2
Rhian Jones yw Swyddog Datblygu’r Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n gyfrifol am: Farchnata’r pynciau Chwilio am gyfleoedd newydd Hwyluso gwaith y paneli Cefnogi prosiectau’r Coleg Beth yw “O’r Llwyfan”? Diweddariad tymhorol i aelodau panel pwnc Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyfle i rannu gwybodaeth, newyddion a chyfleoedd yn y sector a’r diwydiant. Er mwyn trafod syniadau neu er mwyn ymateb i unrhyw fater yn y rhifyn hwn o “O’r Llwyfan”, cysylltwch â Rhian! 01267 610 442 [email protected] Y Llwyfan, Caerfyrddin. O’r Llwyfan Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth Hydref 2015 Rhifyn DCC03 Yn y flwyddyn academaidd hon bydd Rhian yn datblygu deunyddiau hyrwyddo i athrawon ysgolion uwchradd a thiwtoriaid Colegau Addysg Bellach. Nod y deunyddiau fydd codi ymwybyddiaeth o’r opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael i barhau gydag astudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau . Mwy i ddod yn rhifyn nesaf “O’r Llwyfan”. Y Diweddaraf o’r Diwydiant Penawdau: Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol sy’n ceisio sicrhau parhad yn narpariaeth gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel yng Nghymru http://tinyurl.com/o5nz7df 50,000 yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru http://tinyurl.com/og6tsek Cynnwys am Gymru yn y cyfryngau wedi gostwng yn ‘sylweddol’ http://tinyurl.com/pbfuemk Llai i gael grantiau gan Gyngor y Celfyddydau http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34333894 Angen cydweithio strategol ar addysg alwedigaethol ddwyieithog: y neges o Wlad y Basg http://tinyurl.com/pulz6jz Blaenoriaethau’r Swyddog Datblygu yn y meysydd eraill Celf a Dylunio: ail-ddrafftio’r Cynllun Pwnc i adlewyrchu newidiadau yn y ddarpariaeth a chydlynu dau brosiect newydd wedi eu cyllido gan y Coleg Ieithoedd Modern: cynorthwyo gyda threfniadau’r Cwrs Preswyl Ieithoedd Modern a chefnogi gwaith y Fforwm newydd Y Gymraeg: parhau i adnabod a chyfrannu at fforymau a rhwydweithiau a chefnogi prosiectau Llongyfarchiadau! Darllenwch hanes Trystan Ap Owen, un o raddedigion BA Theatr a Drama Prifysgol De Cymru eleni, ac enillydd cyntaf Gwobr Merêd http://www.southwales.ac.uk/story/1724/ Mae Dr Rhiannon Williams (yn y llun), darlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ennill doethuriaeth am ei hastudiaeth o’r Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad. Cipiodd Wyn Mason, darlithydd Ffilm a Sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru, y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni am ei ddrama 'Rhith Gan' http://www.southwales.ac.uk/story/1746/ Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot Llysgenhadon y Coleg Cymraeg llynedd rydym am eh angu’r cynllun eleni i gynnwys dau lysgennad o bob prifysgol. Byddant yn cynorthwyo’r Coleg gydag amrywiol ddigwyddiadau/weithgareddau rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016. Mae’r holl wybodaeth ar sut i ymgeisio yma: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/llysgenhadon/

O’r Llwyfan Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth Hydref 2015 - Y … · 2016. 12. 14. · Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Theatr a Drama yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Califfornia

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: O’r Llwyfan Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth Hydref 2015 - Y … · 2016. 12. 14. · Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Theatr a Drama yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Califfornia

Rhian Jones yw Swyddog

Datblygu’r Celfyddydau a’r

Dyniaethau sy’n gyfrifol am:

Farchnata’r pynciau

Chwilio am gyfleoedd newydd

Hwyluso gwaith y paneli

Cefnogi prosiectau’r Coleg

Beth yw “O’r Llwyfan”?

Diweddariad tymhorol i aelodau

panel pwnc Diwydiannau

Creadigol a Cherddoriaeth y

Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyfle i rannu gwybodaeth,

newyddion a chyfleoedd yn y

sector a’r diwydiant.

Er mwyn trafod syniadau neu er

mwyn ymateb i unrhyw fater yn

y rhifyn hwn o “O’r Llwyfan”,

cysylltwch â Rhian!

01267 610 442

[email protected]

Y Llwyfan, Caerfyrddin.

O’r Llwyfan

Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth

Hydref 2015

Rhifyn DCC03

Yn y flwyddyn academaidd hon bydd Rhian yn datblygu deunyddiau hyrwyddo i athrawon ysgolion uwchradd a thiwtoriaid

Colegau Addysg Bellach. Nod y deunyddiau fydd codi ymwybyddiaeth o’r opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael i barhau

gydag astudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mwy i ddod yn rhifyn nesaf “O’r Llwyfan”.

Y Diweddaraf o’r Diwydiant

Penawdau:

Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol sy’n ceisio sicrhau parhad yn narpariaeth

gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel yng Nghymru http://tinyurl.com/o5nz7df

50,000 yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru http://tinyurl.com/og6tsek

Cynnwys am Gymru yn y cyfryngau wedi gostwng yn ‘sylweddol’ http://tinyurl.com/pbfuemk Llai i gael grantiau gan Gyngor y Celfyddydau http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34333894

Angen cydweithio strategol ar addysg alwedigaethol ddwyieithog: y neges o Wlad y Basg http://tinyurl.com/pulz6jz

Blaenoriaethau’r Swyddog Datblygu yn y meysydd eraill

Celf a Dylunio: ail-ddrafftio’r Cynllun Pwnc i adlewyrchu newidiadau yn y ddarpariaeth a chydlynu dau brosiect newydd

wedi eu cyllido gan y Coleg

Ieithoedd Modern: cynorthwyo gyda threfniadau’r Cwrs Preswyl Ieithoedd Modern a chefnogi gwaith y Fforwm newydd

Y Gymraeg: parhau i adnabod a chyfrannu at fforymau a rhwydweithiau a chefnogi prosiectau

Llongyfarchiadau!

Darllenwch hanes Trystan Ap Owen, un o raddedigion BA Theatr a Drama Prifysgol De

Cymru eleni, ac enillydd cyntaf Gwobr Merêd

http://www.southwales.ac.uk/story/1724/

Mae Dr Rhiannon Williams (yn y llun), darlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De

Cymru dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ennill doethuriaeth am ei

hastudiaeth o’r ‘Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’.

Cipiodd Wyn Mason, darlithydd Ffilm a Sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru, y Fedal

Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni am ei ddrama 'Rhith Gan'

http://www.southwales.ac.uk/story/1746/

Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot Llysgenhadon y Coleg Cymraeg llynedd rydym am ehangu’r cynllun eleni i gynnwys dau

lysgennad o bob prifysgol. Byddant yn cynorthwyo’r Coleg gydag amrywiol ddigwyddiadau/weithgareddau rhwng Ionawr a

Rhagfyr 2016. Mae’r holl wybodaeth ar sut i ymgeisio yma: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/llysgenhadon/

Page 2: O’r Llwyfan Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth Hydref 2015 - Y … · 2016. 12. 14. · Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Theatr a Drama yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Califfornia

Pwt am y Prosiectau (dan nawdd y Coleg)

Bydd Rhian yn cylchredeg amlinelliad o’r gweithgareddau a’r prosiectau cydweithredol sy’n digwydd

yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn 2015/2016, fel rhan o’r crynodeb blynyddol i’r holl baneli pwnc yn y

maes.

Rydym yn hynod falch i gyhoeddi y bydd Gŵyl MAP (Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio) yn digwydd

yn Y Galeri, Caernarfon ar Fawrth 18f ed

ac 19eg

2016 https://www.facebook.com/gwylmap a

https://twitter.com/gwylmap Mwy i ddilyn a chroeso i bawb ddod i weld y myfyrwyr yn perfformio!

Newyddion a rhag-hysbys

Prifysgol De Cymru - Pob hwyl i’r graddedigion Sarah-Louise Jones, bydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn

Terfel ddiwedd Hydref www.southwales.ac.uk/story/1634/; Aaron Davies a Rhianna Davies sydd wrthi'n teithio

Cymru a Lloegr yn perfformio gyda chwmni Theatr Arad Goch yn eu cynhyrchiad o 'Mwnci ar Dan' (llun isod) sydd

wedi ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Sera Moore Williams, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd y radd BA Theatr

a Drama; a Lloyd Meredith bydd yn ymuno gydag Arad Goch, ar gyfer eu cynhyrchiad o 'SXTO'.

Pob hwyl i Gareth Thomas, sydd ar fin serennu yng nghynhyrchiad Theatr Ieuenctid yr Urdd o 'Les

Miserables' www.southwales.ac.uk/story/1893/

Cafodd staff a myfyrwyr BA Theatr a Drama brofiad theatraidd unigryw wrth fynychu perfformiad o'r 'Iliad' gan

National Theatre Wales yn Theatr Ffwrnes, Llanelli a hynny dros nos!

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Theatr a Drama yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Califfornia Los Angeles

eleni. Bydd y ddau garfan o fyfyrwyr yn dilyn yr un darlleniadau cwrs, cyn cwrdd yn Los Angeles ddiwedd Ebrill y

flwyddyn nesaf, i drafod profiadau o ddwyieithrwydd mewn perthynas â pherfformio.

Aberystwyth – Bu Euros Lyn, y cyfarwyddwr teledu arobryn (gyda Dr Kate Woodward yn y llun isod) yn rhannu ei

brofiadau gyda myfyrwyr yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu http://tinyurl.com/obwyyu6

Enwyd Rhodri ap Dyfrig sy'n Gymrawd Dysgu yn yr Adran fel un o'r hanner cant o ffigyrau mwyaf dylanwadol ar gyfryngau cymdeithasol mewn AU ym Mhrydain: https://www.jisc.ac.uk/blog/uk-higher-education-social-media-influencers-named-05-oct-2015

Bydd myfyrwyr cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr yn perfformio'r ddrama Rhys Lewis, addasiad o 1910 gan J.M. Edwards o nofel Daniel Owen, yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, Rhagfyr 2

il - 5

ed.

Abertawe - Ar sianel YouTube Academi Hywel Teifi mae modd gweld cynnwys a ffilmiwyd yn y Lolfa Lên yn yr

Eisteddfod. Bu dwy fyfyrwraig o'r Academi, Lauren Evans a Cerian Davies yn cynorthwyo trwy gynllun SPIN,

cynllun Interniaeth Academi Cyflogadwyedd y Brifysgol. A hithau yn gyfnod dathlu T. Llew Jones, dyma sesiwn

o'r Lolfa Lên: https://www.youtube.com/watch?v=3Z7LtLkslQI

Bu staff a myfyrwyr y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn clywed am bwysigrwydd sgiliau dwyieithrwydd yn

ystod ymweliadau â chwmni teledu Telesgop sydd bellach wedi ymgartrefu yn Stiwdios y Bae, a Swyddfa Wasg

tîm pêl-droed yr Elyrch a roddodd fynediad egsliwsif i'r cae ei hun, Ystafell y Wasg a’r ystafelloedd newid!

Bydd sioe Gymraeg ar orsaf radio Xtreme Undeb Myfyrwyr y Brifysgol gyda myfyrwyr Academi Hywel Teifi yn

cyflwyno tu ôl y meic ac yn cynhyrchu tu ôl y llenni.