16
POWYS RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 SYLW AR ARDAL Goroesi’r newid i fudd-daliadau Mynd ar-lein, ffynnu ar-lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

POWYSRHIFYN 5 | GWANWYN 2013

SYLW AR ARDAL

Goroesi’r newid ifudd­daliadau

Mynd ar­lein, ffynnuar­lein

Ein datblygiadau diweddaraf yn eichardal

Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

Page 2: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

2 | Sylw ar ardal POWYS | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf o Fodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn oddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedidweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH.Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwg awnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o 7%ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethaf oSylw ar ardal Powys yw ein buddsoddiad mewn saithswydd arloesol, sef y Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogion newydd wrthi’ndechrau ar eu gwaith newydd y foment hon ledledCymru, ac fe fyddan nhw’n cymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpu ein preswylwyr ioroesi storm y newid i fudd­daliadau.

Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio a buddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae einrhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, ac ynchwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o helpuein preswylwyr i ddelio â newidiadau sydd ar ddod ifudd­daliadau.

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedicael swm sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefifforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledled Cymru,yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atochddiwedd yr hydref llynedd, dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 o gartrefi newydd dros ypum mlynedd nesaf. Diolch i’r buddsoddiad newyddhwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000o gartrefi newydd yn y pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ondrhan yn unig o’r hynrydym yn ei wneud ywdatblygu cartrefinewydd, ac felly i sicrhauein bod yn parhau iganolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn atebol am yr hyn awnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesureolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yncynnal ein sioeau teithio blynyddol i staff, a hyd ynhyn rydym wedi siarad â thros dri chwarter ein hollstaff ledled Cymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedau lle maen nhw’n gweithio, gan gaelcipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddynnhw.

Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweud wrthychfod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Times yn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymruam yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y 7fedsafle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom nidyn unig godi un lle o’r 8fed safle a gawsom yn 2012,ond llwyddom hefyd i ddal gafael yn ein safon aurTair Seren mawr ei bri. Rwy’n siŵr y cytunwch fodhwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waithcaled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd oroi gwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’ngwaith ar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal âdarlun ehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyncysylltu unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadauynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywirAnne Hinchey, Prif Weithredwr.

CYFLWYNIAD ANNE Croeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Powys, sy’n rhoi’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’rsir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan.

Page 3: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

3 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Powys, rydym wedi gallunodi’r 93 o aelwydydd WWH yn y sir a fydd yncael eu heffeithio gan y newid.

Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyra gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau,trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydda gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy.

Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’npreswylwyr wedi dweud wrthym eu bodnhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol,er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’rarian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir.

Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyrangen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau,rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewndarparu cymorth parhaus drwy greu saithswydd gwbl newydd – y Swyddogion CefnogiTenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gydani yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (NatalieDavies, Amanda Collins, Stuart Lock a SharonJones) yn y De, un (Donna Steven) yn y Canolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey)yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddannhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpunhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwyscyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaithiddyn nhw allu goroesi’r storm.

Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhaio’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefiteuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaitheto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phobpartner priodol arall, i sicrhau fod y boblbriodol sydd angen tai yn cael mynediad at ycartrefi fforddiadwy hyn.

GOROESI’R NEWID I FUDD-DALIADAU

Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwgar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

Page 4: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

4 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn.Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bobdydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoeddhyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy.

Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTubewwhahomesforwales.

Page 5: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

5 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falchiawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar obob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn eiddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’igymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, acyn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadaua gawsom yn 2007.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriauar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaidpan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn.Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yraelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni amnatur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Ynogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70yn flaenorol).

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr ynfodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr unfath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch)na’r sgoriau a nodwyd yn 2011.

Canlyniadau penodol i Bowys Yn gyffredinol,mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer ynffactor bwysig yn lefel eu bodlonrwydd â’ullety a’u landlord. Felly, mae’n galonogolgweld fod ymatebwyr ym Mhowys wedi rhoi

sgôr gyfartalog o 8.2 allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth, gyda llawer ohynny i’w briodoli i dros hanner (53%) ohonyn nhw’n rhoi sgôr o 10. Ymysg y rhesymau pennaf a nodwyd (37%) roeddagosatrwydd at fwynderau, cymdogion da(21%) a’u bod yn byw mewn man tawel ­ 19%.

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eubarn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yndangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’rmodd rydym yn darparu gwasanaethau sy’nberthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr ymMhowys yw:

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni

• adolygu sut rydym yn pennu taliadau gwasanaeth ac yn rhoi gwybod i breswylwyr am y taliadau hynny

• adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwiliocanlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gangraffu ar sylwadau penodol y preswylwyr.Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symudymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.

AROLWG BODLONRWYDDPRESWYLWYR - POWYS

Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o FodlonrwyddPreswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bobblwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol,a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012.Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hynsy’n bwysig i’n preswylwyr ym Mhowys.

Page 6: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

6 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bydd Donna yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Yn y lle cyntaf,bydd Donna yn canolbwyntio ei hymdrechion ar helpu’r preswylwyr hynnysydd eisoes wedi cael eu nodi fel rhai syddmewn perygl o wynebu caledi ariannol, neufynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau ynsgil y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau.

Rydym hefyd wedi bod ar daith, gyda sesiynau galw heibio i helpu i ledaenu’r gairam y newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys sesiwn galw heibio yn Neuadd yDref yn Aberhonddu.

Fe wnaeth Donna, ynghyd â’r CynorthwyyddTai Liz Daniels, ymuno â’r CynghoryddMatthew Dorrance a phartneriaid eraill i

CEFNOGAETH Â THENANTIAETHRydym yn falch iawn o allu cyflwyno Donna Steven, einSwyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Powys.

helpu i gynghori unrhyw un sy’n pryderu ynghylch y newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau. Llawer o ddiolch i’r Cynghorydd Dorrance am ei ymdrechion yncydlynu’r digwyddiad gwerth chweil hwn.

CEFNOGI DATBLYGUCOFRESTR DAI GYFFREDIN

Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaidar y Gofrestr Dai Gyffredin arfaethedig i Bowys,gan sicrhau ei fod yn fecanwaith sydd mor effeithiol â phosibl i sicrhau bod y bobl hynnysydd angen tai yn gallu ymgeisio am y cartrefi

priodol iddyn nhw pan maen nhw eu hangennhw. Mae prosiect peilot newydd ddechrau ynardal y Drenewydd yn y sir, ac rydym yn gobeithio dysgu llawer yn sgil hynny.

Page 7: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

7 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDDYM MOWYS

Llanbedr: Ar ôl llawer iawn o waith gyda’r gymuned leol, gyda llawer o amynedd amenter ar y ddwy ochr, rydym yn hynod falchein bod wedi caffael tir yn Llanbedr ar gyferprosiect newydd cyffrous iawn, lle byddwn ynadeiladu chwe chartref newydd. Bydd dau arwerth ar y farchnad agored, a bydd yr arian agodir yn sgil gwerthu’r rhain yn helpu i dalu amadeiladu’r pedwar cartref arall. Bydd y datblygiad ecogyfeillgar hwn hefyd yn elwa arrandiroedd cyfagos.

Mae Swyddog yr Amgylchedd WWH, OwenJones, a’n Swyddog Cyfranogiad Datblygu Cymunedau, Alison Chaplin, nawr yn gweithio’n agos â’r Cyngor Cymuned lleol ilunio fframwaith cadarn i reoli’r rhandiroeddhyn. Unwaith y bydd hynny yn ei le, gall y datblygiad symud ymlaen at y cam nesaf.

Aberhonddu: Mae’r datblygwyr Lovell yn awrwedi cwblhau 16 cartref newydd i ni yng Nghwmfalldau, Parc Dewi Sant, Aberhonddu,ac mae’r cyfan wedi cael eu rhoi ar osod arrent canolradd.

Y Drenewydd: Rydym wrthi’n gweithio ar gaiscynllunio ar hyn o bryd, a fydd yn canolbwyntio ar adfywio safle tir llwyd yn Severside, y Drenewydd. Mae’r safle – iardadeiladwyr Boys and Boden, gynt – wedi caelei glirio ers peth amser, ac rydym yn awr yngweithio â’r cwmni lleol Hughes Architects athimau o Gyngor Sir Powys, gan gynnwys ygwasanaethau cymdeithasol, tai ac iechyd ar ycynlluniau ar gyfer math o dai gofal ychwanegol.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd ynein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedauyn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yrholl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy osafon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys.Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’ngallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion.Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolchi hyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladurhagor o gartrefi newydd, ond rhagor o’r mathpriodol sy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwyddarparu cartrefi am brisiau gwahanol, rydymyn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.

Page 8: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

8 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni eincartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae LlywodraethCymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr ynarbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac ynllai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydymhefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pummlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd ynein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddimewn mesurau i wella’r sefyllfa.

Rydym wedi gosod gwres canolog nwy yn llegwres canolog trydan mewn 300 cartref ledledCymru yn ystod 2012. Rydym wedi gosodgwres canolog nwy glân ac effeithlon yn llegwresogyddion storio dros nos trydan, a oeddyn ddrud, trwsgl ac yn anodd eu rheoli mewn17 cartref ar stad Brynawelon yn Llanwrtyd aphum cartref yn Fosse Way, Bronllys, Aberhonddu.

Mewn mannau eraill yn y sir, rydym wedigosod pympiau gwres o’r ddaear mewn nawcartref yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, aphum tŷ a chwe fflat ym Maes yr Onnen, Llanfair Caereinion.

Ac yn Llwynbrain Close, Hywi, rydym wedigosod drysau a ffenestri newydd mewn 13cartref yn ogystal â gosod pympiau gwres o’rawyr i roi hwb i’r systemau inswleiddio a gwresogi. Mae paneli solar thermol wedi caeleu gosod mewn 8 cartref, gan ddarparu dŵrpoeth, a gosodwyd paneli solar ar 6 chartrefarall, gan ddarparu trydan am ddim/rhatachpan maen nhw’n cynhyrchu ynni. Cafodd ygwaith hwn ei gwblhau ym mis Tachwedd2012, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd i’r holl breswylwyr.

Yn ychwanegol, rydym yn cefnogi sawl prosiectamgylcheddol arall yn yr ardal hon, o’r rhaibach iawn i rai mwy o faint. Un enghraifft ywMenter Gymunedol Ashfield (ACE) sydd wediennill Gwobr Trydydd Sector y WCVA am "Godiarian arloesol ".

Mae ACE yn fenter gymunedol sy’n hyfyw ynariannol ac yn gynhwysol o safbwynt cymdeithasol, sy’n tyfu bwyd ar gyfer pobl leol,ac yn darparu lle a gweithdai i fusnesaunewydd, gan hyrwyddo ffordd iach o fyw.

Wedi ei leoli mewn dau adeilad wedi’u hailwampio yn Hywi dan berchnogaeth a rheolaeth WWH, mae rhanddeiliaid Ashfieldyn berchen ar y safle 7.5 erw ac yn ei redeg a’ireoli er budd y gymuned, gan ddefnyddio egwyddorion organig.

Dywedodd Jenny Williams, y Rheolwr Tai“Rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi’rgwaith da y mae Ashfield yn ei wneud yn yrardal.” Wedi ei gofrestru fel YmddiriedolaethTir Cymunedol, mae Ashfield dafliad carreg oLandrindod, ac yno ceir pum twnnel polythen,dau dŷ gwydr, swît hyfforddi, sawl gweithdy athŷ chwe ystafell wely sy’n cael ei roi ar rent feldwy uned o dai fforddiadwy. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ashfieldce.org.uk

Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’rRheolwr Masnachol, Mike Wellock.

Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaithAmgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, einSwyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

GOFALU AM YR AMGYLCHEDD YM MHOWYS

Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’reffaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith einpreswylwyr, hefyd.

Page 9: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

9 | Sylw ar ardal POWYS | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’nCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn einPrif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnodprawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym misChwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n atebgalwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.

MONEYLINE CYMRUNAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer oganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, a hefyd eisiau cynniggwasanaeth ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phobl nadydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd.

Page 10: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

10 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyrsymud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’rdreth ar ystafelloedd gwely, rydym wediymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc igefnogi creu prosiect House Swap Wales arFacebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. HouseSwap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati –ac mae House Swap Wales wedi ei anelu atdenantiaid tai cymdeithasol sydd angensymud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth arystafelloedd wely, neu sydd eisiau symudam resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebueu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim,chwilio am gartrefi posibl y gallen nhwsymud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith osymud eu hunain.

Rhagor o wybodaethwww.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter@HouseSwapWales

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES

Page 11: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

11 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyri fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fodar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Ein bwriad yw:• helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a

delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

• mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt

• cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein

• annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein.

Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediadfforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych ini ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnagy bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru.

Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant yMôr, ein cynllun gofal ychwanegol ymMhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifero’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a deCymru.

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘TakeCtrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm GalluAriannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, maeTake Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr ifynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.

MYND AR-LEINFFYNNU AR-LEIN

Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Maemwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid ywmwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we.

Page 12: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

12 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24 GWASANAETHAUFFÔN A THELEOFAL YN WWH

Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltupobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangeni’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eucartrefi.

A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparugwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydyddledled Cymru, ac mae gennym gontractaugyda:

• Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr

• Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru

• Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru

Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyferunigolion mewn llety ar rent ynghyd âpherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys ycyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwchmeddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed feleu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnolyn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennymgontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’ngolygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tuallan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledledCymru:

• Hafan Cymru ledled Cymru• Grŵp Gwalia ledled Cymru• Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24,ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neucysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neuCate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ersdros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaithfel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24.

Page 13: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

13 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartnerym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codidros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadauyn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl DyddGŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymionoddedig.

Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, DiBarnes, gwmni’r swyddog gweinyddol VerityKimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey ynyr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedduwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAUAr ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr£25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru.

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennola chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac arTwitter @wwha.

Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgilgwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a BanciauBwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd,Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg aPhen­y­bont ar Ogwr.

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Page 14: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

13 | Sylw ar ardal POWYS | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilynei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor arArian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yny Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelodgweithgar o Fforwm Gallu Ariannol GogleddCymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac ynuchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaithgadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewncysylltiad ag ef.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr WesternCourt’ o’n cynllun er ymddeol Western Courtym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restrfer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr feryng nghategori hynod boblogaidd CydweithiwrYsbrydoledig.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn AdnoddauDynol:

Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedicael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwrsy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sectorElusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle arrestr fer y wobr hon.

CRYNODEB GWOBRAUPan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael llear restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys:

Les Cooper Helen Jones Anne Hinchey

Ecoryfelwyr Western Court

Page 15: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

14 | Sylw ar ardal POWYS | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Pob ardal: O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid)Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal: Lynnette Glover, Pennaeth TaiNikki Cole, Pennaeth DatblyguAlex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Powys

Rheolwr Tai: Jenny Williams/Anne Caloe (Anghenion cyffredinol)Rheolwr Tai: Jackie Bloxham/Anne Caloe (Tai er ymddeol)Rheolwr Masnachol: Robin Alldred/Andrew Richards (Atgyweiriadau)Rheolwr Masnachol: Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)Rheolwr Datblygu: Lyndon Griffiths/Craig Sparrow

Swyddogion Tai: Anghenion Cyffredinol Tai er ymddeolWendy Fryzer Rhian Marsh (Gogledd)Gill Jonas Marcelle Mackay (De)

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodAlison Chaplin/Vy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr)

Swyddogion Rheoli Asedau: John HarrisonDarrell Smith

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodAlison Chaplin (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr)

Yr Amgylchedd: Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: Donna Steven

Ffôn: 0800 052 2526E­bost: [email protected]: www.wwha.co.uk

STAFF LLEOL

Page 16: Sylw ar ardal Powys Gwanwyn 2013

Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013