgwyr gan bod y cwestiynau’n cael eu gofyn yn yGymraeg a’r Saesneg ac i unrhyw un sydd yn hoff ogwisiau a dysgu ffeithiau newydd. I dderbyn yddolen Zoom, e-bostiwch: [email protected]. Groto Siôn Corn

Eleni mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn cynnalGroto Siôn Corn ar lein. Dyma gyfle arbennig ideuluoedd gael cyfarfod a sgwrsio gyda Siôn Corndros Zoom. Mi fydd yn bosib cael sgwrs hyd at 10munud i bob teulu a mae’r sesiynau am ddim. Maesesiynau ar gyfer y ddydd Iau, Gwener a Sadwrneisoes yn llawn ond mae ambell sesiwn ar ôl ar dyddMercher, 9fed o Ragfyr rhwng 5-7pm a’r dydd Sul,13eg o Ragfyr rhwng 10am-12pm. Gan mai nifercyfyngedig sydd ar gyfer Groto, mae archebu lle’nhanfodol er mwyn i ni drefnu dyddiad ac amser sy’ngyfleus i chi. Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle,cysylltwch ag [email protected].

BwcleCydymdeimloEstynnwn ein cydymdeimlad â theulu Mrs. Mair EllisZeise, Oakfield Road, Bwcle. Roedd Mair yn 94 oed.Bu farw ar Dachwedd y deuddegfed. Roedd yn fam,nain a hen nain annwyl iawn. Collodd ei gŵr nifer oflynyddoedd yn ôl. Roedd Mair yn aelod o BwyllgorBwcle i godi arian tuag at Eisteddfod GenedlaetholYr Wyddgrug a’r Cyffiniau 2007. Roedd yn ddarllen-wraig ffyddlon o Bapur Fama ac wrth ei bodd yncael sgwrs Gymraeg. Bu’r angladd ar ddiwrnod olafTachwedd yn amlosgfa Llaneurgain.

PAPUR FAMA 8 RHAGFYR 2020

�¼|��{Ô|�;�¼¯À;��¯ª;+ëìîðí,;òðîíëë;

ª�Ê;�{¯ÀÆ;À�¯¹ÚÀ�ÀÔ¼ª_p¯£�|¯©

�¯À{p¼Æ�Ê;Úª;££�¯£;E;�ÔpÀpªp�Æ�;¹¯ÀÆ

^

^

Page 9: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 9RHAGFYR 2020

TREUDDYNGenedigaethGair i longyfarch Tracy (Lomas gynt) a Rob Palmer arenedigaeth eu mab George, brawd bach i Lottiesydd wedi dod i arfer erbyn hyn “i’w glywed yncrio”. Pob bendith ar y teulu.GwellhadRoedd yn braf iawn cael sgwrs efo Mrs Mrowiec,sydd yn ôl yn y Bala dan ofal ei merch Helen ar ôlcyfnod yn Ysbyty Wrecsam. Ei wyrion Sara a Joseffyn colli gweld Nain. Cofion ati.Da iawn clywed fod Margaret Roberts, Llawenydd,Coedllai adre’n ôl yn gwella ar ôl triniaeth yn YsbytyMaelor. Yr un modd Gwynfryn Ingman, Ffordd yRhos, sydd wedi bod yn wael iawn yn Ysbyty Maelor– yntau’n gwella’n araf gartref.Da iawn clywed fod Noel Parry wedi gwella’n llwyro’r anhap cas a gafodd yn ddiweddar. Hefyd mae’nbraf clywed fod Mrs Meirionwen Ingman wedi caeldod adref o Ysbyty Maelor yn dilyn codwm yn eichartref ar ddydd Sul, Tachwedd 22ain.PenblwyddPenblwydd hapus iawn i Mair Ingman, Ffordd yGilrhos, yn 80 oed.MarwolaethTrist iawn yw cofnodi marwolaeth Raymond GarnerWilliams yn 97 oed. Unig frawd y diweddar HubertWilliams, Siop y Llan, Treuddyn ac annwyl ewythrRichard a Siân. Cleddir y llwch ym medd y teulu ynEglwys y Plwyf.

DiolchYn ddiweddar bu Christopher Enston yn brysur iawnyn golchi â chymhennu hen, hen gerrig beddau ymmynwent Eglwys y Plwyf. Diolch iddo am ei ddid-dordeb a’i lafur cariad. Mae’r fynwent yn cael eichadw mewn cyflwrardderchog gan MrChris Hellen. Diolchiddo yntau am ei lafurar hyd y blynyd-doedd.Un o’r cerrig syddwedi derbyn sylwChris Enston yw‘Maen Coffa’ Y ParchWilliam Williams(Gwilym ap GwilymLleyn) sydd yng ng-hornel bellaf y fyn-went.

CODI ARIAN

Llongyfarchiadau a diolch i Efan Davies, Bronant,Licswm ar redeg 5 kilometr gyda’r nos ar Hydref30ain er mwyn codi arian at Tŷ Gobaith, Conwy.Mae Efan yn fab i Arwyn ac Aimee ac yn ddisgyblyn Ysgol Gwenffrwd. Da iawn ti Efan!Dyma lun o Efan yn ei wisg arbennig ar gyfer rhedegyn y tywyllwch!CAPEL Y BERTHEN

‘Rydym yn bwriadau cynnal ein gwasanaeth nesafar fore Sul Rhagfyr 6ed cyn belled abod y sefyllfaCovid ddim yn gwaethygu. Fe fydd yr Oedfa o danofal ein gweinidog, Parch Robert W. Jones. Gobei-thir hefyd cynnal gwasaneth Nadolig.CYNGOR CYMUNED YSCEIFIOGErs rhai misoed mae’r Cyngor wedi cynnal eu cyfar-fodydd trwy Zoom ac,ar y cyfan, mae’r system yngweithio yn dda! Mae’r Cyngor yn ceisio adnewyddunifer o’r hysbysfyrddau ym mhentrefi Licswm, Ba-bell ac Ysceifiog ar hyn o bryd. GWASANAETH I GOFIOAf fore Sul, Tachwedd 8fed, cynhaliwydgwasanaeth yn Eglwys Ysceifiog i goffau y rhai agollwyd yn y Rhyfel Mawr a’r ail Ryfel Byd ac mewnbrwydrau mewn gwledydd dros y blynyddoedd ershynny. Gosodwyd torchau er côf ar y cofgolofn ger ymynediad i’r Eglwys sydd wedi ei adnewyddu ynddiweddar.

Page 10: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 10 RHAGFYR 2020

CAPEL BETHESDA

Gyda chopi o Bapur Fama yn ein llaw byddwn ardrothwy cyfnod Yr Adfent a’r Nadolig. Bydd ynbendant yn Nadolig gwahanol i ni yma yn YrWyddgrug eleni gyda chyfyngiadau o ryw fathmewn grym ond gyda gobaith y cawn gyfle I ddodynghyd gyda aelodau a’n teuluoedd. Dewch i nigofio, yng nghanol ein prydero , fod neges Y Nadoligyn oesol a beth bynnag ddaw i’n rhan mae gennymgydymaith ar ein taith pob dydd.Rydym yn ffodus fod technoleg yn rhoi cyfle i ni gydymuno yn ein Gwasanethau o Sul i Sul hyd yn oedyn y Cyfnod Clô byr. Diolch i bawb o swyddogionBethesda sydd hefyd yn ei gwneud yn bosib i ni gydaddoli yn y capel.

A WELSOCH CHI’R ENFYS?

Yn ystod y pandemig mae’r enfys wedi dod ynarwydd o obaith, y lliwiau yn cael eu defnyddio arddillad , masgiau, arwyddion, negeseuon testun,cyfryngau cymdeithasol ayb.Bellach mae’r enfys ar wal allanol Bethesda wedi eichwbwlhau gyda diolch i Dilys Lewis sydd wedi eidylunio a’i phaentio yn gelfydd. Mae’r adnod igydfynd â hi yn cael ei rhoi mewn lle ar hyn o bryd.Rhwng sgyrsiau gydag aelodau o’r cyhoedd sydd ynholi ac yn cymryd ddiddordeb, fe ddwêd Dil fod ygwaith yn cymryd dipyn o amser!

Yr adnod fydd yn ymddangos ar y wal yma o ddiolchyw: ‘Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tadyn enw ein Harglwydd Iesu Grist’ (Effesiaid 5:20).Gobeithiwn hefyd fedru cynrychioli’r hollamrywiaeth sydd yn nhref yr Wyddgrug a’r cylchwrth roi y gair ‘Diolch’ neu ‘diolchwch’ mewngwahanol ieithoedd ar y wal.COFIONBraf yw gwybod fod Mary James adref yn cryfhauwedi cyfnod yn yr ysbyty. Gyrrwn ein cofion cynnesat Mary ac at eraill sydd heb fod cystal eu iechyd ynystod y misoedd diwethaf.Cofiwn at deuluoedd sydd yn gofalu am anwyliaid acat aelodau a ffrindiau mewn cartrefi gofal a rhaisydd heb fod cystal eu hiechyd ar hyn o bryd.Bydded ein gweddi drostynt i gyd.CYDYMDEIMLADYn y rhifyn diwethaf, fe anfonwyd cofion at yraelodau a chyfeillion oedd wedi colli anwyliaid ersi’r papur ymddangos diwethaf. Hoffemgydymdeimlo yn fawr hefyd â Robin Hughes,Pantymwyn wedi iddo golli ei wraig Shirley ym misMehefin. Bu farw mam Aled Jones, Parc y Santes Fair yn ystodyr haf. Mae ein cydymceimlad yn fawr ag ef a Helen,Lowri ac Owain yn eu colled.Collodd Trefor Humphries, Cae Del ei dad a oeddmewn gwth o oedran ac yn byw yn Trefor.CYdymdeimlwn efo’r teulu yn gyfan.Bu farw mam Jason a mam yng nghyfraith GwennanGatrell yn ddiweddar yn Poole, Dorset. Estynnwnein cydymdeimlad cywiraf â hwy ac efo Daniel aHanna yn eu colled.

CROESAWU ATOMEin dymuniadau gorau i Mari Potts a’i gŵr a fu’nbyw ar Ffrodd Bryn Coch yn yr Wyddgrug am gyfnodwedi iddynt symud o Lundain. Ymunodd Mari gydani yn ein oedfa olaf yn y capel ym mis Mawrth acmae hi wedi parhau yn ffyddlon i’r holl gyfarfodyddar y we oddi ar hynny. Maent yn cartrefu bellach ynLlandrillo yn Rhos.Dymuniadau gorau i Christopher North hefyd syddwedi gallu ymuno efo ni yn ddiweddar ar ol iddo efddychwelyd gartref o Lundain.

PRIODASLlongyfarchiadau i Miriam Powell-Davies ar eiphriodas gyda Marcus Watling yng nghapelBethesda ar ddydd Mercher , Hydref 28ain. Braintoedd i lawer ohonom gael ymuno yn y GwasanaethPriodas yn ystod y Clo Byr. Cafodd ei thad y fraintfawr o gyflwyno Miriam a gweinyddu eu priodas. Bu

Page 11: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 11RHAGFYR 2020Chloe ei chwaer yng nghyfraith yn canu achyflwyno’r gerddoriaeth ar y delyn. Cafwyddarlleniad gan Lewis, brawd Marcus ac anerchiadpwrpasol iawn gan Ian, tad Marcus cyn i’r ddwyfam, Ann a Nan gyflwyno gweddiau o fendith dros ypar a briodwyd. Mae’r ddau yn cartrefu bellach yngNghwm Felin Mynach ar y ffin rhwng SiroeddPenfro a Chaerfyrddin ac yn gobeithio cael symud iGaerdydd pan ddaw cyfle. Gan ddymuno bendithDuw ar eu priodas.

APELIADAUDiolch I’r rhai a gyfranodd tuag at ein hapeldiolchgarwch i’r Banc Bwyd. Fe drosglwyddywd£300 tuag at y gwaith yma sydd mor allweddolbellach yn ein cymdeithas.Mae’r casgliad at Genhadaeth y Gwahangleifion ynmynd yn ei flaen fel arfer a modd cyfrannu drwy’rcapel ar lein neu sies neu gyfraniad y blychau igartref Ieuan Jones yn Llys y Fron (porch ar agor).Apêl Nadolig – Byddwn yn canolbwyntio einhymdrechion y Nadolig hwn ar apel NadoligCymorth Cristnogol, sydd yn rhoi sylw i angen poblyn rhai o gymunedau mwyaf bregus y byd lle maeCovid 19 wedi bod yn ddifaol.

GWASANAETHAU NADOLIGYr ydym yn ddiolchgar inni fedru ailymgynnull argyfer gwasanaethau ar ôl cyfnod y clo byr ac ynedrych ymlaen bellach ar gyfer yr hyn fydd yn bosibli’w gynnal efo’n gilydd ac ar y we dros gyfnod yrAdfent a’r Nadolig. Mae’r cyfarfodydd canolwythnos a neges yr ysgol Sul yn parhau ar y we.Gellir cael golwg ar y gwasanaethau ar sianelyoutube Capel Bethesda a’r ofalaeth neu grwpfacebook y capel.Rhagfyr 6ed Oedfa Gymun yn y capel.Rhagfyr 13eg Oedfa deulu yn y bore a GwasanaethCarolau yn yr hwyr (I’w gadarnhau)Rhagfyr 20fed Drive in Gwasnaeth Carolau yn yp’nawn. Rhagor o fanylion I ddilyn.Dydd Nadolig am 9 y bore. Gwasnaeth Nadoligteuluol ar Zoom.Mae croeso i bawb i’r oll o’r gwasanaethau. Holwcham ddolen gan Huw [email protected] os hoffech ymuno arfore Dolig neu i unrhywun arall o’r gweithgareddaurhithiol. Os hoffech ddod i’r gwasnaethau ac nafuoch o’r blaen, gyrrwch neges hefyd ar ebost neuddod i gyswllt er mwyn cael gwybod beth i’wddisgwyl a gallu paratoi ar eich cyfer.

Page 12: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 12 RHAGFYR 2020

Ymlaen a ni - ar Fryn y BeiliYn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cym-ryd camau pellach ar y prosiect hwn.GWARCHOD NATUR AC AROLWG FFYNGAU CYNTAF Arweiniodd ein harolwg ffyngau cyntaf ym mis Hy-dref 2020 at gofnodion manwl a nifer o ffotograffauda o’r ffyngau sydd i’w cael yn y parc. Os oes un-rhyw un ohonoch yn arbenigwr ar ffyngau (mycole-gydd), ac yr hoffech ein cynorthwyo i adnabod yrholl ffyngau yn gywir, cysylltwch â ni. Gwnaethomhefyd gwblhau ein gwaith cadwraeth i warchod yrystlumod bach lleol, gan roi dau o flychau ‘Caint’ ifynny ar goeden fawr a ddewiswyd gennym gydachyngor a roddwyd ar y safle gan YmddiriedolaethNatur Gogledd Cymru.

CYNNYDD AR Y PRIF CONTRACT ADEILADUMae’r prif waith contract adeiladu bellach yn myndrhagddo’n gyflym iawn. Mae siâp newydd y Ganol-fan Bryn y Beili newydd yn awr yn amlwg, ger yfynedfa. Mae’r fynedfa, bellach, wedi’i ffurfio’n ddaac mae llwybr igam-ogam yn bodoli. Mae sylfaennewydd yn cael ei osod i lawr ar y prif lwybrau,rwan, tuag ar ddiwedd mis Tachwedd.PLANHIGION Y GWELYAU Ar gyfer ail ‘Sesiwn Tîm Bach y Ffrindiau’ y gaeafhwn - bydd y Ffrindiau yn mynychu Diwrnod Plannu,yn ystod mis Rhagfyr 2020, gan roi help llaw i blan-nu’r llwyni addurnol, a fydd, gobeithio, yn rhoi

golwg flodeuog i’r parc, fydd yn codi ein calonnauflwyddyn nesaf, ac am flynyddoedd lawer i ddod.Bydd hen blanhigion llwyni addurnol a hen rosod yny gwelyau sydd mewn iechyd gweddol dda yn caeleu harbed - i gadw ffurf strwythurol - am y tro. Byddy plannu llysieuol yn cael ei adael tan fis Mai 2020,er mwyn rhoi’r dechrau gorau i’r planhigion. Mae’r Ffrindau wedi bod yn awyddus i weld henrosod yn cael eu hychwanegu, yn enwedig yn y prifwely y bydd y Ffrindiau yn ei reoli - Gwely 18, ynwynebu’r hen lawnt fowlio. Gwnaethom ofyn i lefely pridd yno godi ychydig, i’w wneud yn fwy diogel -ac mae hynny wedi’i wneud. Bydd angen i’rFfrindiau gadw Gwely 18 i safon dda wrth i’r lawntyno gael ei defnyddio’n amlach fel rhan o’r digwyd-diadau newydd a’r gofod perfformio fydd yno o hynymlaen ar y Beili Mewnol.DERBYN CYNGOR ARCHAEOLEGOL DIWEDDARMae angen gwneud addasiadau bach o hyd, yma acacw, hyd yn oed rwan, i’r Uwchgynllun ar gyfer yparc. Mae gwiriadau archeolegol cyn-adeiladu acadolygiadau o unrhyw ddarganfyddiadau yn dal ifynd rhagddynt a diau y bydd mwy yn cael eudatgelu yn yr wythnosau i ddod. Ar hyn o bryd, maeun peth yn glir, roedd Castell yr Wyddgrug yn gaerfwy sylweddol wedi’i hadeiladu a’i murio na’rdisgwyl. Yn sydyn, mae’r ymladd dwys drosto drwy’rdegawdau ar ôl iddo gael ei adeiladu gyntaf gan ‘yFfreinc’, a champ lluoedd Owain Gwynedd yn ennilly castell yn 1146 (fel yr adroddir yn Brut yTywysogion), yn gwneud llawer mwy o synnwyr.ARDALOEDD CYMERIAD TIRWEDD (1-7) YN Y PARC -CANLLAWIAU CYNLLUNIO Y FFRINDIAUGofynnodd Cyngor Sir y Fflint i’r Ffrindiau gynhyrchutaflenni gwybodaeth manwl ar y blodau gwyllt ablannwyd gennym mewn gwahanol rannau o’r parc,gyda lluniau, i hysbysu staff cynnal a chadw’r parc

Rhosyn ‘Lady Hillingdon’ (1910)

Rhosyn ‘Compte de Chambord’ (1860)

Page 13: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 13RHAGFYR 2020

ac eraill. Rydym wedi gwneud hynny, ac wedidefnyddio ein dadansoddiad o syniadau EdwardKemp i lywio’r broses honno ymlaen hefyd.Mae’r nodiadau canllaw a gynhyrchwydgennym bellach wedi’u mabwysiadu ganGrŵp Llywio Bryn y Beili i arwain pobgweithred gwirfoddolwr yn y parc. Dylaihynny helpu i sicrhau arddull gyson a rhoihwb i gymeriad y parc mewn modd cynnil,gan wella ei harddwch - i bawb ei fwynhau.NESAFNawr bod gennym obaith o haul ar frynunwaith eto (gyda thri brechlyn ar gyferCOVID-19 wedi eu datblygu erbyn canol misTachwedd 2020), dylai fod yn bosibl gwneudmwy yn y parc, yn ddiogel, yn ystod 2021. Mae’r Ffrindiau wedi archebu mwy o flychaunythu, pocedi clwydo, rhedyn brodorol,asaleas melyn, eirlysiau, a chlychau’r gog -i’w hychwanegu at ardaloedd allanol y parc,yn unol â’n nodiadau canllaw. Rydym hefydyn tyfu gartref, llawer o flodau gwyllt erailli’w hychwanegu at y mwnt yn unol â’nCynllun Blodau Gwyllt y Mwnt. Bydd yrheiny yn cael eu hychwanegu at y parc yngNgwanwyn a Haf 2021.

YMUNWCH Â NI

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymrydrhan - yn achlysurol neu’n rheolaidd -cysylltwch â ni. Mae mwy o wybodaeth a

manylion cyswllt am y Ffrindiau ar ein Tudalen‘FoBHFacebook’ -https://www.facebook.com/Friends-of-Bailey-Hill-1442020782754561/

Eira HughesCadeirydd FoBH-FfByB

LLUNIAU - ychydig o’r henrosod bydd yn cael eu hychwanegu i’r Gwelyau yn yParc.Lluniau gan Eira Hughes

‘Sesiwn Tîm Bach y Ffrindiau 1’ (Hydref 2020) - Cw-blhau ein gwaith ar gyfer ystlumod bach lleol: dauflwch Caint, a godwyd gan y tîm blychau ystlumod,Trefor Jones, Paul Tatterson, Mike Bunting, gyda Hi-lary Preece yn stiwardio i sicrhau ymbellhaucymdeithasol.

‘Sesiwn Tîm Bach y Ffrindiau 1’ (Hydref 2020): einharolwg ffyngau cyntaf – a gwelsom lawer o fathau, gan gynnwys ser – y ‘seren ddaear’!

Rhosyn ‘Fantin-Latour’ (1940)

Page 14: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 14 RHAGFYR 2020

Priodi yng nghanolpandemic!

Miriam Watling (Powell-Davies gynt)

Daeth Marcus a finnau yn �l o Awstralia ddechraumis Awst lle treuliais y flwyddyn yn byw gyda theuluac yn edrych ar ol tri o blant i deulu ym Melbourne.Yr oeddem ni wedi dyweddio yno ym mis Mai gyda’rbwriad o briodi ddiwedd Mawrth 2021. Roeddwn i’nedrych ymlaen at gael symud i fyw i Gaerdydd ynnechrau Medi i gael cychwyn yn fy swydd newyddgyda’r mudiad Cymorth Cristnogol, ac roedd Marcushefyd yn edrych ymlaen at gael mynd i fyw i Frysteam ychydig fisoedd at ei frawd. Ond...... wythnos ynunig cyn symud i lawr i’r brifddinas daeth tro ar fyd.Roedd pawb yn gweithio o adra, aco fewn yr wythnos roedd stafellwely Obed Lloyd, fy mrawd bachwedi troi yn swyddfa i mi. Daethstop ar deithio yn �l ac ymlaen igartref Marcus yn Sir Gaerfyrddin.Digwyddai ein ‘date night’ drosFace Time bellach, rhamantusiawn!! Ar un o’r galwadau hynny ynniwedd Medi, a ninnau yn Sir yFflint o dan glo lleol, daeth y syniadgwallgo a gwych o briodi mor fuana phosib. Dyma agor fy laptop achwylio am ffrog priodas, dim onddau beth oedd rhaid iddi fod, ynwyn ac yn llaes. O fewn diwrnodlandiodd ffrog un rhan o ddeg y prisgwreiddiol o John Lewis i bortsLlifor, a meddiannais y drydedd stafell wely yn y tŷfel y ‘bridal suit’. Roedd Ann y cofrestrydd wedicytuno i gofrestru’n priodas yng nghapel Bethesda,dim ond i ni ddisgwyl 28 niwrnod. O fewn 30 diwrodi hynny daeth y diwrnod mawr ei hun, diwrnod einpriodas. Erbyn hyn roedd Cymru i gyd o dan glo clec, onddiolch i Mark Drakeford a llywodraeth Cymru, roeddpriodasau yn cael parhau er nad oeddgwasanaethau ar y Sul. Dim ond bod pawb yn caeleu pellhau oddi wrth ei gilydd roedd caniatad ilenwi’r capel! Efallai nad oedd posib cael y pethauhynny sydd wedi dod yn arferol mewn priodasauerbyn hyn, ceir crand, tim colur a gwallt, gwleddfawreddog, parti nos a thân gwyllt na hyd yn oedmis mêl yn y Ne Korea. Ond roedd y diwrnod ei hunyn berffaith ac mor bersonnol. Ddaru ni brofi

cymuned yr Wyddgrug ar ei orau, a’r pethaubychain hynny wnaeth y diwrnod mor arbennig achofiadwy i ni. Yncyl Steve yn rhoi pressure washera brwsh ar stepiau capel Bethesda, hel blodau yngngardd Catrin a Geraint Wild, newid a cholurogyda’r morwynion yn y festri, tra’r oedd fy mhrifforwyn ar Face Time gyda mi ym Melfast. Dim pob priodferch sy’n cerdded i mewn i’r capel igyfeiliant telyn ei chwaer yng nghyfraith a hynny ymmraich ei Thad, ac yntau wedyn yn ei phriodi. Roeddy gwasanaeth yn arbenig a phersonol iawn gydateulu’r ddau ohonom yn cymryd rhan. Erbyn heddiwmae’r gwasanaeth wedi cael ei wylio ar facebookgan dros 2,700 o bobl ym mhedwar ban byd, mwybum gwaith na fasa hyd yn oed capel Bethesda’ngallu ei ddal dan amodau arferol! Dw i mor falchbod teulu agos a ffrindiau da wedi gallu bod yno i

gefnogi’r ddau ohonom. Diolchhefyd i ffrindiau Yr Wyddgrug amlenwi’r galeri. Yn dilyn y gwasanaeth gyrrodd Mamni adra i Llifor yn ei char gwynswanc. Roedd Obed wedi diflannuadra ers dipyn i addurno’r ty ynsyperis i’n croesawu. Y sypreis nesafoedd cnoc ar y drws, ac nid rhai’nchwarae ‘trick or treat’ oedd ynoeleni ond Siwan Wilde a chacenbriodas bendigedig wedi eiaddurno’n hyfryd. Roedd llond yroergell o gaws a prossecco,roeddem ni’n barod i ddathlu. Cyn yr 28ain o Hydref roeddem ni’ndweud ‘da ni jest am briodi amrŵan, ond mi fyddwn ni’n dathlu goiawn yn niwedd Mawrth’. Ond

wyddoch chi be, ryden ni wedi dathlu, a ryden ni’ndal i ddathlu, ond wnaiff hynny ddim ein nadu rhagcael clamp o barti pan fydd hi’n ddiogel i wneudhynny. Er mor hyfryd oedd gwesty ein Mis Mêl ynLlifor, Ffordd Rhuthun, da ni’n edrych ymaen i gaelmynd i Dde Korea yn y dyfodol hefyd. Da ni mor ddiolchgar i bawb fu’n dathlu gyda ni, acsydd wedi ein cynnal yn ystod y cyfnod anodd yma.Priodi mewn Pandemic???? Wel pam lai, ma’n wellna chynnal perthynnas dros Face Time!

Mae alaw’r llu cymylau – yn agor neges holl enfysau

y clo hwn, a’n calonnau’n dweud eu dweud am gariad dau.

Mererid Hopwood

Page 15: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 15RHAGFYR 2020Adolygu Cynllun Rheoli AHNE Bryniau Clwyd aDyffryn Dyfrdwy

MAE ARNOM ANGEN EICH HELP!

Mae angen adolygu cynllun rheoli Ardal o HarddwchNaturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE).Mae’rArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwydyn dirwedd a ddiogelir yng Ngogledd DdwyrainCymru, sy’n ymestyn o Brestatyn yn ygogledd, ar hyd Bryniau Clwyd i ddyffryn yrAfon Ddyfrdwy, Corwen a Llangollen yn yde. Mae’n cynnwys rhannau o Sir Ddinbych,Sir y Fflint a Wrecsam.Mae’n dirwedd weithiol o ffermydd achoedwigoedd, sy’n llawn bywyd gwyllt ahanes, a werthfawrogir fel man i gerdded,beicio ac i fwynhau nifer o weithgareddaueraill. Mae hefyd yn le i werthfawrogi’rgolygfeydd godidog, awyr iach ac i ymlacioo’r bywydau prysur rydym yn eu byw bobdydd.Mae gan yr AHNE gynllun rheoli sy’n nodipam fod y dirwedd hon o bwysigrwyddcenedlaethol yn arbennig. Mae’r cynllun ynedrych ar y materion a’r cyfleoedd sy’neffeithio’r Ardal ac yn gosod cynllungweithredu ar gyfer y dyfodol.Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, yrAelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau:“Mae’r cynllun rheoli cyfredol bellach yn 6mlwydd oed ac mae llawer iawn wedidigwydd yn ystod y cyfnod hwn, niystyriwyd llawer iawn o’r materion a’rcyfleoedd yr ydym yn eu wynebu yn awrpan ysgrifennwyd hwn.“Mae Covid-19 yn un enghraifft ac ar hyn obryd mae’r tîm rheoli yn gweithio’n galedgyda sefydliadau partner i reoli’r don o

ymwelwyr ar ôl y cyfnod clo, cydbwyso anghenionymwelwyr, busnesau megis ffermio o fewn yr AHNEi leihau gwrthdaro posibl.“Mae arnom angen eich help chi i wneud yn siŵrein bod yn cynnwys y materion a chyfleoedd pwysigi lywio ein ffordd o feddwl. Rydym angen hyn isicrhau bod gennym y cynllun gorau posib’ i’n helpui gadw Ardal o Harddwch Naturiol EithriadolBryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lle braf i fywynddo, gweithio ynddo ac i ymweld ag o yn yblynyddoedd i ddod.”

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr adolygiad hwn,mae sawl ffordd y gallwch helpu:Gallwch ymateb i’n harolwg byr- https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/mae-arnom-angen-eich-help-cwblhewch-ein-arolwg/

Gallwch gyflwyno eich ymatebion manylach o ran ymaterion a chyfleoedd ar gyfer yr AHNE yr ydych yncredu sydd angen mynd i’r afael â nhw yn y cynllunrheoli newydd i: [email protected]

Page 16: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 16 RHAGFYR 2020

ADNEWYDDOL???’Does neb yn ceisio’ch rhwystro rhag prynu modurtrydan. I hynny mae’n dod cyn bo hir p’un bynnag.Yn y cyfamser, rhaid i ni rhywsut ganfod ffordd ogynhyrchu digon o ynni trydanol ar gyfer y modurona hwnnw yn adnewyddol. Mae Prydain wedi addorhoi’r gorau i losgi tanwydd ffosil hynny sydd yn rhy-ddhau carbon deuocsid sef glo, olew a nwy o fewnychydig flynyddoedd a bydd hyn yn gadael bwlchenfawr i’w lenwi yn ein cyflenwad trydanol. Ar hyno bryd, ymddengys fod y pedwar prif ddull arall ogynhyrchu trydan sef gwynt, dŵr, niwcliar aphanelau solar yn cael eu hystyried fel cynhyrchwyradnewyddol.Pa mor adnewyddol? Dŵr yn sicr. Ar ôl i’r dŵr lifodrwy’r pwerdai a chynhyrchu’r trydan, mae’r haulyn gofalu ei fod yn dychwelyd i’r cronfeydd. Yr haulhefyd sydd yn peri i’r gwynt chwythu yn weddolgyson. Mae pwerdy niwcliar yn costio yn ddrud iawni’w adeiladu ond wedi hynny, ychydig iawn o garbondeuocsid mae yn ei gynhyrchu a dao beth yw hynny. Ond beth am ypanelau solar?Silicon yw’r prif elfen mewn panelsolar a’r brif ffynhonnell yw tywod amae digonedd o hwnnw i’w gael.Mae’r gwaith o echdynnu’r silicono’r tywod yn gofyn am lawer iawn oynni ac yn wrth wneud hynny yn rhyddhau carbondeuocsid i’r awyr – yr union beth yr ydym yn ceisioei osgoi. Mae’r broses, fodd bynnag, yn gymharolrad a mae’r panelau yn hawdd iawn i’w trin. Fegewch fferm o banelau os mynnwch, neu orchud-dio’r to neu banel unigol yn yr ardd, ac os oes gen-nych y cyfarpar pwrpasol gallwch werthu’chcynnyrch i’r Grid Cenedlaethol a gwneud elw. Rhaidgofyn fodd bynnag pa mor adnewyddol mewn gwiri-onedd ydyw panelau solar a pheidio ag anghofio eubod yn cynnwys rhai elfennau megis arsenic a cad-mium sydd yn wenwynig. Ac wrth gwrs, yn ystodoriau’r dydd yn unig y bydd y panelau’n cynhyrchupwer.Oes rhywbeth ar ôl sydd yn wirioneddol adnewyd-dol ac hefyd yn “wyrdd”?300 miliwn mlynedd yn ôl, planhigion neu greaduri-aid bychain oedd pob un tanwydd ffosil ac, yn achosglo yn arbennig, yr haul oedd tu cefn i’r holl dyfiantgwyrdd. Digwyddiad unwaith ac am byth oedd clad-du’r tyfiant hwnnw a ffurfio glo a dyna pam nad ywglo yn ffynhonnell adnewyddol o ynni. Mae’r haulyn dal i dywynnu, mae planhigion yn dal i dyfu ac ynystorio ynni. Eisoes mae ethanol yn cael ei gyn-

hyrchu allan o wenith, siwgwr-cansen a nifer o gny-dau eraill a gellir ei ddefnyddio yn gymysg � phetrolneu ar ei ben ei hun i yrru peiriant modur. Mae’nbosibl cael diesel hefyd allan o blanhigion. Ond, maehyn yn golygu llosgi’r tyfiant a hynny yn cynhyrchucarbon deuocsid – eto yr union beth yr ydym wediaddo peidio ei wneud. Ond, mae tyfiant planhigynyn ddibynnol ar gyflenwad o garbon deuocsid i’wamsugno o’r awyr. Petaem yn cael cydbwyseddrhwng y cynhyrchu a’r amsugno buasem yn “garbonniwtral” yn “adnewyddol” ac yn “wyrdd”ac yndibynnu yn unig ar un peth fydd gyda ni am bethamser eto – yr haul. Dyna’r ddelfryd. Pa mor agos ati ydym ni tybed?I gymryd ethanol fel enghraifft – mae’r broses o’igynhyrchu bron yr un fath a’r broses o fragu. Yn wiryr un cemegyn yw ethanol a’r alcohol y mae rhaiohonom yn hoffi ei ddrachtio – o fewn rheswm wrthgwrs. Y gwahaniaeth pwysig yw fod angen i’rethanol sydd ar gyfer tanwydd fod 100% yn bur!Mae angen gwres i gynnal y broses esplysu sydd yn

gynyrchu ethanol, mae’r adwaith ce-megol ynddo’i hun yn cynhyrchugwres sylweddol a mae hefyd yn rhy-ddhau carbon deuocsid. Mae bosiblfodd bynnag defnyddio’r nwy i dd-ibenion eraill megis cynhyrchudiodydd pefriog. Mae’r ymadrodd ‘cynhyrchu ynni’ yn-

ddo’i hun braidd yn gamarweiniol – trosi ynni syddyn bod yn barod mewn rhyw ffurf i’r ffurf sydd ynddefnyddiol i ni ydyw hanfod bob proses. Oystyried y broses o gynhyrchu ethanol, ac erailltebyg, o’r haul y daw yr ynni cychwynol ond rhaidedrych ar y broses yn ei gyfanrwydd. Yn gyntafrhaid ceisio’r had, amaethu’r gwenith, a’i gynaeafu.Yna rhaid ei sychu a’i storio. Wedyn mae’r melinoa’r esplysu cyn distyllu a phuro a chael gwared o’rychydig ddŵr sydd ar ôl. Ym mhob un o’r camauhyn, mae angen ynni ac, ar hyn o bryd, daw hwnnwoddiwrth olew, nwy a thrydan a rhaid cynhyrchuhwnnw rhywsut. Ar yr ochr gadarnhaol – yn ôl ffigy-rau � gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl, maemodd cynhyrchu deg tunnell o ethanol allan o ychy-dig dros hanner tunnell o had gwenith. Ar y llawarall, mae’r ynni ym mhob galwyn o ethanol 32% ynis nag yw mewn petrol.Mae un peth pwysig arall i’w ystyried wrth feddwlpa mor “wyrdd” yw ethanol a’i debyg. Pan ddaw’rgofyn am drydan ychwanegol ar gyfer ein moduronamgylcheddol-gyfeillgar – faint yn ychwanegol ognydau megis gwenith, siwgwr- cansen a chornIndia fydd raid eu tyfu? A fydd ffermwyr yn ochri

Page 17: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 17RHAGFYR 2020tuag at dyfu’r rhain ar gyfer tanwydd yn hytrach nagar gyfer bwyd a phris bwyd, o ganlyniad, yn codi? Afydd raid distrywio mwy o’n fforestydd glaw iwneud lle i’r cnydau eraill? Y fforestydd hyn syddwedi’r cwbl yn amsugno’r rhan fwyaf o’r carbondeuocsid o’r atmosffer.Ar ôl hyn i gyd, ydym ni rywfaint nes at y ddelfryd ofod yn wirioneddol garbon niwtral neu ydych chi yndigaloni? Oes yna rhywbeth arall i’w gynnig? Efallai– fe gawn weld.

Ieuan Jones

Sesiynau Ti a FiGan nad oedd Cylchoedd Ti a Fi yn gallu cyfarfod tumewn, bu Elaine Griffiths (Swyddog Ti a Fi TeithiolSir y Fflint a Sir Ddinbych) yn brysur yn cynnal sesiy-nau ‘Ti a Fi am Dro’ wythnosol yng Nghastell y Fflint,Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Llanelwy yn ystodmis Hydref a Tachwedd (gan ddilyn canllawiau’r Lly-wodraeth).Galluogodd hyn i rieni a phlant (0-4 oed) ddod at eigilydd yn ddiogel yn yr awyr agored i gerdded,cymdeithasu a chael hwyl yn enw Mudiad Meithringyda chyfle i sgwrsio, canu, gwneud gwahanol greff-tau a gwrando ar storiau. Wrth gyfarfod yn wyth-nosol mae’r rhieni a phlant wedi dod i adnabod eigilydd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylchhapus, hwyliog a chyfeillgar. Mae Elaine hefyd yn ymddangos yn y fideo wyth-nosol Cylch Ti a Fi sy’n cael ei ddangos ar dudalenFacebook y dalaith (Mudiad Meithrin y Gogledd

Ddwyrain a’r Canolbarth). Yn y fideo cawn ei gweldyn cynnal sesiynau Ti a Fi gyda Dewin a Doti sy’ngolygu gall eich plant barhau i fwynhau gweith-gareddau Cylch Ti a Fi o gartref.Cyn belled nad oes newidiadau i reolau’r Lly-wodraeth, bydd Elaine yn parhau i gynnal sesiynau‘Ti a Fi am Dro’ yn Nyffryn Maes Glas, Parc Gwepra aLlanelwy yn ystod mis Rhagfyr. Mae mwy o wybo-daeth ar dudalen Facebook y Dalaith neu gallwchgysylltu i archebu eich lle drwy e-bost [email protected]. Bydd croeso mawr i chi.

Dau Ben Cerfiedig Arall Eglwys yrWyddgrug

Yn y rhaglen Cynefin am Yr Wyddgrug, a ddarlled-wyd gan S4C ym mis Tachwedd y llynedd, soniais amambell wrthrych hanesyddol a chelfyddydol wrthgerdded o gwmpas y dref gyda Heledd Cynwal. Ondmae’n debyg nad oedd amser gan Gwmni Rondo igynnwys y cyfan mewn rhaglen amrywiol abarhaodd am lai nag awr, er imi egluro cefndir pobun yn fanwl. Gan fod sawl un wedi gofyn imi ameglurhad, lluniais ddwy ysgrif ar gyfer rhifyn ar-leinmis Ebrill o Papur Fama: am y cerrig cerfiedig ar waltŷ o’r enwTan-y-Coed yn stryd Pwll Glas ac am Fr-wydr yr Haleliwia.

Pwnc arall nas cynhwyswyd ei gefndir yn llawn yn yrhaglen oedd y ddau ben cerfiedig ar un o binaclaumyndfa ddeheuol Eglwys y Santes Fair ynghanol ydref. Er bod y fynedfa yr un mor addurniedig â

Page 18: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 18 RHAGFYR 2020

gweddill yr eglwys (sy’n dyddio’n bennaf oddechrau’r 16ed ganrif), fe’i haddaswyd i’w ffurfbresennol yn 1911 drwy haelioli’r teulu Davies-Cooke o blasdy lleol Gwysaney. Rhai David LloydGeorge ac Oliver Cromwell yw’r pennau, wedi’u cer-fio nid o ran parch ac edmygedd, ond yn hollol i’rgwrthwyneb. Cefais fy nghyflwyno i’w hanes ganJohn Roger Williams, a ymddangosodd yn y rhaglenmewn perthynas â’r eglwys ei hun.

LLOYD GEORGEYn 1911 roedd David Lloyd George yn Ganghellor yTrysorlys yn y llywodraeth Ryddfydol, a’i DdeddfSenedd (yn herio grym Tŷ’r Arglwyddi) a’i fesuryswiriant gwladol (i sicrhau pensiynau i’r henoed acincwm adeg salwch i’r anghenus) wedi cael eu mab-wysiadu gan y Senedd. Ond roedd y gwleidydd oGymro wrthi hefyd, yng nghwmni Thomas Gee aceraill, yn ymgyrchu dros ddatgysylltu’r Eglwys Angli-canaidd o fod yn eglwys sefydliedig yng Nghymru.

Dim rhyfedd, felly, i’w ben cerfiedig gael ei arddan-gos uwchben y fynedfa am ei fod (yng ngolwg teuluGwysaney) ‘one of the ‘desecrators’ of the Church’.Ond er i’r ddeddf ddatgysyllu gael ei mabwysiadu yn1914, aeth chwe mlynedd heibio cyn iddi ddod i rymoherwydd yr oedi a achoswyd gan ryfel 1914-1918,a chysegrwyd y Gwir Barchedig George Edwards,Esgob Llanelwy, yn Archesgob cyntaf Cymru yn eigadeirlan ei hun ar Fehefin 1af 1920.

CROMWELLDoes dim sôn am Oliver Cromwell yn ymweld â’rWyddgrug, Ond bu’n swyddog uchel yn y NewModel Army seneddol yn erbyn y Cavaliers brenhin-gar yn rhyfel cartref 1642-51. Ac roedd ymhlith yrhai a lofnododd warant dienyddio’r Brenin Siarl I.Roedd Robert Davies III, perchennog Gwysaney ar y

pryd, yn gefnogol i achos y brenin. Bu Gwysaneydan warchae gan Syr William Brereton, arweinyddcarfan leol o’r New Model Army yn 1645. Cipiwyd ytŷ a charcharwyd Davies yng Nghaer.

Pan oedd y portreadwr enwog Peter Lely yn paentiodarlun o Cromwell, dywedir iddo gael ei orchymyni’w ddangos ‘warts and all’. Diffiniad Geiriadur yrAcademi Gymreig o’r ymadrodd yw ‘gyda’i hollffaeleddau’ neu ‘fel y mae’ neu (yn llai angharedig)‘yn ei lawn liwiau’. Ond o edrych yn ofalus ar ffo-tograff John Roger Williams o’r cerflun, gallwchweld dafaden ar ei dalcen uwchben y llygad dde –‘warts and all’ go-iawn!

ON: mae Gwysaney (y tŷ a’r ystad) ar werth. Ymhlithyr eitemau o’r llyfrgell a brynwyd gan y LlyfrgellGenedlaethol mae awdlau, cywyddau a gweithiaubarddonol Cymraeg eraill o’r 16ed ganrif yn ogystalâ disgrifiadau o deithiau ar y cyfandir yn y 1810aua’r 1820au gan Philip Davies-Cooke (1793-1853), unohonyn nhw yng nghwmi Thomas Pennant. Heblawhyn, mae casgliad helaeth o ddofennau yn dyddio’nôl i’r 13fed ganrif yn Archifdy Sir Y Fflint.

Philip Lloyd

Pennau David Lloyd George ac Oliver Cromwell, llu-niau gan John Roger Williams

ACHOS O DDISGYBLAETHGanwyd fy Nhaid, Henry Jones, yng nghyffiniauRowen, Dyffryn Conwy, ym 1873. Yn fuan wedyn,symudodd y teulu i Drefor, Sir Gaernarfon, a bu taid,ei dad o, a’i chwech brawd, i gyd yn gweithio’n ychwarel ithfaen (granite) sydd uwchlaw’r pentref.‘Roeddent i gyd yn wneuthurwyr “setts” a gludwyd iLerpwl a dinasoedd eraill i balmantu’r strydoedd.

Dyma lun o fy nhaid a Nain, Mary Elizabeth Jones(Pritchard gynt) yn yr 1930au. ‘Roedd gwreiddiauNain ym Methesda.

Eglwys y Santes Fair a’i mynedfa ddeheuol, llun ganPhilip Lloyd

Page 19: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 19RHAGFYR 2020

Ym mis Tachwedd1907, atebodd Taid ygalw i fod yn weinidogyng Nghapel Presbyte-riaid Cymru Pensarn,Cyffordd Llandudno.Bu’n weinidog yno tanei farwolaeth ym 1943.

Taid oedd yr ail o’rbrodyr i fynd i’rweinidogaeth. ‘Roeddei frawd, T. (efallai“Thomas”) O. Joneseisioes yn weinidog ynYsbyty Ifan.

O’r fan honno, ym mis Tachwedd 1909, croesawydyn weinidog yng Nghapel Bethesda, Yr Wyddgrug.Yn ôl llyfr Rhiain Phillips ar hanes y Capel, YDyfroedd Byw, “Daeth T.O. Jones yn 1909 ond ar ôlychydig fisoedd ymadawodd dan gwmwl”. Bethoedd “y cwmwl” ysgwn i?

Wedi chwilota ymhellach, darganfyddais erthygl ynY Rhedegydd ar 14eg Ebrill 1910. Daeth yn amlwgbod fy hen-ewythr wedi gadael ardal Yr Wyddgrugyn ddisymwth. Cyn ei ymadawiad, ‘roedd wedigadael llythyr hefo Jesse Roberts, “un o ddiaconiaidhynaf yr Eglwys” yn egluro pam. ‘Roedd y llythyr “o

natur mor nodedig fel nad oedd weddus ei ddarllenyn gyhoeddus na’i gyhoeddi trwy y wasg”!

(Erthygl Y Rhedegydd wedi’i hatodi).

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, cynhaliwyd YGymdeithasfa (rhan o ffurf lywodraethu’r EglwysBresbyeraidd) yn Yr Wyddgrug. Yn ôl adroddiad ynY Goleuad ar 27ain Ebrill 1910, cadarnhawyd ben-derfyniad Capel Bethesda i ddiarddel T.O. Jones “ofod yn aelod ac o fod yn weinidog yr eglwys”. Dis-grifir T.O. Jones fel y “brawd oedd wedi syrthio”.Nid oedd T.O. Jones wedi gwrthwynebu cael ei ddi-arddel.

Nid oes gen i unrhyw wybodaeth ymhellach am T.O.Jones. Tybed a oes unrhywun o aelodau presennolCapel Bethesda yn gwybod mwy am ei hanes?

A nnwyl Olygydd a Darllenwyr

Dymunaf hysbysu eich darllenwyr am gystadleuaeth Dysgwr yFlwyddyn a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwal-adr. Mae gennym nifer enfawr o ddysgwyr o bob lefel, rhai yndysgu Cymraeg yn eu cymuned ac eraill yn gwneud deunyddllawn o’r cyfleoedd dysgu Cymraeg o fewn y gweithle gan diw-tor Cymraeg y Bwrdd Iechyd a thrwy ddarpariaeth arbennig i’rBwrdd Iechyd gan Cymraeg Gwaith.

Eleni yw’r eildro i’r gystadleuaeth hon gael ei chynnal, a’rflwyddyn ddiwethaf derbyniodd gryn sylw gan y wasg, gangynnwys y Rhaglen Heno ar S4C a Rhaglen Geraint Lloyd, BBCRadio Cymru. Pwrpas y gystadleuaeth hon yw dathlu a gw-erthfawrogi ymdrechion ac ymroddiad ein staff i ddysgu Cym-raeg, sydd yn ei dro o fudd a chysur i’n cleifion a defnyddwyrgwasanaeth, ac wrth gwrs, gwobrwyo’r enillwyr.Bydd yr enillydd yn rhywun sydd wedi gwneud ymdrech fawr iddysgu Cymraeg ac yn achub ar bob cyfle i ddefnyddio’r hynmaen nhw wedi’i ddysgu yn y gweithle gyda chleifion a defny-ddwyr gwasanaeth.

Felly os gwyddoch am aelod o staff sy’n haeddu cydnabyddi-aeth, beth am eu henwebu?

I dderbyn ffurflen enwebu, dylech e-bostio [email protected] Dyddiad cau derbyn ffurflenni enwebuyw 18 Rhagfyr 2020, a chyhoeddir enw’r enillydd ar 1 Mawrth2021.

Yn Gywir

Sioned JonesSwyddog Cefnogi Hyfforddiant CymraegBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Page 20: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 20 RHAGFYR 2020

Cyfweliadgyda’r actor,

Siôn Emyr.

Mae llawer o boblCymru yn dy adnabodfel Sion o Rownd aRownd, sut brofiadoedd ymddangos ar yteledu mor ifanc?Mi oedd o’n brofiadanhygoel a mi fues i’n lwcus iawn i gael y cyfle ichwarae rhan Siôn ar Rownd a Rownd am 4 cyfres.Mi wnes i ddysgu llawer iawn ynglyn a bod yn actoryn ogystal a’r holl adrannau eraill – cyfarwyddo,gwaith camera, sain, coluro, gwisgoedd, cynllunio apharatoi set. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Mi oeddo’n brofiad gwych i’w gael a dwi’n ei werthfawrogihyd heddiw.

Oeddet ti wastad eisiau bod yn actor? Dwi ddim yn cofio breuddwydio am gael bod ynactor. Mae gen i atgofion melys o adordd a chanu

mewn Eisteddfodau (yn ogystal ac atgofion chwerwo anghofio’r geiriau tra’n adrodd a chanu mewnEisteddfodau). I fod yn onest, mi o’n i reit hoff oDdaearyddiaeth, Hanes a Cymraeg tra’n YsgolBrynrefail. Ond, mae na oriau o fideos cartrefohonna fi yn canu, adrodd, dawnsio, perfformiostraeon neu sioeau – yn syml, unrhywbeth i gaelsylw. Felly, dwi’n weddol sicr mod i wedi gwneud ydewis cywir. Mae perfformio a bod yn greadigol ynfy ngwneud i’n hapus iawn, a mae hynny’nbwysicach na dim yn y marn i.

Oes gen ti gyngor i unrhyw un sydd â diddordebmewn gyrfa ym myd y celfyddydau? Mae byd y celfyddydau yn enfawr a mae mynd ati iddatblygu gyrfa yn y diwylliant yn waith caled, felunrhyw ddiwylliant arall. Mi fyswn i’n awgyrmu bodunrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau ynmynd ati i gael gymaint o brofiad gwaith a sy’nbosib. Ewch i weld pa fath o swyddi sydd ar gael ichi, be’ ‘da chi’n fwynhau wneud a dechraudatblygu cysylltiadau. Os ydych chi’n mwynhauysgrifennu, actio, arlunio, canu, dylunio, dawnsio,gwaith cefn llwyfan, gwaith teledu, dyfeisio – mae’rrhestr yn wir yn ddi-ddiwedd – ewch amdani! Maebod yn greadigol yn sgil sydd angen ei meithrin fellyewch amdani a daliwch ati!

Rwyt ti’n wyneb cyfarwydd i Theatr Clwyd ac iysgolion Sir y Fflint. Fedri di ddweud mwy am ygrŵp newydd theatr Gymraeg y byddi di’n eichynnal yn y flwyddyn newydd? Dwi’n edrych ymlaen yn arw i gael dechrau gweithiogyda grwpiau gwahanol o bobl ifanc drwy gyfrwng yGymraeg. Mae Theatr Clwyd yn le arbennig iawn adwi’n lwcus iawn i gael bod yn rhan o’r tîm. Bydd ysesiynau yn gyfle i ni fod yn greadigol ac yncanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau perfformio ynogystal a LOT FAWR o hwyl a sbri. Mae croeso ibawb ymuno felly dewch yn llu!

Mae’r flwyddyn hon wedi effeithio pawb mewnffyrdd gwahanol, sut mae eleni a’r cyfnod clo wedidy effeithio di fel actor? Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i filiynauo bobl a dwi’n gobeithio wir ein bod llygedyn oobaith ar gyfer 2021. Mae 2020 wedi bod sialens ilawer yn y celfyddydau a dwi’n meddwl bod gallu’rdiwydiant i addasu wedi bod yn hollbwysig. Mae’rcyfnod clo wedi symud rhan fwyaf o’r gwaith ar-lein.Yn hytrach ‘na mynd i ysgolion neu theatrau – dwi’ncynnal gweithdai drama neu’n perfformio dramau

Page 21: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 21RHAGFYR 2020dros Zoom. Dwi wir yn edrych ymlaen i weld eintheatrau ni’n llawn unwaith eto – i mi, does ‘naddim teimlad gwell ‘na perfformio o flaencynulleidfa fyw. Ond, nes bydd hynny’n bosib, dwi’ncredu fod gennym ni fel actorion a rhai sy’n rhan o’rcelfyddydau gyfrifoldeb i gyrraedd pawb o fewn eincymunedau a rhoi cyfle i bawb fod yn greadigol arhoi gwên ar wyneb pobl yn ystod y cyfnod heriolyma!

Mi fyddi di yn sioe Nadolig cyd-gynhyrchiad TheatrClwyd a Pontio unwaith eto eleni. Fedri di ddweudmwy amdani? ‘Gwrach yr Iâ’ ydi enw’r sioe eleni. Mi fydd Cwilsyn,Metso a Ballera yn adrodd hanes merch ifanc o’renw Vasalisa, sy’n cael ei herwgipio gan Wrach yr Iâ,ac yn gorfod bod yn ddewr iawn er mwyn galludianc o afael y wrach! Mi fydd y sioe yn cael eipherfformio yn Pontio ac yn Theatr Clwyd ynGymnraeg a Saesneg dros gyfnod y Nadolig. Dyma’rdrydydd sioe Nadolig i ni wneud gyda’n gilydd adwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy i ddatblygu’r stori

a bod yn rhan o berfformiad byw!

Ac yn olaf. Beth fyddi di’n cael i ginio ar ddiwrnodNadolig? A Phwy fydd yn coginio? Twrci, twrci a mwy o dwrci. A siocled! Mi fyddwn ni igyd yn cyfrannu a pawb yn dod a rhywbeth bachgyda nhw er mwyn dathlu’r Nadolig mewn steil!

Bydd ‘Gwrach yr Iâ’ yn perfformio yn Theatr Clwyd o22 i 29 o Ragfyr, i blant 5+ oed a’u teuluoedd.Tocynnau £6. www.theatrclwyd.com

Grŵp newydd Theatr i blant a phobl ifanc yncychwyn Ionawr 2021. Mwy o wybodaeth:[email protected]

HUNANGOFIANT Y BU HIR DDISGWYL AMDANODeffro i Fore Gwahanol - Hunangofiant Glyn TomosGolygydd: Osian OwenDyma hunangofiant fab i chwarelwr a ddaeth ynffigwr amlwg yn y frwydr dros yr iaith a dyfodol eincymunedau. Mae’r awdur yn ddyn y mae parchmawr iddo fel gwr a daliadau cryf am ddyfodolCymru a’r broydd Cymraeg, ac angerdd am einbywyd cymunedol a cherddoriaeth Cymraeg. Yn un sy’n fodlon sefyll yn y bwlch dros yr hynmae’n ei gredu, cawn ddod i ddeall lle y magodd ygwrhydri yma wrth iddo ddarlunio bywyd ar aelwydcyffredin a chynnes ym mhentref chwarelyddolDinorwig yn y 50au a’r 60au. Cawn weld sut y daeth yn ymgyrchydd iaithblaenllaw, angerdd a ddaeth i’r amlwg yn ystod eigyfnod cythryblus fel myfyriwr ym MhrifysgolBangor yn y 70au. Bydd yn codi clawr hefyd ar eibrofiadau difyr fel golygydd y cylchgrawn popenwog Sgrech, ymysg cyhoeddiadau eraill. Ac yntau wedi gweithio ymmaes gofal cymdeithasol yngNgwynedd am ddeugainmlynedd, mae’n gyfrolafaelgar hon yn cynnnigdarlun cofiadwy ohonofo a’r gymuned ymae’n ei charu a’ithrysori gymaint. Gwasg CarregGwalch. Pris£8.50 ar werthym mhob sioplyfrau Cymraeg.

Hysbysebion

Os hoffech hysbysebu eich gwaith neugwasanaeth eich cwmni ym Mhapur Famagweler y prisiau isod:

1/8 tudalen £7.50 (un rhifyn)Y pensaero Almaenwr Stefan Lubert (ei chwarae ganAlexander Skarsgard) yn croesawu’r CyrnolLewis Morgan (Jason Clarke) a’i wraig Rachael(Keira Knightly) i’w gartref. Drwy garedigrwyddFox Searchlight Pictures

¼ tudalen £15 (un rhifyn)

½ tudalen £30 (un rhifyn)

Tudalen llawn £50 (un rhifyn)

Prisiau am y flwyddyn:

1/8 tudalen £50

¼ tudalen £100

½ tudalen £200

Tudalen llawn £350

Hysbysebion personol neu ddiolchiadau: cyfraniad o £5 os gwelwch yn dda.

Page 22: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 22 RHAGFYR 2020

J . E .DAVIES A ’ I FABTREFNWYR ANGLADDAU Edward Davies Dip.F.D

CWMNI TEULUOL PREIFAT SEFYDLWYD DROS 1OO MLYNEDDCERRIG BEDDAU - DELYN MEMORIALS

Ffynnon y CyffLicswm

Treffynnon01352 741265

90 StrydWrecsam

Yr Wyddgrug01352 700155

50 Stryd FawrCei Connah

01244 831774

Stryd FawrBagillt

01352 732146

1-3, StrydHelygainY Fflint

01352 733833

163 Ffordd YrWyddgrugBwcle

01244 548197

2, StrydHelygain

Treffynnon01352 712203

CEIR PRIODAS - ROLLS A DAIMLER

Y Fronfraith, Anti Hilda a Fi

Ar fy nhaith foreol ddoe roeddwn i wedi mynd â fymheiriant recordio efo fi. Mae gymaint o adar yn canuyn yr awr cyn y wawr ac mae’n gyfle da i recordio cyni’r holl geir ddechrau lenwi’r ffyrdd. Meddyliais maidim ond pwyso’r botwm oedd rhaid ond nad oeddwnwedi gosod y lefelau, felly doedd dim un o’r lleisiaumelys wedi cael ei ddal. Er mwyn paratoi am gael ailgyfle nes i eistedd yn yr ardd i baratoi’r peiriant ermwyn gwneud ail ymdrech heddiw. Doedd dim llawero adar yn canu ar y pryd ond digon i mi wneud yn siŵrbod popeth wedi cael ei osod yn iawn. Wrth bwyso’rbotwm i wrando ar y canlyniadau, nid yr adar oeddyn canu ond Anti Hilda yn siarad! Tair blyneddynghynt roeddwn i wedi mynd i’r gogledd yn ycampyrfan ac yn ystod yr ymweliad wedi galw i weldAnti Hilda efo Gwylan, fy nghyfnither. Heblaw am ypleser o weld Anti Hilda roedden ni’n gobeithiorecordio sgwrs.Nes i osod y meicroffon ar y bwrdd, pwyso’r botwm affwrdd â ni. Siaradon ni am seiclo a hithau’n sôn amyr amser wnaeth hi ac Anti May, a oedd yn hŷn na hi,seiclo o Ddolgellau’r holl ffordd i Gymoedd y De. Arosmewn Youth Hostels oedden nhw. Roedd Anti Mayyn hŷn ac yn gryfach ond mi roedd hi’n aros ar ben yrelltydd er mwyn i Anti Hilda dal i fyny, ond wedynmynd ymlaen yn syth ar eithaith! Doedd Anti Hilda ddimyn cael cyfle i gael ei gwynt ynôl! Aeth tair o’r chwiorydd iseiclo yn ardal Lleyn hefyd. Dynale oedden nhw’n edmyguharddwch y wlad o’u cwmpas acun yn codi ei braich i dynnu sylwat safle’r ysgol bomio. Collodd eichydbwysedd a syrthio yn erbyny chwaer ar y chwith, hithau’ntaro’r drydedd chwaer a’r tair ynglanio yn un pentwr ar y llawr. Apham bod rhaid mynd mor belldim ond i chwarae dominos

dwedwch? Wrth gwrs doedd y ffyrdd ddim morbrysur ag heddiw ond sut oedd eu cyflwr? Gyda llawroedd wyth chwaer, druan o Taid ynte!Wrth i mi eistedd yn yr ardd yn gwrando ar hynsylwais ar fronfraith yn crwydro o dan y coed afalau,mae’r adar yn hoff iawn o’r darn yna - llawer o fwydblasus! Roedd hi’n hapus ei fyd yn chwilota a phobhyn a hyn yn aros i syllu arnaf. Y ddau ohonom ynfodlon iawn i rannu’r ardd.Gofynnod Gwylan i’w mam a oedd hi’n cofio’r amseraethon nhw i aros yn Stratford a mynd i theatr yr RSC.Oedd mi oedd. A oedd hi’n cofio mynd i’r theatr arall‘The Other Place’ i weld y ddrama Gardd Eden?gofynnodd Gwylan. Oedd mi oedd a wnaeth hiychwanegu efo cyffro “and they were all nude!” Dimond ar y llwyfan wrth gwrs, roedd y gynulleidfa yngymharol barchus. Wedi i mi glywed hi’n dweud hynsyrthiodd y recorder oddi ar fy nglin a throi ei hun iffwrdd. Codais fy mhen i weld y fronfraith yn heglu hio’na efo’i hadenydd yn dynn dros ei chlustiau mewnsyndod.Does dim ffordd i wneud ‘fast forward’ ar y recorderac roedd hyn wedi digwydd yn awr i mewn i’r sgwrsfelly nad ydw i’n cofio mwy. Ond gan fod y straeongorau i gyd yn gorffen efo ‘cliffhanger’ mi wna i adaelpopeth yn fanna.Hwyl fawr i chi, a’ch dychymyg!

Page 23: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 23RHAGFYR 2020

TANYSGRIFIO MEDI 2018-GORFFENNAF 2019

I dderbyn Papur Fama trwy’r post anfonwch y ffurflen isod i’r POSTMON erbyn Medi 1 afnaill gyda siec am £13 yn daladwy i “Papur Fama “ neu trefnwch Ddebyd Uniongyrchol o £13i “ Papur Fama”, Banc Barclays Yr Wyddgrug, côd cangen 20-25-69, rhif y cyfrif 90720801.Diolch yn fawr am eich cefnogaeth i’r Papur.

FFURFLEN TANYSGRIFIOPapur Fama Medi 2018-Gorffennaf 2019

Taliad Amgaeaf siec neu rwyf wedi trefnu Debyd uniongyrchol.

Enw ……………………………………………………………………………………….............................

Cyfeiriad ………………………………………………………………………………..............................

………………………………………………………………………………………………..............................

………………………………………………………………………………………………..............................

Côd Post ………………………………………………………………………………...............................

Ffôn ………………………………………………………………………………………..............................

Dychwelyd Aled & Helen Jones Ardwyn, 18 Rhodfa'r Mynydd, Yr Wyddgrug CH7 1GQ

ENWAU a RHIFAU FFÔNGOHEBWYR PAPUR FAMA

LICSWMNesta Davies01352 741597Elfed ap Ne-fydd01978 290671TREUDDYNMary Roberts01352 770219NERCWYSLis Jones01352 771542BWCLERhiannonJones01244 545298CAERGwenllianMagee01244 335946SYCHDYNElen Jones01352 757112GWERNYMYNYDDCatherineRichards01352 757469

Y FFLINTMargaretJones01352 732300PENTREMOCHAdrienne Allen01244 821286COEDTALONACHOEDLLAIGareth aCarys Hughes01352 771244CILCAINKeith RedfernHumphreys01352 742250MERCHED YWAWRMair Selway01352 758407

CAPELBETHESDAEnid Young01352 756365

CAPELPENDREBryn Jones01352 700440CAPEL YWAUNEirlys Gruffudd01352 754458

BOBOLBACHNia EllisGwern y MarlFforddRhosesmorLlaneurgainCH7 6AG [email protected]

LLEISIAULLENYDDOLAwen Powell[01352][email protected]

Cofiwch anfon eich newyddion,hanesion, hysbysebion a lluniauat:[email protected]

Page 24: Rhagfyr 2020 papurfama@hotmail.co.uk NADOLIG LLAWEN! · 2020. 12. 8. · bapurau bro fydd yn digwydd ar nos Iau, Rhagfyr 10fed am 7yh. Bydd gennym ŵr gwadd yn ymuno â ni sef Huw

PAPUR FAMA 24 RHAGFYR 2020

Bobol Bach

CLWB Y Llenwch y ffurflen isod a’i hanfon at ycyfeiriad isod gydag 50c i fod yn aelod oGlwb Bobol Bach.Enw:Cyfeiriad:

Dyddiad Geni:e-bost:Bobol Bach – 44 Ffordd Byrnwr Gwair

Yr Wyddgrug CH7 1FQ

Penblwydd Hapus iawn i chi gyd sydd yn cael eich pen-blwyddi yn ystod Mis Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr! Gobei-thio gewch chi ddiwrnod hyfryd yn dathlu!Mis TachweddSioned Esther Edwards 10 oed Madi Lois Phylip Gilkes 10 oed Farrah Evans 9 oedCaitlyn Hayward 9 oedMatilda Rose Cooper 8 oed Dyfan Steele 8 oedMis RhagfyrOli Gardner 11 oedElen Gwenllian Jones 11 oedBeca Rhys Simpson 10 oedGruff Elis Wynn-Jones 9 oedDafydd Rhys Edwards 9 oedGareth John Reay 9 oedSeren Brooks 9 oedGethin Brady 8 oedGwennan Mai Knight 8 oedGwenllian Rhys Parkes 7 oedJac Morris 7 oedWill Ellis Thomas. 7 oedMis Ionawr 2021Gruffudd Siôn 11 oed Megan Elizabeth Reay 11 oedCadi Morris 11 oed Harri Rock 8 oed Myles David Parry 8 oed Owain Elidir Jones 7 oed

Ydych chi’n gallu cwblhau y geiriau i’r gân adnabyddus Gym-raeg isod?: Pwy sy’n dwad dros y b_____ yn ddistaw ddistaw bach,Ei farf yn llaes a’i wallt yn w____ a rhywbeth yn ei sach,A phwy sy’n e________ ar y tô ar bwys y s______ fawrS______ C______! S_______ C_____! Helo! Helo!Tyrd yma, tyrd i lawr

Bobol Bach

Croeso Mawr i’n haelodau newydd i Glwb y Bobol Bach:

Dyma Deiniol Tegid.Mae Deiniol wrth eifodd yn mynd am dro agweld teulu

Dyma Mabon Fôn. Mae Mabonwrth ei fodd yn cysgu a chael

cwtshys efo mam a dad

Dyma Anni Pyrs. MaeAnni wrth ei bodd yngwylio Pel-Droed aRygbi efo’i brawd a’ichwaer