Upload
jacie
View
35
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cyflwyniad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Cynrychiolwyr Myfyrwyr. Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb Is-adran Llywodraethu a Chydymffurfio E-bost: [email protected] , Ffôn: 02920 87023. Dalier sylw:. 2. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Cynrychiolwyr
Myfyrwyr
Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac AmrywiaethYr Uned CydraddoldebIs-adran Llywodraethu a ChydymffurfioE-bost: [email protected], Ffôn: 02920 87023
Cyflwyniad i gydraddoldeb ac amrywiaeth
Dalier sylw:• Cyflwyniad yw hwn i rai egwyddorion a gofynion
cyfreithiol allweddol ar gyfer myfyrwyr• Dylai’r cyflwyniad hwn gymryd tua 30 munud i’w
gwblhau yn ogystal â chwis sy’n cymryd 10 munud• Am fwy o wybodaeth neu adborth ynghylch
cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch â: Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, E-bost: [email protected], Ffôn: 02920 870230
2
• Os oes arnoch chi angen copi o’r wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â Catrin Morgan: [email protected], 02920 870230
3
Amlinelliad o’r Drafodaeth1. Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
2. Achosion Cyfreithiol, Moesol a Busnes
3. Deddf Cydraddoldeb 2010
4. Diwylliant Cydraddoldeb Prifysgol Caerdydd
5. Gwahaniaethu
6. Stereoteipio a Rhagfarnu
7. Iaith Amrywiaeth
8. Eich rôl o ran cefnogi C ac A Cwis
9. Cydraddoldeb (10 cwestiwn)
4
1. Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
5
Beth yw Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywiaeth?
Cyfleoedd Cyfartal: yn gysylltiedig â dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg yn erbyn grwpiau penodol. Cydraddoldeb = cyflwr o fod yn gyfartal.
Amrywiaeth: yn seiliedig ar y cysyniad o gydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaeth.
Mae cydraddoldeb yn diogelu pawb ohonom…Mae amrywiaeth yn adlewyrchu pawb ohonom…
6
“Nid oes cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn debyg, mae cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn
wahanol.”
Tom Robbins
2. Yr achos cyfreithiol, moesol a busnes dros amrywiaeth a chydraddoldeb
8
Ein DiwylliantNod Prifysgol Caerdydd yw:
– Datblygu a hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac urddas, cwrteisi a pharch ledled y Brifysgol
– Cefnogi’r holl fyfyrwyr a staff, gan gynnwys darparu cefnogaeth berthnasol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig
– Gweithio i atal mathau o wahaniaethu anghyfreithlon a delio â phob mathau o wahaniaethau’n gyson ac effeithiol
– Sicrhau bod ei holl bolisïau a chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dylanwadu ar ddiwylliant y Brifysgol ac yn ei hysbysu. 9
Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth
• Yr Achos Cyfreithiol:– Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi amddiffyniad a
hawliau i bobl gan gynnwys myfyrwyr a staff mewn perthynas â gwahaniaethu (triniaeth llai ffafriol), aflonyddwch ac erledigaeth
– Mae deddfwriaeth hawliau dynol yn rhoi cyfres o hawliau a rhyddid sylfaenol y mae gan bob unigolyn hawl iddynt yn seiliedig ar egwyddorion craidd sy’n cynnwys urddas, cydraddoldeb a pharch.
– Mae gan bawb ohonom hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gyfraith ar gydraddoldeb.
10
Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth
• Yr Achos Busnes:– Denu a chadw myfyrwyr a staff– Gwneud defnydd llawn o dalentau a dysgu pobl o
ystod eang o wybodaeth a phrofiad– Gwella perfformiad a galluogi pobl i berfformio hyd at
eu potensial llawn
• Yr Achos Moesol:– Trin pobl yn deg– Creu amgylchedd cynhwysol
11
“Un o bedwar prif bwrpas addysg uwch yw chwarae rhan fawr mewn ffurfio
cymdeithas ddemocrataidd, wâr, gynhwysol.”
Syr Ron Dearing
Pwyllgor ymchiliad y DU i addysg uwch, 1997
Pwy mae’r gyfraith yn eu hamddiffyn?
‘Nodweddion Gwarchodedig’
13
Nodweddion GwarchodedigOedranMae hyn yn cyfeirio at berson yn perthyn i oedran penodol (e.e. 50 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (e.e. 18 i 30 mlwydd oed). Mae oedran yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol am resymau’n ymwneud â’u hoedran (boed ifanc neu hen).
AnableddMae gan berson anabledd os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r person hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. 14
Nodweddion GwarchodedigAilbennu Rhywedd Sef y broses o newid o un rhyw i’r llall. Mae Hunaniaeth o ran Rhywedd yn cyfeirio at y ffordd y mae unigolyn yn uniaethu â’u rhyw eu hunain, e.e. bod yn ddyn neu’n fenyw, neu nid y naill na’r llall mewn rhai achosion, sy’n gallu bod yn wahanol i ryw biolegol.
Priodas a Phartneriaeth SifilDiffinir priodas fel ‘uniad rhwng dyn a menyw’. Yn gyfreithiol, gellir cydnabod perthnasau rhwng cyplau o’r un rhyw fel ‘partneriaethau sifil’. Mae’n rhaid i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd â chyplau priod o ran ystod eang o faterion cyfreithiol. 15
Nodweddion GwarchodedigBeichiogrwydd a MamolaethCyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi yw beichiogrwydd. Cyfeiria mamolaeth at y cyfnod ar ôl y geni, ac mae diogelwch cyfreithiol am 26 wythnos ar ôl y geni. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron.
HilCyfeiria hil at grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu hil, lliw a chenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) a gwreiddiau ethnig neu genedlaethol. 16
Nodweddion GwarchodedigCrefydd a ChredoYstyrir crefydd yn ôl ei ystyr arferol, ond mae credo’n cynnwys argyhoeddiadau a chredoau crefyddol gan gynnwys credo athronyddol a diffyg cred. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i gredo effeithio ar eich dewisiadau bywyd neu eich ffordd o fyw er mwyn ei gynnwys yn y diffiniad hwn. Rhyw
Dyn neu fenyw. Trin dyn neu fenyw’n llai ffafriol am resymau sy’n perthyn i’w rhyw.
Cyfeiriadedd RhywiolAtyniad rhywiol person tuag at eu rhyw eu hunain, y rhyw arall neu’r ddau ryw (e.e. lesbiaidd, hoyw, deurywiol, heterorywiol ac ati). 17
“Cydraddoldeb yw enaid rhyddid; mewn gwirionedd, hebddo, nid oes rhyddid.”
Frances Wright
Beth yw rhai o’r buddion ar gyfer Myfyrwyr?• Peidio â bod o dan anfantais neu brofi ymddygiad negyddol am
reswm yn ymwneud â’ch nodwedd warchodedig
• Astudio/byw mewn amgylchedd sy’n eich galluogi i fod ‘yn chi’ch hun’ a bod yn agored am eich hunaniaeth ac anghenion
• Cael profiad myfyriwr mwy ‘byd-eang’ ac amrywiol a fydd yn eich helpu i gael ystod ehangach o wybodaeth a phrofiad
• Cael dealltwriaeth well o anghenion pobl mewn perthynas â deunydd pwnc, e.e. myfyrwyr meddygaeth yn deall anghenion cleifion anabl, y gellir defnyddio hyn yn ddiweddarach mewn gwaith ymchwil neu gyflogaeth
• Bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer cyflogaeth (polisïau amrywiaeth a chydraddoldeb cyflogwr)
• Deall tegwch a chynhwysoldeb yn arferion y Brifysgol
• Deall gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael ag aflonyddwch / bwlio
19
Mae’n bwysig nodi:• Nid yw’r Brifysgol yn goddef aflonyddwch a bwlio gan
gynnwys iaith dramgwyddus
• Mae rhyddid i lefaru ac eithrio o’r cwricwlwm yn caniatáu beirniadaeth gyfreithiol, gyfreithlon, neu ddadl at ddibenion academaidd yn ymwneud â materion, syniadau a deunyddiau. Fodd bynnag, ni ddylai’r rhai sy’n ymarfer rhyddid i lefaru dorri cyfreithiau eraill, er enghraifft yn ymwneud ag aflonyddwch ac annog casineb, yn y ffordd y caiff syniadau eu cyfleu
• Mae gan yr holl fyfyrwyr â staff gyfrifoldeb i gydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau cydraddoldeb
• Mae gan fyfyrwyr a staff gyfrifoldeb i weithredu mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon (gweler diffiniadau mewn sleidiau i ddod)
• Er mwyn nodi unrhyw anghenion am gymorth, dylai myfyrwyr drafod eu hanghenion penodol gyda’r Brifysgol
20
“Y pwynt yw bod byw gyda’n gilydd yn raslon yn gwneud ein
bywydau’n fwy cyfoethog, diogel a hapus. Mae anghydraddoldeb
yn gwneud bywyd yn fwy anodd, gwael ac annifyr.”
Syr Trevor Phillips
3. Y Ddeddf Cydraddoldeb
22
Deddf Cydraddoldeb 2010• Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn
cynnig ymagwedd wedi’i chysoni tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth (mae’n dod â’r holl ‘nodweddion gwarchodedig’ o dan un gyfraith)
• O dan y Ddeddf, mae dyletswyddau ‘Cyffredinol’ a ‘Phenodol’ gan ‘Gyrff Cyhoeddus’ (e.e. prifysgolion, ysbytai ac ati) sy’n ddyletswyddau ychwanegol i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y cyrff hyn
Dalier sylw: nid yw popeth wedi’i gynnwys o dan y ddeddf cydraddoldeb, e.e. cefndir cymdeithasol-economaidd, materion ‘tegwch’ nad ydynt yn ymwneud â nodwedd warchodedig ac ati.
23
• Dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan neu o dan y Ddeddf
• Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu, a
• Meithrin perthynas da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
Y Dyletswyddau ‘Cyffredinol’
24
Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru)
Mae gennym nifer o ddyletswyddau penodol ar waith yng Nghymru sydd â’r nod o sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol i gwrdd â’r dyletswyddau cyffredinol.
Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:1. Datblygu a gweithredu Cynllun Cydraddoldeb
Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb 2. Ymgysylltu â phobl o grwpiau cydraddoldeb
gwahanol
25
3. Monitro data cydraddoldeb
4. Edrych ar y ffordd y mae ein polisïau a gweithdrefnau’n effeithio ar grwpiau gwahanol
5. Cynnal archwiliadau cyflog cyfartal i sicrhau cyflog cyfartal am waith cyfartal rhwng dynion a menywod
6. Adrodd yn flynyddol ar gynnydd a chyhoeddi’r wybodaeth hon.
Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru)
26
4. Ein Polisïau a Diwylliant Cydraddoldeb
27
Cynllun, Polisïau a Chanllawiau Cydraddoldeb
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Caerdydd
• Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl ymarferion a gweithgareddau, gyda’r nod o sefydlu diwylliant cynhwysol yn rhydd o wahaniaethu ac yn seiliedig ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch.
29
• Mae’r Brifysgol wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS)
• Mae’r cynllun yn dangos sut y byddwn yn cydymffurfio â’r ddeddf ac yn amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar sail Oedran, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Crefydd neu Gredo, a Chyfeiriadedd Rhywiol
• Cafodd yr Iaith Gymraeg ei chynnwys yn ein CCS hefyd i ddangos ein hymrwymiad (mae gan y Brifysgol Gynllun Iaith Gymraeg hefyd sy’n cynnwys ymrwymiadau mwy manwl)
30
Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Chwe Amcan CydraddoldebEIN DIWYLLIANT: Diwylliant yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch
Amcan 1: Sefydlu cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy hyfforddiant, ymwybyddiaeth a chyfathrebu
Amcan 2: Gwella’r broses o fonitro a datgelu nodweddion gwarchodedig
EIN MYFYRWYR A STAFF: Profiad addysgol a phrofiad o weithio sy’n ysbrydoli a chyfoethogi myfyrwyr a staff
Amcan 3: Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, cwricwlwm ac amgylchedd ffisegol sy’n gefnogol a chynhwysol
Amcan 4: Adolygu a mynd i’r afael â thangynrychiolaeth mewn recriwtio, cadw a datblygiad/cyrhaeddiad staff a myfyrwyr
Amcan 5: Adolygu a mynd i’r afael â chydraddoldeb o ran cyflog staff a strwythurau cysylltiedig
EIN CYMUNEDAU: Annog a chefnogi cydlyniant cymunedol
Amcan 6: Hyrwyddo cydweithio allanol, ehangu mynediad a chyfathrebu, meithrin perthnasoedd da a chynnal ymgysylltiad yn fewnol ac allanol
31
Y Siarter Myfyrwyr• Cyflwynodd y Brifysgol ei Siarter Myfyrwyr ym mis Awst
2012 a mae’n amlinellu disgwyliadau’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Myfyrwyr am gymuned urddasol ac egwyddorol, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth a deddfwriaeth o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a roddir yn y pecyn hwn.
• Mae’r Siarter yn diffinio cymuned urddasol ac egwyddorol fel un lle hybir cydraddoldeb, lle gwerthfawrogir amrywiaeth a chynwysoldeb a lle perchir unigolion; lle mae ymddygiad yn cael ei lywio gan godau’n ymwneud ag uniondeb academaidd, moeseg ac ymddygiad da; lle mae pawb yn derbyn cyfrifoldeb tuag at ei gilydd; a lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.
Y Siarter MyfyrwyrYng Nghaerdydd, gallwch ddisgwyl i’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr:
- eich trin ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser;
- meithrin a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chyhoeddi gwybodaeth am ein cynnydd bob blwyddyn;
- gweithredu’n brydlon ac effeithiol i fynd i’r afael â chwynion yn ymwneud â gwahaniaethu neu aflonyddwch;
- fod wedi’u hymrwymo i gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg;
- fod wedi’u hymrwymo i wella hygyrchedd ein cwricwlwm, cyfleusterau a gwasanaethau, i gwrdd â gofynion pob defnyddiwr posibl.
Y Siarter MyfyrwyrMae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn disgwyl i chi:
- ymddwyn yn briodol, gan drin cyd-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser;
- rhoi gwybod i ni os yw eich profiad yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n andwyol gan ymddygiad cyd-fyfyrwyr neu staff;
- datblygu eich dealltwriaeth o broffesiynoldeb ac uniondeb academaidd yn gynnar a rhoi hyn ar waith trwy gydol eich cyfnod yma a thu hwnt.
Mae’r Siarter Myfyrwyr llawn ar gael yma –
www.caerdydd.ac.uk/studentcharter
Ein Swyddogaethau a ChyfrifoldebauSwyddogaeth Myfyrwyr a Staff
• Annog yn weithredol arferion anwahaniaethol ac adrodd ar unrhyw achosion o ymddygiad sy’n methu â chydymffurfio â pholisïau cydraddoldeb
• Cefnogi nodau polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth y Brifysgol
• Bod yn ymwybodol o ac ymgymryd (yn achos staff) â hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth priodol
35
Rhai Ffeithiau/Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd
• Gellir dod o hyd i Wybodaeth
Cydraddoldeb am staff a
myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
ar ein
poster ‘Ffeithiau a Ffigyrau’
36
5. Gwahaniaethu
37
“Mae ein bywydau’n dechrau dod i ben pan
fyddwn yn cadw’n dawel am bethau sydd o bwys.”
Martin Luther King
Mathau o Wahaniaethu• Gwahaniaethu Uniongyrchol: lle mae rhywun yn cael
eu trin yn llai ffafriol na pherson arall oherwydd eu nodwedd warchodedig, e.e. gwrthod caniatáu i berson anabl fynychu diwrnod agored oherwydd eu hanabledd.
• Gwahaniaethu Anuniongyrchol: lle mae rheol neu ddarpariaeth yn berthnasol i bawb ond mae’n anfanteisio pobl â nodwedd warchodedig, e.e. mae Prifysgol yn cynnig aelodaeth llyfrgell am ddim i wŷr a gwragedd priod ond nid yw’n ymestyn hyn i bartneriaid sifil.
• Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol heblaw y gellir cyfiawnhau hyn fel ffordd gymesur o gyflawni nod dilys, e.e. mae’n bosibl y gellir cyfiawnhau gofyniad i fyfyrwyr berfformio tasgau neilltuol gyda’u breichiau/wyneb heb eu gorchuddio os oes rheswm gwirioneddol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, er y byddai hyn yn anfanteisio rhai myfyrwyr Mwslimaidd.
39
Mathau o Wahaniaethu• Gwahaniaethu drwy Ganfyddiad: gwahaniaethu
uniongyrchol yn erbyn rhywun oherwydd bod pobl eraill yn meddwl bod ganddynt nodwedd warchodedig– e.e. credu bod gan rywun gredo penodol, neu eu bod wedi
newid eu hunaniaeth o ran rhyw – hyd yn oed pan nad yw hyn yn wir
• Gwahaniaethu drwy Gysylltiad: gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn rhywun oherwydd eu bod yn gysylltiedig â pherson arall sydd â nodwedd warchodedig– e.e. rhywun sy’n perthyn i/gofalu am berson anabl neu gyfaill i
rywun sy’n hoyw
Dalier sylw: Nid yw gwahaniaethu drwy ganfyddiad a chysylltiad yn berthnasol yn achos nodweddion gwarchodedig Beichiogrwydd a Mamolaeth neu Briodas a Phartneriaeth Sifil
40
Mathau o Wahaniaethu
• Aflonyddwch: ymddygiad di-groeso (yn ymwneud â nodwedd warchodedig) sy’n tarfu ar urddas pobl neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad y mae unigolyn yn ei gael yn ymosodol hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw (gweler Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio’r Brifysgol)
• Erledigaeth: trin pobl yn llai ffafriol oherwydd camau gweithredu a gymerwyd ganddynt mewn perthynas â gwahaniaethu gan gynnwys eu bod wedi rhoi tystiolaeth mewn achos gwahaniaethu
41
Anabledd – Amddiffyniad Ychwanegol• Mae dyletswydd gadarnhaol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i
roi ar waith bob ‘addasiad rhesymol’ i bobl anabl gael mynediad i gyflogaeth, addysg, gwasanaethau ac ati. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar rwystrau ffisegol neu eraill a darparu cymorth ychwanegol lle mae angen hynny.
• Mae’n gyfreithlon i roi addasiadau rhesymol yn eu lle ar gyfer pobl anabl hyd yn oed os bydd hyn yn arwain at driniaeth ‘fwy ffafriol’
• Mae’n anghyfreithlon i drin person anabl yn llai ffafriol am reswm yn ymwneud â’u hanabledd, e.e. diswyddo gweithiwr sydd ag arthritis oherwydd eu bod yn teipio’n rhy araf. Gelwir hyn yn ‘wahaniaethu sy’n deillio o anabledd’.Dalier sylw: Nid yw’n ofynnol i’r Brifysgol wneud ‘addasiadau rhesymol’ wrth osod safon cymhwysedd (sef safon academaidd, feddygol neu arall i benderfynu a oes gan berson lefel benodol o gymhwysedd neu allu)
42
Gweithredu Cadarnhaol
• Mae’n bosibl y bydd cymryd camau gweithredu cadarnhaol yn gyfreithlon lle mae grwpiau penodol wedi’u tangynrychioli mewn cyflogaeth neu wasanaethau, e.e. trefnu diwrnod agored wedi’i anelu at ddynion i annog mwy o ddynion i astudio nyrsio.
• Fodd bynnag, nid yw gwahaniaethu cadarnhaol yn gyfreithlon, e.e. cynnig lleoedd i ddynion ar sail eu rhyw (lle nad y nhw yw’r ymgeiswyr gorau)
43
6. Stereoteipiau a Rhagfarn
44
Stereoteipiau a Rhagfarn
• Stereoteipio: cyffredinoli rhagfarnllyd ynghylch grŵp cymdeithasol – tybio neu briodoli nodweddion gor-gyffredinol i grŵp
• Rhagfarn: "syniad rhagdybiedig sy‘n seiliedig ar ychydig iawn o ffeithiau neu ddim"
• Yn aml rydym yn tybio ynghylch pobl eraill, a’u galluoedd, sgiliau a phriodweddau, heb wybod llawer amdanynt
• Mae tueddiad i weld gwahaniaethau fel gwendidau.
45
Yr hyn rydym yn ei weld:
• Ymddangosiad, rhyw, lliw croen, oedran... Yr hyn nad ydym yn ei weld:
• Gwerthoedd / Credoau
• Profiadau / hanes
• Cyfeiriadedd Rhywiol
• Crefydd / Ffydd
• Anableddau nad ydynt yn amlwg...
46
Peryglon Stereoteipio• Atgyfnerthu rhagfarnau a chanfyddiadau
negyddol am rai grwpiau penodol
• Mae‘n gallu arwain at allgáu a/neu wahaniaethu
• Mae coleddu rhagdybiaethau ynghylch anghenion unigolyn yn gallu arwain at fethiant i fynd i’r afael ag anghenion pobl mewn modd priodol ac effeithiol.
47
“Ni yw’r holl bobl sydd fel ni a Nhw yw pawb
arall.”
Rudyard Kipling, 1865-1936
48
1. Cwestiynwch eich rhagfarnau, normau, arferion a ffyrdd o ryngweithio ag eraill
2. Gwnewch ymrwymiad i gadw meddwl agored a pharchu "eraill"
3. Peidiwch byth â goddef gwahaniaethu, allgáu, ymddygiad nawddoglyd neu ymddygiad rhagfarnllyd arall
4. Peidiwch â thrin pobl yn y ffordd yr hoffech chi gael eich trin ond yn hytrach yn y ffordd yr hoffen nhw gael eu trin
5. Datblygwch werthoedd personol i wrthsefyll stereoteipio a mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn dysgu.
Ffyrdd o osgoi stereoteipio
49
• Agweddau negyddol• Diffyg dealltwriaeth • Ffyrdd gwael (ac amhriodol) o roi gwybodaeth/
cyfathrebu gwael• Dim prosesau ymgynghori• Diffyg cyfleoedd wrth astudio ac mewn gwaith• Mynediad ffisegol gwael• Amgylchedd astudio gwael
Enghreifftiau o Rwystrau i Gynhwysiant
50
“Credaf fod gan bob bod dynol y
potensial i newid, i drawsnewid eu hagweddau eu hunain, ni
waeth pa mor anodd yw’r sefyllfa.”
Dalai Lama
7. Iaith Amrywiaeth
52
• Mae amrywiaeth yn golygu cydnabod, archwilio, deall, parchu a chael nerth mewn amrywiaeth
• Mae defnyddio’r iaith anghywir ar brydiau yn fwy maddeuadwy i bob parti yn hytrach na chymryd agwedd ‘pen yn y tywod’, e.e. peidio â siarad â rhywun am eu hanghenion am gymorth oherwydd anabledd, oherwydd nad ydych yn sicr ynghylch pa derminoleg i’w defnyddio
Iaith Amrywiaeth
53
• Defnyddiwch iaith sy’n cyfeirio at amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. Nid yn unig y mae iaith yn adlewyrchu agweddau, mae’n helpu eu diffinio hefyd.
• Dylem ddefnyddio geiriau, ymadroddion a delweddau nad ydynt yn atgyfnerthu agweddau tramgwyddus neu wahaniaethol ac osgoi termau sy’n bychanu, anwybyddu neu sarhau unigolion neu grwpiau.
• Mae’r dewis o iaith yn newid gydag amser – mae’n beth da i gadw llygad ar ddefnydd cyfredol ac osgoi termau a all dramgwyddo.
• Mae Rhestr Termau (Atodiad G) yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol yn rhoi rhestr o’r derminoleg a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth siarad am gydraddoldeb, ac mae canllawiau defnyddiol ar: open.ac.uk/equality-diversity/pics/d101215.pdf
Iaith Amrywiaeth
54
8. Eich rôl o ran cefnogi C ac A
55
Cefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cynrychiolwyr Myfyrwyr: Beth allwch CHI ei wneud:• Siarad â myfyrwyr am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a’r
gwasanaethau / gweithgareddau / cyfleusterau yr hoffent eu cael• Deall unrhyw rwystrau i gynwysoldeb ac ynghynghori ynghylch eu
datrys• Ymgysylltu â’r Brifysgol ynghylch materion cydraddoldeb – yn aml
bydd yr Uned Cydraddoldeb yn gofyn am fewnbwn gan fyfyrwyr ar gyfer polisïau, holiaduron, digwyddiadau ac ati
• Mynychu unrhyw hyfforddiant sydd ar gael yn ymwneud â chydraddoldeb – bydd hyn yn eich helpu i ddeall anghenion grwpiau gwahanol
• Ymgyfarwyddo â ffynonellau cymorth a chyngor perthnasol, e.e. cymorth i fyfyrwyr, y gwasanaeth anabledd a dyslecsia, yr uned cydraddoldeb, undeb y myfyrwyr ac ati.
56
Mae cydraddoldeb yn bwysig…..Ystyriwch beth mae cydraddoldeb yn ei olygu i chi;
Ceisiwch drin pawb yn deg a byddwch yn anfeirniadol a pharchus;
Gweithio gyda’n gilydd, gan rannuperchnogaeth a chyfrifoldeb drosgyflawni cydraddoldeb. 57
9. Cwis Cydraddoldeb
58
Cadwch gyfrif o’r cwestiynau a atebwch yn gywir
Cwestiwn 1
Mae “Cyfleoedd Cyfartal” yn golygu trin pawb yr un fath.
A: Gwir
B: Anwir
59
Cwestiwn 1
Mae “Cyfleoedd Cyfartal” yn golygu trin pawb yr un fath.
A: Gwir B: Anwir
Mae Cyfleoedd Cyfartal yn golygu trin pawb yn ôl eu hanghenion a gofynion penodol. Er enghraifft, bydd rhai myfyrwyr anabl angen ‘addasiadau rhesymol’ i gael mynediad cyfartal (‘ar yr un lefel’).
60
Cwestiwn 2
Beth yw nifer y nodweddion gwarchodedig?
A: 12
B: 9
C: 6
61
Cwestiwn 2
Beth yw nifer y nodweddion gwarchodedig?
A: 12B: 9C: 6
Mae naw nodwedd warchodedig.Sef: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chredo, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
62
Cwestiwn 3
Mae myfyriwr yn teimlo bod angen amser ychwanegol arnynt i gwblhau eu harholiadau oherwydd eu hanabledd. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi iddynt?
A: Nid oes ganddynt hawl i hyn oherwydd na fyddai’n deg i fyfyrwyr eraillB: Dylent ofyn am hyn (trwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia) fel ‘addasiad rhesymol’ C: Ni ddylent ddweud wrth y Brifysgol eu bod yn anabl
63
Cwestiwn 3
Mae myfyriwr yn teimlo bod angen amser ychwanegol arnynt i gwblhau eu harholiadau oherwydd eu hanabledd. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi iddynt?
B: Dylent ofyn am hyn (trwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia) fel ‘addasiad rhesymol’
Gall myfyrwyr ofyn am addasiadau rhesymol i gwrdd â’u hanghenion mewn perthynas ag anabledd. Gall hyn gynnwys amser ychwanegol mewn arholiadau.
64
Cwestiwn 4
Mae myfyriwr wedi newid eu hunaniaeth o ran rhywedd o fod yn ddyn i fod yn fenyw, ac yn dymuno defnyddio toiledau menywod. A oes ganddynt hawl i wneud hyn?
A: Nac oes – mae’n rhaid iddynt ddefnyddio toiledau dynion B: Nac oes – dylent ddefnyddio toiled hygyrch
(‘anabl’)C: Oes – gallan nhw ddefnyddio toiledau menywod
65
Cwestiwn 4
Mae myfyriwr wedi newid eu hunaniaeth o ran rhywedd o fod yn ddyn i fod yn fenyw, ac yn dymuno defnyddio toiledau menywod. A oes ganddynt hawl i wneud hyn?
C: Oes – gallan nhw ddefnyddio toiledau menywod
O’r amser y maen nhw’n cyflwyno’u hunain fel menyw (e.e. wrth wisgo fel menyw, cyfeirio at eu hunain fel menyw ac ati) gall myfyriwr ddefnyddio toiledau ac ystafelloedd newid menywod ac ati. Nid oes rhaid i fyfyrwyr dderbyn triniaethau meddygol (e.e. llawdriniaeth, triniaeth hormon) i gael eu cydnabod yn eu rhyw newydd. Myfyrwyr anabl yn unig a ddylai ddefnyddio toiledau hygyrch ‘anabl’ ac ni ddylid cyfeirio pobl nad ydynt yn anabl i ddefnyddio’r rhain fel toiledau niwtral o ran rhyw. 66
Cwestiwn 5
Mae myfyriwr yn teimlo eu bod yn cael eu ‘bwlio’ gan fyfyriwr arall trwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol. A allan nhw ofyn i’r Brifysgol gymryd unrhyw gamau?
A: Na, mater allanol yw hwn
B: Gallant, byddai hyn yn dod o dan bolisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio’r Brifysgol
C: Gallant, ond dim ond os yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig
67
Cwestiwn 5
Mae myfyriwr yn teimlo eu bod yn cael eu ‘bwlio’ gan fyfyriwr arall trwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol. A allan nhw ofyn i’r Brifysgol gymryd unrhyw gamau?
B: Gallant, byddai hyn yn dod o dan bolisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio’r Brifysgol
Mae Polisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio’r Brifysgol yn berthnasol i bob ymddygiad a allai fod yn gyfystyr ag aflonyddu a bwlio. Os yw’r ymddygiad yn ymwneud â nodwedd warchodedig, e.e. defnyddio iaith rywiaethol neu hiliol, gall hyn fod yn ‘aflonyddwch’. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ‘fwlio’ fod mewn perthynas â nodwedd warchodedig. Os yw’r ymddygiad yn gyfysytyr â throseddu, e.e. ‘stelcio’, gellir delio â hyn yn allanol hefyd.
68
Cwestiwn 6
Beth yw ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol?
A: Mae’n ddogfen sy’n amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i Ddeddf Cydraddoldeb 2010B: Mae’n ddogfen ddyheadol nad oes ei hangen o dan unrhyw ddeddfwriaethC: Mae’n ddogfen sy’n ymwneud â thrin rhai grwpiau’n fwy ffafriol
69
Cwestiwn 6
Beth yw ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol?
A: Mae’n ddogfen sy’n amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i Ddeddf Cydraddoldeb 2010B: Mae’n ddogfen ddyheadol nad oes ei hangen o dan unrhyw ddeddfwriaethC: Mae’n ddogfen yn ymwneud â thrin rhai grwpiau’n fwy ffafriol
70
Cwestiwn 7
Mae myfyriwr yn mynnu defnyddio’r term ‘mae hynny mor hoyw’ gan olygu ‘mae hynny mor ddwl’. Pan mae rhywun yn gwrthwynebu hyn, mae’n dweud mai dim ond jôc ydyw ac nad yw’n homoffobig. A yw hyn yn dderbyniol?
A: Ydy – mae’n cael ei ddweud fel jôcB: Nac ydy – gellir gweld hyn fel ffordd o aflonyddu/bwlioC: Mae hyn yn aflonyddwch/bwlio dim ond os yw’r person sy’n cwyno’n hoyw
71
Cwestiwn 7
Mae myfyriwr yn mynnu defnyddio’r term ‘mae hynny mor hoyw’ gan olygu ‘mae hynny mor ddwl’. Pan mae rhywun yn gwrthwynebu hyn, mae’n dweud mai dim ond jôc ydyw ac nad yw’n homoffobig. A yw hyn yn dderbyniol?
B: Nac ydy – gellir gweld hyn fel ffordd o aflonyddu/bwlio
Pan mae rhywun yn cwyno ynghylch aflonyddwch, effaith yr ymddygiad ac nid bwriad y tramgwyddwr sy’n bwysig. Ymddygiad sy’n tramgwyddo urddas person neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol yw aflonyddwch
72
Cwestiwn 8
Mae’r adran beirianneg eisiau annog mwy o fenywod i astudio’r pwnc oherwydd bod menywod wedi’u tangynrychioli ar y cyrsiau. Beth all yr adran ei wneud?A: Cynnal ymgyrch o weithredu cadarnhaol gan
gynnwys anelu sesiynau mewn diwrnodau agored at fenywod a chynnal gweithdai ar gyfer merched mewn ysgolion (ehangu mynediad)B: Dim – byddai’n rhaid i’r adran drin dynion a menywod yn gyfartalC: Cynnig lle i bob menyw sy’n gwneud cais beth bynnag yw eu cymwysterau mynediad
73
Cwestiwn 8
Mae’r adran beirianneg eisiau annog mwy o fenywod i astudio’r pwnc oherwydd bod menywod wedi’u tangynrychioli ar y cyrsiau. Beth all yr adran ei wneud?
A: Cynnal ymgyrch o weithredu cadarnhaol gan gynnwys anelu sesiynau mewn diwrnodau agored at fenywod a chynnal gweithdai ar gyfer merched mewn ysgolion (ehangu mynediad)Mae’n debygol y gellir cyfiawnhau ymgyrch o weithredu cadarnhaol yn y sefyllfa hon oherwydd bod mewnywod wedi’u tangynrychioli o ran astudio peirianneg. Fodd bynnag, byddai cynnig lleoedd heb ystyried cymhwyster yn annhebygol o fod yn ‘ffordd gymesur o gyflawni nod dilys’ a byddai’n gwahaniaethu yn erbyn dynion.
74
Cwestiwn 9
Mae myfyriwr yn cwyno bod eu holl ddarlithoedd yn cael eu cynnal gyda’r nos pan mae’n anodd trefnu gofal plant. Nid oedd y wybodaeth a oedd ar gael wrth wneud cais ar gyfer y cwrs yn hysbysebu bod y cwrs yn cynnwys darlithoedd gyda’r nos. A ellir gwneud unrhyw beth ynghylch hyn?
A: Na ellir – mae’n rhaid i’r myfyriwr wneud ymdrech i fynychu pob darlithB: Gellir – dylai’r myfyriwr drafod eu hanghenion gyda’r Brifysgol a lle mae hynny’n rhesymol ymarferol dylai’r Brifysgol geisio cynnig dewis amgenC: Gellir – mae gan y myfyriwr hawl i newid yr amser oherwydd byddai hyn yn wahaniaethu ar sail rhyw
75
Cwestiwn 9
Mae myfyriwr yn cwyno bod eu holl ddarlithoedd yn cael eu cynnal gyda’r nos pan mae’n anodd trefnu gofal plant. Nid oedd y wybodaeth a oedd ar gael wrth wneud cais ar gyfer y cwrs yn hysbysebu bod y cwrs yn cynnwys darlithoedd gyda’r nos. A ellir gwneud unrhyw beth ynghylch hyn? B: Gellir – dylai’r myfyriwr drafod eu hanghenion gyda’r
Brifysgol a lle mae hynny’n rhesymol ymarferol dylai’r Brifysgol geisio cynnig dewis amgen
Gall yr arfer o gynnal pob darlith gyda’r nos fod yn wahaniaethu anuniongyrchol os na ellir cyfiawnhau hyn fel arfer cymesur a dilys. Dylai’r Brifysgol ystyried cynnig amseroedd gwahanol os yw hyn yn bosibl.(Dalier sylw: mae’r gofyniad cyfreithiol i weithredu ‘addasiadau rhesymol’ yn berthnasol yn achos anabledd yn unig ac mae’n ofyniad mwy cadarn nag ystyried trefniadau gwahanol ar gyfer grwpiau eraill)
76
Cwestiwn 10
Mae myfyriwr sy’n mynychu gweithgareddau cymdeithasol yn cwyno bod yr holl weithgareddau’n ymwneud ag alcohol a bod hyn yn broblematig o ran eu credo crefyddol. Beth allan nhw ei wneud? A: Dylent siarad ag Undeb y Myfyrwyr (neu drefnydd y gweithgaredd) i drafod eu pryderonB: Dylent beidio â mynychu’r digwyddiadau hyn a chymdeithasu â myfyrwyr sydd â chredoau tebyg
77
Cwestiwn 10Mae myfyriwr sy’n mynychu gweithgareddau cymdeithasol yn cwyno bod yr holl weithgareddau’n ymwneud ag alcohol a bod hyn yn broblematig o ran eu credo crefyddol. Beth allan nhw ei wneud?
A: Dylent siarad ag Undeb y Myfyrwyr (neu drefnydd y gweithgaredd) i drafod eu pryderonMae gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i ystyried anghenion myfyrwyr ac i hyrwyddo perthynas dda rhwng myfyrwyr sydd â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Ni ddylai gweithgareddau atal rhai grwpiau’n anuniongyrchol rhag cymryd rhan a dylid darparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhai gweithgareddau di-alcohol.
78
Sut gwnaethoch chi…..
Os ateboch chi lai na chwe chwestiwnyn gywir, efallai y byddwch chi eisiau ail-ddarllen y sleidiau i sicrhau eich bod wedi deall y wybodaeth a gynigiwyd neu gallwch gysylltu â’r Uned Cydraddoldeb am eglurhad ynghylch unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y sleidiau.
79
Am fwy o wybodaeth neu adborth ynghylch y modiwl hwn, cysylltwch â Catrin Morgan: [email protected], Ffôn: 02920 870230
80