View
235
Download
6
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Croeso i Fangor! Hoffem ni, eich swyddogion sabothol hyfryd, ddweud wrthych am yr holl bethau cyffrous a rhyfeddol yr ydym yn ei wneud yn Undeb Myfyrwyr Bangor...
Citation preview
EichLLAWLYFR MYFYRWYR
2014-2015
FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION
TWITTER.COM/BANGORSTUDENTSWWW.MYFYRWYRBANGOR.COM
CYNNWYSCROESO GWERTHOEDD AC
EFFAITH
EICH SABS WYTHNOS GROESO AC ARWYR
EIN CYMUNED
UNDEB ATHLETAU
CYMDEITHASAU RHESTR UNDEB ATHLETAU
RHESTR CYMDEITHASAU
GWIRFODDOLI
UMCBUNDEB MYFYRWYR CYMRAEG BANGOR
ADDYSG
LLES FIND USCONTACT USMAP
02
04
09
07
11
14
17
03
06
10
08
12
16
18
CYNRYCHIOLAETH
Awdurdodir a rheoleiddir Gwasanaethau Yswiriant Endsleigh Cyfyngedig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gellir gwirio hyn ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol drwy fynd i’r wefan www.fca.gov.uk/register Gwasanaethau Yswiriant Endsleigh Cyfyngedig. Rhif cwmni: 856706 cofrestrwyd yn Lloegr yn Shurdington Road, Cheltenham Spa, Swydd Gaerloyw
Yswiriant teclynnau i fyfyrwyr gan Endsleigh
Fel myfyrwr bydd eich gliniadur a ffôn yn dod yn rhan hanfodol o fywyd prifysgol.Gwnewch yn sicr bod eich teclynnau wedi yswirio ar gyfer:• Eich sgrîn yn cracio• Lladrad• Colled• Difrod hylifol• Difrod damweiniolFel rhan o’r yswiriant cewch liniadur neu ffôn arall o fewn 24 awr*, a gwarchodaeth unrhyw le yn y DU ac i fynny at 30 diwrnod led led y byd.
*24 awr yn cynrichioli 1 diwrnod gwaith ar ôl cymeradwyo eich cais
I gael ddyfynbris, ymwelwch a: endsleigh.co.uk/university
A5 port_EISIH_GenericWELSH ad2050714.indd 1 04/07/2014 12:10:05
DATGANIAD BLYNYDDOL
DARGANFYDDWCH NICYSYLLTWCH A NI MAP19 20
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COMFACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTS
DARGANFYDDWCH NI AR ...
GWERTHOEDD
“GYDA’N GILYDD, BYDDWN YN GWEITHIO I GYFOETHOGI A GWELLA EICH PROFIAD FEL MYFYRIWR”CENHADAETH:
i Fangor aCROESO
A CHROESO I’CH UNDEB MYFYRWYR!
BETH YW SAB?
Mae yna 5 Sabb (Swyddog Sabothol), ac rydyn ni’n fyfyrwyr sydd wedi cymryd blwyddyn o’n cwrs i redeg eich Undeb Myfyrwyr. Cawsom ein hethol gennych chi ac rydym yn gweithio ar eich rhan chi - felly os oes gennych unrhyw fater i’w godi a allai olygu gwella eich profiad fel myfyriwr, gadewch i ni wybod er mwyn i ni ddechrau gweithio arno!
LYDIA RICHARDSON, RHYS TAYLOR, GUTO GWILYM, MARK STANLEY, NICOLA PYE
HOFFEM NI, EICH SWYDDOGION SABOTHOL HYFRYD, DDWEUD WRTHYCH AM YR HOLL BETHAU CYFFROUS A RHYFEDDOL YR YDYM YN EI WNEUD YN UNDEB MYFYRWYR BANGOR.
Rhwng tudalennau’r llyfryn yma, darganfyddwch yr hyn y gallwn ni ei wneud i chi - Serendipedd, cymdeithasau, clybiau athletau, gwirfoddoli, gwaith cymunedol, Caru Bangor ac, efallai’n bwysicaf oll, sicrhau bod y brifysgol yn gosod anghenion myfyrwyr yn gyntaf!
Yr hyn yr ydym am i chi ei gofio yw hyn -YMUNWCH GYDA’N GWEITHGAREDDAU, AC ARWEINIWCH EICH UNDEB.
O.N. - Mae ein holl glybiau a chymdeithasau yn gwbl rad ac am ddim i ymaelodi â nhw, felly nid oes esgus o gwbl dros beidio â chymryd rhan!
GWERTHOEDD AC EFFAITH
MYFYRWYR CYDANRHYDEDD
EFFAITHRYDYM WEDI BOD YN GWEITHIO’N GALED DROS Y FLWYDDYN DDIWETHAF, AR EICH RHAN CHI, I WNEUD EICH CYFNOD YM MANGOR Y GORAU POSIB. NID OES LLE I NI GYNNWYS HOLL GYRAEDDIADAU’R FLWYDDYN DDIWETHAF YMA, OND RYDYM WEDI DEWIS RHAI UCHAFBWYNTIAU...
DEMOCRATIAETHSicrhau mai eich llais chi sy’n gyrru popeth a wnawn.
CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETHSicrhau bod gennych fynediad cyfartal i gyfleoedd a rhyddid rhag gwahaniaethu.
ATEBOLRWYDDSicrhau eich bod yn teimlo cyswllt â’n gwaith.
DWYIEITHRWYDDSicrhau ymdriniaeth gyfartal i’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg.
Sicrhau parhad ein gweithgareddau ac ymrwymo i leihau’r effaith a gaiff ein sefydliad ar yr amgylchedd.
LLYFRGELL 24/7
CLYBIAU A CHYMDEITHASAU AM DDIM
GWOBRAU DI-RI; • UM Y FLWYDDYN
YNG NGHYMRU• GWOBRAU CYNALIADWYEDD• CYNRYCHIOLYDD CWRS
Y FLWYDDYN CYMRU• AELOD STAFF Y
FLWYDDYN CYMRU
£1MILIWN I DDATBLYGU MYNEDIAD I’R ANABL DROS Y 3 BLYNEDD NESAF!
YMGYRCH TAI
DYBLU GWIRFODDOLI
YMRWYMIAD I YMLADD STIGMA IECHYD MEDDWL A GWAHANIAETHU
DATGANIAD MYFYRWYR BLYNYDDOL - EICH LLAIS CHI AR ADDYSG
CRYFHAU HAWLIAU MYFYRWYR ÔL-RADD SY’N DYSGU
CYNALIADWYEDD
GRANTIAU £1,000 I RIENI, GOFALWYR A MYFYRWYR ALLAN O OFAL AR SAIL PRAWF MODD
0302
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
ARWEINWYREich
Y flwyddyn hon byddaf yn• Symud I mewn i’r Undeb newydd ym Mhontio gyda’r tim.• Datblygu’r prosiect ‘Caru Bangor’ gyda Chyumned Bangor.• Hybu amrywiaeth yn ein cymdeithasau myfyrwyr.
Yn fy amser hamdden...dwi’n mwynhau creu ffilmiau, chwarae gemau, radio myfyrwyr, blogio, newyddion a gwleidyddiaeth!
Y flwyddyn hon byddaf yn• Creu ymgyrch Etholiad Cyffredinol ynghylch cael myfyrwyr yn
pleidleisio – gwnewn ni llais myfyrwyr yn rhy uchel i’w anwybyddu!• Creu Partneriaeth Cymunedol i wella profiadau myfyrwyr sy’n byw yn
y gymuned.• Gweithio gyda myfyrwyr ol-radd I wella Cymuned Ol-raddedigion.• Darparu hyfforddiant iechyd meddwl a rhywioldeb I staff.• Gweithio gyda chi myfyrwyr I wella a siapio eich profiad academaidd.
Yn fy amser hamdden...dwi’n mwynhau darllen, gwleidyddiaeth, nofio a beicio, dwi’n ysgrifennu ambell I flog, ac dwi’n mwynhau bod yng nghwmni eraill!
• Gweithio gyda’r Brifysgol I gyflwyno aelodaeth I’r Canolfan Chwaraeon am ddim I fyfyrwyr.
• Sicrhau eich bod chi’n parhau I gael prynhawnau Mercher yn rhydd fel eich bod chi’n medru cymryd rhan mewn gweithgareddau.
• Creu gwyl chwaraeon ynghyd a Varsity trwy weithio gyda’n cymdeithasau.
• Gweithio gyda’r Tim Sabothol a’r Undeb I sicrhau eich bod chi yn barod ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015.
Yn fy amser hamdden...dwi’n hoffi beicio, gwylio chwareon byw, chwarae golf gwallgof, cwrdd gyda ffrindiau a gwylio’r machlud haul neu chodiad yr haul yn Yr Wyddfa
Enw: Nicola Pye
Ffon: 01248 38 8003 Ebost: [email protected]
Swydd: IL Chwaraeon a Byw’n Iach
Undeb Athletau Bangor - Bangor Athletic Union @Bangor_AU
• Gweithio gyda myfyrwyr, staff, a’r gymuned leol I wella diogelwch ac ymwybyddiaeth.
• Gweithio gyda myfyrwyr I wella ffurflenni gwerthuso modiwlau a sut caiff yr adborth ei ddefnyddio.
• Gweithio gyda’r Wobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) i gyflwyno GCB I ol- raddedigion yn 2014/15.
• Datblygu ymgyrch Optio Allan o Roi Organnau sy’n canolbwyntio ar effaith potensial ar fyfyrwyr yng Nghymru.
• Gwneud y mwyaf o gynllun Mynd Allan A Siarad I sicrhau bod eich hymgyrchoedd addysg a lles yn cael eu harwain gennych chi.
Yn fy amser hamdden...dwi’n mwynhau darllen, treluio amser gyda ffrindiau a chwrdd a phobl newydd, yn ogystal a phrofi ryseitiau newydd a choginio!
Enw: Lydia Richardson
05
Ffon: 01248 38 8019 Ebost: [email protected]
Swydd: IL Addysg a LlesVPed.We
Y flwyddyn hon byddaf yn• Siapio’r cynllun Chwaraeon
Campws.
Y flwyddyn hon byddaf yn• Parhau I ddatblygu
ymgyrchoedd megis llety a iechyd meddwl.
Y flwyddyn hon byddaf yn • Hybu cymdeithasau a chlybiau UMCB drwy gynnyddu niferoedd a
hyfforddiant.• Adnabod y problemau yr ydych chi fel myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn
eu gwynebu a’u datrus gyda’ch help chi.• Edrych ymlaen at brif ddigwyddiadau calendr UMCB e.e. Rhyngol,
trip rygbi a’r Gloddest.• Gweithio gyda’n cymdeithasau i sicrhau bod rhywbeth yno at ddant
pawb trwy gydol y flwyddyn.
Yn fy amser hamdden...Rydw i yn hoff o goginio amryw o bethau a dwi’n hoff iawn o fy nghoffi. Rydw i’n hoff iawn o ddrama a ffilm hefyd ac yn edrych ymlaen at yr arlwy a fydd ar gael yn Pontio.
Enw: Guto Gwilym
Ffon: 01248 38 8006 Ebost: [email protected]
Swydd: UMCB President
Enw: Rhys Taylor
Ffon: 01248 38 8001 Ebost: [email protected]
Swydd: Llywydd
Enw: Mark Stanley
Ffon: 01248 38 8004 Ebost: [email protected]
Swydd: Is-Lywydd Cymdeithasau a’r GymunedVPSocs.Comm
LlywyddUMCB
Bangor.VPSport
04
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
SERENDIPITY [SER-UHN-DIP-I-TEE]Mae Serendipedd yn golygu “damwain hapus” neu “ddigwyddiad dymunol annisgwyl”; yn benodol y ddamwain o ddod o hyd i rywbeth da neu ddefnyddiol heb chwilio amdano
Serendipedd yw Ffair y Glas UM. Mae’n ddigwyddiad arbennig i edrych ymlaen ato! Am 2 ddiwrnod yn ystod Wythnos y Glas bydd dros 100 o Gymdeithasau, dros 50 o Glybiau Chwaraeon a mwy nag 20 o wahanol Brojectau Gwirfoddoli, heb sôn am rai o’r busnesau lleol amlycaf, i gyd yn ymgynnull ac yn awyddus i gynnig trugareddau a thocynnau am ddim i chi ynghyd â’r cyfle i gynrychioli Bangor drwy ymaelodi â Chlwb neu Gymdeithas! Gallwch hefyd gael eich cerdyn Caru Bangor ynoARW
YR
Mae Arwyr Undeb y Myfyrwyr ar gael i’ch helpu i ymgartrefu yn ystod Wythnos y Glas. Mae gennym lu o fyfyrwyr hyfryd yn gwirfoddoli a fydd wrth law drwy’r wythnos i wneud yn siw�r eich bod yn cael yr amser gorau posib.
YN CYRRAEDD AR Y TRÊN? Byddwn yn cyfarfod â chi yn yr orsaf! Byddwn yn cynnal gwasanaeth bws wennol am ddim dros y penwythnos croeso o’r orsaf i’r holl wahanol neuaddau preswyl, felly ni fydd raid i chi gario eich bagiau i fyny bryniau serth Bangor.
SYMUD MEWNPan fyddwch yn cyrraedd eich neuadd breswyl, bydd ein Harwyr yno yn eich disgwyl i’ch helpu i gario eich eiddo i mewn. P’un ai eich bod wrth y brif fynedfa neu ar y llawr uchaf, bydd ein Harwyr yn rhoi help llaw i chi gludo popeth i’ch ystafell.
Byddwn allan rhwng 10am a 5pm yn ystod y penwythnos croeso a pheidiwch â bod ofn ein holi ni am Fangor.
Paid a cholli dy
WYTHNOS GROESO
06
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
Rydym yma ar gyfer pob un myfyriwr. Ni waeth pwy ydych chi, beth ydych chi’n ei wneud, o le ydych chi’n dod, pa iaith ydych chi’n ei siarad, rydym yma i’ch cefnogi chi, i’ch croesawu chi, ac i sicrhau eich bod yn mwynhau pob munud o’ch amser ym Mhrifysgol Bangor.
07
GWOBRAU LANDLORDIAID
WARDENIAID CYMMUNEDOL MYFYRWYR
UNDEB TENANTIAID
Dyma ambell o bethau yr hoffwn ei wneud:
CYMUNED CYNWYSEDIG
Rydym yn ceisio cynnal perthynas dda gyda’r gymuned leol, ac rydym wrth ein bodd yn cydweithio a chyfranogi, fel y gallwch farnu o rai o’r projectau gwirfoddoli rydym yn eu cydlynu.
Ond yn ogystal â hynny, rydym yn mwynhau cymryd rhan mewn myrdd o weithgareddau difyr yn amrywio o’r Diwrnod Canoloesol ym Miwmares at ymuno â Gwledd Conwy, helpu gyda Carnifal a Dathliadau Nadoligaidd Grwp Cymunedol Pobl Bangor.
Rydym yn gwneud mwy nag erioed o’r blaen - rydym yn lansio Hwb Cymunedol! Bydd yr Hwb yn darparu gwybodaeth, cyfleoedd gwirfoddoli a chael effaith uniongyrchol ar eich ardal lleol, a gweithio gyda ni a’ch cymuned leol i oresgyn unrhyw broblemau.
CYMUNED BANGOR
“Unity Bangor yw cymdeithas lesbiad, hoyw, deurywiol,
traws, cwestiynu ac eraill (LHDTC+). Rydym yma i gynrychioli, hysbysu a diddanu holl myfyrwyr LHDTC+ Bangor a’u ffrindiau.
Am fwy o wyboadaeth, hoffwch ein tudalen Facebook (fb.com/unitybangor) neu e-bostiwch [email protected].”
• Gynnal ymchwil ar brofiadau myfyrwyr LHDTC+ ar addysg i wella’r profiadau.
• Datblygu Fforwm Myfyrwyr Anabl.
• Weithio gyda’r brifysgol i sicrhau y defnydd o ffurflenni fonitro i ni fedru adnabod anghenion myfyrwyr.
Y LLYNEDD, GWNAETHOM; • creu ymgyrch Etholiad Cyffredinol sy’n amgylchynu
cael myfyrwyr i beledleisio - gwnewn llais myfyrwyr yn rhy uchel i’w anwybyddu.
• cre partneriaeth cymunedol i wella’r profiadau o fyw yn y gymdeithas.
• gweithio gyda myfyrwyr ôl-radd i wella y gymuned ôl-radd.
• sicrhau hyfforddiant iechyd meddwl a sensitifedd rhywioldeb i staff.
• gweithio gyda myfyrwyr tramor i wella cynrychiolaeth a’u profiad.
ELENI, BYDDWN YN;
BUDDIES TAI
HWB CYMUNEDOL AR-LEIN
Mae Nawdd Nos yn wasanaeth cyfrinachol o wrando a rhoi gwybodaeth a gynhelir gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr! Yn ystod amser tymor gallwch roi galwad i ni bob nos rhwng 8pm ac 8am. Rydym ar gael i chi drwy’r nos i roi rhifau ffôn i chi, ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych,
rhoi manylion amserlenni arholiadau, rhifau ffôn bwyd parod neu wrando ar faterion mwy cymhleth yr ydych am eu trafod. Mae gwirfoddolwyr Nawdd Nos wedi’u hyfforddi’n dda ac yma i wrando ac mae’r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol a dienw.
Ebost: [email protected] | Ffon: 01248 383880
Ein
EichUNDEB ATHLETAU
Mae’r clybiau’n cynnal eu sesiynau ymarfer mewn amryw o wahanol gyfleusterau gan gynnwys Canolfan Brailsford, Safle Normal, caeau a thrac Treborth. Os ydych yn poeni ynghylch ymaelodi, ewch i Serendipedd i gwrdd â chlybiau’r UA a gallwch roi cynnig ar gymaint o chwaraeon gwahanol ag y dymunwch, AM DDIM, yn yr wythnos sesiynau blasu (25 - 29 Medi), neu ewch i’n gwefan neu mae croeso i chi gysylltu.
BLE?
Mae chwaraeon ym Mangor yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ardal brydferth Gogledd Cymru. Mae eich Undeb Athletau (yr UA) yn cynnig amrywiaeth eang o chwaraeon cystadleuol a hamdden ynghyd â rhaglen gystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae gan yr UA
oddeutu 3000 o aelodau, ac mae’n rhad ac AM DDIM i ymaelodi â phob clwb. Felly p’un ai eich bod eisiau cymryd rhan yn chwarae i ennill neu am yr hwyl yn unig, mae yna glwb ar eich cyfer chi! Medrwch chi ddarganfod y 56 clwb yn Serendipedd yn Mis Medi!
WYTHNOS BYW’N IACHMae yna fwy i chwaraeon na chystadlu ac mae hon yn wythnos o weithgareddau chwaraeon hwyliog i ddenu mwy byth o fyfyrwyr i gymryd rhan. Cadwch lygad am ambell i weithdai trwy gydol y flwyddyn
DIGWYDDIADAUY BENCAMPWRIAETH RYNG-GOLEGOL (EBRILL 18FED 2015)Dyma fydd digwyddiad chwaraeon mwyaf Bangor yng nghalendr y flwyddyn, cystadleuaeth mewn llu o gampau gwahanol yn erbyn Prifysgol Aberystwyth. Nid oes un o’r ddwy brifysgol wedi colli gartref ac mae’n 3-4 ar hyn o bryd i Aberystwyth. Felly beth am sicrhau bod y gwpan yn dod yn ôl i Fangor gyda buddugoliaethau ar draws ein campws!
SÊR YR UAGornest i ganfod y tîm mwyaf ffit yn yr UA, drwy gyfrwng amrywiaeth o brofion mewn gwahanol gampau.
NOSWEITHIAU’R UABob nos Fercher, daw aelodau’r UA ynghyd yn ein clwb nos myfyrwyr, Academi. Bydd holl glybiau’r UA yn dathlu eu llwyddiant ar y meysydd chwarae ac yn codi arian, gan fod eich arian ar y drws yn mynd yn syth yn ei ôl i’ch clwb UA chi. Dewch draw o 10pm i fwynhau noson yr UA, noson heb ei hail!
eich
STR
YD
Y D
EON
G O G L E D D2 0 0 M
Y F E N A I
Y F E N A I
FFO
RDD
CAE
RGYB
I
FFORDD DEINIOL
STRYD FAWR
FFORDD CAERNARFON
FFORDD FFRIDDOEDD
FFORDD SILIWEN
FFORDD Y COLEG
STRYD D
EINIO
L
HEOL FIC
TOR
IA
ALLT GLANRAFON PENRALLT I
SAF
LON
CA
RIA
DO
N
TREBORTH
SAFLE NORMAL
CANOLFAN BRAILSFORD
CYFLEUSTERAU HYFFORDDIANT
0908
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
Mae gennym dros 100 o wahanol gymdeithasau ac mae’r nifer yn tyfu bob wythnos o gymdeithasau academaidd fel y Gymdeithas Seicoleg neu’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth sydd yn gysylltiedig gyda’ch adran; cymdeithasau’r cyfryngau megis Seren, Y Llef a Storm FM sydd yn creu papurau newydd a rhaglenni radio; cymdeithasau cerddorol sydd yn trefnu bandiau a cherddorfeydd; cymdeithsau perfformio megis BEDS (Bangor English Drama Society), Rostra a SODA; cymdeithsau ymgyrchoedd megis CoppaFeel, Time to Change a Nawdd Nos! Os oes gennych syniad am gymdeithas yna dewch o hyd i 10 o bobl sydd â’r un diddordeb ac sydd am gymryd rhan a danfonwch e-bost i mi [email protected] i ddechrau’r broses!
CYMDEITHASAUHelo na! ! Gan eich bod chi’n dod i Fangor byddwch angen rhywbeth i’w wneud yn eich amser hamdden! Dylech gael cip olwg ar ein rhestr o gymdeithasau!
Mae cymdeithasau’n ffordd ragorol i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau neu gael profiad o weithgaredd newydd; mae amryw ohonynt yn cefnogi eich astudiaethau academaidd, ac yn cynnig sgiliau a chymwysterau i chi a fydd o fudd i chi ymhell ar ôl i chi orffen eich cyfnod yma.
A’r atyniad mawr yw bod ymaelodi â phob un ohonynt yn rhad ac AM DDIM! Rydym yn un o ddim ond dau o undebau myfyrwyr yn y DU ble mae hynny’n wir ac ame’n galluogi i’r holl fyfyrwyr a’r gymuned i ymuno gydag amryw o weithgareddau a phosib gan ddileu unrhyw rwystrau o’ch blaenau!
HOGSoc Storm FM
MuSoc
Cymdeithas DJ
1110
Eleni mae gennym ni rhaglen chwaraeon NEWYDD yn dechrau. Hoffech chi fod yn rhan mewn gemau 5 / 9 bob ochr o bêl-droed neu bêl-rwyd gyda’ch ffrindiau, ffrindiau o’ch cwrs neu fflat? Mae yna gystadleuaeth ar gael i chi heb unrhyw gost, ac fel pob un o’n clybiau – RHAD AC AM DDIM! Sicrhewch eich bod yn dod i weld ein stondin yn Serendipedd i glywed mwy.
CHWARAEON CAMPWS
PÊL-DROED 9 BOB OCHR
Dydd Sul | 3 – 5pm3G Dinas Bangor
PÊL-DROED DAN-DO 5 BOB OCHR
Dydd Mawrth | 7:30 – 10pmNeuadd Newydd Canolfan Brailsford
PÊL-RWYD Dydd Mawrth | 8 – 10pmDôm Canolfan Brailsford
CLYBIAU A-Y
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
A• Cymdeithas Afro-Caribïaidd• Cymdeithas Ail-greu Canoloesol• Cymdeithas Airsoft• Cymdeithas Anglicanaidd• Cymdeithas Archimedes
(Myfyrwyr Wrexham)• Cymdeithas Asasin Prifysgol Bangor
B• Band Cyngerdd Prifysgol Bangor• Band Jazz Prifysgol Bangor• Band Press Prifysgol Bangor• BEDS – Cymdeithas Ddrama
Saesneg Bangor• Cymdeithas Beer Pong
C• Cymdeithas Ceidwadwyr Bangor• Clwb Chess• BFSA – Cymdeithas Coedwigaeth Bangor• CoppaFeel! - Ymwybyddiaeth Cancr y Fron• Crefyddau’r Ddaear• Criw Llwyfan• Cymdeithas Cwmpasu
Minecraft Bangor (MOBS)• Cymdeithas Cwrw Go-iawn• Cyfraith y Stryd• Cynghrair Gemau Cyfrifiadurol
Prifysgol Bangor
D• Cymdeithas Dadlau Cyfreithiol• BUDS - Cymdeithas Dadlau
Prifysgol Bangor• Cymdeithas DJ• Cymdeithas Y Democratiaid
Rhyddfrydol Prifysgol Bangor• BEES - Cymdeithas y Ddaear
a’r Amgylchedd Bangor• Cymdeithas Ddaearyddol
E• Cymdeithas Endeavour – Gwyddorau’r Môr• Cymdeithas Entomoleg
F• MethSoc – Cymdeithas Fethodistiaid• Cymdeithas Fusnes Bangor• Ffederasiwn Rhyngwladol Myfyrwyr• Cymdeithas Ffeministaidd Prifysgol Bangor• Cymdeithas Fferm Prifysgol Bangor• Cymdeithas Ffotograffiaeth• BWRPS – Cymdeithas Ffug-Ryfela
a Chwarae RhanBangor
CYMDEITHASAU A-YG• CathSoc – Cymdeithas Gatholig• Cymdeithas Gelf• MuSoc - Cymdeithas
Gerddoriaeth Prifysgol Bangor• Cymdeithas Gilbert a Sullivan• Cymdeithas Gogledd Lloegr• Cymdeithas Gomedi• Undeb Gristnogol• Grwp Bangor y Groes
Goch Prydeinig• Cymdeithas Gwerthfawrogi
Llenyddiaeth a Iaith Bangor (BALLS)
• BAWLS - Cymdeithas Gwerthfawrogi a Gwylio Animeiddio Bangor
• BRAMAS – Cymdeithas Gwerthfawrogi Roc a Metal Bangor
• Cymdeithas Y Gyfraith
H• Hackerspace• Cymdeithas Hanesyddol
ac Archeolegol• Cymdeithas Herbotoleg• HOGSoc – Cymdeithas Gardd
Organig Garddwriaetho
I• LangSoc – Cymdeithas
Ieithoedd Modern• BLS – Cymdeithas
Ieithyddwyr Bangor• Cymdeithas Indiaidd• BSIS – Cymdeithas Myfyrwyr
Islamaidd Bangor
J• Cymdeithas Japaneaidd
K• Cymdeithas Korean
L• Lowland Cent• Cymdeithas Llafur Prifysgol Bangor• Y Llef – Papur Newydd Cymraeg• Llinynnau Prifysgol Bangor• Llyfrau a Phlu Bangor• Cymdeithas Llywelyn –
Cymdeithas Dysgwyr Cymraeg
M• Model Cenhedloedd Unedig• Cymdeithas Myfyrwyr ôl-radd
N• Nawdd Nos
P• Cymdeithas
a Chymuned Pacistanaidd Prifysgol Bangor
• Cymdeithas Plaid Cymru Prifysgol Bangor
• Cymdeithas Pocer• PS?CH – Cymdeithas
Seicoleg Bangor• Cymdeithas Pysgota
Môr
R• Rostra - Cymdeithas
Ddrama
S• Cymdeithas Safle’r
Normal• Cymdeithas SciFi• Cymdeithas SCSM• Seren – Papur
Newydd Saesneg• BUGS – Sgowts a
Guides Prifysgol Bangor
• SODA – Cymdeithas Drama Operatig Myfyrwyr
• STAG – Grwp Gweithredu Myfyrwyr Treborth
• Storm FM – Gorsaf Radio Myfyrwyr
• Student Cut Films• Cymdeithas Swoleg
U• Unity Bangor
(LHDTC+)
W• Cymdeithas
Wyddoniaeth, Esblygiad ac Anffyddiaeth
Y• Cymdeithas yr
Ymddiredolaeth Genedlaethol
A• Athletau
B• Badminton• Beicio Mynydd• Bocsio• Bonllefwyr
C• Canwio• Cerdded Mynyddoedd
(UMWC)• Chwaraeon Eira• Cleddyfa• Clwb Snwcer a Pool• Criced
D• Dawns• Deifio Uchel
F• Ffitrwydd Polyn• Frisbi Eithafol
G• Golf• Gymnasteg
H• Hoci (Dynion)• Hoci (Menywod)• Hwylfyrddio• Hwylio
Q• Quidditch
R• Rhwyfo• Rygbi’r Gynghrair
S• Saethyddiaeth• Sboncen• Sglefrio• Syrffio
T• Tenis• Tenis Bwrdd• Trampolin• Treiathalon
U• Undeb Rygbi (Dynion)• Undeb Rygbi
(Menywod)
W• Wakeboard
J• Jitsu• Judo
K• Ki Aikido
L• Lacrosse
M• Marchogaeth• Mynydda
N• Nofio
O• O Dan y Dwr• Octopush
P• Paintball• Pêl-Dored Gaelaidd (Dynion)• Pêl-Droed (Dynion)• Pêl-Droed (Menywod)• Pêl-Droed Americanaidd• Pêl-Droed Gaelaidd (Menywod)• Pêl-Fasged (Dynion)• Pêl-Fasged (Menywod)• Pêl-Foli• Pêl-llaw• Pêl-rwyd• Polo-Canw
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) yn adran o fewn Undeb y Myfyrwyr sy’n cynnig dros 600 o gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd ac achlysurol i fyfyrwyr mewn dros 30 o brojectau yn y gymuned. Mae gwirfoddolwyr GMB ar hyn o bryd yn cyfrannu cyfanswm o 400 o oriau bob wythnos sy’n hyrwyddo perthynas agos rhwng y brifysgol a’r gymuned leol.
Mae gan GMB weledigaeth y dylai fod yn brofiad cyffredin i fyfyrwyr wirfoddoli yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac y dylai Undeb y Myfyrwyr wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi, hyrwyddo a datblygu gwirfoddoli myfyrwyr. Dyna pam mai prif nod GMB yw cynorthwyo myfyrwyr i arwain eu projectau eu hunain o yn y gymuned a rhoi’r gefnogaeth a’r hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli iddynt allu gwneud hynny. Os yr hoffech chi wybod mwy am wirfoddoli ar un o’r projectau a ddisgrifir yn y llyfryn hwn, ymunwch â’n rhestr ohebu arwww.myfyrwyrbangor.com/svb i nodi eich diddordeb. Byddwch yn derbyn e-byst rheolaidd i’ch hysbysu pan fo lleoedd gwirfoddoli newydd ar gael. Gallwch anfon e-bost atom ar [email protected] ymweld â ni yn swyddfa GMB ar lawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Facebook.
Dros 600 o gyfleoedd a mwy na 30 prosiect cymunedol!
Mynd am Dro (x2)Teithiau prynhawn Sadwrn i henoed
Cyswllt â’r HenoedGrwpiau te prynhawn i henoed dros 70 mlwydd oed.
SblodjClwb ar ôl ysgol i blant 5-7 mlwydd oed
SblatHwyl ar ôl yr ysgol i blant 7-11 mlwydd oed
Hergest (x2)Gweithgareddau i gleifion yn y ward iechyd meddwl lleol
SbectrwmGweithgareddau i blant ag Awtistiaeth a Syndrom Asperger
Y Rhoi MawrCasglu ac ailgylchu eitemau diangen o’r neuaddau preswyl ar ddiwedd y flwyddyn
Te Partis Lluniaeth ac adloniant i dros 100 o henoed lleol
Glanhau TraethauHelpu i lanhau a diogelu’r arfordir lleol
Gwynedd Werdd Gwaith cadwraeth yng Ngwynedd ac Ynys Môn
Bws Ieuenctid y Groes GochGwaith maes gydag ieuenctid mewn ardaloedd gwledig lleol
Ty Newydd Gweithgareddau i gyn droseddwyr mewn hostel fechnïaeth leol
Tîm HyrwyddoCodi arian a chodi ymwybyddiaeth o waith GMB
Chwaraeon y Ddraig Sesiynau chwaraeon i blant ysgolion cynradd lleol
5x60Sesiynau chwaraeon i blant ysgolion uwchradd lleol
Chwaraeon yn y Gymuned Gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol fentrau sy’n gysylltiedig â chwaraeon, gan weithio’n bennaf â phlant a phobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol a chlybiau chwaraeon unwaith yr wythnos.
Trac a MaesGwirfoddolwyr yn mynychu sesiynau clwb athletau Trac a Maes y Fenai ar nos Fercher i hyfforddi a chefnogi aelodau iau’r clwb.
Canolfan Cyswllt â PhlantMae gwirfoddolwyr yn rhedeg Canolfan Cyswllt â Phlant Bangor ac yn arolygu ymweliadau gan blant ac aelodau teulu sy’n byw ar wahân iddynt.
Cwrdd i Glywed Gwirfoddolwyr yn cynnal cyfarfodydd misol i grwp o bobl dros 50 mlwydd oed sy’n drwm eu clyw.
Caffi HafanGwirfoddolwyr yn cefnogi pobl leol dros 50 mlwydd oed i gael mynediad i’r rhyngrwyd a dysgu mwy am dechnoleg gwybodaeth.
AGROGwirfoddolwyr yn cynnal gweithgareddau unwaith y mis ar gyfer pobl sydd mewn adferiad o gamddefnyddio alcohol a sylweddau.
Clwb LlinosBydd gwirfoddolwyr yn cymryd grwp o bobl ifanc gyda Syndrom Down ar nosweithiau allan bob yn ail nos Iau.
Ty LlywelynMae gwirfoddolwyr yn ymweld yn wythnosol â Thy Llywelyn, uned ddiogel i rai a effeithir gan broblemau iechyd meddwl, i gynnal gweithgareddau gyda’r cleifion.
Dadansoddi Fideo ChwaraeonGwirfoddolwyr yn cynnig gwasanaeth dadansoddi perfformiad grwpiau chwaraeon lleol gan ddefnyddio’r dechnoleg dadansoddi chwaraeon diweddaraf.
Pwyllgor HyrwyddoBydd gwirfoddolwyr yn cwrdd unwaith yr wythnos i ddatblygu syniadau am ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am y mudiad a hyrwyddo gwirfoddoli.
EIN PROSIECTAU
RAGMae RAG yn hen draddodiad Prifysgol o godi arian at elusen ac wedi bodoli ers degawdau. Drwy gymryd rhan yn RAG cewch y cyfle i fwynhau a phrofi amrywiaeth eang o weithgareddau codi arian i elusennau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O bencampwriaethau pwl at droeon wedi’u noddi, mae yna rywbeth yma at ddant pawb. P’un ai y byddwch yn ymuno â phob gweithgaredd neu’n cymryd rhan mewn dim ond un mae’n brofiad bendigedig ac yn gyfle i wneud ffrindiau newydd.
Cymerwch rhan mewn
GWIRFODDOLI MYFYRWYR
WYTHNOS BRESWYL SBECTRWM
1514
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/GMB_SVBDARGANFYDDWCH NI AR ...
Shwmae! Mae UMCB, sef Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yn undeb sydd yma i’ch edrych ar ol chi yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ym Mangor. Mae gennym amryw o weithgareddau ar draws y flwyddyn i wenud yn siwr eich bod chi yn gwneud y gorau o’ch amser chi yma.
BETH YW UMCB?
eichUMCB
Edrychaf ymlaen i’ch gweld chi yn fy swyddfa, yn un o’n digwyddiadau neu yn cymryd rhan yn un o’n cymdeithasau.
Dros y flwyddyn nesaf rydw i am wneud yn siwr nad ydych chi o dan anfantais wrth astudio yn Gymraeg drwy edrych ar y broses o gyfieithu gwaith a iaith eich arholiadau. Os oes gennych unrhyw broblem gyda’ch cwrs neu eich bywyd fel myfyriwr ym Mangor, cofiwch ddod draw unwaith eto i fy ngweld i ac mi wnai fy ngorau i’ch helpu neu eich cyfeirio at y pobl perthnasol.
Mae gennym cymdeithasau gwahanol i ddod yn rhan ohonynt fel y gwelwch drosodd ac mae wastad croeso am unrhyw syniadau am gymdeithas neu glwb neu ddigwyddiadau newydd. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw i ddod i fy ngweld i naill ai yn yr Undeb Myfyrwyr neu yn fy swyddfa yn JMJ neu cysylltwch a mi ar [email protected].
Mae hi yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous o’n blaenau gydag amserlen lawn o ddigwyddiadau. O’r ddawns a’r Eisteddfod Rhyngol i’r Wythnos Gymraeg i’r trip rygbi blynyddol. Bydd tafarn y Glôb yn llawn bwrlwm trwy’r flwyddyn gyda cwisiau a nosweithiau meiciau agored.
Aelwyd JMJCyfle i berfformio gyda’r côr ac eraill mewn cyngherddau a chystadlaethau ac eisteddfodau.
C.P.D UMCBAr ôl eu llwyddiant ysgubol y llynedd yn ennill y gwpan, mae ein clwb pel-droed yn mynd o nerth i nerth.
Cymdeithas LlywelynOs ydych yn ddysgwr neu am helpu dysgwyr gyda’r Gymraeg, dyma’r lle i chi gymdeithasu yn Gymraeg heb feirniadaeth.
Cymdeithas y Ddrama GymraegOs oes gennych ddant at unrhyw agwedd o ddrama boed yn perfformio, cyfarwyddo, technegwyr, gwisg neu sgriptio, mae cyfle i chi ddangos eich doniau.
Y CymricDyma’r gangen sydd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau cymdeithasol i chi fedru chwarae’n galed yn ogystal a gweithio’n galed.
Y DdraenenCylchgrawn ysgafn yn sôn am y digri a’r ffol o UMCB.
GwirfoddoliBydd digon o gyfleoedd i chi wneud wahaniaeth yn eich cymuned ym Mangor drwy ymuno gyda’r gweithgareddau gwirfoddol ar y cyd rhwng UMCB a’i gymdeithasau.
Y LlefDyma’r papur newydd Cymraeg sydd yn cael ei hysgrifennu gan fyfyrwyr Cymraeg Bangor. Mae’n cynnwys y newyddion diweddaraf am yr Undeb, y Brifysgol ar byd o’n hamgylch yn lleol ac ymhellach yn ogystal a tips ffasiwn, adolygiadau, chwaraeon a gemau a’r ‘Hadau’ sef cylchgrawn dysgwyr Bangor. Os ydych am gyfrannu i’r papur, rydym wastad yn chwilio am fwy.
Neuadd JMJDyma gymuned myfyrwyr JMJ gyda’r canolbwynt yn lolfa sydd wedi’i hadeiladu yn arbennig ar eich cyfer chi i gymdeithasu ac i ymlacio ynddi drwy’r flwyddyn.
A Mwy…Mae mwy ar eu ffordd ac os oes gennych chi syniad am gymdeithas newydd, dewch a’ch syniadau ac fe wnawn ni eu gwireddu.
Chlybiau a Cymdeithasau UMCB
UMCB - Trip Rygbi
1514
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/UNDEBMYFYRWYRCYMRAEG.BANGORTWITTER.COM/UMCBDARGANFYDDWCH NI AR ...
UMCB - Clwb Pel-droed UMCB - Cinio Ffarwel
1716
Yn yr Undeb rydym yn credu mai’r myfyrwyr ddylai fod wrth y llyw o ran eu profiad academaidd. Rydym yn gallu sicrhau rôl fwy arweiniol a chynhwysol i chi yn eich profiad academaidd drwy ein trefn Cynrychiolwyr Cwrs ragorol; mae’n adnodd amhrisiadwy yma yn yr Undeb ac yn gyfle y gallwch chi fanteisio arno o’ch semester cyntaf ymlaen. Rydym yn falch iawn o’n Huned Cynrychiolaeth Academaidd a’n System Cynrychiolwyr Cwrs. Dyma fwy o wybodaeth am yr Uned: E-BOST [email protected]
Bywyd MyfyrwyrMae lles hefyd yn cynnwys ymdopi â bywyd myfyrwyr ym Mangor (byddwn ni i gyd yn wynebu adegau anodd pan fyddwn oddi cartref yn y coleg) a sut y byddwch yn byw yn y gymuned, a dyna pam mae UM yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr i wneud yn siw�r y bydd eich amser ym Mangor mor wych ag y gall fod. Yn ogystal a’r Wythnos Byw’n Iach y mae Lydia a Nicola yn awyddus iawn i’w wneud yn fwy ac yn well, bydd y prosiect gwirfoddoli Cymwynas@Bangor ar gael i fyfyrwyr er mwyn sicrhau bod gennych chi y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gael y gorau allan o’ch amser ym Mangor. Mae pob agwedd ar les mewn dwylo da.
Mae staff yr Uned Cynrychiolaeth Academaidd yn helpu i siapio eich profiad academaidd drwy weinyddu’r drefn Cynrychiolwyr Cwrs, ble mae eich adborth chi yn cael eu hystyried a’i ddefnyddio’n gyson i wella eich profiad chi. Mae hyn i oresgyn unrhyw broblemau gyda’ch cwrs gan eich galluogi chi i adlewyrchu a rhoi sylw ar y materion hynny sydd yn bwysig i chi.yn eich helpu i ddatrys problemau gyda’ch cwrs, yn rhoi’r cyfle i chi roi ystyriaeth i’ch profiad a gwneud sylwadau arno, ac yn gweithio gyda chi ar newid unrhyw faterion sy’n creu pryder i chi. Bob blwyddyn bydd yr uned yn llunio datganiad blynyddol y myfyrwyr, yn canolbwyntio ar brofiadau myfyrwyr Bangor, gyda’r nod cyffredinol o wella eich profiad chi!Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn cael eu hethol yn ystod wythnosau cyntaf semestr 1, ac fe all unrhyw fyfyriwr redeg am y safleoedd. Caiff y system ei redeg gan y cynrychiolwyr ar y cyd gyda’r ysgolion, colegau a phawb yma yn yr Undeb Myfyrwyri sicrhau bod eich barn chi yn ganolog ymhob penderfyniad sy’n effeithio ar eich addysg.
Os hoffech fod ar flaen y gâd gyda’r dewisiadau sydd yn effeithio ar eich addysg chi a’ch ffrindiau, e-bostiwch [email protected] i ddarganfod sut medrwch chi drio am Gynrychiolydd Cwrs yn wythnosau cyntaf semestr 1.
Yma yn yr Undeb, rydym mwy na hapus i helpu, boed yn gweithio gyda chi i ymuno gyda’n prosiectau er enghraifft y Cynrychiolwyr Cwrs, neu eich helpu chi gydag apêl academaidd neu broblem. Peidiwch oedi cyn cysylltu gyda ni!
Helo bawb! Fi yw Lydia, eich Is-Lywydd Addysg a Lles yn Undeb Myfyrwyr Bangor.
Hannah RettieCynrychiolydd Cwrs y flwyddyn UCM Cymr
Mae ein Huned Cynrychiolaeth Academaidd yn ffocysu ar brofiad academaidd myfyrwyr, a dyma’r lle i chi fynd os fydd gennych unrhyw broblemau yn ymwneud â’ch gwaith academaidd neu eich bod angen cyflwyno apêl academaidd. Mae’r Uned hefyd yn gartref i’r project Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr - project sy’n rhoi’r cyfle i chi gael dweud eich dweud am eich profiadau addysgu a dysgu, drwy roi’r cyfle i chi enwebu aelodau staff yn eich adran am un o’r gwobrau. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth amdano yn ystod Semester 1!
eichADDYSG EICH LLES
Yn olaf - peidiwch byth â bod ofn rhoi galwad, anfon e-bost neu alw i mewn i Undeb unrhyw bryd am gyngor, cefnogaeth, neu jest am sgwrs - rydym yn griw siaradus a chroesawgar!
Dim Goddefgarwch PolisiMae gennym hefyd Bolisi Dim Goddefgarwch ym Mhrifysgol Bangor, sy’n golygu bod staff yn derbyn hyfforddiant Dim Goddefgarwch – felly pan fyddwch chi allan am y noson, neu’n byw eich bywyd o ddydd i ddydd, gallwch deimlo’n ddiogel gan wybod fod yna bobl drwy Fangor sy’n cadw llygad dros eich diogelwch chi (a chan ei bod yn ddinas fechan, mae’n gymharol hawdd gwneud hynny!) Bydd y polisi hwn yn cael ei gyflwyno drwy’r Brifysgol gyfan ymhen amser.
Mae eich lles yr un mor bwysig â phopeth arall y byddwch yn ei wneud ym Mangor. O Dafydd yn Nawdd Nos, i’n cymdeithas LHDTC+, a fi fel eich Swyddog Sabothol Addysg a Lles, rydym i gyd yn ymroddedig i sicrhau bod eich lles ar ben ein rhestr o flaenoriaethau.Er mwyn i chi fwynhau eich profiad fel myfyriwr i’r llawn rhaid i chi fod yn hapus ac yn iach a gwybod y gallwch droi at rywun am gefnogaeth pan fyddwch ei angen - a dyna’n diben ni, bob dydd yn ddiwahân.
Ymgyrchoedd TaiMae ein ymgyrch tai hefyd yn dechrau gan roi gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu ar pryd yw’r amser gorau i ddechrau chwilio am dy a beth i’w edrych amdano ac yn cynnwys cynllun bydi i sicrhau bod eich ty chi o safon uchel. Cadwch lygad am ein hysbysebion!
YmgyrchoeddMae yna amryw o ymgyrchoedd y medrwch fod yn rhan ohonynt o ymgyrchoedd sydd yn rhedeg yn barod fel yr ymgyrch iechyd meddwl sydd â chymdeithas Amser i Newid ymroddedig, i ymgyrchoedd newydd sydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch myfyrwyr gan ddefnyddio bysiau cerdded a chynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y cartref ac allan.
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
RYDYM YN EDRYCH AR GYFLOGADWYEDD HYD YN OED A LLEIHAU Y RHWYSTRAU SY’N EICH ARBED RHAG CAEL MYNEDIAD AT ADDYSG.
1918 your
Yr unig beth sydd angen ei wneud yw i fynd i myfyrwyrbangor.com a mynd i’r adran syniadau. Gall unrhyw un gynnig syniad! Caiff eich Syniad ei drafod eich syniad yn y cyfarfod senedd nesaf. Os yw eich syniad yn cael ei gymeradwyo, mi fydd yn dod yn bolisi i’r Undeb. Golyga hyn bod arweinwyr eich Undeb yn mynd i weithio gyda chi i weithredu ar y syniad yna.
OS OES GENNYCH CHI SYNIAD WYCH I WELLA BANGOR, MAE’N DDIGON HAWDD I GREU NEWID!
SYNIADAU
SENEDDMae senedd yn gorff gynrychiadol o’r boblogaeth myfyrwyr. Mae’n cwrdd yn gyson i sicrhau bod y swyddogion sabothol yn gwneud eu gwaith yn effeithiol, i ddadlau ar syniadau a chreu prosiectau a gwaith newydd. Disgwylir i Seneddwyr i fynd o gwmpas myfyrwyr a chanfod eich meddyliau a’ch syniadau chi. Medrwch chi fod yn rhan o senedd drwy siarad gyda’n seneddwyr presennol neu drwy cynnig syniad i’w drafod.
CYFARFODYDD CYFFREDINOLMae gennym ddau gyfarfod cyffredinol y flwyddyn. Un ar ddechrau ac un ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r CC yno i rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau i’ch swyddogion, i ddarganfod y cynnydd y mae’r Undeb yn ei wneud ac i benodi’r cyllideb am y flwyddyn i ddod. Dyma hefyd yw’r cyfle i gynnig syniadau am brosiectau a syniadau newydd i’r Undeb.
ETHOLIADAUMae’r Undeb yn cael ei redeg gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr. Dyna beth sy’n sicrhau ein bod yn gyfoes, yn hwyl ac yn greiddiol i’ch profiad. Mae democratiaeth yn bwysig i ni yma, a chewch chi’r cyfle i ethol myfyrwyr i redeg eich clwb neu gymdeithas, i fod yn gynrychiolydd cwrs, i eistedd ar y cyngor myfyrwyr i drafod syniadau a phroblemau, ac i weithio fel eich tîm sabothol. Mae gennych chi y pwer i ddewis eich cynrychiolwyr chi. Neu os oes gennych y syniadau a’r egni, mi fedrwch sefyll yn un o’r etholiadau eich hun.
BWRDD YR YMDDIRIEDOLWYRMae’r UM yn elusen sy’n edrych ar ôl eich buddiannau chi..Yn ogystal a’r swyddogion sabothol, mae gennym 3 myfyriwr gwirfoddol etholedig. Medrwch darganfod mwy ar ein gwefan.
eichCYNRYCHIOLAETH
Undeb Myfyrwyr Bangor yw EICH Undeb Myfyrwyr CHI. Rydym ni yma i’ch helpu chi i adeiladu eich Undeb, i greu y newid yr ydych am ei weld ac i fod y newid yr ydych am eu gwneud.
ein DATGANIAD BLYNYDDOLY DATGANIAD BLYNYDDOL MYFYRWYR YW’R GWAITH YR YDYM MWYAF BALCH OHONO.Gallwch ddarllen ein datganiadau ar ein gwefan, ond yn syml, adroddiad ydyw yn seiliedig ar yr hyn y ddwedsoch chi wrthym am eich profiad academaidd. O lyfrau or silffoedd, i labordai cyfrifiadurol, i adborth ar eich gwaith i ddewisiadau modiwlau.
• Toriadau i Lwfans Myfyrwyr Anabl.
• Gwerthiant y Llyfrau Benthyciadau Myfyrwyr
• Nweidiadau i Wasanaethau yr Adran Waith a Phensiwn yng Ngogledd Cymru
Rydym yn gweithio gyda’r brifysgol i weithredu ar yr argymhellion ar sut y medrwch chi weithio mewn partneriaeth gyda’r brifysgol i ffurfio’r ffordd y cewch eich dysgu, sut ydych yn gwneud cynnydd a sut mae eich profiad yn edrych.
Eich addysg chi yw hi, a chi yw’r arbenigwyr ar hynny, felly ni’r myfyrwyr ddylai fod yn dylanwadu ar benderfyniadau.
eich CYNRYCHIOLI CHI YNGENEDLAETHOL AC YN RHANBARTHOLDyma ambell i beth yr ydym wedi bod yn ymgyrchu yn eu erbyn yn genedlaethol ac yn rhanbarthol i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr i’w glywed.
• Newidiadau i gasgliadau sbwriel yng Ngwynedd
• Mesur lobïo• Mesur Mewnfudo
a taliadau NHS i fyfyrwyr rhyngwladol
• Punt yn eich Poced
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
STRYD Y DEON
G O G L E D D
2 0 0 M
Y F E N A I
FFO
RD
D C
AER
GY
BI
FFO
RDD DEI
NIOL
STR
YD FAW
R
FFORDD CAERNARFON
FFORDD FFRIDDOEDD
FFORDD SILIWEN
FFORDD Y COLEG
STRYD DEINIOL
HEOL FICTORIA
ALLT GLANRAFON
PEN
RAL
LT IS
AF
LON
CA
RIA
DO
N
EichBANGOR
SAFLE’R NORMAL
ORSAF DRENAU
Y SANTES FAIR
SAFLE’R FRIDDOEDD
PRIF ADEILAD Y CELFYDDYDAU
CYSYLLTWCH Â NI: 01248 38 8000
DEWCH I’N GWELD NI:UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGORBRYN HAULHEOL FICTORIABANGORGWYNEDDLL57 2EN
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM
HO
LYH
EAD
RO
AD
DEINIO
L RO
AD
HIG
H STR
EET
CAERNARFON ROAD
FFRIDDOEDD ROAD
SILIWEN ROAD
COLLEGE RO
AD
DEINIOL ST
VICTORIA DRIVE
GLANRAFON HILL
LOW
ER P
ENRALL
T
M E N A I S T R A I T
LOV
E L
AN
E
N O R T H
2 0 0 M
DEAN ST
2120
WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNIONTWITTER.COM/BANGORSTUDENTSDARGANFYDDWCH NI AR ...
UNDEB MYFYRWYR
eich
EICH CANOLFAN GWEITHGAREDDAU
EICH GWASANAETHAU MYFYRWYR
RATHBONE
EICH BWYTYBAR UNO
EICH CANOLFAN CHWARAEON SWYDDOGOL
CANOLFAN BRAILSFORD
YMUNWCH A GYMDEITHAS LLYWELYN, EIN CYMDEITHAS I DDYSGWYR
AM DDYSGU CYMRAEG?
YDYCH CHI’N HOFF O CHWARAEON A DDIM AM DROI EICH CEFN AR EICH DISGYBLAETH?
CYSTADLWCH BOB DYDD MERCHER GYDA BUCS… AM DDIM!!
CHWANT RHWYFO AR LYN LLANBERIS YNG NGHALON ERYRI…?
COFIWCH EI FOD AM DDIM!
ANGERDDOL AM RYWBETH?
CYNHALIWCH YMGYRCH CAMPWS I WNEUD GWAHANIAETH!
YMUNWCH GYDA’CH ADDYSG A ARWEINIR GAN FYFYRWYR A BYDDWCH YN GYNRYCHIOLYDD CWRS!
AM GYFLWYNORADIO?STORM FM YW EIN SIANEL RADIO NI SY’N GOLYGU Y CEWCH EICH CLYWED AR DRAWS Y BYD AC AR DRAWS SAFLE FFRIDDOEDD AR 87.7FM!
AM DDOD YN RHAN O YMGYRCH LLES?
AM GAEL SGONSEN?MAE’R YSTAFELLOD TE AR DDIWEDD Y PIER YN CYNNIG TE A SGONAU HYFRYD AC OND TAFLIAD CARREG O’R BRIF ADEILAD!