31
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Chapter Rhagfyr 2014

  • Upload
    chapter

  • View
    236

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Chapter Rhagfyr 2014

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Rhagfyr 2014

Rydym wrth ein bodd â mis Rhagfyr yma yn Chapter, yn bennaf am fod y Nadolig yn esgus i fwynhau – heb rithyn o euogrwydd – yr holl bethau da sydd ar gael i ni drwy gydol y flwyddyn: ffilmiau gwych, cerddoriaeth fyw a bwyd a diod hyfryd. Ac mae gennym raglen o ddigwyddiadau gwych i sicrhau eich bod yn chwarae rhan lawn yn hwyl yr ŵyl eleni. Bydd ffair grefftau Nadoligaidd Oh So Crafty (t8) yn arddangos tecstilau, gemwaith, serameg a darnau eraill gan artistiaid ac fe fyddwch chi’n siŵr o godi ambell anrheg hyfryd. Felly hefyd yn ein Ffair Fwyd Nadoligaidd (t8). Ydych chi’n dal i ystyried eich opsiynau ar gyfer Nos Galan? Wel, fe allwn ni helpu. Byddwn yn cynnal parti Nos Galan ardderchog gyda cherddoriaeth fyw a DJs, y cyfan wedi’i guradu gan Shape Records. Ac, fel arfer, fe fydd yna ddanteithion blasus ar gael diolch i staff hyfryd ein Caffi Bar (t8).Ac, i’r rheiny yn eich plith sydd eisiau osgoi’r tinsel, mae gennym ddigon o bethau i’ch diddanu, fel nosweithiau comedi Go Faster Stripe (t14) ), ein tymor arbennig o ffilmiau gwyddonias (t24-26) a’n rhaglen lawn-dop arferol o ffilmiau.Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

Croeso02 chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Oriau Agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd:

Mer 24 Rhagfyr Cau am 5pm (Swyddfa Docynnau a’r Gegin yn cau am 4pm)

Iau 25 + Gwe 26 Rhagfyr Chapter ar gau — Nadolig Llawen!

Sad 27 — Maw 30 Rhagfyr Ar agor fel arfer

Wed 31 Dec Ar gau tan 7pm: 7pm — 2am Parti Nos Galan (Gweler y manylion ar dudalen 8)

Iau 1 Ionawr Chapter ar gau — Blwyddyn Newydd Dda!

O ddydd Gwener 2 Ionawr Ar agor fel arfer

Andy Eagle CyfarwyddwrCroeso i gylchgrawn mis Rhagfyr Chapter. Fel bob amser, mae gennym raglen ardderchog ar eich cyfer y mis hwn a dw i’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau pori yn y gwahanol adrannau. Rydym yn arbennig o falch o groesawu Pride yn ôl i’n sinema, ar ôl poblogrwydd syfrdanol y dangosiadau cyntaf. Er nad yw’n ffilm Nadoligaidd yn yr ystyr arferol, y mae, serch hynny, yn ffilm i gynhesu’r galon, yn llawn o wres dynol a hiwmor iach ac, yn hynny o beth, mae’n llawn o ysbryd y Nadolig. Byddwn yn parhau i gyflwyno gwaith Renzo Martens, Sharon Lockhart a Karen Mirza & Brad Butler yn rhan o arddangosfa Artes Mundi 6 ac, yn y theatr, gallwch weld dawnsio a drama, Dylan Thomas a Richard Burton. Mae gennym fwydlen Nadolig ardderchog hefyd a Ffair Grefftau Nadoligaidd ac, os byddwch yn chwilio am anrhegion munud olaf diddorol, cofiwch am ein siop roddion. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Lewyrchus i chi!

Delwedd y clawr: Blood on the Snow

CROESO

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Page 3: Chapter Rhagfyr 2014

chapter.org

Oriel tudalennau 4–7

Y Nadolig a Nos Galan yn Chaptertudalen 8

Newyddion Chapter tudalen 9

Theatr tudalennau 10–14

Chapter Mix tudalen 15

Sinematudalennau 16–28 Addysgtudalen 29

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30

Cymryd Rhan tudalen 31

Calendr tudalennau 32–33

03Uchafbwyntiau

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.

CYMRYD RHAN

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Page 4: Chapter Rhagfyr 2014

Oriel04 029 2030 4400

ORIEL

Shar

on L

ockh

art,

EXI

T (B

ath

Iron

Wor

ks, J

uly

7-11

, 200

8, B

ath,

Mai

ne) 2

008

16m

m ff

ilm ll

iw, G

yda

chan

iatâ

d ca

redi

g yr

art

ist,

neu

gerr

iem

schn

eide

r, B

erlin

, Orie

l Gla

dsto

ne, E

frog

New

ydd

a Br

usse

ls, a

Blu

m &

Poe

, Los

Ang

eles

. Llu

n: W

arre

n Or

char

d

Page 5: Chapter Rhagfyr 2014

Oriel 05chapter.org

Y Blwch Golau a Chyntedd y Theatr Mae Renzo Martens yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel ac yn Kinshasa ac yn adnabyddus am ei ffilmiau ysgytwol am wledydd wedi’u difetha gan ryfel, lle mae e’n ei osod ei hun wrth galon y digwyddiadau cythryblus er mwyn dangos sut y mae gwylwyr Gorllewinol yn ‘prosesu’ digwyddiadau trawmatig mewn gwledydd pell. Bydd Martens yn cyflwyno ‘Episode 3 (Enjoy Poverty)’, ffilm am ei ymweliad â’r Congo adfeiliedig. Cynhaliodd gyfweliadau â ffotograffwyr, perchnogion planhigfeydd ac fe

chwaraeodd rannau’r newyddiadurwr gorllewinol, y gormeswr, y cenhadwr a’r gweithiwr cymorth. Mae ei ffilm yn canolbwyntio ar un prif bwynt: taw tlodi yw allforyn mwyaf gwerthfawr Affrica a’i fod, fel adnoddau naturiol eraill, yn cael ei ecsbloetio gan y byd Gorllewinol. Mae e’n cyflwyno darlithoedd i’r bobl leol ac yn sôn am dlodi fel nwydd ac yn eu hannog wedi hynny i werthu eu lluniau eu hunain o newyn a marwolaeth yn hytrach na gadael i newyddiadurwyr y Gorllewin elwa ar eu trychinebau dyngarol.

Artes Mundi 6Tan ddydd Sul 22 Chwefror 2015Rydym yn falch iawn o allu cydweithio gydag Artes Mundi i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler (DG), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a Sharon Lockhart (UDA). Mae gweithiau gan yr artistiaid eraill ar restr fer gwobr Artes Mundi 6 i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Ffotogallery, Penarth. I weld manylion yr holl artistiaid ar y rhestr fer ac oriau agor y lleoliadau eraill, gallwch ymweld â www.artesmundi.org.

Arddangosfa ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12-6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm;ar gau ar ddydd Llun

Renzo Martens & Institute for Human Activities

Renz

o M

arte

ns, E

piso

de II

I: En

joy

Pove

rty,

200

9, fi

deo

lliw

, sai

n, 9

0 m

un, g

ydag

is-d

eitl

au S

aesn

eg.

Gyda

cha

niat

âd c

ared

ig y

r art

ist,

Gal

erie

Fon

s W

elte

rs, A

mst

erda

m a

c Or

iel W

ilkin

son,

Llu

ndai

n. L

lun:

War

ren

Orch

ard

Page 6: Chapter Rhagfyr 2014

Oriel06 029 2030 4400

Karen Mirza and Brad ButlerOriel a Celfyddyd yn y BarBu Mirza a Butler yn cydweithio ers 1998, ac maent wedi datblygu corff o waith aml-haenog sy’n cynnwys ffilm, gosodiadau, perfformio, cyhoeddi a churadu. Mae eu gwaith yn her i dermau fel cyfranogi a chydweithredu ac i syniadau traddodiadol am yr artist fel cynhyrchydd a’r gynulleidfa fel derbynnydd. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Mirza a Butler yn cyflwyno The Unreliable Narrator, clwstwr o weithiau sy’n chwarae â’r bwlch rhwng ffuglen a realiti. Yn ‘You are the Prime Minister’, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Mae gosodiad fideo o’u heiddo hefyd yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebwyr ymddangosiadol ddiduedd am yn ail.

Digwyddiadau Amser CinioDyddiau Iau 1.05 — 1.30pmBydd perfformwyr o bob cwr o Gymru yn creu ymatebion unigryw i Artes Mundi 6, gan dynnu ysbrydoliaeth o weithiau, deunyddiau, themâu neu wledydd yr artistiaid ar y rhestr fer.

Iau 18 RhagfyrCerddoriaeth Fyw, ar y cyd â Gŵyl Sŵn.

Page 7: Chapter Rhagfyr 2014

Oriel 07chapter.org

Sharon LockhartOriel Mae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Un o weithiau pennaf Lockhart yw Lunch Break (2008), sy’n dangos 42 o weithwyr mewn iard longau yn ystod eu hawr ginio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwn weithwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau — darllen, cysgu a siarad — yn ogystal â bwyta eu cinio. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Lockhart yn dangos un o ddwy ffilm o Lunch Break o’r enw Exit. Wedi’u ffilmio dros gyfnod pum-niwrnod yr wythnos waith, mae pob un o’r pum golygfa yn Exit yn dangos y gweithwyr yn gadael y Bath Iron Works ar ddiwedd eu shifft. Gan ddwyn i gof ffilm Louis Lumière, Leaving the Lumière Factory, mae Exit yn canolbwyntio ar lif amser a manylion profiadau bob dydd.

Sgyrsiau am 2Sad 13 + Sad 27 Rhagfyr 2pmCynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein arddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid a’r curadur. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel erbyn 2 o’r gloch i ymuno â ni!RHAD AC AM DDIM

I’r chwith: Karen Mirza a Brad Butler, You Are the Prime Minister (arwydd neon) 2014 Gwaith gosod, arwydd neon 220x12cmGyda chaniatâd caredig Waterside Contemporary, Llundain. Llun: Warren Orchard. Isod: Sharon Lockhart, Stephen Bade, Electrician, 2008 3 argraffiad chromogenic, wedi eu fframio: 62.9 x 78.1cm yr un. Llun: Warren Orchard

Page 8: Chapter Rhagfyr 2014

08 029 2030 4400Y Nadolig a Nos Galan

Hwyluso’r siopa Nadolig!Ydych chi’n chwilio am anrhegion i ffrindiau neu aelodau’r teulu? Os oes yna ffans o Chapter yn eich plith, neu os hoffech chi gyflwyno’r ganolfan a’i gweithgarwch i rywun, beth am roi tanysgrifiad i gynllun Ffrindiau Chapter? Mae Ffrindiau Chapter yn derbyn disgownt gydol y flwyddyn ar docynnau i’n theatr a’n sinema yn ogystal â gostyngiadau yn ein Caffi Bar. Gyda’n system lefelau arbennig, gall pris aelodaeth fod cyn lleied â £20 y flwyddyn — rhodd fforddiadwy a phoblogaidd.

Nadolig Oh So CraftySad 13 Rhagfyr 11am — 6pmFyddai hi ddim yn ‘Ddolig heb Oh So Crafty — ein ffair grefftau chwarterol boblogaidd sy’n llawn nwyddau serameg, tecstilau, gemwaith a phethau gwych i’r cartref. Y lle perffaith i godi anrhegion hyfryd.I gael mwy o wybodaeth am y crefftwyr a fydd yn bresennol eleni, ewch i’n gwe-fan, www.chapter.org.

Ffair Fwyd NadoligaiddSul 14 Rhagfyr 11am — 6pmYn dilyn ffair fwyd Nadoligaidd hynod lwyddiannus y llynedd, mae Chapter a Green City Events yn cynnig unwaith eto ddetholiad o’r cynhyrchion lleol, Cymreig gorau. Llenwch eich cypyrddau’n barod at y Nadolig. Bydd anrhegion perffaith ar gael i’r bwydgarwr yn eich bywyd, ynghyd â siocledi a chacennau, cawsys blasus, cigoedd a chwrw ardderchog – a detholiad arbennig yng Nghaffi Bar Chapter. Bydd Green City Events hefyd yn cynnal gweithdai a gweithgareddau i’r teulu cyfan drwy gydol y diwrnod ac fe fydd yna sesiwn o ganu carolau dan y goeden.

Nos Galan yn ChapterMer 31 Rhagfyr 7pm — 2amRoedd ein parti Nos Galan y llynedd, dan ofal yr ardderchog Mel Fung, mor ffantastig fel ein bod ni wedi penderfynu gwneud yr holl beth eto. Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth fyw wedi’i churadu gan Shape Records. Bydd yna setiau gan R. Seiliog, Gwenno, Macho City & CAM DJs. Bass Clef fydd y prif atyniad.Fel arfer, bydd ein Caffi Bar yn cynnig bwyd a diod ardderchog i yrru’r parti yn ei flaen a bydd pris tocyn yn cynnwys gwydraid o swigod a thamaid i’w fwyta. Tocyn Ymlaen Llaw (ar gael tan ddydd Sul 30 Tachwedd) £20Tocynnau o ddydd Llun 1 Rhagfyr ymlaen £2518+ oed

Llogi gofodOs hoffech chi logi ystafell ar gyfer digwyddiad yn ystod mis Rhagfyr, fe allwn ni helpu. Mae nifer o ystafelloedd o wahanol feintiau ar gael, ynghyd â detholiad ardderchog o fwyd a diod. A bydd ein staff cyfeillgar wrth law i’ch helpu, wrth gwrs. Ystyriwch Chapter ar gyfer eich digwyddiad chi. Cysylltwch â’n rheolwr llogi, Nicky, am fanylion pellach — [email protected].

Bwydlen yr ŴylMae ein bwydlen Nadolig hyfryd yn cynnwys twrci traddodiadol, porc â glês seidr, eog â saffrwm a menyn sifys a rhost cnau fegan cartref blasus, ynghyd â’r holl drimins. Ac i bwdin (os bydd gennych le yn eich bol!) byddwn yn cynnig pwdin Nadolig traddodiadol gyda saws brandi neu darten lemon. Yn costio £15 am ddau gwrs, mae’r fwydlen yn cynnig gwerth am arian ac fe fydd yn gwneud eich ymweliad â’r theatr neu’r sinema ychydig bach yn fwy arbennig. I wneud ymholiadau neu i archebu bwrdd, cysylltwch â Laura Powell — [email protected]. I weld y fwydlen lawn, ewch i’n gwefan http://www.chapter.org/cy/festive-menu

Fyddai cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ddim yn gyflawn heb ambell ffilm ardderchog. Trowch i dudalen 27 i weld manylion ein dangosiadau. Bydd ein harlwy yn y theatr hefyd yn rhan o hwyl yr ŵyl. Cynhelir ein drama Nadolig amgen mewn man oddi ar y brif safle ac fe fydd yna gyngerdd garolau hyfryd hefyd (gweler tudalennau 11-12).

Y NADOLIG A NOS GALAN YN CHAPTERAmbell beth hyfryd i sicrhau eich bod yn mwynhau hwyl yr Ŵyl i’r eithaf...

Page 9: Chapter Rhagfyr 2014

Newyddion Chapter 09chapter.org

Cyflwyno Clwb Chapter Clwb Chapter yw ein cynllun aelodaeth newydd ac ecsgliwsif i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes fwynhau ambell gynnig arbennig iawn yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n gofodau hyblyg a gostyngiadau i’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal ag ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar.

Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru y Brif Wobr i Chapter yng nghategori y celfyddydau, a hynny am ein perthynas waith ragorol gyda busnesau fel Legal & General, Admiral, Lloyds a Renault. Gallwch chi hefyd gysylltu eich busnes chi â lleoliad celfyddydol mwyaf cyffrous Caerdydd.

Dyma restr o’r buddion y byddwch yn eu derbyn fel aelod o Glwb Chapter: • gostyngiad o 25% ar bris llogi gofod (yn cynnwys

cyflenwad o de a choffi am ddim)• dau gerdyn disgownt i staff yn cynnig prisiau

gostyngol ar docynnau theatr a sinema a 10% oddi ar fwyd a diod yn y Caffi Bar

• gwahoddiadau i ddigwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau busnes y Clwb yn ogystal â’r cyfle i fynychu digwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm

Os yw’r cynllun aelodaeth hwn yn apelio, gallwch hefyd benderfynu uwchraddio eich pecyn sylfaenol i gynnwys mwy fyth o fanteision. I gael mwy o wybodaeth am y Clwb, e-bostiwch Jennifer Kirkham – [email protected].

Ein cefnogwyr wrth eu gwaith!Mae Legal & General yn un o noddwr mwyaf selog Chapter ac, ym mis Tachwedd, cefnogodd y cwmni berfformiad o brosiect unigryw ‘Memoria’. Nod y darn oedd hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia. Yn ogystal â galluogi Chapter i gyflwyno’r darn arloesol hwn o theatr mewn cynhyrchiad llawn, roedd cefnogaeth Legal & General hefyd yn fodd i gysylltu’n uniongyrchol â strategaeth CSR a rhaglen Iechyd a Lles y cwmni. Yn benodol, roedd yn fodd i gefnogi ymgyrch ‘urddas mewn henoed’ y cwmni — ymgyrch sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o effaith poblogaeth sy’n heneiddio ar Legal & General fel busnes (drwy gyfrwng pensiynau, ac yswiriant bywyd a salwch difrifol) a’r effaith a gaiff ar weithwyr y cwmni, eu perthnasau a’r gymdeithas ehangach hefyd.Roeddem yn falch iawn o allu cynnig pecyn pwrpasol o fuddion i Legal & General yn ymwneud â Memoria. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch a chynnig cymorth uniongyrchol i weithwyr y cwmni drwy gyfrwng gweithdai yn archwilio effaith dementia ar ddioddefwyr a gofalwyr. Yn ogystal â hyn, cynigodd Chapter gyfleoedd brandio unigryw i’r cwmni a thocynnau rhad ac am ddim i berfformiad cyntaf y darn pwerus hwn o theatr.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’n perthnasau corfforaethol neu i glywed sut y gallai eich busnes chi elwa ar berthynas â Chapter, cysylltwch ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu anfonwch e-bost at [email protected]

NEwyddION ChaptER

Page 10: Chapter Rhagfyr 2014

Theatr10 029 2030 4400

Bloo

d on

the

Sno

w‘Mae Ms Sabin wedi creu sioe ragorol — mae A Curious Zoo yn llawn perffeithrwydd gogoneddus.’ Fran Medley yn sôn am A Curious Zoo

Page 11: Chapter Rhagfyr 2014

Theatr 11chapter.orgO’

r chw

ith

i’r d

de: N

kote

e, C

harlo

tte

Grei

g

CAROLINE SABIN YN CYFLWYNO

Blood on the SnowOddi ar y brif safle yng nghanolfan NoFit State yn Four Elms (oddi ar Heol Casnewydd)Gwe 19 — Maw 23 Rhagfyr 7pm Hirddydd gaeaf... lle mae marwolaeth a llawenydd yn dod at ei gilydd. Yn ystod cyfnod tywyllaf y flwyddyn, mae gobaith y gwanwyn yn cysgu’n dawel, o afael yr oerfel. Yn dilyn y sioe hyfryd a hynod boblogaidd, A Curious Zoo, mae Caroline Sabin yn dychwelyd eleni â chyflwyniad theatrig i gynhesu’r galon — fersiwn arbennig o gampwaith corawl eiconig Benjamin Britten, A Ceremony of Carols. Camwch drwy’r wardrob i mewn i eglwys fawreddog lle mae coedwig hudol yn tyfu, yng nghanol yr eira mawr. Yn y fan hon, bydd duwiesau’r coed yn canu, yn dawnsio, yn hedfan, yn dadlau, yn gwau, yn taflu peli eira ac yn eich diddanu’n llwyr.Dewch i dreulio awr yn y goedwig arbennig hon yng nghwmni cast anhygoel o berfformwyr amryddawn. Gallwch ddisgwyl datganiadau cariadus, harddwch i doddi’r galon a chyffro slapstic – ac arogl coed pinwydd drwy’r cynhyrchiad cyfan.A, bydd, fe fydd yna fins peis!Cast: Eddie Ladd, Tianyi Lu, Beth Powlesland, Caroline Sabin, Bethan Semmens, Kylie Ann Smith a Lara Ward, ynghyd â gwaith ysgrifenedig newydd ac ymddangosiad cameo gan yr unigryw Jon Gower.Noder os gwelwch yn dda: Mae hwn yn berfformiad promenâd. Mae’r gofod yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn ond ni fydd yna seddau fel y cyfryw.

£12/£10/£8Er ei bod wedi’i bwriadu ar gyfer oedolion yn bennaf, bydd y sioe yn apelio at blant dros eu 10 oed.

ALT.CHARLOTTE

Sioe goffa Charlotte GreigSul 30 Tachwedd 7.30pm Bydd cast amrywiol o gerddorion ac awduron yn talu teyrnged i waith y gantores werin, y gyfansoddwraig, y dramodydd a’r nofelydd a fu farw yn ystod yr haf.Rhoddir holl elw’r noson i Ysbyty Canser Felindre£10

BALLET NIMBA

NtokeeGwe 5 + Sad 6 Rhagfyr 7.30pmMae Ntokee, sy’n golygu ‘y ffordd yr ydych yn fy ngweld’, yn gynhyrchiad newydd gan Ballet Nimba, Cwmni Theatr Ddawns Affricanaidd gwobrwyol Cymru. Ymunwch â ni i weld y dangosiad cyntaf hwn o waith cydweithredol gan y Cyfarwyddwr Artistig, Idrissa Camara, a’r Artist Technegol, John Collingswood. Mae’r darn yn dal i esblygu ac mae Idrissa yn gofyn i ni ystyried yr hyn a olygwn pan fyddwn yn sôn am Ddawnsio Traddodiadol Affricanaidd. Yn cynnwys cerddoriaeth fyw.£12/£10

Page 12: Chapter Rhagfyr 2014

Theatr12 029 2030 4400

PREMIèRE PRYDEINIGCWMNI RICHARD BURTON COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU YN CYFLWYNO

Unity (1918) gan Kevin KerrGwe 5 — Sad 13 Rhagfyr 7pm (Matinée ar Maw 9 Rhagfyr 2.30pm) (Dim perfformiadau ar Sul 7 neu Llun 8 Rhagfyr)Yng nghysgod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae trigolion despret tref yng Nghanada yn brwydro i oroesi epidemig ffliw 1918. Rhan o gyfres o ddigwyddiadau coffa i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.Cyfarwyddwyd gan Stefan Escreet£12/£10/£6 i’r rheiny dan 25 oedTocynnau ar gael o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Cysylltwch â Swyddfa Docynnau’r coleg, 029 2039 1391, neu ewch i www.rwcmd.ac.uk.14+ oed

Cyngerdd Nadolig City SirensMer 10 Rhagfyr 7.30pmDetholiad o ganeuon a charolau clasurol a phoblogaidd a chyngerdd a fydd yn llawn o ysbryd y Nadolig! Mae City Sirens yn grŵp o ferched sy’n canu A Capella, dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd, Tom Colwell.Mae pris tocyn yn cynnwys gwydraid o win a mins pei. £8 http://citysirenscardiff.com @cardiffsirens

MERCURY THEATRE WALES YN CYFLWYNO

ANAMNESIS 25.12 Maw 16 — Sad 20 Rhagfyr 7.30pm(Matinée Mer 17 + Sad 20 Rhagfyr 2pm)an•am•ne•sis noun1. Seicoleg: Dwyn i gof; atgof; cofio.2. Meddygaeth: Hanes cyflawn claf wedi’i gofio a’i adrodd gan y claf ei hun.

Beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi? Traddodiad, tinsel a thwrci? Cracers a phwdin Nadolig? Neu a oes yna ochr arall i gyfnod y Nadolig sy’n rhwystro’r tymor rhag bod yn un hwyliog? Mae Anamnesis 25.12 yn brofiad theatr newydd sbon sy’n cymryd golwg amgen ar adeg y Nadolig. Wedi’i ysbrydoli gan straeon o fywyd go iawn, mae’r cynhyrchiad promenâd hwn yn eich cludo drwy wahanol ddyddiau Nadoligaidd a phrofiadau sydd yn cynnwys cyffro, llawenydd, unigrwydd, hiraeth a llu o emosiynau dwys eraill ... gydag ambell garol hefyd, wrth gwrs! Dyma wir ystyr y Nadolig. Dewch ar daith gyda ni, wyddoch chi ddim pwy ddewch chi ar ei draws ... ho, ho, ho!Cyfarwyddo gan Bethan Morgan+ Sioe fer yng Nghyntedd y Theatr am 7pm, cyn pob perfformiad.£12/£10/£8 14+ oed

Unit

y (1

918)

Page 13: Chapter Rhagfyr 2014

Theatr 13chapter.org

MILES PRODUCTIONS YN CYFLWYNO

BurtonThu 11 Rhagfyr 7.30pm Wedi ail daith lwyddiannus i ŵyl Fringe Caeredin eleni, mae Burton yn cyflwyno bywyd yr actor mawr o Gymru yn ei eiriau ei hun — o’i blentyndod di-nod i enwogrwydd byd-eang yn Hollywood. Merched prydferth, alcohol, cyfoeth, y llwyfan a’r sgrin; y rhain yw themâu y sioe un dyn hon sydd yn lleddf, yn llon, ac yn ddoniol ac afieithus. Rhodri Miles (Eastern Promises, Torchwood, Holby City) sy’n chwarae rhan y Burton iau ac fe enillodd glod y beirniaid yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2009 ac hefyd yng ngŵyl Fringe Hollywood 2010, lle’r enillodd y ddrama wobr y Sioe Ryngwladol Orau. Ysgrifennwyd gan Gwynne EdwardsCyfarwyddwyd gan Hugh ThomasPerfformiwyd gan Rhodri Miles£12/£10/£8Argymhelliad oedran 12+

‘Perfformiad meistrolgar’ British Theatre Guide

MILES PRODUCTIONS AR Y CYD â THEATR Y GRAND, ABERTAWE, YN CYFLWYNO

Dylan Thomas: Clown in the MoonMer 10 + Gwe 12 Rhagfyr 7.30pmYn ddathliad o ganmlwyddiant geni Thomas, mae Clown in the Moon (teitl cerdd a ysgrifennwyd gan Dylan pan oedd yn 14 oed) yn bortread dramatig o fywyd a oedd yn ddi-drefn ac afreolus – ac yn rhy fyr o lawer. Wedi’i leoli mewn stiwdio yn y BBC, mae’n gosod rhai o ddarllediadau enwog ac eiconig Dylan o’i weithiau ochr yn ochr ag atgofion byw am ei ymddygiad clownaidd mewn tafarndai, bariau a phartïon, ynghyd â’i gyfarfyddiadau â llu o fenywod ecsentrig a thanllyd. Ysgrifennwyd gan y dramodydd gwobrwyol, Gwynne Edwards (Burton, Dylan Thomas in America)Cyfarwyddwyd gan Gareth Armstrong (Shylock, My Darling Clemmie, Sherlock Holmes — The Last Act) Goleuo: Maximilian SpielbichlerPerfformiwyd gan Rhodri Miles£12/£10/£8Argymhelliad oedran 12+

‘Eithriadol, un o’r portreadau mwyaf nodedig ar lwyfan o’r bardd o Abertawe’ Wales Arts Review

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Bur

ton,

Dyl

an T

hom

as: C

low

n in

the

Moo

n

GALLwCH BRYNU TOCYNNAU AR GYFER DYLAN A BURTON GYDA’I GILYDD AM BRIS ARBENNIG — £20/£18/£14

Page 14: Chapter Rhagfyr 2014

Theatr14 029 2030 4400

GO FASTER STRIPE YN CYFLWYNO

Andy Zaltzman + Helen KeenLlun 8 Rhagfyr 7pmMae Go Faster Stripe yn falch o gyflwyno dwy sioe gomedi anhygoel newydd a fydd yn cael eu recordio ar gyfer cynhyrchiad DVD ar yr un noson. Bydd y noson fel fersiwn fechan o ŵyl Caeredin ar nos Lun yn Nhreganna – a’r cyfan am ddim ond £10.£10

Andy ZaltzmanBydd Andy Zaltzman, hanner o ddeuawd nodedig y podlediad byd-enwog The Bugle, gyda John Oliver, yn mynd i’r afael â materion sy’n cynnwys Y Byd a phob peth cysylltiedig yn ei recordiad DVD cyntaf.Yn ddychanwr a chelwyddgi nodedig, mae Zaltzman — seren 7 Day Sunday ar 5 Live, a’r chwaer-raglen, 7 Day Saturday, a chyfrannwr i raglenni amrywiol ar Radio 4 ac ambell raglen deledu hefyd — wedi perfformio ‘stand-up’ ym mhob un o brif hemisfferau’r blaned a phedwar o’i chyfandiroedd gorau hefyd.

‘Ef, yn ôl pob tebyg, yw digrifwr dychanol gorau y dau ddegawd diwethaf. Mae e’n ddeallus, yn frathog ac yn wirion’ Time Out London

Helen Keen’sIt Is Rocket Science!Mae ‘Helen Keen’s It Is Rocket Science!’ yn sioe gyllideb isel hynod wreiddiol sy’n archwilio gorffennol a dyfodol teithio i’r gofod. Yn ffeithiol gywir ac yn ddoniol iawn, mae’r sioe’n cynnwys holl anferthedd y bydysawd ond yn hepgor y darnau diflas! Mae’r sioe yn cynnwys Natsïaid o’r Gofod! Addolwyr Satan! A Pheirianwyr Awyrennol! Bydd ‘It Is Rocket Science!’ yn eich harwain ar daith frys drwy hanes y Meddylwyr Mawr a anfonodd fwncïod, boneddigesau, cŵn a boneddigion i’r gofod. Hyd yn hyn, llwyddodd y sioe fyw i lansio tair cyfres nodedig a gwobrwyol ar BBC Radio 4.

‘Hynod, rhyfedd a gwreiddiol ... Cadwch lygad ar yrfa Helen Keen’ The Sunday Times

Mike Bubbins The King and ISad 13 Rhagfyr 8pmErs ei blentyndod, mae Mike wedi sylwi ar y tebygrwydd rhwng ei fywyd ef a bywyd Elvis Presley, ac ar adegau tyngedfennol, mae e wedi gallo pwyso ar fraich y gŵr yn y ‘jumpsuits’ enwog. Nid yn llythrennol, wyddoch chi, dyw e ddim yn wallgo’, ond yn drosiadol, trwy gyfrwng caneuon y Brenin, a recordiwyd — mae Mike yn argyhoeddedig o hynny — er ei fwyn ef yn benodol, i’w helpu a’u gynnal.Er mwyn diolch i’w arweinydd ysbrydol, mae Mike wedi cymryd rhan ym mhob cystadleuaeth Dynwared Elvis yn y wlad, ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol (wir i chi) y gystadleuaeth i ddod o hyd i Elvis Gorau Ewrop.Heno, bydd Mike, sy’n perfformio ledled Prydain, yn dychwelyd adre’. Gall y gynulleidfa ddisgwyl llond bol o chwerthin, tair cân o leiaf, ac ychydig o newid gwisgoedd. Ac fe allai’r gwisgoedd hynny gynnwys ‘jumpsuit’...£10/£9/£8 16+ oed

‘Doniol a dawnus’ Rhod Gilbert

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: A

ndy

Zalt

zman

, Hel

en K

een,

Mik

e Bu

bbin

s

Page 15: Chapter Rhagfyr 2014

Chapter Mix 15chapter.org

Dydd Iau Cyntaf y MisBarddoniaeth a Ffuglen NewyddIau 4 Rhagfyr 7.30pmMae’r darllenwyr gwadd yn cynnwys Rhian Edwards a Katherine Stansfield. Dilynir y rhain gan slotiau meic agored.Noddir gan Seren Books a Llenyddiaeth Cymru.£2.50 (wrth y drws)Bydd Seren Books yn trefnu siop dros-dro yn Chapter ar ddiwrnodau dethol yn ystod mis Rhagfyr. Bydd yna ddetholiad o deitlau gan Seren, Parthian, Mulfran a Firefly a gwasanaeth lapio anrhegion am ddim! Gweler www.chapter.org am fwy o wybodaeth.

Clwb Comedi The DronesGwe 5 + Gwe 19 Rhagfyr Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n cychwyn: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue£3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 7 Rhagfyr 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Clonc yn y CwtchBob dydd Llun 6.30 — 8pm (Toriad ar gyfer y Nadolig ar ôl Llun 15 Rhag)Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM. Ar y cyd â Menter Caerdydd

WELSH FARGO STAGE COMPANY YN CYFLWYNOOn The EdgeMaw 9 Rhagfyr 8pmThe Undead Poets Societygan John HusseyPerfformiadau sgript-mewn-llaw o weithiau gan awduron Cymreig ac awduron sy’n byw yng Nghymru. Mae grŵp o feirdd ar drywydd llofrudd — ond ai un o’u plith sy’n gyfrifol am y weithred ysgeler? Gyda Nicholas McGaughey fel Dylan Thomas, Richard Mark Milne yn chwarae rhan John Betjeman, Dafydd Wyn Roberts yn rôl Phillip Larkin, Peter Knight fel Ted Hughes a Natalie Paisley fel Sylvia Plath.Cyfarwyddwyd gan July Barclay.£4

Cyngerdd gan Il Terzo SuonoSul 14 Rhagfyr 7.30pmBydd Jasna Nadles a Milan Vrsajkov yn arwain y grŵp Baróc rhyngwladol-nodedig mewn cyngerdd Nadoligaidd agos-atoch sy’n cynnwys gweithiau gan Bach, Handel a Tartini. £10

Clwb Llyfrau Dynion Hoyw CaerdyddLlun 15 Rhagfyr 7.30pmDigwyddiad arbennig i drafod ‘A Place Called Winter’, nofel gan Patrick Gale. Bydd yr awdur, Patrick, yn ymuno â ni. £5 (wrth y drws)

Page 16: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema16 029 2030 4400

Viol

ette

SINEMa

Page 17: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema 17chapter.org

HockneyIau 4 RhagfyrDG/2014/195mun/15. Cyf: Randall Wright.

Astudiaeth ddiffiniol o un o artistiaid pwysicaf ei genhedlaeth. Am y tro cyntaf, mae David Hockney wedi caniatáu defnydd o’i archif personol hynod o ffotograffau a ffilmiau ac fe ddaw’r cyfan at ei gilydd i greu dyddiadur gweledol gonest a digyffelyb o’i fywyd.+ Dilynnir y ffilm gan sesiwn holi-ac-ateb gyda David Hockney, drwy gysylltiad lloeren, o stiwdio’r artist yn LA.

NT Live: JohnMaw 9 Rhagfyr + Encore Sul 28 RhagfyrDG/2014/120mun/18.

Mae’r cwmni theatr gorfforol rhyngwladol-nodedig, DV8, yn dod â’u cynhyrchiad newydd grymus i’r Theatr Genedlaethol. Aeth cyfarwyddwr artistig DV8 ati i gyf-weld â mwy na 50 o ddynion a gofyn iddynt yn blwmp ac yn blaen am gariad a rhyw. Un o’r dynion hynny oedd John. Mewn darn heriol, caiff straeon go iawn eu darlunio â chyfuniad o symudiadau a llefaru a daw’r cyfan at ei gilydd i greu profiad theatrig dwys ac ingol.

Moviemaker Chapter Llun 1 RhagfyrSesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

VioletteMaw 2 — Gwe 5 Rhagfyr2014/Ffrainc/139mun/15. Cyf: Martin Provost. Gyda: Emmanuelle Devos, Sandrine Kiberlain, Olivier Gourmet.

Ganwyd y nofelydd Violette Leduc ar ddechrau’r 20fed ganrif, y tu allan i briodas, ac fe ddaeth i adnabod Simone de Beauvoir yn St-Germain-des-Prés yn ystod y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Wedi’i chreithio gan drawma plentyndod a phriodas ddigariad, daw Violette o hyd i fentor cymhleth ac mae Simone hefyd yn fodd o’i chyflwyno i fyd o gewri llenyddol. Mae’r ffilm hon yn stori wir agos-atoch ac yn adrodd â chryn bŵer hanes y berthynas rhwng dwy wraig hynod mewn cyfnod anghyffredin.

Hock

ney

Page 18: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema18 029 2030 4400

Human CapitalMaw 2 — Gwe 5 Rhagfyr2014/Yr Eidal/108mun/15. Cyf: Paolo Virzì. Gyda: Fabrizio Bentivoglio, Matilde Gioli, Valeria Bruni Tedeschi.

Mae beiciwr yn cael ei fwrw oddi ar ei feic gan SUV gwyllt ar y noson cyn Noswyl y Nadolig. Wrth i fanylion am y digwyddiadau a arweiniodd at y ddamwain ddod i’r amlwg, caiff bywyd teulu cyfoethog y Bernaschi ei gydblethu â hanes y Rovellis mewn ffyrdd na allai’r un o’r ddau grŵp fod wedi’u rhag-weld. Mae Dino Rovelli, sydd mewn trafferthion ariannol dybryd, a’i ail wraig yn disgwyl genedigaeth efeilliaid. Yn y cyfamser, mae perthynas merch Dino, sydd yn ei harddegau, â mab y ‘playboy’ Giovanni Bernaschi (sydd yn rheolwr ‘hedge fund’ pwerus) yn cymhlethu pethau ymhellach. Ffilm am y treialon sy’n deillio o geisio statws ac arian ac am beryglon uchelgais.

FuryGwe 28 Tachwedd — Iau 4 Rhagfyr UDA/2014/134mun/15. Cyf: David Ayer. Gyda: Brad Pitt, Shia LaBeouf, Logan Lerman.

Ebrill, 1945. Wrth i’r Cynghreiriaid gynnal un ymgyrch olaf yn Ewrop, mae rhingyll caled o’r enw Wardaddy yn gyfrifol am danc Sherman a chriw o bump ar gyrch marwol y tu ôl i linellau’r gelyn. Â phopeth yn eu herbyn, ac â milwr hollol ddibrofiad yn rhan o’u criw, maent yn wynebu pob her posib wrth iddyn nhw geisio treiddio i galon yr Almaen Natsïaidd.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar ddydd Llun 1 Rhagfyr 8.20pm, Maw 2 Rhagfyr 8.20pm, Mer 3 Rhagfyr 2.30pm + 5.40pm a Mer 4 Rhagfyr 8.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiadau hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Winter SleepGwe 28 Tachwedd — Iau 4 RhagfyrTwrci/2014/196mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Nuri Bilge Ceylan. Gyda: Haluk Bilginer, Melisa Sözen, Demet Akbag.

Mae Aydin yn gyn-actor ac yn rheoli gwesty bach ar y paith Anatolaidd godidog. Mae ganddo berthynas stormus â’i wraig ifanc, Nihal, ac mae ei chwaer, Necla, yn dioddef ar ôl ei hysgariad diweddar. Wrth i’r eira ddechrau disgyn, mae’r gwesty’n troi’n hafan ond hefyd yn garchar sy’n bwydo drwgdeimlad. Mae hon yn stori hardd a beiddgar gan un o wneuthurwyr ffilm mwyaf medrus y byd. Enillydd y Palme d’Or yn Cannes

The Hundred-Foot JourneyGwe 28 Tachwedd — Mer 3 RhagfyrIndia/2014/122mun/PG. Cyf: Lasse Hallström. Gyda: Helen Mirren, Om Puri, Manish Dayal.

Mae perchennog bwyty gweddw o’r enw Papa Kadam yn ffoi gyda’i deulu rhag trais ym Mumbai ac yn setlo mewn pentref prydferth yn Ffrainc, lle mae e’n agor busnes gyferbyn â’r bwyty mwyaf crand yn yr ardal. Mae perchennog y bwyty, Madame Mallory, yn wrthwynebus ac mae pethau’n cael eu cymhlethu ymhellach ar ôl i fab Kadam, Hassan, gwympo mewn cariad â sous chef hyfryd Madame, Marguerite. Wrth i Madame a Papa geisio tir cyffredin cymod, mae Hassan a Marguerite yn pendilio rhwng pleserau serch a methiannau proffesiynol. Yn llawn perfformiadau cain, mae’r ffilm hon yn bleser sawrus, synhwyraidd.

O’r b

rig: W

inte

r Sle

ep, H

uman

Cap

ital

Page 19: Chapter Rhagfyr 2014

19chapter.org Sinema

The Imitation GameGwe 5 — Iau 11 RhagfyrDG/2014/113mun/12A. Cyf: Morten Tyldum. Gyda: Benedict Cumberbatch, Keira Knightley, Matthew Goode.

Stori wir gyfareddol a thrasig Alan Turing, y cêl-ddadansoddwr a graciodd gyfrinachau côd enigma y Natsïaid ond a gafodd ei erlid a’i gollfarnu am ddatgelu ei gyfrinachau ei hun. Cafodd ei arestio am wrywgydiaeth ym 1951 ac mae’r ffilm yn archwilio bywyd dyn nad oedd yn fodlon derbyn confensiynau cymdeithasol na gorchmynion ac a ddaeth o hyd i achubiaeth ym myd cyfrin rhifau.

I Am AliLlun 8 — Iau 11 RhagfyrDG/2014/111mun/PG. Cyf: Clare Lewins.

Ffilm ddogfen gain sy’n archwilio bywyd personol y bocsiwr chwedlonol, Muhammed Ali. Gyda chymorth recordiadau sain preifat, mae’r ffilm yn dilyn hynt a helynt y paffiwr ac yn fyfyrdod ar ei statws eiconig. Caiff y tawelwch a ddaeth yn sgil distawrwydd Ali ei hun ei lenwi gan ei deulu a chan ddelweddau gwych o’i ornestau enwocaf — y ‘Rumble in the Jungle’ a’r ‘Thriller in Manila’.

My Old LadyGwe 5 — Iau 11 RhagfyrDG/2014/107mun/12A. Cyf: Israel Horovitz. Gyda: Maggie Smith, Kevin Kline, Kristin Scott Thomas.

Mae Mathias Gold yn etifeddu fflat ym Mharis gan ei dad ond ar ôl iddo gyrraedd y fan i’w werthu, mae e’n cael bod tenant yn byw yno – a’i bod yn llawn fwriadu aros. Mae’r fflat yn ‘viager’ — rhan hynafol o’r system eiddo Ffrengig ag iddi reolau cymhleth — ac mae telerau’r cytundeb yn golygu y gall y tenant tanllyd, Mathilde, a fu’n byw yno ers blynyddoedd, ofyn am daliadau misol gan Mathias tan ei marwolaeth. Mae Mathias yn gorfod aros, felly, ond o dipyn i beth caiff cyfrinachau eu datgelu sy’n uno’r ddau mewn ffyrdd annisgwyl.

The HomesmanGwe 12 — Iau 18 RhagfyrUDA/2014/120mun/15. Cyf: Tommy Lee Jones. Gyda: Tommy Lee Jones, Hilary Swank, Grace Gummer, Meryl Streep.

Yn nhiriogaethau garw Nebraska, mae tair o fenywod wedi mynd yn wallgof o ganlyniad i ffordd lem yr arloeswyr Americanaidd o fyw. Mae Mary Bee Cuddy yn fenyw dduwiol ac annibynnol ac yn penderfynu eu harwain i hafan yn y Dwyrain. Gyda chymorth crwydryn meddwol o’r enw George Briggs, rhaid iddynt yn y lle cyntaf groesi parthau amrwd, prydferth a bygythiol. Mae hon yn ffilm Western annodweddiadol. Ei phrif thema yw gorfod ymdopi â methiant — methiant i ddofi’r Gorllewin Gwyllt yn hytrach na’i goncro.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: T

he Im

itat

ion

Gam

e, M

y Ol

d La

dy, T

he H

omes

man

Page 20: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema20 029 2030 4400

Dan y WenalltIau 11 RhagfyrCymru/2014/86mun+Sesiwn holi-ac-ateb40mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Kevin Allen. Gyda: Rhys Ifans, Charlotte Church, Lisa Palfrey.

Addasiad newydd o ddrama enwog Dylan Thomas i leisiau. Fe’i cyflwynir yn y fan hon yng nghyfieithiad godidog T James Jones. Caiff bywydau mewnol trigolion Llareggub eu datgelu wrth iddynt hel atgofion am gyn-gariadon ac ail-fyw buddugoliaethau’r gorffennol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cast a’r criw yn y digwyddiad iaith-Gymraeg arbennig hwn.

Set Fire to the StarsSad 6 — Iau 11 RhagfyrDG/2014/97mun/15. Cyf: Andy Goddard. Gyda: Elijah Wood, Celyn Jones, Kelly Reilly.

Mae academydd galluog ond ansicr o’r enw John Malcolm Brinnin yn mentro ei enw da ac yn gwahodd y bardd mawreddog Dylan Thomas i Efrog Newydd — ond mae hwyliau cyfnewidiol y Cymro’n golygu ei fod yn westai digon lletchwith. Â sgript wedi’i saernïo’n hardd a sgôr hyfryd gan Gruff Rhys, mae’r ffilm hon yn cynnwys perfformiadau grymus hefyd.

A Wonderful Christmas TimeGwe 12 — Mer 17 RhagfyrCymru/2014/120mun/15arf. Cyf: Jamie Allen. Gyda: Laura Haddock, Mandeep Dhillon, Holli Dempsey.

Bythefnos cyn y Nadolig, caiff Noel ei adael adre’ ar ei ben ei hun gan ei rieni a’i adael hefyd gan ei gariad hir-dymor. Ond mae cyfarfod ar hap â Cherie, actores wedi anobeithio, ynghyd â’u hoffter cyfun o gerddoriaeth, ffilmiau’r wythdegau a phob peth Nadoligaidd yn awgrymu y gallai hi fod yn Flwyddyn Newydd Dda wedi’r cyfan. A fydd meddwdod tymhorol a cham-gyfathrebu yn difetha’r hwyl neu a fyddan nhw’n cael ‘Wonderful Christmas Time’?+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cast a’r criw ar ddydd Gwener 12 Rhagfyr, 6pm.

Dan

Y W

enal

lt, L

lun:

Ric

hard

Bre

wis

O Gymru Mae Rhagfyr yn fis sy’n llawn dop o dalentau lleol. Byddwn yn cyflwyno perfformiadau cyntaf o’r addasiad Cymraeg newydd o ddrama enwog Dylan Thomas, ‘Dan y wenallt’, a ffilm nodwedd Nadoligaidd newydd Jamie Adams.

Page 21: Chapter Rhagfyr 2014

21chapter.org Sinema

The Way He Looks Sad 14 — Iau 18 RhagfyrBrasil/2014/96mun/12A. Cyf: Daniel Ribiero. Gyda: Ghilherme Lobo, Fabio Audi, Tess Amorim.

Mae Leonardo yn ŵr ifanc dall sy’n dyheu am ei annibyniaeth. Mae ei fywyd bob dydd, ei berthynas â’i ffrind gorau, Giovana, a’r modd y mae’n gweld y byd yn newid yn gyfan-gwbl â dyfodiad bachgen newydd o’r enw Gabriel. Ffilm swynol sy’n seiliedig ar y ffilm fer a enillodd Wobr Iris i Ribiero. +All God’s CreaturesAwstralia/2014/20 mun/12A. Cyf: Brendon McDonall. Gyda: Di Adams, Nicholas Bakopoulos-Cooke, Ed Oxenbould.

Mae’r brodyr Aser a Charlie newydd golli eu tad ac mae eu perthynas — sydd eisoes yn fregus — yn cael ei phrofi i’r eithaf ar ôl i un ohonynt gyflawni gweithred o greulondeb difeddwl yn erbyn llysywen.Enillydd Gwobr Iris 2014

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Sul 14 Rhagfyr 7pm am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.

Biophilia LiveGwe 12 — Llun 15 RhagfyrDG/2014/97mun/U. Cyf: Peter Strickland, Nick Fenton.

Wedi’i recordio’n fyw ym Mhalas Alexandra, mae hon yn ffilm gyngerdd o brosiect aml-gyfrwng amlddisgyblaethol Björk, Biophilia. Yn cynnwys amrywiaeth eang o offerynnau — rhai’n ddigidol, rhai’n draddodiadol ac eraill eto’n hollol annosbarthadwy. Cyfle i weld un o artistiaid mwyaf dychmygus a bywiog y byd cerddoriaeth wrth ei gwaith.

Get On UpGwe 12 — Iau 18 RhagfyrUDA/2014/138mun/12A. Cyf: Tate Taylor. Gyda: Chadwick Boseman, Nelsan Ellis, Dan Aykroyd.

Yn seiliedig ar fywyd anhygoel y ‘Godfather of Soul’, cawn gip ar gerddoriaeth, symudiadau a chyffroadau James Brown, a’r datblygiad o’i blentyndod tlawd at fod yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. ‘Biopic’ prin sy’n ymhyfrydu yn agweddau swreal ac allblyg cymeriad Brown – ac yn ei ego hefyd.

O’r b

rig: T

he W

ay H

e Lo

oks,

Bio

phili

a

SINEffONIg

Page 22: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema22 029 2030 4400

Le Jour Se LéveMer 17 + Iau 18 RhagfyrFfrainc/1939/93mun/PG. Cyf: Marcel Carné. Gyda: Jean Gabin, Jacqueline Laurent, Arletty.

Yn y clasur hwn o realaeth farddonol Ffrengig, dilynwn hynt François — gŵr unig sy’n cuddio yn ei fflat ac yn aros i’r heddlu gyrraedd. Mae Francois wedi cyflawni ‘crime passionnel’ ac wedi lladd y lothario annifyr, Valentin. Wrth iddo wrando yn nhywyllwch ei fflat ar seirenau’r heddlu, mae e’n cofio’r ddwy wraig a garodd a’r Valentin maleisus a ddygodd oddi arno eu serch a’i wthio i’w gyflwr melancolig, anobeithiol.

St VincentGwe 19 — Maw 30 RhagfyrUDA/2014/103mun/TiCh. Cyf: Theodore Melfi. Gyda: Melissa McCarthy, Naomi Watts, Bill Murray.

Mae Maggie’n symud i gartref newydd gyda’i mab 12 oed, Oliver. A hithau’n gorfod gweithio bob awr dan haul, mae hi’n gadael Oliver yng ngofal eu cymydog, Vincent, hen ŵr misanthropig sy’n hoff o gamblo a meddwi. Mae cyfeillgarwch rhyfedd yn blodeuo rhwng y ddau yn y ffilm gomedi annisgwyl hon.

InterstellarGwe 19 — Maw 30 Rhagfyr UDA/2014/169mun/12A. Cyf: Christopher Nolan. Gyda: Matthew McConaughey, Anne Hathaway, Jessica Chastain.

Â’r Ddaear yn wynebu dinistr amgylcheddol, mae grŵp o fforwyr dewr yn defnyddio twll mwydyn newydd ei ddarganfod i ddatblygu gallu’r bod dynol i deithio yn y gofod fel y gallan nhw ddod o hyd i gartref newydd i’r ddynoliaeth. Â chast anhygoel a delweddau trawiadol, mae hon yn daith uchelgeisiol drwy’r dyfodol.Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1.Is-deitlau meddal ar ddydd Llun 22 Rhagfyr 5.40pm, Maw 23 Rhagfyr 10.30am, Sul 28 Rhagfyr 7.20pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiadau hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Ydy’r anturiaethau dyfodolaidd hyn yn apelio? Mae’n siŵr y gwnewch chi fwynhau hefyd, felly, ein tymor o ffilmiau Gwyddonias (t24-26)

The GrandmasterGwe 19 — Maw 23 RhagfyrHong Kong/2014/130mun/15. Cyf: Kar Wai Wong. Gyda: Tony Chiu Wai Leung, Zyli Zhang, Jin Zhang.

Ffilm antur epig wedi’i hysbrydoli gan fywyd mentor Bruce Lee, Ip Man. Mae Ip yn disodli Gong Yutian ac mae hynny’n sbarduno ymgiprys erotig â merch Gong. Wedi’i gosod yng nghyd-destun cythrwfl gwleidyddol a chreulondeb meddiannaeth Japan, mae arddull weledol foethus Kar Wai yn cydchwarae’n hyfryd â gwaith camera godidog.

Inte

rste

llar

Page 23: Chapter Rhagfyr 2014

23chapter.org Sinema

Men, Women and ChildrenSad 27 — Maw 30 Rhagfyr UDA/2014/116mun/15. Cyf: Jason Reitman. Gyda: Kaitlyn Dever, Rosemarie DeWitt, Ansel Elgort.

Dilynwn grŵp o bobl ifainc yn eu harddegau a’u rhieni wrth iddynt geisio disgrifio’r amrywiol ffyrdd y mae’r rhyngrwyd wedi newid eu perthnasau, eu ffyrdd o gyfathrebu, eu hunan-ddelwedd a’u bywydau carwriaethol. Wrth i gymeriadau a pherthnasau gael eu profi, gwelwn yr amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i bobl ac fe ddaw’n amlwg nad yw unrhyw un y tu hwnt i’r newidiadau cymdeithasol sylweddol a ddaeth yn sgil ein dyfeisiau symudol, ein tabledi a’n cyfrifiaduron. Mae grŵp o actorion dawnus yn sicrhau bod i’r weledigaeth hon o gydfodolaeth fodern ddilysrwydd digamsyniol.

Is-deitlau meddal ar Sad 27 Rhagfyr 8.15pm a Maw 30 Rhagfyr 10.30am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiadau hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

PrideGwe 19 — Mer 24 Rhagfyr DG/2014/120mun/15. Cyf: Matthew Warchus. Gyda: Imelda Staunton, Bill Nighy, Dominic West, Paddy Considine.

Haf 1984. Mae Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ac mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar streic. Yn y Gay Pride yn Llundain, mae ymgyrchwyr lesbiaidd a hoyw yn penderfynu codi arian i gefnogi teuluoedd y glowyr. Ond mae yna broblem — dyw’r NUM ddim fel petai’n fodlon derbyn eu cefnogaeth. Mae’r ymgyrchwyr yn penderfynu anwybyddu’r Undeb a mynd at y glowyr yn uniongyrchol, felly. Maent yn clustnodi pentref glofaol yng nghrombil Cymru ac yn cychwyn allan mewn bws mini. A dyna ddechrau stori wir ryfeddol ac angerddol am ddwy gymuned ymddangosiadol wahanol sy’n ffurfio partneriaeth orfoleddus.Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. (Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The DropSad 27 — Maw 30 Rhagfyr UDA/2014/106mun/15. Cyf: Michael R. Roskam. Gyda: Tom Hardy, Naomi Repace, James Gandolfini.

Mae Bob Saginowski yn gweithio mewn bar yn Brooklyn ac yn gwybod sut i gau ei geg pan fydd perchnogion y bar — drwgweithredwyr o Chechenya — yn gwynnu eu harian drwy gyfrwng ‘drop’. Ond ar ôl lladrad, caiff Bob ei hun yng nghanol ymchwiliad sy’n mynd at galon bywyd y gymdogaeth ac sydd yn gorfodi pawb i wneud ambell benderfyniad anodd. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar Sul 28 Rhagfyr 5.45pm a Maw 30 Rhagfyr 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiadau hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

O’r t

op: M

en, W

omen

and

Chi

ldre

n, T

he D

rop

Page 24: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema24 029 2030 4400

TYMOR GWYDDONIAS Y BFI: ContactGwelwn ffrwyth ambell ddychymyg anhygoel ar y sgrin fawr y mis hwn wrth i ni ganolbwyntio ar ryfeddod a hyfrydwch bydoedd estron — cyn i ni herio gofod ac amser a neidio ar ein pennau i’r Flwyddyn Newydd anhysbys.

Close Encounters of the Third KindMaw 2 RhagfyrUDA/1977/129mun/PG. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Richard Dreyfuss, Francois Truffaut, Teri Garr, Melinda Dillon.

Tra’n gyrru un noson, mae Roy Neary yn gweld UFO. Mae ei wraig yn amheus yn y lle cyntaf, yna mae hi’n dechrau poeni wrth i brofiad ei gŵr droi’n obsesiwn. Mae e’n cysylltu â phobl eraill sydd wedi gweld UFOs, gan gynnwys Jillian, mam sengl y diflannodd ei mab yn ystod ei chyswllt â’r UFO, a’r gwyddonydd Claude Lacombe. Cânt eu denu bob un, trwy dynfa ddirgel, at fynydd ym ‘mid-west’ America.

Robot and FrankMer 10 RhagfyrUDA/2012/85mun/12. Cyf: Jake Schreier. Gyda: Frank Langella, James Marsden, Liv Tyler, Susan Sarandon.

Wedi ei gosod yn y dyfodol agos, mae Frank yn lleidr wedi ymddeol ac mae ei blant mewn oed yn poeni na all fyw mwyach ar ei ben ei hun. Maent yn cael eu temtio i’w osod mewn cartref nyrsio tan i fab Frank ddewis opsiwn arall: yn groes i ddymuniadau’r hen ddyn, mae e’n prynu robot iddo, robot sy’n cerdded, yn siarad ac wedi’i raglennu i wella iechyd corfforol a meddyliol yr hen ddyn. Mae’r stori ddilynol yn ddoniol ac yn dorcalonnus ac yn awgrymu bod ffrindiau a theulu i’w canfod yn y mannau mwyaf annisgwyl.+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd rhwng Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Robo

t an

d Fr

ank

Page 25: Chapter Rhagfyr 2014

chapter.org Sinema 25O’

r chw

ith

i’r d

de: F

lash

Gor

don,

Bar

bare

lla

Ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr am ddiwrnod o hwyl gwyddonias a fydd yn cynnwys y ffilmiau clasurol hyn ar y cyd â gweithgareddau i blant gan SciBurp a Techniquest (t29).

A Trip to the Moon+ Sgôr fywSad 6 RhagfyrFfrainc/1902/13mun/U. Cyf: Georges Méliès. Gyda: Georges Méliès, Jules-Eugène Legris, Victor André.

Yn ôl â ni i gyfnod cynharaf y sinema yn y ffilm epig ffantasïol ddisglair ac arloesol hon gan y dewin, Méliès. I gyd-fynd â rhai o’r delweddau mwyaf cofiadwy yn hanes y sinema, comisiynodd Chapter sgôr arbennig gan Patricia Morgan, o’r band ôl-pync chwedlonol, Datblygu.

Flash GordonSad 6 + Maw 9 RhagfyrDG/1980/107mun/PG. Cyf: Mike Hodges. Gyda: Sam J. Jones, Melody Anderson, Max von Sydow, Brian Blessed, Topol.

Mae chwaraewr pêl-droed Americanaidd a’i ffrindiau yn teithio i’r blaned Mongo ac yn cael eu hunain mewn brwydr â’r enwog Ming the Merciless. Rhaid i Flash frwydro yn erbyn milwyr Ming a themtasiynau tywysoges o’r gofod er mwyn perswadio pobl Mongo i ddangos eu gwrthwynebiad i’r unben creulon. Â sgôr roc fythgofiadwy gan Queen ac arddull liwgar a manwl, mae’r ffilm hon yn glasur camp.

Pris tocyn ffilm cyfun (ar gyfer Sad 6 Rhagfyr) £10/£8

BarbarellaSul 14 + Maw 16 RhagfyrFfrainc/1968/96mun/15. Cyf: Roger Vadim. Gyda: Jane Fonda, John Phillip Law, David Hemmings, Milo O’Shea, Anita Pallenberg, Marcel Marceau.

Mae’r ofodwraig atyniadol Barbarella yn glanio ei llong ofod seicedelig, ar ôl damwain, yn Tau Seti. Wrth iddi chwilio am y dyfeisiwr coll Durand Durand, mae hi’n cyfarfod â’r Athro Ping, yr angel Pygar a’r chwyldroadwr di-glem, Dildano. Maent yn ceisio ei helpu hi i ddod o hyd i’r gwyddonydd ac i roi terfyn ar deyrnasiad y ‘Great Tyrant’. Mae’r ffilm hon yn glasur camp, dylanwadol, yn ddoniol a secsi ac yn wledd weledol.

Page 26: Chapter Rhagfyr 2014

Sinema26 029 2030 4400

Trioleg ‘Back to the Future’Sul 28 RhagfyrWrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, ac wrth i ni gyfarch 2015, dewch i ddathlu ein teithiau drwy amser yng nghwmni Marty McFly.

Back to the FutureUDA/1985/113mun/PG. Cyf: Robert Zemeckis. Gyda: Michael J. Fox, Crispin Glover, Christopher Lloyd.

Caiff Marty McFly ei anfon, yn ddamweiniol, i’r gorffennol mewn DeLorean sy’n gallu teithio drwy amser. Dyfeisiwyd y car rhyfeddol gan gyfaill Marty, Dr Emmett Brown. Rhaid i Marty sicrhau bod ei rieni, sydd yn ddisgyblion ysgol uwchradd ar y pryd, yn dod at ei gilydd — er mwyn achub ei fodolaeth ei hun.

Back to the Future IIUDA/1989/108mun/PG. Cyf: Robert Zemeckis. Gyda: Michael J. Fox, Lea Thompson, Christopher Lloyd.

Ar ôl cael ei hyrddio i’r dyfodol y tro hwn, ac i’r flwyddyn 2015, rhaid i Marty McFly ymwneud â Griff, un o ddisgynyddion Biff y bwli. Mae Marty’n cael syniad ardderchog ar gyfer ennill arian, ond mae Biff yn clywed y cynllun ac yn mynd ar ei union yn ôl i 1955. Mae’r dyfodol ar ei newydd wedd yn fyd hunllefus ac mae’n rhaid i Marty lywio’i ffordd drwy dair cenhedlaeth er mwyn achub y presennol.

Back to the Future IIIUDA/1990/118mun/PG. Cyf: Robert Zemeckis. Gyda: Michael J. Fox, Mary Steenburgen, Christopher Lloyd.

Mae Marty McFly yn derbyn llythyr gan Doc Brown sy’n dweud ei fod wedi cilio i gyfnod ganrif yn ôl i fyw bywyd tawel yn yr Hen Orllewin. Ond ar ôl i Marty wneud ychydig o waith ymchwil a darganfod bod y Doc wedi marw yn fuan ar ôl ysgrifennu’r llythyr — a hynny dan ddwylo Buford “Mad Dog” Tannen — mae e’n penderfynu dod o hyd i’r car, teithio yn ôl mewn amser, a rhybuddio’r Doc.Gallwch wylio’r tair ffilm am £12/£10. Bydd tocynnau i ffilmiau unigol yn costio’r pris arferol

Christmas on MarsSul 21 + Maw 23 RhagfyrUDA/2008/83mun/12Aarf. Cyf: Wayne Coyne. Gyda: Wayne Coyne, Steven Drozd, Steve Burns.

Mae’r Uwchgapten Syrtis yn colli’i bwyll ar ôl i’w generadur ocsigen a’i beiriant rheoli disgyrchiant dorri. Mae e’n ceisio gwella morâl yn y wladfa bellennig ar blaned Mawrth trwy drefnu pasiant Nadolig. Mae e’n rhith-ddychmygu dyfodiad baban cyntaf y wladfa — ‘alien’ tosturiol ag antenna, sy’n gwisgo siwt Siôn Corn ac yn achub y dydd a’r dathliadau Nadoligaidd. Wedi’i chyd-gyfarwyddo gan yr arbenigwyr ar alt-roc rhyfedd, The Flaming Lips, dros gyfnod o flynyddoedd lawer, mae hon yn ffilm DIY wirioneddol ‘dorky’ ac yn llafur cariad go iawn.

Gwyddonias ac AddysgMae gennym weithgareddau Gwyddonias i’r plantos y mis hwn — gweler ein tudalen addysg (t29). Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithdy bwyd y gofod — sy’n edrych ar y bwydydd arbennig a gynlluniwyd ar gyfer teithiau i’r gofod!

Back

to

the

Futu

re

Page 27: Chapter Rhagfyr 2014

chapter.org Sinema 27

It’s a Wonderful LifeMer 24 RhagfyrUDA/1946/130mun/U. Cyf: Frank Capra. Gyda: James Stewart, Donna Reed, Lionel Barrymore.

Mae George Bailey yn fachgen lleol sydd yn aros yn ei bentre’ genedigol — ond dyw bywyd ddim yn fêl i gyd a hynny i’r fath raddau fel ei fod, ar Noswyl Nadolig, yn ei gael ei hun ar ymyl y dibyn... Mae angel o’r enw Clarence yn dangos bydysawd cyfochrog iddo — byd lle nad yw’n bodoli, a’r gwagle yn y gymuned hebddo. Mae campwaith Frank Capra yn apêl am fyd mwy caredig ac addfwyn ac yn glasur Nadoligaidd go iawn.

Beth am fwynhau ffilm ardderchog ‘O Gymru’? Gallwch weld mwy o fanylion am A wonderful Christmas Time ar dudalen 20.

Dangosiad Dwbl Clwb Ffilmiau GwaelSul 7 Rhagfyr

Santa’s Summer HouseUDA / 2012/90 mun / PG. Cyf: David DeCoteau.

Mae’r clychau’n canu a’r cnau’n rhostio ac mae’r Clwb Ffilmiau Gwael wedi paratoi dogn ddwbl o dwrci. Mae hi’n amser am Ddangosiad Dwbl Mawreddog y Nadolig. Y ffilm gyntaf yw Santa’s Summer House. Ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai’n digwydd petai criw o actorion Z y 90au yn dod ar draws tŷ Mr a Mrs Corn? Wel, fe gewch chi’r ateb mewn ychydig mwy na awr a hanner o actio ofnadwy, plotio dryslyd a golygfa ‘croquet’ saith munud o hyd wedi’i byrfyfyrio’n llwyr.

MegaforceUDA / 1982 / 99mun / PG. Cyf: Hal Needham.

A phe na bai hynny’n ddigon, byddwn hefyd yn cyflwyno Megaforce, ffilm o’r 1980au sy’n gwireddu’r freuddwyd o weld Barry Bostwick yn arwain uned amddiffyn brys sy’n gweithredu yn enw rhyddid. Mae’n fersiwn gynnar o Team America heb y llinynnau, ac ag actio mwy prennaidd hyd yn oed nag actio’r pypedau yn y ffilm honno. Mins peis, cracers, gêmau Nadolig a siocledi da. Dewch â hwyl yr ŵyl gyda chi ... Fe fydd angen pob diferyn o ewyllys da.Nodyn: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilmiau hyn ac fe all y dewis o ffilmiau newid ar y funud olaf.

ffILMIau NadOLIgaIdd

It’s

a W

onde

rful

Life

Page 28: Chapter Rhagfyr 2014

Dewch i Ganu — Frozen Mer 24 RhagfyrUDA/2013/102mun/PG. Cyf: Jennifer Lee, Chris Buck. Gyda: Kristen Bell, Alan Tudyk, Idina Menzel.

Ar ôl i dywysoges faleisus swyno cartref Anna fel ei bod yn byw mewn gaeaf parhaol, mae’r ferch ifanc yn ymuno â mynyddwr, carw chwareus a dyn eira er mwyn ceisio newid y tywydd.

PaddingtonGwe 19 — Maw 30 RhagfyrDG/2014/90mun/TiCh.Cyf: Paul King. Gyda: Ben Whishaw, Sally Hawkins, Julie Walters.

Mae arth ifanc, sy’n hanu o Beriw ond sydd yn dwli ar bob peth Prydeinig, yn teithio i Lundain i chwilio am gartref. Ar ôl mynd ar goll a’i gael ei hun ar ei ben ei hun yng ngorsaf Paddington, caiff groeso gan deulu hyfryd y Browns.

Carry on ScreamingBob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Muppets from SpaceSad 6 + Sul 7 RhagfyrUDA/1999/87mun/U. Cyf: Tim Hill. Gyda: Dave Goelz, Steve Whitmore, Bill Barretta.

Daw trafferthion i ran Gonzo ar ôl i’w deulu — grŵp o ‘aliens’ dieithr — gysylltu ag ef drwy gyfrwng bocs o rawnfwyd. Caiff ei heriwgipio gan un o asiantaethau dirgel y llywodraeth ac mae’n rhaid i Kermit a’i ffrindiau fynd ati i’w achub a helpu ei deulu i ddod o hyd i’r Ddaear.

Alexander and the Terrible, Horrible, No Good, Very Bad DaySad 13 + Sul 14 Rhagfyr UDA/2014/81mun/PG. Cyf: Miguel Arteta. Gyda: Bella Thorne, Steve Carell, Jennifer Garner.

Mae Alexander Alexander, 11 oed, yn deffro â gwm cnoi yn ei wallt ac, o’r fan honno, dim ond gwaethygu wneith pethau. Bydd hi’n ddiwrnod i’w anghofio iddo fe ac i’w deulu. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar Sad 13 Rhagfyr 11am a Sul 14 Rhagfyr 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiadau hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Sinema28 029 2030 4400

Froz

en

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

FFilmiau i’r Teulu CyFan

Page 29: Chapter Rhagfyr 2014

chapter.org 29AddysgPa

rato

i bw

yd a

t ei

fwyt

a yn

y g

ofod

, gyd

a ch

ania

tâd

NASA

Cadw mewn CysylltiadMae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop, ap newydd cyffrous – ar gael i’w lawrlwytho am ddim – sy’n galluogi i ddefnyddwyr dderbyn negeseuon am y gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawrlwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp!

Moviemaker IauSad 6 Rhagfyr 10.30am — 12pmOs ydych chi rhwng 9 ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau brwdfrydig, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Byddwn yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Fe all y ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod dangosiadau’r MovieMaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC. Dylai rhieni fod yn ymwybodol o hyn. £1.50

SciBurp: A Taste of SpaceSad 6 Rhagfyr 10am — 8-10 oed 12pm — 11-14 oed Gweithdy rhyngweithiol am fwyd yn y gofod! Ar ôl cyflwyniad i hanes bwyd yn y gofod a’r datblygiadau ers cyfnod cynnar teithio i’r gofod, byddwn yn edrych ar y dechnoleg sy’n ymwneud â pharatoi bwyd ar gyfer teithio i’r gofod. Dilynnir hyn gan drafodaeth ar y pwnc a gweithgareddau grŵp ymarferol, gan gynnwys gweithdy peirianneg i ddylunio deunydd ar gyfer pacio hoff fwyd y bobl ifainc er mwyn ei wneud yn addas i’w fwyta mewn awyrgylch heb ddisgyrchiant. £5 i bob plentyn

Techniquest: StarlabPlanetariwm symudol, chwyddadwy a fydd yn dod â’r sêr i gyd i Chapter. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn — manylion ar gael yn y Swyddfa Docynnau.

Chapter SewcialSul 7 + Sul 14 Rhagfyr 3.30pm — 5pmBydd y cwrs gwnïo hwn i bobl ifainc yn defnyddio themâu diddorol, gweadau a deunyddiau o’n rhaglen ffilm, theatr a chelfyddydau gweledol fel man cychwyn ar gyfer dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.8 -12 oed£5 y sesiwn I DDOD YN FUANAcademi Ffilm Pobl Ifainc 2015Sad 24 Ionawr, Sad 31 Ionawr, Sad 7 Chwefror + Sad 14 Chwefror 10.30am–2.30pmYm mis Ionawr, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng 9 a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am y broses o wneud ffilmiau, yna cysylltwch â ni ar unwaith — nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bob wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am agweddau penodol ar y broses o wneud ffilmiau a bydd cyfle hefyd i wylio ffilm.Sad 24 Ionawr: ‘Sut Caiff Ffilmiau eu Gwneud’Sad 31 Ionawr: ‘Hanes y Sinema’Sad 7 Chwefror: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’Sad 14 Chwefror: ‘Sut i Olygu Ffilm’Erbyn diwedd y pedair wythnos, bydd cyfranogwyr wedi derbyn yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud eu ffilmiau eu hunain! Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd.£30 am bob un o’r 4 sesiwn (yn cynnwys tocynnau ffilm)

Er bod yr Academi wedi’i fwriadu fel pecyn cyflawn, gellir mynychu pob sesiwn hefyd fel sesiwn unigol felly nid oes angen i gyfranogwyr fod yn bresennol ar gyfer pob sesiwn. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd.£8 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld ffilm)

addySg

Page 30: Chapter Rhagfyr 2014

Archebu / Gwybodaeth30 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOwNT DYDD MAwRTH Tocynnau’r holl brif ddango-siadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Page 31: Chapter Rhagfyr 2014

31chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Landfill Community FundEsmée Fairbairn FoundationEU Culture ProgrammeThe Baring FoundationGarfield Weston FoundationFoyle Foundation Biffa AwardColwinston Charitable TrustAdmiral Group plcMoondance FoundationFoundation for Sport and the ArtsTrusthouse Charitable FoundationCommunity Foundation in WalesBBC Children in Need The Waterloo FoundationScottishPower Green Energy TrustThe Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer SoundsThe Clothworkers’ Foundation MomentumThe Henry Moore FoundationGoogleJane Hodge FoundationSimon Gibson Charitable TrustPeople’s Postcode TrustDunhill Medical TrustLegal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.VMillennium Stadium Charitable TrustThe Ernest Cook Trust Lloyds TSBMorgan SignsGarrick Charitable Trust

BarclaysArts & Business CymruPenderynThe Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International FoundationPuma Hotels Collection: Cardiff Angel HotelCardiff AirportWales Arts InternationalGibbs Charitable TrustCeredigion Community SchemeThe Steel Charitable TrustThe Boshier-Hinton Foundation1st OfficeOakdale TrustDipec PlasticsNelmes Design

The Coutts Charitable TrustBruce Wake CharityFunky Monkey FeetFinnis Scott FoundationUnity Trust BankHugh JamesContemporary Art Society for WalesThe Dot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power DistributionFollett TrustArts & Kids CymruCanton High School Girl’s ReunionCo-operative GroupRenault CardiffEmbassy of BelgiumQueensland Government

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter