Upload
lawrence-ashton
View
44
Download
4
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Recriwtio. Pam mae swyddi gwag yn digwydd?. y busnes yn ehangu ymddeoliad gweithwyr presennol angen am sgiliau newydd dyrchafu gweithwyr presennol gweithwyr yn gadael am swydd newydd yn rhywle arall - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Recriwtio
Pam mae swyddi gwag yn digwydd?• y busnes yn ehangu• ymddeoliad gweithwyr presennol• angen am sgiliau newydd• dyrchafu gweithwyr presennol• gweithwyr yn gadael am swydd newydd yn rhywle arall• gweithwyr yn absennol am resymau dros dro fel absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb salwch
Sut mae busnesau'n sicrhau dod o hyd i'r gweithiwr iawn ar gyfer y swydd wag?
Dylai busnesau ddilyn proses gam wrth gam isicrhau eu bod yn dod o hyd i'r gweithiwr mwyaf addas.
Y cam cyntaf yw deall yn llawn y tasgau a'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y swydd.
Disgrifiad SwyddMae'r Disgrifiad Swydd yn disgrifio
• teitl y swydd• y dyletswyddau neu'r tasgau sydd ynghlwm wrth y swydd • cyfrifoldebau'r swydd• pwy sy'n rheoli’r gweithiwr• pwy mae'r gweithiwr yn ei reoli• y gweithle• amodau cyflogaeth (gwyliau, cyflog ac ati)
Manyleb PersonMae'r Fanyleb Person yn disgrifio
• y sgiliau sy'n ofynnol i wneud y gwaith• yr adnabyddiaeth o'r diwydiant sydd ei hangen • gofynion addysgol• y profiad sy'n ofynnol• priodoleddau corfforol (e.e. ar gyfer diffoddwr tân)• agweddau ar gymeriad sy'n gweddu orau i'r swydd
Hysbyseb SwyddBydd yr hysbyseb swydd yn seiliedig ar y disgrifiad swydd a'r fanyleb person. Bydd yr hysbyseb yn rhoi :-Teitl y swydd, y cyflog, lleoliad y swyddCyfrifoldebauOriau gwaithManylion y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen.Bydd yr hysbyseb hefyd yn rhoi manylion am sut i wneud cais am y swydd, fel llythyr cais, rhif ffôn cyswllt, cyfeiriad, ac a oes angen CV.
Ble mae hysbysebu'r swyddGellir hysbysebu'r swydd yn fewnol – i'r gweithwyr presennol sy'n ceisio dyrchafiad neu eisiau newid swydd.
Neu'n allanol, y tu allan i'r cwmni, i ddenu gweithwyr newydd gyda sgiliau a syniadau newydd. Mae dulliau hysbysebu swyddi gwag yn cynnwys:Hysbysiad ‘ymgeisiwch yma’Papurau newydd lleolCanolfan Byd Gwaith Radio LleolY rhyngrwyd – gwefan y cwmni ei hun, neu wefannau recriwtioFfeiriau recriwtio prifysgol i raddedigionPapurau newydd cenedlaethol
Rhestr fer o blith y ceisiadau
Mae’n debygol mai’r adran bersonél fydd â'r cyfrifoldeb o ddidoli'r ceisiadau yn gyntaf a llunio rhestr fer. Byddai rhestr fer nodweddiadol yn debygol o gynnwysy 5 neu 6 ymgeisydd gorau – y rhai sy'n cydweddu orau â'r fanyleb person. Y rhai sydd ar y rhestr fer gaiff eu gwahodd i gyfweliad.
CyfweliadBydd cyfweliad effeithiol yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd • ddangos eu sgiliau a'u deallusrwydd• eu haddasrwydd ar gyfer y gwaith.
Hefyd mae'r cyfweliad yn caniatáu i'r ymgeisydd ddysgu llawer iawn mwy am• y swydd a'r tasgau sydd ynghlwm wrthi • y cwmni a'r bobl mae ef neu hi yn debygol o fod yn gweithio gyda nhw.
Bydd y cyfweliad hefyd yn galluogi'r cyfwelwyr i asesu personoliaethyr ymgeisydd, ac asesu ai dyma’r math o berson maen nhw eisiau ei gael yn gweithio i’r busnes.