48
CODI’R DDRAIG MANIFFESTO UKIP ETHOLIADAU CYNULLIAD CYMRU 2016

Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

CODI’R DDRAIGMANIFFESTO UKIP

ETHOLIADAU CYNULLIAD CYMRU 2016

Page 2: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

DATGANOLI A CHYNULLIAD CYMRU

Page 3: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Gall Cymru wneud yn llawer iawn yn well. Mae ar UKIP eisiau gwneud i ddatganoli weithio. Mae’r hanes o ffaeleddau dan ddwy flynedd ar bymtheg o reoli gan yr hyn sy’n agos at fod yn un blaid yn golygu bod angen Cynulliad newydd arnom a dull gweithredu gwahanol gydag UKIP yn sefyll dros synnwyr cyffredin.

Mae UKIP yn derbyn penderfyniad dau refferendwm Cymreig ar ddatganoli. Serch hynny, credwn fod sefydliad Bae Caerdydd yn ceisio mynd â ni lawer ymhellach nag y cytunwyd gan bobl Cymru yn 2011.

BIL CYMRUMae UKIP yn gwrthwynebu Bil Cymru am ei fod yn anhydlynol a chredwn y bydd y model cadw pwerau fel y’i cynigir yn creu pwysau diatal am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. Byddai hyn yn gostus ac yn chwalu awdurdodaeth bresennol Cymru a Lloegr, sydd wedi ein gwasanaethu’n dda am yn agos i hanner mileniwm.

CYMRU DDYLANWADOL O FEWN TEYRNAS UNEDIG GREFMae UKIP yn cydnabod y bu craffu annigonol yng Nghynulliad Cymru, ond nid ydym yn cefnogi’r cynnydd costus yn nifer aelodau’r Cynulliad (ACau) sy’n cael ei gynnig gan y pleidiau eraill. Yn lle hynny, rydym yn cefnogi dull llywodraeth “cydgysylltiedig” sy’n cynnwys Aelodau Seneddol Cymreig San Steffan, y mae’u cyflog wedi’i godi tra bo’u cyfrifoldebau wedi’u torri, yn ogystal â chynghorwyr lleol.

Mae Aelodau Seneddol Cymru wedi’u heithrio bellach o’r rhan fwyaf o faterion sydd a wnelo â Lloegr yn unig sydd wedi’u datganoli i’r Cynulliad yng Nghymru. Cred UKIP, tra erys deugain o Aelodau Seneddol o Gymru, bod eu hamser rhydd sy’n deillio o hynny yn golygu y gellir defnyddio Aelodau Seneddol i gynorthwyo’r Cynulliad yng Nghaerdydd. Gallai cynnwys cynghorwyr lleol yn y broses helpu i sicrhau hefyd fod pryderon gwerin gwlad yn cael eu hystyried yn fwy cywir a chynhwysfawr yn y broses cyn deddfu. Bydd tynnu ar y ddau grŵp yn arbed arian.

Mae UKIP yn addo: • cynnwys Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan yng ngwaith craffu’r ddeddfwriaeth cyn y broses

ddeddfu cyn ei hynt ffurfiol trwy Gynulliad Cymru, o leiaf hyd nes bo’u niferoedd wedi’u lleihau

• gwahodd pob cyngor yng Nghymru i benodi un neu ddau o gynghorwyr i banel y byddai’i aelodau ar gael i gynorthwyo Pwyllgorau’r Cynulliad wrth arolygu gweinidogion a llywodraeth Cymru, ac felly

• osgoi unrhyw gynnydd costus yn nifer Aelodau’r Cynulliad

• diweddu’r bogailsyllu cyfansoddiadol sy’n bygwth cyfanrwydd y Deyrnas Unedig ac yn tynnu sylw Aelodau’r Cynulliad a gweinidogion Cymru oddi wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol megis iechyd ac addysg.

DATGANOLI GWIRIONEDDOLCred UKIP fod y pleidiau eraill wedi anghofio ar gyfer beth mae datganoli mewn gwirionedd. Yr hyn sydd gennym yng Nghaerdydd yw model y Llywodraeth Brydeinig yn y Bae. Ni fu dim ymdrech i archwilio unrhyw fodelau datganoli heblaw trosglwyddo hyd yn oed mwy o bŵer i’r Cynulliad.

Byddwn yn cael refferendwm ar 23ain Mehefin ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, na fyddai’n digwydd oni bai am UKIP. Os, fel y cred ein plaid yn frwd, y bydd pobl Cymru a’r DU yn pleidleisio i ‘Adael’ yna byddwn yn cael pwerau’n ôl o Frwsel, nid yn unig i San Steffan, ond mewn rhai achosion i Fae Caerdydd, ac mewn llawer achos arall i bobl a chymunedau lleol.

Mae UKIP yn addo:• hyrwyddo datganoli i gynghorau a chymunedau lleol

• datganoli pŵer o Fae Caerdydd i gynghorau lleol, e.e. dros ddatblygu economaidd

• datganoli rhai pwerau sy’n cael eu harfer ym Mrwsel ar hyn o bryd, e.e. pysgota i Gymru ar ôl pleidlais ‘Gadael’

• ceisio datganoli pwerau i’r lefel isaf bosibl bob amser

• gwneud Dydd Gŵyl Dewi’n ŵyl banc

Page 4: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

LLYWODRAETH LEOLCred UKIP y byddai llywodraeth leol fwy atebol yn galluogi pob sir a dinas i flaenoriaethu adnoddau yn well ac i wneud penderfyniadau ynghylch ei gwasanaethau ei hun. Gyda phobl leol at ei gilydd heb fod yn cefnogi meiri etholedig, cred UKIP y dylai ein democratiaeth gael ei gwella trwy adfer system bwyllgorau cynghorau. Cefnogwn yn gryf symudiad mawr o ran pŵer o Gynulliad Cymru i lywodraeth a chymunedau lleol ar draws Cymru.

MANIFFESTO UKIP > PAGE 4

Page 5: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

DATGANOLI GWIRIONEDDOL I GYMUNEDAU LLEOL

Cred UKIP nad oes dim yn ein cymdeithas yn bwysicach na llywodraethu agored, democratig, gonest. Heb y sail sylfaenol yma, ni all dim agweddau eraill o fewn ein cymdeithas weithredu’n agored neu’n deg. Yr her ddatganoli wirioneddol yma yng Nghymru yw rhoi gwneud penderfyniadau a phŵer go iawn yn uniongyrchol yn nwylo’r bobl.

Yn groes i’r ysbryd o dryloywder yr addawodd gwleidyddion y byddai’n dod yn sgil datganoli, mae’r rheini sydd wrth y llyw wedi tanseilio’r berthynas rhwng llywodraeth a’r bobl y maent i fod i’w gwasanaethu. Yn union fel y mae Cynulliad Cymru’n dod yn ddim mwy na dynwarediad tila o San Steffan, mae cynghorau lleol yn rhy aml yn cael eu harwain gan swyddogion. Mae llawer o bobl wedi dod i deimlo mai ychydig bwynt sydd i lywodraeth leol os ydynt yn gorfod gweithredu’r un polisïau Llywodraeth Cymru ar addysg, gwasanaethau cymdeithasol, polisïau’r amgylchedd ac agweddau datganoledig eraill.

Cred UKIP fod angen rhoi mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod cynghorau gyda hegemoni un blaid er hynny’n cynnal democratiaeth iach ble mae gan gynghorwyr yr wrthblaid y pŵer i herio’r weithrediaeth pan fo angen.

Credwn, mewn llywodraeth leol yn ogystal ag yn y Cynulliad, fod angen inni feithrin democratiaeth ble nad yw penderfyniadau’n cael eu gwneud trwy ymlyniad gwasaidd wrth bolisi plaid a phleidleisiau bloc y blaid.

Mae UKIP yn addo:• datganoli pwerau gwneud penderfyniadau pwysig o Fae Caerdydd i awdurdodau lleol

• datgymalu’r system ‘gabinet’ o lywodraethu, sy’n rhoi gormod o bŵer yn nwylo rhy ychydig o bobl, a chyflwyno system bwyllgorau i ddod â didwylledd, tryloywder a gwaith trawsbleidiol

• sicrhau bod unrhyw uno ar gynghorau lleol yn ganlyniad penderfyniadau o’r gwaelod i fyny sy’n cynnwys pobl leol, yn hytrach na’i fod yn cael ei osod o’r brig i lawr gan lywodraeth Cymru

GWARCHOD ANSAWDD BYWYD I BOBL LEOL

Mewn rhai awdurdodau, mae codiadau’r dreth gyngor dros 2015-16 wedi bod yn llawer gwaith uwch na chwyddiant. Mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu o’r blaen i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr trwy gynnig cymorthdaliadau i awdurdodau lleol yn gyfnewid am gadw biliau i lawr. Mae llywodraeth Lafur Cymru wedi peidio â gwneud yr un peth, gan adael i gynghorau godi biliau o hyd at 5% yn lle hynny.

Mae UKIP yn addo:• cefnogi Treth Gyngor is

• gwella democratiaeth leol trwy gyflwyno’r bleidlais drosglwyddadwy sengl i sicrhau bod etholwyr lleol wedi’u cynrychioli’n fwy cyfrannol

• rhoi rheolaeth i bobl leol dros gynllunio, trwy ganiatáu iddynt y gair terfynol ar benderfyniadau cynllunio pwysig, megis datblygiadau archfarchnadoedd ar raddfa fawr y tu allan i drefi, tyrbinau gwynt, llosgyddion, ffermydd solar a datblygiadau tai mawr, trwy ddefnyddio refferenda lleol cyfrwymol

• torri lwfansau gormodol i gynghorwyr, gostwng cytundebau cyflog gwarthus a childyrnau aur i aelodau o weithrediaeth cynghorau

• sefydlu cydbwyllgorau craffu i ganiatáu i gynghorau sy’n aelodau graffu ar waith byrddau iechyd a etholir yn lleol, yn arbennig integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

• gwrthwynebu datblygu gormodol a mynd ati’n weithredol i geisio diogelu cefn gwlad a lleoedd glas

• mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch at ymddygiad gwrthgymdeithasol a syrthio’n drwm ar niwsans a chymdogion swnllyd

• gwneud sefydlu safle teithwyr heb ganiatâd yn anghyfreithlon

• arbed arian trwy system budd-daliadau tai mwy effeithlon. Er enghraifft, dros dair blynedd cafodd cyfanswm o £6.6 miliwn o fudd-daliadau tai a ordalwyd yng Nghymru ei ddileu, wedi iddo gael ei ddosbarthu mewn camgymeriad

MANIFFESTO UKIP

Page 6: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

CYNLLUNIO GWLAD A THREF

MANIFFESTO UKIP > PAGE 6

Page 7: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

YMGYNGHORI GWIRIONEDDOL AR DDATBLYGIADAU TAI

Gwrthodwyd yr hawl i nifer cynyddol o gymunedau ar draws Cymru i’w barn ar ddatblygiad gael ei hystyried gan arolygydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae’n bosibl i gyflwyniadau y mae preswylwyr wedi rhoi llawer iawn o amser ac ymdrech iddynt beidio â hyd yn oed gael eu hedrych, a dim ond cael eu cofnodi a’u catalogio eu bod wedi’u derbyn.

Cred UKIP bod democratiaeth yn cael ei thanseilio’n ddifrifol pan fydd tirfeddianwyr a datblygwyr yn gallu galw ar ganllawiau cynllunio cenedlaethol ar faterion megis y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai i fynd o flaen hawl cymunedau i gael eu gwrthwynebiadau i ddatblygiadau CDLl wedi’u hystyried yn llawn gan yr arolygydd annibynnol.

Er bod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd o’r fath, mae cynghorau’n gyndyn o wrthod ceisiadau oherwydd pryderon ynghylch cost ariannol apeliadau. Mae hyn yn creu sefyllfa ble gall hawliau cymunedau i wrandawiad annibynnol priodol gael eu tanseilio gan ddatblygwyr. Cred UKIP fod hyn yn ddiffyg democrataidd dwfn.

Mae UKIP yn addo:• penodi comisiynydd newydd sy’n gyfrifol am atebolrwydd democrataidd i sicrhau nad yw

ymgynghoriadau cyhoeddus a gaiff eu cynnal gan naill ai Gynulliad Cymru neu gynghorau lleol yn ymarferiadau cysylltiadau cyhoeddus di-werth, camarweiniol. Byddai’r cyfrifoldebau’n cynnwys cylch gwaith i ddiogelu chwythwyr chwiban

• caniatáu i bobl leol alw refferendwm cyfrwymol ar geisiadau cynllunio sy’n cael effaith arwyddocaol ar eu cymuned leol

DEMOCRATIAETH LEOL GREF

Mae sefydliad Bae Caerdydd yn dymuno lleihau nifer cynghorwyr. Mae hyn, yn rhannol, i gyfiawnhau cyllido 20-40 (neu hyd yn oed yn fwy) o Aelodau Cynulliad ychwanegol. Cred UKIP fod hyn yn dangos greddfau canoli. Rydym yn gwrthwynebu toriad mawr yn nifer cynghorwyr am y rheswm nad ydym yn dymuno gweld erydiad yn atebolrwydd democratiaeth leol. Ar ben hynny, ein polisi yw datganoli mwy o bŵer i awdurdodau lleol. Bydd angen cynnal niferoedd digonol o aelodau i wneud i hynny weithio a sicrhau digon o allu i graffu mewn llywodraeth leol.Mae UKIP yn gwrthwynebu bwriad y llywodraeth Lafur i ostwng llywodraeth leol o’r brig i lawr i 8 neu 9 o awdurdodau. Er ein bod yn derbyn efallai bod 22 o awdurdodau yn rhy niferus, y dystiolaeth yw na fyddai unrhyw arbedion arwyddocaol yn cael eu gwneud tan yn llawer is i lawr y llinell, gan y byddai cost taliadau dileu swyddi mawr a chostau ailstrwythuro eraill yn sylweddol.

• Mae UKIP yn cefnogi datganoli pŵer i awdurdodau lleol, gyda’r holl oblygiadau o ran mwy o graffu y mae hynny’n ei olygu, felly nid ydym yn cefnogi unrhyw doriad mawr yn nifer cynghorwyr

• Fe all peth gostyngiad yn nifer cynghorau lleol fod yn briodol, ond nid ar y raddfa sy’n cael ei chynnig ar hyn o bryd, a dylai unrhyw uno gael ei gefnogi a’i gymeradwyo gan bobl leol

MANIFFESTO UKIP

Page 8: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

MANIFFESTO UKIP > PAGE 8

GIG CYMRU

Page 9: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

CYNLLUNIO GWLAD A THREF

YMGYNGHORI GWIRIONEDDOL AR DDATBLYGIADAU TAI

Gwrthodwyd yr hawl i nifer cynyddol o gymunedau ar draws Cymru i’w barn ar ddatblygiad gael ei hystyried gan arolygydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae’n bosibl i gyflwyniadau y mae preswylwyr wedi rhoi llawer iawn o amser ac ymdrech iddynt beidio â hyd yn oed gael eu hedrych, a dim ond cael eu cofnodi a’u catalogio eu bod wedi’u derbyn.Cred UKIP bod democratiaeth yn cael ei thanseilio’n ddifrifol pan fydd tirfeddianwyr a datblygwyr yn gallu galw ar ganllawiau cynllunio cenedlaethol ar faterion megis y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai i fynd o flaen hawl cymunedau i gael eu gwrthwynebiadau i ddatblygiadau CDLl wedi’u hystyried yn llawn gan yr arolygydd annibynnol.

Er bod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd o’r fath, mae cynghorau’n gyndyn o wrthod ceisiadau oherwydd pryderon ynghylch cost ariannol apeliadau. Mae hyn yn creu sefyllfa ble gall hawliau cymunedau i wrandawiad annibynnol priodol gael eu tanseilio gan ddatblygwyr. Cred UKIP fod hyn yn ddiffyg democrataidd dwfn.

Mae UKIP yn addo:• penodi comisiynydd newydd sy’n gyfrifol am atebolrwydd democrataidd i sicrhau nad yw

ymgynghoriadau cyhoeddus a gaiff eu cynnal gan naill ai Gynulliad Cymru neu gynghorau lleol yn ymarferiadau cysylltiadau cyhoeddus di-werth, camarweiniol. Byddai’r cyfrifoldebau’n cynnwys cylch gwaith i ddiogelu chwythwyr chwiban

• caniatáu i bobl leol alw refferendwm cyfrwymol ar geisiadau cynllunio sy’n cael effaith arwyddocaol ar eu cymuned leol

DEMOCRATIAETH LEOL GREF

Mae sefydliad Bae Caerdydd yn dymuno lleihau nifer cynghorwyr. Mae hyn, yn rhannol, i gyfiawnhau cyllido 20-40 (neu hyd yn oed yn fwy) o Aelodau Cynulliad ychwanegol. Cred UKIP fod hyn yn dangos greddfau canoli. Rydym yn gwrthwynebu toriad mawr yn nifer cynghorwyr am y rheswm nad ydym yn dymuno gweld erydiad yn atebolrwydd democratiaeth leol. Ar ben hynny, ein polisi yw datganoli mwy o bŵer i awdurdodau lleol. Bydd angen cynnal niferoedd digonol o aelodau i wneud i hynny weithio a sicrhau digon o allu i graffu mewn llywodraeth leol.

Mae UKIP yn gwrthwynebu bwriad y llywodraeth Lafur i ostwng llywodraeth leol o’r brig i lawr i 8 neu 9 o awdurdodau. Er ein bod yn derbyn efallai bod 22 o awdurdodau yn rhy niferus, y dystiolaeth yw na fyddai unrhyw arbedion arwyddocaol yn cael eu gwneud tan yn llawer is i lawr y llinell, gan y byddai cost taliadau dileu swyddi mawr a chostau ailstrwythuro eraill yn sylweddol.

• Mae UKIP yn cefnogi datganoli pŵer i awdurdodau lleol, gyda’r holl oblygiadau o ran mwy o graffu y mae hynny’n ei olygu, felly nid ydym yn cefnogi unrhyw doriad mawr yn nifer cynghorwyr

• Fe all peth gostyngiad yn nifer cynghorau lleol fod yn briodol, ond nid ar y raddfa sy’n cael ei chynnig ar hyn o bryd, a dylai unrhyw uno gael ei gefnogi a’i gymeradwyo gan bobl leol

DEMOCRATIAETH LEOL GREFMae sefydliad Bae Caerdydd yn dymuno lleihau nifer cynghorwyr. Mae hyn, yn rhannol, i gyfiawnhau cyllido 20-40 (neu hyd yn oed yn fwy) o Aelodau Cynulliad ychwanegol. Cred UKIP fod hyn yn dangos greddfau canoli. Rydym yn gwrthwynebu toriad mawr yn nifer cynghorwyr am y rheswm nad ydym yn dymuno gweld erydiad yn atebolrwydd democratiaeth leol. Ar ben hynny, ein polisi yw datganoli mwy o bŵer i awdurdodau lleol. Bydd angen cynnal niferoedd digonol o aelodau i wneud i hynny weithio a sicrhau digon o allu i graffu mewn llywodraeth leol.

Mae UKIP yn gwrthwynebu bwriad y llywodraeth Lafur i ostwng llywodraeth leol o’r brig i lawr i 8 neu 9 o awdurdodau. Er ein bod yn derbyn efallai bod 22 o awdurdodau yn rhy niferus, y dystiolaeth yw na fyddai unrhyw arbedion arwyddocaol yn cael eu gwneud tan yn llawer is i lawr y llinell, gan y byddai cost taliadau dileu swyddi mawr a chostau ailstrwythuro eraill yn sylweddol.

• Mae UKIP yn cefnogi datganoli pŵer i awdurdodau lleol, gyda’r holl oblygiadau o ran mwy o graffu y mae hynny’n ei olygu, felly nid ydym yn cefnogi unrhyw doriad mawr yn nifer cynghorwyr

• Fe all peth gostyngiad yn nifer cynghorau lleol fod yn briodol, ond nid ar y raddfa sy’n cael ei chynnig ar hyn o bryd, a dylai unrhyw uno gael ei gefnogi a’i gymeradwyo gan bobl leol

MANIFFESTO UKIP

Page 10: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

PERFFORMIAD Y GIG YNG NGHYMRUMae gan Gymru rai o’r problemau iechyd cronig gwaethaf yn Ewrop. Mae amseroedd aros ac amseroedd ymateb ambiwlansys yn dal i fod yn achos pryder ac mae argyfwng yn dod i’r golwg ynglŷn â nifer meddygon teulu.

Nid yw’r targed ar gyfer trin achosion canser sy’n cael eu cyfeirio gan feddygon teulu yng Nghymru wedi’i gwrdd er canol 2008, ac mae hynny’n annifyr. Dywed GIG Cymru y dylai 95 y cant o gleifion y mae’u meddyg teulu wedi canfod bod ganddynt ganser ddechrau ‘triniaeth ddiffiniol’ o fewn 62 diwrnod, ond mae astudiaeth ddiweddar Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn datgelu nad yw’r targed wedi’i gwrdd er canol 2008. Fis Medi diwethaf, dim ond 85 y cant o gleifion ddechreuodd y ‘llwybr brys’ bondigrybwyll at driniaeth mewn pryd.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod cyfanswm eithriadol o 31,000 o gleifion o Gymru bellach yn teithio i Loegr am driniaeth bob blwyddyn. Ar ôl 16 mlynedd o ddatganoli, mae GIG Cymru yn wynebu ‘trychineb ar fin digwydd’, yn ôl adroddiad gan Gymdeithas Feddygol Prydain a gyhoeddwyd y llynedd, a oedd yn galw am ‘ymchwiliad annibynnol brys a chyflawn i holl wasanaethau’r GIG ledled Cymru’. Mae pum deg y cant o gleifion canser Cymru’n gorfod aros chwe wythnos neu fwy am sganiau a phrofion hollbwysig. Yn Lloegr, mewn cyferbyniad, tua chwech y cant yw’r ffigur.

Mae UKIP yn addo:• cefnogi buddsoddiad tymor hir mewn staff ac adnoddau i gael gwell GIG• adolygu gyda’r nod o leihau nifer y sefydliadau sy’n sefyll ar eu traed eu hunain o fewn GIG Cymru sy’n derbyn degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn, er gwaethaf diffyg tystiolaeth ynghylch eu heffaith ar ganlyniadau cleifion• symud gwasanaethau’n agosach, ble mae’n bosibl, at gartrefi a chymunedau pobl, e.e. cymorth ac mewn rhai amgylchiadau (ail)sefydlu ysbytai bach • datblygu cynllun integredig, tymor hir ar gyfer hyfforddi a datblygu’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar Gymru ei angen• trin canser fel prif flaenoriaeth a datblygu strategaeth canser newydd, gwell ar gyfer Cymru• neilltuo nyrs canser arbenigol i bawb sy’n derbyn diagnosis o ganser fel eu gweithiwr allweddol yng nghyfnodau acíwt y driniaeth

• sicrhau bod pawb gyda chanser yn cael asesiad anghenion llawn a chynllun gofal ysgrifenedig

• galluogi pawb y canfuwyd bod canser arnynt i dderbyn gwybodaeth a chymorth amserol a chywir

BYRDDAU IECHYD ETHOLEDIG

Mae’r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn goruchwylio ysbytai a gwasanaethau cymunedol, yn ogystal â chyllid meddygon teulu a deintyddiaeth. Maent yn gyfrifol am benderfynu pa driniaethau a gwasanaethau sydd ar gael ac maent i fod hefyd i sicrhau bod ysbytai’n cwrdd â thargedau amseroedd aros. Cred UKIP y bydd etholiadau cyhoeddus i ddewis cynrychiolwyr ar fyrddau iechyd yn rhoi cleifion a’u teuluoedd wrth galon gwneud penderfyniadau yn GIG Cymru.

Bydd UKIP yn • cyflwyno byrddau iechyd lleol etholedig

• torri maint pendrwm byrddau iechyd lleol o 18-20 o bobl mewn llawer achos i ddim mwy nag 11

• byddai chwe aelod anweithredol etholedig yn ffurfio mwyafrif pob bwrdd iechyd lleol a byddai un o’r rhain yn cadeirio’r bwrdd

• byddai hyd at bump o aelodau gweithredol amser llawn yn ffurfio gweddill pob bwrdd iechyd lleol, a gallai hynny haneru nifer yr uwch-reolwyr sy’n cael cyflogau chwe ffigur

• byddai’r chwe aelod anweithredol yn cael eu hethol trwy Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl ar yr un pryd ag y mae etholiadau cyngor yn digwydd yng Nghymru

• buddsoddi arbedion o gostau rheoli mewn gofal cleifion

YMRODDIAD I OFAL DIWEDD OES Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, bydd nifer cynyddol o bobl ag angen gallu cael at ofal lliniarol. Mae cleifion gydag afiechydon terfynol heblaw canser, megis y rheini gyda dementia, methiant y galon neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, yn llawer llai tebygol o gael y gofal iawn ar hyn o bryd.

Mae UKIP yn addo:• sicrhau bod pawb sydd ag angen gofal lliniarol yn gallu cael ato

• datblygu gwasanaethau cymunedol ar gyfer y rheini sy’n byw gyda salwch angheuol

• cynnal arolwg ddwywaith y flwyddyn o bobl sydd wedi cael profedigaeth i roi darlun llawnach o ofal diwedd oes yng Nghymru

gwella’r ddarpariaeth yn y Gymraeg ar gyfer gofal dementia a gofal diwedd oes, yn arbennig mewn ardaloedd ble mae llawer yn siarad Cymraeg, fel bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf gyda dementia neu ar ddiwedd eu hoes yn gallu cyfathrebu’n fwyaf cysurus

AMSEROEDD AROS AMBIWLANSYS

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi’r gorau i dargedau ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru ar gyfer popeth ond y galwadau ble mae bywydau yn y fantol fwyaf, ac mae hynny’n bryder. Yn Lloegr, mae gan wasanaethau ambiwlans darged mwy uchelgeisiol o ymateb i 75% o alwadau Categori A o fewn wyth munud. Yng Nghymru, mae’r targed o ymateb i 65% o alwadau bygythiad i fywyd Categori A o fewn wyth munud i’w adolygu yn awr. Bydd llai o alwadau’n cael eu hystyried yn rhai “coch”, h.y. ag angen ymateb wyth munud. Cred UKIP y dylid wynebu a mynd i’r afael â’r problemau hyn, nid eu cuddio trwy wanhau targedau a lleihau casglu data.

Mae UKIP yn addo:• bod yn drwyadl ynghylch casglu data

• darparu gofal cymdeithasol i bobl oedrannus sy’n cael eu hunain wedi’u cyfyngu’n ddiangen i ysbyty

• galluogi gwell cydweithio rhwng byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ganiatáu i becynnau gofal gael eu rhoi’n ôl yn eu lle’n gyflymach unwaith y mae pobl yn barod i’w rhyddhau

• archwilio’r defnydd o gartrefi nyrsio fel mesur dros dro rhwng derbyniad acíwt i’r ysbyty a dychwelyd adref gyda phecyn gofal yn ei le

• hyrwyddo defnydd callach o GIG Cymru ac annog y cyhoedd i ddefnyddio unedau mân anafiadau ble mae’n bosibl, o wybod bod yr amser triniaeth a rhyddhau yn llawer cyflymach

Page 11: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

YMCHWILIAD MATH KEOGH

Byddai UKIP yn lansio ymchwiliad annibynnol cyflawn i holl wasanaethau iechyd y GIG ledled Cymru.

Mae arnom eisiau sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn agored a thryloyw ynglŷn â diogelwch cleifion a bod holl staff y GIG yn gallu codi pryderon heb ofn dial.

Mae UKIP yn addo:• cychwyn ymchwiliad a fyddai’n mabwysiadu’r wyth uchelgais a glustnodwyd yn Adolygiad Keogh,

gyda’r nod o sicrhau lefelau staffio lleiaf, diogel ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol a helpu i adfer ffydd ymhlith staff a chleifion

• penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai yng Nghymru

• cysylltu’n fwy ffurfiol gyda Chanllaw Ysbytai Dr. Foster sy’n craffu’n ofalus ar amrywiaeth o ddata gofal iechyd yn Lloegr

• mesur cysondeb o fewn gwasanaethau trawsffiniol yn ogystal â galluogi casglu data yn well, fel y gellid rhagweld problemau yn hytrach na’u canfod trwy gŵynion.

RECRIWTIO GWEITHWYR MEDDYGOL PROFFESIYNOL

Mae staff GIG yn y rheng flaen yn wynebu straen sylweddol o ganlyniad i anawsterau recriwtio difrifol.

Cred UKIP nad yw’n gwneud synnwyr torri ein rhaglenni hyfforddi ein hunain yn y GIG i arbed arian, yna recriwtio meddygon a nyrsys o India neu Ynysoedd y Philipinau, ac felly ddihysbyddu’r gwledydd hynny o weithwyr proffesiynol tra medrus y mae mawr angen amdanynt.

Bydd UKIP yn:• ceisio hyfforddi’r nifer gofynnol o feddygon a nyrsys y mae’u hangen arnom yng Nghymru

• cynyddu’r buddsoddiad yn y rhaglen hyfforddi nyrsys, e.e. cadw bwrsarïau nyrsys

• cyflwyno’r hyn sy’n cyfateb i Nyrsys Cyflogedig y Wladwriaeth i ganiatáu i gynorthwywyr gofal iechyd ac eraill hyfforddi fel nyrsys heb fod angen gradd

TORRI’R PWYSAU AR WASANAETHAU MEDDYGON TEULU

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn amcangyfrif bod angen i Gymru fod yn recriwtio 200 o feddygon teulu dan hyfforddiant y flwyddyn i roi terfyn ar y prinder presennol o feddygon teulu. Y rhan fwyaf o flynyddoedd, fodd bynnag, nid yw’r cwota presennol o 136 o leoedd hyfforddi’n cael ei lenwi. Mae arolygon yn tueddu i ddangos bod meddygon yn ystyried bod datblygu gyrfa a bodlonrwydd swydd yn fwy pwysig iddynt na chymhellion ariannol megis cynlluniau lleihau dyledion neu becynnau tebyg.

Heddiw, cyn y gall meddyg teulu weithio yn unrhyw un o wledydd y DU, rhaid iddo ef neu hi fod yn gofrestredig ar “restr perfformwyr”. Mae gan bob rhan o’r DU restrau ar wahân. Mae’r system hon yn rhwystr i recriwtio meddygon teulu ac yn effeithio ar ryddid meddygon teulu i weithio ar draws ffiniau.

GWASANAETHAU IECHYD TRAWSFFINIOL A DATGANOLI

Ar hyn o bryd, mae tua 20,800 o gleifion o Loegr wedi’u cofrestru â meddygon teulu yng Nghymru neu feddygon teulu a gofrestrwyd yng Nghymru. Mae tua 15,000 o drigolion Cymru wedi’u cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr neu feddygon teulu a gofrestrwyd yn Lloegr. Yn 2012-13, teithiodd tua 50,700 o drigolion Cymru at ddarparwyr nad ydynt o Gymru i gael triniaeth. Yn ystod yr amser hwnnw derbyniwyd 10,370 o gleifion nad oeddynt o Gymru i ysbytai Cymru.

Mae gwahaniaeth amseroedd aros a mynediad anghyfartal at gyffuriau wedi dod yn achos cynnen mawr. Yr amser aros mwyaf yn Lloegr yw 18 wythnos o adeg yr atgyfeiriad at ymgynghorydd ysbyty i ddechrau’r driniaeth. Mae Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio i darged amser aros mwyaf o 26 wythnos o’r atgyfeiriad i ddechrau’r driniaeth.

Mae UKIP yn addo:• hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr Adran Iechyd a Llywodraeth Cymru i sefydlu

un rhestr perfformwyr ar gyfer meddygon teulu ar draws Cymru a Lloegr

• cefnogi cyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd lleol i ardaloedd heb wasanaeth digonol

• ceisio cydraddoli argaeledd cyffuriau i gleifion yng Nghymru

• cefnogi darparu gwasanaeth iechyd cenedlaethol integrol ar hyd y ffin a chyfnewid arferion gorau

MANIFFESTO UKIP

Page 12: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

MANIFFESTO UKIP > PAGE 12

DEFNYDDIO’R PROFFESIWN FFERYLLIAETH I LEIHAU’R PWYSAU AR WASANAETHAU MEDDYGON TEULU

Mae UKIP yn cydnabod bod y proffesiwn fferylliaeth yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gynyddu mynediad i gleifion at ofal fferyllol. Rydym yn cydnabod bod cyflyrau cronig megis diabetes yn effeithio ar ofal ysbyty acíwt trwy dderbyniadau brys ac aildderbyniadau.

Mae UKIP yn addo:• cefnogi sefydlu Gwasanaeth Meddyginiaeth Cronig a arweinir

gan fferylliaeth i wella’r canlyniadau iechyd i gleifion, lleihau’r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu a helpu pobl i fyw’n annibynnol

• integreiddio arbenigedd fferyllwyr yn Nhimau Amlddisgyblaethol y GIG

GWELLA GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL

Fe wnaeth Arolwg Iechyd Cymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar (2014), ddatgelu bod un ym mhob wyth o bobl yng Nghymru (12.1%) yn ceisio cymorth meddygol at salwch meddwl ar hyn o bryd. Ar draws Cymru, rhoddodd 9% o oedolion wybod eu bod yn derbyn triniaeth at iselder, 8% at orbryder a 2% at afiechydon meddwl eraill.

Bydd UKIP yn: • cyfeirio cleifion y canfuwyd bod ganddynt gyflwr tymor hir

nychus neu salwch angheuol at weithwyr iechyd meddwl proffesiynol pan fydd yn briodol

• rhoi’r gofal i un aelod etholedig o bob bwrdd iechyd lleol i eiriol dros y ddarpariaeth iechyd meddwl

• clustnodi cyllid iechyd meddwl ar lefel uwch nag sy’n digwydd ar hyn o bryd (£587m yn 2014-15)

• cymell awdurdodau lleol i ddiogelu’r gwasanaethau iechyd meddwl y maent yn eu darparu a gwrthdroi’r toriadau yn y gwasanaethu iechyd meddwl cymunedol

AMSEROEDD AROS AR GYFER IECHYD MEDDWL

Ar hyn o bryd, mae pobl yn gorfod aros yn llawer rhy hir i gael at ofal iechyd meddwl. Amcangyfrifir bod problemau iechyd meddwl yn costio £7.2biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Mae UKIP yn addo:• cefnogi darparu therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar

dystiolaeth, e.e. therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) o fewn 28 diwrnod i’r atgyfeiriad

• cyflwyno casglu data ffurfiol a chynhwysfawr ar lwyddiant cymharol therapïau siarad o gymharu â thriniaeth

SY’N SEILIEDIG AR GYFFURIAU

Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer pobl ifanc Mae pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) arbenigol yn destun targed 16 wythnos (112 diwrnod) hirach, sydd ond yn cael ei gwrdd 50% o’r adeg yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Mae UKIP yn addo:• hyrwyddo Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed fel

dull o weithredu yn yr achosion mwyaf difrifol

• gwella therapïau seicolegol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru

• buddsoddi yn y gwaith o asesu a thrin Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth a chyflyrau niwro-ddatblygiadol eraill, yn cynnwys cyflyrau mwy difrifol ble mae pobl ifanc yn datblygu seicosis

GOFAL DEMENTIA

Dementia yw prif achos marwolaeth ymhlith merched dros 55 oed a phumed lladdwr mwyaf dynion. Amcangyfrifir bod cyfanswm cost dementia yng Nghymru yn £1.4 biliwn y flwyddyn. Gofal di-dâl sydd i gyfrif am 75% o gyfanswm cost pobl gyda dementia sy’n byw yn y gymuned a 45.7% o gost gyffredinol dementia yng Nghymru.

Mae cyfraddau diagnosio’n wael o gymharu â rhannau eraill y DU ac yn aml gall fod yn anodd iawn cael help hyd yn oed wedi i ddiagnosis ddigwydd.

Mae UKIP yn addo:• gwella mynediad gofalwyr at gymorth trwy rannu gwybodaeth

am hawliau i fudd-daliadau a gofal cymdeithasol a grwpiau cymorth ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus

• hyfforddi staff iechyd i ganfod, cefnogi a chynnwys gofalwyr pobl gyda dementia yn ogystal â galluogi diagnosis cyflymach

• caniatáu i ofalwyr yr hawl i gael mynediad i wardiau, i gymryd rhan mewn penderfyniadau triniaeth, ac i aros gyda’r rheini y maent yn gofalu amdanynt yn yr ysbyty

• cynnal y cap presennol o £60 yr wythnos ar gostau gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain

Page 13: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

GWELL CYMORTH I OFALWYR

Mae cyfrifiad 2011 yn dangos bod 370,230 o bobl yng Nghymru yn ofalwyr. Mae hyn yn gynnydd o

9% er y cyfrifiad diwethaf yn 2001.

Bydd UKIP yn:• integreiddio’r GIG a gofal cymdeithasol oedolion a rhoi’r gwasanaeth cyfun dan gylch gwaith

byrddau iechyd lleol etholedig• cefnogi gwasanaethau gofal o ansawdd da sy’n ddibynadwy a fforddiadwy, yn cynnwys dar-

pariaethau seibiant, i alluogi teuluoedd i fod â bywyd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu• diddymu’r arfer o drefnu ymweliadau gofal cartref mewn ffenestri pymtheg munud

• darparu cymorth i ddychwelyd i’r gwaith pan fo’r gofalu’n dod i ben

GWASANAETHAU GWAITH CYMDEITHASOL Cred UKIP fod gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru dan bwysau annioddefol ar hyn o bryd.

Mae gweithwyr proffesiynol wedi dweud bod llwyth achosion eisoes yn uwch na lefelau diogel a chynaliadwy.

Mae UKIP yn addo:• diwygio’r gyfundrefn arolygu, trwy symleiddio gofynion biwrocratig

• datblygu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer gwaith cymdeithasol• defnyddio gweithwyr cymdeithasol mewn gwaith mentora trwy’r gwasanaethau integredig i

gyd a hwyluso cydweithrediad rhwng pob gweithiwr proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol a gwasanaethau allweddol eraill

LLES CYMDEITHASOL

MANIFFESTO UKIP

Page 14: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

INTEGREIDDIO YMATEB AMBIWLANS A THÂN

MANIFFESTO UKIP > PAGE 14

Page 15: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Mae UKIP yn cefnogi integreiddio ymateb gwasanaeth tân ac ambiwlans. Mae’r system hon eisoes yn gweithio’n dda yn Ffrainc, ble mae gwasanaethau meddygol brys ymhlith y rhai gorau yn y byd dan y system sapeurs-pompiers.

Mae hyn yn ysgafnhau’r baich ar wasanaethau ambiwlans confensiynol, tra’i fod yn rhoi rôl bwysig i weithwyr tân proffesiynol yn ystod cyfnodau sydd fel arall yn dawel. Yn arbennig, mae’n galluogi sylw brys gwell i ardaloedd gwledig ble gall mynediad fod yn fwy problemus.Bydd UKIP yn:• rhagbrofi integreiddio ymateb gwasanaeth tân ac ambiwlans mewn ardal ble mae

cefnogaeth leol

• hyfforddi gweithwyr tân fel eu bod yn gallu gweithio fel parafeddygon hefyd

MANIFFESTO UKIP

Page 16: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

ADDYSG: UCHELGAIS, TRYLWYREDD A RHAGORIAETH

Roedd Cymru unwaith yn enwog ar draws yr ynysoedd hyn am addysg o ansawdd uchel a’i hathrawon gwych. Mae hi’n ffaith drist ein bod, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn cloncian mynd ar hyd gwaelod tablau cynghreiriau academaidd. Cred UKIP yn gryf mai dyletswydd y wladwriaeth yw sicrhau bod addysg o ansawdd uchel yn cael ei darparu ar gyfer pawb.

Rhaid i addysg fod yn ymatebol i anghenion unigol. Rydym yn bwriadu teilwra addysg hyd ag y mae’n bosibl i anghenion pob plentyn. Mae’r system gyfun yn ei gwneud hi’n eithriadol o anodd i ddisgyblion dderbyn unrhyw beth heblaw addysg “un maint yn ffitio pawb”.

MANIFFESTO UKIP > PAGE 16

Page 17: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

ADDYSG: UCHELGAIS, TRYLWYREDD A RHAGORIAETH

CYLLIDO YSGOLION

Yn 2011, roedd ystadegau swyddogol yn dangos bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn £604 y flwyddyn yn llai na’u cyfoedion yn Lloegr. Yn 2012, yn ddi-fudd, rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y gorau i gasglu ystadegau ar gyllid cymharol rhwng Cymru a Lloegr.

Mae UKIP yn addo:• adfer cymharu data rhwng Cymru a Lloegr fel ei bod yn dod yn bosibl unwaith eto i ganfod cymhariaeth deg ar safonau a chyllid.

• symleiddio arolygu a rheoli perfformiad er mwyn cael mwy o arian i’r ‘rheng flaen’ addysgol. Byddem yn gostwng y costau cymorth sy’n cynnwys 32 y cant o wariant addysgol i ychwanegu at y 68 y cant sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag addysgu a dysgu

• dileu Cyngor y Gweithlu Addysg, y mae’i ffioedd yn gyfystyr â threth ar athrawon ac sy’n dihysbyddu ysgolion o arian y gellid ei wario yn y rheng flaen

Y DDARPARIAETH GYFLENWIMae ystadegau’n dangos bod tua 10% o’r cyfan o wersi’n cael eu llenwi gan athrawon cy-flenwi. Amcangyfrifir bod rhyw £20 miliwn yn cael ei wario ar draws Cymru gyfan ar gyflogi athrawon trwy asiantaethau preifat. Ar hyn o bryd, mae’r defnydd o asiantaethau’n golygu y gall cyflog yr unigolyn gael ei leihau o unrhyw beth rhwng 30% a 50%. Cred UKIP fod y sys-tem hon yn cael effaith andwyol ar forâl ac ar ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i ysgolion.

Mae UKIP yn addo:• cyflwyno banciau addysgu awdurdodau lleol arbenigol - ar hyd llinellau banciau meddygon a fferyllwyr i hyrwyddo perthynas agosach rhwng ysgolion ac athrawon cyflenwi i alluogi gwell hyfforddi a chynllunio yn yr ysgol ar gyfer disgyblion os digwydd absenoldeb staff

• cefnogi penodi staff cyflenwi ar gontract dwy i dair blynedd gan awdurdodau lleol i wasanaethu clwstwr o ysgolion

• sicrhau bod athrawon cyflenwi’n cael eu talu’n unol â’u safle ar y golofn gyflog ac yn derbyn hawliau pensiwn, gan ddileu cost yr asiantaethau, sy’n 30-50%, ac arbed arian trethdalwyr

TORRI BAICH GWAITH ATHRAWON

Mae gormod o athrawon yn gweithio oriau gormodol ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gydbwysedd derbyniol rhwng bywyd a gwaith.

• bydd UKIP yn gostwng faint o waith papur y mae athrawon yn ymdrin ag ef, megis cynlluniau gwersi sy’n rhy gymhleth, casglu data gormodol, asesiadau mewnol rhy orchmynnol a chynlluniau marcio sy’n seiliedig ar ddeialog

ESTYN

Gall enw da ysgol ddibynnu ar adroddiad Estyn. Mae hi’n hanfodol felly, yn arbennig i’r graddau y gall fod pryder ynghylch gallu neu agenda arolygwyr, fod unrhyw apêl yn cael ei hystyried gan gorff amhleidiol. Dylai Estyn ei hun wynebu craffu annibynnol.

Bydd UKIP yn:• symleiddio arolygiadau Estyn, gan ganolbwyntio ar ansawdd yr

addysgu a’r dysgu a lles cyffredinol y plant, yn hytrach nag ar waith papur, polisïau’r ysgol neu dargedau ticio blychau

• byrhau arolygiadau a’u cyfeirio fwy at yr ystafell ddosbarth

• bydd trefniant rhybudd byr neu ddim rhybudd newydd yn cael ei gyflwyno fel bod arolygwyr yn cael golwg go iawn ar sut y mae’r ysgol yn gweithio dan amodau sydd heb fod yn amodau arolwg

• bydd Estyn yn arolygu ysgolion da a darparwyr addysg bellach a sgiliau unwaith bob 3 blynedd dan batrwm arolygiad byr newydd. Bydd arolygiadau hirach yn cael eu gwneud yn achos ysgolion yr ystyrir eu bod yn dirywio

• sicrhau bod ysgolion yn derbyn cymorth mewn unrhyw achos amheus o eithafiaeth neu radicaleiddio

MANIFFESTO UKIP

Page 18: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

ADDYSG GYNRADD

Mae profiad cyntaf plentyn o addysg yn hanfodol bwysig; dyma pryd y mae’r patrwm dysgu’n cael ei osod a phan fo llythrennedd a sgiliau cymdeithasol da’n cael eu sefydlu. Yn 2015, rhybuddiodd Estyn fod safonau rhifedd a llythrennedd yn achos pryder. Yn arbennig, cafodd fod “gormod o athrawon heb yr wybodaeth fathemategol briodol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhifedd disgyblion”.

Bydd UKIP yn: • sicrhau bod pob ysgol gynradd mewn unrhyw awdurdod

lleol penodol yn cael mynediad rheolaidd at arbenigwyr mathemateg a gwyddoniaeth, o brifysgolion ac ysgolion eraill, sy’n gallu ymweld, cymryd o leiaf rai dosbarthiadau a darparu cymorth

• cynyddu nifer yr oriau astudio a neilltuir i ddatblygiad sgiliau llythrennedd

IEITHOEDD TRAMOR MODERN MEWN YS-GOLION CYNRADD AC UWCHRADD

Ar y cyd â Gogledd Iwerddon, ein hysgolion ni sydd â’r cyfnod byrraf o ddysgu iaith dramor gorfodol yn Ewrop.

Ar hyn o bryd, dim ond 22% o ddisgyblion sy’n cymryd TGAU mewn iaith heblaw Saesneg neu Gymraeg. Yn y deng mlynedd er 2005-2014, mae nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn ysgolion Cymru wedi haneru. Rydym yn benderfynol o weithredu i atal y dirywiad dramatig mewn dysgu iaith dramor fodern. Dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i ddod yn hyddysg mewn iaith dramor fodern.

Bydd UKIP yn:• cyflwyno addysgu iaith dramor fodern statudol o 7 oed• hyrwyddo cymorth ar draws ieithoedd rhwng athrawon.• cyflwyno astudio Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidalaidd

ym mlwyddyn gyntaf ysgol gynradd. Byddwn yn sicrhau parhad rhwng astudiaethau iaith ysgolion cynradd ac uwchradd a byddwn hefyd dros amser yn ceisio cyllido amrywiaeth ehangach o ieithoedd megis Rwseg a Mandarin ar lefel uwchradd

• sicrhau bod ymdrechion i hyrwyddo dwyieithrwydd rhwng Saesneg a Chymraeg yn gweithredu fel sbardun i ddysgu ieithoedd eraill, nid fel dewis arall

CHWARAEON

Mae adroddiad diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweld bod mwy na chwarter o’r disgyblion sy’n cychwyn yn ysgolion cynradd Cymru yn rhy drwm neu’n ordew. Credwn mai’r ysgol yw’r lle pwysicaf ble gall plant ddatblygu’r cymhwysedd a’r hyder i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a’i fwynhau.

Bydd UKIP yn:• gwarchod caeau chwarae ysgolion.

• rhoi mwy o amlygrwydd i chwaraeon yng nghwricwlwm ysgolion

ATHRAWON CYMWYSEDIG

Mae cyfrifiad ysgolion blynyddol 2015 yn datgelu bod staff cymorth bellach yn ffurfio bron hanner gweithlu ysgolion Cymru. Gall gorddibyniaeth ar staff cymorth arwain at ofyn i gynorthwywyr addysgu ofalu am wersi a gwneud gwaith nad ydynt yn cael eu talu neu wedi cymhwyso i’w wneud. Cred UKIP fod hyn yn annerbyniol. Mae astudiaethau academaidd yn dangos mai ansawdd athrawon dosbarth, yn hytrach na defnyddio cynorthwywyr addysgu, sy’n gysylltiedig â gwell canlyniadau academaidd.

ARBENIGWYR PWNC ANNIGONOL

Ar lefel gynradd ac ar lefel uwchradd, nid yw rhannau allweddol o’r cwricwlwm bob amser yn cael eu haddysgu gan arbenigwr pwnc. Er enghraifft, mae llai na hanner yr athrawon cemeg yn ysgolion uwchradd Cymru yn meddu ar radd yn y pwnc, y ffigur gwaethaf yn y DU.

Mae UKIP yn addo:• sicrhau bod pob dosbarth yn ysgolion gwladol Cymru’n cael ei

arwain gan athrawon cymwysedig

• symud yr adnoddau o ychwanegu staff cymorth i gynyddu’r ddarpariaeth o athrawon tra hyfforddedig

• gwella’r cymhellion i raddedigion pynciau STEM ac ieithoedd modern fynd yn athrawon

• rhoi cymorth gwirioneddol i athrawon i gynnal disgyblaeth dda yn ein hysgolion a delio â bwlio

Mae ar UKIP eisiau rhoi’r cyfle i’n plant ddod yn wyddonwyr ac yn beirianwyr y dyfodol. Mae ffigurau diweddar Llywodraeth Cymru’n dangos mai dim ond 164 o athrawon o blith 14,000, ar lefel gynradd, a oedd â gradd yn un o’r tri phrif bwnc gwyddoniaeth - gyda saith yn unig yn meddu ar radd ffiseg.

Mae cymhellion ariannol o hyd at £20,000 i raddedigion sy’n dymuno hyfforddi i addysgu pynciau â blaenoriaeth megis mathemateg, ffiseg a chemeg eisoes yn eu lle, ond mae angen inni sicrhau bod addysgu’n ddigon atyniadol i athrawon gyda’r sgiliau hyn aros yn y proffesiwn.

Mae UKIP yn addo:• rhoi mwy o ymreolaeth i athrawon pynciau STEM dros y

testunau a addysgant i wella bodlonrwydd swydd a helpu i gadw arbenigwyr gwyddoniaeth a mathemateg.

• mynnu bod pob ysgol gynradd yn enwebu (ac os bydd angen, yn hyfforddi) arweinydd gwyddoniaeth i ysbrydoli a chymhwyso’r genhedlaeth nesaf.

ADDYSG RHYW

Bydd UKIP yn:• sicrhau bod pob rhiant yn cael gwybod yn llawn am

ddeunyddiau addysgu addysg rhyw cyn y cânt eu defnyddio

• parhau i barchu hawl rhieni i dynnu plant yn ôl o ddosbarthiadau addysg rhyw os dymunant

COLEGAU GRAMADEG A THECHNEGOL NEWYDD

Mae ar UKIP eisiau i ddisgyblion Cymru gael y cyfle’n wirioneddol i ddod yn ddyfeiswyr, peirianwyr, gwyddonwyr a thechnegwyr y dyfodol. Mae angen inni ddatblygu sgiliau’r unfed ganrif ar hugain mewn gweithgynhyrchu, peirianneg ac arbenigedd digidol. Credwn felly y dylai’r ysgolion uwchradd presennol gael y cyfle i ddatblygu’n ysgolion galwedigaethol neu’n ysgolion gramadeg.

Gall ysgolion gramadeg a sefydliadau technegol o’r radd flaenaf wella symudedd cymdeithasol i blant galluog o gefndiroedd tlotach a byddent yn helpu i roi hwb hanfodol i economi Cymru trwy wella sgiliau a hyrwyddo arloesedd gwyddonol. Yn arbennig mae arnom eisiau meithrin addysg o ansawdd uchel ymysg myfyrwyr tlotach peniog.

Page 19: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Yn Lloegr, erbyn 2016, bydd mwy na 30,000 o fyfyrwyr yn cael y cyfle i ddilyn y profiad addysg dechnegol newydd yma, yn cael ei yrru gan Ymddiriedolaeth Baker Dearing. Credwn y dylai myfyrwyr Cymru gael yr un cyfleoedd - neu hyd yn oed rai gwell.

Bydd colegau technegol prifysgol yn darparu addysg academaidd hanfodol, tra byddant yn gweithio gyda chyflogwyr a phrifysgol leol i gyflwyno’u cwricwlwm, gydag o leiaf 40% o’r amser astudio wedi’i neilltuo i arbenigaethau technegol, yn cynnwys dylunio, adeiladu a pheirianneg. Bydd y colegau’n llai nag ysgolion uwchradd traddodiadol, ni fyddant yn ddetholus yn academaidd ac ni fyddant yn codi ffioedd. Yn nodweddiadol bydd ganddynt 600 o fyfyrwyr, byddant yn gweithio oriau busnes a byddant â dalgylch a all ymestyn ar draws nifer o awdurdodau lleol.

Bydd y myfyrwyr yn elwa ar yr ymchwil ddiweddaraf, arbenigwyr diwydiant, cyfleusterau arbenigol a phrosiectau cyflogwyr bywyd go iawn i ddatblygu sgiliau creadigol a thechnegol. Trwy gysylltu ysgolion a cholegau galwedigaethol â diwydiant a busnesau, megis o bosibl gydag Airbus ym Mrychdyn, sydd eisoes yn cefnogi Academi Technoleg a Pheirianneg Bryste, gallai Cymru gyflwyno opsiwn galwedigaethol gwirioneddol yn ychwanegol at TGAUau craidd.

Bydd UKIP yn:• cyllido pob ysgol uwchradd yn ôl un fformiwla, gan gymryd Anghenion Addysgol Arbennig i

ystyriaeth, i sicrhau nad all tangyllido megis gydag ysgolion uwchradd modern yn y 1950au gael ei ailadrodd.

• cyflwyno Colegau Technegol Prifysgol yng Nghymru ar batrwm Baker Dearing, sydd wedi bod mor llwyddiannus yn Lloegr

• caniatáu i’r ysgolion presennol ddod yn ysgolion gramadeg neu’n ysgolion galwedigaethol

• seilio dethol i ysgol ramadeg ar arholiad a gaiff ei sefyll gan bob disgybl ym mlwyddyn olaf ysgol gynradd

• cyflwyno arholiadau trosglwyddo sydd ar gael yn 12, 13 ac 16 oed ar gyfer datblygwyr hwyr academaidd

• neilltuo o leiaf 10% o leoedd ysgolion gramadeg ar gyfer plant o gefndiroedd llai breintiedig – fel y caiff ei fesur yn hanesyddol trwy fod yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim

• sicrhau bod ysgolion gramadeg yn gweithredu’n wirioneddol fel grisiau cyfle i blant dosbarth gweithiol peniog.

CWRICWLWM 14-19 PWRPASOL

Bydd y fframwaith presennol ar gyfer dysgwyr 14-19 mlwydd oed a gyhoeddwyd fel Cymru, Ewrop a’r Byd, yn cael ei ddisodli. Byddai’r fframwaith newydd yn cael ei ddilyn gan bob disgybl yng Nghymru a byddai’n cynnwys yr agweddau canlynol, yn arwain at ddiploma newydd, llawn bri sy’n unigryw i Gymru:• cyfle i ymgymryd â phrofiadau busnes, profiadau galwedigaethol ac academaidd

• dealltwriaeth o economeg sylfaenol

• iaith dramor fodern, yn cynnwys ymweliadau cyfnewid o bosibl

• sgiliau dadlau a dealltwriaeth o sefydliadau gwleidyddol, datblygu sgiliau beirniadol, herio uniongrededd, gwahaniaethu rhwng ffaith a phropaganda

• amrywiaeth o syniadau gwleidyddol, gwyddonol ac athronyddol o’r byd modern a’r hen fyd (yn astudio amrywiol feddylwyr rhyngwladol gyda barn wahanol)

• diwylliannau Cymru, Prydain, Ewrop a’r byd

ADDYSG GARTREF

Mae UKIP yn cefnogi hawl rhieni i roi ysgol i’w plant gartref os ydynt yn dewis gwneud hynny.

CYMORTH ANGHENION ARBENNIG

Ar hyn o bryd, mae 47% o rieni yr effeithir arnynt yng Nghymru yn aros mwy na thair blynedd am ddiagnosis anghenion arbennig. Mae rhai rhieni wedi dweud eu bod wedi gorfod aros 7 mlynedd, gyda’r canlyniad bod llawer o blant wedi methu cael at yr help iawn yn gynnar.Mae llawer o blant gydag anhwylderau dysgu’n cael eu hanfanteisio gan y ffaith fod eu hanawsterau penodol yn ddiweddar yn cael eu cydnabod. Cred UKIP bod diagnosis cynnar, yn cael ei ddilyn yn agos gan gymorth priodol yn arwain at well profiad i’r plentyn a llai o broblemau i’r ysgol. Yn ein barn ni, gall buddsoddiad yn gynharach arbed arian yn y tymor hir.

Bydd UKIP yn • mynd i’r afael â’r amseroedd aros gofidus ac annerbyniol am asesiad diagnostig a

bwysleisir gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

• gweithredu ‘cwricwlwm awtistiaeth’, sy’n dal nid yn unig ofynion dysgu plant ond hefyd yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol ac anghenion cyfathrebu

• caniatáu amser i staff gael mynediad at arbenigedd ac i gael eu hyfforddi ac i weithio ar y cyd gyda therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr iechyd meddwl a gofal cymdeithasol proffesiynol

• cyflwyno modiwlau anghenion addysgol arbennig ym mhob cwrs hyfforddi athrawon ac integreiddio hyfforddiant anghenion addysgol arbennig fel rhan orfodol o ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon

• gwrthdroi’r polisi o gau ysgolion arbennig

MANIFFESTO UKIP

Page 20: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

ADDYSG BELLACH A DYSGU GYDOL OES

Eleni, mae gweinyddiaeth Lafur Cymru yn y Cynulliad wedi torri’r gyllideb ôl-16 o £26m. Amcangyfrifwyd y gallai cymaint â 1,000 o swyddi ddiflannu o’r sector colegau yng Nghymru o ganlyniad i’r toriad hwn yn y gyllideb. Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol, gan fod colegau addysg bellach yn cynnig sbringfwrdd i bobl sy’n dymuno gwellau’u sgiliau er mwyn cael mynd yn ôl i’r gweithlu.

Yn y cyfamser, mae cyllid ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned i’w ostwng o 37.5%, tra bydd cyllidebau ar gyfer addysg bellach ran-amser yn cael eu torri o 33%. Mae gan Gymru gyfran uwch o oedolion oedran gweithio heb gymwysterau na Lloegr a’r Alban yn barod.

Bydd UKIP yn:• diogelu cyllideb addysg bellach y dyfodol mewn termau real

• hyrwyddo dull gweithredu lleol i integreiddio sgiliau gyda strategaethau twf economaidd, wedi’u haddasu i anghenion neilltuol pob cymuned unigol ar draws Cymru

• cydnabod bod pobl yn ennill sgiliau economaidd a chymdeithasol ddefnyddiol trwy ddysgu

ADDYSG UWCH A’R ECONOMI

Mae nifer y bobl ifanc sy’n astudio yn y brifysgol yn uwch nag erioed, ac felly hefyd y costau. Eto, yn ôl Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae 58.8 y cant o raddedigion y DU mewn swyddi heb fod yn rhai i raddedigion, canran a oedd ond yn fwy yng Ngroeg ac Estonia.

Bydd UKIP yn annog myfyrwyr i ddewis gyrfaoedd a fydd yn helpu i lenwi’r bwlch sgiliau presennol, i fod o fudd i Gymru ac i osod ein pobl ifanc ar lwybr at yrfa gadarn, lewyrchus. Byddwn hefyd yn cefnogi ehangu sector addysg uwch Cymru, sy’n dal i fod yn stori lwyddiant i Gymru, gyda phwyslais ar addysgu pynciau STEM ac ansawdd ymchwil.

Mae UKIP yn bryderus hefyd, fel amod o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ein bod ar hyn o bryd yn gorfod rhannu grantiau ffioedd dysgu o £5,190 i fyfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd sy’n astudio yng Nghymru, yn hytrach na bod myfyrwyr yr UE yn gwneud cais am leoedd ym mhrifysgolion y DU fel myfyrwyr rhyngwladol sy’n cynnal eu hunain.

Bydd UKIP yn:• dileu ffioedd i israddedigion sy’n hanu o Gymru sy’n dilyn

gradd mewn pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEM) yng Nghymru, h.y. estyn y grant ffioedd dysgu i gynnwys elfen benthyciad ffioedd dysgu y costau presennol ar gyfer cyrsiau cymwys

• cyflwyno benthyciadau i gymryd lle’r grant ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n dewis astudio yn Lloegr

• sefydlu cronfa fwrsarïau i helpu myfyrwyr o gefndiroedd tlotach i fynychu’r prifysgolion mwyaf clodfawr y tu draw i Gymru, boed yn Lloegr neu’n rhyngwladol, gyda phwyslais arbennig ar bynciau STEM ac ieithoedd tramor modern

• dileu’r grant ffioedd dysgu o £5,190 i fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n astudio yng Nghymru yn dilyn pleidlais ‘Gadael’ yn y refferendwm

• cadw’r gyllideb ymchwil cysylltiedig ag ansawdd sy’n sail i ymchwil sy’n arwain y byd yng Nghymru

• cefnogi darpariaeth ran-amser i ehangu mynediad at addysg uwch ac i helpu i godi sgiliau gweithlu Cymru

Gan ddefnyddio ffigurau o adroddiad interim Adolygiad Diamond rydym yn amcangyfrif y bydd yr arbediad i lywodraeth Cymru o gael benthyciadau i gymryd lle ffioedd i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio yn Lloegr yn £62.1 miliwn. Fodd bynnag, mae llywodraeth Cymru yn rhy optimistaidd ynghylch ad-daliadau tebygol ar fenthyciadau ac mae adroddiad interim Diamond yn awgrymu y dylai £11.9 miliwn yn fwy y flwyddyn gael ei roi o’r neilltu i gwrdd â diffyg ad-dalu. Rydym yn amcangyfrif bod cost dileu ffioedd i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio pynciau STEM yng Nghymru yn £28.7 miliwn. Felly byddai’r arbediad blynyddol net o’r uchod yn tua £21.5 miliwn, yr ydym yn bwriadu defnyddio £5 miliwn ohono ar gyfer ein cronfa fwrsarïau arfaethedig, sy’n gadael £16.5 miliwn i helpu i ariannu ein blaenoriaethau gwario mewn meysydd eraill.

MYFYRWYR RHAN-AMSER

Mae addysg uwch rhan-amser a chyfleoedd dysgu hyblyg, sy’n ddefnyddiol i weithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd, yn hanfodol os ydym i gael unrhyw siawns o wella economi Cymru. Mae dros 34,000 o fyfyrwyr rhan-amser yn astudio ar lefel addysg uwch yng Nghymru. Mae bron 23,000 o’r rhain yn astudio ar lefel israddedig. Mae nifer y myfyrwyr sy’n astudio’n Addysg Uwch rhan-amser yng Nghymru yn gostwng: bu cwymp o 11.5% yn niferoedd israddedigion rhan-amser rhwng 2009/10 a 2013/14.

Bydd UKIP yn:• annog sefydliadau i gadw ffioedd rhan-amser yn isel ac i gymell

darpariaeth rhan-amser.

• cynnal y system gredyd hyblyg bresennol yn cynnwys trosglwyddiad credyd

• cadw’r premiymau ehangu mynediad a gaiff eu talu i sefydliadau i gefnogi recriwtio a myfyrwyr o gefndiroedd ehangu mynediad

• parhau’r grantiau presennol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

• cyflwyno esemptiadau cyfyngu benthyciadau i fyfyrwyr Cymhwyster Cyfatebol neu Is (ELQ) mewn meysydd pwnc blaenoriaethol

• cefnogi myfyrwyr anabl i wrthsefyll unrhyw effeithiau niweidiol o’r newidiadau arfaethedig i’r Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl (DSA)

Page 21: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

MANIFFESTO UKIP

Page 22: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH

MANIFFESTO UKIP > PAGE 22

Page 23: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

SEILWAITH FFYRDD A THOLLAU PONT HAFREN

Mae gorfodi tâl mynediad o £6.60 ar fodurwyr a £19.80 ar Gerbydau Nwyddau Trwm sy’n dod i mewn i Dde Cymru yn dal economi Cymru yn ôl, yn anghefnogi twristiaeth ac yn rhannu Cymru’n ddiangen oddi wrth Loegr.

Amcangyfrifodd llywodraeth Cymru fod cost tollau i Gymru yn o leiaf £107 miliwn bob blwyddyn. Mae costau talu toll uchaf y DU yn debygol o fod yn llawer uwch pan fo’r holl gyfleoedd coll a’r effeithiau anuniongyrchol yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

Mae’r tollau’n cael eu codi ar hyn o bryd gan gwmni o Ffrainc sy’n gweithredu’r ddwy Bont Hafren fel consesiwn sydd i fod i ddarfod yn awr erbyn tua diwedd y flwyddyn nesaf. ’Does dim cyfiawnhad dros ddal i godi toll ar ôl i gostau adeiladu’r bont ddeheuol gael eu had-dalu fel hyn. Mae UKIP yn gwrthod unrhyw syniad bod ‘dyled’ Pont Hafren ychwanegol yn ddyledus i lywodraeth y DU i fodurwyr ei ‘had-dalu’, ac mae’r hawliadau diweddar gan weinidogion y DU ar gyfer hyn wedi amrywio o £64-88 miliwn.

Rydym yn nodi bod llywodraeth y DU wedi dileu swm mwy o £150 miliwn ar gyfer Pont Humber. Ar ben hynny, fe addawodd beidio â chodi TAW ar dollau’r Hafren, eto fe’i gorfodwyd i wneud hynny gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, gan ildio refeniw ffawdelw o £150-200 miliwn. • Bydd UKIP yn dileu tollau pont Hafren o fewn dwy flynedd, pan ddaw’r consesiwn presennol i ben

• Dylai costau cynnal a chadw parhaus y pontydd, yr amcangyfrifwn eu bod yn tua £10 miliwn yn flynyddol, fod yn fater i’w drafod rhwng llywodraethau’r DU a Chymru

• Byddai UKIP yn ariannu unrhyw gyfraniad cynnal a chadw gan lywodraeth Cymru trwy ddileu’r gyllideb ar gyfer prosiectau newid hinsawdd, sy’n saethu i fyny o dros 50% o £48 miliwn i £73 miliwn eleni

FFORDD LINIARU’R M4

Yn amlwg mae’r M4 trwy Dde Cymru ag angen ei lliniaru neu’i gwella, gyda’r brys mwyaf am hynny wrth y man cyfyng yn agosáu at dwnelau Brynglas. Fodd bynnag, mae UKIP yn anghytuno â chynllun presennol y Prif Weinidog i gyllido ffordd liniaru’r M4 trwy barhau’r tollau ar bontydd afon Hafren.

Rydym hefyd yn gwrthwynebu’r ‘llwybr Du’, y llwybr a ffefrir gan lywodraeth Cymru fel Ffordd Liniaru’r M4 oherwydd ei gost eithafol o £1 biliwn a mwy, y difrod enfawr y byddai’n ei achosi i sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y tebygrwydd y byddai’n cymryd degawd i’w adeiladu, a’r ffaith y byddai’n gwario bron y cyfan o gyllideb cyfalaf Cymru ar un prosiect yn Ne-Ddwyrain Cymru.

• Mae UKIP yn cefnogi adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ar hyd y ‘llwybr Glas’ sy’n cael ei hyrwyddo gan yr Athro Stuart Cole, gan ddefnyddio Ffordd Gwaith Dur Casnewydd ac uwchraddio darnau o’r A48 presennol i radd ffordd ddeuol wahanedig.

• Dylid dechrau adeiladu ‘Llwybr Glas’ Ffordd Liniaru’r M4 yn gynnar yn 2017 a’i gwblhau yn ystod y Pumed Cynulliad

• Bydd y gost, yr amcangyfrifir y bydd yn ddim mwy na £400 miliwn, yn gadael £600 miliwn o arbedion cyfalaf o gymharu â chynlluniau presennol llywodraeth Cymru

• Dylid trefnu bod y cyfryw adnoddau ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf sylweddol ar brosiectau trafnidiaeth pwysig yn rhywle arall yng Nghymru

PROSIECTAU FFYRDD PWYSIG AR DRAWS CYMRU

Fe ddylai fod ymgymryd â gwelliannau ffyrdd pwysig ar draws Cymru fod yn flaenoriaeth allweddol i Gynulliad a llywodraeth Cymru. Ni ddylai’r ffaith fod y rhain y tu hwnt i gwmpas ariannol cynghorau lleol atal cynghorau rhag clustnodi prosiectau ffyrdd allweddol ar gyfer eu hardal a derbyn arian i helpu i’w hadeiladu.

Bydd UKIP yn ailddyrannu £600 miliwn o gynllun ‘llwybr Du’ presennol llywodraeth Cymru i brosiectau ffyrdd strategol mewn mannau eraill yng Nghymru:

• buddsoddiad mawr wrth ledu rhannau mwyaf tagfaol priffordd A55 Gogledd Cymru, a mesurau i wella’i chydnerthedd mewn mannau eraill

• uwchraddio coridorau gogledd/de’r A470 a’r A483, e.e. gweithredu ar fannau cyfyng penodol, lonydd goddiweddyd rheolaidd

• rhagor o brosiectau a gynigir gan gynghorau lleol

• cefnogi modurwyr trwy wella’r amser a gymer siwrneiau a pha mor ddibynnol yw’n rhwydwaith ffyrdd

MANIFFESTO UKIP

Page 24: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

UKIP 2016 MANIFESTO> PAGE 24

RHEILFFYRDD

Sicrhaodd UKIP ddadl yn y Senedd ddechrau’r llynedd am ein bod yn credu bod Network Rail yn mynd ar y trywydd anghywir. Yn syml ’doedd ei lywodraethu gan fwrdd o 50-100 o bobl ddim yn gymwys i oruchwylio’i raglen fuddsoddi gwerth biliynau lawer o bunnoedd, yn cynnwys trydaneiddio’r Great Western a phrif linellau De Cymru.

Fe sicrhaodd gweinidog y rheilffyrdd ni bryd hynny nad oedd dim problem gyda llywodraethiant Network Rail yn goruchwylio trydaneiddio, dim ond i wrthdroi’r sefyllfa ar ôl yr etholiad cyffredinol a chyfaddef ei fod mewn argyfwng. Y gwirionedd yw bod y trydaneiddio i Abertawe wedi’i ohirio tan ar ôl 2019 a ’does dim cynllun byth i drydaneiddio prif linell Gogledd Cymru.

Bydd UKIP yn: • mynnu bod trydaneiddio prif linell De Cymru i Abertawe’n cael ei gwblhau mor fuan ag sy’n bosibl

• cefnogi datblygu system Metro yn Ne Cymru, ond nid ar draul prosiectau sy’n sefyll ar eu pen eu hunain y gellir eu gwneud yn awr, e.e. ymestyn gwasanaethau llinell Glynebwy i Abertyleri ac i Gasnewydd.

• cydnabod bod cost trafnidiaeth cyn bwysiced â chyflymder neu amlder gwasanaeth

• rhewi prisiau tocynnau trên ar draws Cymru am ddwy flynedd gyntaf y fasnachfraint nesaf a thorri prisiau tocynnau o 10% ar linellau ble mae trydaneiddio wedi’i ohirio, i’w gyllido gan y gyllideb prosiectau newid hinsawdd o £73 miliwn

• cyllido prosiect pennu hyd a lled cyfnod cynnar ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru, i’w wneud gan rywun heblaw Network Rail

• dal ati gyda datblygu gorsaf cyfnewidfa lawn ac un lefel yn Shotton i ganiatáu i wasanaethau o Wrecsam a Bidston gysylltu â phrif linell Gogledd Cymru

• asesu a yw’r galw’n cyfiawnhau buddsoddi i ailsefydlu’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth trwy ddechrau gwasanaeth bysus cyflym ar y llwybr a integreiddiwyd ym map ac amserlen rheilffyrdd Cymru

TEITHIAU AWYR

Nid ydym yn creu y dylai llywodraeth fod yn berchen ar feysydd awyr na’u gweithredu. Roeddem yn gwrthwynebu penderfyniad llywodraeth Cymru i wastraffu £52 miliwn o arian trethdalwyr Cymru ar brynu maes awyr Caerdydd, swm y mae hyd yn oed ei harchwilwyr ei hun wedi dod i’r casgliad ei fod yn ormodol.

Bydd UKIP yn: • gwerthu maes awyr Caerdydd cyn gynted â phosibl i liniaru’r golled i drethdalwyr Cymru fel bod perchennog newydd yn gallu’i weithredu ar sail fasnachol briodol

• gwrthwynebu datganoli Toll Teithwyr Awyr

BEICIO A CHERDDED

Mae strategaethau i gynyddu’r defnydd o feicio a cherdded fel opsiynau trafnidiaeth i’w croesawu, ond dylent fod yn gyfrifoldeb cynghorau lleol yn y lle cyntaf.

Bydd UKIP yn:• caniatáu i gynghorau lleol benderfynu ar y cyd â byrddau iechyd lleol etholedig sut orau i wario cyllidebau iechyd y cyhoedd a chyllidebau perthnasol eraill i hyrwyddo beicio a cherdded, yn arbennig ymhlith plant

• rhoi terfyn ar hyrwyddiad posibl cerdded a beicio ar yr M4 presennol - a grybwyllwyd mewn astudiaeth gan y llywodraeth bresennol - fel maen prawf ar gyfer ffafrio ‘llwybr du’ ffordd liniaru’r M4

• cymryd agwedd dim goddefgarwch at feicio peryglus, e.e. neidio goleuadau coch ac oedolion yn defnyddio palmentydd, a mynnu bod llwybrau beiciau’n cael eu defnyddio pan fyddant ar gael

DATBLYGU ECONOMAIDD

Efallai mai gwendid mwyaf datganoli yng Nghymru yw ei hanes economaidd gwael. Yn 1989 roedd Gwerth Ychwanegol Gros (GVA – mesur o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal) y pen ar gyfer Cymru yn 85% o’r ffigur ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.

Erbyn 1999 pan ddechreuodd y Cynulliad roedd wedi disgyn i 77% o ffigur y DU a gosododd Llywodraeth y Cynulliad ar y pryd darged i’w godi i 90% o gyfartaledd y DU. Erbyn 2014 roedd GVA yng Nghymru wedi disgyn i 71% o gyfartaledd y DU ac roedd Llywodraeth Cymru wedi gollwng ei tharged i’w gynyddu. Mae GVA yng Nghymru yn is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â phob un o ranbarthau Lloegr, ac yn brin hanner y pen GVA Llundain.

Bellach byddai angen i Gymru dyfu 4%+ bob blwyddyn, mor gyflym ag y gwnaeth canol a dwyrain Ewrop wrth daflu comiwnyddiaeth ymaith, a gwneud hynny’n barhaus am sawl degawd, os yw i gyrraedd yr un lefel â gweddill y DU

Page 25: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

NI ALL CYMRU GARIO SEFYDLIAD BAE CAERDYDD

Ni fu dim prinder strategaethau a mentrau gan wleidyddion yng Nghymru sy’n hawlio gallu i gryfhau ein perfformiad economaidd.

Eto mae sefydliad Bae Caerdydd yn anfodlon cyfaddef y naill neu’r llall o ddau beth sy’n rhagamodau i gryfhau ein perfformiad economaidd, ond y mae UKIP yn eu cydnabod:

• nid oes y fath beth ag economi Cymru gyfan gan fod economïau De a Gogledd Cymru â chysylltiadau agosach â rhanbarthau cyfagos Lloegr nag sydd ganddynt â’i gilydd

• yn rhy aml mae deddfu datganoledig wedi ychwanegu cymhlethdod rheoleiddiol at wneud busnes yng Nghymru ac felly wedi dal Cymru’n ôl

Felly bydd ymagwedd UKIP at ddatblygu economaidd yng Nghymru yn pwysleisio:• cryfhau cysylltiadau economaidd allweddol rhwng De Cymru, Bryste a choridor yr M4 i Lundain

• sicrhau bod Gogledd Cymru’n cael ei integreiddio yn y cyfleoedd sy’n llifo o ddatblygiad ‘pwerdy Gogleddol’ gan lywodraeth y DU

• gwella cysylltiadau rhwng Cymru wledig a’i chefnwledydd allweddol, boed yn Ne Cymru, Gogledd Cymru, Iwerddon neu ranbarthau Lloegr

Mae UKIP yn cefnogi datganoli mwy o bwerau ac arian o lywodraeth y DU ac o lywodraeth Cymru i gynghorau lleol Cymru. Mae wedi cymryd llawer yn rhy hir i gael ‘dêl dinas’ i ranbarth Caerdydd. Ni ddylai datganoli fod yn rhwystr i ddatganoli pellach.

Byddai UKIP yn:• pleidio achos unrhyw gyngor yng Nghymru sy’n dymuno mwy o bwerau, trwy ddatganoli ei bwerau

ei hun ymhellach i gynghorau yn ogystal â thrwy bwyso ar lywodraeth y DU i wneud hynny yn ôl yr angen

• cefnogi gweithio ar y cyd rhwng ardaloedd cynghorau Cymru a Lloegr sydd â chysylltiadau economaidd agos, e.e. Casnewydd a Bryste neu Wrecsam a Gorllewin Sir Gaer a Chaer.

• datganoli’r gyllideb a’r staff ar gyfer datblygu economaidd o Barc Cathays yng Nghaerdydd i gynghorau lleol ar draws Cymru. Yna byddem yn gosod dyletswydd statudol ar gyngor lleol i hyrwyddo datblygu economaidd - fel y cynigir gan Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru

MANIFFESTO UKIP

Page 26: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

TAIMae yna brinder tai fforddiadwy difrifol yng Nghymru. Mae llawer o’r rheini a fyddai’n hoffi bod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn syml iawn yn methu hyd yn oed ei ystyried.

Er ein bod yn hollol ymwybodol o’r angen i adeiladu mwy o gartref, ni fydd UKIP yn caniatáu i dai newydd amddifadu’n gwlad o’i thir amaethyddol gorau. Ni fyddwn yn caniatáu i gefn gwlad gael ei foddi gan orddatblygu ychwaith.

MANIFFESTO UKIP > PAGE 26

Page 27: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Bydd UKIP yn:• cymell datblygu tir llwyd

• cynnig grantiau o hyd at £10,000 yr uned i ddatblygwyr sy’n gwneud gwaith adfer hanfodol ar safleoedd tir llwyd.

• clustnodi tir cwsg tymor hir a ddelir gan y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol fel bod modd ei ryddhau ar gyfer datblygiadau fforddiadwy

• dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd

CARTREFI LLEOL I BOBL LEOL

Bydd UKIP yn annog symudiadau gan awdurdodau lleol i flaenoriaethu pobl gyda chysylltiadau lleol cryf wrth wneud dyraniadau tai. Credwn y dylai cymunedau lleol fod â mwy o lais yn yr hyn sy’n dig-wydd yn eu cymdogaeth.

Byddwn yn: • rhyddhau awdurdodau lleol oddi wrth isafswm niferoedd tai sy’n cael eu gosod gan y llywodraeth

• •gwrthdroi’r polisïau presennol o hwyluso datblygiadau preswyl gwledig ar raddfa fawr,

• •hyrwyddo datblygiadau 6-12 uned llai mewn ardaloedd gwledig i ymestyn y pentrefi presennol

• •annog awdurdodau lleol i fynnu bod cyfran o leiniau hunanadeiladu’n cael eu darparu ym mhob datblygiad mawr

• •caniatáu i ddatblygiadau ar raddfa fawr gael eu gwrthdroi gan refferendwm lleol cyfrwymol sy’n cael ei ennyn gan lofnodion 5 y cant o’r etholwyr o fewn ardal awdurdod cynllunio, wedi’u casglu o fewn tri mis.

• lleihau cost a biwrocratiaeth ceisiadau cynllunio trwy gyfuno adrannau cynllunio a rheoli adeiladu awdurdodau lleol

• cyflwyno rhagdybiaeth gynllunio y tu allan i ganol trefi o blaid addasu i fod yn breswyl o fod yn ddefnydd swyddfa ac adwerthu

• fel arfer yn gwrthsefyll rheoliadau adeiladu newydd yng Nghymru a fydd yn cynyddu cost a chymhlethdod i ddatblygwyr ac yn lleihau adeiladu tai

MANIFFESTO UKIP

Page 28: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

YR AMGYLCHEDD

MANIFFESTO UKIP > PAGE 28

Page 29: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

ARDALOEDD GWLEDIG AC ARDALOEDD LLEINIAU GLAS

Mae UKIP yn cydnabod budd rheoli bywyd gwyllt trwy arferion gorau wrth gynnal tirweddau sy’n genedlaethol bwysig, gan gynyddu cynhwysedd cludo dŵr y tir, wrth wella cynhyrchiant amaethyddol hyfyw ac wrth gyflenwi cynefin, bwyd, dŵr a gwarchodaeth ar gyfer bywyd gwyllt gydol y flwyddyn. Mae diogelu’r gweithgareddau economaidd sy’n darparu’r gwasanaethau ecosystem cadarnhaol hyn wrth galon ein polisi.

Mae UKIP yn addo:• gwrthwynebu prosiectau adeiladu ar leiniau glas, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd trwy Gynlluniau Datblygu Lleol

• gwrthwynebu ffermydd gwynt diolwg

• atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth bresennol i sicrhau bod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ynghyd ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar prin ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llystyfiant prin wedi’u dynodi gan yr UE yn cael eu cadw dan reolaeth dda

• adolygu meini prawf dethol y sefydliadau a’r unigolion sy’n cael eu talu i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion amgylcheddol

• mynd i’r afael â’r problemau allgáu cymdeithasol a’r problemau cymdeithasol lawer sy’n cael eu creu gan system addysg sy’n methu, trwy fynd ati’n ofalus i lunio Gwasanaeth Gwaith a Sgiliau Cenedlaethol, i greu bywydau newydd o ansawdd i niferoedd mawr o bobl.

• adolygu’r ddeddfwriaeth llosgi grug gan ddisgwyl cynyddu defnydd diogel yr erfyn ffermio organig tra effeithiol hwn, ynghyd â’r technolegau llosgi oer rheoledig ac ailhadu newydd llwyddiannus iawn, sy’n lleihau’r perygl o danau gwyllt difrodol yn fawr.

Ein nod yw galluogi Cymru i ymfalchïo yn y grug o ansawdd uchel, a reolir yn dda sydd ganddi a’r buddion y mae hyn yn ei roi i beillwyr, amrywiaeth llawer mwy o adar, mamaliaid, planhigion ac infertebratau, nag ar rosydd na chânt eu rheoli. Mae gan Gymru’r potensial i ddyblu’r arwynebedd presennol o weundir grug. Bydd UKIP yn cefnogi ac yn annog achredu tir a reolir yn dda, a’r cynigion ffermio sydd o Werth Mawr i Natur sydd gan yr RSPB ar hyn o bryd.

LLES ANIFEILIAID

Mae UKIP yn addo:• cefnogi’r defnydd o deledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy, yn ogystal â labelu “dull cynhyrchu” ar

bob cig, pysgod a chynnyrch llaeth. Byddai hyn yn cynnwys - yn niffyg gwaharddiad ar yr arfer – arwydd pa un a yw anifail wedi’i ladd heb ei stynio ymlaen llaw

• rheoleiddio llochesi anifeiliaid

• adolygu safonau prynu bwyd y sector cyhoeddus

• gwella gorfodi effeithiol ar ddeddfau lles anifeiliaid

• gwrthwynebu hufenfeydd enfawr

• cyflwyno cosbau newydd llym am bori ceffylau’n anghyfreithlon, eu rhwymo a’u gadael

• cyflwyno rheolau newydd, llymach ar rasio milgwn, gan ei gwneud yn amod bod milfeddyg yn bresennol mewn rasys, gofynion cynelu i gŵn a chadw cofnodion

MANIFFESTO UKIP

Page 30: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

ALLFORION ANIFEILIAID BYW

Mae UKIP yn gwrthwynebu cludo anifeiliaid yn fyw y tu allan i’r DU. Credwn fod yr UE yn trin drwg arferion lles anifeiliaid yn rhy ysgafn, fel y dangosir gan y ffaith nad oes yna hyd yma ddim uchafswm amser siwrnai o 8 awr dan gyfraith yr UE ar gyfer anifeiliaid sy’n teithio i’w pesgi ymhellach a’u lladd.

Mae UKIP yn addo: • lobïo am waharddiad Prydeinig ar allforio anifeiliaid yn fyw i’w lladd

• atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth bywyd gwyllt bresennol, gan ei diweddaru i wahardd defnydd maglau sy’n llacio ohonynt eu hunain yng Nghymru

• lobïo’n galed am waharddiad ledled y DU ar lusernau awyr. Mae’r rhain yn berygl o ran cael eu llyncu gan fywyd gwyllt, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm, ac o ran eu trapio a bod yn berygl tân iddynt

• gwella casglu data ar gadw anifeiliaid anwes ecsotig yng Nghymru, i helpu i atal eu trin yn wael a’u gadael

• gwneud lles anifeiliaid yn rhan annatod o brosesau cynllunio awdurdodau lleol

FFERMYDD CŴN BACHMae UKIP yn cefnogi rheoleiddio magu cŵn bach yn iawn yng Nghymru. Mae De-Orllewin Cymru wedi dod yn brif ardal magu cŵn masnachol y DU ond rydym yn bryderus ynghylch safonau. Tra bod 130 o awdurdodau lleol yn y DU nad oes ganddynt yr un bridiwr cŵn trwyddedig o gwbl, mae yna 41 o fridwyr trwyddedig yng Ngheredigion ac 81 yn Sir Gaerfyrddin. Yn aml mae’r amgylchiadau magu yn wael iawn.

Byddai UKIP yn tynhau’r ddeddfwriaeth bresennol ac yn:

• gwahardd lladd geist ar ddiwedd eu bywyd magu

• darparu ar gyfer rheoleiddio cyfrannol fwy uwchlaw uchafswm nifer o gŵn magu

• sicrhau bod y cofnodion magu’n cael eu dogfennu gan filfeddyg

• dod o hyd i ffermydd cŵn bach anghyfreithlon a’u cau

Page 31: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

NEWID HINSAWDD

Mae llywodraeth Cymru’n cynyddu’r gwariant ar brosiectau newid hinsawdd o £48 miliwn yn 2015/16 i £73 miliwn yn 2016/17. Mae’r codiad hwn o dros 50% yn fwy o gynnydd nag ar gyfer bron unrhyw faes gwariant arall.

Mae UKIP yn cwestiynu a fydd gwariant o’r fath yn cael unrhyw effaith o bwys ar yr hinsawdd ac nid ydym yn ystyried ei fod yn fforddiadwy yng ngoleuni galwadau cyllidebol eraill

• dileu cyllideb llywodraeth Cymru o £73 miliwn ar gyfer prosiectau newid hinsawdd

• ailddyrannu hyd at £5-10 miliwn i ariannu unrhyw gyfraniad gan lywodraeth Cymru at gynnal a chadw pontydd afon Hafren ar ôl diddymu’r tollau

• rhewi prisiau tocynnau trên ar draws Cymru am ddwy flynedd gyntaf y fasnachfraint nesaf a thorri pris tocynnau trên o 10% ar linellau ble mae trydaneiddio wedi’i ohirio

MANIFFESTO UKIP

Page 32: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

BWYD

MANIFFESTO UKIP > PAGE 32

Page 33: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Cred UKIP fod ymagwedd ystyriol at sut y caiff bwyd ei ystyried yn y llywodraeth yn sylfaenol i iechyd ac economi ein gwlad. Byddai gwella iechyd y boblogaeth yn helpu i atal salwch, ac o’r herwydd fe allai arbed costau i’r GIG. Credwn y gall hyrwyddo ymagwedd iach at fwyd helpu i fynd i’r afael â gordewdra a rhoi cyfleoedd i fusnesau a ffermwyr. Mae Cymru ar y blaen yn y DU o ran lefelau gordewdra, ac mae ymchwil yn awgrymu bod hynny’n gysylltiedig ag amddifadedd cymdeithasol.

Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’r bwyd gorau’n cael ei gynnig i Weinidogion Llywodraeth Cymru a’u staff, diolch i gymorthdaliadau hael, y bydd UKIP yn eu torri.

Mae UKIP yn addo:• cymell defnydd cynnyrch lleol ar draws y sector cyhoeddus i gyd ble bynnag y mae’n bosibl

• hyrwyddo deietau iach trwy arlwyaeth y sector cyhoeddus mewn ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai a swyddfeydd y llywodraeth

• croesawu’r Rhaglen Bwyd am Oes i hyrwyddo bwyd da mewn meithrinfeydd dydd, prifysgolion, ysbytai a chartrefi gofal yn ogystal ag ysgolion

• hyrwyddo defnydd cynnyrch maes organig, uchel ei les yn y sector cyhoeddus.

MANIFFESTO UKIP

Page 34: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

AMAETHYDDIAETH, PYSGODFEYDD, COEDWIGAETH A DATBLYGU GWLEDIG

MANIFFESTO UKIP > PAGE 34

Page 35: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Mae UKIP wedi ymrwymo i dynnu’n ôl o’r UE ac i ffermio mewn Prydain annibynnol, yn rhydd rhag cyfyngiadau Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.

Mae ein polisïau’n ceisio cynnig fframwaith ble gall amaethyddiaeth a rheoli amgylcheddol arfer gorau ffynnu gyda’i gilydd, gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf trugarog ac effeithiol sydd ar gael.Nid yw’r targedau rhyngwladol o ran bioamrywiaeth wedi’u cwrdd yn unrhyw un o’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, er gwaethaf cyllid Colofn 1 a 2 CAP a rheoliadau llym y Llywodraeth. Rydym yn bryderus fod y sefyllfa rheoli bywyd gwyllt bresennol yn parhau i ddirywio, gyda thua 600 o rywogaethau’n cael eu hystyried mewn perygl bellach.

Mae UKIP yn cydnabod budd rheoli bywyd gwyllt trwy arferion gorau i gynnal tirweddau sy’n bwysig yn genedlaethol, gan gynyddu cynhwysedd cludo dŵr y tir, gwella cynhyrchiant amaethyddol hyfyw a chyflenwi cynefin, bwyd, dŵr a gwarchodaeth ar gyfer bywyd gwyllt gydol y flwyddyn. Mae diogelu’r gweithgareddau economaidd sy’n darparu’r gwasanaethau ecosystem cadarnhaol hyn wrth galon ein polisi.

Bydd UKIP yn:• dilyn ymagwedd sy’n seiliedig ar ganlyniadau at gydymffurfiaeth â’r CAP: dylai ffermwyr, cominwyr

a phorwyr gael eu cefnogi gan y Llywodraeth yn hytrach na’u bygwth â chosbau

• byddai UKIP yn cynnal y gyfradd Fodiwleiddio bresennol o 15% o Golofn 1 i Golofn 2 yng Nghymru, ar yr amod bod yr arian yma’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cynhyrchwyr Cymreig hynny y mae’u busnesau’n cwrdd â gwell meini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol

• cefnogi cyflwyno Cymorth Cysylltiedig Gwirfoddol (“VCS”) er enghraifft taliadau y pen i’r sectorau bîff a defaid amgylcheddol strategol yng Nghymru

• bydd UKIP yn gwneud taliadau VCS o’r fath yn amodol ar feini prawf rheoli bywyd gwyllt a chyfradd stocio a benderfynir yn lleol gan ymgynghori â chynrychiolwyr ceidwaid y tir, cominwyr a phorwyr

• yn ei gwneud yn orfodol i roi gwybod am ddamweiniau ceirw’n gysylltiedig â thraffig, yr amcangyfrifir eu bod yn 70,000 yn y DU bob blwyddyn, fel y mae ar gyfer anifeiliaid dof, gan fod y rhain yn achosi dioddefaint sylweddol i geirw anafedig

• mynnu bod rheolwyr bywyd gwyllt lleol yn ymateb, yn rhoi gwybod am, yn chwilio am, yn lleoli ac yn lladd y ceirw hyn a cheirw eraill sydd wedi’u hanafu neu’u hanalluogi, yn cynnwys y rheini sy’n codi dan reoli arferol

• cefnogi’r cyllid ymchwil presennol sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, ond hefyd yn blaenoriaethu effeithlonrwydd protein mewn magu da byw a chanolbwyntio ymdrechion bridio planhigion ar wella cynnyrch ac ansawdd protein glaswelltau a chodlysiau porfa

• cefnogi bridio planhigion sy’n benodol yn lleol a thechnolegau newydd ar gyfer pys, ffa a had llin a allai fod yn gnydau protein cartref atyniadol i Gymru.

MANIFFESTO UKIP

Page 36: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

AMDDIFFYNFEYDD RHAG DŴR A LLIFOGYDDYr UE sydd â’r rheolaeth flaenaf dros reoli dŵr mewndirol trwy Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2000. Er ein bod yn cydnabod na allwn reoli tywydd Prydain a bod digwyddiadau llifogydd eithafol yn sicr o ddigwydd, ymagwedd UKIP yw mabwysiadu cynlluniau rheoli penodol i ddalgylchoedd sy’n cynnwys tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, datblygwyr a phreswylwyr wrth reoli dŵr afonydd dan amgylchiadau arferol a phan fydd llifogydd.

Bydd UKIP yn • mynnu bod awdurdodau lleol yn clustnodi ardaloedd

uchel eu risg ac yn datblygu cynlluniau argyfwng i reoli sefyllfaoedd argyfyngus

• symud ein ffocws i weithio gyda natur yn hytrach nag yn erbyn natur.

MANIFFESTO UKIP > PAGE 36

Page 37: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

DIOGELU A CHYNNAL A CHADW

Mae rhwydwaith o afonydd, camlesi, ffosydd, llifddorau a gorsafoedd pwmpio mewn bodolaeth yn barod. Mae llawer o’r nodweddion hyn wedi’u llenwi’n rhannol, ar hyn o bryd, â silt neu mewn cyflwr gwael a heb fod yn gallu gweithio’n iawn. Bydd UKIP yn sicrhau bod yr awdurdodau perthnasol yn cadw’r dyfrffyrdd hyn yn glir o silt ac yn cynnal offer yn iawn a bod y gweithgaredd hwn yn cael blaenoriaeth dros bryderon ynghylch cynefinoedd naturiol colledig.

Nid yw’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gwahardd carthu afonydd fel yr haerir weithiau; ’dyw ond yn lapio mân reolau costus o amgylch y gweithgaredd. Mae carthu rheolaidd yn digwydd o gwmpas y DU ar safleoedd allweddol.

Mae silt yn mynd i mewn i afonydd yn bennaf oherwydd bod y pridd wedi’i lacio gan weithgaredd dyn cyn glawiad trwm. Gallai hyn gael ei achosi gan drin y tir yn amaethyddol a, neu adeiladu ffyrdd a thai, er bod coed wedi’u dadwreiddio ar lechweddau ar ôl gwyntoedd cryf a glawiad trwm yn achos hefyd.

Bydd UKIP yn: • caniatáu carthu, ac yn lleihau’r baich rheoleiddiol o’i gwmpas,

tra bydd ar yr un pryd yn annog dull gweithredu sy’n lleihau’r angen i garthu afonydd

• sicrhau y bydd cynlluniau rheoli, ym mhob dalgylch, yn cynnwys tirfeddianwyr i atal afonydd rhag siltio trwy well arferion rheoli tir, megis technegau sefydlu cnwd ‘bras-droi’ neu ‘ddim trin’ a defnydd lleiniau clustog, cnydau gorchudd ac osgoi tyfu indrawn mewn caeau uchel eu risg

• annog pori glaswellt parhaol yn iawn ar lechweddau i annog twf gwreiddiau ac angori’r glaswellt

• hysbysu awdurdodau cynllunio na fydd datblygu pellach ar orlifdiroedd yn cael ei ddiogelu rhag llifogydd gydag arian cyhoeddus

• caniatáu defnydd ‘safleoedd tir llwyd’ yn unig ar gyfer datblygu newydd: ble mae’r safleoedd hyn yn gyfagos i ddyfrffyrdd neu ble nad oes dim safleoedd tir llwyd, bydd disgwyl i ddatblygwyr ddylunio ac adeiladu tai sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd

• annog deiliaid tir i sicrhau bod dŵr sy’n cyrraedd eu tir yn cael ei ollwng yn ddiogel a darparu cymhellion iddynt gymryd rhan mewn gwaith peirianneg megis ‘golchfeydd’ neu argaeau pridd, wedi’u gosod gyda Hydro-Frêciau neu debyg.

DIOGELU’R ARFORDIR

Cred UKIP fod Strategaeth Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annigonol.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi rhybuddio bod 66 o safleoedd arfordirol sy’n ymestyn dros 1,572 hectar mewn perygl o gael eu boddi yn y 100 mlynedd nesaf. Gallai miloedd o bobl sy’n byw ar yr arfordir weld gwerth eu cartrefi’n disgyn wrth i lywodraeth Cymru gytuno i roi’r gorau i ddiogelu rhai tai rhag y môr.

Mae safleoedd sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol a allai fod dan fygythiad yn cynnwys Ystâd Stackpole yn Sir Benfro, Morlyn Cemlyn yn Ynys Môn, systemau twyni ar benrhyn Gŵyr ger Abertawe a môr-geyrydd hanesyddol fel Dinas Dinlle yng Ngwynedd. Fe all traethau yn cynnwys Marloes yn Sir Benfro ddiflannu a bydd angen i lwybrau arfordirol gael eu symud i mewn i’r tir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na fydd bellach yn cynnal amddiffynfeydd mewn 48 ardal. Mae hyn yn rhoi 1,300 o gartrefi mewn perygl o gael eu colli. Dan gynlluniau Rheoli Traethlin, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gadael i ardaloedd arfordirol o Gymru gael eu boddi, er enghraifft, ym Mhorthcawl a Newton, trwy beidio â buddsoddi arian i’w hachub.

Yn y cyfamser, trwy’n hymroddiad dan arweiniad yr UE i wario 0.7 % ar gymorth tramor, mae trethdalwyr Prydain wedi rhoi £1miliwn i ddinas gefnog yn Serbia ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd newydd. Yn ystod y pum mlynedd nesaf bydd Llywodraeth y DU yn gwario £5.8 biliwn mewn cymorth ar brosiectau tramor yn amrywio o ymladd difrod gan lifogydd i gynlluniau yswiriant trychinebau.

Os digwydd inni adael yr UE, cred UKIP y dylem fuddsoddi rhywfaint o’r arian sy’n dod ar gael ar amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru. Ni fyddwn yn troi cefn ar y rheini a all golli’u cartrefi a’u cynilion oes yn awr oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i amddiffynfeydd môr priodol.

Bydd UKIP yn:• darparu help i bobl a chymunedau i amddiffyn cartrefi ac

adeiladau cyhoeddus, megis ysbytai, rhag llifogydd arfordirol a llifogydd afonydd

• atal adeiladu newydd ar orlifdiroedd

• annog storio dŵr yn yr ucheldiroedd trwy reolaeth systemau afonydd llawn – yn cynnwys adfer gwylptiroedd, aildyfiant naturiol, caniatáu i afonydd ddolennu a gorlifo i fyny’r afon

• os yw’r DU yn pleidleisio i adael yr UE, byddwn yn adleoli arian sydd wedi’i gyfeirio at atal llifogydd dramor i’r DU gyda chyfran sylweddol i Gymru yn gymesur â hyd ein morlin

DIOGELU MOROL

Bydd UKIP yn• cefnogi datganoli’r holl reolaeth ar bysgodfeydd a diogelu

morol yn llawn o’r UE i Gynulliad Cymru, os digwydd yr ymadewir â’r Undeb Ewropeaidd.

• gweithredu cynllunio morol wedi’i seilio ar ‘ddull rheoli ar lefel yr ecosystem’, gan sicrhau datblygiad cynaliadwy ein moroedd a diogeliad rhywogaethau a chynefinoedd

• os digwydd yr ymadewir â’r Undeb Ewropeaidd, bydd UKIP yn gwahardd pysgota tramor o gwmpas morlin Cymru, heblaw ble mae budd sicr i Gymru

• cefnogi cychod pysgota llai a’r diwydiant genweirio môr

MANIFFESTO UKIP

Page 38: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

CULTURE

MANIFFESTO UKIP > PAGE 38

Page 39: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

HANES A DIWYLLIANT

Byddwn yn hyrwyddo diwylliant Cymreig a Phrydeinig sy’n uno. Credwn fod athroniaeth amlddiwylliannaeth yn methu oherwydd ei bod yn pwysleisio arwahanrwydd yn lle undod. Yn arbennig, rydym yn cefnogi hawliau cyfartal i ferched, beth bynnag eu cefndir diwylliannol.

Rydym yn cydnabod bod gwerthoedd Prydeinig a Chymreig yn cynnwys goddefgarwch crefydd. Mae UKIP wedi ymrwymo i ddiogelu rhyddid crefyddol i bob credadun yn y DU, yn unol ag Erthygl 18 o’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.

Er hynny, byddwn hefyd yn herio ‘diwylliant trosedd’ gan ei fod yn peryglu dileu rhyddid i lefaru. Ni fyddwn yn goddef unrhyw safbwynt ffydd sydd ynddo’i hun yn anoddefgar ac yn gwrthod cydnabod hawliau dynol eraill

Bydd UKIP yn: • sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol Cymru yn gallu ffynnu.• diogelu parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol arbennig, ond yn caniatáu hawl

apelio i lywodraeth Cymru yn erbyn penderfyniadau cynllunio awdurdodau parciau cenedlaethol • gwrthwynebu prosiectau adeiladu ar leiniau glas, fel sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd trwy

Gynlluniau Datblygu Lleol• creu ardaloedd cadwraeth gwledig i ddiogelu’n trefydd marchnad a chefn gwlad hynod o hardd • cyflwyno ‘rhagdybiaeth o blaid cadwraeth’ mewn deddfwriaeth cynllunio • annog adfywio mewn trefi arfordirol sy’n edwino trwy ddynodiad ‘Statws Tref Glan Môr’

DARLLEDU A CHRAFFU AR Y WASG

Gyda’r sylfaen grym gynyddol ym Mae Caerdydd, mae’n hanfodol bod gennym wasg a chyfryngau cadarn a theg yng Nghymru sy’n gallu craffu ar y penderfyniadau a wneir gan wleidyddion.

Ychydig sylw a roddir i Gymru gan bapurau newydd Llundain. Mae hyn yn ychwanegu at y diffyg democrataidd. Yn ogystal, mae gwendid newyddiaduraeth annibynnol – y tu hwnt i ddarlledwyr y gwasanaeth cyhoeddus – yn peri pryder. Nid yw newyddiadurwyr yng Nghymru mewn sefyllfa digon cref i allu herio’r dosbarth gwleidyddol.

Mae hyn yn golygu bod ansawdd y cyfryngau print yng Nghymru o’r pwys mwyaf. Yn anffodus, bu dirywiad sylweddol yng nghylchrediad cyfryngau print; mae nifer y newyddiadurwyr a gyflogir yng Nghymru wedi disgyn o bron 700 yn 1999 i ond ychydig dros 100 yn 2013. Serch hynny, cred UKIP fod cyllid gan y llywodraeth i’r wasg yn ddrwg i ddemocratiaeth am ei bod yn anodd i newyddiadurwyr feirniadu’u tâl-feistri.

Mae UKIP yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cytuno’n awr y dylai Cymru gael ei chynrychioli’n uniongyrchol ar brif fwrdd Ofcom. Dylai’r penodiadau hyn fod yn destun proses penodi ar y cyd gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a phanel hollbleidiol. Dylai’r broses hon gael ei defnyddio hefyd i benodi Aelod Cymreig Ymddiriedolaeth y BBC.

Bydd UKIP yn:• gwrthwynebu cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i’r wasg

a darlledu gan y byddai hyn yn peryglu annibyniaeth yn ddifrifol ac yn llesteirio rôl graffu’r cyfryngau

• comisiynu astudiaeth o ddyfodol cyfryngau lleol yng Nghymru i benderfynu sut y gellir hyrwyddo radio masnachol a chymunedol, papurau newydd lleol a safleoedd hyperleol heb droi at ymyrraeth y llywodraeth o gwbl

• sefydlu cysylltiadau rhwng cynghorau a Chyngor Cynulleidfa’r BBC. Byddai hyn yn helpu i wella trin sensitifrwydd lleol yn rhanbarthau Cymru.

Y CELFYDDYDAU

Cred UKIP fod y celfyddydau yn agwedd bwysig ar fywyd Cymru a Phrydain.

Bydd UKIP yn• cadw’r polisi mynediad am ddim i amgueddfeydd.

• annog Cyngor Celfyddydau Cymru i wella mynediad at gyfranogiad yn y celfyddydau a gwerthfawrogiad ohonynt.

• sicrhau bod pobl ifanc i gyd yn gallu cael at gelfyddyd a’r theatr yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd.

MANIFFESTO UKIP

Page 40: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

MANIFFESTO UKIP > PAGE 40

YR IAITH GYMRAEG

Page 41: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Mae’r Iaith Gymraeg yn destun balchder Cenedlaethol mawr. Bydd UKIP yn cefnogi defnydd y Gymraeg ym mywyd bob dydd yng Nghymru, gan sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch ym mhob agwedd ar fywyd Cymru. Mae arnom eisiau i ddefnyddwyr deimlo’n gysurus wrth ddewis y Gymraeg.Mewn addysg, busnes ac mewn bywyd cyhoeddus ac mewn defnydd cymdeithasol mae’r Gymraeg yn ffynnu ac yn tyfu. Bydd UKIP yn ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg trwy addysg cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau bod yr iaith yn dal i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae UKIP wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith ‘fyw’, yn un sy’n ffynnu mewn defnydd pob dydd ar draws ein gwlad.

• sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar gael i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg

• argymell mynediad at waith papur yn eich dewis iaith, yn hytrach na rhoi gorbwyslais ar ddogfennau, biliau a llythyrau dwyieithog.

• sicrhau cyllid ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru fel modd o gryfhau cymunedau a thrwy hynny ddyfodol y Gymraeg.

• cefnogi grwpiau cymunedol i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u gweithgareddau ac i weithredu’n ddwyieithog.

• sicrhau bod ymdrechion i hyrwyddo dwyieithrwydd rhwng y Saesneg a’r Gymraeg yn gweithredu fel sbardun i ddysgu ieithoedd eraill, nid fel dewis arall

• gwella’r ddarpariaeth yn y Gymraeg ar gyfer gofal dementia a gofal diwedd oes, yn arbennig mewn ardaloedd ble mae llawer yn siarad Cymraeg, fel bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf gyda dementia neu ar ddiwedd eu hoes yn gallu cyfathrebu’n fwyaf cysurus

TELEDU CYMRAEG

Mae ansawdd rhaglenni ar S4C wedi’i effeithio’n andwyol gan doriadau.

Bydd UKIP yn: • cefnogi parhau i adleoli S4C i Gaerfyrddin gyda chymorth i’r staff

• pwyso ar Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon am drefniadau cyllido a fyddai’n galluogi S4C i ddarparu’i wasanaeth darlledu mewn manylder uwch

• cefnogi datganoli S4C yn amodol ar brawf parhaus bod cefnogaeth i bolisi o’r fath gan siaradwyr Cymraeg

MANIFFESTO UKIP

Page 42: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

TWRISTIAETHMae twristiaeth yn sylfaenol i lwyddiant economi Cymru ac i’n bywyd diwylliannol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod y Gwerth Ychwanegol Gros bob blwyddyn yn £3.1 biliwn, tra bo cyfanswm y cyfraniad yn tua £6.9 biliwn neu 13.9% o’r economi gyfan, o gymharu ag 8.5% yn Lloegr a 10.5% yn yr Alban.

MANIFFESTO UKIP > PAGE 42

Page 43: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

I rai cymunedau, mae twristiaeth yn hanfodol i’r economi leol ac mae llawer o swyddi’n dibynnu arno. Mae’r diwydiant yn darparu tua 117,400 o swyddi a 88,600 ar ben hynny yn anuniongyrchol.Bydd UKIP yn: • sefydlu perthynas weithio fwy cynhyrchiol gyda gweinidogion ac adrannau perthnasol y DU

• gwrthwynebu deddfwriaeth sy’n arwain at faich rheoleiddio ar y diwydiant, yn arbennig pan nad oes gan ddiwydiannau mewn mannau eraill yn y DU ac mewn gwledydd eraill gyfyngiadau tebyg

• ceisio gwella casglu data twristiaeth i fesur perfformiad gwirioneddol y diwydiant ac i ddatblygu gallu ymchwil i’r farchnad a darogan y gall y diwydiant ei ddefnyddio’n ddibynadwy

• buddsoddi mewn seilwaith twristiaeth, yn cynnwys rhwydweithiau trenau, bysus, awyr a rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus eraill

• gweithio gyda Visit Britain a’r ymgyrch GREAT i ddatblygu marchnadoedd tramor addawol

• integreiddio gwaith hyrwyddol Cadw, sy’n annigonol ar hyn o bryd, yn Croeso Cymru

• gadael pwerau cynllunio gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, yr ydym yn eu cefnogi ac yn credu bod ganddynt hanes da yn gyffredinol wrth ddiogelu’n tirwedd ardderchog ar draws mwy na phumed ran o Gymru, ond sefydlu hawl apelio cynllunio i lywodraeth Cymru yn erbyn eu penderfyniadau

• creu gwell cysylltiadau rhwng yr adrannau twristiaeth ac amaethyddiaeth yn y Cynulliad

• gwneud Dydd Gŵyl Dewi, neu’r diwrnod gwaith priodol agosaf, yn ŵyl banc cyhoeddus yng Nghymru.

• lobïo am doriad yn TAW twristiaeth i fwyhau’r siawns o lwyddiant busnes

• annog adfywiad mewn trefi arfordirol sy’n edwino trwy ddynodiad ‘Statws Tref Glan Môr’

• arbed tafarnau trwy arbediadau treth i fragdai llai a gwrthwynebu gosod uchafswm prisiau ar alcohol

• cyfarwyddo Croeso Cymru i ddatblygu mwy o gysylltiadau cyhoeddus-preifat a dod yn fwy arloesol.

MANIFFESTO UKIP

Page 44: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

HENEBION AC ADEILADAU HANESYDDOL

MANIFFESTO UKIP > PAGE 44

Page 45: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Mae’n treftadaeth Gymreig yn adrodd stori gyfareddol ein gorffennol, ond yn gwneud cyfraniad pwysig hefyd at ein heconomi trwy dwristiaeth, a rhaid cydnabod y ddau i’r un graddau wrth inni ddiogelu a chadw ein hadeiladau hynafol a’r henebion. Mae’r cyfrifoldeb o wneud hynny’n disgyn ar Gymru fel cenedl, felly rhaid i’r rheini sy’n gweithredu fel ceidwaid gael eu dal i gyfrif gan bobl Cymru. Yn aml iawn hefyd mae henebion ac adeiladau hanesyddol yn nodweddion allweddol ar eu cymunedau lleol. Serch hynny, mae Cadw’n eu gwahanu oddi wrth eu cymunedau lleol yn rhy aml trwy’u gwneud yn anodd cael atynt, fel yr amlygir gan y taliadau afresymol o uchel y mae Cadw’n eu codi ar grwpiau cymunedol sy’n dymuno cynnal digwyddiadau ar diroedd castell Caerffili.

Cred UKIP fod Cadw wedi’i gael yn brin yn ei gyfrifoldebau i bobl Cymru ac nid ydym yn credu mai cwango anatebol yw’r model iawn.

Bydd UKIP yn• dirwyn swyddogaethau Cadw i ben ac yn ceisio’i ddiddymu’n llwyr o fewn dwy flynedd

• datganoli perchenogaeth yr eiddo i’r cyngor dros yr ardal ble mae wedi’i leoli, heblaw ble mae’r cyngor yn clustnodi ymddiriedolaeth neu grŵp cymunedol priodol arall yn ei le

• trosglwyddo cyfrifoldeb am hyrwyddo henebion ac adeiladau hanesyddol i Croeso Cymru

• bydd gofynion cyngor treftadaeth yn cael eu darparu gan gyflenwyr allanol ar sail gystadleuol, yn cynnwys trosglwyddo staff perthnasol Cadw ble mae’n briodol

• darparu grantiau uniongyrchol i gynnal a chadw henebion ac adeiladau hanesyddol

• defnyddio dull o fynd ati fel partneriaeth i gadw’n treftadaeth yn ddiogel er lles Cymru ac ymwelwyr, ond hefyd i’w defnyddio fel cyfleusterau byw gan bobl a chymunedau lleol

• cefnogi TAW cyfradd sero ar atgyweiriadau i eglwysi hanesyddol ac adeiladau rhestredig

MANIFFESTO UKIP

Page 46: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

CHWARAEON A HAMDDEN

MANIFFESTO UKIP > PAGE 46

Page 47: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

Cred UKIP yn gryf fod chwaraeon yn chwarae rhan bwysig, nid yn unig wrth wella iechyd a mynd i’r afael â gordewdra, ond hefyd wrth helpu cydlyniant cymdeithasol a lles meddwl, yn ogystal â hyrwyddo datblygiad economaidd a thwristiaeth.

Mae buddion iechyd corfforol a meddyliol cymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd yn helpu i leihau’r perygl o glefyd y galon, diabetes, iselder, osteoporosis a llawer o anhwylderau eraill. Mae gan Gymru gyfraddau gordewdra plentyndod cronig hefyd.

Mae digwyddiadau byd chwaraeon yn helpu i roi hwb i’r economi leol ac yn ysbrydoli oedolion a phlant i gymryd rhan mewn ymarfer corff iach. Mae cynnal pencampwriaethau uchel eu proffil yn gallu arwain at enillion economaidd i’r diwydiant twristiaeth ac i fusnes yn gyffredinol.

Bydd UKIP yn:• hyrwyddo chwaraeon mewn ysgolion a chymunedau fel modd pwysig o leihau’r beichiau ar y GIG

• adfer tir diffaith ble mae’n bosibl i wella cyfleusterau chwaraeon mewn ardaloedd o amddifadedd

• mwyhau’r cyfleoedd i ddod â digwyddiadau chwaraeon mawr i’w cynnal yng Nghymru

• datganoli pwerau priodol i gynghorau lleol i hyrwyddo chwaraeon yn eu hysgolion a’u cymunedau

• gwrthwynebu adeiladu ar gaeau chwarae a thiroedd hamdden sy’n codi o Gynlluniau Datblygu Lleol

• gofalu nad yw genethod yn cael eu gadael ar ôl wrth i gyfleusterau chwaraeon lleol gael eu darparu

• ymgyrchu i ddod â Gemau’r Gymanwlad i Gaerdydd yn 2026

MANIFFESTO UKIP

Page 48: Welsh Manifesto 2016-CYM.compressed

CODI’R DDRAIG

Published and promoted by Paul Oakden, on behalf of UK Independence Party,1 King Charles Business Park, Old Newton Road, Heathfield, Newton Abbot, Devon, TQ12 6UT

Printed in Wales on paper from FSC Certified sources by Print Co (West) Ltd,218 Springvale Industrial Estate, Cwmbran, Wales, NP44 5BJ