13
TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Mae gan Gyngor Gwynedd weledigaeth i ddatblygu cyfundrefn addysg gynradd fydd yn: “Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a ’u galluogi i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.” Cytunodd Cyngor Gwynedd yn Ebrill 2009 i dderbyn strategaeth oedd yn nodi fod angen adolygu’r ddarpariaeth addysgol gynradd ar draws y sir. Roedd y strategaeth yn ganlyniad i gyfnod hir o ystyried a trafod gan gynghorwyr. Wrth drafod, derbyniwyd cyflwyniadau gan nifer o gyrff, gan gynnwys: Cytunwyd ar restr o feini prawf i’w hystyried wrth adolygu darpariaeth addysg mewn ardal, sydd yn cynnwys; - ESTYN - Llywodraeth Cymru - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - ‘National Association for Small Schools’ - Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr - Penaethiaid yn cynrychioli ysgolion bach, canolig a mawr Gwynedd - Swyddogion Cyngor Gwynedd - Maint dosbarthiadau - Y newid yn niferoedd disgyblion - Addasrwydd a chyflwr adeiladau ysgolion - Amgylchedd dysgu - Arweinyddiaeth ysgolion - Canran disgyblion sy’n derbyn addysg tu allan i’w dalgylch - Cost fesul disgybl - Llefydd gweigion Yn unol â’r Strategaeth, penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi 2012 fod angen blaenoriaethu trafodaeth ar ddarpariaeth addysg yn ardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel (Fron). Penderfynwyd hyn am nifer o resymau, yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i; Cyflwr adeilad Ysgol Groeslon Nifer llefydd gweigion yn yr ardal Anghyfartaledd yn nghost dyraniad y pen Cyfle i ddenu arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth addysg yn yr ardal. CEFNDIR STRATEGAETH ADDYSG GYNRADD O’R ANSAWDD GORAU I BLANT GWYNEDD ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Hydref 2012 CYNGOR GWYNEDD

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

  • Upload
    others

  • View
    7

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL ABRONYFOEL (FRON)

Mae gan Gyngor Gwynedd weledigaeth i ddatblygu cyfundrefn addysg gynradd fydd yn:“Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a ’u galluogi iddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.”

Cytunodd Cyngor Gwynedd yn Ebrill 2009 i dderbyn strategaeth oedd yn nodi fod angen adolygu’rddarpariaeth addysgol gynradd ar draws y sir.

Roedd y strategaeth yn ganlyniad i gyfnod hir o ystyrieda trafod gan gynghorwyr. Wrth drafod, derbyniwydcyflwyniadau gan nifer o gyrff, gan gynnwys:

Cytunwyd ar restr o feini prawf i’w hystyriedwrth adolygu darpariaeth addysg mewnardal, sydd yn cynnwys;

- ESTYN- Llywodraeth Cymru- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg- ‘National Association for Small Schools’- Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr- Penaethiaid yn cynrychioli ysgolion bach, canolig a

mawr Gwynedd- Swyddogion Cyngor Gwynedd

- Maint dosbarthiadau- Y newid yn niferoedd disgyblion- Addasrwydd a chyflwr adeiladau ysgolion- Amgylchedd dysgu- Arweinyddiaeth ysgolion- Canran disgyblion sy’n derbyn addysg tu

allan i’w dalgylch- Cost fesul disgybl- Llefydd gweigion

Yn unol â’r Strategaeth, penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi 2012 fod angen blaenoriaethu trafodaeth arddarpariaeth addysg yn ardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel (Fron). Penderfynwyd hyn am nifer o resymau, yncynnwys ond heb ei gyfyngu i;

Cyflwr adeilad Ysgol Groeslon Nifer llefydd gweigion yn yr ardal Anghyfartaledd yn nghost dyraniad y pen Cyfle i ddenu arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth addysg yn yr ardal.

CEFNDIR

STRATEGAETH ADDYSG GYNRADD O’R ANSAWDD GORAU I BLANT GWYNEDD

ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON)

Hydref 2012CYNGOR GWYNEDD

Page 2: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

Bydd y Cyngor yn cynnal asesiadau o effaith posib cynigion i ad-drefnu ysgolion ar iaith a chymunedau’rardal. Bydd ymgynghorydd annibynnol yn arwain y gwaith a bydd y canfyddiadau yn bwydo i fewn i gynigionterfynol yr Aelod Cabinet Addysg.

Sefydlwyd Panel Adolygu ar gyfer yr ardal yn Hydref 2012. Pwrpas y Panel yw casglu tystiolaeth leol (o fewndalgylchoedd y tair ysgol gynradd) a chyflwyno syniadau ac opsiynau gwahanol i’r Aelod Cabinet Addysg.

Wrth sefydlu’r Panel Adolygu trefnwyd i’r Cyng. Sian Gwenllian (Aelod Cabinet Addysg) a Dewi Jones(Pennaeth Addysg) ymweld â’r safleoedd i gyfarfod â phenaethiaid a chadeirydd llywodraethwyr ysgolion YGroeslon, Carmel a Bronyfoel. Roedd yr ymweliadau yn fuddiol ac yn adeiladol iawn.

Aelodaeth Y Panel Adolygu Derbyniodd y Panel nifer o bapurau fel sail i’r gwaithyn ystod y cyfarfod cyntaf ar 22-10-12

- Aelod Cabinet Addysg- Cynghorwyr Lleol- Pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a

rhiant lywodraethwr o’r dair ysgol- Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd- Swyddogion eraill fel bo’n addas

- Cylch gorchwyl a briff i’r Panel- Amserlen ar gyfer gwaith y Panel- Pecyn ystadegol yr ardal

Derbyniwyd pecyn ystadegol yn crynhoi’r sefyllfa yn yr ardal yn nodi gwybodaeth fel:- Lleoliad yr ysgolion- Niferoedd disgyblion a rhagamcanion- Capasiti ysgolion a llefydd gweigion- Sefyllfa penaethiaid a materion recriwtio- Maint dosbarthiadau- Gwybodaeth o ble daw disgyblion

- Dyraniadau ariannol yr ysgolion- Proffil ieithyddol yr ysgolion- Addasrwydd adeiladau- Cyfleusterau ac adnoddau yn yr ysgolion- Defnydd cymunedol

Cyfeiriwyd hefyd at y cyd-destun strategol a chyfreithiol; Strategaethau’r Cyngor “Tuag at 2025” a “AddysgGynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd” a Chylchlythyr 021/2009 Llywodraeth Cymru ar “GynigionTrefniadaeth Ysgolion”. Rhain fydd y dogfennau fydd yn sail i ystyriaethau wrth ymgynghori ar gynigion.Mae’r ddogfennaeth i gyd ar gael ar safle we’r Cyngor: www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

TREFNIADAU CYFATHREBU

Mae’r Cyngor yn awyddus i staff, rhieni a disgyblion fod yn llawn ymwybodol o’r trafodaethau sy’n digwydd.Derbyniodd y Panel Adolygu awgrym y byddai’r Cyngor yn paratoi newyddlen i grynhoi’r prif faterion yn ystodcyfnod y trafodaethau. Yn ogystal, bydd aelodau lleol y panel yn defnyddio cyfleoedd o fewn eu rôl i rannucynnwys y trafodaethau hyn gyda staff, llywodraethwyr a rhieni.

Byddwn yn cynnal gweithdy i ddisgyblion dan arweiniad swyddogion arbenigol y Cyngor. Cynhelir y sesiwnhon yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd trefniadau yn cael eu gwneud drwy’r ysgolion.

Mae’r Aelod Cabinet yn anelu i ddatblygu cynnig pendant ar gyfer yr ardal yn ystod Gwanwyn 2013. Mae’ramserlen ar gyfer gweithredu’r cynnig yn ddibynnol ar nifer o ffactorau, a bydd y Cyngor yn darparugwybodaeth pellach wrth i’r broses symud yn ei blaen. Cynhelir cyfarfod nesaf o’r Panel Adolygu ar 29Tachwedd.

ASESIAD EFFAITH IEITHYDDOL A CHYMUNEDOL

PANEL ADOLYGU ARDAL

AMSERLEN

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor arwww.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

Neu drwy gysylltu gyda’r Swyddfa Addysg: [email protected]

Page 3: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL ABRONYFOEL (FRON)

Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi 2012 fod angenblaenoriaethu trafodaeth ar ddarpariaeth addysg yn ardalGroeslon, Carmel a Bronyfoel (Fron). Penderfynwyd hyn am nifero resymau, sydd yn cynnwys; Cyflwr adeilad Ysgol Y Groeslon Nifer llefydd gweigion yn yr ardal Anghyfartaledd yn nghost dyraniad y pen i bob disgybl Cyfle i ddenu buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar

gyfer darpariaeth addysg yn yr ardal.

Sefydlwyd Panel Adolygu ar gyfer yr ardal yn Hydref 2012. Pwrpasy Panel yw casglu tystiolaeth leol (o fewn dalgylchoedd y tairysgol gynradd) a chyflwyno syniadau ac opsiynau gwahanol i’r Aelod Cabinet Addysg. Mae’r Panel wedi cynnal ailgyfarfod Tachwedd 29, 2012. Yn y cyfarfod hwnnw – bu’r Panel yn trafod rhinweddau a manteision ac anfanteisionnifer o opsiynau o fodelau. Yn ogystal, trafodwyd safleoedd posib ar gyfer y modelau hynny yn yr ardal. Nodwyd fod yddau Aelod lleol – y Cynghorydd Eric Jones a’r Cynghorydd Dilwyn Lloyd wedi cyflwyno awgrymiadau ar ran ycymunedau.

Yn unol â dymuniadau’r Panel, trafodwyd 3 math o fodel:1. Model o Drefniant Cydweithio/ Ysgol Ffederal – Gall y model hwn fod ar amrywiaeth o ffyrdd, ac yn amrywio odrefniant anffurfiol o gydweithio rhwng ysgolion i sefydlu ffederasiwn rhwng ysgolion ar wahanol safleoedd o danarweinyddiaeth un pennaeth ac un corff llywodraethol.2. Ysgol Ardal Aml-Safle – Golygai’r model yma y byddai’r ysgolion presennol yn cau – ond yn agor fel un Ysgol (felly odan un arweinyddiaeth Pennaeth ac un Corff Llywodraethol), ond ar ddau safle. Byddai’r model yma yn golygu y byddaiun o’r safleoedd presennol yn peidio a bod fel ysgol.3. Ysgol Ardal – Gyda’r model yma – byddai ysgolion presennol yn cau ac un ysgol newydd ar gyfer yr ardal yn cael eihagor.

Trafodwyd hefyd opsiynau o safleoedd gwahanol ar gyfer y modelau yma ynghyd ag oblygiadau materion cysylltiedig.Mae gwybodaeth pellach ar y trafodaethau, yn cynnwys dogfennau’r cyfarfod ar safle we’r Cyngor:www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

Bydd y Cyngor yn cynnal asesiadau o effaith posib cynigion i ad-drefnu ysgolion ar iaith a chymunedau’r ardal. Byddymgynghorydd annibynnol yn arwain y gwaith a bydd y canfyddiadau yn bwydo i fewn i gynigion terfynol yr AelodCabinet Addysg. Bydd cyfle i gael cyfrannu i’r gwaith yma drwy holiaduron a fydd ar gael drwy’r ysgolion ac ar safle wey Cyngor.

SESIWN PLANT A PHOBL IFANC

Mae sesiwn wedi ei gynnal gyda disgyblion o ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel dan ofal Swyddogion Arbenigol o’rCyngor er mwyn cael barn y disgyblion ar beth sydd yn gwneud ysgol dda iddynt hwy. Bydd y gwaith yma yn cael eiystyried wrth i benderfyniadau gael eu gwneud fel rhan o’r broses. Hoffai’r Cyngor ddiolch i’r disgyblion ac i’whathrawon am eu cymorth gyda’r gwaith yma.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd yr asesiadau ieithyddol a chymunedol yn cael eu cynnal. Bydd cyfarfod nesaf yPanel Adolygu yn cael ei gynnal dechrau’r flwyddyn. Erbyn y cyfarfod hynny bydd yr Aelod Cabinet yn dod igasgliad ac yn llunio argymhellion fydd yn cael eu cyflwyno maes o law gerbron Cabinet y Cyngor.Bydd y Cabinet yn penderfynu ar y camau nesaf yn y broses.

SCHOOL

PANEL ADOLYGU ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON)

ASESIAD EFFAITH IEITHYDDOL A CHYMUNEDOL

CAMAU NESAF

Rhagfyr 2012CYNGOR GWYNEDD

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor arwww.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

Neu drwy gysylltu gyda’r Swyddfa Addysg: [email protected]

Page 4: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL ABRONYFOEL (FRON)

Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi 2012 fod angen blaenoriaethu trafodaeth ar ddarpariaeth addysg ynardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel (Fron). Sefydlwyd Panel Adolygu ar gyfer yr ardal yn Hydref 2012. RoeddPennaeth, Cadeirydd y Cyrff Llywodraethu a Riant Llywodraethwr yr ysgolion, yn ogystal â’r Aelodau Lleol ar ypanel hwn. Pwrpas y Panel oedd casglu tystiolaeth leol (o fewn dalgylchoedd y tair ysgol gynradd) achyflwyno syniadau ac opsiynau gwahanol i’r Aelod Cabinet Addysg.

Yn ystod cyfnod y trafodaethau hyn bu i gynrychiolwyr a chyfeillion yr ysgolion gynnal ymarferion ymchwil eihunain. Diolchir i’r ysgolion am gyfrannu ac i aelodau’r Panel am eu gwaith a’u cyfraniad i drafodaethaucychwynnol ar y mater.

Mae’r Panel wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bellach ac yn y cyfarfodydd hynny bu’r Panel yn trafodrhinweddau a manteision ac anfanteision nifer o fodelau posib. Yn ogystal, trafodwyd safleoedd posib argyfer y modelau hynny yn yr ardal. Bu i’r panel glywed hefyd am ganfyddiadau asesiadau ardrawiadieithyddol a chymunedol annibynnol a baratowyd, a hefyd mae canfyddiadau gweithdai casglu barndisgyblion a gynhaliwyd ar gael. Bydd yr adroddiadau hyn ar gael ar safle we'r Cyngor yn fuan.

Yn y cyfarfod diwethaf gynhaliwyd 28 Ionawr, 2013 amlinellodd y Cyng. Sian Gwenllian, Aelod Cabinet AddysgCyngor Gwynedd yr opsiwn y mae’n ffafrio ymgynghori ymhellach arno, sef:

Cau ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel, a sefydlu Ysgol Ardal newydd ar safle presennol Ysgol Groeslon iddarparu addysg yn yr ardal.

Rhai o’r rhesymau dros gynnig yr opsiwn yma yw bod cyfle gwirioneddol i wella’r cyfleoedd addysgol i’rdisgyblion a sicrhau darpariaeth addysg gadarn a chynaliadwy i’r dyfodol yn yr ardal. Bydd cyfle hefyd ifuddsoddi a datblygu ysgol newydd, fodern o’r radd flaenaf ar gyfer yr ardal.

Er nad oedd cytundeb ynglŷn â’r cynnig gan aelodau’r Panel, roedd consensws ynglŷn a’r angen i symud y drafodaeth ymlaen, a sefydlu Grŵp er mwyn cydweithio a gwneud y gorau o’r cyfle hwn er bûdd disgyblion yr ardal.

Bydd gofyn i Gabinet y Cyngor benderfynu ar y camau nesaf yn y broses, a phwyso a mesur dadleuon drosgynnig yr Aelod Cabinet o’r opsiwn yma, er mwyn ymgynghori’n statudol arno. Bydd yr holl ffactorau o fewnstrategaeth ad-drefnu'r Sir yn cael eu hystyried, yn ogystal ag opsiynau eraill gynigwyd yn ystod ytrafodaethau cychwynnol.

Os fydd y Cabinet yn penderfynu symud ymlaen â’r argymhellion yn eu cyfarfod Chwefror 27, – bydd cyfnodo ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf. Yn ystod y cyfnod ymgynghori bydd cyfle iddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr a staff yr ysgolion fynegi eu barn a sylwadau.

Ar ôl y cyfnod o ymgynghori - bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet yn adrodd arganlyniadau’r ymgynghori. Bydd y Cabinet yn pwyso a mesur yr holl wybodaeth a sylwadau cyn penderfynucyhoeddi Rhybudd Statudol neu beidio.

SOOL

PANEL ADOLYGU ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON)

Y PENDERFYNIAD - YR OPSIWN I YMGYNGHORI YMHELLACH ARNO

CAMAU NESAF

Ionawr 2013CYNGOR GWYNEDD

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngorwww.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e-bost [email protected]

Page 5: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

SCHOOL ORGANISATION - GROESLON, CARMEL ANDBRONYFOEL (FRON) AREA

CABINET DECISION TO CONSULT ON THE EDUCATION PROVISION IN THEGROESLON, CARMEL A BRONYFOEL AREA

Following recent discussions regarding the education provision in theGroeslon, Carmel and Bronyfoel area, a report was presented to GwyneddCouncil’s Cabinet on 27 February 2013.

In this meeting – the Cabinet considered the proposal to open a statutoryconsultation period on the matter. The Cabinet decided to approve therecommendation as follows:“To undertake the statutory consultation process to close Ysgol YGroeslon, Ysgol Carmel and Ysgol Bronyfoel on 31 August 2015 andestablish an Area School on the current site of Ysgol Y Groeslon on 1September 2015”.

Following this decision, a period of statutory consultation will be held inthe coming weeks. There will be a definite period for the consultation -with a consultation meeting arranged at your school. Arrangements forthe consultation period will now be done with the assistance of yourschool, and you will be notified of the arrangements.

After the consultation, a further report will be submitted to the Cabinet, toconsider the consultation, and to decide whether a Statutory Noticeshould be published to implement the proposal. If a Statutory Notice ispublished, there will be a one month period for submitting objections. Ifan objection to the proposal is received, the matter will be transferred tothe Welsh Government for a final decision. On the other hand, if noobjection is received, the matter can be decided by the Cabinet.

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL ABRONYFOEL (FRON)

PENDERFYNIAD CABINET I YMGYNGHORI AR DARPARIAETH ADDYSG YNARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL

Yn dilyn trafodaethau diweddar ynglŷn â darpariaeth addysg yn ardal Groeslon, Carmel a Bronyfoel - cyflwynwyd adroddiad gerbron CabinetCyngor Gwynedd 27 Chwefror 2013.

Yn y cyfarfod hwn – roedd y Cabinet yn ystyried y cynnig i agorymgynghoriad statudol ar y mater. Penderfynodd y Cabinet i gefnogi’rargymhelliad fel a ganlyn;“I ymgymryd â phroses o ymgynghori statudol i gau Ysgol Y Groeslon,Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel ar 31 Awst 2015 a sefydlu Ysgol Ardal arsafle presennol Ysgol Y Groeslon ar 1 Medi 2015”.

CAMAU NESAF

Yn dilyn y penderfyniad yma bydd cyfnod o ymgynghoriad statudol yn caelei gynnal yn yr wythnosau nesaf. Bydd cyfnod pendant i’r ymgynghoriad -gyda chyfarfod yn cael ei drefnu yn eich ysgol. Bydd trefniadau’r cyfarfodnawr yn cael ei wneud gyda’ch ysgol, a byddwch yn cael eich hysbysu o’rtrefniadau mewn da bryd.

Ar ôl yr ymgynghoriad - bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwynogerbron Cabinet y Cyngor pryd benderfynir a ddylid cyhoeddi RhybuddStatudol i weithredu’r cynigion a’i pheidio. Os cyhoeddir RhybuddStatudol, bydd cyfnod o fis i unrhyw un gynnig gwrthwynebiad. Os dawgwrthwynebiad i’r cynnig yn y rhybudd, trosglwyddir y mater i LywodraethCymru am benderfyniad terfynol. Ar y llaw arall, os na ddawgwrthwynebiad gall y mater gael ei benderfynu’n derfynol gan y Cabinet.

NEXT STEPS

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngorwww.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e-bost

[email protected]

CYNGOR GWYNEDD

More school organisation information is available on the Council’s website atwww.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation or e-mail

[email protected]

27 Chwefror 201327 February 2013GWYNEDD COUNCIL

Page 6: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

CWESTIYNAU A OFYNNIR YN AML

Bydd dogfen ymgynghori yn cael eu dosbarthu cyn gwyliau’r Pasg fyddai’n amlinellu manylion y cynnigyma’n llawn. Bydd hefyd llawer o ddeunydd cefndirol fel asesiadau iaith a chymunedol ynghyd achofnodion cyfarfodydd ar gael ar ein gwefan yn www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

Sut gallaf roi fy marn am y cynnig yma?Os ydych yn rhiant, yn llywodraethwr neu yn aelod o staff yn yr ysgolion, bydd cyfarfodydd penodol yncael eu cynnal o fewn y cyfnod ymgynghori. Pwrpas y rhain fydd gwrando ar farn rhieni, llywodraethwyra staff yr ysgolion sydd dan sylw. Bydd hefyd modd i chwi ysgrifennu i’r awdurdod er mwyn nodisylwadau a rhoi’ch barn.

Ar gyfer unrhyw un arall sydd â diddordeb, bydd modd derbyn sylwadau i’r ddogfen ymgynghori ynysgrifenedig. Bydd modd darparu copïau o’r ddogfen ymgynghori neu gael mynediad at yr hollwybodaeth berthnasol dros safle we’r cyngor yn www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

Bydd copïau o’r ddogfen ymgynghori yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid perthnasol a byddai copïau argael o’r ysgolion eu hunain, swyddfeydd y sir, llyfrgelloedd lleol ac ar wefan y Cyngor.

Oes modd i aelodau o’r gymuned ddod i’r cyfarfodydd staff, rhieni, llywodraethwyr?Mae’r Awdurdod yn awyddus i dderbyn barn penodol rhieni, llywodraethwyr a staff. Cynhelir felly 3cyfarfod ymhob ysgol. Bydd cofnodion y cyfarfodydd hynny yn cael eu rhoi yn llawn fel atodiad iadroddiad nesaf y Cabinet. Er mwyn i farn glir gael ei adnabod gofynnir i gyfarfodydd penodol yma gaeleu cynnal i staff, llywodraethwyr a rhieni yn unig.

Mae cyfleoedd i unrhyw un arall sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad drwy ysgrifennu i’rAwdurdod yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd manylion o sut i wneud hynny ynghlwm i’r ddogfenymgynghori.

Pryd fyddai’r ymgynghori yn cychwyn a phryd gallaf gyflwyno sylwadau?Bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn cychwyn yr wythnos 18 Mawrth ac yn rhedeg tan 19 Ebrill. Byddcyfarfodydd gyda staff, rheini a llywodraethwyr ar ôl gwyliau’r Pasg. Derbynnir sylwadau ynglŷn â’r cynnig o fewn y cyfnod yma.

Beth fyddai’n digwydd gyda’r sylwadau yma wedyn?Bydd unrhyw lythyrau a chofnodion y cyfarfodydd staff, rhieni a llywodraethwyr yn atodiadau i’radroddiad Cabinet nesaf a gynhelir mis Mai 2013. Pwrpas y cyfarfod hynny fydd i’r Cabinet ystyried ysylwadau a’r farn, gan bwyso a mesur a ddylid addasu’r cynnig neu fynd ati i gyhoeddi Rhybudd Statudola’i pheidio.

Pryd fydd penderfyniad terfynol ar y cynnig yma?Mae’r broses o ad-drefnu ysgolion ynghlwm â deddf Addysg 1998 ac yn gaeth i drefniadau pendant. Pegyhoeddir Rhybudd Statudol bydd cyfle arall o fis er mwyn cyflwyno gwrthwynebiadau. Pe bai’rAwdurdod yn derbyn gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod yma, dan arweiniad y ddeddf bydd y mater yncael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru i benderfynu yn derfynol. Mae’r cyfnod yma yn aml yn cymrydhyd at 7 mis nes derbyn penderfyniad gan y Llywodraeth. Pe na byddai gwrthwynebiad, mae modd i’rCabinet benderfynu’n derfynol, a fyddai’n lleihau’r amserlen.

Pryd y byddai ysgol newydd yn agor yn yr ardal?Mae ychydig yn gynamserol nodi union ddyddiad y byddai ysgol newydd i’r ardal oherwydd llawer o’rprosesau amlinellir uchod. Serch hynny, byddwn yn ymgynghori ar y bwriad i agor ysgol newydd erbynMedi 2015. Wrth i’r sefyllfa ddatblygu bydd modd diweddaru’r dyddiad yma i adlewyrchu dyddiad mwymanwl petai angen.

FREQUENTLY ASKED QUESTIONS

How can I learn about the details of this proposal?A consultation document will be distributed before the Easter holidays and will outline the full details ofthe proposal. In addition to this, background material such as language and community assessments alongwith minutes from meetings will be available on our website at www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation

How can I voice my opinions on this proposal?If you are a parent, governor or member of staff at the schools, designated meetings will be held during theconsultation period. The purpose of these will be to listen to the opinions of parents, governors and staff atthe schools in question. It will also be possible to write to the Authority to note any views and giveopinions.

For any other interested parties, there will be an opportunity to give written views regarding theconsultation document. It will be possible to distribute copies of the consultation document or to gainaccess to all the relevant information on the council’s website at www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation

Copies of the consultation document will be distributed to relevant stakeholders and copies will beavailable from the schools, council offices, local libraries and the Council’s website.

Can members of the community attend meetings for staff parents and governors?The Authority is eager to acknowledge the specific opinions of staff, parents and governors. Three meetingswill be held at each school. Minutes of these meetings will be attached to the next Cabinet report. In orderto gain clear opinions, these meetings will be limited to staff, parents and governors only.

There will be opportunities for all other interested parties to respond to the consultation by writing to theAuthority during the consultation period. Details of how to do so will be attached to the consultationdocument.

When will the consultation begin and within what time scale can I make comments?The statutory consultation will begin the week commencing 18 March and will run to the 19 April. Meetingswith staff, parents and governors will take place after Easter. Opinions and views regarding the proposalwill be accepted during this period.

What will be done with my comments?Any letters received, and minutes from the meetings with staff, parents and governors will be attached tothe next Cabinet report in May 2013. The purpose of that Cabinet meeting will be to consider the views andopinions, and contemplating whether the proposal should be amended or if a Statutory Notice should bepublished or not.

When will a final decision be taken on this proposal?The school reorganisation process is tied to the Education Act 1998 and is ruled by strict processes. If aStatutory Notice is produced a further month would be allocated for objections to be voiced. If theauthority were to receive objections during this period, under the act the matter would be transferred tothe Welsh Government to make a final decision. This period can often take up to 7 months before adecision is reached by the Welsh Government. If no objections were received, the Cabinet would be able tomake a decision, thus shortening the timescale.

When would the new school be open?It is somewhat too early to state an exact opening date due to the variables noted above. However, we willbe consulting on the intention to open the new school by September 2015. As things develop we will beable to review this and provide a more accurate date.

Sut gallaf wybod am fanylion y cynllun yma?

Page 7: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

Fel y gwyddoch, cyflwynwyd adroddiad gerbron Cabinet Cyngor Gwynedd 27 Chwefror 2013.

Yn y cyfarfod hwn – roedd y Cabinet yn ystyried y cynnig i agor ymgynghoriad statudol …

“I ymgymryd â phroses o ymgynghori statudol i gau Ysgol Y Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel

ar 31 Awst 2015 a sefydlu Ysgol Ardal ar safle presennol Ysgol Y Groeslon ar 1 Medi 2015”.

Dyma amlinelliad i chwi o’r broses ymgynghori hynny felly; proses sy’n ofynnol a’r awdurdodau Cymru

ei ddilyn yn unol â deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Mis 1: Rhagbaratoi

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet 27 Chwefror, cychwynnir ar y broses ymgynghori.

Mis 2: Cyfnod Ymgynghori Statudol

Mae’r cyfnod yma yn cychwyn 18 Mawrth hyd 26 Ebrill 2013 - Dyma lle yr ydym ar hyn

o bryd. Cyhoeddir dogfen ymgynghori fydd yn sail i’r cynnig. Bydd cyfle i roi sylwadau yn

seiliedig ar gynnwys y ddogfen a’r cynnig yma. Bydd cyfarfodydd hefyd i rieni, staff a

llywodraethwyr yr ysgolion sydd yn wynebu newid.

Mis 3: Dadansoddi’r ymatebion a’u cyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd

Bydd holl sylwadau a dderbynnir ym mis 2 ynghyd a chofnodion cyfarfodydd staff, rhieni a llywodraethwyr yn cael eu cynnwys

mewn adroddiad i’r Cabinet. Cynhelir y cyfarfod Cabinet hynny ar 21 Mai 2013. Yma bydd aelodau’r Cabinet yn pwyso a mesur y

wybodaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghori (mis 2) gan ystyried cyhoeddi rhybudd statudol a’i pheidio (h.y. cytuno i barhau

a’r cynnig a’i pheidio). Mae’r camau yn y misoedd dilynol isod yn ddibynnol ar y penderfyniad yma.

Mis 4: Cyhoeddi Rhybudd Statudol

Pan gyhoeddir Rhybudd Statudol, mae’r Cyngor wedi penderfynu’n derfynol i fynd ymlaen â’r cynnig. Mae hwn yn gyfle i roi

gwrthwynebiadau terfynol gan unrhyw un sydd â diddordeb. Mae’r cyfnod yma yn wahanol i fis 2 uchod gan mai derbyn

gwrthwynebiadau yw’r cyfnod yma ac nid sylwadau fel ym mis 2.

Mis 5: Unrhyw wrthwynebiadau

Petai’r Cyngor dderbyn gwrthwynebiadau, yna Llywodraeth Cymru ac nid y Cyngor fydd yn penderfynu hawl i barhau a’i pheidio

yn derfynol. Petai dim gwrthwynebiad, gallai’r Cyngor benderfynu’n derfynol.

Mis 6 i 12 - Penderfyniad terfynol gan weinidogion Llywodraeth Cymru

Os byddai gwrthwynebiad, trosglwyddir y mater i Lywodraeth Cymru am benderfyniad terfynol. Cymerai’r Llywodraeth hyd at 7

mis i benderfynu ar ôl derbyn holl wybodaeth lawn am y cynnig. O brofiad blaenorol, mae’r Llywodraeth yn cymryd 7 mis.

Yn ystod y camau uchod, byddwn yn cyhoeddi newyddlen er mwyn eich hysbysu o’r datblygiadau.

Rydym nawr ar gychwyn y cyfnod o ymgynghoriad statudol sydd yn rhedeg rhwng 18 Mawrth a 26 Ebrill.

Mae copi o’r ddogfen ymgynghori yn y pecyn hwn:

Os ydych yn rhiant, yn aelod o staff neu yn llywodraethwyr yn Ysgol Groeslon, Carmel

neu Bronyfoel cynhelir cyfarfodydd i chwi yn eich ysgolion fel a ganlyn:

Ysgol Cyfarfod Staff Cyfarfod

Llywodraethwyr Cyfarfod Rhieni

Groeslon 10/04/13 - 4:00pm 10/04/13 - 5:00pm 10/04/13 - 6:30pm

Bronyfoel 15/04/13 - 4:00pm 15/04/13 - 5:00pm 15/04/13 - 6:30pm

Carmel 16/04/13 - 4:00pm 16/04/13 - 5:00pm 16/04/13 - 6:30pm

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON)

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor

www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e-bost [email protected]

MAWRTH 2013 CYNGOR GWYNEDD

Cyfnod presennol

Page 8: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A

BRONYFOEL (FRON)

Penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2013...

“I ymgymryd â phroses o ymgynghori statudol i gau Ysgol Y Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel ar 31

Awst 2015 a sefydlu Ysgol Ardal ar safle presennol Ysgol Y Groeslon ar 1 Medi 2015”.

Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori statudol rhwng 18 Mawrth a 26 Ebrill 2013. Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori

oedd yn sail i’r cynnig i dderbyn sylwadau. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni’r dair

ysgol. Derbyniwyd 87 o ymatebion i’r ymgynghoriad yn cynnwys llythyrau, e-byst, erthyglau papurau newydd,

darn celf a deiseb 19 tudalen gyda 288 o enwau.

Mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol wedi eu dadansoddi. Anfonwyd

llythyr cydnabod at pob unigolyn gyflwynodd sylwadau. Mae adroddiad i’r Cabinet wedi ei selio ar sylwadau’r

ymgynghoriad, ac mae cofnodion cyfarfodydd ymgynghori, sylwadau ymgynghori plant a thabl dadansoddiad

sylwadau wedi eu cynnwys mewn atodiadau. Cynhelir y cyfarfod Cabinet hynny ar 21 Mai 2013.

Bydd aelodau’r Cabinet yn pwyso a mesur holl wybodaeth dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol gan

ystyried cyhoeddi rhybudd statudol a’i pheidio (h.y. cytuno i barhau â’r cynnig a’i pheidio). Mae’r camau a

gymerir yn y misoedd nesaf yn ddibynnol ar benderfyniad y Cabinet. Mae adroddiad y Cabinet ar gael yn

www.gwynedd.gov.uk/ycabinet a holl dogfennau cefndirol ar www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion.

Dyma rhai o’r prif bryderon gododd yn ystod yr ymgynghoriad statudol:

Pam ad-drefnu addysg yn yr ardal?

Mae pawb yn gytûn bod angen ysgol newydd ar gyfer plant Groeslon. Ar yr un pryd, ceir gostyngiad yn nifer y

disgyblion yn yr ardal ac mae lleoedd gwag mewn dosbarthiadau. Buasai sefydlu Ysgol Ardal newydd ar gyfer

plant sy’n byw o fewn 2.5 milltir i’w gilydd yn darparu amgylchfyd dysgu modern gyda chyfleusterau newydd ac

yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer addysg yn yr ardal.

Beth am effaith negyddol i gymunedau Fron a Carmel?

Mae’r Cyngor yn ymwybodol o’r pryderon o ran yr effaith cymunedol ac yn effro i’r her o geisio lliniaru’r

effeithiau posib hynny. Os gwireddir y cynnig, mae’r Cyngor yn ymrwymo i weithio gyda’r cymunedau gan roi

sylw penodol i’r mesurau lliniaru awgrymwyd yn yr asesiad cymunedol, ar y cyd gyda llywodraethwyr a

Pennaeth yr Ysgol Ardal. Bydd Swyddog Adfywio ar gael i weithio ag unrhyw gymuned ar achos fusnes a

chymorth a chysylltiadau, os oes diddordeb gwneud ôl-ddefnydd o adeiladau’r ysgolion.

A fydd cludiant am ddim i bawb?

Yn ôl asesiad cychwynnol o’r rhwydwaith ffyrdd a llwybrau teithio i’r ysgol byddai cludiant yn cael ei ddarparu

i’r Ysgol Ardal yn unol â’r Polisi Cludiant. Golygai hyn y byddai’r Cyngor yn gallu darparu cludiant i ddisgyblion

fyddai yn dod o ardaloedd Fron a Carmel i’r Ysgol Ardal yn Groeslon yn unol â’r polisi. Mae’r Cyngor am sicrhau

fod gwregysau diogelwch ar y bysus fyddai yn cludo’r disgyblion, ac yn ychwanegol am sicrhau fod hebryngwr ar

y bysus hyn am gyfnod cychwynnol y trefniadau newydd - ac y byddai’r sefyllfa yn cael ei hadolygu wedi’r tymor

cyntaf.

Beth am gludiant i ddisgyblion Meithrin?

Nid yw’n bolisi gan y Cyngor i ddarparu cludiant i blant oed meithrin. Mewn ymateb i’r anfodlonrwydd yn ystod

yr ymgynghoriad, mae posibiliadau y gellir ymchwilio ymhellach yn sgil rhai ceisiadau grant y mae’r Cyngor wedi

ei wneud yn ddiweddar. Er nad ydyw hyn yn newid safbwynt y Cyngor o ran Polisi – ymddengys y bydd rhai

posibiliadau y gellid edrych arnynt yn fanylach, eu hystyried a’u trafod yn lleol os gwireddir y cynnig.

CYFNOD YMGYNGHORI STATUDOL WEDI CWBLHAU

ADRODDIAD CABINET 21 MAI 2013

15 Mai 2013 CYNGOR GWYNEDD

Page 9: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

Beth am gludiant i glwb brecwast a chlybiau ar ôl ysgol?

Byddai yn rhaid i’r ysgol newydd sicrhau fod cyfleon têg i ddisgyblion yr holl ardal fanteisio ar weithgareddau’r

ysgol, a byddai angen i’r Cyngor a’r ysgol ymchwilio ymhellach i sicrhau fod atebion ymarferol i sicrhau fod

hynny yn cael ei wireddu er mwyn sicrhau tegwch (e.e. ‘stagro’ amseroedd bysiau).

Pryderon am yr asesiad iaith, nifer ddim yn cytuno gyda’r asesiad.

Mae’r adroddiad yn asesu effaith posib y modelau a ystyriwyd - model Ysgol Ardal Aml-Safle a model Ysgol

Ardal un safle. Daw’r adroddiad annibynnol i gasgliad y byddai amheuaeth a fyddai mesurau lliniaru yn goresgyn

yr effeithiau negyddol allasai’r model o Ysgol Ardal Aml-Safle ei gael ar y Gymraeg, tra ar y llaw arall mae’r

Cyngor yn hyderus y gallasai Ysgol Ardal ar un safle barhau â gwaith da yr ysgolion presennol o ran dysgu’r iaith

Gymraeg i ddisgyblion.

Pryderon am arbedion y cynllun o gymharu â maint y buddsoddiad angenrheidiol.

Mae’r Cyngor yn ystyried nifer o ffactorau wrth adolygu trefniadaeth ysgolion - er bod cyllid yn un elfen bwysig,

mae nifer o ffactorau amrywiol. O ran cyllid, mae’r Cyngor yn ystyried arbedion refeniw ac arbedion costau

cynnal adeiladau i’r dyfodol. Yn ychwanegol, mae angen buddsoddiad sylweddol ar adeilad Ysgol Groeslon, a

chredir bod y cynnig yn sicrhau y byddai’r buddsoddiad yn cael ei wneud yn y modd mwyaf effeithlon yng

nghyd-destun strategol cenedlaethol a lleol ac yn rhannu’r bûdd rhwng nifer fwy o ddisgyblion.

Pryder bod y Cyngor Gwynedd heb dilyn y broses ymgynghori llawn.

Cyngor wedi dilyn canllawiau cenedlaethol yn unol â Cylchlythyrau 09/99, 021/2009 a Deddf Safonau a

Fframwaith Ysgolion 1998 wrth ddatblygu’r ddogfen ymgynghori. Aseswyd ac ystyriwyd effeithiau ieithyddol,

cymunedol a chydraddoldeb wrth lunio’r cynnig. Gwiriwyd yr wybodaeth yn y ddogfennaeth gydag ysgolion

unigol a chytunwyd â’r wybodaeth hynny gyda chynrychiolwyr yr ysgolion yng nghyfarfodydd y Panel Adolygu.

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i wneud newid i

ysgol(ion) penodol, mae’n cymryd blwyddyn i

dderbyn ateb terfynol. Posib bydd trafodaethau lleol

yn cael ei cynnal cyn dechrau’r flwyddyn yma.

Misoedd 1 a 2 wedi ei gwblhau - y cyfnod presennol

yw Mis 3.

Mis 4: Cyhoeddi Rhybudd Statudol

Yn ddibynnol ar benderfyniad Cabinet 21 Mai,

cyhoeddir Rhybudd Statudol. Bydd cyfnod o fis i

dderbyn gwrthwynebiadau terfynol gan unrhyw un

sydd â diddordeb. Mae’r cyfnod yma yn wahanol i fis

2 gan mai cyfnod i dderbyn gwrthwynebiadau yw’r

cyfnod yn hytrach na sylwadau.

Mis 5: Unrhyw wrthwynebiadau

Petai’r Cyngor yn derbyn gwrthwynebiadau, yna

Llywodraeth Cymru ac nid y Cyngor fydd yn

penderfynu i barhau â’r cynllun a’i pheidio. Petai dim

gwrthwynebiad, gallai y Cyngor benderfynu’n derfynol.

Mis 6 i 12 - Penderfyniad terfynol gan Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru

Os bydd gwrthwynebiad, trosglwyddir y mater i Lywodraeth Cymru am benderfyniad terfynol. Gall

Llywodraeth Cymru cymeryd hyd at 7 mis i wneud benderfyniad, ar ôl derbyn holl wybodaeth lawn

am y cynnig. O brofiad blaenorol, mae’r Llywodraeth yn cymryd 7 mis.

Byddwn yn eich hysbysu o benderfyniad y Cabinet yn dilyn ei gyfarfod ar 21 Mai 2013.

SO

OL

AMSERLEN A CAMAU NESAF

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor

www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e-bost [email protected]

Cyfnod Presennol – Mis 3

Page 10: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A

BRONYFOEL (FRON)

Cynhaliwyd cyfarfod Cabinet y Cyngor heddiw, 21 Mai 2013. Yno trafodwyd holl wybodaeth dderbyniwyd yn

ystod yr ymgynghoriad cynhaliwyd rhwng 18 Mawrth a 26 Ebrill 2013 ar ddyfodol ysgolion Groeslon, Carmel a

Bronyfoel. Mae adroddiad y Cabinet ar gael yn www.gwynedd.gov.uk/ycabinet a holl dogfennau cefndirol ar

www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion.

Penderfyniad y Cabinet oedd...

“Cymeradwyo’r cynnig i gau ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel a sefydlu Ysgol Gymuned

Ardal 3 – 11 oed i agor 1 Medi 2015 ar safle presennol Ysgol Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer

dalgylchoedd presennol ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel, a chyhoeddi rhybuddion statudol

yn unol â gofynion Adrannau 28 a 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er gweithredu

hyn. ”

Felly yn dilyn penderfyniad y Cabinet bydd rhybudd statudol yn cael ei rhyddhau ar gychwyn mis Mehefin.

SCHOOL ORGANISATION – GROESLON, CARMEL AND BRONYFOEL

(FRON) AREA

A Council Cabinet meeting was held today, 21 May 2013. All the information received during the consultation

held between 18 March and 26 April 2013 on the future of Groeslon, Carmel and Bronyfoel Schools was

discussed. The Cabinet report is available at www.gwynedd.gov.uk/thecabinet and all background documents

at www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation.

The Cabinet decided to…

“Recommend the proposal for the closure of the schools at Groeslon, Carmel, and Bronyfoel and

establish an Area Community School for 3 – 11 year olds to open on 1 September 2015 on the

existing site of Ysgol Groeslon to provide education for the existing catchment areas of Groeslon,

Carmel, and Bronyfoel schools, and to publish statutory notices in accordance with Section 28

and 29 of the Schools Standards and Framework Act 1998 in order to implement this.”

Following the Cabinet’s decision a statutory notice will be published early in June.

SOOL

PENDERFYNIAD CABINET 21 MAI 2013

CABINET DECISION 21 MAY 2013

21 Mai 2013 CYNGOR GWYNEDD

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor

www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e-bost [email protected]

GWYNEDD COUNCIL 21 May 2013

More school organisation information is available on the Council’s website at

www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation or e-mail [email protected]

Page 11: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) 

  

  

PENDERFYNIAD CABINET 21 MAI 2013 Cynhaliwyd cyfarfod Cabinet y Cyngor ar 21 Mai 2013. Yno trafodwyd holl wybodaeth dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol cynhaliwyd rhwng 18 Mawrth a 26 Ebrill 2013 ar ddyfodol ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel. Mae adroddiad y Cabinet ar gael yn www.gwynedd.gov.uk/ycabinet a holl dogfennau cefndirol ar www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion.   

Penderfyniad y Cabinet oedd... “Cymeradwyo’r cynnig i gau ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel a sefydlu Ysgol Gymuned Ardal 3 –  11  oed  i  agor  1  Medi  2015  ar  safle  presennol  Ysgol  Groeslon  i  ddarparu  addysg  ar  gyfer dalgylchoedd presennol ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel, a chyhoeddi rhybuddion statudol yn unol â gofynion Adrannau 28 a 29 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er gweithredu hyn. ” 

 

RHYBUDD STATUDOL  

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet mae Rhybudd Statudol yn cael ei gyhoeddi heddiw, 06 Mehefin 2013. Mae’r rhybudd llawn ar gefn y newyddlen ac yn cynnwys manylion llawn y cynnig i... 

• cau Ysgol Groeslon, Ysgol Carmel ac Ysgol Bronyfoel ar 31 Awst 2015 • sefydlu un Ysgol Ardal ar 1 Medi 2015 ar safle presennol Ysgol Groeslon 

 

Yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru, caniateir un mis ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau. Gofynnir felly i chwi gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau  ffurfiol erbyn 08 Gorffennaf 2013  i  sylw’r Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.  

AMSERLEN A CAMAU NESAF  

Yn  dilyn  penderfyniad  y  Cabinet  i  wneud  newid  i ysgol(ion)  penodol,  mae’n  cymryd  blwyddyn  i dderbyn ateb terfynol. Posib bydd trafodaethau lleol yn cael ei cynnal  cyn dechrau’r flwyddyn yma.  

Misoedd  1,  2  a  3  wedi  ei  gwblhau  ‐  y  cyfnod presennol yw Mis 4.  

Mis 4: Cyhoeddi Rhybudd Statudol Cyhoeddir Rhybudd Statudol heddiw, 06 Mehefin 2013. Bydd cyfnod o fis i dderbyn gwrthwynebiadau terfynol gan unrhyw un sydd â diddordeb.   

Mis 5: Unrhyw wrthwynebiadau Petai’r Cyngor yn derbyn gwrthwynebiadau, yna Llywodraeth Cymru ac nid y Cyngor fydd yn penderfynu i barhau â’r cynllun a’i pheidio. Petai dim gwrthwynebiad, gallai y Cyngor benderfynu’n derfynol.  

Mis 6 i 12 ‐ Penderfyniad terfynol gan Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru Os bydd gwrthwynebiad, trosglwyddir y mater i Lywodraeth Cymru am benderfyniad terfynol. Gall Llywodraeth Cymru cymeryd hyd at 7 mis i wneud benderfyniad, ar ôl derbyn holl wybodaeth lawn am y cynnig.  

SOOL  

 06 MEHEFIN 2013CYNGOR GWYNEDD 

Mae mwy o wybodaeth trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor  www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e‐bost [email protected]  

Cyfnod Presennol – Mis 4

Page 12: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

CYNGOR GWYNEDD ADRAN 28 A 29 DEDDF SAFONAU A FFRAMWAITH YSGOLION 1998

RHYBUDD O GYNNIG I GAU YSGOLION GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL A SEFYDLU YSGOL ARDAL YN GROESLON

RHODDIR DRWY HYN RYBUDD yn unol ag adrannau 28(1) a 29(1) o'r Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (S.I 1999/1671) fod Cyngor Gwynedd ar ôl cynnal ymgynghoriad yn unol ag Adran 28(5) a 29(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cynnig:

(a) cau YSGOL GROESLON, Groeslon, Caernarfon LL54 7DT, YSGOL CARMEL, Carmel, Caernarfon, LL54 7AA, ac YSGOL BRONYFOEL, Y Fron, Caernarfon, LL54 7BB ar 31 Awst 2015. Bwriedir i’r disgyblion fydd yn mynychu'r ysgolion ar y pryd fynychu'r ysgol ardal arfaethedig yn Groeslon.

(b) i sefydlu un Ysgol Ardal ar 1 Medi 2015 ar safle presennol Ysgol Groeslon, Groeslon, Caernarfon LL54 7DT.

Bydd yr ysgol ardal arfaethedig yn Ysgol Gymuned i enethod a bechgyn 3 i 11 oed. Bwriedir adeiladu ysgol ardal newydd gyda chynhwysedd ar gyfer 172 o ddisgyblion gyda darpariaeth feithrin gyfwerth â 12 lle llawn amser. Nifer y disgyblion i'w derbyn yn 4 oed o 1 Medi 2015 fydd 24.

Yr awdurdod mynediad ar gyfer yr ysgol ardal arfaethedig fydd Cyngor Gwynedd a bydd disgyblion yn cael eu derbyn yn unol â Pholisi Mynediad yr Awdurdod. Bydd y trefniadau mynediad i'r ysgol newydd yn cael eu gwneud heb gyfeiriad at allu neu fedr (bandio disgyblion).

Bydd cludiant yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy'n byw yn nalgylchoedd yr ysgolion yn unol â Pholisi Cludiant Ysgolion y Cyngor.

Gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion o fewn cyfnod o un mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r rhybudd yma, hynny yw erbyn 08 Gorffennaf 2013 ("Cyfnod Gwrthwynebu") drwy anfon gwrthwynebiadau i sylw Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.

Bydd y Cyngor yn anfon unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir o fewn y Cyfnod Gwrthwynebu, ynghyd â'i ymateb i'r gwrthwynebiadau, at Weinidogion Cymreig o fewn pythefnos ar ôl i'r Cyfnod Gwrthwynebu ddod i ben.

Bydd y cynigion (os na fydd fyddant yn cael eu tynnu nôl) angen cymeradwyaeth y Gweinidogion Cymreig petai: (a) Gweinidogion Cymru yn rhoi rhybudd o fewn 2 fis wedi i gopi o'r cynigion gael eu hanfon

atynt y bydd angen cymeradwyaeth o'r fath neu, (b) fod gwrthwynebiadau wedi eu gwneud o fewn y Cyfnod Gwrthwynebu a heb eu tynnu yn

ôl o fewn y cyfnod.

Ble nad oes angen cymeradwyaeth o'r fath bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu gweithredu'r cynigion ai peidio.

Dyddiad Cyhoeddi 06 Mehefin 2013

Dewi R Jones Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Am fwy o fanylion ynglŷn â'r uchod ffoniwch yr Adran Addysg, 01286 679247

NODYN ESBONIADOL (Nid yw'r isod yn rhan o'r rhybudd ond mae'n cynnig esboniad o'i bwrpas) Yn dilyn ymgynghori, argymhellodd Cyngor Gwynedd agor ysgol gynradd gymuned ar 1 Medi 2015 i wasanaethu ardal Groeslon, Carmel a Fron. Er mwyn i hyn ddigwydd cynigir bod Ysgolion Groeslon, Carmel a Bronyfoel yn cau 31 Awst 2015. Bydd disgyblion sy'n byw yn y dalgylchoedd hyn yn cael cynnig lle yn yr ysgol ardal newydd fydd wedi ei lleoli yn Groeslon.

 

Page 13: TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A … · 2019. 5. 15. · TREFNIADAETH YSGOLION – ARDAL GROESLON, CARMEL A BRONYFOEL (FRON) Penderfynodd Cabinet y Cyngor yn Medi

TREFNIADAETH YSGOLION - ARDAL GROESLON, CARMEL A

BRONYFOEL (FRON)

Ym mis Mai 2013 penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd i gymeradwyo’r cynnig i gau ysgolion Groeslon,

Carmel, a Bronyfoel a sefydlu Ysgol Ardal i agor 1 Medi 2015 yn Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer

dalgylchoedd presennol ysgolion Groeslon, Carmel, a Bronyfoel.

Cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar y cynnig ym Mehefin eleni. Yn dilyn derbyn gwrthwynebiadau i’r Rhybudd

Statudol, trosglwyddwyd y mater i Llywodraeth Cymru am benderfyniad terfynol. Dyma nodyn byr i’ch

diweddaru nad oes penderfyniad wedi ei dderbyn hyd yma.

Yn y cyfamser, mae’r gwaith cefndirol yn mynd yn ei flaen. Mae dyluniad yr Ysgol Ardal arfaethedig wedi ei

ddatblygu a chafwyd mewnbwn lleol i’r broses hon. Mae cais cynllunio ar gyfer adeiladu’r ysgol wedi ei

gyflwyno a thrafodaethau ynglŷn â materion ymarferol datblygu’r safle wedi cychwyn. Wrth gwrs, bydd symud

ymlaen gydag unrhyw waith adeiladu yn amodol ar benderfyniad terfynol Llywodraeth Cymru ar y cynnig.

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod y cyfnod yma yn anodd ac ansicr i bawb sydd yn ymwneud gydag ysgolion

Carmel, Groeslon a Bronyfoel. Wrth gwrs, pan ddaw penderfyniad terfynol, naill ffordd neu’r llall - bydd nifer o

faterion angen eu cyfarch a bwriedir gwneud hynny pan fo yn briodol ac amserol. Bydd y Cyngor yn cysylltu eto

os daw gwybodaeth bellach i law.

SCHOOL ORGANISATION - GROESLON, CARMEL AND

BRONYFOEL (FRON) AREA

In May 2013 Gwynedd Council Cabinet decided to approve the proposal to close Groeslon, Carmel, and

Bronyfoel schools and establish an Area School in Groeslon to open on 1 September 2015, to provide

education for the existing catchment areas of Groeslon, Carmel, and Bronyfoel schools.

A Statutory Notice on the proposal was published in June this year. As objections to the Statutory Notice were

received, the mater was transferred to the Welsh Government for a final decision. This is a short note to update

you that a decision has not yet been received.

In the mean time, background work continues. The design of the proposed Area School has been developed

and local input was received during the process. A planning application for building the school has been

submitted and preliminary discussions about practical issues of developing the site have been conducted. Of

course, commencing any building works will be subject to the Welsh Government’s final decision on the

proposal.

The Council acknowledges that this is a difficult and uncertain period for everyone involved with the Carmel,

Groeslon a Bronyfoel schools. When a final decision is reached, either way - many issues will need to be

addressed, and this will be done in an appropriate and timely manner. The Council will be in contact again if

further information is received.

DIWEDDARIAD AR Y CYNNIG

UPDATE ON THE PROPOSAL

RHAGFYR 2013 CYNGOR GWYNEDD

GWYNEDD COUNCIL DECEMBER 2013

More information on schools organisation plans are available on the Council’s website at

www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation or e-mail [email protected]

Mae mwy o wybodaeth am gynlluniau trefniadaeth ysgolion ar gael ar gwefan y Cyngor

www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwy e-bost [email protected]