8
BYDDWCH YN BAROD AR GYFER Y GAEAF GYDA CHYMRU GYNNES www.warmwales.org.uk Byddwch yn barod ar gyfer toriadau trydan. Cadwch eich simnai’n glir. Edrychwch ar gyflwr eich ffenestri. Gall system inswleiddio ddigonol helpu i arbed £100oedd bob blwyddyn. Bydd atal drafftiau’n helpu i gadw eich cartref yn gynhesach am amser hirach.

BYDDWCH YN BAROD AR GYFER Y GAEAF GYDA CHYMRU GYNNES · fel dail a mwd yn gallu blocio’r draeniau ac unwaith y maen nhw wedi gorlenwi, mae’n gallu achosi i’r dŵr ddiferu i’r

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • BYDDWCH YN BAROD ARGYFER Y GAEAF GYDA CHYMRU GYNNES

    www.warmwales.org.uk

    Byddwch yn barod argyfer toriadau trydan.

    Cadwch eichsimnai’n glir.

    Edrychwch ar gyfl wr eich ff enestri.

    Gall system inswleiddio ddigonolhelpu i arbed £100oedd bob blwyddyn.

    Bydd atal draff tiau’n helpu i gadw eich cartref yn gynhesach am amser hirach.

  • Glanhau landeri a draeniau

    Efallai nad yw glanhau landeri a draeniau’n uchel ar eich rhestr o bethau i’w gwneud, ond mae’n waith hanfodol. Mae pethau fel dail a mwd yn gallu blocio’r draeniau ac unwaith y maen nhw wedi gorlenwi, mae’n gallu achosi i’r dŵr ddiferu i’r to a’r waliau. Trwy wneud yn siŵr bod y landeri’n lân a heb lenwi byddwch yn lleihau’r risg o ddifrod.

    Cadwch eich gwres ar amserydd

    Yn ystod y misoedd oeraf mae’n syniad da cadw eich gwres ymlaen yn gyson, hyd yn oed os ydych yn gadael y tŷ. Yn ddelfrydol dylech wresogi eich tŷ am o leiaf awr bob dydd. Gallwch ddefnyddio’r amserydd ar eich system wresogi i wneud yn siŵr ei fod yn dod yn ymlaen ac yn diff odd. Mae hyn yn helpu i’r system weithio’n iawn, gan wresogi eich pibellau a’ch cartref.

    Trefnwch archwiliad ar gyfer eich bwyler

    Y peth olaf yr ydych eisiau delio ag ef yn ystod y gaeaf yw diff yg gwres canolog. Felly gwnewch yn siŵr fod Peiriannydd cofrestredig Gas Safe yn gwasanaethu eich bwyler cyn iddi ddechrau oeri. Efallai y byddwch eisiau ystyried trefnu yswiriant ar gyfer y bwyler, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, i sicrhau na fyddwch heb wres neu ddŵr poeth os bydd eich bwyler yn torri’n sydyn.

    Ydi eich cartref yn barod ar gyfer y gaeaf?

  • Glanhewch y simnai

    Os oes gennych simnai, mae’n bwysig ei chynnal, peidiwch ag anghofi o gofalu amdani’n briodol gan fod tân mewn simnai’n gallu bod yn beryglus. Mae tannau fel hyn yn gallu digwydd yn eithaf aml yn ystod misoedd y gaeaf, felly ystyriwch gyfl ogi rhywun proff esiynol i lanhau a gofalu am eich simnai.

    Inswleiddio’r cartref

    Mae tua chwarter o wres yn eich cartref yn cael ei golli drwy’r to, felly mae inswleiddio’r atig yn lle da i gychwyn. Fel arfer, gallwch arbed o leiaf £145 y fl wyddyn ar eich biliau ynni. Mae hefyd yn werth ystyried inswleiddio waliau ceudod. Os ydych yn poeni am gost y gwaith, gallai fod yn werth edrych ar y gwahanol grantiau a’r cynlluniau sydd ar gael tuag at gostau’r gwaith.

    Cadwch y draff tiau allan

    Caewch unrhyw ddraff tiau allan gyda thâp neu beth atal draff t. Bydd gwynt oer yn siŵr o wthio’i ff ordd drwy unrhyw fylchau, felly ceisiwch eu cau i gadw’r tŷ’n gynnes. Gallech hyd yn oed arbed arian ar eich biliau gwresogi.

    www.warmwales.org.uk

  • Diogelwch eich pibellau

    Y ff ordd orau i edrych ar ôl pibellau yn ystod y gaeaf yw eu diogelu gyda deunydd inswleiddio fydd yn helpu i’w hatal rhag rhewi a byrstio. Hefyd bydd gosod y gwres canolog ar o leiaf 14 gradd Celsiws drwy’r gaeaf yn helpu i atal pibellau rhag rhewi a chael difrod gan rew. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn tynnu unrhyw lystyfi ant o gwmpas y pibellau gan fod hyn hefyd yn gallu achosi difrod.

    Gwnewch y tu allan yn barod

    Mae stormydd a gwyntoedd yn gallu creu dinistr, felly gwnewch yn siŵr bod eich sbwriel a’ch biniau ailgylchu mewn lle diogel. Gallai hyn eu hatal rhag symud mewn gwyntoedd cryfi on ac achosi difrod. Mae tywydd mawr yn gallu gwneud difrod i siediau yn ystod y gaeaf, felly gwnewch yn siŵr eu bod ar glo a bod dodrefn gardd ac eitemau rhydd wedi’u cadw. Yn olaf, edrychwch rhag bod unrhyw deils yn rhydd ar y to rhydd neu wedi’u difrodi.

    Mynnwch gael y ddêl ynni orau

    Mae bob amser yn werth gwirio i weld os ydych ar y tariff ynni rhataf – gallech arbed mwy na’r disgwyl. Mae ganCymru Gynnes wasanaeth cymharu am ddim. Ewch i:

    www.warmwales.org.uk/switch

  • Gollwng aer o’r rheiddiaduron

    Os yw eich rheiddiadur yn oer yn y top ac yn boeth ar y gwaelod, mae angen gollwng aer ohono. Cyn i chi wneud hyn, dylech gael cadach ac allwedd bwrpasol wrth law a sicrhau eich bod wedi diff odd y gwres. Ar dop eich rheiddiadur chwiliwch am y falf a throwch hwnnw gwrthglocwedd nes clywch chi sŵn hisian. Unwaith mae’r dŵr yn dechrau llifo, tynhewch y falf unwaith eto, ac ar ôl gorff en, daliwch unrhyw ddiferion gyda’r cadach.

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybodlle mae’r stoptap

    Mae gwybod lle mae eich stoptap yn gallu bod yn hanfodol, hwn yw’r falf sy’n troi system dŵr oer eich cartref ymlaen acyn ei diff odd. Os bydd y dŵr yn eich pibellau’n rhewi, yna mae pwysedd yn gallu adeiladu y tu ôl i’r rhan sydd wedi blocio,sy’n gallu achosi i’r bibell fyrstio.

    Paratowch ar gyfer toriad trydan

    Efallai bod toriadau trydan yn ddigwyddiadau prin, ond mae’n dal yn werth bod yn barod ar eu cyfer, yn enwedig os bydd pwl o dywydd oer yn cael ei ddarogan. Mae ychydig o hanfodion y dylid eu cynnwys yn eich pecyn argyfwng. Mae’r rhain yn cynnwys ffl achlamp weindio a radio sy’n cael ei phweru gan fatri.

    www.warmwales.org.uk

  • Edrychwch ar gyfl wr eich ff enestri

    Edrychwch ar ff ramiau eich ff enestri, gan lenwi unrhyw graciau a rhoi côt o baent iddynt os oes angen. Mae tymereddau eithafol a thywydd gwlyb yn gallu achosi i bren heb ei drin chwyddo a phydru, felly argymhellir eich bod yn cynnal archwiliad bob blwyddyn.

  • www.warmwales.org.uk

    Cyfl wyno Cymru Gynnes...

    Mae Cymru Gynnes yn Gwmni Buddiant Cymunedol gyda swyddfeydd yng Ngogledd a De Cymru. Rydym yn gweithio mewn cymunedau lleol a thrwy gymorth a chefnogaeth ein partneriaid, rydym yn helpu ileihau tlodi tanwydd.

    Un prosiect ar gael i gynorthwyo pobl yw ‘Cartrefi Iach Pobl Iach’. Prosiect wedi’i dargedu’n lleol yw hwn sy’n cynnig cymorth pa fo angen, grantiau ar gyfer cysylltiad nwy i helpu deiliaid tai i gysylltu â’r rhwydwaith, llinell gymorth eff eithlonrwydd ynni a grant, a gwasanaeth newid cyfl enwr tanwydd i helpu deiliaid tai i arbed arian ar eu biliau.

    [email protected]

    www.warmwales.org.uk

  • SWYDDFA DE CYMRUTŷ Llewellyn, Parc Busnes Glannau’r Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB

    01656 747622

    SWYDDFA GOGLEDD CYMRUUned 105, Canolfan Fusnes Maes Glas, Ffordd Bagillt, Maes Glas, CH8 7GR

    01352 711751

    #tacklingfuelpovertytogether