Upload
others
View
5
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 1
Llawlyfr Recriwtio a
Dethol
Canllaw i’r Athrofeydd a’r Adrannau
Gwasanaethau Proffesiynol
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 2
Tabl Cynnwys
Canllaw i’r Athrofeydd a’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol .. 1
Diweddariadau ...................................................................... 4
Trosolwg o Recriwtio a Dethol ................................................. 5
Trosolwg o’r Broses ............................................................... 6
Swyddi Gwag ........................................................................ 7
Gweld eich swyddi ................................................................. 8
Rheolwr Recriwtio ................................................................. 9
Disgrifiadau Swydd .............................................................. 10
Ysgrifennu Disgrifiad Swydd ................................................. 10
Proffiliau Rôl ....................................................................... 11
Manyleb Person .................................................................. 12
Asesiad HERA ..................................................................... 13
Cyflwyno’r Disgrifiad Swydd i’w Ddadansoddi ......................... 13
Manylion y Swydd ............................................................... 14
Manylion y Swydd ............................................................... 14
Dosbarthiadau Athro/Athrawes/Tiwtor Rhan-amser ............... 22
Dosbarthiadau Bwrdd Swyddi’r Adran Adnoddau Dynol .......... 23
Hysbyseb ........................................................................... 23
Atodwch y Disgrifiad Swydd ................................................. 24
Anfon i’w Chymeradwyo ....................................................... 25
Llif gwaith cymeradwyo ....................................................... 25
Cymeradwyaeth yn y Llif Gwaith ........................................... 27
Hysbysebu ......................................................................... 28
Ystyriaeth Flaenorol/Adnewyddu Aber .................................... 28
Mewnol .............................................................................. 29
Allanol ............................................................................... 29
Cyfansoddiad Paneli Penodi .................................................. 30
Llunio Rhestr Fer ................................................................. 32
Y Rhestr Fer ac Ystyriaeth Flaenorol /Adnewyddu Aber ............ 32
Gosod ymgeiswyr ar y rhestr fer ........................................... 33
Cyfweliadau ........................................................................ 37
Cwestiynau Cyfweliad .......................................................... 39
Tasgau Asesu/Cyflwyniadau ................................................. 39
Gwahoddiadau .................................................................... 40
Dewis yr ymgeiswyr rydych yn eu ffafrio ................................ 40
Canlyniad y Cyfweliad .......................................................... 42
Gwirio’r Hawl i Weithio ......................................................... 42
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 3
Ymgeiswyr o’r tu allan i’r AEE ............................................... 42
Cynnig ............................................................................... 44
Gwrthod ............................................................................ 44
Cyflog ............................................................................... 45
Dogfennau’r cyfweliad ......................................................... 45
Penodi ............................................................................... 46
Penodi’r Ymgeisydd ............................................................. 47
Ymsefydlu a Dechrau ............................................................ 48
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 4
Diweddariadau Bydd y tudalen hwn yn crynhoi unrhyw ddiweddariadau ar y
Llawlyfr Recriwtio a Dethol.
Fersiwn Dyddiad Y diweddariadau:
V1.1 Hydref 2016 Newid cyfeiriad gwe E-Recriwtiwr
V1.2 Hydref 2016 Cynnwys Codau Cyfrifon Nwyddau
Traul t.19
Ychwanegu Rheolwr Swyddi a
Recriwtiwr Swyddi mewn manylion
swydd t.14
Newid lleoliad cais o Ffolderi i
Swyddi
V1.3 Mawrth 2017 Dosbarthiad swydd newydd –
Hysbyseb a ariannir yn allanol
Ychwanegu Euogfarnau Troseddol
Eglurhad ar y Disgrifiad Swydd o’i
gymharu â’r Hysbyseb Swydd, t. 22
Tynnu COO o Gymeradwyaeth
Swyddi – popeth yn mynd i PAG
Cynnwys Cyfansoddiad Panel
Penodi t. 29
Trosolwg o’r broses wedi’i adolygu
Yr adran sy’n recriwtio i roi dolen i’r
cais i ymgeiswyr swyddi achlysurol
Ni chaiff gweithiwr ddechrau
gweithio nes i’r Adran Adnoddau
Dynol gadarnhau y caiff
Tynnu Arddangoswyr fel math
recriwtio – rhan o GwaithAber
bellach
Ffurflenni cais ar wahân i swyddi a
hysbysebir: Gradd 1-5 a 6+.
Cynnwys Shifftiau ar y Ffurflen Gais
V1.4 Gorffennaf
2017
Newid dull cyflwyno geirda
Diweddaru proses y Rhestr Fer
V1.5 Gorffennaf
2017
Diwygio cyffredinol a diweddaru
sgrinluniau
Hyderus ag Anableddau yn disodli
cynllun y Tic Dwbl
V1.6 Awst 2017 Cynnwys Athrawon/Athrawesau/
Tiwtoriaid rhan-amser a
dosbarthiadau swydd newydd i’r
ceisiadau hyn
Diwygio cyfansoddiad panel ar gyfer
Dirprwy Is-Ganghellor a
Chyfarwyddwr Athrofa
V1.7 Rhagfyr 2017 Ychwanegu trothwyon cyflogau isaf
ar gyfer Nawdd Fisa Haen 2
V1.8 Mai 2018 T.10 – pob disgrifiad swydd i’w
gyfieithu’n llawn
V1.9 Tachwedd 2018 Diweddariadau cyffredinol
V1.10 Ionawr 2019 Cyfansoddiad Panelau Penodi
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 5
Trosolwg o Recriwtio a Dethol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod mai ei staff yw ei hadnodd
pwysicaf a bod rhaid denu a chadw pobl o'r radd flaenaf er mwyn
cyflawni ei nodau strategol a gweithredol. O safbwynt staffio mae
gan y Brifysgol ystod eang ac arbennig o anghenion.
Nod yr wybodaeth a ganlyn yw sicrhau dull cyson, effeithiol ac
effeithlon wrth recriwtio a dethol i ddiwallu'r anghenion hyn, gan
gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol ar gydraddoldeb a
chyflogaeth, a rhoi canllawiau clir i’r Adrannau/Athrofeydd. Mae’r
polisi a’r weithdrefn yn gymwys wrth recriwtio’r holl staff, ni waeth
beth fo natur y gyflogaeth.
Mae penodi aelod o staff yn benderfyniad o bwys. Gallai aelod o
staff Gradd 1 amser-llawn rwymo’r Brifysgol i £897,000 o wariant
dros ei oes weithio. Nid ar chwarae bach felly y cymerir
penderfyniad recriwtio.
Bwriad y canllaw hwn yw ategu’r broses recriwtio, gan geisio cynnig
yr wybodaeth y mae ei hangen i wneud y penderfyniadau gorau a
sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac â’r polisi. Os oes
gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Thîm y Gwasanaethau
Gweithwyr, drwy ffonio 8555 neu anfon neges ebost at
Mae’r wybodaeth yn y bar
melyn hwn yn crynhoi’r
camau i mae angen ichi eu
cymryd er mwyn gofyn am
swydd wag.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 6
Trosolwg o’r Broses
Y swydd i gael Asesiad HERA, ei pharu â phroffil rôl, neu â swydd bresennol
Gofynnwch am eich swydd wag yn E-Recriwtiwr
Llif gwaith cymeradwyo
Lefel Cymraeg – Cyllid – Awdurdodiad adrannol – Sylwadau Partner
Busnes AD – Cymeradwyo’r Swydd
Swydd wag a hysbysebir
Swydd achlysurol nas hysbysebir neu
ymchwilydd a enwyd mewn cytundeb
cyllido
Hysbyseb
Ystyriaeth Flaenorol/Adnewyddu Aber
Mewnol
Allanol
Cyfweliad
Y Rheolwr Recriwtio’n gwneud cynnig llafar i’r
ymgeisydd
(Yn achos ymgeiswyr o’r tu allan i’r AEE, peidiwch
â gwneud cynnig llafar cyn gofyn cyngor gan AD)
Y Rheolwr Recriwtio’n llenwi’r ffurflen benodi.
Cadarnhau enw, dyddiad dechrau, dyddiad gorffen,
cyflog ac amserlen waith
AD yn cael hysbysiad o’r penodiad a dechrau’r broses gyflogi
Llunio Rhestr Fer AD yn rhoi hyperddolen i’r Adran
Recriwtio i’w hanfon at yr ymgeisydd
Rhaid i’r ymgeisydd lenwi ffurflen gais a
manylion dechreuwr newydd
Cyflogai Newydd Cyflogai Presennol
AD yn gwblhau gwiriadau cyn
cyflogi, Hawl i Weithio, DBS a
Geirdaon.
Cymeradwyo’r llif gwaith pan fo
wedi’i gwblhau
Swydd a hysbysebir
Yr ymgeisydd yn cael ffurflen
dechreuwr newydd ar-lein.
Hysbysu AD ar ôl ei llenwi
Swydd a hysbysebir neu
swydd achlysurol
AD yn gwirio’r gwiriadau cyn
cyflogi a wnaed eisoes, Hawl
i Weithio a Geirdaon.
AD yn sicrhau unrhyw
wiriadau newydd.
AD yn gwblhau gwiriadau cyn
cyflogi, Hawl i Weithio a DBS (yn
ôl yr angen).
Cymeradwyo’r llif gwaith pan fo
wedi’i gwblhau
Swydd Achlysurol
AD yn penodi’r ymgeisydd ac yn
llenwi BIF. Trosglwyddo i’r Tîm
Contractau
AD yn penodi’r ymgeisydd ac yn
llenwi BIF. Trosglwyddo i’r Tîm
Contractau
AD yn penodi’r ymgeisydd.
Trosglwyddo i’r Tîm
Contractau
AD yn hysbysu’r adran recriwtio bod y penodiad wedi’i gwblhau. Anfonir y
contract cyn gynted ag y gellir.
Yr Adran Recriwtio’n rhoi ffurflen benodi
i AD
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 7
Swyddi Gwag
Gall swyddi gwag godi i ymdopi â swyddogaeth newydd neu un dros
dro, neu i lenwi bwlch ar ôl aelod o staff sydd wedi ymadael.
Wrth lenwi swydd neu greu swydd, dylech ystyried y canlynol:
Oes angen y swydd, allai'r gwaith gael ei amsugno gan staff
eraill yr adran?
Oes angen iddi fod yn swydd amser-llawn? Allai contract yn
ystod y tymor yn unig neu gontract oriau blynyddol fod yn
addas?
Beth yw’r isafswm oriau a all gael eu cynnig? Dim ond mewn
amgylchiadau eithriadol y dylid defnyddio contractau dim
oriau a chontractau rhyddhad. Dylid cynnig oriau dan gontract
lle bynnag y bo modd.
Pa mor hir fyddwch chi angen y swydd? Ai prosiect tymor
penodol yw hwn ynteu swydd barhaol?
Oes swyddogaethau neu weithgareddau newydd yn eich adran
y gallai'r swydd hon weithio arnyn nhw?
Sut bydd y swydd newydd yn ffitio yn y tîm presennol? Pwy
yw’r rheolwr llinell? Fydd angen ichi wneud newidiadau mewn
mannau eraill? Fydd hyn yn effeithio ar unrhyw drefniadau
gweithio hyblyg? Oes angen ichi gynnwys unrhyw adrannau
eraill?
Wrth lenwi swyddi sydd eisoes yn bod – oedd unrhyw resymau
pam y gadawodd y person a ddylai gael eu hystyried? Oedden
nhw dan bwysau neu oedd ganddyn nhw gyfrifoldebau a ddylai
fod wedi’u rhoi mewn mannau eraill? Oedd yna
swyddogaethau nad oedden nhw’n gweithio arnyn nhw?
Allai anghenion y swydd wag gael eu hateb dros dro drwy
Secondiad dros dro, Dyrchafiad dros dro neu Lwfans
Cyfrifoldeb? Gall caniatáu i aelodau eraill o’r tîm symud
ymlaen, hyd yn oed dros dro, roi hwb i’r ysbryd, creu
cyfleoedd a datblygu sgiliau’ch staff presennol. Ystyriwch y
goblygiadau ar gyfer llenwi unrhyw fwlch a gâi ei greu fel hyn.
[Type the sidebar content.
A sidebar is a standalone
supplement to the main
document. It is often
aligned on the left or right
of the page, or located at
the top or bottom. Use the
Drawing Tools tab to
change the formatting of
the sidebar text box.
Type the sidebar content.
A sidebar is a standalone
supplement to the main
document. It is often
aligned on the left or right
of the page, or located at
the top or bottom. Use the
Drawing Tools tab to
change the formatting of
the sidebar text box.]
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 8
Gweld eich swyddi Gallwch weld eich swyddi unrhyw bryd drwy gyfrwng E-Recriwtiwr.
Mewngofnodwch i System E-Recriwtiwr yma: https://aber-ats-
sso.hireserve.com/.
Ar y ddewislen ar y chwith, dewiswch Swyddi > Crynodeb
Swyddi.
Bydd hyn yn dangos yr holl swyddi y mae gennych awdurdod i’w
gweld. Bydd yn crynhoi teitl y swydd, y cyfeirnod, y dyddiadau
hysbysebu, y ceisiadau a’r penodiadau.
Gallwch weld manylion unrhyw swydd drwy ddewis yr eicon ar
linell unrhyw swydd.
Drwy defnyddio’r gwymplen “Statws” ar y bar dewis uchaf, gallwch
ddewis:
Drafft; i weld yr holl swyddi sydd wedi'u creu ond heb eu
cyflwyno eto;
Cyflwynwyd; i weld yr holl swyddi sydd wedi'u cyflwyno i’w
cymeradwyo, ond sydd heb eu cymeradwyo eto;
Cymeradwywyd; i weld yr holl swyddi byw sydd wedi'u
hagor i geisiadau ond sydd heb benodiad eto;
Cyflawnwyd; i weld yr holl swyddi lle mae rhywun wedi’i
benodi;
Tynnwyd yn ôl; i weld yr holl swyddi sydd wedi'u tynnu yn
ôl.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 9
Rheolwr Recriwtio I bob swydd mae yna reolwr recriwtio. Yr unigolyn hwn sy’n gyfrifol
am oruchwylio’r gwaith recriwtio, gan sicrhau y cydymffurfir â’r
gweithdrefnau, cadeirio’r panel cyfweld a gwneud penderfyniadau
recriwtio.
Os y Pennaeth Adran yw’r Rheolwr Recriwtio, caiff ddirprwyo
cyfrifoldeb y Rheolwr Recriwtio i enwebai addas ar adegau penodol.
Gall ddirprwyo i’w Ddirprwy neu i arweinydd adran.
Swydd Rheolwr Recriwtio
Is-Ganghellor Cadeirydd y Cyngor
Dirprwy Is-Ganghellor
Pennaeth Gwasanaeth
Proffesiynol
Pennaeth Adran Academaidd
Is-Ganghellor
Athro
Darllenydd
Uwch Ddarlithydd
Dirprwy Is-Ganghellor
Darlithydd
Pennaeth Adran Academaidd
Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-
ddoethurol
Cynorthwyydd Ymchwil
Darlithydd Cyswllt
Athro/Athrawes Rhan-Amser
Pennaeth Adran neu ddirprwy
Pennaeth Gwasanaeth
Proffesiynol
Swyddi Gradd 9/10 (nid lefel
Weithredol)
Is-Ganghellor
Gradd 8
Pennaeth Adran Gwasanaeth
Proffesiynol
Graddau 5,6,7
Pennaeth Adran (yn ôl y
gofyn)
Rheolwr llinell
Graddau HERA 3,4
Rheolwr llinell
Graddau HERA 1, 2 a swyddi
eraill nad ydynt yn HERA Rheolwr llinell neu ddirprwy
Ystyriaeth Flaenorol a Phaneli
Adnewyddu Aber (lle mae 1
ymgeisydd)
Rheolwr llinell
Gofalwch eich bod yn
gwybod pwy yw’r Rheolwr
Recriwtio ar gyfer eich
swydd chi.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 10
Disgrifiadau Swydd Mae angen Disgrifiad Swydd i bob swydd wag.
Mae'r Disgrifiad Swydd yn ateb llawer o ddibenion. Yn bwysicaf oll,
mae'n dweud wrth y gweithiwr beth mae’n gyfrifol amdano a beth
y dylai fod yn ei wneud. Rhaid iddo fod yn gyflawn ac yn gywir.
Mae disgrifiad swydd yn llywio Dadansoddiad Rôl Addysg Uwch
(HERA) y rôl. Mae asesiad HERA yn pennu’r raddfa gyflog briodol.
Mae hyn yn sicrhau tâl cyfartal am waith cyfartal ar draws y
Brifysgol.
Yn achos swyddi sy'n cael eu hysbysebu, mae'r Disgrifiad Swydd
yn hysbysu’r ymgeiswyr posibl am yr hyn y mae’r swydd yn ei
gynnwys a dylai fod yn gywir ac adlewyrchu'r rôl. Hefyd, dyma’r
unig gip ar y swydd a gaiff yr aelod cytras o’r panel cyfweld.
Mae gan lawer o swyddi Ddisgrifiad Swydd yn barod. Dylai fod gan
yr Adran Adnoddau Dynol gopi cyfredol o’r Disgrifiad Swydd ar
gyfer y sawl sy’n llenwi swydd bresennol yn uniongyrchol. Mae'n
ddoeth adolygu’r hen Ddisgrifiadau Swydd hyn er mwyn sicrhau eu
bod yn dal yn berthnasol i swydd sydd yn naturiol yn gallu newid
dros amser. Cofiwch: os oes pobl eraill yn gweithio yn yr un swydd,
gall unrhyw newidiadau effeithio ar eu graddfa gyflog nhw.
Os nad oes Disgrifiad Swydd, bydd angen ichi ysgrifennu un.
Ysgrifennu Disgrifiad Swydd Wrth ysgrifennu Disgrifiad Swydd, byddwch yn gryno ac yn gywir.
Gofalwch fod unrhyw amodau arbennig yn glir o'r cychwyn cyntaf
(cyfnod penodol, cyfnod mamolaeth, rhan-amser etc.). Cofiwch
gynnwys enw a manylion rhywun bob amser y gall ymgeiswyr
siarad â nhw’n anffurfiol am y swydd.
Dylai’r Disgrifiad Swydd amlinellu eu cyfrifoldebau. Does dim angen
iddo fod yn rhestr faith o’r tasgau y bydd disgwyl iddynt eu
cyflawni. Nid yw nifer y tasgau’n effeithio ar y radd. Wrth
ysgrifennu Disgrifiad Swydd, dylech ganolbwyntio ar y bobl a’r
pethau y byddai deiliad y swydd yn gyfrifol amdanyn nhw, a
rhychwant y cyfrifoldebau hynny. Cymerwch ofal arbennig wrth
ddefnyddio’r geiriau "cynorthwyo", "arwain" a "rheoli" i adlewyrchu
lefel eu cyfrifoldeb yn gywir. Ni all deiliad y swydd reoli rhywbeth y
mae ei reolwr llinell yn gyfrifol amdano.
Defnyddiwch y Templed Disgrifiad Swydd sydd ar gael yma
https://www.aber.ac.uk/en/hr/employment-
information/recruitment/. Gofalwch gynnwys y pedair dyletswydd
safonol sy'n gymwys i bob swydd.
Rhaid ichi baru’ch swydd â
Disgrifiad Swydd
presennol neu greu un
newydd
Hyd yn oed os yw’ch
swydd wag wedi'i mapio i
Broffil Rôl, bydd angen
Disgrifiad Swydd byr o hyd
er mwyn sicrhau bod y
Radd yn briodol ar gyfer y
Rôl. Cewch ddewis
defnyddio'r Proffil Rôl i
lywio’ch Disgrifiad Swydd.
Defnyddiwch y Templed
Disgrifiad Swydd i
ysgrifennu’ch Disgrifiad
Swydd, gan gynnwys yr
elfennau hanfodol.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 11
Os ydych yn paru’r swydd â phroffil rôl, bydd angen o hyd ichi
ddarparu Disgrifiad Swydd byr (ac eithrio Cynorthwyydd Profiad
Myfyrwyr, Rheolwr Gweithrediadau Academaidd neu Reolwr
Portffolio sydd â Disgrifiadau Swydd safonol ar draws yr Athrofeydd
Academaidd).
Rhaid i bob Disgrifiad Swydd gael ei gyfieithu yn ei gyfanrwydd.
Argymhellwn na ddylid eu cyfieithu ymlaen llaw er mwyn caniatáu
ar gyfer unrhyw newidiadau y bydd rhaid eu gwneud.
Proffiliau Rôl O dan y Cytundeb Fframwaith, datblygwyd nifer o Broffiliau Rôl
safonol i sicrhau disgwyliadau cyson ynglŷn â gwaith ar draws y
Graddau gwahanol ar draws y Brifysgol. Mae gan bob Athrofa
Academaidd Broffiliau Rôl safonol y dylid eu defnyddio o dan
amgylchiadau arferol:
Os yw’ch swydd wedi’i pharu â Phroffil Rôl, does dim rhaid sicrhau
asesiad HERA.
Mae’r Proffiliau Rôl ar gael yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-
information/agreement/.
1 Mae Athrawon/Athrawesau a Darlithwyr Cyswllt ar yr un radd. Athro/athrawes a ddefnyddir fel rheol os oes llai na 7.3 awr yr wythnos. Darlithydd Cyswllt a ddefnyddir fel rheol i’r rhai sydd â chyflogaeth fwy sylweddol 2 Mae darlithwyr yn symud yn naturiol i fyny’r graddau ar ôl cyfnod prawf
boddhaol a’r gydnabyddiaeth PGCTHE/HEA. 3 Cadeirydd/Darllenydd/Athro Prifysgol – mynnwch gyngor AD bob amser cyn gwneud cais.
Teitl y Swydd Y Radd Berthynol
Academaidd, Addysgu yn Unig:
Athro/Athrawes1
Darlithydd Cynorthwyol2
Darlithydd
Uwch-Ddarlithydd
Cadeirydd/Darllenydd/Athro Prifysgol3
6
6
7-8
9
Academaidd, Addysgu ac Ymchwilio:
Darlithydd*
Uwch-Ddarlithydd
Cadeirydd/Darllenydd/Athro Prifysgol *
7-8
9
Academaidd, Ymchwil yn Unig:
Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-raddedig
Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol
Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol
Cymrawd Ymchwil
Cadeirydd/Darllenydd/Athro Prifysgol *
Nid yw’r rolau hyn
yn cario gradd
benodol, ond maen
nhw’n awgrymu
lefel y cyfrifoldeb
Tiwtoriaid/Arddangoswyr Rhan-
amser
Arddangoswr Israddedig
Arddangoswr Ôl-raddedig
Uwch-Arddangoswr
Tiwtor
2
3
4
5
Hyd yn oed os nad yw’ch
swydd mewn Athrofa,
gallwch ddewis
defnyddio'r Proffiliau Rôl
hyn.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 12
Manyleb Person
Mae’r fanyleb person yn hanfodol ar gyfer pob swydd a hysbysebir.
Nid yw'n ofynnol ar gyfer penodiadau achlysurol. Mae’n amlinellu
meini prawf hanfodol a dymunol y mae'n rhaid eu defnyddio wrth
lunio rhestr fer o geisiadau.
Rhaid i’r Meini Prawf ar gyfer Dethol fod fel a ganlyn:
Penodol. Mae hyn yn sicrhau bod y fanyleb person yn
adlewyrchu gofynion y swydd mewn modd priodol. Er
enghraifft: mae "Sgiliau Cyfathrebu Da", “Safon Dda o
Addysg” neu "Radd Dda" yn amwys a goddrychol. Mae
"Profiad o gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid", "TGAU gradd
C mewn Saesneg a Mathemateg” neu "Gradd dosbarth cyntaf
neu ail ddosbarth uchaf" yn llawer mwy addas.
Cyfiawnadwy. Rhaid i’r meini prawf gael eu cyfiawnhau yn
ôl natur y swydd. Gallai meini prawf nad oes modd eu
cyfiawnhau fod yn wahaniaethol. Er enghraifft: does dim
modd cyfiawnhau mynnu bod gan Weinyddwr Cyllid
gymhwyster ar lefel gradd – gallai’r rôl gael ei chyflawni gan
ymgeisydd sy’n gymwys drwy brofiad.
Mesuradwy. Ystyriwch sut y byddwch yn asesu hyn. Rhaid i’r
ymgeiswyr ddangos y meini prawf yr ydych yn gofyn amdanyn
nhw. Er enghraifft: Mae bron yn amhosibl dangos tystiolaeth
ar gyfer "trefnus iawn" a chymharu’r ymgeiswyr. Mae "Y gallu
i drefnu digwyddiad mawr" yn llawer mwy defnyddiol gan ei
fod yn dangos gallu ac y dylai greu ymateb mesuradwy.
Peidio â Gwahaniaethu. Rhaid i'r meini prawf fod yn deg,
yn wrthrychol ac yn uniongyrchol berthnasol. Rhaid peidio â
defnyddio iaith neu osodiadau sy’n gwahaniaethu:
o Mae “gradd ddiweddar” yn gwahaniaethu yn erbyn
ymgeiswyr hŷn.
o Gallai cymwysterau Prydeinig, heb gynnwys
cymwysterau tramor, wahaniaethu ar sail Tarddiad
Cenedlaethol. Defnyddiwch "neu gymwysterau
cyfatebol” bob amser”.
o Gallai “Siaradwr Saesneg Brodorol” wahaniaethu ar sail
hil neu genedl
Ceir nifer fach o eithriadau lle mae gofyniad galwedigaethol
dilys, er enghraifft oedran mewn perthynas â
gwerthu/trwyddedau alcohol, neu gyflogi menywod yn unig
mewn hostel i fenywod. Gall Cynlluniau Graddedigion ofyn am
"radd ddiweddar” gan fod modd cyfiawnhau hyn ar sail natur
y gyflogaeth.
Dylai’r meini prawf hanfodol gyfleu gofynion sylfaenol y swydd. Er
enghraifft, byddai ar weinyddwr nodweddiadol ar lefel mynediad
angen TGAU Saesneg a mathemateg (a Chymraeg lle bo'n briodol)
neu gymwysterau cyfwerth, ac yn aml byddai ar ddarlithydd angen
cymhwyster ôl-raddedig yn ei faes. Byddai'n amhriodol cael meini
prawf hanfodol y tu hwnt i'r hyn sy’n angenrheidiol. Mae hyn yn
cyfyngu ar y gronfa bosibl o ymgeiswyr.
Mae'r meini prawf dymunol yn caniatáu ichi roi’r ymgeiswyr yn
nhrefn yr ymgeiswyr gorau a mwyaf eithriadol i’r swydd. Dyma lle
gallwch gynnwys cymwysterau, arbenigeddau a sgiliau dymunol.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 13
Byddai profiad o weithio mewn Addysg Uwch yn ddymunol ar gyfer
llawer o swyddi.
Byddai cyfanswm o 8-10 o feini prawf hanfodol yn fwy na digon fel
arfer i ganfod ymgeiswyr addas, er y gall fod angen mwy ar gyfer
rolau arbenigol. Ni ddylech gael mwy na 15 o feini prawf fan bellaf.
Sylwch: os oes gennych 15 o feini prawf, bydd rhaid ichi lunio’r
rhestr fer yn erbyn pob un ohonynt.
Cofiwch fod arnoch eisiau cronfa fawr o ddarpar ymgeiswyr er
mwyn cael dewis y gorau. Os na fydd ymgeiswyr yn bodloni'r meini
prawf hanfodol, bernir na allan nhw wneud y gwaith ac ni fydden
nhw arfer yn cael gwahoddiad i gyfweliad.
Asesiad HERA Rhaid penodi’r mwyafrif o'r swyddi ar Raddfa Dâl Sengl Prifysgol
Aberystwyth ar y Radd Gyflog a asesir drwy gyfrwng y Disgrifiad
Swydd/Proffil Rôl. Y rheswm am hyn yw sicrhau bod pob aelod staff
ar draws y Brifysgol yn cael cyflog cyfartal am waith cyfartal. Ceir
nifer fach o rolau nad ydyn nhw’n perthyn ar raddfa’r Dadansoddiad
Rolau Addysg Uwch (HERA), gan gynnwys Athrawon Prifysgol,
Penaethiaid Adran, Gweithwyr Fferm etc.
Bydd dau aelod o staff sydd wedi'u hyfforddi mewn materion
adnoddau dynol yn asesu’r Disgrifiad Swydd.
Ni ddylai'r Disgrifiadau Swydd gael eu teilwra i ateb meini prawf yr
asesiad o dan HERA a dylid osgoi gwneud hyn.
Does dim angen asesiad HERA ar gyfer swyddi gwag achlysurol,
ond cânt eu gwirio o ran synnwyr ac fe ddylid eu paru â Phroffil Rôl
lle bo modd.
Cyflwyno’r Disgrifiad Swydd i’w Ddadansoddi Pan fyddwch yn fodlon bod manylion terfynol eich disgrifiad swydd
wedi'u pennu, anfonwch e at [email protected] i’w ddadansoddi.
Byddan nhw’n ei ddychwelyd i chi wedyn pan fydd yr asesiad wedi'i
gwblhau.
Pan nad oes angen asesiad ar gyfer y swydd wag, peidiwch â’i
chyflwyno i’r Adran Adnoddau Dynol.
Nawr dylech gyflwyno’ch swydd i gael ei chymeradwyo.
Cyflwynwch eich
Disgrifiad Swydd i'r
Adran Adnodau Dynol
i'w asesu.
Gallwch anfon eich
Disgrifiad Swydd drafft at
yr adran adnoddau dynol
os hoffech gael adborth
cyn yr Asesiad HERA.
Rhoddir gradd i
Ddisgrifiadau Swydd ar
sail eu cynnwys. Ni
ddylech chi byth newid
Disgrifiad Swydd i ateb
gradd.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 14
Manylion y Swydd
Mae’r Broses Cymeradwyo Swydd a ganlyn yn berthnasol i rolau
newydd neu rolau sy’n cael eu llenwi a cheisiadau achlysurol.
Dylid cyflwyno ceisiadau ynglŷn ag estyniadau, dod â swyddi i ben,
newid oriau ac unrhyw newidiadau eraill yng nghontract cyflogai
presennol i'r Tîm Gwasanaethau Gweithwyr yn [email protected].
Manylion y Swydd
Gan fod y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person wedi’u cwblhau
bellach, gallwch gwblhau’r wybodaeth am y swydd.
Mewngofnodwch i System E-Recriwtiwr yma: https://aber-ats-
sso.hireserve.com/
Ar y ddewislen ar yr ochr chwith, dewiswch Swyddi, yna Creu
Swydd.
Mae'r ffurflen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae ar yr Adran
Adnoddau Dynol ei hangen i greu ac i hysbysebu swydd. Bydd yr
wybodaeth hon hefyd yn bwydo pob system gyllid a phob system
adnoddau dynol, felly mae cywirdeb yn hollbwysig.
Os bydd unrhyw wybodaeth hanfodol ar goll, gall hyn arwain at
ohirio’r cais neu ei wrthod.
Os yw hyn yn ail-hysbyseb neu’r rôl sy’n cael ei hysbysebu fel rhan
o’r drefn, dewiswch Ffeil > Copïo er mwyn copïo manylion y swydd
wag flaenorol.
Rheolwr y Swydd:
Dewiswch y Rheolwr Recriwtio. Mae hyn yn rhoi mynediad iddyn
nhw i weld eu swyddi ac i lunio rhestr fer. Yr unigolyn hwn fydd yn
gyfrifol am oruchwylio’r broses recriwtio a gwneud penderfyniadau
recriwtio. Yr unigolyn hwn hefyd fydd cadeirydd y panel cyfweld.
Recriwtiwr y Swydd:
Dewiswch chi’ch hun fel Recriwtiwr y Swydd. Bydd hyn yn eich
galluogi i weld a monitro’ch swyddi gwag.
Perchennog y Swydd:
Dewiswch y Recriwtiwr. Bydd hyn yn rhoi mynediad llawn ichi i holl
fanylion y swydd wag.
Peidiwch â dewis “peidiwch ag archifo ymgeiswyr”
Gofynnwch am swydd
wag
Mewngofnodwch i E-
Recriwtiwr.
Llenwch fanylion y
swydd
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 15
Teitl y Swydd:
Rhowch deitl y swydd o’r Disgrifiad Swydd. Byddwch yn ofalus wrth
ddefnyddio teitlau swyddi safonol i sicrhau eu bod yn gywir.
Peidiwch â llenwi dyddiadau mewnol neu allanol
Manylion Rheoli:
Adran:
Dewiswch yr adran/athrofa y gosodir y swydd ynddi.
Peidiwch â llenwi “Cysylltiad yn yr Adran”
Peidiwch â newid “statws”
Peidiwch â llenwi “Eithriwch o restrau”
Nifer y swyddi gwag:
Faint o swyddi sydd ar gael? Rhowch y nifer mewn digidau yn unig.
Ffurflen gais:
Dewiswch “Cais a Hysbysebwyd” ar gyfer pob swydd nad yw’n
swydd achlysurol.
Dewiswch “swydd Achlysurol heb ei hysbysebu” ar gyfer pob swydd
achlysurol (ffurflen lai o faint ond yn casglu’r wybodaeth hanfodol).
Peidiwch â defnyddio unrhyw ffurflen gais arall.
Ebost i gydnabod y cais:
Dewiswch “E02 Cais Ar-lein – cadarnhau’r ymgeisydd” yn achos
swyddi gwag a hysbysebir.
Dewiswch “E03 Cais Ar-lein – cadarnhau’r penodiad achlysurol” yn
achos penodiad achlysurol.
Peidiwch â llenwi “URL i wneud cais drwy 3ydd Parti”
Peidiwch â llenwi “Atal ymgeiswyr rhag ailymgeisio”
Llif Gwaith Cau Swydd Wag
Dewiswch “Dechrau Llunio Rhestr Fer”
Rolau Swyddi
Rheolwr Recriwtio:
Dewiswch y Rheolwr Recriwtio. Yr unigolyn hwn fydd yn gyfrifol am
oruchwylio’r broses recriwtio a gwneud penderfyniadau recriwtio.
Yr unigolyn hwn hefyd fydd cadeirydd y panel cyfweld.
Lefel Cymraeg
Dewiswch Gwenno Piette. Os yw hi’n absennol, dewiswch Ruth
Fowler.
Cyllid
Dewiswch Reolwr Cyllid eich Adran chi.
Ar gyfer unrhyw swyddi ymchwil a ariennir yn allanol, dewiswch
Emyr Reynolds.
[Type the sidebar content.
A sidebar is a standalone
supplement to the main
document. It is often
aligned on the left or right
of the page, or located at
the top or bottom. Use the
Drawing Tools tab to
change the formatting of
the sidebar text box.
Type the sidebar content.
A sidebar is a standalone
supplement to the main
document. It is often
aligned on the left or right
of the page, or located at
the top or bottom. Use the
Drawing Tools tab to
change the formatting of
the sidebar text box.]
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 16
Gwiriad Rheolwr Adnoddau Dynol
Dewiswch Bartner Busnes Adnoddau Dynol eich Adran neu’ch
Athrofa chi.
Pennaeth Adran / Rheolwr Athrofa / Llofnodydd
Awdurdodedig
Dewiswch y Rheolwr Athrofa neu’r Pennaeth Adran Gwasanaethau
Proffesiynol sydd â'r awdurdod i gymeradwyo swyddi gwag.
Ar ôl Cymeradwyaeth (Adnoddau Dynol)
Yn achos pob swydd, dewiswch Adnoddau Dynol.
Cydlynydd Adnoddau Dynol
Dewiswch Adnoddau Dynol. Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn
dyrannu hyn ar ôl iddo gael ei gymeradwyo.
Recriwtiwr Adnoddau Dynol
Peidiwch â llenwi hyn oni bai eich bod yn gwybod enw’r aelod staff
o’r Adran Adnoddau Dynol a fydd yn trafod eich proses recriwtio.
Dosbarthiadau
Peidiwch â llenwi Agresso PosNo
HERA:
Ydy’r swydd wedi bod drwy Asesiad HERA, wedi’i pharu â phroffil
rôl neu â swydd sydd eisoes yn bod? Dewiswch:
“Ydy” i gadarnhau bod y swydd wedi bod drwy Asesiad HERA,
wedi’i pharu â phroffil rôl neu â swydd sydd eisoes yn bod.
“D/G” os yw’r swydd wedi’i chadarnhau fel un nad yw’n dod o
dan HERA.
Os dewiswch “Nac ydy”, gallai’ch swydd gael ei gwrthod nes
bod hyn wedi’i wneud.
Adran:
Dewiswch yr adran lle mae’r swydd wedi’i gosod. Pan fo’r swydd
mewn athrofa academaidd, naill ai:
Dewiswch yr adran lle mae’r swydd wedi’i gosod, neu
pan fo’r swydd yn rhychwantu’r athrofa (e.e. gweinyddwyr
neu reolwyr i’r athrofa gyfan), dewiswch yr Athrofa
Lleoliad yr Adeilad:
Dewiswch yr adeilad lle mae’r swydd wedi'i lleoli. O ran swyddi o
hirbell megis gweithwyr maes, dewiswch yr adeilad lle mae’r adran.
Rheolwr Llinell:
Rhowch enw llawn rheolwr llinell y swydd.
Pwy sydd dan reolaeth deiliad y swydd:
Pan fo gan y swydd gyfrifoldebau rheoli llinell, rhowch enwau pawb
a fydd yn cael eu rheoli gan ddeiliad y swydd.
Pan fo hon yn swydd sydd eisoes yn bod a bod y sefyllfa rheoli llinell
yr un fath ag un y cyflogai presennol, gallwch deipio "yn lle’r
rheolwr llinell presennol" neu’r tebyg.
Pan nad oes gan y swydd gyfrifoldebau rheoli llinell, teipiwch “D/G”.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 17
Rheswm dros Recriwtio:
Dewiswch y rheswm dros recriwtio.
Swydd Newydd ar gyfer unrhyw swydd newydd
Llenwi Swydd pan fo’r swydd yn bodoli eisoes ac yn cael ei
llenwi yn lle’r deiliad blaenorol. Dylech ddefnyddio hyn hefyd
pan fydd wedi teitl neu fanylion y swydd wedi newid.
Penodiad Achlysurol pan fydd unigolyn a enwyd yn cael ei
benodi heb hysbyseb, rhestr fer a chyfweliad. Rhaid peidio â
defnyddio hyn am fwy na chyfnod penodol o dri mis ac fel
rheol does dim modd ymestyn y cyfnod.
Ymchwilydd a Enwyd a Ariennir yn Allanol pan fo
cytundeb ymchwil yn cynnwys ymchwilydd a enwyd yn un o
amodau’r cyllid. Does dim rhaid eu recriwtio ac maen nhw’n
cael eu trin yr un fath â gweithiwr achlysurol, hyd yn oed pan
fo hyn ym ymestyn y tu hwnt i dri mis
o Rhaid ichi lwytho copi o'r cytundeb cyllid wedi'i lofnodi
gyda'ch cais, yn rhoi manylion yr ymchwilydd a enwyd.
Nid yw ymchwilydd a enwyd ar ffurflen Costio
Economaidd Llawn neu ar Gais am Gyllid yn dystiolaeth
addas – nid yw hyn yn un o ofynion y cyllid. Os na
fyddwch yn darparu tystiolaeth, bydd angen recriwtio
i'r swydd.
Yn lle pwy?:
Pan fyddwch yn gofyn am lenwi swydd sydd eisoes yn bod, rhowch
enw’r cyflogai sydd wedi ymadael. Os nad ydych yn llenwi swydd
wag ar ôl i rywun ymadael, rhowch “D/G”.
Yr achos busnes:
Rhowch achos busnes byr i gyfiawnhau’r swydd wag. Gallai hyn
ddangos sut mae’r swydd yn bodloni anghenion y Cynllun
Strategol, sut y bydd yn cynhyrchu refeniw neu’n ateb gofyniad
hanfodol.
Sylwch fod cyfyngiad ar nifer y cymeriadau yn y blwch testun. Os
yw'r achos busnes yn helaeth, gallwch ddewis ei atodi ar wahân
Y goblygiadau a’r costau os na cheir cymeradwyaeth:
Rhowch ddatganiad byr o’r goblygiadau os na chaiff y swydd ei
llenwi. Gallech ddangos sut bydd hyn yn atal y cynllun strategol
rhag cael ei gyflawni, yn mentro colli refeniw neu’n colli
swyddogaeth hanfodol.
Categori’r swydd:
Dewiswch “Academaidd” ar gyfer pob swydd addysgu ac ymchwilio
gradd 6 neu’n uwch. Dewiswch “Rheoli, Gweinyddu a Chymorth” ar
gyfer pob swydd arall. Bydd hyn yn rheoli trefn y wefan.
Teulu’r Swydd:
Dewiswch y teulu swyddi priodol i’r swydd wag.
Sylwch nad yw Gwasanaethau Campws yn cyfeirio at yr adran
Gwasanaethau Campws a Gwasanaethau Masnachol. Byddai hyn
yn briodol ar gyfer unrhyw swyddi sy’n darparu gwasanaeth i’r
campws mewn unrhyw adran.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 18
Swyddogaeth Academaidd:
Dewiswch y Swyddogaeth Academaidd briodol i’r swydd wag.
Cymerwch ofal arbennig ynglŷn â swyddi Darlithydd – mae rhai
darlithwyr yn addysgu yn unig ac eraill yn addysgu ac yn ymchwilio.
Gofalwch fod hyn yn gywir.
“Heb fod yn Academaidd” – i bob swydd wag nad yw’n
academaidd;
“Academaidd – Addysgu ac Ysgolheictod” – i bob swydd sy’n
addysgu yn unig;
“Academaidd – Ymchwil yn Unig” i bob swydd sy’n ymchwilio
yn unig.
“Academaidd – Addysgu ac Ymchwilio” i swyddi darlithio sy’n
cynnwys addysgu ac ymchwilio;
Anaml y defnyddir “Academaidd – heb Addysgu ac Ymchwilio”,
sy’n briodol i swyddi fel Dirprwy Is-Ganghellor pan fo’n swydd
academaidd yn bendant ond nad yw’n cynnwys addysgu nac
ymchwilio.
Statws yr ymchwilydd
Dewiswch y Statws Ymchwilydd priodol ar gyfer swyddi ymchwil yn
unig:
Heb fod yn ymchwilydd – I bob swydd heblaw Ymchwil yn
unig;
Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-raddedig – Pan ddisgwylir bod gan
yr ymchwilydd radd israddedig a’i fod yn cynorthwyo ymchwil;
Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-Ddoethurol – Rhagwelir y bydd gan
ddeiliad y swydd Ddoethuriaeth neu brofiad cyfatebol a’i fod
yn cynorthwyo ymchwil;
Cydymaith Ymchwil Ôl-Ddoethurol – Rhagwelir y bydd gan
ddeiliad y swydd Ddoethuriaeth neu brofiad cyfatebol a’i fod
yn chwarae rôl o bwys mewn ymchwil, megis Prif Ymchwilydd
neu Gyd-Awdur;
Cymrawd Ymchwil – Pan ddisgwylir bod gan yr ymchwilydd
Ddoethuriaeth a’i fod yn arwain gwaith ymchwil.
Gradd:
O ran swyddi gwag HERA, dewiswch y Radd fel y’i cadarnhawyd
gan yr asesiad HERA. Gallwch ddewis fwy nag un radd os oes angen
(e.e. ar gyfer swyddi dan hyfforddiant etc.).
Yn achos Darlithwyr, dewiswch y Radd 7 gyfatebol.
Yn achos swyddi nad ydynt yn swyddi HERA, Darllenydd, Athro
Prifysgol, Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ac Isafswm Cyflog
Cenedlaethol/Cyflog Byw, dewiswch fel y bo’n briodol.
Graddfa Gyflog:
Dewiswch y raddfa gyflog briodol sy'n cyfateb i’r radd. Gwnewch yn
siŵr eich bod yn dewis "(pro rata)" ar gyfer pob swydd sy'n llai nag
amser llawn neu sydd am gyfnod cyfyngedig.
O ran swyddi nad ydyn nhw’n swyddi HERA, gadewch yr adran hon
yn wag.
Cyflog:
Pan fo’r swydd yn eithriadol ac nad yw’n cyfateb i Radd HERA,
rhowch y cyflog yn y fformat a ganlyn. Sylwch fod rhaid cofnodi
hyn yn ddwyieithog gyda'r Gymraeg yn gyntaf.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 19
£10.61 yr awr / £10.61 per hour
£13,000 y flwyddyn / £13,000 per annum
Cyllid:
Dewiswch y math o gyllid:
Ariennir yn Gyfan Gwbl gan yr Athrofa Gyffredinol –
Defnyddiwch hyn ar gyfer pob swydd a ariennir yn fewnol.
Ariennir yn Rhannol gan yr Athrofa – Defnyddiwch hyn ar gyfer
pob swydd a ariennir yn rhannol.
Fel arall, dewiswch y corff cyllido allanol priodol.
Cod Costau:
Dewiswch y cod costau sy'n ariannu'r swydd. Gall fod yn wahanol
i'r adran, er enghraifft gallai swydd AberYmlaen gael ei lleoli yn yr
adran Daearyddiaeth ond ei hariannu gan 153A AberYmlaen.
Archeb Waith:
Rhowch yr Archeb Waith.
Dylech deipio archebion gwaith a ariennir yn fewnol yn y fformat
A1234-01.
Dylech deipio archebion gwaith a ariennir yn allanol yn unol â
chyngor Emyr Reynolds.
Cod y Cyfrif:
Dewiswch god y cyfrif.
Dim ond os nad oes Cod Cyfrif arall yn briodol y dylech ddefnyddio’r
cod 3004 Academaidd-berthynol.
Mae’r codau 39XX i’w defnyddio ar gyfer swyddi gwag Byrdymor
neu Achlysurol yn unig.
Teitl/Cyfeirnod Grant Allanol:
Rhowch deitl y grant a’r rhif cyfeirnod lle bo'n briodol. Fel arall
rhowch “D/G”.
Arian allanol i dalu hysbysebion a chostau:
Pan fo costau hysbysebu a/neu gostau adleoli i’w talu â chyllid
allanol, dewiswch 'oes’. Pan na chaiff y costau eu talu â chyllid
allanol, dewiswch ‘nac oes’.
Math o Gontract:
Dewiswch Cyfnod Penodol neu Parhaol fel y bo’n briodol.
Cyfnod:
Pan fo’r swydd yn swydd am gyfnod penodol, rhowch gyfnod y
gyflogaeth yn y fformat a ganlyn. Sylwch fod rhaid cofnodi hyn yn
ddwyieithog gyda'r Gymraeg yn gyntaf.
Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2017 / Fixed Term to 31
Gorffennaf 2017
Cyfnod penodol o 3 mlynedd / Fixed term for 3 years
Pan fo’r swydd yn un benagored, gadewch hyn yn wag.
Amser-llawn/Rhan-amser
Dewiswch a yw’r swydd yn un Amser-llawn (36.5 awr) ynteu’n
Rhan-amser.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 20
Oriau wythnosol
Pan fo gan y swydd oriau wythnosol rheolaidd, rhowch y rhain yma
fel digidau rhif yn unig, e.e. "18.25". Os oes gan y swydd oriau
blynyddol, gadewch hyn yn wag.
Wrth hysbysebu nifer o swyddi sydd ag oriau gwahanol, rhowch
“Oriau amrywiol / Various hours” gan gynnwys y manylion yn yr
hysbyseb swydd.
Dylai pob swydd fod ag oriau wedi’u pennu dan gontract lle bo
modd. Ar gyfer contract dim oriau mae angen cymeradwyaeth y
Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a dim ond pan fo’n gwbl
hanfodol y dylid gwneud cais am hyn.
Oriau blynyddol
Os ydych wedi llenwi’r oriau wythnosol, gadewch hwn yn wag. Os
oes gan y swydd oriau blynyddol, oriau amser tymor neu oriau
afreolaidd, nodwch nifer yr oriau a’r cyfnod yn y fformat a ganlyn.
Sylwch fod rhaid cofnodi hyn yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn
gyntaf.
600 awr y flwyddyn / 600 hours per year
120 awr dros 3 mis / 120 hours over 3 months
Lefelau Cymraeg:
Ceir canllawiau llawn ar lefelau Cymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-
standards/
Dyma’r egwyddorion cyffredinol:
Dylid defnyddio lefel A0 yn yr achosion y penderfynwyd nad
oes angen sgiliau iaith Gymraeg. Dylai unrhyw swydd blaen
tŷ sydd mewn cyswllt cyson â'r cyhoedd fel y'i diffinnir gan y
Cynllun Iaith Gymraeg fod o fewn yr ystod A1 i C2. Mae'r
"cyhoedd" yn cyfeirio at fyfyrwyr cyfredol, staff, darpar
fyfyrwyr yng Nghymru a'r cyhoedd yn gyffredinol yng
Nghymru.
Mewn achosion lle mae angen siaradwr rhugl yn y Gymraeg
awgrymir y dylai lefel C2 fod yn ofyniad ar gyfer swyddi
academaidd a swyddi gradd 6 ac uwch. Fel arall gall lefel C1
fod yn fwy addas.
Os nad oes angen sgiliau ysgrifennu mae yn bosib gofyn am
sgiliau llafar yn unig.
Pa lefel Cymraeg fyd ar yr unigolyn ei hangen er mwyn
ymwneud â’r cyhoedd?
Rhaid i’r lefelau a ddewiswch gael eu gwirio gan y Gwasanaethau
Cymraeg. Os ydych yn rhag-weld unrhyw anawsterau, mynnwch
air â’r Gwasanaethau Cymraeg cyn cyflwyno’ch cais.
Cymraeg Llafar Hanfodol – Rhowch lefel y Cymraeg llafar sy’n
ofynnol ar gyfer y swydd wag
Cymraeg Ysgrifenedig Hanfodol – Rhowch lefel y Cymraeg
ysgrifenedig sy’n ofynnol ar gyfer y swydd wag
Cymraeg Llafar Dymunol – Rhowch lefel y Cymraeg llafar sy’n
ddymunol. Fel arfer bydd hyn un lefel yn uwch na’r lefel
hanfodol ond gall fod yn wahanol gan ddibynnu ar natur y
swydd wag.
Cymraeg Ysgrifenedig Dymunol – Rhowch lefel y Cymraeg
ysgrifenedig sy’n ddymunol. Fel arfer bydd hyn un lefel yn
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 21
uwch na’r lefel hanfodol ond gall fod yn wahanol gan ddibynnu
ar natur y swydd wag.
Dylai swyddi sydd angen sgiliau iaith Gymraeg ar lefel A1 i B1
gynnwys cymal i’r perwyl fod pobl sy’n fodlon dysgu i’r lefel hon
hefyd yn gallu gwneud cais.
Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn achos swyddi sy’n addysgu drwy’r Gymraeg, dewiswch ‘ie’. Yn
achos pob swydd arall, dewiswch ‘nage’.
Angen Asesiad Ffitrwydd Meddygol:
Dewiswch ‘oes’ pan fo angen Asesiad Ffitrwydd Meddygol. Gadewch
hyn yn wag os nad yw hynny'n ofynnol.
Dim ond lle mae’r swydd yn un sy’n ymestynnol yn gorfforol a bod
angen inni asesu gallu corfforol yr ymgeisydd yn unol â gofynion y
gwaith y dylid defnyddio hyn (h.y. codi eitemau trwm yn rheolaidd
neu weithio mewn mannau cyfyng neu beryglus). Pan nad yw hyn
yn ofyniad hanfodol, gadewch hyn yn wag.
DBS:
Dewiswch 'ie' pan fo angen Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd ar gyfer y swydd. Os nad oes angen un, dewiswch ‘nage’.
Ceir canllawiau llawn ar ddiogelu a gofynion ynglŷn â’r DBS yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-
procedure/safeguarding/.
Dim ond pan fo’r swydd yn gweithio’n unswydd gyda phlant neu
oedolion sy’n agored i niwed y dylid defnyddio hyn.
Y rhai sydd angen DBS yn
gyffredin:
Y rhai nad oes angen DBS
ynglŷn â nhw
Y rhai sy'n addysgu neu’n
goruchwylio plant o dan
18 oed.
Y rhai sy'n darparu
arweiniad un-i-un i
oedolion agored i niwed.
Y rhai sy'n gwneud
ymchwil sy'n ymwneud â
phlant neu oedolion sy'n
agored i niwed, neu sy’n
ymchwilio mewn ysgol
neu ysbyty
Y rhai sy'n addysgu ar gwrs
nad yw wedi’i anelu at
oedolion sy’n agored i
niwed, ond a all fod ag
oedolion felly yn bresennol.
Gweinyddwyr sy’n
cynorthwyo cwrs i blant o
dan 18 oed ond nad ydyn
nhw’n gweithio'n
uniongyrchol gyda nhw
Os oes gennych unrhyw amheuaeth pa bryd y mae angen gwiriad
DBS, holwch y Tîm Gwasanaethau Gweithwyr, ffôn 8555.
Rhesymeg DBS
Pan fo angen gwiriad DBS, rhowch esboniad byr pam, e.e. Addysgu
dosbarth o blant
Pan nad oes angen DBS, rhowch “D/G”
Peidiwch â llenwi Dyddiad y cyfweliad.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 22
Dyddiad Dechrau a Ddymunir:
Rhowch ddyddiad dechrau a ddymunir os oes un gennych. Fel arfer,
bydd hyn yn cael ei wneud ar gyfer contractau cyfnod penodol neu
ddyddiadau addysgu.
Os nad oes dyddiad dechrau a ddymunir, gadewch hyn yn wag.
Peidiwch â rhoi "cyn gynted â phosibl" neu rywbeth tebyg. Nid yw
hyn edrych yn ddeniadol i ymgeiswyr.
Cod SOC (Maes i’r Adran Adnoddau Dynol)
Peidiwch â’i lenwi
Dosbarthiadau Athro/Athrawes/Tiwtor Rhan-amser
Mae'r meysydd hyn yn orfodol ar gyfer unrhyw benodiadau i
Athrawon/Athrawesau a Thiwtoriaid Rhan-amser sydd wedi’u paru
â phroffiliau rôl gradd 6 a 5, sy'n ychwanegu at yr addysgu ar
Gynlluniau Gradd yr Athrofa. Gall methu llenwi’r meysydd hyn
arwain at ohirio’ch cais neu ei wrthod.
Rhaid i’r oriau hyn fod yn adlewyrchiad cywir o'r hyn y disgwylir i’r
rhai a benodir weithio. Gellir hawlio oriau ychwanegol annisgwyl
drwy gyfrwng y daflen amser yn unol â’r broses safonol. Rhaid i’r
oriau a briodolir i’r categori hwn o staff fod yn adlewyrchiad cywir
o'r llwyth gwaith a ddisgwylir.
Modiwlau a Addysgir
Cynhwyswch fanylion cryno am y modiwlau y bydd y sawl a benodir
yn helpu i’w haddysgu. Mae codau’r modiwlau’n iawn.
Dyddiadau addysgu
Rhowch ddyddiadau dechrau a diwedd y cyfnod addysgu.
Oriau addysgu
Rhowch nifer yr oriau pryd y bydd disgwyl i'r sawl a benodir
addysgu (e.e. 10 x seminar 1 awr = 10 awr), yn unol â’r Model
Rheoli Dyraniad Gwaith (WAMM).
Oriau marcio
Rhowch nifer yr oriau pryd y bydd disgwyl i'r sawl a benodir farcio
yn unol â’r WAMM.
Oriau paratoi
Rhowch nifer yr oriau pryd y bydd disgwyl i'r sawl a benodir baratoi
yn unol â’r WAMM.
Oriau cyfarfodydd
Rhowch nifer yr oriau pryd y bydd disgwyl i'r sawl a benodir fod
mewn cyfarfodydd.
Cyfanswm yr oriau
Rhowch gyfanswm yr oriau o addysgu, marcio, paratoi a
chyfarfodydd.
Rhowch y Dosbarthiadau
Athro/Athrawes/Tiwtor
Rhan-amser yn ôl yr
angen
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 23
Cyfanswm yr oriau plws 17.6% o Wyliau Blynyddol
Ychwanegwch 17.6% at gyfanswm yr oriau i gael yr oriau o Wyliau
Blynyddol a ganiateir. Dyma gyfanswm yr oriau y bydd y sawl a
benodir o dan gontract i’w gweithio.
Dosbarthiadau Bwrdd Swyddi’r Adran Adnoddau Dynol
Peidiwch â llenwi’r adran hon. Mae’n cael ei defnyddio gan yr Adran
Adnoddau Dynol at ddibenion hysbysebu.
Hysbyseb
Hysbyseb Swydd
Peidiwch â rhoi dim byd yn yr adran Hysbyseb Swydd.
Disgrifiad Swydd
Er gwaethaf y teitl Disgrifiad Swydd, defnyddiwch yr adran hon ar
gyfer yr hysbyseb swydd. Caiff y Disgrifiad Swydd ei atodi ar
wahân.
Nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer Penodiadau Achlysurol a gall gael ei
adael yn wag yn yr achosion hyn. Mae’n dal yn rhaid ichi atodi
Disgrifiad Swydd ar gyfer pob cais am swydd wag (gweler yr adran
isod).
Ysgrifennwch hysbyseb gryno ar gyfer y swydd. Dylai amlinellu’n
fras gyfrifoldebau'r swydd a gwneud i’r swydd edrych yn atyniadol
i ymgeiswyr. Gallwch gynnwys gwybodaeth gryno iawn am yr
Adran/Athrofa neu fanylion y prosiect, neu gallech gynnwys dolen
i wefan eich adran. Mae pob swydd yn wahanol, ond gallwch edrych
ar swyddi gwag eraill os oes angen ysbrydoliaeth.
Rhowch enw a manylion rhywun y gall ymgeiswyr siarad yn
anffurfiol â nhw am y swydd bob amser, sef y Rheolwr Recriwtio fel
arfer.
Os yw’r cyfieithiad Cymraeg gennych, cynhwyswch hwn yn yr un
blwch. Fel arall bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cyfieithu hyn cyn
hysbysebu.
Cadw
Cadwch eich gwybodaeth, Ffeil > Cadw
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 24
Atodwch y Disgrifiad Swydd Nawr mae’n rhaid ichi atodi’r Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person
ar gyfer y swydd. At ddibenion mewnol yn unig y mae’r rhain ac ni
fyddant yn cael eu gweld gan y cyhoedd. Gwnewch yn siŵr eich
bod yn uwchlwytho’r rhain fel dogfen Word (.doc).
Ewch i Opsiynau > Dogfennau
Cliciwch ar Ychwanegu Dogfen.
Yn Disgrifiad, rhowch eiriau i’r perwyl “Disgrifiad Swydd i’r
Adran Adnoddau Dynol”.
Dewiswch Teipiwch fel Disgrifiad Swydd.
Peidiwch â llenwi Dangos i’r Ymgeisydd.
Peidiwch â llenwi Anfon at Asiantaeth.
Dewiswch y ffeil i’w huwchlwytho. Os yw’r swydd wedi bod
drwy Asesiad HERA, rhaid ichi uwchlwytho’r Disgrifiad Swydd
terfynol fel y’i haseswyd.
Gallwch uwchlwytho unrhyw ddogfennau eraill yma os ydych yn
dewis gwneud hynny. Mae’n rhaid ichi uwchlwytho copi o'r
Cytundeb Cyllido wedi'i lofnodi ar gyfer ymchwilwyr a enwyd.
Dewiswch Ffeil > Cadw.
Ewch yn ôl i’ch tudalen manylion swyddi drwy ddewis Yn ôl yn eich
porwr gwe, neu drwy ddewis Hanes > Swyddi > Teitl Swydd.
Atodwch y Disgrifiad
Swydd
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 25
Anfon i’w Chymeradwyo Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl fanylion yn gyflawn, rhaid ichi
gyflwyno’r swydd wag i’w chymeradwyo.
Dewiswch Opsiynau > Llifoedd Gwaith > Cais am Swydd Wag.
Bydd blwch naid yn ymddangos yn gofyn a ydych chi'n siŵr eich
bod am wneud hyn. Os ydych yn fodlon, dewiswch ‘ydw’.
Mae’r swydd wedi’i hanfon i'w chymeradwyo. Does dim rhaid i
chithau wneud dim byd oni bai bod y swydd yn cael ei gwrthod a’i
dychwelyd i chi.
Os gwrthodir eich swydd ar unrhyw adeg, caiff ei dychwelyd i’r sawl
a greodd y swydd ar ffurf dolen mewn neges ebost. Bydd hyn yn
cynnwys y rhesymau dros ei gwrthod. Os hoffech ei hailgyflwyno
ar ôl gwneud gwelliannau, rhaid i’r swydd fynd drwy'r broses
gymeradwyo lawn eto
Llif gwaith cymeradwyo
Mae llif gwaith y gymeradwyaeth yn rhedeg fel hyn:
1) Anfonir y swydd at Wasanaethau’r Gymraeg i gadarnhau’r
lefelau Cymraeg hanfodol a dymunol. Bydd angen iddyn nhw
gymeradwyo’r swydd cyn iddi gael symud ymlaen.
2) Anfonir y swydd at eich rheolwr cyllid i’w adolygu. Mae yna dri
dewis: Cymeradwyo; Dim cyllid ond cymeradwyo ar sail yr
achos busnes; neu wrthod. Bydd angen iddyn nhw
gymeradwyo’r swydd cyn iddi gael symud ymlaen.
3) Anfonir y swydd at eich Pennaeth Adran, eich Rheolwr Athrofa
neu at lofnodwr cymeradwy arall i’w adolygu. Bydd angen
iddyn nhw gymeradwyo’r swydd cyn iddi gael symud ymlaen.
4) Anfonir y swydd at y Rheolwr/Partner Busnes Adnoddau Dynol
iddyn nhw gael cynnig sylwadau a’i chymeradwyo. Nid cyfnod
cymeradwyo ffurfiol mo hwn, ond mae’n caniatáu i’ch
Rheolwr/Partner Busnes Adnoddau Dynol gynnig sylwadau ar
y swydd a sicrhau bod y cais yn briodol at eich anghenion.
5) Anfonir y swydd at yr adran Adnoddau Dynol i’w
chymeradwyo.
Caiff y swydd wag ei gwirio o ran cywirdeb a chydymffurfiaeth.
Pan fo’r swydd yn cael ei hariannu'n allanol, caiff ei
chymeradwyo’n awtomatig.
Pan fo’n cael ei hariannu’n fewnol, caiff y swydd ei hystyried
gan y Grŵp Cymeradwyo Swyddi. Bydd y Grŵp yn
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 26
cymeradwyo neu’n gwrthod y swydd ar sail yr wybodaeth a’r
achos busnes a ddarparwyd gennych.
6) O’i gwrthod, caiff y swydd ei dychwelyd i berchennog y swydd.
Os caiff ei gymeradwyo, caiff y swydd ei dosbarthu yn yr Adran
Adnoddau Dynol.
a. O ran Penodiadau Achlysurol, bydd angen bellach ichi
wneud cynnig i’r ymgeisydd sydd i’w benodi – Ewch
i’r adran Penodi.
b. O ran swyddi gwag i’w hysbysebu, bydd yr Adran
Adnoddau Dynol yn llunio’r hysbyseb ac yn paratoi i
hysbysebu. Caiff ei hysbysebu cyn gynted ag y bydd
wedi’i dilysu, wedi’i chymeradwyo ac wedi’i chyfieithu.
Gallwch weld statws eich swyddi ar unrhyw adeg drwy
fynd i Swyddi > Crynodeb Swyddi > Newid Statws
i Cyflwynwyd > Dewis manylion y swydd >
Opsiynau > Llif Gwaith > Statws Llif Gwaith.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 27
Cymeradwyaeth yn y Llif Gwaith Pan ydych yn gyfrifol am roi cymeradwyaethau yn y llif gwaith,
dylech ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Cewch neges ebost yn gofyn ichi wirio manylion swydd. Bydd yn
cynnwys dolen a fydd yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r tudalen
cymeradwyo.
Cliciwch ar y ddolen.
Bydd y tudalen hwn yn rhoi crynodeb o’r llif gwaith sydd i’w
gwblhau. Bydd manylion swydd ac unrhyw ddogfennau a atodwyd
ar gael ar y dolenni ar y dde.
Adolygwch y manylion sy'n berthnasol i’ch cymeradwyaeth chi, yna
cymeradwywch y swydd neu ei gwrthod.
Rhowch unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud yn y blwch
sylwadau. Os ydych yn cymeradwyo’r swydd gydag amodau,
gwnewch hyn yn eglur yn eich sylwadau. Os ydych yn gwrthod y
swydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys manylion pam fel y
gall perchennog y swydd ei hailgyflwyno gyda newidiadau.
Sylwch y bydd y sylwadau hyn yn weladwy i berchennog y swydd
ac eraill yn y llif gwaith.
Dewiswch Cymeradwyo neu Gwrthod.
Os yw perchennog y swydd yn llofnodydd awdurdodedig hefyd,
cewch fwy nag un cais am gymeradwyaeth i un swydd. Rhaid i bob
un gael ei gymeradwyo er mwyn i’r swydd gael symud ymlaen.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 28
Hysbysebu Ceir tri chyfnod wrth hysbysebu swyddi ym Mhrifysgol
Aberystwyth; 1) Ystyriaeth Flaenorol/Adnewyddu Aber, 2) Mewnol
a 3) Allanol. Mae’r cyfnodau hyn wedi’u cytuno gan y Brifysgol a’r
Undebau Llafur.
Ystyriaeth Flaenorol/Adnewyddu Aber Mae Ystyriaeth Flaenorol ac Adnewyddu Aber yn cael eu hysbysebu
yr un pryd am saith niwrnod.
Ystyriaeth Flaenorol
O dan y Polisi Adleoli, mae staff sy'n wynebu cael eu diswyddo neu
eu hadleoli yn dod o dan Ystyriaeth Flaenorol ar gyfer pob swydd.
Mae Ystyriaeth Flaenorol yn codi sicrwydd swyddi gymaint ag y bo
modd, yn lleihau'r angen i ddiswyddo’n orfodol ac yn diogelu
buddiannau’n cyflogeion tra'n cadw sgiliau o fewn y Brifysgol.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Ystyriaeth Flaenorol gael ei
hosgoi os gall y Rheolwr Recriwtio ddangos bod gan y swydd feini
prawf hanfodol na ellir eu bodloni gan y rhai sydd ar y gofrestr
adleoli. Nid yw angen brys yn ddigon o reswm dros hepgor
Ystyriaeth Flaenorol fel rheol. Rhaid i'r Rheolwr Recriwtio gysylltu
â’r Tîm Gwasanaethau Gweithwyr i gael cymeradwyaeth y Dirprwy
Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol os yw’n dymuno osgoi Ystyriaeth
Flaenorol.
Gweler yr adran Llunio Rhestr Fer ar sut i osod ymgeiswyr ar y
rhestr fer o dan Ystyriaeth Flaenorol.
Os na allwch benodi drwy Ystyriaeth Flaenorol, neu os nad oes
ymgeiswyr, wedyn mae ceisiadau ar gyfer Adnewyddu Aber yn cael
eu hystyried.
Adnewyddu Aber
Dyma gynllun sy'n caniatáu i aelodau staff drosglwyddo'n haws i
swyddi newydd ar draws y Brifysgol.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Adnewyddu Aber gael ei osgoi
os gall y Rheolwr Recriwtio ddangos bod gan y swydd feini prawf
hanfodol na ellir eu bodloni gan y rhai ar y gofrestr adleoli. Nid yw
angen brys yn ddigon o reswm dros osgoi Adnewyddu Aber fel
rheol. Rhaid i'r Rheolwr Recriwtio gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau
Gweithwyr i gael cymeradwyaeth y Dirprwy Gyfarwyddwr
Adnoddau Dynol os yw’n dymuno osgoi Adnewyddu Aber.
Os na allwch benodi drwy Adnewyddu Aber, neu os nad oes
ymgeiswyr, wedyn mae’r hysbyseb yn cael ei hysbysebu’n fewnol.
Hysbysebir eich swydd am
saith niwrnod ar Ystyriaeth
Flaenorol / Adnewyddu
Aber.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 29
Mewnol Hysbysebir pob swydd ar gyfer ceisiadau mewnol am saith niwrnod
ar ôl i Ystyriaeth Flaenorol/Adnewyddu Aber ddod i ben.
Os na allwch benodi ymgeisydd mewnol, neu pan nad oes
ymgeiswyr, bydd yr hysbyseb yn cael eu hysbysebu'n allanol.
Allanol Mae’r rhan fwyaf o swyddi’n cael eu hysbysebu'n allanol am 30
niwrnod. Yn achos gradd 1-4 lle disgwylir llawer o geisiadau, bydd
y swydd wag yn cael ei hysbysebu am bythefnos i ddechrau. Mae
hyn fel arfer yn ddigon i sicrhau cronfa o ymgeiswyr
Yn ychwanegol at ein gwefan, mae pob swydd yn cael ei hysbysebu
hefyd gyda Chanolfan Byd Gwaith (Universal Job Match) fel rhan
safonol o’r drefn a’i chyhoeddi ar gyfrifon Twitter a Facebook y
Brifysgol. Mae’r holl swyddi ar radd 6 ac yn uwch hefyd yn cael eu
hysbysebu gyda jobs.ac.uk fel rhan o’r drefn. Gallwch ddewis
hysbysebu mewn mannau eraill hefyd, megis gyda chyfnodolyn
academaidd, cyhoeddiad proffesiynol neu gyhoeddiad Cymraeg.
Cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Gweithwyr os hoffech hysbysebu
mewn mannau eraill er mwyn inni’ch cynghori.
Mae rhestrau ebost a rhestrau dosbarthu yn aml yn hysbyseb
effeithiol ar gyfer swyddi arbenigol ac maen nhw fel arfer ar gael
yn ddi-dâl.
Hysbysebir eich swydd am
saith niwrnod yn fewnol.
Rhaid i hysbysiadau
allanol gynnwys
dyddiad y cyfweliad –
cysylltwch â'r Adran
Adnoddau Dynol i roi'r
dyddiad ac i gadarnhau
cyfansoddiad y panel.
Os hoffech i'ch swydd
gael ei hysbysebu y tu
allan i'r lleoedd arferol,
rhowch wybod i'r Adran
Adnoddau Dynol ar y
cyfle cyntaf
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 30
Cyfansoddiad Paneli Penodi Noder y cyfansoddiadau paneli recriwtio isod. Fodd bynnag, mewn
amgylchiadau eithriadol, lle nad yw’n bosib cadw at y
cyfarwyddiadau yma dylid gofyn am gymeradwyaeth wrth y
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu’r Dirprwy i amrywio aelodaeth y
panel.
Efallai bydd angen, mewn amgylchiadau eithriadol, i’r Is-
Ganghellor enwebu Dirprwy Is-Ganghellor i gymryd ei le ar banelau
penodi.
Dylid cadw cydbwysedd rhwng y rhywiau ar banelau penodi. Lle
nad yw hyn yn bosibl o dan amgylchiadau eithriadol, dylid sicrhau
cytundeb y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu'r Dirprwy.
Pan fydd ymgeiswyr yn dewis cael eu cyfweld trwy gyfrwng y
Gymraeg, bydd cyfansoddiad y panel yn ddelfrydol yn adlewyrchu'r
gofyniad hwn. Lle nad yw hyn yn bosib, bydd cyfleusterau cyfieithu
ar y pryd ar gael.
Swyddi lefel Gweithredol
Is-Ganghellor (yn unol â'r Ordinhad)
Cadeirydd y Cyngor (Cadeirydd)
Dirprwy Cadeirydd y Cyngor
3 aelodau annibynnol a benodir gan y Cyngor ac oddi yno
1 aelod wedi'i benodi gan ac o'r Senedd (gyda darpariaeth ar
gyfer eiliad)
Is-Ganghellor neu Bennaeth sefydliad prifysgol arall (a bennir
gan Gadeirydd y Cyngor)
Ysgrifennydd y Brifysgol neu Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Dirprwy Is-Ganghellor (yn unol â'r Ordinhad)
Is-Ganghellor (Cadeirydd)
2 aelodau annibynnol a benodir gan y Cyngor ac oddi yno
1 aelod wedi'i benodi gan ac o'r Senedd (a benderfynir gan yr
Is-Ganghellor)
[Mewn achosion o swyddi a hysbysebir yn allanol]
Cynrychiolydd o statws priodol gan Sefydliad Addysg Uwch
arall
Ysgrifennydd y Brifygol neu Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol (Aelodau Gweithredol ac
Ysgrifennydd y Brifysgol)
Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Dirprwy Is-Ganghellor
1 aelod annibynnol a benodir gan y Cyngor ac oddi yno
Os oes angen sgiliau technegol arbenigol ar y swydd, gall y
Cadeirydd enwebu cynrychiolydd allanol
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu ddirprwy
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 31
Swyddi Academaidd
Pennaeth Adran Academaidd
Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Dirprwy Is-Ganghellor
Cynrychiolydd allanol gydag arbenigedd perthnasol (dim ond
lle bo angen ar gyfer swyddi arbenigol, ee ar gyfer Pennaeth
IBERS, byddai hyn yn gofyn am gynrychiolaeth BBSRC)
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu ddirprwy
Athro
Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Pennaeth Adran Academaidd
Cynrychiolydd allanol gydag arbenigedd perthnasol (dim ond
lle bo angen ar gyfer swyddi arbenigol)
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu ddirprwy
Darllenydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Pennaeth Adran Academaidd
Partner Busnes Adnoddau Dynol
Uwch Ddarlithydd
Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd)
Pennaeth Adran Academaidd
Partner Busnes Adnoddau Dynol
Darlithydd
Pennaeth Adran Academaidd (Cadeirydd)
Athro neu Ddarllenydd o fewn yr Adran Academaidd
Aelod o staff Academaidd o Adran Academaidd arall
Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol/Cynorthwyydd
Ymchwil/Darlithydd Cyswllt/Athro/Athrawes Rhan-Amser
Pennaeth Adran neu ddirprwy
Aelod o staff Academaidd o’r Adran (fel arfer rheolwr llinell)
Aelod staff o Adran Academaidd arall neu yn achos prosiectau
cydweithredol, aelod staff o'r adran partneriaeth neu sefydliad
perthnasol
Adrannau Gwasanaeth Proffesiynol
Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol neu Swyddi Gradd 9/10
(nid lefel Weithredol)
Is-Ganghellor (yn ôl y gofyn)
Dirprwy Is-Ganghellor neu lefel Weithredol Pennaeth
Gwasanaeth Proffesiynol (Cadeirydd)
Pennaeth Adran Gwasanaeth Proffesiynol
Os oes angen sgiliau technegol arbenigol ar y swydd, gall y
Cadeirydd enwebu cynrychiolydd allanol
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu ddirprwy
Gradd HERA 8
Pennaeth Adran Gwasanaeth Proffesiynol*
Rheolwr llinell neu ddirprwy
Aelod staff o Adran arall
Cynrychiolydd Adnoddau Dynol a gofynnir gan y Cadeirydd
* N.B. Cadeirydd fydd y rheolwr llinell berthnasol
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 32
Graddau HERA 5,6,7
Pennaeth Adran (yn ôl y gofyn) Rheolwr llinell (Cadeirydd)
Aelod staff o'r Adran oni bai fod y Pennaeth Adran ar y panel
Aelod staff o Adran arall
Graddau HERA 3,4
Rheolwr llinell (Cadeirydd)
Aelod staff o’r Adran
Aelod staff o Adran arall
Graddau HERA 1, 2 a swyddi eraill nad ydynt yn HERA *
Rheolwr llinell neu ddirprwy (Cadeirydd)
Aelod staff o’r Adran
Ystyriaeth Flaenorol a Phaneli Adnewyddu Aber (lle mae 1
ymgeisydd)
Rheolwr llinell (Cadeirydd)
Cynrychiolydd Adnoddau Dynol
Lle mae mwy na 1 ymgeisydd, rhaid dilyn y Cyfansoddiad Panelau
Penodi arferol.
Llunio Rhestr Fer Pan fydd swydd wedi cau, gallwch ddechrau llunio rhestr fer. Bydd
yr Adran Adnoddau Dynol yn anfon y ffurflenni cais at y Rheolwr
Recriwtio er mwyn i restr fer gael ei llunio.
Rhaid i’r gwaith o lunio rhestr fer gael ei wneud gan y Rheolwr
Recriwtio, a ddylai gynnwys aelodau o'r panel cyfweld wrth wneud
hyn.
Y Rhestr Fer ac Ystyriaeth Flaenorol
/Adnewyddu Aber Fel rheol, byddai ymgeisydd yn sgorio 0-4 ar y Meini Prawf Hanfodol
lle mae 2 yn sgôr foddhaol. O dan Ystyriaeth Flaenorol, bernir bod
gan ymgeisydd sgôr foddhaol ar gyfer maen prawf lle gallai ateb
y gofyniad hwn gyda hyfforddiant o fewn amserlen resymol.
Er enghraifft, pan fo'n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr brofiad o
weithio mewn maes penodol, mae hyn yn rhywbeth y byddai’n
rhesymol iddyn nhw ei godi wrth weithio yn y swydd, ac felly fe
gaen nhw sgôr foddhaol. Ond, mae'n hanfodol bod ganddyn nhw
radd mewn pwnc penodol ac os nad oes, nid yw hyn yn rhywbeth
y gallen nhw ei ennill o fewn amserlen resymol.
Sylwch y bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn craffu ar y broses o
lunio rhestr fer o dan Ystyriaeth Flaenorol ac y gallen nhw ofyn am
ragor o eglurhad pan nad yw rhywun wedi’i osod ar y rhestr fer.
Rhaid i’r y broses o lunio rhestr fer o dan Ystyriaeth Flaenorol gael
ei hystyried yn llwyr a’i chwblhau cyn i geisiadau o dan Adnewyddu
Aber gael eu hanfon atoch.
Cwblhewch y Rhestr
Fer
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 33
Gosod ymgeiswyr ar y rhestr fer Defnyddiwch y Tabl Llunio Rhestr Fer i sgorio’r ffurflenni cais.
Mae’r dogfennau ynghylch llunio rhestr fer ar gael yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-
information/recruitment/
Rhaid i'r Rheolwr Recriwtio, ac unrhyw un sy’n helpu i lunio’r rhestr
fer, ddatgan a oes ganddyn nhw unrhyw fuddiant penodol yn
unrhyw un o'r ymgeiswyr h.y. cydweithiwr, aelod o'r teulu, ffrind,
canolwr ac ati. Ni fydd hyn yn effeithio ar broses llunio’r rhestr fer,
ond fe allai cyfansoddiad gwahanol i’r panel cyfweld fod yn briodol.
Trafodwch unrhyw wrthdrawiad buddiannau gyda'r Rheolwr
Recriwtio a all uwchgyfeirio’r mater gyda’r Adran Adnoddau Dynol
os bydd angen cyngor.
Nid yw cydnabod a chydweithwyr o wahanol dimau yn achosi
gwrthdrawiad sy’n haeddu newid cyfansoddiad panel, ond os oes
unrhyw amheuaeth gwnewch ddatganiad yn eu cylch.
Llenwch yr adran “Allwedd i Feini Prawf y Rhestr Fer” â’r Meini Prawf
Hanfodol o’r Fanyleb Person.
Rhestrwch y ceisiadau yn ôl rhif cyfeirnod ac ystyriwch bob
ymgeisydd yn erbyn y meini prawf hanfodol.
Pan fo mwy na 30 o ymgeiswyr, gallwch ddewis llunio rhestr hir lle
byddwch yn sgorio yn erbyn un neu ddau o’r meini prawf hanfodol
yn unig. Gall hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn gwrthod ceisiadau
anfoddhaol heb lunio rhestr fer yn gyflawn. Gorffennwch lunio’r
rhestr fer yn llawn ar gyfer yr holl geisiadau sy'n weddill.
Yn erbyn pob maen prawf, dylech troi sgôr i bob ymgeisydd rhwng
0-4:
0. Nid yw’r Ymgeisydd wedi rhoi tystiolaeth
1. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi tystiolaeth gyfyngedig
2. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi tystiolaeth foddhaol
3. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi tystiolaeth dda
4. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi tystiolaeth ragorol
Ar ôl cwblhau llunio’r rhestr fer, adiwch sgoriau pob ymgeisydd a’u
gosod yn eu trefn.
Wrth asesu ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith yn erbyn siaradwyr di-
Gymraeg sy'n barod i ddysgu Cymraeg, dylid defnyddio’r sgoriau a
ganlyn:
0. Heb roi tystiolaeth;
1. Heb roi tystiolaeth ddigonol;
2. Wedi rhoi tystiolaeth o barodrwydd i gyrraedd y lefel
Cymraeg;
3. Wedi cyrraedd y lefel Cymraeg;
4. Wedi rhoi tystiolaeth ei fod wedi defnyddio’r Gymraeg yn
helaeth e.e. yn y gweithle.
Llenwch y Tabl Llunio
Rhestr Fer
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 34
Pa fo ymgeisydd wedi sgorio 0 neu 1 ar gyfer unrhyw feini prawf
hanfodol, ni waeth pa mor dda y mae wedi sgorio mewn mannau
eraill, bernir ei fod yn methu bodloni gofynion y swydd, ac felly ni
fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad.
Pan fo gennych lawer o geisiadau sy’n sgorio’n uchel, gallwch lunio
rhestr fer yn erbyn y meini prawf dymunol i ddod o hyd i’r
ymgeiswyr gorau.
Fel rheol, câi’r 4 ymgeisydd uchaf eu gwahodd i gyfweliad. Os oes
gennych nifer o swyddi gwag, dylech gynyddu nifer yr ymgeiswyr
y cyfwelir â nhw, gan nodi bod y sgorwyr uchaf gennych o hyd.
Felly ar gyfer dwy swydd wag gellid disgwyl 6-8 o ymgeiswyr, ar
gyfer tair swydd wag efallai y gellid disgwyl 8-12 etc.
Ceisiadau Ystyriaeth Flaenorol yn ystod y cyfnodau Mewnol
neu Allanol
Yn achlysurol caiff y Brifysgol geisiadau Ystyriaeth Flaenorol yn
ystod y cyfnodau mewnol neu allanol. Mae'r ceisiadau hyn yn dal i
gael eu ystyried ymlaen llaw dros ymgeiswyr mewnol ac allanol.
Dylai'r ymgeisydd ddatgan ar ei ffurflen gais os yw’n gymwys i gael
ei adleoli. Sylwch fod hyn yn cael ei dicio weithiau pan na ddylai,
felly gwiriwch hyn bob amser yn ôl y gyflogaeth bresennol neu
fwyaf diweddar. Os nad yw wedi bod yn gyflogai i Brifysgol
Aberystwyth yn ddiweddar, ni all fod yn gymwys o dan Ystyriaeth
Flaenorol.
Rhaid i'r Rheolwr Recriwtio osod y ceisiadau hyn ar y rhestr fer gan
farcio’r blwch ar y tabl llunio rhestr fer os ydynt yn gymwys o dan
Ystyriaeth Flaenorol. Dylai’r ymgeiswyr hyn gael eu hystyried yn
llawn cyn unrhyw geisiadau eraill.
Os oes unrhyw amheuaeth a yw rhywun yn gymwys o dan
Ystyriaeth Flaenorol, siaradwch â’r Tîm Gwasanaethau Gweithwyr,
ffôn 8555, ebost [email protected].
Cyflogwr Hyderus ag Anableddau
A hithau’n gyflogwr cyfle cyfartal, mae gan y Brifysgol achrediad
cyflogwr sy’n hyderus ag anableddau. Rydym yn gwarantu
cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sydd wedi datgan bod ganddynt
anabledd o dan yr achrediad hwn lle mae wedi bodloni'r meini prawf
hanfodol. Gall hyn fod yn ychwanegol at eich ymgeiswyr eraill, neu
gellir disodli’r sgoriwr isaf os ydych yn dymuno.
Ar y tudalen crynodeb ceisiadau yn E-Recriwtiwr, bydd unrhyw un
sydd wedi datgan cymhwystra o dan y cynllun Hyderus ag
Anableddau wedi’i farcio’n glir.
Adsefydlu Troseddwyr
Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn galluogi rhai euogfarnau
troseddol i gael eu hanwybyddu ar ôl y cyfnod adsefydlu. Ar ôl yr
Sgoriwch yr ymgeiswyr
Gwiriwch am
Ymgeiswyr Ystyriaeth
Flaenorol
Gwiriwch y ceisiadau
Hyderus ag
Anableddau, gan
wahodd pawb sy’n
bodloni’r meini prawf
hanfodol i gyfweliad
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 35
amser hwn, does dim angen i ymgeiswyr sydd ag euogfarnau
troseddol ddatgelu’r rhain.
Rydym yn gofyn i bob ymgeisydd a ydyn nhw wedi'u heuogfarnu o
drosedd yn y Deyrnas Unedig ac yn dal o fewn cyfnod adsefydlu.
Dylent ddatgelu unrhyw euogfarnau o'r fath ar eu ffurflen gais.
Nid yw record droseddol yn gwahardd rhywun rhag gweithio i'r
Brifysgol. Y Rheolwr Recriwtio sy’n gyfrifol am ystyried natur y
swydd wag o’i chymharu ag amgylchiadau a chefndir y drosedd. Ni
ddylai euogfarnau ddylanwadu ar eich rhestr fer, ond dylid eu
trafod os oes datgeliad wedi’i wneud adeg y cyfweliad. Os ceir
unrhyw ansicrwydd ynghylch a ddylai euogfarn ddylanwadu ar
benderfyniad recriwtio, trafodwch hyn gyda'ch Partner Busnes
adnoddau dynol cyn cynnig swydd.
Rhaid i bob datganiad ynglŷn ag euogfarnau gael ei gadw’n gwbl
gyfrinachol heb ei ddatgelu i unrhyw un nad yw'n ymwneud yn
uniongyrchol â’ch swydd wag benodol chi.
Pan fydd euogfarn droseddol yn dod i'r amlwg ar ôl y broses
recriwtio a dethol, cysylltwch â’ch Partner Busnes Adnoddau Dynol
i gael cyngor.
Ymgeiswyr o’r tu allan i’r AEE i’w hystyried
Sylwch: os oes ymgeiswyr am y swydd o’r tu allan i’r AEE, caiff y
tabl llunio rhestr fer ei ddilysu gan yr Adran Adnoddau Dynol i
sicrhau bod yr holl ymgeiswyr ar y rhestr fer yn bodloni'r meini
prawf gofynnol a bennir i gael cyfweliad. Mae hyn yn ofynnol fel
rhan o’r gwiriadau cydymffurfiaeth sy’n cael eu gwneud gan yr
Adran Adnoddau Dynol i ateb y gofynion llym ynglŷn â Nawdd UKVI.
Rhowch ddigon o amser ar gyfer y gwiriad ychwanegol hwn wrth
ichi drefnu dyddiad cyfweliadau ac wrth ddychwelyd eich tabl llunio
rhestr fer i'r Adran Adnoddau Dynol. Ni chaniateir gwahodd
ymgeiswyr i gyfweliad hyd nes bod y gwiriad hwn wedi’i wneud.
Cadarnhau’r ymgeiswyr sydd i gael cyfweliad
Ar sail eich sgoriau, Ystyriaeth Flaenorol a Hyderus ag Anableddau,
gwnewch restr glir o’r ymgeiswyr sydd i gael cyfweliad ar y tudalen
olaf.
Cyflwyno’ch rhestr fer
Ar ôl gorffen eich rhestr fer, anfonwch hi at [email protected] gan
atodi’r tabl.
Rhaid ichi ganiatáu digon o amser i’r Adran Adnoddau Dynol roi
saith niwrnod o rybudd o’r cyfweliad i’r ymgeiswyr. Felly, mae’n
rhaid ichi gwblhau a dychwelyd y rhestr fer i'r Tîm Gwasanaethau
Cadarnhewch yr
ymgeiswyr ar y rhestr
fer
Cyflwynwch eich rhestr
fer i'r Adran Adnoddau
Dynol, gan gynnwys
unrhyw wybodaeth
ynglŷn â'r cyfweliad
sy'n angenrheidiol
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 36
Gweithwyr am o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a
hysbysebwyd ar gyfer y cyfweliadau.
Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cysylltu â’r ymgeiswyr
aflwyddiannus ac yn gwahodd yr ymgeiswyr llwyddiannus i
gyfweliad.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 37
Cyfweliadau Gan eich bod wedi lunio rhestr fer o ymgeiswyr bellach, rhaid i’r
Rheolwr Recriwtio drefnu’r cyfweliad.
Trefniadau’r cyfweliad
Rhaid anfon trefniadau cyfweliadau ar gyfer swyddi gwag i’r Adran
Adnoddau Dynol gyda dogfennau’r rhestr fer.
Rhaid cadarnhau dyddiad a phanel y cyfweliad cyn i swydd gael ei
hysbysebu’n allanol. Rhaid cyflwyno manylion eraill gyda'r rhestr
fer.
Y Rheolwr Recriwtio sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan y Tîm
Gwasanaethau Gweithwyr yr holl wybodaeth angenrheidiol i drefnu
cyfweliadau. Rhaid ichi ddarparu’r canlynol:
Dyddiad y cyfweliad;
Amserau’r cyfweliadau;
Pa mor hir fydd y cyfweliad;
Lleoliad y cyfweliad;
I ble ac at bwy y dylai’r ymgeiswyr fynd;
Cadarnhad pwy fydd aelodau’r panel – rhaid i bob aelod
gwblhau’r hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywioldeb;
Manylion unrhyw dasgau asesu/cyflwyniadau;
o Pwnc y cyflwyniad/natur y dasg;
o Y dyddiad a’r amser os ydyn nhw’n cael eu cynnal ar
wahân i’r cyfweliad;
o Pa mor hir fyd dy cyflwyniad neu’r dasg;
o Pwy fydd y gynulleidfa;
o A fydd cyfleusterau PowerPoint ar gael;
o Meini prawf asesu’r dasg neu’r cyflwyniad.
Bydd preswylwyr y Deyrnas Unedig fel arfer yn cael eu gwahodd i
gyfweliad personol ac yn gallu hawlio costau yn unol â’r polisi.
Gwahoddir ymgeiswyr sy'n teithio o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel
arfer i gyfweliad drwy gyfrwng Skype. Os ydych yn dymuno
gwahodd yr ymgeiswyr hyn i gyfweliad personol, rhaid i'r Rheolwr
Recriwtio wneud cais i Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Adran Adnoddau
Dynol. Caniateir hyn fel arfer ar gyfer y penodiadau uchaf.
Dylai pob aelod o'r panel, dan arweiniad y Rheolwr Recriwtio,
ymgyfarwyddo â cheisiadau’r ymgeiswyr a’r Disgrifiad Swydd cyn
y cyfweliadau.
Cyfweliadau holi ac ateb sydd fwyaf cyffredin, ond rydym yn eich
annog hefyd i ddefnyddio dulliau dewis drwy ymarferion sy'n
seiliedig ar waith ochr yn ochr â hyn. Disgwylir yn gyffredinol i staff
addysgu roi cyflwyniad neu ddarlith fer ar eu pwnc neu eu harddull.
Gellir gofyn i swyddi gweinyddol gwblhau ymarfer basged-i-mewn
neu ymarfer gweinyddol. Gellid gofyn i staff technegol neu staff
arlwyo gwblhau tasg. Gall yr asesiadau hyn fod yn fwy
cynrychioliadol o berfformiad cyffredinol a galluoedd yr ymgeisydd.
Dylech gynnwys yr
wybodaeth safonol hon
ym mhob cyfweliad.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 38
Cynnwys y cyfweliad
Dylai pob cyfweliad agor â chyfarchion a chyflwyniad, gan gynnig
dŵr a throsolwg cryno o’r adran a’r swydd. Mae hyn yn atal dryswch
a hefyd yn galluogi'r ymgeisydd i ymlacio yn y cyfweliad. Esboniwch
y bydd y panel yn gwneud nodiadau yn ystod y cyfweliad.
Rhaid i bob swydd wag sy'n cynnwys Cymraeg Lefel B1 neu’n uwch
gynnwys cwestiwn neu dasg i asesu galluoedd Cymraeg yr
ymgeiswyr o’u cymharu â’r meini prawf hanfodol.
Dylai pob cyfweliad orffen â chyfle i’r ymgeiswyr ofyn cwestiynau.
Dylech ofyn i'r ymgeiswyr fynd at yr Adran Adnoddau Dynol â'u
Hawl i Weithio a’u Tystysgrifau os nad ydynt wedi gwneud eisoes.
Dylid rhoi gwybod pryd y gallant ddisgwyl clywed y canlyniad a’u
hebrwng i'r drws neu i le cyhoeddus gerllaw.
Arferion da mewn cyfweliad
Ceisiwch greu perthynas â'r ymgeiswyr i'w gwneud yn
gyfforddus;
Cadwch lygad ar yr amser. Os bydd yr ymgeisydd yn dechrau
crwydro, gallwch ofyn iddo orffen ei ateb a symud ymlaen.
Dylech osgoi cadw’r ymgeiswyr yn aros;
Osgowch ragdybiaethau ar sgiliau neu alluoedd yr ymgeisydd,
yn enwedig o’u profiad gwaith neu unrhyw anableddau a
ddatgelwyd;
Gofalwch fod ffonau symudol wedi’u diffodd. Mae ffonau sy’n
dirgrynu yr un mor wael am dynnu sylw ac yr un mor
amharchus;
Byddwch yn ymwybodol o’ch iaith corff. Ceisiwch fod yn
agored a chroesawgar. Osgowch groesi breichiau a chadwch
gyswllt llygaid pan nad ydych yn ysgrifennu nodiadau;
Peidiwch â gofyn cwestiynau personol nad ydynt yn ymwneud
â’r swydd, h.y. teulu, oed, ymrwymiadau eraill. Os bydd yr
ymgeisydd yn sôn am unrhyw un o'r meysydd hyn heb
gwestiwn, gallwch ofyn iddo roi'r gorau iddi;
Byddwch yn ymwybodol o duedd ymysg y cyfwelwyr:
o Effaith eurgylch – yr un acen, golwg, ysgol â chi;
o Effaith cyrn – seilio’ch barn ar acen, pwysau, pryd a
gwedd etc.;
o Effaith ‘Tebyg i mi’ – yr ymgeisydd yn union fel y
pennaeth;
o Barn wedi’i seilio ar wahaniaethau diwylliannol;
o Barn wedi’i seilio ar stereoteipiau rhywedd.
Canllawiau ar Gyfweliadau i Ymgeiswyr Ystyriaeth Flaenorol
Lle ceir un ymgeisydd Ystyriaeth Flaenorol yn unig, dylai’r cyfweliad
fod yn anffurfiol. Does dim angen y panel cyfweld llawn. Mae angen
y rheolwr recriwtio ac aelod o'r tîm adnoddau dynol.
Os bydd mwy nag un ymgeisydd, dylech ddilyn y broses gyfweld
ffurfiol, ond er mwyn canfod pwy yw’r ymgeisydd mwyaf galluog.
Dylai’r cwestiynau fod yn fyr a chael eu seilio’n gyfan gwbl ar y
meini prawf hanfodol, er mwyn sefydlu bod yr ymgeisydd yn gallu
gwneud y swydd gyda hyfforddiant rhesymol. Felly os ydynt yn
agos at gyrraedd y meini prawf hanfodol, byddent fel arfer yn addas
Dylech gynnwys yr
wybodaeth safonol hon
ym mhob cyfweliad.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 39
i’w penodi. Ni ddylech ofyn cwestiynau nad ydyn nhw wedi’u seilio
ar yr Hanfodion, megis "Pam rydych chi wedi gwneud cais am y
swydd hon". Mae hyn yn amhriodol yn achos ymgeiswyr Ystyriaeth
Flaenorol.
Os nad ydych yn teimlo bod yr ymgeisydd yn addas i’w benodi,
rhaid cael cymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol cyn ichi
roi gwybod i'r ymgeisydd am y canlyniad. Bydd angen ichi ddangos
pam nad yw’r ymgeisydd yn gallu gwneud y swydd gyda
hyfforddiant rhesymol. Pan fydd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
wedi cadarnhau, cewch gyfleu’r penderfyniad recriwtio.
Cwestiynau Cyfweliad Y Rheolwr Recriwtio sy’n gyfrifol am greu a llunio cwestiynau’r
cyfweliad, ar y cyd â’r panel cyfweld. Ni ddylid cael mwy nag wyth
cwestiwn, er bod chwech yn ddigon ar gyfer y mwyafrif o
gyfweliadau fel arfer. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar y meini prawf
Hanfodol neu Ddymunol (gan osgoi dyblygu gwybodaeth yr ydych
eisoes wedi'i chanfod o’r ffurflen gais), neu ganolbwyntio ar y
tasgau/cyfrifoldebau a ddisgwylir yn y swydd.
Mae cwestiynau fel "Soniwch am adeg pan..." neu "Pa brofiad sydd
gennych o wneud…" yn ymarferol iawn ac yn asesu eu sgiliau a’u
profiad gwirioneddol. Mae hyn yn fwy defnyddiol na gofyn "sut
byddwch chi’n gosod blaenoriaethau" gan fod yr atebion yn
ddamcaniaethol fel arfer a heb gael eu seilio ar brofiad neu sgiliau
go iawn.
Dylai’r cwestiynau fod yn agored i annog yr ymgeisydd i wneud y
rhan fwyaf o siarad.
Dylai'r cwestiynau fod yn glir, yn uniongyrchol ac yn fyr. Mae
cwestiynau hir neu amleiriog yn anodd iawn i ymgeisydd nerfus eu
deall. Mae cwestiynau amlran yn iawn, ond gadewch i'r ymgeisydd
ateb pob rhan cyn symud i'r nesaf, neu gall gael ei lethu.
Rhaid gofyn yr un cwestiynau i bob ymgeisydd. Os bydd yr
ymgeisydd yn methu gweld pwynt y cwestiwn neu os bydd ateb yn
arbennig o fyr, mae croeso i aelodau'r panel annog neu atgoffa'r
ymgeisydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr nerfus wneud eu
gorau, ond dylid cymryd gofal i beidio â rhoi’r ateb. Pan fo angen
llawer o anogaeth, dylai hyn gael ei adlewyrchu yn y nodiadau a'r
sgoriau.
Tasgau Asesu/Cyflwyniadau Yn ychwanegol at gyfweliad cwestiwn/ateb plaen, ceir budd mawr
o gael tasg neu gyflwyniad i’w asesu. O ran gwaith ymarferol, gellir
asesu gallu'r ymgeisydd i wneud y gwaith yn well. Fel arfer byddai'r
Paratowch
gwestiynau’r cyfweliad
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 40
rhain yn digwydd yn union cyn y cyfweliad fel nad oes unrhyw oedi
yn y trafod ar ôl cyfweliad
Ran amlaf, i’r panel cyfweld yn unig y câi’r cyflwyniad ei roi, byddai
dim cyfleusterau cyflwyno’n cael eu cynnig a châi’r daflen ei
chyfyngu i 1 daflen o bapur A4.
Disgwylid fel rheol i swyddi academaidd roi cyflwyniad, darlith fach
neu ddarn o ddarlith am ryw 15 munud a chwestiynau hefyd. Gellid
gofyn i’r darlithydd roi darlith fach ar ei waith ymchwil neu ar un o
feysydd addysgu craidd yr adran. Fel arall, gallent roi cyflwyniad ar
eu dulliau addysgu neu eu profiad. Gallai Ymchwilydd roi cyflwyniad
ar ei feysydd ymchwil.
O ran swyddi academaidd, gallwch ddewis gwahodd cynulleidfa o
gydweithwyr adrannol i’r ddarlith/cyflwyniad, i ofyn cwestiynau ac
i rannu eu safbwyntiau ar yr ymgeiswyr. Dylent gwblhau ffurflenni
adborth ar y cyflwyniad i’w cydgasglu a'u crynhoi gan y Rheolwr
Recriwtio neu ei enwebai, sy'n gorfod goruchwylio’r cyflwyniadau.
Dylai'r Rheolwr Recriwtio neu ei enwebai drefnu i adborth gael ei
roi i'r panel cyfweld. Dylid seilio’r adborth ar gynnwys ac ansawdd
y cyflwyniad, yr ymateb i gwestiynau etc a dylid rhoi sgôr.
O ran swyddi anacademaidd, oherwydd yr amrywiaeth swyddi nid
yw’n ymarferol cael tasgau asesu safonol, ac rydym yn annog
Rheolwyr Recriwtio i gynllunio’u tasgau eu hunain yn briodol ar
gyfer y swydd ar y cyd â'u Partner Busnes Adnoddau Dynol, er
enghraifft:
Gellir gofyn i swyddi gweinyddol wneud ymarfer basged-i-
mewn, tasg Excel neu ymateb i ymholiadau drwy ebost. Mae
hyn hefyd yn gyfle amserol i asesu eu gallu ysgrifenedig mewn
Cymraeg os yw hyn yn un o’r gofynion.
Gellir gofyn i swydd ariannol neu swydd data ddadansoddi
data Excel a chreu adroddiad.
Gellir gofyn i swyddi arlwyo greu bwydlen enghreifftiol â
chyllideb neu goginio omled.
Gellir gofyn i reolwyr roi cyflwyniad ar eu dull rheoli neu
gyflwyniad estynedig "pa newidiadau fyddech chi’n eu
gwneud".
Wrth baratoi tasgau asesu, rhaid ichi sicrhau bod iddyn nhw
ganlyniad dymunol neu gywir. Dylent fod yn ymarferol ac yn
fesuradwy fel y gellir cymharu’r ymgeiswyr yn wrthrychol.
Gwahoddiadau Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn anfon gwahoddiadau i gyfweliad
drwy’r e-bost at yr ymgeiswyr llwyddiannus o leiaf saith niwrnod
cyn dyddiad y cyfweliad. Bydd hyn yn cynnwys manylion unrhyw
gyflwyniad y disgwylir iddynt ei roi, neu grynodeb o'r tasgau asesu.
Dewis yr ymgeiswyr rydych yn eu ffafrio Gan ddefnyddio’r Taflenni Crynhoi Cyfweliad, rhaid i bob aelod o'r
panel wneud nodiadau ar atebion yr ymgeiswyr. Dylech hefyd
Paratowch unrhyw
asesiadau/cyflwyniada
u ar gyfer y cyfweliad
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 41
gynnwys casgliadau ynglŷn â’r tasgau asesu/cyflwyniadau. Rhaid
i’r nodiadau hyn gael eu hysgrifennu â phin, bod yn ddarllenadwy
ac yn ymarferol i’w sgorio. Fe’u defnyddir i roi adborth i'r
ymgeiswyr, a gall yr ymgeisydd ofyn am gael eu gweld. Gallwch
gynnwys nodyn fel "gwisgo siaced goch" i'ch atgoffa, ond rhaid
peidio â chynnwys dim byd fel "synnwyr ffasiwn ofnadwy" neu
"aroglau corff gwael". Mae sylwadau o’r fath yn amhriodol.
Dylai pob cwestiwn gael ei sgorio o 0-4:
0. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi ateb gwael neu anghywir
1. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi ateb cyfyngedig
2. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi ateb boddhaol
3. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi ateb da
4. Mae’r Ymgeisydd wedi rhoi ateb rhagorol
Gallwch ddewis sgorio’r tasgau asesu neu’r cyflwyniadau mewn
modd gwahanol os oes pwysoliad trymach iddyn nhw, megis darlith
yn achos swydd addysgu, ond mae’n rhaid i chi gadw sgôr
wrthrychol a mesuradwy.
Gallwch ddewis gadael eich sgorio tan y diwedd i’ch helpu i sgorio’n
gyson ar draws yr ymgeiswyr i gyd.
Dylai'r panel gael trafodaeth fer ar y sgoriau a'r ymgeiswyr. Mae
cyfweld yn anodd ac mae'n hawdd anghofio rhywbeth y mae'r
ymgeisydd wedi’i ddweud. Ar gyfer rolau arbenigol, efallai y bydd
angen i'r aelod cytras o’r panel gael canllawiau ar unrhyw
gwestiynau nad oes ganddyn nhw’r arbenigedd i’w deall yn llawn.
Mae croeso i aelodau’r panel ddiwygio’u sgoriau os bydd y
drafodaeth yn newid eu barn.
Dylai cyfanswm y sgoriau ar gyfer pob ymgeisydd gan bob aelod
o'r panel gael eu hadio. Ysgrifennwch y rhain ar Dabl Crynhoi’r
Cyfweliad ac adiwch gyfanswm y sgoriau i gyd. Yr ymgeisydd sy’n
sgorio uchaf a ddylai gael ei benodi.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 42
Canlyniad y Cyfweliad
Gwirio’r Hawl i Weithio Mae staff yr Adran Adnoddau Dynol a staff dethol eraill wedi'u
hyfforddi i wirio’r hawl i weithio, pan fo’n ofynnol i'r ymgeiswyr
ddarparu dogfennau i gadarnhau eu Hawl i Weithio yn y Deyrnas
Unedig. Yn fwyaf cyffredin, maent yn darparu pasbort, cerdyn
adnabod yr UE neu Drwydded Breswylio/Fisa. Gall dinasyddion y
Deyrnas Unedig hefyd roi tystysgrif geni lawn gyda phrawf o Rif
Yswiriant Gwladol.
Gofynnir i bob ymgeisydd ddod â’u dogfennau Hawl i Weithio i'r
Adran Adnoddau Dynol ar ddiwrnod y cyfweliad. Gofynnir i
ymgeiswyr Skype ddarparu copi o'u Hawl i Weithio drwy’r ebost
a rhaid gwirio hon yn bersonol cyn iddyn nhw ddechrau gweithio.
Un o ofynion y gyfraith yw bod gennyn ni ddogfennau Hawl
i Weithio cyfredol a dilys ar gyfer pob cyflogai cyn iddyn
nhw ddechrau gweithio. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol o
dan ein Trwydded Noddi Fisa ac o dan reoliadau’r Deyrnas
Unedig ar Fisâu a Mewnfudo.
Ymgeiswyr o’r tu allan i’r AEE Os nad yw'r ymgeisydd llwyddiannus o'r Ardal Economaidd
Ewropeaidd (AEE) neu'r Swistir, peidiwch â gwneud unrhyw
gynigion nes eich bod wedi trafod gyda'r Tîm Gwasanaethau
Gweithwyr. Mae yna ofynion cydymffurfio ychwanegol ar gyfer yr
ymgeiswyr hyn y mae'n rhaid eu bodloni cyn gwneud cynnig.
Os bydd Athrofa/Adran yn dymuno penodi ymgeisydd nad yw’n
ddinesydd i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac y byddai angen i'r
Brifysgol roi tystysgrif nawdd iddo, mae angen inni ddangos pam
cafodd yr unigolyn ei benodi o flaen gweithiwr sefydledig. Os oes
nifer o ymgeiswyr sydd â’r sgiliau a'r profiad angenrheidiol, yna
mae’n rhaid penodi gweithiwr sefydledig o flaen yr ymgeisydd o’r
tu allan ni’r AEE hyd yn oed os oes gan y mudwr fwy o sgiliau neu
brofiad. Mae yna eithriadau i hyn ar gyfer y swyddi a ganlyn ar
lefel PhD lle gall mudwr gael ei benodi os dyna’r ymgeisydd
mwyaf addas. Dyma’r swyddi perthnasol: Gwyddonwyr Cemegol,
Gwyddonwyr Biolegol a Biocemegwyr, Gwyddonwyr Ffisegol,
Gwyddonwyr Cymdeithas a’r Dyniaethau, Gweithwyr Proffesiynol
yn y Gwyddorau Naturiol a Chymdeithasol sydd heb eu dosbarthu
mewn man arall, Rheolwyr Ymchwilio a Datblygu, a Gweithwyr
Proffesiynol Uwch sy’n Addysgu Addysg.
I gyd-fynd â phob categori o swydd PhD ceir trothwy cyflog isaf,
sy’n gysylltiedig â’r "Cod SOC". Rhaid i’r cyflog a gynigir gyrraedd
y trothwyon gofynnol hyn neu fel arall ni allwn roi Tystysgrif
Nawdd ar gyfer Fisa.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 43
Ers mis Awst 2017, y trothwyon cyflog arferol yw £28,000 i
wyddonydd profiadol, neu £32,300 i weithiwr proffesiynol sy’n
addysgu mewn addysg uwch. Sylwch fod hyn yn cael ei adolygu’n
gyson ac yn cael ei godi’n rheolaidd.
Rhaid i'r Rheolwr Recriwtio, ar y cyd â’r Adran Adnoddau Dynol,
lenwi a llofnodi'r ffurflen Haen 2 yn amlinellu'r rhesymau dros
beidio â phenodi'r ymgeiswyr o’r AEE.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 44
Cynnig Dylai’r Rheolwr Recriwtio gysylltu â’r ymgeisydd llwyddiannus i roi
gwybod am y canlyniad (oni bai ei fod yn dod o’r tu allan i’r AEE fel
uchod). Ar ôl gwneud hyn, bydd angen ichi drafod a chadarnhau’r
canlynol:
Cyflog4
Oriau/dyddiau gwaith (Amserlen Waith)
Amodau’r cynnig (geirdaon, Gwiriad y Gwasanaeth datgelu a
Gwahardd, gwirio’r Hawl i Weithio)
o Pan fo angen gwiriad DBS, rhaid i’r ymgeisydd beidio â
dechrau gweithio nes bod tystysgrif foddhaol gan y
DBS wedi dod i law (oni cheir caniatâd gan yr Adran
Adnoddau Dynol)
o Ni chaiff neb ddechrau gweithio nes bod yr Adran
Adnoddau Dynol wedi gwirio eu Hawl i Weithio yn y
Deyrnas Unedig. Mae hyn yn un o’r amodau hanfodol
yn ein Trwydded Noddwr a gall y canlyniadau fod yn
sylweddol os na chedwir ato.
Dyddiad dechrau arfaethedig
Cyfnod prawf (dwy flynedd o ran staff academaidd, 12 mis yn
achos staff gwasanaethau proffesiynol)
Gall unrhyw drafodaethau ffurfio cytundeb llafar sy’n gyfreithiol
rwymol, felly gofalwch eich bod yn ymdrin â’r amodau cyflogaeth
ac nad ydych yn cynnig dim a allai fod yn amhosibl inni ei gyflawni,
megis pecynnau adleoli nad ydynt o fewn y weithdrefn.
Gallai’r ymgeisydd ofyn am amser i ystyried y cynnig cyn
cadarnhau a yw’n derbyn y swydd. Mae hyn yn iawn, ond dylech
ofyn i’r ymgeisydd gadarnhau o fewn amserlen resymol.
Gwrthod Pan fo’r ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn y swydd dros dro,
rhaid i'r Rheolwr Recriwtio neu ei enwebai gysylltu â’r ymgeiswyr
aflwyddiannus i'w hysbysu am y canlyniad. Gall y Rheolwr Recriwtio
ddirprwyo hyn i aelod arall o'r panel cyfweld os yw’n dewis.
Mae cael eich gwrthod yn brofiad annymunol iawn a dylech fynegi
hyn â sensitifrwydd a doethineb. Bydd yr ymgeiswyr yn disgwyl
eich galwad, felly peidiwch ag ymestyn pethau yn fwy nag sydd
angen. Dylech gynnig cyfle iddyn nhw gael adborth, naill ai nawr
neu yn nes ymlaen.
Mae adborth adeiladol yn ddymunol iawn a dylai fod mor ymarferol
â phosibl. Ceisiwch osgoi eu cymharu ag ymgeiswyr eraill, a
dywedwch rywbeth o sylwedd y gallant wella neu weithio arno.
Ceisiwch gynnwys adborth rhwng uchafbwyntiau a chryfderau eu
cyfweliad. Pan fo'n briodol, anogwch nhw i wneud cais am swyddi
gwag eraill yn y dyfodol.
4 Byddwch yn ymwybodol o’r trothwyon cyflog isaf i ymgeiswyr o’r tu
allan i’r AEE: gweler yr adran ar ymgeiswyr o’r tu allan i’r AEE.
Gwnewch gynnig ar
lafar i’r ymgeisydd
llwyddiannus neu’r
Penodiad Achlysurol.
Rhaid i’r Rheolwr
Recriwtio neu ei
enwebai gysylltu â’r
ymgeiswyr
llwyddiannus i roi
gwybod am y canlyniad
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 45
Cyflog Ewch ati i gadarnhau'r pwynt ar y golofn gyflog y bydd yr
ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi arno. Fel arfer, câi ei
benodi ar bwynt isaf y radd briodol. Mewn rhai amgylchiadau, câi
ymgeisydd llwyddiannus ei benodi’n uwch ar y raddfa, megis pan
fo’n dod â sgiliau neu gryfderau penodol, neu o'i gymharu â’i gyflog
presennol. Mae gan y Rheolwr Recriwtio ddisgresiwn i benodi
unrhyw le o fewn y radd a hysbysebwyd, ond efallai y gofynnir iddo
gyfiawnhau ei resymau.
Fel rheol, penodir darlithwyr i Radd 7, Pwynt 33 ar y Golofn Gyflog.
Byddent yn symud fel arfer i Radd 8 ar ôl cwblhau cyfnod prawf a
PGCTHE neu Gymrodoriaeth yr HEA. Cewch benodi darlithydd i
bwynt uwch ar y Golofn Gyflog os gallwch ddangos bod ei
arbenigedd a’i sgiliau’n ddigonol. Cewch benodi darlithydd i Radd 8
os yw’n dangos arbenigedd a sgiliau ac wedi ennill PGCTHE neu
Gymrodoriaeth yr HEA.
Weithiau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gofyn am gael ei
benodi’n uwch ar y raddfa gyflog. Mae hyn yn dibynnu ar
ddisgresiwn y Rheolwr Recriwtio, ond bydd angen i’r Rheolwr
Recriwtio ystyried a oes modd cyfiawnhau hyn. Os nad yw'n teimlo
bod modd cyfiawnhau hyn, dylid ailadrodd y cynnig. Mater i’r
ymgeisydd wedyn yw naill ai derbyn y cynnig neu ei wrthod. Os
bydd yn gwrthod, dylid cofnodi hyn (fel llwybr ebost yn ddelfrydol),
ac wedyn dylid gwneud cynnig i'r ymgeisydd sydd â’r sgôr uchaf
nesaf yn amodol ar wiriadau cyn cyflogi.
Dogfennau’r cyfweliad Rhaid ichi gyflwyno holl ddogfennau’r cyfweliad drwy’r ebost i
[email protected]. Rhaid i’r dogfennau hyn i gyd gael eu cwblhau’n
llawn a’u hysgrifennu’n ddarllenadwy â phin.
Copi o gwestiynau’r cyfweliad;
Taflenni asesu’r cyfweliad (un i bob aelod o’r panel i bob
ymgeisydd);
Tabl Crynhoi’r Cyfweliad, gan gadarnhau’r ymgeisydd sydd i’w
benodi;
Taflen Crynhoi’r Cyfweliad.
Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cadarnhau'r cynnig cyflogaeth
pan fydd y rhain wedi dod i law.
Sylwch y bydd gan yr ymgeiswyr hawl i weld y gwaith papur
recriwtio ac y gall gael ei archwilio gan UKVI a chyllidwyr allanol.
Cyflwynwch
ddogfennau'r cyfweliad
i'r Adran Adnoddau
Dynol
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 46
Penodi
I benodi i swydd wag a hysbysebwyd, llenwch ffurflen benodi.
Rhaid i'r Rheolwr Recriwtio gwblhau’r ffurflen benodi’n llawn.
Anfonwch y ffurflen at [email protected] ynghyd ag unrhyw waith
papur recriwtio.
Rhaid ichi gynnwys y canlynol:
Enw’r Unigolyn sydd i’w benodi:
Rhowch enw llawn yr ymgeisydd llwyddiannus.
Ebost:
Rhowch gyfeiriad ebost yr ymgeisydd (gorfodol yn achos
penodiadau achlysurol)
Dyddiad Dechrau
Rhowch y dyddiad arfaethedig y bydd yr ymgeisydd yn dechrau
gweithio (yn dibynnu ar wiriadau cyn cyflogi). Rhaid rhoi dyddiad
penodol – nid ydym yn derbyn “cyn gynted â phosibl”.
Dyddiad Gorffen (os yw’n gymwys)
Yn achos penodiad cyfnod penodol, dewiswch y dyddiad y daw i
ben. Sylwch:
Dylai cyfnodau penodol o wythnosau cyfan orffen ar y dydd
Sul, hyd yn oed os dydd Gwener fyddai eu diwrnod olaf
Dylai cyfnodau penodol o fisoedd cyfan orffen fel hyn: 1
Mawrth – 31 Mawrth, 15 Ebrill – 14 Mai. (byddai 15 Ebrill – 15
Mai yn fis a diwrnod)
Gradd a Phwynt ar y Golofn Gyflog
Pan fo penodiadau wedi'u gwneud ar raddfa HERA, cadarnhewch y
pwynt ar y golofn gyflog y maent i gael eu penodi arno, neu fel
arall, rhowch y cyflog.
A fydd yr unigolyn yn gweithio Shifftiau?
Dewiswch ‘bydd’ neu ‘na fydd’. Mae gwaith shifft yn ennill cyflog
uwch yn unol â’r Cytundeb Fframwaith.
Diffinnir shifftiau fel gweithio naill ai:
Patrwm shifftiau cytûn sy’n cynnwys o leiaf 11 allan o 24 awr
(h.y. yn gweithio o leiaf 11 awr o’r bron)
Yn achos graddau 1 neu 2 yn unig, shifftiau hollt yw lle bo’r
staff yn bresennol ar fwy nag un shifft ar ddiwrnod, gyda
bwlch o ddwy awr neu ragor rhwng y shifftiau.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 47
Amserlen Waith a Chyfanswm Oriau
Llenwch y tabl â’r amserlen waith y bydd y sawl a benodir yn
gweithio (heb gynnwys egwyliau).
Rhaid ichi gynnwys y dyddiau a'r amserau gwaith a chyfanswm yr
oriau. Os bydd yr ymgeiswyr yn gweithio ar batrwm shifftiau,
gofalwch gynnwys y patrwm shifftiau llawn gan gadarnhau dyddiad
dechrau’r patrwm.
Mae'n bwysig iawn bod amserlenni gwaith yn gywir. Mae'r rhain yn
cael effaith sylweddol ar falansau gwyliau blynyddol a’r gallu i
gofnodi gwyliau ac absenoldebau eraill. Dylid cadarnhau’r amserlen
waith gyda'r ymgeisydd adeg y cynnig llafar.
Ni all yr Adran Adnoddau Dynol roi penodiad ar waith heb amserlen
waith sydd wedi’i chwblhau.
Penodi’r Ymgeisydd
Pan fydd y ffurflen benodi wedi dod i law, ynghyd ag unrhyw waith
papur recriwtio perthnasol, bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn
cwblhau'r gwiriadau cyn cyflogi ar gyfer yr unigolyn/unigolion dan
sylw. Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cadarnhau bod y gwiriad
Hawl i Weithio wedi’i wneud, yn cyflwyno geirdaon ac yn gwblhau
gwiriad DBS lle bo'n briodol.
Anfonir y geirdaon at y Rheolwr Recriwtio gan yr Adran Adnoddau
Dynol ar ôl iddyn nhw ddod i law.
Pan fydd y gwiriadau cyn cyflogi wedi'u cwblhau, bydd yr
ymgeisydd yn cael neges ebost yn gofyn iddo lenwi ffurflen i
gwblhau ei wybodaeth cyflogai, gan gynnwys manylion cysylltu’r
berthynas agosaf a manylion cysylltu mewn achos brys,
gwybodaeth iechyd a manylion banc a threth.
Pan fydd y rhain wedi'u cwblhau, bydd yr Adran Adnoddau Dynol
yn penodi’r ymgeisydd, gan eu creu yn ABW ac anfon eu contract.
V1.9 diweddarwyd Tachwedd 2018 Tudalen 48
Ymsefydlu a Dechrau Cyfrifoldeb y Rheolwr Recriwtio neu reolwr llinell y swydd yw gneud
trefniadau ar gyfer diwrnod cyntaf yr ymgeisydd yn y gwaith.
Dylent drefnu:
Dyddiad ac amser dechrau
I ble y dylai fynd
Yr offer gwaith a ddylai gael ei ddarparu:
o Desg/ffôn/cyfrifiadur
o Locer/droriau
o Offer/peiriannau
Proses ymsefydlu adrannol, taith etc.
Ar gyfer staff newydd a gafodd Dystysgrif Nawdd, rhaid gwneud
gwiriad Hawl i Weithio CYN iddyn nhw ddechrau gweithio. Rhaid
peidio a gwneud hyn ar eu diwrnod cyntaf.
Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cysylltu â’r aelod staff sy’n cael
ei noddi a’i reolwr llinell i ddod i gyfarfod am 9:00 ar y diwrnod
gwaith cyntaf i drafod eu cyfrifoldebau a rhwymedigaethau’r
Brifysgol o dan ganllawiau UKVI. Bydd angen i’r ddau barti lofnodi
llythyr i gadarnhau eu bod wedi darllen ac wedi deall eu
cyfrifoldebau.
Mae’r Adran Adnoddau Dynol yn rhedeg sesiwn ymsefydlu bob yn
ail ddydd Llun (neu drannoeth lle mae hyn yn syrthio ar ŵyl banc).
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddod i’r hyfforddiant ymsefydlu
hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol a'i
pholisïau a’i gweithdrefnau a PoblAberPeople, yn ogystal â chyfle i’r
cyflogai ofyn unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'i gyflogaeth.
Mae’r Adran Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd hefyd yn bresennol
i roi sesiwn ymsefydlu fer.
I staff parhaol, ceir digwyddiad i groesawu cyd-aelodau newydd
sy'n cael ei gynnal bob chwe mis. Mae hyn hefyd yn orfodol. Mae
hwn yn ddigwyddiad un-awr dan arweiniad aelod o'r Pwyllgor
Gweithredol fel digwyddiad croesawu i bob aelod staff yn ogystal â
chyfle i’r staff gwrdd â chydweithwyr newydd ar draws y Brifysgol.
Mae’r undebau llafur yn aml yn bresennol hefyd.
Rhaid i'r holl staff hefyd gwblhau Adroddiad Ymsefydlu ar Iechyd,
Diogelwch a'r Amgylchedd, sydd ar gael ar dudalennau gwe Iechyd,
Diogelwch a'r Amgylchedd. Yn achos staff byrdymor neu staff
achlysurol, dylid ei gwblhau o fewn eu dau ddiwrnod gwaith cyntaf,
neu’r bythefnos gyntaf yn achos staff parhaol.
Rhaid i bob aelod o staff hefyd gwblhau'r cwrs E-ddysgu mewn
Amrywioldeb, y ceir y manylion amdano yn sesiwn ymsefydlu’r
Adran Adnoddau Dynol.
Mater i’r adran recriwtio yw sefydlu’ch newydd-ddyfodiaid. Ceir
nifer o dempledi ar wefan y Brifysgol, ond dylai’r rhain gael eu
teilwra at y swydd ac anghenion yr adran. Dylid dangos iddyn nhw
sut mae defnyddio offer allweddol, eu tywys o amgylch yr adran,
eu cyflwyno i gydweithwyr a’u harwain ynglŷn â gweithdrefnau
brys.