Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cynllun AdfywioArdal
Dolgellau /Abermaw2007-2013
(Rhan o FframwaithAdfywio Gwynedd)
www.gwynedd.gov.uk
Cynnwys y DdogfenCynnwys y Cynllun Adfywio Ardal hwn yr adrannau canlynol:
Cyflwyniad
Beth yw Cynllun Adfywio Ardal.Cynllun Adfywio Ardal Dolgellau ac Abermaw
Adran 1 – Proffil o’r Ardal
CyflwyniadFfiniau DaearyddolPoblogaethSymudoledd a MudoNodweddion a Dynodiadau AmgylcheddolAmddifadeddEconomi’r ArdalActifedd EconomaiddTaiIechydGweithgarwch Gwirfoddol
Adran 2 – Dadanosoddiad o Amgylchiadau Lleol
CyflwyniadDadansoddiad CGBC
Adran 3 – Dyheadau’r Ardal
Gweledigaeth Adfywio i Ardal Dolgellau ac AbermawPrif Ddyheadau ac Argraffiadau Cymunedol Prif Ddyheadau ac Argraffiadau Mudiadau Gwirfoddol a BusnesauPrif Ddyheadau ac Argraffiadau’r Gwasanaethau
Adran 4 – Blaenoriaethau Thematig a Gofodol
CyflwyniadBlaenoariaethau Thematig Dolgellau ac AbermawBlaenoriaethau Gofodol Dolgellau ac AbermawCrynodeb
Adran 5 – MeysyddGweithredu
CyflwyniadTabl y Meysydd Gweithredu
Adran 6 – Gweithredu’r Cynllun Adfywio
CyflwyniadCymeradwyo’r Cynllun AdfywioCyrff Arweiniol y Cynllun AdfywioPartneriaid y Cynllun AdfywioAdolygu’r Cynllun Adfywio
1
Cyflwyniad
Beth yw Cynllun Adfywio Ardal?
Mae Strategaeth Adfywio Gwynedd yn gosod cyd-destun a chyfeiriad clir i hollweithgareddau adfywio’r sir a’i chlytwaith o gymunedau unigryw o 2007-2013.
Dogfennau gweithredol yw’r Cynlluniau Adfywio Ardal sy’n rhoi’r StrategaethAdfywio ar waith. Seilir yr ardaloedd ar ddiffiniadau ffiniau'r Cynllun Datblygu Unedol,sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd dibyniaeth.
Cynllun Adfywio Ardal Dolgellau ac Abermaw
Lluniwyd y Cynllun Ardal hwn drwy ymgynghoriad gyda budd ddeiliaid yr ardal, gangynnwys trigolion lleol, asiantaethau sy’n gweithio yn yr ardal a mudiadau sy’ngwasanaethu’r ardal. Mae’r Cynllun Ardal wedi cymryd i ystyriaeth o strategaethaueraill sy’n dylanwadu ac yn cyfrannu tuag at y maes adfywio, gan gynnwysstrategaethau lleol i ardal Dolgellau ac Abermaw.
Ymgynghorwyd gyda budd ddeiliaid drwy ddulliau cyfranogol megis cyfarfodyddcyhoeddus, grwpiau ffocws, holiaduron a thechnegau eraill. Drwy’r ymgynghoriadauhyn lluniwyd darlun cynhwysfawr o natur a sylwedd yr her sy’n wynebu cymunedau’rardal, ynghyd a llunio mesurau i ymateb iddynt. Dymunwn ddiolch i’r budd ddeiliaida oedd yn rhan o’r broses ymgynghori.
Mae’r Cynllun Adfywio hwn yn adnabod y prif fesurau a phrosiectau ar gyfer y maesadfywio yn ardal Dolgellau ac Abermaw ar gyfer 2007-2013. Bwriad y prosiectau hynyw rhoi cyfeiriad i ymdrechion a gweithgareddau adfywio holl bartneriaid y Cynllun,boed yn asiantaethau gwirfoddol, sefydliadau cyhoeddus, busnesau preifat a/neugrwpiau cymunedol.
Mae’r prosiectau adfywio ar gyfer yr ardal yn fwriadol eang er mwyn sicrhau fodhyblygrwydd oddi fewn i’r Cynllun Adfywio i ymateb i, a manteisio ar, unrhyw her agyfyd yn ystod y cyfnod dan sylw.
2
Strategaeth Adfywio
Gwynedd 2007-2013
Cynllun
Adfywio
Ardal
Llyn
Cynllun
Adfywio
Ardal
Porth-
madog
Cynllun
Adfywio
Ardal
Caernar-
fon
Cynllun
Adfywio
Ardal
Dolgellau/
Abermaw.
Cynllun
Adfywio
Ardal
Tywyn /
Machynl-
leth.
Cynllun
Adfywio
Ardal
Bala.
Cynllun
Adfywio
Ardal
Ffestiniog.
Cynllun
Adfywio
Ardal
Bangor.
ADRAN 1
Proffil o’r Ardal.
Cyflwyniad
Gorwedd ardal Dolgellau ac Abermaw yn ne Gwynedd. Mae’n ardal sy’nadnabyddus am ei harfordir, ei thraethau, ei mynyddoedd, ei golygfeydd godidog, eithwristiaeth, ei hadeiladwaith a’i hanes.
Ffiniau Daearyddol
Canolbwyntia Cynllun Adfywio Ardal Dolgellau ac Abermaw ar y dalgylch hwnnwsy’n cwmpasu ffin gorllewinnol ward Llanbedr, Dyffryn Ardudwy ac Abermaw, i benpellaf ward Mawddwy yn y dwyrain; i ffiniau gogleddol Llanbedr, Ganllwyd, Brithdira Llanfachreth ac Mawddwy, a ffiniau deheuol Arthog, Dolgellau, Brithdir aLlanfachreth ac Mawddwy. Cynnwys yr ardal felly 7 ward, a dalgylch 9 cyngorcymuned a thref. Mae ffiniau’r Ardal Adfywio hon yn cyd-fynd a ffiniau'r CynllunDatblygu Unedol.
Poblogaeth
Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd gan ardal Dolgellau ac Abermaw boblogaeth o 9,200gyda’r canran uchaf o’r boblogaeth (55.66%) yn y grwp oedran 20-64, a’r lleiafrif o’rboblogaeth (5.19%) y grwp oedran 0-4. Mae 22.45% o’r boblogaeth yn 65 oed athrosodd. Mae poblogaeth Dolgellau ac Abermaw yn cynrychioli oddeutu 8% oboblogaeth yr holl Sir.
3
Yn 2001 roedd 52% o’r boblogaeth yn ddynion a 48% yn ferched, sy’n cyferbynnuy patrwm sirol.
Yn ôl y Cyfrifiad mae 58% o boblogaeth Dolgellau/Abermaw wedi eu geni yngNghymruond yn fwy nodweddiadol yw bod bron i 58% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg,o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 20.4%.
Symudoledd a Mudo
Dolgellau yw prif dref a chanolfan yr ardal ble lleolir nifer o’r gwasanaethau prifffrwd.
Oddi fewn i’r ardal, wardiau Abermaw, De Dolgellau, Dyffryn Ardudwy aBrithdir,/Llanfachreth/Ganllwydd/Llanelltyd yw’r rhai mwyaf poblog, âCorris/Mawddwy, Gogledd Dolgellau a Llanbedr y rhai lleiaf poblog.
Dengys ffigyrau perchenogaeth car Cyfrifiad 2001 fod symudoledd oddi fewn a thuallan i’r ardal yn ddibynnol ar geir preifat. Mae 56% o’r rheiny sy’n gweithio yn teithioi’r gwaith gyda char, sydd yn ychydig îs na chyfartaledd Gwynedd. Noda’r Cyfrifiadhefyd mai dim ond 22% o aelwydydd Dolgellau/Abermaw nad ydynt yn berchennogcar sydd yn is na chyfartaledd Gwynedd (24%) a chyfartaledd Cymru (26%).
Mae pobl yn symud oddi fewn, i mewn ac allan o’r ardal am nifer o resymau, megisymddeol, gwaith, cysylltiadau teuluol ac ati. Caiff y mudo hwn effaith ar strwythur yboblogaeth yn lleol. Yn 2000 symudodd 2.9% o boblogaeth yr ardal oddi fewn iffiniau Dolgellau/Abermaw. Roedd y canran hwn yn dipyn is na’r cyfartaledd sirol o7.3%. Fodd bynnag, wrth edrych ar batrwm mudo i mewn ac allan o’r ardal mae’namlwg fod Dolgellau/Abermaw yn gweld trosiant poblogaeth amlycach na’rcyfartaledd sirol a chenedlaethol. Yn yr un flwyddyn roedd 6.78% o’r boblogaethwedi mudo i mewn i Dolgellau/Abermaw, a 6.72% wedi mudo allan oDolgellau/Abermaw, sy’n drosiant amlwg uwch na chyfartaledd Gwynedd (4% a3.5% yn eu trefn) a Chymru (3.5% a 3% yn eu trefn).
Nodweddion a dynodiadau amgylcheddol.
Mae tirwedd unigryw ac arbennig i’r ardal ac fe adlewyrchir hyn yn y cynifer oddynodiadau cadwraeth ac amgylcheddol sydd i rannau o’r ardal. Mae dynodiadArdal o Gadwraeth Arbennig (SAC) ar Gadair Idris, Coed Derw a safleoeddystlumod Meirion a Morfa Harlech/Morfa Dyffryn; ac mae Bae Ceredigion yn eigyfanrwydd yn ddynodedig yn Ardal o Gadwraeth Arbennig (SAC) ac yn ArfordirTreftadol (Heritage Coast). Mae sawl Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig(SSSI) yn Nolgellau/Abermaw yn cynnwys yr Afon Fawddach, ardal Cadair Idris arhannau o arfordir Meirionnydd; mae ardal Cadair Idris hefyd yn ddynodedig felGwarchodfa Natur Cenedlaethol (NNR).
Mae traethau Fairbourne/Friog ac Abermaw yn draethau baner lâs o dan rhaglenCadw Cymru’n Daclus.
4
Mae y rhan helaeth o ardal Dolgellau/Abermaw oddi fewn i ffiniau ParcCenedlaethol Eryri, gyda Abermaw ac Fairbourne/Friog yn gorwedd tu allan i’r ffin.Mae Strategaeth ‘Dyfodol Eryri’ yn gosod cyfeiriad i ddatblygiadau’r ParcCenedlaethol dros y pymtheg mlynedd nesaf; mae eu blaenoriaethau strategol argyfer yr arfordir yn cynnwys amddiffyn yr arfordir rhag gor-ddatblygiad, gwellamynediad at yr arfordir a chreu letemau gwyrdd rhwng aneddiadau i rhwystro nhwrhag ymuno (e.e. ar hyd arfordir Ardudwy). Mae eu blaenoriaethau strategol argyfer ardaloedd mewndirol yn cynnwys annog arloesiad mewn amaethyddiaeth,gweithio i wella bio-amrywiaeth a phlannu coedlannau.
Mae nifer helaeth o adeiladau canol tref Abermaw yn ddynodedig fel ardalgadwraeth o dan y Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Amddifadedd
Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2000 (Malc) dynodwyd wardAbermaw, fel y ward mwyaf difreintiedig o Ddolgellau/Abermaw. Oherwydd safle’rward hyn ar y mynegai dynodwyd statws Cymunedau’n Gyntaf iddo. Fe fyddCymunedau’n Gyntaf yn esblygu i rhaglen Cymunedau’n Gyntaf o 2009/2010ymlaen, fe fydd y rhaglen yma yn rhoi mwy o ffocws i waith y Partneriaethau lleol.Mae torri cylch amddifadedd yn yr ardaloedd yn flaenoriaeth oddi fewn iCymunedau’n Gyntaf.
Yn ôl Malc 2005 dynodir mai ward Abermaw 1 ac Abermaw 2 fel y ddwy ward ynDolgellau/Abermaw sy’n ymddangos uchaf ar y mynegai oherwydd euhamddifadedd. Dynodir Abermaw 2 fel y 9fed ward fwyaf difreintiedig oddi fewn iWynedd.
Mae ward Abermaw 1 i’w gweld amlycaf o dan Parth Incwm y mynegai, gan ei bod,ar y cyd â ward Abermaw 2 yn ymddangos yn y 25% uchaf/gwaethaf.
Noda cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm) fod 2.3% oboblogaeth oedran gweithio Dolgellau/Abermaw yn derbyn y lwfans hwn ym misRhagfyr 2005, sydd ychydig yn is na chyfartaledd Gwynedd o 2.6%. Oddi fewn iDolgellau/Abermaw roedd y % uchaf o’r hawlwyr i’w canfod yn ward Abermaw(3.7%), a De Dolgellau (3.1%) a’r % isaf o hawlwyr i’w canfod yn ward Llanbedr(1.4%) a Brithdir/Llanfachreth/Ganllwyd/Llanelltyd (1.4%).
O’r 2.3% o Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith yn Dolgellau/Abermaw mae dros euhanner yn perthyn i’r grwp oedran 25-49, a’r mwyafrif llethol o’r cyfan ohonynt ynddi-waith ers llai na chwe mis. Mae’r patrwm yn Dolgellau/Abermaw yn dilyn ytueddiadau sirol a chenedlaethol.
Yn ôl Malc 2005 dynodir Brithdir & Llanfachreth/Ganllwyd/Llanelltyd aCorris/Mawddwy yn y 25% uchaf/gwaethaf yn y parth mynediad at wasanaeth; maehyn yn cyd-fynd hefo’r gwybodaeth Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyferCanolbarth Cymru (TraCC) mai ardal TraCC sydd a’r mynediad i wasanaethau salafyng Nghymru gyda 30 allan o’r 70 ardal sydd wedi ei hadnabod fel ardaloedd mwyaf
5
pell o wasanaethau yn ardal TraCC.
Economi’r Ardal
Mae economi’r ardal yn ddibynnol iawn ar nifer fechan o sectorau amlwg, sef ysector cyfanwerthu, dosbarthu manwerthu, gwestai, arlwyo / gweinyddiaethcyhoeddus, addysg ac iechyd. O ran cyfleodd cyflogaeth mae 28.8% o’r boblogaethsydd mewn cyflogaeth yn cael eu cyflogi yn y sector a nodir gyntaf uchod, a 28.2%yn gweithio yn yr ail. Mae amlygrwydd a phwysigrwydd y ddau sector yma i’reconomi ac i gyflogaeth ac incwm lleol yn adlewyrchu’r tueddiad sirol achenedlaethol o ddibyniaeth arnynt. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych i annogtwristiaeth graddfa fach mewn llefydd penodol fydd yn bwydo i mewn i’r sectoraucyflogaeth uchod.
Fodd bynnag mae un sector, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn amlwgiawn yn Dolgellau/Abermaw, o’i gymharu â gweddill y sir. Mae 7.3% o’r boblogaethsydd mewn gwaith yn perthyn i’r sector hwn yn yr ardal hon, sydd yn gyfraddsylweddol uwch na’r cyfartaledd sirol o 4.9%. Mae annog arallgyfeirio o fewn ffermioyn cael ei nodi fel un o amcanion strategol y Parc Cenedlaethol.
Mae’r strategaeth Dyfodol Eryri hefyd yn nodi fod angen ceisio dynodi tir ar gyferdefnydd cyflogaeth mewn trefi megis Dolgellau; ac mae cefnogi datblygiad busnessydd yn gyson a phwrpasau’r Parc Cenedlaethol, datblygu busnesau presennol acannog twf graddfa fach yn gysylltiedig gyda’r rhyngrwyd i gyd yn flaenoriaethau ofewn eu gweledigaeth.
Mae gwaith dadgomisiynu Gorsaf Bwer Niwclear Trawsfynydd yn dod i ben 2012ac fe fydd hyn yn cael effaith negyddol ar economi ardal Dolgellau/Abermaw. Mae’rAwdurdod Dadgomisiynu Niwclear (ADN) yn ceisio lleihau yr effaith trwy’rblaenoriaethau canlynol yn eu Polisi Socio-Economaidd, cyflogaeth gyda pwyslais arswyddi “gwerth” uchel, addysg a sgiliau i gefnogi dadgomisiynu ac arallgyfeirio isectorau eraill, isadeiledd economaidd a chymdeithasol ac arallgyfeirio economaiddi ddiwydiannau a sectorau newydd. Mae ardal Meirionnydd yn ardal o flaenoriaethi’r ADN.
Gweithgaredd Economaidd
Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae 72.8% o boblogaeth Dolgellau/Abermaw yn EconomaiddWeithredol, a 66.8% ohonynt mewn cyflogaeth. Er bod y tueddiadau hyn ynadlewyrchu’r patrwm sirol mae un gwahaniaeth amlwg wrth edrych ar nodweddionGweithgarwch Economaidd Dolgellau/Abermaw. O’r 66.8% economaiddweithredol sydd mewn cyflogaeth mae 49.1% yn gyflogedig a bron i 18% ynhunangyflogedig. Mae’r gyfradd hunangyflogedig yn nodweddiadol uwch na’rcyfartaledd sirol o 12.8%, a’r cyfartaledd cenedlaethol o 8.5%.
Mae lefelau diweithdra yn yr ardal yn ychydig is nag yng Ngwynedd, gyda 6% o’rboblogaeth economaidd weithredol yn ddi-waith.
Mae lefelau anweithgarwch economaidd yn Dolgellau/Abermaw yn adlewyrchu’r
6
lefelau sirol, gyda bron i 27.7% o’r holl bobl oed gweithio wedi eu hadnabod yneconomaidd anweithredol.
Mae creu incwm, mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd ac cynyddu rôlmentrau cymdeithasol yn flaenoriaeth yn y thema Swyddi a Busnes oddi fewn iddyheadau Cymunedau’n Gyntaf.
Tai
Mae 70.1% o drigolion Dolgellau/Abermaw yn berchennog ddeiliaid ar eu tai, syddychydig uwch na’r cyfartaledd Sirol.
Mae astudiaeth Mynegai Lluosog Amddifadedd Cymru 2005 yn dangos fod wardAbermaw 2 yn y 10% uchaf/gwaethaf yng Ngwynedd o rhan cyflwr a safon tai.
Mae tai fforddiadwy yn fater pwysig yn ardal Dolgellau/Abermaw ac mae sawlcynllun yn rhan o rhaglen waith yr Hwylusydd Tai Gwledig. Mae cynlluniau ar lefelaugwahanol o ddatblygiad yn y pentrefi canlynol; Dyffryn Ardudwy, Llanbedr, Arthog,Brithdir a Dinas Mawddwy. Mae bwriad i gynnal arolwg tai fforddiadwy yn TrefDolgellau gan Gyngor Gwynedd. Mae tai fforddiadwy yn un o flaenoriaethauthematig Parc Cenedlaethol Eryri dros y pymtheg mlynedd nesaf.
Mae amcan o fewn Strategaeth Dyfodol Eryri y Parc Cenedlaethol yn nodi y byddangen 600 o dai dros gyfnod o bymtheg mlynedd oddi fewn i’r Parc. Mae gan y ParcCenedlaethol Strategaeth Anheddu fydd yn blaenoriaethu lleoliad tai newydd; felcanolfan weinyddol, mae Dolgellau yn ardal o flaenoriaeth.
Un o amcanion strategol y Strategaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd Heddiw yw igreu cartref a chymuned ddiogel i blant a pobl ifanc y Sir ; fe wneir hyn trwy sicrhaucartref diogel a chymuned sy’n cefnogi eu lles corfforol ac emosiynol.
Iechyd
Mae Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd yn ceisio helpuasiantaethau i ymateb yn well drwy gynllunio a gweithio mewn partneriaeth gydaiechyd gwell yn nod gyffredin. Mae tri cam gweithredol wedi ei adnabod i sicrhauhyn; mynd i’r afael a phrif achosion salwch, drwy nodi, rheoli ac atal risgiau presennolac yn y dyfodol, cydweithio i ddatblygu rhaglenni atal salwch a mynd i’r afael amaterion iechyd a gofal cymdeithasol y’n flaenoriaeth, a, gwella mynediad i iechyda gofal cymdeithasol, creu a datblygu ffyrdd newydd o weithio. Y blaenoriaethausydd wedi eu hadnabod o fewn y strategaeth yw; pobl hyn, plant a phobl ifanc arhieni ifanc, clefydau cylchrediad (strôc/clefyd y siwgr), canser (yr ysgyfaint/y fron/ycoluddyn), anafiadau, a, grwpiau poblogaeth eraill.
Mae ward Abermaw 1 i’w gweld amlycaf o dan Parth Iechyd y MynegaiAmddifadedd Lluosog Cymru 2005 gan ei fod yn ymddangos yn y 25%uchaf/gwaethaf. Un o’r blaenoriaethau a nodwyd oddi mewn i’r Strategaeth Iechyd,Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd yw fod angen pwyslais ar gynorthwyo’rcymunedau tlotaf oherwydd cysylltiad cryf rhwng tlodi ac afiechyd. Mae tlodi plant
7
yn cael ei adnabod fel un o flaenoriaethau strategol Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.
Mae dros 22% o boblogaeth ardal Dolgellau/Abermaw gyda salwch cyfyngol tymorhir.
Mae ystadegau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (Adran TraCC) yn dangos mai dimond 25% o bobl Canolbarth Cymru sydd a mynediad i Ysbyty Dawmwain acArgyfwng o fewn awr ar fws neu droed; mae yr un strategaeth yn nodi fod 87% osiwrnai car i Ysbyty Damwain ac Argyfwng yn fwy nac 20 munud.
Gweithgarwch Gwirfoddol.
Yn ystod ymgynghoriad y Cynllun Adfywio mapiwyd y gweithgareddau gwirfoddolyn ardal Dolgellau/Abermaw. Cofnodwyd cyfanswm o 182 grwp / mudiadgwirfoddol sydd wedi eu lleoli ac yn gweithredu oddi fewn i’r ardal. Dengys y niferuchel yma fod traddodiad cryf o weithgarwch gwirfoddol yng nghymunedau’r ardalsydd yn gwneud cyfraniad cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd igymunedau’r ardal.
Mae gwybodaeth am yr ardal hefyd yn arwain ir canlyniad fod nifer fawr o’rgrwpiau/mudiadau uchod yn denu gwirfoddolwyr am y tro cyntaf; mae nifer o rhainyn unigolion sydd wedi symud i mewn i’r ardal ac nad ydynt yn dod o gefndir owirfoddoli.
Yn yr un modd mae 326 o grwpiau cofrestredig Mantell Gwynedd wedi eu dynodifel grwpiau sy’n weithredol ym Meirionnydd, ac felly’n debygol o fod yn gwasanaethurhan helaeth o ardal Dolgellau/Abermaw.
8
ADRAN 2
Dadansoddiad o Amgylchiadau Lleol.
Cyflwyniad
Os yw’r Cynllun hwn am wneud gwahaniaeth tymor hir i’r ardal bydd angen iddiymateb i anghenion yr ardal, ynghyd a manteisio ar y cyfleon a gyfyd.
Rhydd yr adran a ganlyn ddadansoddiad, o’r ymgynghoriadau gyda budd-ddeiliaid a’rproffil ystadegol yn yr adran flaenorol, i adnabod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd abygythiadau’r ardal.
Gweler crynodeb o’r dadansoddiad isod.
Cryfderau.
• Amgylchedd, arfordir ac asedau naturiol yr ardal.
• Cysylltiadau isadeiledd da ar hyd yr arfordir (cysylltiadau trafnidiaethcyhoeddus trên/bws yn bron iawn pob tref/pentref)
• Adnoddau naturiol eithriadol ar gyfer gweithgareddau awyr agored –mewndirol ac arfordirol; a’r potensial i ddatblygu sector awyr agoredllewyrchus yn yr ardal
• Mae pentrefi a chymunedau’r ardal yn llefydd dymunol i fyw ynddynt, drwy’rgalw sydd am gartrefi yno ac ymlyniad pobl leol i’r ardal.
• Mae amrediad eang o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoncymdeithasol ar gael i bawb
• Ymdeimlad cymunedol cryf.
• Canolfan weinyddol Meirionnydd wedi ei leoli yn Nolgellau.
• Busnesau yr ardal yn ddibynnol ar ei gilydd ac yn cyd-weithio yn dda.
• Hanes a diwylliant cryf yr ardal.
• Dolgellau yn leoliad strategol bwysig ar gyfer busnes, y sector gyhoeddus,sefydliadau addysg ac amaeth.
• Dolgellau wedi ei leoli yn dda ar yr A470.
Gwendidau.
• Dibyniaeth cyflogaeth leol ar nifer gyfyngedig o sectorau cyflogaeth eeGweinyddiaeth Gyhoeddus ac Addysg a’r sector Cyfanwerthu/ dosbarthu/ manwerth / gwestai ac arlwyo.
• Diffyg cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd yn lleol i gadw pobl ifanc rhag mudooddi yno.
• Prinder unedau gwaith a chyflogaeth oddi fewn i’r ardal i ddenu buddsoddiad
9
ac i ganiatáu busnesau i ehangu.
• Prinder tai fforddiadwy yn rhai o bentrefi’r ardal.
• Prinder tai rhent (nad ydynt yn rhentu tymhorol) mewn rhai pentrefi oddifewn i’r ardal.
• Prinder gwasanaethau i rai grwpiau oedran penodol megis pobl hyn a phoblifanc.
• Mae pocedi o amddifadedd oddi fewn i rai cymunedau.
• Mae diffyg gweithgareddau cymdeithasol i bobl ifanc
• Galw am ddarpariaeth/cyfleusterau hamdden gwell oddifewn yr ardal
• Darpariaeth trafnidiaeth cyhoeddus angen ei adolygu.
• System budd-daliadau yn gwneud hi’n annodd i weithwyr tymhorol myndyn ol i gyflogaeth yn sydyn.
• Systemau ailgylchu i fusnesau yn aneffeithiol.
Cyfleoedd.
• Mae potensial i ddatblygu’r sector dwristiaeth ansawdd uwch yn yr ardal ynseiliedig ar yr amgylchedd naturiol lleol.
• Gwaith uwchraddio i’r A470 yn manteisio ardal Dolgellau.
• Mae potensial i ddatblygu adeiladau a safleoedd gwag a segur ar gyferunedau gwaith, unedau tai fforddiadwy ac unedau tai rhent.
• Gellir datblygu cynlluniau teithio gwyrdd (llwybrau beicio / gofod parcio irannu ceir) ar gyfer hwyluso symudoledd trigolion / mynediad ymwelwyri’r ardal
• Mae asedau naturiol yr ardal yn cyflwyno eu hunain fel sbardun i ddatblyguy sector gweithgareddau awyr agored.
• Potensial i wella isadeiledd yr arfordir trwy gynllun uwchraddio Pont Briwat
• Potensial i ddenu diwydiant yn ôl i’r ardal ynghyd a chreu swyddi “gwerth”uchel yn lleol.
• Dolgellau ac Abermaw wedi eu hadnabod fel canolfannau gwasanaethu lleolyn y Cynllun Datblygu Unedol
• Cyfleon i greu gwerth i adeiladau a safleoedd gwag/segur trwy eutrosglwyddo i ddefnydd cymunedol
• Defnyddio asedau/mudiadau cymunedol sydd eisioes yn bodoli i ddarparucyfleoedd cymdeithsol, addysgiadol a mynediad i wasanaethau.
• Buddsoddiad yn yr ardal trwy ail-agoriad Maes Awyr Llanbedr
• Cyfleoedd cyflogaeth trwy ddatblygiad newydd Gwesty St David a CholegHarlech.
• Cysylltiadau da yn bodoli rhwng yr arfordir a chanolbarth Lloegr.
10
• Angen cadw’r cyswllt rhwng yr ardal a’r Gogledd ‘Orllewin trwy’r A494
• Angen gweithio ar ddulliau marchnata yr ardal
Bygythiadau.
• Mae rhai sectorau dan fygythiad o barhau i ddirywio ee sectorau prosesubwyd, ac iechyd a gofal.
• Prinder tiroedd ar gyfer dibenion gwaith a chyflogaeth, at ddibenion tai,ffyrdd, buddsoddi.
• Mae cyfradd incwm a chyflogau lleol yn parhau yn isel, o’u cymharu âphrisiau tai lleol.
• Pellter marchnad a chyflenwyr oddi wrth fusnesau a diwydiannau lleol.
• Anghydbwysedd demograffeg oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddioac oherwydd allfudo pobl ifanc.
• Bygythiadau i sefydliadau addysgol yr ardal yn golygu pellterau teithio idderbyn addysg yn cynyddu
• Cau cyfleusterau cyhoeddus yn peri gofid mawr yn y cymunedau lleol
• Pobl ifanc yn gadael yr ardal i chwylio am addysg uwch/swyddi a ddim yndychwelyd i’r ardal.
11
ADRAN 3
Dyheadau’r Ardal.
Gweledigaeth Adfywio i Ardal Dolgellau ac Abermaw.
Noda Strategaeth Adfywio Gwynedd mai’r weledigaeth ar gyfer adfywio rhwng2007-2013 yw datblygu a chefnogi cymunedau cynaladwy sy’n iach, byrlymus ahyfyw, gyda’r hyder i fentro, a gyda’r awydd a’r gallu i gyfrannu eu hatebion eu hunaini’r heriau ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
Prif Ddyheadau ac Argraffiadau Cymunedol:-
12
Creumicro-fusnesau
fydd yn bwydo tyfianty sector awyr
agored.
Doesne ddim pwrpasdatblygu sgiliau os nadoes llefydd y gallantgael eu defnyddio
Datblygu llwybryr arfordir
Mwy o hyblygrwydd
mewn rheoliadau
caniatad cynllunio
Ymestyn y tymor
twristiaeth trwy
gynnig gwyliau
arbennigol
Pwll nofio ynBermo!
Datblygu a gwellaardal HarbwrAbermaw
Datblygu cynllunmarchnata cynhwysfawrar gyfer yr ardal
Cefnogaeth
i gyflogwyr ba
ch
gwledig allu c
ymeryd
pobl ifanc ym
laen
Atal hawl i brynuPobl ifanc yn symydallan o’r ardal i fynd iBrifysgol a ddim yn dodyn ol
Gwell
mynediad i
Ddolgellau ac
Abermaw trwy L
on
Mawddach
Prif Ddyheadau ac Argraffiadau Mudiadau Gwirfoddol a Busnesau:-
Prif Ddyheadau ac Argraffiadau’r Gwasanaethau:-
13
Mae gwelliannau bachyn gallu mynd yn bell, maeangen i pawb dynnu hefo’igilydd i wneudgwahaniaeth
Edrych
ar be fedrith y Sir
gynnig mewn per
thynas a
tiroedd, yr arfordir
ayyb
– cynaladwyedd.
Angen
cydlynnu adnoddau
a marchnata yr ardal
ehangach
Angen ceisio dennudiwydiannauuwch-dechnoleg i’rardal
Angencreu dyfodol o
hyfforddiant a chodigorwelion pobl
Yr
un peth allai wn
eud y
gwahaniaeth mw
yaf i ardal
Meirionnydd fyd
dai datblygu’r
economi i gydfyn
d a’r
amgylchedd
Darparucefnogaeth busnestymor hir
Angen
defnyddio
a
hyrwyddo
asedau
naturiol yr
ardal
Gormodo ganoli yn hytrachna datganoli yn
digwydd Angenmwy o
wrifoddolwyr lleol –mae diffyg gwybodaethynglyn a chyfleongwifoddoli
Angen
datblygu twris
tiaeth
blwyddyn gyfa
n yn
hytrach na th
wristiaeth
sy’n ddibynol
ar
dywydd
Angen
gwelliannau i
’r
ffyrdd lleol –
yn
enwedig yr A
470
ADRAN 4
Blaenoriaethau Thematig a Gofodol.
Cyflwyniad i’r adran.
Cyflwynir yma'r blaenoriaethau gofodol a thematig ar gyfer ardal Dolgellau acAbermaw gan ddilyn y diffiniadau a roddir yn y Strategaeth Adfywio.
Cyfrwng yw blaenoriaethu ar gyfer targedu ymdrechion adfywio i’r dyfodol, ond nidydyw’n fodd o ddiystyru cymuned a/neu weithgaredd oddi fewn i’r ardal pe cyfydcyfle a/neu her y dylid ymateb iddo.
Mae’r blaenoriaethau thematig isod wedi eu hadnabod drwy gasglu a dadansoddicanfyddiadau’r ymgynghori. Seilir y blaenoriaethau hyn ar broffil ystadegol yr ardal,ar ddyheadau ac argraffiadau'r budd-ddeiliaid amrywiol, ac ar y dadansoddiad CGCByn adran 2. Bydd y blaenoriaethau thematig yn cyfeirio gweithgaredd adfywio ynDolgellau ac Abermaw er mwyn sicrhau'r budd mwyaf o’r adnoddau a’r cyllid syddar gael, ac i barhau i wneud Dolgellau ac Abermaw yn lle dai fyw, gweithio a mentroynddi.
Mae’r blaenoriaethau gofodol isod wedi eu hadnabod drwy’r MALLC 2000 a 2005a thrwy strategaethau datblygu rhanbarthol a chenedlaethol megis y CynllunGofodol. Bydd y blaenoriaethau gofodol yn cyfeirio ymdrechion adfywio igymunedau ac ardaloedd penodol oddi fewn i Dolgellau ac Abermaw, er mwynsicrhau ymateb i angen ac i fanteisio ar gyfleon twf.
Blaenoriaethau Thematig Ardal Dolgellau ac Abermaw.
Mae’r Cynllun Adfywio Ardal hwn yn adnabod mai’r themâu canlynol yw prifflaenoriaethau’r ardal ar gyfer adfywio.
1 - Lledaenu twf a ffyniant economaidd.
2 – Amgylchedd ac Asedau Naturiol.
3 - Tai ac Unedau Byw
4 – Cymunedau Byw
5 – Gwasanaethau Lleol
Blaenoriaethau Gofodol Dolgellau ac Abermaw.
Cymunedau o Angen.
(a) Mae rhai cymunedau yn amlygu lefelau incwm isel, lefelau uchel o waeleddtymor hir, niferoedd uchel o rai sydd ddim mewn gwaith naill ai oherwydd
14
diffyg swyddi, diffyg iechyd neu rwystrau eraill.
Gan ddefnyddio Parth Incwm Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005 fel sail iadnabod y cymunedau hyn o angen oddi fewn i ardal Dolgellau/Abermaw gellirnodi fod y wardiau canlynol yn ymddangos yn y 50% uchaf o’r parth hwn:-
Abermaw
(b) Mae cymunedau eraill, yn bennaf rhai gwledig, lle mae newidiadau sylfaenoli’w diwydiant traddodiadol, (sef amaeth) ac, oherwydd eu pellter oddi wrthwasanaethau, cyfleon gwaith a marchnadoedd, sydd heb gyfleon newyddamlwg i’w pobl ifanc. Mae sefyllfa ymylol y cymunedau hyn yn arwain atallfudo, lleihad yn y cyfraddau genedigaeth, a pherygl i hyfywdra a goroesiadrhai o gymunedau mwyaf Cymreig y sir.
Gan ddefnyddio Parth Mynediad i Wasanaeth, Mynegai AmddifadeddLluosog Cymru 2005 fel sail i adnabod y cymunedau hyn o angen oddi fewni ardal Dolgellau/Abermaw, gellir nodi fod 3 allan o 7 ward yr ardal yn disgynyn y 25% uchaf o’r parth hwn, sef:-
Brithdir & Llanfachreth / Ganllwyd / Llanelltyd,Mawddwy,Llanbedr.
Cymunedau o Gyfle
(c) Mae rhai cymunedau a bröydd sydd, oherwydd eu lleoliad ffafriol yn cynnigcyfleon twf amlwg. Adnabyddir y cymunedau ac anheddau allweddol hyndrwy Gynllun Gofodol Cymru.
Adwaenir tref Dolgellau fel canolfan bwysig ar gyfer gwasanaethau yn yrisranbarth (Canolbarth) yn ôl Strategaeth Gofodol Canolbarth Cymru.Golyga hyn bod y Strategaeth hon yn cydnabod bod ardal Dolgellau ynganolbwynt deheuol i Dde Gwynedd ar gyfer darparu gwasanaethau,cyflogaeth a ffocws i’r rhan hon o’r sir.
Yn ategol mae Bae Ceredigion, sy’n cynnwys arfordir Meirionnydd i gyd,wedi ei adnabod a’i ddynodi fel ardal o gyfle yng Nghynllun GofodolCanolbarth Cymru.
Mae gwaith yn parhau i’w wneud ar ddatblygu cynnwys y Cynllun Gofodola rôl yr aneddiadau a’r canolfannau allweddol.
(ch) Mae cymunedau eraill sydd gyda safleoedd sydd eisoes yn cael eu hadnabodfel rhai strategol yn cynnig ac yn creu cyfleon twf sylweddol i fröydd eang.
Mae i Dolgellau fel y brif ganolfan, oddi fewn i ardal Dolgellau/Abermaw, sy’ngwasanaethu cymunedau yr ardal, rôl strategol i’w chwarae wrth ddatblygucyfleon twf i’r ardal ehangach. Yn ategol i hyn mae rhai tiroedd eraill wedi
15
16
eu hadnabod fel rhai ar gyfer cyflogaeth oddi fewn i Ddolgellau ar gyferysgogi cyfleon cyflogaeth pellach i’r ardal.
Yn ategol mae Bae Ceredigion wedi cael ei adnabod fel safle strategol ofewn Strategaeth Arfordirol Cymru; ac o fewn y Strategaeth mae Abermawwedi ei adnabod fel cyrchfan ble mae twristiaeth yn rhan elfennol o’reconomi leol.
Bydd yn hanfodol sicrhau manteisio ar y dynodiadau a’r tiroedd / safleoeddhyn a chadw mewn cof y cyfyngiadau datblygu a bygythiadau llifogydd sy’nwynebu rhannau o’r ardal.
Crynodeb.
Golyga hyn fod i Ardal Dolgellau/Abermaw y blaenoriaethau gofodol canlynol:-
• 4 Cymuned o Angen. (Abermaw, Brithdir & Llanfachreth / Ganllwyd /Llanelltyd, Mawddwy, Llanbedr).
Dengys y map isod y Blaenoriaethau Gofodol o Angen isod:-
17
Dengys y map isod y Blaenoriaethau Gofodol o Gyfle isod:-
ADRAN 5.Meysydd Gweithredu.
Cyflwyniad.
Rhestrir isod y meysydd gweithredu ar gyfer y maes adfywio i ardalDolgellau/Abermaw ar gyfer 2008-2013.
Bwriad y meysydd gweithredu yw rhoi cyfeiriad, yn Dolgellau/Abermaw, iymdrechion a gweithgareddau adfywio holl bartneriaid y Cynllun, boed ynasiantaethau gwirfoddol, sefydliadau cyhoeddus, busnesau preifat a/neu grwpiaucymunedol. Bydd y meysydd hyn, ynghyd a gweithgareddau a chynlluniau'rStrategaeth Adfywio yn fodd o gyflawni’r weledigaeth o adfywioDolgellau/Abermaw.
Mae’r meysydd gweithredu a amlinellir isod yn ymateb i’r blaenoriaethau thematiga gofodol.
Nid yw’r tabl isod yn rhestr gynhwysfawr o’r hyn sydd ei angen yn yr ardal, ond ynhytrach, yn adnabod y meysydd hynny fydd yn sicrhau ac yn lledaenu'r budd mwyafi’r ardal.
Mae’r meysydd yn fwriadol eang er mwyn sicrhau bod hyblygrwydd yn y Cynllun iganiatáu ymateb i heriau, a manteisio ar gyfleon, fel y cyfyd yn ystod y cyfnod o2007-2013. Mae gan gyrff, asiantaethau, a chymunedau ar draws yr ardalweithgareddau, cynlluniau a mentrau adfywio penodol sydd naill ai yn cael eudatblygu ar hyn o bryd neu yn cael eu gweithredu. Ni fydd y meysydd isod yndiystyru’r ymdrechion hynny, ond yn fodd o dynnu gweithgareddau tebyg at ei gilydd,lledaenu cynlluniau llwyddiannus ac ymarfer da yn yr ardal a thu hwnt.
18
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Lle
dae
nu T
wf a
Dolgellau
Canfod defnydd i diroedd a safleoedd
Adnabod opsiynau datblygu
Cynulliad
Cyngor
Nifer hectar a ddaw yn
Ffy
nia
nia
nt
datblygu sydd oddi fewn i’r ardal ar gyfer
ar gyfer safleoedd strategol
Cenedlaethol
Gwynedd,
ôl i ddefnydd. Nifer o
Eco
nom
aidd
anghenion cyflogaeth;
megis Stad Ddiwydiannol
Cymru
Asiantaeth yr
unedau gwaith /
ac i ddiwallu anghenion unedau
y Marian a Iard y Llew,
amgylchedd.
mentrau/cyflogaeth a
gwaith a mentrau lleol.
Dolgellau.
ddarperir. Nifer o
swyddi a greuir.
Lle
dae
nu T
wf a
Cymunedau
Sicrhau isadeiledd technoleg
Datblygu y rhwydwaith
Cynulliad
Ffy
nia
nia
nt
o Angen:-
gwybodaeth o'r radd flaenaf i
band eang a 'fibrespeed'
Cenedlaethol
Eco
nom
aidd
hwyluso twf busnesau
i Feirionnydd.
Cymru
Lle
dae
nu T
wf a
Sicrhau cynaladwyedd cymunedau
Ehangu ar y ddarpariaeth o
Ffy
nia
nia
nt
gwledig drwy greu darpariaeth ar
unedau gwaith i fentrau a
Eco
nom
aidd
gyfer unedau gwaith.
busnesau mewn cymunedau
gwledig.
Lle
dae
nu T
wf a
Manteisio ar asedau'r ardal er mwyn
Adnabod cyfleon i gryfhau ac
Grwp
Ffy
nia
nia
nt
cryfhau'rsector awyr agored /
ychwanegu gwerth at y
twristiaeth
Eco
nom
aidd
gweithgareddau dwr.
sector awyr agored a
Dolgellau,
gweithagreddau dwr yn lleol.
Barmouth
Publicity
Association,
Cymunedau'n
Gyntaf
Lle
dae
nu T
wf a
Dinas Mawddwy
Datblygu sgiliau a mentrau yn
Menter
Ffy
nia
nia
nt
seiliedig ar y sector amaeth /
Mawddwy
Eco
nom
aidd
cynnyrch lleol
Lle
dae
nu T
wf a
Barmouth
Datblygu ac uwchraddio isadeiledd
Datblyg rhaglen o welliannau i
Barmouth
Cyngor
Nifer o fusensau morwrol
Ffy
nia
nia
nt
strategol Bae Ceredigion.
farina ac harborau’r ardal er
Harbour
Gwynedd,
sydd yn cael eu
Eco
nom
aidd
mwyn hwyluso defnydd
Improvement
Cyngor Tref
datblygu/cefnogi; nifer o
in order to facilitate
Group
Abermaw,
swyddi a greuir.
cynaliadwy o'r arfordir
Cyngor
19
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Cymuned Arthog, Parc
Cenedlaethol Eryri,
Cyngor Cenfgwlad.
Lle
dae
nu T
wf a
Hyrwyddo atyniadau a chynnig yr
Creu cynllun marchnata
Partneriaeth
Cyngor Gwynedd, Parc
Nifer o ymwelwyr
Ffy
nia
nia
nt
arfordir i dargedu ymwelwyr
ar y cyd i hyrwyddo'r
Twristiaeth
Cenedlaethol Eryri,
i'r ardal; nifer
Eco
nom
aidd
arfordir fel cyrchfan
Canolbarth
Croeso Cymru, Grwpiau
o 'hits' ar y
dwristaidd.
Cymru
Cymunedol
wefan
Lle
dae
nu T
wf a
Manteisio ar rôl Coed y Brenin fel
Adnabod dulliau o gysylltu
Cyngor Gwynedd,
Nifer o ymwelwyr;
Ffy
nia
nia
nt
canolbwynt cenedlaethol i feicio mynydd.
canolfannau beicio a
Partneriaeth Twristiaeth
Eco
nom
aidd
gweithagreddau awyr agored
Canolbarth Cymru
oddi fewn i Feirionnydd.
Cyngor Tref Dolgellau,
Partneriaeth Dolgellau,
Darparwyr Awyr Agored
Lle
dae
nu T
wf a
Datblygu sgiliau a mentergarwch i
Datblygu rhaglen datblygu
Grwp twristiaeth
Ffy
nia
nia
nt
gynnig cyfleon cyflogaeth yn lleol
sgiliau galwedigaethol i’r
Dolgellau, Barmouth
Eco
nom
aidd
sydd ynghlwm â’r sector awyr
sector awyr agored.
Publicity Association.
agored a gweithagreddau dwr.
Lle
dae
nu T
wf a
Datblygu rhaglen er mwyn
Cymunedau'n
Ffy
nia
nia
nt
cyflwyno ac ehangu ar
Gyntaf neu
Eco
nom
aidd
gyfranogiad trigolion lleol yn
Partneriaeth
enwedig pobl ifanc yn y
Awyr Agored
sector gweithagreddau dwr
ac awyr agored.
Lle
dae
nu T
wf a
Tynnu prif atyniadau / chyrchfannau
Datblygu rhaglen farchnata
Partneriaeth
Cyngor Gwynedd, Parc
Ffy
nia
nia
nt
twristaidd yr ardal ynghyd i
sy'n adeiladu ar glystyru
Twristiaeth
Cenedlaethol Eryri,
Eco
nom
aidd
farchnata ar y cyd er mwyn pecynnu
atyniadau / gweithagreddau /
Canolbarth
Grwpiau Cymunedol
'cynnig'' Meirionnydd i'r ymwelwr.
cyrchfannau gyda'i gilydd.
Cymru
20
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Lle
dae
nu T
wf a
Sicrhau fod safon lletyai ac
Hyrwyddo a chodi
Croeso Cymru
Ffy
nia
nia
nt
atyniadau twristaidd yn yr ardal o'r
ymwybyddiaeth o gynlluniau
Partneriaeth
Eco
nom
aidd
ansawdd gorau i ddenu ymwlewyr
achredu.
Twristiaeth
gydol y flwyddyn.
Canolbarth
Cymru
Lle
dae
nu T
wf a
Datblygu'r sector ynni adnewyddol
Rhoi'r sgiliau perthnasol i bobl
Coleg Meirion
Ffy
nia
nia
nt
ifanc gael mynediad i'r maes
Dwyfor (Llandrillo)
Eco
nom
aidd
Cefnogi'r sector gynhyrchu
Dulas / CAT
deunyddiau a thechnolegau
ynni adnewyddol
Dinas Mawddwy
Dablygu cynlluniau ynni
cymunedol (e.e. biomass
/ hydro / gwynt)
Lle
dae
nu T
wf a
Datblygu'r sector galwadigaethol i
sicrhau mynediad pobl i
Coleg Meirion
Ffy
nia
nia
nt
ymateb i gynlluniau lleol (e.e.
ganolfannau sgiliau
Dwyfor (Llandrillo)
Eco
nom
aidd
adeiladwaith, trydannol)
galwadigaethol
Am
gylc
hedd a
c D
olg
ella
uGwarchod treftadaeth adeiledig ac
Adnabod rhaglen o
Parc
Cyngor Gwynedd,
asedau
nat
uri
ol
adeiladau rhestredig niferus oddi
weithagreddau i gynnal,
Cenedlaethol
Partneriaeth Dolgellau
fewn i'r ardal.
gwarchod ac uwchraddio
Eryri
DE&T, Loteri Treftadaeth
adeiladau treftadaeth tref
Dolgellau (yn cynnwys
adeiladau preifat).
Am
gylc
hedd a
c Gwella hygyrchedd a defnydd o'r arfordir
Datblygu rhaglen o welliannau
Cyngor Gwynedd
asedau
nat
uri
ol
ffisegol, dehongli, mynediad
Cyngor Cefngwlad,
at yr arfordir yn gysylltiedig
DE&T, Grwpiau
â Llwybr yr Arfordir
Cymunedol.
21
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Am
gylc
hedd a
c
Gwella trafnidiaeth a symudoledd
Cefnogi ac adnabod cynlluniau
asedau
nat
uri
ol
pobl oddi fewn i’r ardal ac i mewn
teithio gwyrdd a chynaliadwy
ac allan o’r ardal.
ar gyfer symudoledd ymysg
trigolion ac ymwelwyr.
Am
gylc
hedd a
c Manteisio ar arbenigedd oddi fewn
asedau
nat
uri
ol
i'r ardal yn y sector awyr agored
(e.e. beicio, cerdded, myndda,
gweithgareddau dwr)
Am
gylc
hedd a
c Llanymawddwy,
Manteisio ar ddynodiad biosffer Dyfi
Codi ymwybyddiaeth am
asedau
nat
uri
ol
Dinas Mawddwy,
fel yr unig ardal biosffer yng Nghymru
bwysigrwydd yr ardal biosffer
Mallwyd, Aberangell
i gymunedau yr ardal
- ardaloedd pontio
Datblygu economi hunan-
gynhaliolsydd wedi ei sefydlu
o gwmpas adnoddau lleol,
ein dibyniaeth ar olew a nwy
drud, a pharchu a gofalu
am yr iaith Gymraeg yn
ogystal a gofalu am gynefin
bregus a phlanhigion prin
datblygu brand o dwristiaeth
cynaladwy yn gysylltiedig a'r
biosffer.
Am
gylc
hedd a
c Dolgellau /
Paratoi cymunedau at newid hinsawdd
Uwchraddio amddiffynfeydd
EAW
asedau
nat
uri
ol
Fairbourne / Friog
llifogydd
Cym
unedau
Byw
Adnabod dulliau blaengar i ymateb i
Adnabod opsiynau posibl ar
adeiladau segur sy’n cymryd ystyriaeth o
gyfer adeiladau segur sy'n
cymdeithasol cymunedau’r ardal.
dod ar gael ar gyfer
defnydd cymunedol.
22
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Cym
unedau
Byw
Hyrwyddo a gwarchod y defnydd o'r
Adnabod a chydlynu cyfres o
iaith Gymraeg yng nghymunedau'r ardal.
becynnau i hyrwyddo’r iaith
Gymraeg yn y sector breifat,
gwirfoddol ac yn gymunedol.
Cym
unedau
Byw
Bermo
Sicrhau mynediad unigolion bregus
Adnabod darparwyr
Cymunedau'n
i wasanaethau iechyd a lles yn
gwasanaethau addas
Gyntaf
arbennig yn ardal Abermaw
i dargedu grwpiau bregus
yn Abermaw.
Cym
unedau
Byw
Uchafu defnydd a chynaladwyedd
Targedu adnoddau ar gyfer
asedau cymunedol presennol.
uwchraddio a datblygu
adeiladau sydd er defnydd
cymunedol.
Tai
ac
Unedau
Byw
Sicrhau cyflenwad o dai preifat
Darparu cymorth i brynu
addas ac o ansawdd i drigolion.
Tai
ac
Unedau
Byw
Bermo
Adnabod dulliau o ddiwallu
anghenion
Tai
ac
Unedau
Byw
Cymunedau o Gyfle:- Sicrhau cyflenwad amrywiol a
Assess affordable housing
digonol o dai yn yr ardal i gwrdd ag
needs in the area's rural and
anghenion teuluoedd a phobl ifanc lleol.
coastal towns.
Bermo / Dolgellau
Asesu anghenion tai yn
nhrefi yr ardal
23
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Tai
ac
Unedau
Byw
Brithdir &
Darparu unedau tai fforddiadwy, yn
Hwyluso datblygu cynlluniau
Llanfachreth-
seiliedig ar angen.
Tai fforddiadwy.
canfod safle /
Llanelltyd & Bont
Adnabod dulliau blaengar i ymateb i
Adnabod opsiynau posibl ar
Ddu-cais cynllunio ar adeiladau segur sy’n cymryd
gyfer adeiladau segur sy'n
y gweill / Ganllwyd - ystyriaeth o anghenion tai
dod ar gael ar gyfer
cychwynnol / Arthogcymunedau’r ardal.
defnydd tai ac unedau byw.
cais cynllunio wedi
methu / Mawddwy
Sicrhau cyflenwad o dai cymdeithasol
Hyrwyddo Safon Ansawdd Tai Cyngor Gwynedd
3 uned / Bermo
addas ac o ansawdd i drigolion yr ardal.
Cymru ymysg tai cyngor yn
- dim
yr ardal.
Tai
ac
Unedau
Byw
Lleihau ol troed carbon / gwella
Cynllun insiwleiddio?
effeithlonrwydd tai
Cynllun yma i helpu?
Cynllun henoed (60+)?
Tai
ac
Unedau
Byw
Sicrhau cyflenwad o dai cymdeithasol
Cynllun Trosglwyddo stoc dai
Cyngor Gwynedd
addas ac o ansawdd i drigolion yr ardal.
Gweithredu ar safon ansawdd
Cartrefi Cymunedol
tai Cymru
Gwynedd
Tai
ac
Unedau
Byw
Gwella mynediad pobl i wybodaeth am
wasanaethau tai, tai gwag, rhestr aros ayyb
Tai
ac
Unedau
Byw
Bermo
Ymateb i anghenion digartrefedd
Gw
asan
aeth
au L
leolCymunedau
Lleihau a dileu rhwystrau y mae
Cydlynu gwasanaethau
o Gyfle:-
unigolion yn ei wynebu wrth geisio
cynghori a chefnogi pobl yn
dychwelyd i waith
nol i waith / hyfforddiant.
24
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Gw
asan
aeth
au L
leol
Sicrhau gwasanaethau i fusnesau
Cydlynu gwasanaethau
bach gwledig er mwyn cryfhau a
cynghori busnes yn lleol.
digoleu eu cynaladwyedd i'r dyfodol.
Gw
asan
aeth
au L
leol
Cefnogi ymdrechion arallgyfeirio
Ymateb i derfyn
ymysg y sector amaethyddol
cymhorthdaliadau
amaethyddol megis Tir Gofal /
Single Farm Payments
Gw
asan
aeth
au L
leolBermo
Sicrhau mynediad i wasanaethau
Adnabod gwagleodd mewn
prif ffrwd yn lleol.
darpariaeth gwasanaethau
yn lleol.
Gw
asan
aeth
au L
leol
Manteisio ar rôl tref Dolgellau fel
Cydlynu a chodi
canolfan wasanaethu i’r ardal
ymwybyddiaeth o
ehangach ar gyfer trigolion,
ddarpariaeth gwasanaethau
ymwelwyr a busnesau lleol.
lleol sydd ar gael o Ddolgellau.
Gw
asan
aeth
au L
leolDolgellau
Datblygu Dolgellau fel canolfan
addysgiadol i Dde y Sir
Gw
asan
aeth
au L
leol
Datblygu technegau newydd ar gyfer
Adnabod dulliau gwahanol o
hwyluso mynediad i ystod o wasanaethau.
gael mynediad i wasanaethau
a'u hyrwyddo ymysg trigolion
lleol.
Gw
asan
aeth
au L
leol
Datblygu dulliau newydd ac arloesol
Adnabod cyfleon i resymoli
ar gyfer darparu gwasanaethau prif
gwasanaethau, a datblygu a
ffrwd yn lleol e.e. cyngor busnes /
chynllunio gwasanaethau ar y
TIC / bws ieuenctid
cyd gyda chyfleon i gyflenwyr
/darparywr lleol.
25
Bla
enori
aeth
auB
laenori
aeth
auA
mca
nio
n G
weithre
du
Cam
au G
weithre
du
Corf
f Arw
ein
iol
Par
tneri
aid
Tar
gedau
Them
atig
Gofo
dol
Gw
asan
aeth
au L
leol
Darparu gwasanaethau cyfoes a
Adnabod dullliau o dynnu
hawdd cael mynediad iddynt ar
gwasanaethau cynghori a
gyfer cefnogi a chynghori pobl ifanc
chefnogi pobl ifanc at ei
yr ardal.
gilydd a'i ddatlygu'n lleol.
Gw
asan
aeth
au L
leol
Lleihau effeithiau tlodi plant drwy
Cydlynu gwasanaethau
Timau Integredig
sicrhau mynediad teuluoedd bregus
blynyddoedd cynnar a
Teulu
i wasanaethau prif ffrwd a rhaglenni
chefnogi teulu i gyrraedd
targed.
teuluoedd mwyaf bregus yn
arbennig yn Abermaw.
ADRAN 6
Gweithredu’r Cynllun Ardal.
Cyflwyniad.
Caiff y Cynllun Ardal ei gydlynu a’i arwain gan Gyngor Gwynedd, o dan BartneriaethEconomaidd Gwynedd. Bydd gweithredu’r cynllun yn ddibynnol ar adnoddau achyllid, ac ar ymrwymiad a gallu’r holl bartneriaid i gyfrannu.
Cymeradwyo’r Cynllun Adfywio.
Y Swyddog Adfywio Bro perthnasol sydd yn gyfrifol am arwain y gwaith ymgynghoria dadansoddi i greu’r Cynllun Adfywio. Bydd y ddogfen Cynllun Ardal yn cael eullunio gan y Swyddog Adfywio yn seiliedig ar y Model 3 Cam sydd wedi ei gynlluniofel teclyn ar gyfer paratoi Cynlluniau Adfywio’r Sir.
Caiff pob Cynllun Adfywio Ardal ei gyflwyno i’r Budd-ddeiliaid Allweddol sydd wedicyfrannu i’r cynllun ar gyfer eu cymeradwyaeth a’u hymrwymiad.
Dengys yr isod y broses gymeradwyo ar gyfer y Cynllun Adfywio:-
26
Ymgynghori
Budd-ddeiliaid
Dadansoddi’r Ymgynghori
Llunio Dogfen
Cynllun Adfywio Ardal
Cyflwyno’r ddogfen i Grwp
Budd-ddeiliaid Lleol
Cyflwyno’r Ddogfen i
Bartneriaeth Economaidd
Gwynedd
Adrodd i Fwrdd
Gwynedd ar y Cyd
27
Cyrff Arweiniol y Cynllun Adfywio.
Bydd Corff Arweiniol yn cymryd yr awenau wrth yrru pob cynllun unigol yn ei flaena gallent fod yn gorff o’r sector gyhoeddus, breifat a/neu wirfoddol. Gall y CorffArweiniol amrywio o un prosiect i’r llall yn ddibynnol ar eu harbenigedd mewnmaes penodol, eu hadnoddau a’u haddasrwydd i’r prosiect.
Nid y Cyngor fydd yn arwain ar y prosiectau a’r cynlluniau unigol i gyd, gan fodpartneriaid eraill mewn gwell sefyllfa a gyda gwell arbenigedd i wneud hynny.Adwaenir y Cyrff Arweiniol yn ystod y broses ymgynghori. Mae rhai cyrff eisoes yndatblygu a/neu weithredu cynlluniau ac felly nid yw’n fwriad tanseilio’r gwaith hwnnw.Bydd y broses ymgynghori hefyd yn gyfle i adnabod Cyrff Arweiniol ar gyferprosiectau nad ydynt wedi eu datblygu eto, drwy roi cyfle i grwpiau a phartneriaidddatgan diddordeb mewn rhai meysydd. Bydd y Swyddog Adfywio yn gyfrifol amgofnodi’r diddordeb hwn ac ailgysylltu gyda’r cyrff hynny i gytuno eu rôl. Mewnachosion pan na fydd corff arweiniol na gyrwyr eraill yn lleol i ddatblygu cynllunbydd y Swyddog Adfywio yn rhagweithiol wrth dynnu unigolion ac arbenigeddau atei gilydd.
Pan fydd Corff Arweiniol mewn lle i yrru’r maen i’r wal gyda phrosiectau’r CynllunArdal bydd Swyddog Adfywio yr ardal ar gael i gynnig cefnogaeth iddynt. Disgwyliry bydd y galw am gymorth oddi wrth y Swyddog Adfywio yn amrywio ymysg ycyrff arweiniol. Bydd cysylltiadau clir a rheolaidd rhwng y Cyrff Arweiniol a’r SwyddogAdfywio er mwyn sicrhau adrodd ar gynnydd a monitro cyrhaeddiad y Cynllun Ardalyn erbyn ei thargedau.
Partneriaid y Cynllun Adfywio.
Bydd i bob prosiect a chorff arweiniol ei phartneriaid ei hun. Rôl y Corff Arweiniolyw tynnu ynghyd y partneriaid ar gyfer gweithredu. Bydd y Cyngor, drwy’r SwyddogAdfywio Bro, yn sicrhau cefnogaeth i bartneriaid gweithredol y Cynllun Ardal ichwarae rôl wrth ddatblygu a chyflawni un neu fwy o brosiectau’r Cynllun. Bydd yrôl gefnogol hon amlycaf ymysg y sector gymunedol ble bydd y Swyddog Adfywioyn hwyluso cyfraniad grwpiau cymunedol, ac yn sicrhau cynhwysiad cynlluniaubychain cymunedol i’r meysydd gweithredu. Bydd amser a chefnogaeth y SwyddogAdfywio ar gael i’r cynlluniau a grwpiau bach hyn sy’n cyfrannu i’r ProsiectauGweithredu a restrir yn Adran 5. Caiff unrhyw gynllun cymunedol arall, nad ydyntyn cyfrannu tuag at y Prosiectau Gweithredu, gefnogaeth y Swyddog Adfywio Brofel y bydd amser ac adnoddau yn caniatáu.
Adolygu’r Cynllun Adfywio.
Caiff pob Cynllun Adfywio Ardal ei adolygu yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd,adrodd ar dargedau a diweddaru’r Meysydd Gweithredu.
Caiff Cynllun Adfywio Ardal Dolgellau/Abermaw ei monitro gan y Swyddog Adfywiobob 6 mis.
28
Yn ystod y cyfnod monitro, adolygu ac oes y cynllun cyfan gall amgylchiadau lleolyn ardal Dolgellau/Abermaw newid. Yn ystod y cyfnod gall cyfle, her neu brosiectnewydd godi gan orfodi’r Cynllun Adfywio i ailedrych ar ei blaenoriaethau, a’rmeysydd gweithredu yn ei sgil. Rôl y Swyddog Adfywio Bro yw adnabod y cyfleon,heriau a’r prosiectau hyn. Pan fydd gofyn am ymateb i’r newid hwn bydd y SwyddogAdfywio Bro yn ymgeisio i sicrhau cydblethiad gyda’r hyn sy’n digwydd yn baroddrwy’r Cynllun. Fodd bynnag, bydd rhai sefyllfaoedd yn codi nad ydynt yn disgyn yndwt i’r Prosiectau Gweithredu a restrir yn Adran 5 uchod. Bryd hynny bydd disgwyli’r Swyddog asesu effaith ymateb, a pheidio ymateb, i’r sefyllfa ar y maes adfywio ynlleol, ac yna tynnu ynghyd partneriaid allweddol i adnabod dull gweithredu a chorffarweiniol.