30
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Chapter Hydref 2012

  • Upload
    chapter

  • View
    250

  • Download
    3

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Chapter Hydref 2012

Citation preview

Page 1: Chapter Hydref 2012

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Hydref 2012

Mae Chapter yn ganolfan gelfyddydol ryngwladol sy’n adnabyddus am wneud i bethau ddigwydd. Rydym yn canolbwyntio ar gelfyddyd a chynulleidfaoedd ac ar greu mannau artistig a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar ein ffyrdd o feddwl, ein syniad o’r hyn ydym a’r hyn yr hoffem fod. Rydym yn mwynhau risg a her. A mwynhad ynddo’i hun. Rydym yn fan cyfarfod ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth ac arloesi. Gallwch hefyd ddod i Chapter i ymlacio a sgwrsio, mewn awyrgylch cartrefol a chroesawgar.

ChapterHeol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

CROESOAndy EagleCyfarwyddwrDiolch yn fawr i Renault Caerdydd am gefnogi ein polisi ecolegol drwy noddi fan Kangoo 100% trydan. Mae Renault Caerdydd yn un o nifer o noddwyr, cyllidwyr, sefydliadau ac unigolion sy’n ein helpu i leihau’r bwlch rhwng y 70% o incwm y codwn ein hunain a’r swm y mae ei angen arnom i gynhyrchu, cyflwyno a hyrwyddo miloedd o ddigwyddiadau bob blwyddyn.

Mark PerrisTywysydd Gwirfoddol Dw i’n edrych ymlaen yn arw at weld Barbara (t21) - dw i wrth fy modd â Berlin fel dinas ac mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn hanes a straeon hen ddwyrain a gorllewin Berlin.

Croeso02 chapter.org

Page 3: Chapter Hydref 2012

Oriel tudalennau 4–7

Theatr tudalennau 8–15

Sinema tudalennau 16–27

Chapter Mix tudalen 14

Bwyta, Yfed, Llogi tudalen 28

Cefnogwch ni tudalen 29

Gwybodaeth tudalen 32

Amserlen & sut i archebutudalen ganol

03Uchafbwyntiauchapter.org

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Cerdyn ChapterGallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C.Cerdyn Sengl: £20/£10Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref)Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision – byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

CYMRYD RHAN

Page 4: Chapter Hydref 2012

Oriel ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar dydd Llun

Oriel04 029 2030 4400

ORIEL

Patricia Piccinini, The Long Awaited (Portrait), 2008.Silicôn, gwydr ffibr, gwallt dynol, lledr, pren haenog, dillad. Â chaniatâd yr artist, Haunch of Venison ac Oriel Roslyn Oxley9.

Page 5: Chapter Hydref 2012

THE FUTURE’S NOT WHAT IT USED TO BEVernon Ah Kee, Tony Albert, Darren Almond, Matt Bryans, Susan Hiller, Jeremy Millar, Patricia Piccinini, Marjetica Potrč, Amie Siegel, Monika Sosnowska Curadwyd gan Deborah SmithGwener 21 Medi — Sul 4 Tachwedd

Mae ein harddangosfa ddiweddaraf yn cynnwys gwaith gan ddeg artist rhyngwladol sy’n archwilio cysyniadau yn ymwneud â’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, mae’r artistiaid yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol ar dirwedd sy’n newid ac yn ein hannog i ddiffinio ac ailddiffinio ein perthynas â’r byd. Mae Susan Hiller, Vernon Ah Kee a Tony Albert yn rhoi llais i ddiwylliannau brodorol yn y gobaith y gallwn ddysgu gwersi’r gorffennol; mae gweithiau pensaernïol a cherfluniol Marjetica Portč a Monika Sosnowska yn archwilio barddoneg a gwleidyddiaeth lle; mae Amie Siegel a Jeremy Millar yn archwilio’r modd y mae digwyddiadau hanesyddol yn atseinio yn ein dealltwriaeth a’n profiad o’r presennol;Mae Patricia Piccinini yn gwneud i ni ystyried natur newidiol ein hamgylchfyd; mae Darren Almond a Matt Bryans yn marcio, yn trin ac yn dileu amser.

Oriel 05chapter.org

Derbyniodd yr arddangosfa hon gefnogaeth gan Sefydliad Henry Moore a Llywodraeth Queensland trwy gyfrwng Asiantaeth Marchnata ac Allforio Celfyddydau Brodorol (QIAMEA). Darparwyd nawdd ychwanegol gan GB-Sol a City Satellite.

Hannah Firth Pennaeth Celfyddydau Gweledol & BywRydym yn falch o fod yn un o leoliadau allweddol Caerdydd Gyfoes — menter sy’n cynnwys canolfannau ledled y ddinas ac sy’n rhoi sylw i’r cyfoeth o gelfyddyd weledol a’r gwaith dylunio sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Mae mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r hydref ar gael ar www.cardiffcontemporary.co.uk.

Page 6: Chapter Hydref 2012

Tooth & Clawr Mawrth 23 Hydref 7pmYng nghwmni Kathryn Ashill a Phil Owen, mae ein grŵp darllen, wedi’i arwain gan artistiaid, yn hyrwyddo ymwneud beirniadol a thrafodaeth ehangach o’n rhaglen o arddangosfeydd. Mae’r grŵp yn astudio deunydd darllen o amrywiaeth eang o ffynonellau — ffuglen, damcaniaethau a gweithiau mwy ymylol. Mae’r trafodaethau bob amser yn fywiog a diddorol ac wedi’u strwythuro er mwyn rhoi sylw i wahanol agweddau ar bob arddangosfa. Mae’r grŵp yn cynnwys uchafswm o 15 person ymhob trafodaeth felly archebwch le mewn da bryd — ar wefan Chapter neu yn y swyddfa docynnau. £3 www.toothandclawr.blogspot.co.uk

Come Along DoIau 1 TachweddWedi’i gadeirio gan Gill Nicol, mae’r digwyddiad hwn, ar ôl y dangosiad, yn defnyddio’r ffilm Diana Vreeland: The Eye Has to Travel (gweler t21) fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth fanwl a bywiog o gelfyddyd a ffilm.£2.50 (Nifer cyfyngedig o leoedd — archebwch mewn da bryd. Bydd angen archebu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân).

Oriel06 029 2030 4400

Ym 1854, cynigiodd llywodraeth yr Unol Daleithiau ‘brynu’ ardal fawr o dir Indiaidd; yn gyfnewid, cafwyd addewid o ‘diriogaeth’ ar gyfer y bobl Indiaidd. Mae comisiwn blwch golau Vernon Ah Kee yn gyfeiriad at ymateb dwys Chief Seattle i’r cynnig hwn. Mae ei waith hefyd yn sylw ar yr anghydraddoldebau cymdeithasol a gwleidyddol sy’n dal i wynebu pobl frodorol Awstralia.

Ganwyd Vernon Ah Kee ym 1967 yn Innisfail, Queensland, yn ddisgynnydd i bobl y Kuku Yalandji, y Waanji, yr Yidinji a’r GuGu Yimithirr. Mae’n byw ac yn gweithio yn Brisbane bellach. Mae gwaith Ah Kee yn feirniadaeth, yn y lle cyntaf, o ddiwylliant poblogaidd Awstralia ac yn benodol y ddeuoliaeth o Ddu a Gwyn. Darn a gomisiynwyd yn rhan o The Future’s Not What It Used To Be (gweler t5).

Vernon Ah Kee: theendoflivingandthe beginningofsurvival

Page 7: Chapter Hydref 2012

Phil Collins This Unfortunate Thing Between UsSadwrn 6 Hydref — Sul 13 Ionawr

Y tu allan i fynedfa’r ganolfan, mae dau garafán ail-law yn cyflwyno’r première Prydeinig o osodiad fideo Phil Collins sy’n seiliedig ar ei berfformiad diweddar o’r un enw. Wedi’i gyflwyno am y tro cyntaf yn 2011 yn theatr Hebbel am Ufer yn Berlin, ac ar deledu cyhoeddus yn yr Almaen, mae This Unfortunate Thing Between Us yn cynnwys dau ddarllediad byw.Gyda chriw o actorion a gweithwyr porn, a cherddoriaeth fyw gan Gruff Rhys ac Y Niwl, mae This Unfortunate Thing Between Us yn defnyddio rhesymeg a gramadeg sianel dele-siopa, gan gynnwys cyflwyniadau, arwerthiannau a chyfle i ffonio’r rhaglen. Ond yn hytrach na nwyddau, mae gwylwyr yn cael cynnig dewis o brofiadau am brisiau disgownt. Mae TUTBU yn rhoi cyfle i ni wynebu ein dyheadau a’n hofnau cyfoes ac yn uno cynulleidfa fyw a gwylwyr yn eu cartrefi i gynnig cipolwg ar ddyfodol diwylliant prynwriaeth.Mae ffilmiau, ffotograffau, gosodiadau a digwyddiadau byw Phil Collins yn aml yn defnyddio elfennau o fyd teledu cyllideb isel a diwydiant adloniant i archwilio goblygiadau gwleidyddol ac esthetig fformatau gweledol poblogaidd. Mae ei gydweithwyr wedi cynnwys cyn-athrawon Marcsiaeth yn yr hen GDR a ‘skinheads’ gwrth-ffasgaidd ym Malaysia, ffans The Smiths ar dri chyfandir a Phalesteiniaid sy’n dawnsio disgo.

Cyflwynir y gwaith yn Chapter yn rhan o Artes Mundi 5. I gael mwy o wybodaeth am Artes Mundi, yr artistiaid ar y rhestr fer neu’r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ewch i www.artesmundi.org.

Oriel 07chapter.org

BywgraffiadMae Phil Collins yn gweithio yn Berlin a Cologne. Mae’n athro celfyddyd gyda’r Kunsthochschule für Medien. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Oriel Gelf Queensland, Oriel Celfyddyd Fodern, Brisbane (2012); y British Film Institute, Llundain (2011); Tramway, Glasgow (2009). Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Revolution vs Revolution, Canolfan Gelfyddyd Beirut a Hors pistes 2012, Canolfan Pompidou, Paris (y ddwy yn 2012); Museum der Wünsche, MUMOK, Fiena; Berlin 2,000-20011, Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Tokyo; a Ostalgia, yr Amgueddfa Newydd, Efrog Newydd (pob un yn 2011). Dangosodd ei waith hefyd mewn bienalau yn Singapore (2011), Berlin (2010), Gwobr Turner (2006) ac Istanbul (2005). Cafodd ffilmiau Collins eu dangos mewn gwyliau ffilm rhyngwladol, gan gynnwys Rotterdam, Oberhausen, a Berlin. Mae ei waith i’w weld mewn casgliadau cyhoeddus o bwys, sy’n cynnwys y Tate, Llundain; MoMA, Efrog Newydd, a Chanolfan Gelfyddyd Walker, Minneapolis.

Ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Page 8: Chapter Hydref 2012

“Hiwmor, creadigrwydd, dychymyg... Roeddwn i wrth fy modd” aelod o’r gynulleidfa (Teifi Emerald)

Theatr08 029 2030 4400

THEATR

Teifi

Em

eral

d

Cathy BoyceCydlynydd y Rhaglen (Theatr)Mae buddsoddiad diweddar mewn technoleg ddarlledu lloeren yn ein sinema wedi agor y drws ar gyfer ystod newydd o bosibiliadau cyffrous. Un o’r rhain yw sgrinio National Theatre Live (gweler t15), lle byddwch chi’n rhan o brofiad theatr fyw yn South Bank Llundain. Mae’n gyfrwng newydd cyffrous ac yn un dw i falch iawn y gall Chapter fod yn rhan ohono. Mwynhewch!

Page 9: Chapter Hydref 2012

Teifi EmeraldIau 4 —Sadwrn 6 Hydref 8pm

“Mae yna adegau pan fyddwn yn teimlo gormod o embaras i symud, ac yn rhy ofnus i siarad. Yna, weithiau, rydym yn rhyddhau’r bwystfilod y tu fewn i ni. Ac r’yn ni’n dechrau gwneud pethau yr ydym wedi dyheu am gael eu gwneud erioed.”

Mae Teifi’n treiddio’n ddwfn i gilfachau cudd ei dychymyg, yn brwydro’r cythreuliaid ac yn teithio i diroedd anhysbys. A fydd ei bwystfilod mewnol yn ei threchu neu yn ei hysgogi hi i ddod o hyd i rywbeth mwy, rhywbeth gwyllt?Mae’r perfformiad doniol, hudolus, unigryw hwn yn cyfuno elfennau stand-up, theatr gorfforol, adrodd straeon, canu a dawnsio, pypedau, parodi a’r abswrd.£9/£7/£6 www.teifiemerald.net

The Devil’s Violin Company: A Love Like SaltMercher 10 Hydref 8pmWrth ddatgloi’r chwedlau gwerin anghofiedig a ysbrydolodd rai o weithiau mwyaf llenyddiaeth Saesneg, mae The Devil’s Violin yn ein harwain ar daith i ddarganfod y Brenin Arthur yn Camelot, arfordir Llydaw a Phrydain hynafol y Brenin Llŷr. Mae A Love Like Salt yn glytwaith cyfoethog sy’n llawn o hud a moesau, cariadon a dihirod, dyhead a dyfais.Gyda chymorth rhythmau dramatig a medrus triawd o linynnau ac acordion, mae Daniel Morden — un o storïwyr mwyaf grymus a nodedig y DG — yn creu cyfuniad hudolus a hypnotig o gerddoriaeth a geiriau.Ffidil: Oliver Wilson-Dickson. Soddgrwth: Sarah Moody. Acordion: Luke Carver Goss. Cyfarwyddwr: Sally Cookson.Addas i’r rheiny dros 12 oed Cyflwynir ar y cyd â Beyond The Border £12/£10/£8 www.thedevilsviolin.co.uk

“Sioe sy’n dangos, trwy lais a cherddoriaeth, bod hudoliaeth i’w chael ymhobman” The Times

Beyond the Border Pas de DeuxDydd Mawrth 23 Hydref 8pmPwy gymrodd y cam cyntaf, y fenyw neu’r dyn? Gan dynnu ar fytholeg a chwedlau gwerin, mae Pas de Deux yn archwiliad tyner ac ingol o gysylltiadau dynol â byd mewnol breuddwydion. Mae hefyd yn archwilio’r cydblethu perffaith rhwng stori a cherddoriaeth, pas de deux gosgeiddig rhwng Abbi Patrix, un o storïwyr mwyaf Ewrop, a’r cyfansoddwr/cerddor byrfyfyr o Ddenmarc, Linda Edjsö (marimba, fibraffon, offerynnau taro).Ysgrifennwyd ar y cyd â’r awdur a’r beirniad Erica Wagner £10/£8

+ Dosbarth Meistr mewn adrodd straeon cerddorol i berfformwyr proffesiynol, ar ddydd Mercher 24 a dydd Iau 25 Hydref. Manylion cyswllt llawn gan [email protected]

“Mor ddawnus wrth drosglwyddo egni, hiwmor ac emosiwn fel bod rhai wedi mynnu ei fod yn siaman yn hytrach na storïwr” — The Times (am Abbi Patrix)

Fifth Word Bones gan Jane UptonDydd Sadwrn 13 Hydref 8pm

“Dyw hi ddim yn teimlo fel mam i fi. Dyw hi ddim yn gwneud y pethau mae mamau yn eu gwneud. Mae hi’n meddwi ac yn cymryd cyffuriau ac yn ceisio cysgu gyda fy ffrindiau.”

Nottingham, 1998. Mae Mark, pedair ar bymtheg oed, yn byw bywyd na ddewisodd ei fyw. Yn ysgwyddo’r baich o ofalu am ei fam a’i baban, ac yn hiraethu am orffennol o Panda Pops, bara wy a Brian Clough, mae Mark yn gwybod bod yn rhaid iddo wneud rhywbeth eithafol. Ond a fydd e’n gallu gwneud y dewis ingol a fydd yn newid pethau am byth?Portread poenus o onest am fachgen sy’n ceisio dod o hyd i’w le mewn byd di-hid. Bydd Bones yn torri eich calon cyn gwneud i chi ofyn pam eich bod wedi poeni cymaint yn y lle cyntaf.Cyflwyniad ar y cyd â’r Nottingham Playhouse. £12/£10/£8

Theatr 09chapter.orgO’

r Chw

ith

i’r D

de: A

Lov

e Li

ke S

alt,

Bon

es

Page 10: Chapter Hydref 2012

Theatr na n’Óg: The Sinking of The Arandora Star Iau 11 Hydref 1.30pm (perfformiad Cymraeg)+ 6.30pm (perfformiad Saesneg)Pan ymunodd yr Eidal â’r Ail Ryfel Byd, dywedodd yr awdurdodau taw gelynion oedd yr Eidalwyr hynny oedd yn byw ym Mhrydain. Mae’r ddrama’n dilyn hanes Lina, sy’n gweld ei thad yn cael ei arestio cyn cael ei gludo i wersyll caethiwed yng Nghanada. Roedd yr Almaenwyr yn credu taw llong filwrol oedd y llong a’i cludai i Ganada ac fe ymosododd U-boat arni. Collodd nifer o Eidalwyr Cymreig eu bywydau.Mae hanes ffeithiol y digwyddiadau hyn wedi’i blethu ag ymgais Lina i ganfod y gwirionedd am ddiflaniad ei thad.Addas i blant 9+ oed £5 (yn ystod y dydd) £10/£8/£6 (gyda’r nos)

Theatr Iolo: Grimm TalesLlun 15 & Mawrth 16 Hydref 7pmLiw nos, mae’r lleuad yn cuddio y tu ôl i gwmwl ac, yn nwfn y fforest dywyll, mae dau blentyn ar goll, yn llwglyd ac yn ofnus ...Mae merch ifanc, heb wely, wedi llwyr ymlâdd ar ôl ei gwaith, ac yn gorwedd i lawr yn y lludw. Mae ei llyschwiorydd, eu calonnau fel drain, yn chwerthin ar ei phen.Mae cwmni gwobrwyol Theatr Iolo yn cyflwyno golwg newydd hudolus ar straeon doniol, swynol, creulon a chwerw-felys y Brodyr Grimm, mewn cyfieithiad gan y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy, wedi’i ddramateiddio gan Tim Supple.Gan gynnwys Ashputtel (y stori Cinderella wreiddiol) a Hansel a Gretel, bydd rhai o’r straeon yn gyfarwydd - eraill efallai’n fwy anghyfarwydd.Addas i deuluoedd, mwyaf addas i blant 6+ oed £8/£5 @theatriolo www.grimmtales.net

Likely Story: The Locked Door Sadwrn 27 Hydref 2pm + 5pmMae’r bwystfil o dan y gwely yn bodoli! Mae Sebastian yn anghenfil hosan hoffus, sy’n ceisio sylw. Ef yw unig wir gyfaill Amy. Mae Amy wedi dymuno gweld ei llys-dad yn gadael unwaith ac am byth ac mae ei dymuniad ar fin dod yn wir. Gwell iddi ddatrys pethau cyn i unrhyw un ddod i wybod! Mae Amy a Sebastian yn teithio trwy deyrnas ryfedd a hudolus o greaduriaid anghyffredin, siopau gwallgo’, coedwigoedd brawychus a thwndra rhewllyd. A fydd Amy’n cael gweld ei hystafell wely eto?Mae’r stori dylwyth teg fodern hon yn gyfuniad egnïol o grefft adrodd straeon, theatr gorfforol, hiwmor, pypedwaith, syrcas, cerddoriaeth wreiddiol ac ysgrifennu newyddAddas ar gyfer bwystfilod ifainc a hynafol fel ei gilydd. Mae pecyn addysg teuluol yn ategu’r cyflwyniad. £6/£5

The Adventures of Alvin Sputnik by Tim WattsIau 11 Hydref 7.30pmMewn cyfuniad llawn dychymyg sy’n cynnwys animeiddio, pypedau, tafluniadau, a cherddoriaeth fyw ac ar dâp, mae’r storïwr meistrolgar Tim Watts yn adrodd hanes Alvin Sputnik sy’n chwilio am ei gariad coll yn nyfnderoedd diddiwedd y môr.Mae’r sioe fendigedig hon — enillydd gwobrau niferus

— yn emosiynol, yn deimladwy ac yn ddoniol. Campwaith fechan i godi calon, wedi’i llwyfannu a’i pherfformio â dyfeisgarwch ac egni.Cyflwyniad gan Theatr Mwldan a House o gynhyrchiad Cwmni Theatr Perth a Weeping Spoon, ar daith arbennig yng Nghymru a de Lloegr.£10/£9/£8 (tocyn teuluol arbennig: £30 am 4)Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng Cynllun Cenedlaethol Celfyddydau Perfformio ar Daith.

+ Sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y sioe gyda’r crëwr/perfformiwr Tim Watts

“Un o’r cynyrchiadau mwyaf cain ac annwyl dw i wedi’i weld erioed” — The Scotsman

Theatr10 029 2030 4400

O’r C

hwit

h i’r

Dde

: Grim

m T

ales

, The

Adv

entu

res

of A

lvin

Spu

tnik

Page 11: Chapter Hydref 2012

Tim KeyLlun 8 Hydref 7.30pm + 9.30pmMae Tim Key yn ymweld â Chapter yn rhan o’i daith ledled y wlad. Mae e’n dal i dywallt ei farddoniaeth dros bobman. Ac mae e’n 35 oed erbyn hyn.£14/£13/£12 (dim tocynnau ar ôl – lle ar y rhestr aros yn unig)

Ava Vidal Goes DutchGwener 12 Hydref 8pm Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn y West End yn gynharach eleni, mae seren Mock The Week a Michael McIntyre’s Comedy Roadshow yn dychwelyd â sioe newydd sbon sy’n cwestiynu syniadau o gymuned a chyfrifoldeb. Faint ddylen ni ei rannu? Ac a fyddai’r byd yn lle gwell pe bai pob un yn hunan-gynhaliol ac yn gofalu am neb ond ef neu hi ei hun?£12/£10 www.avavidal.co.uk

“Mae Vidal yn jyglo’r dwys a’r amharchus ac yn symud mewn chwinciad rhwng y naill a’r llall.” — Chortle

Bridget Christie War DonkeySul 14 Hydref 8pmBeth yw Torïaid ffeministaidd? Sut oedd Hitler yn dewis ei gawl mewn tai bwyta? Pam nad oes blockbuster gan Spielberg am asynnod, a pham oedd y Cyrnol Gadaffi yn casáu’r anifeiliaid hynny? Mae Bridget Christie yn gwybod yr atebion. A bydd hi’n gwisgo stilts.Comedi stand-up swreal a miniog, a chyflwyniadau grotesg gan berfformiwr sydd wedi ymddangos ar y News Quiz ar Radio 4, yn Cardinal Burns ar E4, ar Sarah Millican’s Support Group ac ar Harry Hill’s Little Internet Show. Roedd sioe Christie yng Nghaeredin yn 2010, A Ant, ar restr 10 Uchaf yr adolygiadau gorau y flwyddyn honno ac fe’i cyflwynwyd mewn eitem ar The Culture Show ar BBC2.£10/£9/£8 www.bridgetchristie.co.uk

“Gwallgofrwydd gwirioneddol a hardd” Sunday Times

Pappy’s: Last Show Ever!Thu 8 Nov 8pm Mae Pappy’n dychwelyd â sioe newydd sbon sy’n llawn o sgetsys, caneuon a ffolineb. Ond ai dyma ddiwedd y daith i ‘griw sgetsys mwyaf doniol y

“Fringe” ‘? (Scotsman)Enwebiadau ar gyfer Gwobr Caeredin, Enillwyr Gwobr Chortle, enillwyr Loaded LAFTA£10/£9/£8 www.pappyscomedy.com

“Perfformiad rhyfeddol, jôc-bob-eiliad” — Chortle

Theatr 11chapter.org

COMEDi

Page 12: Chapter Hydref 2012

Joanna Young Re–Creating PenGwynWed 24 + Thu 25 Oct 8pmCymysgedd swreal o theatr ddawns wedi’i hysbrydoli gan nodweddion a chynodiadau un pengwin arbennig o ryfedd.Yn gweithio gyda thîm eithriadol sy’n cynnwys pedwar artist dawns, mae’r coreograffydd nodedig, Joanna Young, sy’n gweithio yng Nghymru, yn cyflwyno ei chynhyrchiad cyflawn newydd. Gallwch ddisgwyl delweddau trawiadol, coreograffi cymhleth, cain ac aml-haenog, perfformiadau magnetig a chyfosodiad chwareus rhwng y cynnil a’r eithafol.£12/£10/£8

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr y Fwrdeistref, Chapter, Creu Cymru, Dance Blast y Ganolfan Ddawns a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

www.alicetheatre.wordpress.com

Theatr12 029 2030 4400

Llun

: Iai

n Pa

yne

Page 13: Chapter Hydref 2012

Gŵyl SŵnIau 18 — Sul 21 HydrefMae gŵyl gerddoriaeth Caerdydd yn dychwelyd am bedwar diwrnod mewn lleoliadau amrywiol ledled y ddinas, i gyflwyno rhai o’r bandiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gorau. Â’r ffocws yn dal i fod ar artistiaid newydd ac addawol, mae yna ddetholiad hefyd o fandiau adnabyddus ynghyd â rhaglen ehangach o ddigwyddiadau celfyddydol cysylltiedig. Mae’r rhaglen yn Chapter eleni yn eithaf anhygoel — bydd setiau gan grwpiau fel Islet, Scritti Politti, The School a Dry The River, ynghyd â rhifyn arbennig o In Chapters.Gallwch weld y rhestr lawn o berfformiadau yn Chapter ar www.chapter.org a mwy o wybodaeth am yr holl fandiau a’r lleoliadau ledled y ddinas ar www.swnfest.com.

Mae breichledau’r ŵyl ar gael ar www.swnpresents.com, www.TicketLineUK.com ac yn Spillers Records, Arcêd Morgan, Caerdydd.

MAN ARALL: ROCKIN’ CHAIR

Give it a Name: RudeMercher 24 Hydref - Sadwrn 3 Tachwedd 8pmMae yna lywodraeth Dorïaidd newydd. Mae swyddi’n brin. Does dim siâp ar y tywydd. Ond rhywle mewn clwb dros dro, mae pobl yn dawnsio i dôn newydd. Mae hi’n 1980. Caerdydd yw’r lle. Ska yw’r gerddoriaeth. Ac mae’r ‘rude boys’ ar eu ffordd...Ar ôl y cynhyrchiad gwreiddiol yn 2010, a oedd yn llwyddiant ysgubol, mae Give It A Name yn dychwelyd ag adfywiad o Rude! Sioe gerdd ska, wedi’i hysgrifennu gan gyn-aelod o sîn reggae Caerdydd, ac un o’r rudeboys gwreiddiol, Tony Wright.Gyda band byw llawn.Cyfarwyddwr: James Williams.Cynhyrchwyd gan Tony Wright a Give It A Name.Rhan o Fis Hanes Pobl Dduon Cymru 2012. Cynhyrchiad Man Arall ym Mar a Bwyty Caribïaidd y Rockin Chair, Heol y Gadeirlan Isaf, Glan yr Afon. £14/£12 www.giveitaname.net

Gŵyl fer XX o ysgrifennu gan fenywodSadwrn 27 Hydref 2.30pm Prynhawn a noswaith o ffuglen, barddoniaeth, cyfweliadau ac adloniant, yn arddangos gwaith gan ac i fenywod o Gymru a’r byd.Bydd y cyfranwyr yn cynnwys Nikita Lalwani, a enwyd ar restr hir y Booker, y bardd gwobrwyol, Rhian Edwards, enillydd gwobr Dylan Thomas, Rachel Trezise, a Roshi Fernando, awdur straeon byrion a gyrhaeddodd restr fer gwobr y Sunday Times.Mae’r digwyddiad agoriadol yn anelu at ddod â darllenwyr, awduron newydd a sefydledig, golygyddion a beirniaid at ei gilydd i fwynhau’r ystod a’r cyfoeth cynyddol o ysgrifennu gan fenywod o Gymru yn Saesneg.£15 (tocyn dydd)/£4 (fesul digwyddiad) Gyda chefnogaeth Penguin, Seren, Honno, Parthian, Prifysgol Morgannwg, WM, Gomer, Llenyddiaeth Cymru, The Co-operative a Chapter.

Omidaze Productions Things Beginning with MLlun 29 Hydref — Gwener 2 Tachwedd 8pm Sut mae menywod yn adrodd eu hanesion wrth ei gilydd? Sut mae menywod yn mapio’u teithiau trwy fenywdod, o lencyndod i henaint? Ble mae menywod yn rhannu eu gwybodaeth, eu cyngor, eu ffeithiau a’u straeon, eu gwirioneddau, eu doethineb a’u cyfrinachau fel y gallwn ni ddysgu gan ein gilydd? A pham fod popeth yn dechrau gydag M?Cyfuniad arbrofol a chydweithredol o theatr, ysgrifennu newydd, comedi, symudiad a chelfyddyd weledol yn defnyddio straeon menywod go iawn.Cyfarwyddwr: Yvonne Murphy. Awdur: Emily Steel.Symudiad: Sarah Hall. Artist Gweledol: Katie RigbyMC: Taylor Glenn£10/£8

Theatr 13chapter.orgO’

r Chw

ith

i’r D

de: R

ude

(Llu

n: J

orge

Liz

alde

), T

hing

s Be

ginn

ing

wit

h M

Page 14: Chapter Hydref 2012

Dydd Iau CyntafIau 4 Hydref 7.30pmBydd Seren a Llenyddiaeth Cymru yn cychwyn tymor arall o ddathlu ffuglen, ysgrifennu ffeithiol a barddoniaeth o’r radd flaenaf. Dewch draw i gwrdd ag awduron gwych ac i’w clywed nhw’n darllen o’u gwaith; neu gallwch gymryd rhan yn y sesiwn ‘meic agored,’ lle bydd cyfle i awduron newydd ddarllen cerdd neu dudalen o ryddiaith. Bydd y bardd a’r ymgyrchydd amgylcheddol Emily Hinshelwood yn darllen o’i chasgliad cyntaf o farddoniaeth a’r nofelydd arobryn Lloyd Jones yn darllen o’r llyfr diweddaraf yng nghyfres boblogaidd Seren yn seiliedig ar chwedlau’r Mabinogion.£2.50

On The Edge Moist gan Neil BebberMawrth 9 Hydref 8pm

“Roedd gan i gymaint o gôc ag y gallwn i’i stwffio yn fy nhrwyn, cymaint o ferched ag y gallwn i’u ffitio yn fy nhwb poeth a mwy o arian nag y gallwn i fod wedi’i wario byth. Ac wyddoch chi beth? Dw i ddim yn gweld eisiau unrhyw beth. Ond byddwn i’n rhoi fy mraich dde i gael un cyfle arall i sefyll yno ar y llwyfan a gwneud i bobl chwerthin eto. Fel yna, efallai y deuai hi’n ôl ataf.”Y sesiwn ddiweddaraf o ddarlleniadau sgript-mewn-llaw Michael Kelligan. Gyda Nathan Sussex. Cyfarwyddo gan Mathilde Lopez.£4

Clwb Comedi The DronesGwener 5 + Gwener 19 Hydref 8.30pm Clint Edwards yn cyflwyno’r digrifwyr stand-up newydd gorau.£3. 50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 7 Hydref 8pmDewch i rannu a gwrando ar ddetholiad hyfryd o straeon — real neu ddychmygol ond gwir bob gair bob un.£4 (wrth y drws)

Clonc yn y CwtchLlun 8 Hydref 6.30pm-8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb!Ar y cyd â Menter Caerdydd. Rhad ac am ddim

Darlith SWDFAS Iau 11 Hydref 2pmMae Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnedig De Cymru’n croesawu Jen Jones, sy’n rheoli Canolfan Cwiltiau Cymreig Llanbedr Pont Steffan, i siarad am ei hoffter o gwiltiau Cymreig ac i rannu ei hanesion diddorol. £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar ofod) www.jen-jones.com www.swdfas.org.uk

Music Geek MonthlyIau 27 Medi + Iau 25 Hydref 8pm + Sadwrn 6 Hydref 3.30pm Dewisir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon i’w trafod yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig yn ystafell foethus Sinema 2 ar ddydd Sadwrn.RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Bwrw’r Sul â Gêmau BwrddSul 14 Hydref 5.30pm Ymunwch â siop gêmau gyfeillgar Caerdydd, Rules of Play, yn ein Caffi Bar yn y noson gêmau fisol hon. Dewch â’ch hoff gemau bwrdd — neu gallwch ddod yn waglaw a benthyg gêm am y noson.RHAD AC AM DDIM

Jazz ar y SulSul 21 Hydref 9pmNoson o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM

Chapter Mix14 029 2030 4400

CHAPTER MIX

Moi

st

Page 15: Chapter Hydref 2012

Theatr 15chapter.org

NATIONAL THEATRE LIVE:Cynyrchiadau Theatr o safon byd wedi’u darlledu’n fyw o Lundain.Os hoffech chi archebu diod ymlaen llaw ar gyfer yr egwyl, gwnewch hynny yn ein caffi/bar cyn y perfformiad.

The Last of the HaussmansIau 11 Hydref 7pm165 mun. Gyda Julie Walters, Rory Kinnear, Helen McCrory.

Mae drama newydd Stephen Beresford yn bortread doniol, teimladwy a ffyrnig ar brydiau o deulu sy’n llawn dyheadau ac sydd o dipyn i beth yn colli gafael ar bethau.Yn dilyn llawdriniaeth, mae cyn aelod o’r gymdeithas freintiedig, Judy Haussman, yn derbyn ei theulu yn ei hen dŷ Art Deco ar arfordir Dyfnaint. Maen nhw’n treulio rhai misoedd poeth gyda’i gilydd, ac yn ceisio ffoi rhag byd amheus ac anhrefnus o yfed drwy’r dydd, cariad ffôl, hen ddicter, caru rhydd a methiant.£15/£10

Timon of AthensIau 1 Tachwedd 7pm150 mun. Gyda Simon Russell Beale.

Yn ffrind cyfoethog i aelodau o gymdeithas gyfoethog a phwerus, mae Timon o Athen yn hael ei roddion a’i letygarwch i elit y ddinas. Mae e’n gorwario ond pan aiff i alw ar y rheiny oedd yn ffrindiau iddo gynt, maen nhw’n ei anwybyddu a’i wfftio. Mae Timon yn ffoi i dir diffaith llythrennol ac emosiynol ac yn bytheirio melltithion swreal yng nghyfeiriad Athen — dinas sydd, yn ei dyb ef, wedi colli pob rhithyn o foesoldeb. Rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd, cynhyrchiad gan y Cwmni Shakespeare Brenhinol ar gyfer Gŵyl Llundain 2012.£15/£10

GŴYL DDYLUNIO CAERDYDDGwener 28 Medi — Sadwrn 13 HydrefMae’r dathliad blynyddol hwn o sgiliau ac angerdd dylunwyr ein dinas yn rhoi sylw i’r sector ac yn dangos sut mae dylunio’n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Gweler y manylion ar d17 ynglŷn â’r ffilm am y dylunwyr Charles a Ray Eames. I weld amserlen lawn yr ŵyl, mewn lleoliadau ledled Caerdydd, ewch iwww.cardiffdesignfestival.org.

Dylunydd a Cherddor yn Cerdded Mewn i FarLlun 1 Hydref 8pmBeth yw dylunio? A yw’r cysyniad yn perthyn yn rhy agos at syniadau o ffurf a swyddogaeth, ac at gynhyrchu pethau smart a newydd? A yw’n arwain at ofyn y cwestiynau moesegol pwysig ynglŷn â sut i fyw’n dda, neu sut y dylem fyw? Cwestiynau y byddai’n afresymol disgwyl i unrhyw un dylunydd wybod yr atebion iddyn nhw...Ymunwch â Clive Cazeaux, Athro Estheteg yn Ysgol Gelfyddyd a Dylunio Caerdydd, am noson o athroniaeth tŷ tafarn yn ein Caffi Bar.

Noson PechaKucha CaerdyddMawrth 2 Hydref 6.30pmMae PechaKucha yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n cynnwys siaradwyr dethol fydd yn rhannu eu gwybodaeth trwy gyfrwng 20 o ddelweddau, pob un wedi’i dangos am 20 eiliad. Mae’n fformat sy’n sicrhau cyflwyniadau cryno ac yn cadw pethau’n sionc, ac mae hynny’n arwain at greu stori a thensiwn trwy gyfleu ac awgrymu.Mae pob digwyddiad yn cynnwys pobl greadigol o feysydd mor amrywiol â dylunio, pensaernïaeth, ymchwil, gwyddoniaeth, iechyd, y celfyddydau perfformio a gweledol, llenyddiaeth, cerddoriaeth, y gair ar lafar, addysg, busnes a mwy.Mae Noson PechaKucha (hawlfraint) yn gysyniad a ddyfeisiwyd ac a gyflwynir gan Benseiri Klein Dytham. Rhan o Ŵyl Ddylunio Caerdydd 2012 Rhad ac am ddim (archebwch docynnau yn Chapter os gwelwch yn dda neu o wefan www.mabjones.com) www.pecha-kucha.org

Pech

aKuc

ha

The

Last

of t

he H

auss

man

s

Page 16: Chapter Hydref 2012

“drama gyfnod gyffrous, feddiannol a modern. Cyfareddol.” Empire (Anna Karenina)

Sinema16 029 2030 4400

SINEMA

Sally Griffith Pennaeth SinemaMae mis Hydref wastad yn fis cyffrous wrth i’r dewis o ffilmiau annibynnol ac o sinemâu byd-eang dyfu a datblygu; mae ein hamserlen yn llawn dop â gwyliau ffilm. Y mis hwn rydym yn cyflwyno Gŵyl Gwobr Iris, sy’n cael ei chynnal am y 6ed tro eleni, detholiad o ffilmiau cerddoriaeth yn rhan o ŵyl Sŵn, ac mae Gŵyl Ffilm Abertoir yn cynnig detholiad dieflig o ffilmiau Calan Gaeaf.

Page 17: Chapter Hydref 2012

Anna KareninaGwener 21 Medi — Iau 11 HydrefDG/2012/130mun/12A. Cyf: Joe Wright. Gyda Keira Knightley, Aaron Johnson, Jude Law, Kelly Macdonald.

Wedi’i chaethiwo mewn priodas ddigariad ag un o swyddogion y llywodraeth, mae Anna’n syrthio mewn cariad â’r Vronsky ifanc, ac yn cychwyn drwy hynny gyfres o ddigwyddiadau fydd yn arwain at ei chwymp. Mae Joe Wright yn ein tywys i gyfnos y Rwsia imperialaidd yn y stori glasurol hon o genfigen, rhagrith, dyletswydd teuluol, tynged a dyhead.+ Bydd ein grŵp ffilm a llên rhad ac am ddim, Addasiadau/Adaptations, yn cyfarfod ar ôl y dangosiad ar ddydd Iau 27 Medi i drafod y ffilm a nofel gysylltiedig Tolstoy. Archebwch eich tocynnau o’r swyddfa docynnau.

LawlessGwener 21 Medi — Iau 4 Hydref UDA/2012/115mun/18. Cyf: John Hillcoat. Gyda Tom Hardy, Jason Clarke, Jessica Chastain.

Mae’r stori gangster epig hon yn seiliedig ar stori wir am y Brodyr Bondurant, brodyr enwog yng nghyfnod

‘bootlegging’ a’r gwaharddiad ar alcohol yn Virginia. Caiff eu teyrngarwch at ei gilydd ei brofi i’r eithaf gan yr Asiant Arbennig Charlie Rakes a’i ddulliau anarferol.

Ping PongGwe 28 Medi — Iau 4 Hydref DG/2012/80mun/PG. Cyf: Hugh ac Anson Hartford. Gyda Les D’Arcy, Terry Donlon, Lisa Modlich.

Mae Les D’Arcy, 89, ar ei ffordd i Fongolia Fewnol i gystadlu yn y Pencampwriaethau Tenis Bwrdd i bobl dros 80 oed. Ond dyw e’n ddim ond crwtyn ifanc o’i gymharu â’r cystadleuwyr eraill yn y twrnamaint, sy’n cynnwys Dorothy DeLow; mae hi’n 100 mlwydd oed ac yn seren ddisglair yn y byd dethol hwn. Mae’r ffilm yn ymwneud â dycnwch yr ysbryd dynol lawn gymaint â’r gystadleuaeth am y fedal. Mae yna bortreadau personol a gonest o fywyd nôl adre’ sy’n archwilio gobaith, siom ac uniongyrchedd y profiad o heneiddio.

Eames: The Architect and The PainterGwe 28 Medi — Iau 4 Hydref UDA/2012/84mun/12A. Cyf: Jason Cohn, Bill Jersey.Adroddwr: James Franco.

Mae Charles a Eames Ray, sy’n ŵr a gwraig, yn cael eu hystyried gan nifer yn ddylunwyr pwysicaf America. Yn fwyaf adnabyddus, efallai, am eu dodrefn o bren haenog a gwydr ffibr tua chanol yr 20fed ganrif, creodd Swyddfa Eames amrywiaeth ryfeddol o gynhyrchion eraill hefyd, o sblintiau ar gyfer milwyr wedi’u hanafu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i ffotograffiaeth, addurniadau cartref, graffeg, gêmau, ffilmiau a theganau. Mae’r ffilm ddogfen hon yn edrych hefyd ar eu bywydau personol a’u dylanwad ar ddigwyddiadau arwyddocaol yn hanes America.

MovieMaker ChapterLlun 1 HydrefSesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion.RHAD AC AM DDIM (Archebwch docynnau ymlaen llaw os gwelwch yn dda.)

Clwb Ffilmiau Gwael: Crocodile Dundee in LASul 7 HydrefAwstralia/UDA/2001/92mun/PG. Cyf: Simon Wincer. Gyda Paul Hogan, Linda Kozlowski.

Bydd Nicko a Joe yn ychwanegu eu sylwebaeth amharchus fyw at glasur arall o’u casgliad di-ben-draw o ffilmiau gwael. R’ych chi’n cofio Mick Dundee, mae’n siŵr, y dyn sy’n hela’r crocodeil â’i gyllell fawr? Wel, nawr mae e yn LA! A dyw e ddim wedi mynd â llawer o ddrama a chomedi’r ffilm wreiddiol gydag ef.

Sinema 17chapter.orgO’

r Chw

ith

i’r D

de: L

awle

ss, E

ames

: The

Arc

hite

ct a

nd T

he P

aint

er

Page 18: Chapter Hydref 2012

HysteriaGwe 5 — Iau 18 HydrefDG/2012/99mun/15. Cyf: Tanya Wexler.Gyda Hugh Dancy, Jonathan Pryce, Maggie Gyllenhall.

Wrth chwilio am iachâd ar gyfer yr hyn a ddisgrifid yn aml fel hysteria mewn menywod, aeth Mortimer Granville, meddyg ar ddiwedd y 19eg ganrif, ati i greu’r ‘vibrator’ electro-fecanyddol cyntaf yn y byd — yn enw gwyddoniaeth feddygol. Mae’r ffilm gomedi hwyliog a digywilydd hon yn cyferbynnu syniad y meddyg o ‘iachâd’ â delfrydau Swffragét cymeriad Gyllenhall, sy’n credu taw addysg a hunan-gynhaliaeth fydd yn arwain at wir hapusrwydd i ferched.

Sinema18 029 2030 4400

“Mae Everett — mor ymddangosiadol ddidaro yn ei olygfeydd byrion — yn feistr corn ar gomedi” Seattle Times

Page 19: Chapter Hydref 2012

The ImposterGwe 5 — Maw 9 HydrefUDA/2012/99mun/15. Cyf: Bart Layton. Gyda Adam O’Brian, Frederic Bourdin, Carey Gibson.

Mae’r ffilm iasol hon — sy’n defnyddio elfennau dogfennol ac elfennau gweledol mwy arddulliol — yn adrodd hanes bachgen 13-mlwydd-oed a ddiflannodd o Tecsas ym 1994 cyn ymddangos eto, dair blynedd yn ddiweddarach, yn ne Sbaen, â stori am herwgipio a phoenydio. Mae ei deulu wrth ei fodd ei fod wedi dychwelyd, ond nid yw popeth fel yr ymddengys. Pam fod ganddo acen ryfedd nawr? Pam mae e’n edrych mor wahanol? Pam nad yw’r teulu fel petaen nhw wedi sylwi ar yr anghysonderau hyn? Pan ddaw ymchwilydd i ddechrau gofyn cwestiynau, mae yna dro mwy rhyfedd fyth yn y stori ryfedd hon.

To Rome With LoveGwe 5 — Iau 18 HydrefUDA/2012/112miun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda Alec Baldwin, Jesse Eisenberg, Greta Gerwig, Penelope Cruz.

Mae ffilm gomedi ddiweddaraf Woody Allen yn cyflwyno pedair stori hyfryd am enwogrwydd, rhamant, etifeddiaeth a hiraeth. Rydym yn cyfarfod â phensaer Americanaidd sy’n ail-fyw ei ieuenctid, dyn o Rufain sy’n cael ei erlid, yn sydyn reit, gan y paparazzi, cwpwl ifanc sy’n eu cael eu hunain mewn perthnasau ramantus niweidiol a chyfarwyddwr opera sy’n ceisio cyflogi trefnwr angladdau sy’n gallu canu.

Adventure Film FestivAl 2012Maw 9 + Maw 16 + Maw 23 Hydrefmae’r detholiad hwn o’r ffilmiau gorau am gampau eithafol a byd antur yn cynnwys gweithiau llawn adrenalin sy’n dathlu galluoedd rhyfeddol y corff a’r meddwl.www.adventurefest.co.uk facebook.com/adventurefilmfestuk @adventureff

High Altitude AdventureMaw 9 Hydreftua 100mun

Cyffro ar y mynyddoedd mawr — delweddau o’r eirafyrddiwr Xavier de le Rue a neidio BASE eithafol o

‘slacklines’ wedi’u hestyn dros y fjords yn Norwy.

Adrenaline AdventureMaw 16 Hydreftua 100mun

Caiacio rhydd o Ben Marr, beicio mynydd gyda ‘Strength in Numbers’ a’r ffilm arobryn, dark side of the lens.

endurance AdventureMaw 23 Hydreftua 100mun

Mae’r pecyn hwn yn archwilio byd o gampau eithafol —o anturiaethau yn yr arctig i grefft ‘ultra-running’ ar bum cyfandir.

Adventure Film Festival 2012 19chapter.orgGy

da’r

cloc

, o’r

top

ar y

chw

ith:

To

Rom

e W

ith

Love

, Adv

entu

re F

ilm F

esti

val,

The

Impo

ster

Page 20: Chapter Hydref 2012

KeyholeGwe 12 — Iau 18 HydrefCanada/2012/94mun/TICh. Cyf: Guy Maddin. Gyda Isabella Rossellini, Jason Patric, Udo Kier.

Ar ôl cyfnod hir o absenoldeb, mae Ulysses Pick yn cyrraedd adref i dŷ sy’n llawn o atgofion. Mae e’n tynnu corff merch yn ei harddegau a dyn wedi’i rwymo ar ei ôl. Mae ei gang — a thensiwn sylweddol — yn aros iddo y tu fewn. Ond un peth sydd ar feddwl Ulysses: teithio drwy’r tŷ, o ystafell i ystafell, a chyrraedd ei wraig Hyacinth yn ei hystafell wely. Yn feistr ar y rhyfedd ac ar ddoniolwch tywyll, mae ffilm newydd Guy Maddin yn brofiad gwefreiddiol a breuddwydiol.

My WinnipegSul 14 + Maw 16 HydrefCanada/2007/80mun/12A. Cyf: Guy Maddin. Gyda Darcy Fehr, Ann Savage, Amy Stewart.

Ydych chi erioed wedi dymuno gallu ail-fyw eich plentyndod a gwneud pethau’n wahanol? Mae’r actores ffilmiau B, Ann Savage, yn chwarae rhan mam ormesol sy’n ceisio ateb y cwestiwn hwnnw. Mae llythyr ffarwel Maddin at dref ei blentyndod yn gyfuniad dyfeisgar o hanes lleol a phersonol, delweddau swrrealaidd a mythau trosiadol.

The Saddest Music in The WorldSul 21 + Maw 23 HydrefCanada/2003/100mun/15. Cyf: Guy Maddin. Gyda Isabella Rossellini, Mark McKinney, Maria de Medeiros.

Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, cyhoeddir mai Winnipeg yw ‘prifddinas tristwch y byd.’ Felly mae’r bragwr lleol, Lady Port-Huntly, sydd wedi colli’i dwy goes, yn trefnu cystadleuaeth i ddod o hyd i’r gerddoriaeth dristaf yn y byd.Gyda sgript gan Kazuo Ishiguro, mae sioe gerdd ddu a gwyn Maddin yn archwiliad hudolus a rhithiol o orffennol na fu.

Dracula: Pages From A Virgin’s Diary Sul 28 + Maw 30 HydrefCanada/2004/73mun/12A. Cyf: Guy Maddin.Gyda Wei-Qiang Zhang, Brent Neale, Cindy Marie Bach.

Gwledd o ddawnsio, drama a chysgodion sy’n trosi dehongliad Bale Brenhinol Winnipeg o’r stori fampir enwog o’r llwyfan i’r sgrin. Cyflwynir hanes y mewnfudwr sinistr ond deniadol sy’n gwledda ar ferched ifainc o Loegr mewn arddull sy’n atgoffa rhywun o sinema fud ddechrau’r 20fed ganrif.

GUYMADDINO fersiynau bale o stori Dracula i straeon ffug-hunangofiannol am blentyndod yn Winnipeg, gall arddull unigryw Guy Maddin wefreiddio, difyrru a drysu. Rydym yn dathlu rhyddhau Keyhole, ei felodrama swrrealaidd ddiweddaraf mewn du a gwyn, â thymor byr o’i ffilmiau blaenorol.

CYNNIG ARBENNIG: Prynwch docynnau ar gyfer 3 o ffilmiau Guy Maddin ac fe gewch chi 4ydd am ddim!

Guy Maddin20 029 2030 4400

Keyh

ole

(top

), D

racu

la (g

wae

lod)

Page 21: Chapter Hydref 2012

Sinemachapter.org 21

BarbaraGwe 19 — Iau 25 Hydref Yr Almaen/2012/105mun/isdeitlau/TICh. Cyf: Petzhold Cristnogol. Gyda Nina Hoss, Ronald Zehrfeld, Rainer Bock.

Haf 1980. Mae Barbara ar ei phen ei hun mewn pentref llwm yn Nwyrain yr Almaen, wedi’i halltudio o Ferlin am geisio cael gafael ar fisa teithio. Mae hi’n dioddef goruchwyliaeth ac archwiliadau parhaol ond mae hi’n benderfynol o adael bloc y Dwyrain i fod gyda’i chariad sydd eisoes wedi dianc. Ond o dipyn i beth, caiff ei dyheadau eu trawsnewid wrth iddi agosáu at Andre, dyn unig, tyner. Caiff awydd Barbara i fod yn rhydd ei herio gan y cynhesrwydd a’r diolchgarwch a dderbynia gan bobl eraill.

Ystafelloedd TywyllYn dilyn llwyddiant The Shining yng Ngwesty’r Angel, Alien yn Techniquest a Noson Efrog Newydd yn ddiweddar, bydd tîm yr Ystafelloedd Tywyll yn trefnu digwyddiad arall mewn lleoliad yng Nghaerdydd yn ystod mis Hydref. Cadwch lygad ar www.chapter.org a www.darkenedrooms.com am fwy o fanylion.

Diana Vreeland: The Eye Has To TravelGwe 26 Hyd — Iau 1 TachweddUDA/2012/86mun/PG. Cyf: Lisa Immordino Vreeland, Frederic Tscheng, Ben-Jorgen Perlmutt.

Portread personol o olygydd ffasiwn chwedlonol Harper’s Bazaar a elwid yn “Archoffeiriades Ffasiwn”. Mae’r ddogfen hon yn dangos drama ei gyrfa, ei hanes personol, ei gwendidau a’i natur ddi-ildio. Mae llais huawdl Vreeland ei hun yn ein tywys drwy ei bywyd, yn dadorchuddio personoliaeth arloeswr a oedd yn gyfrifol am ailddyfeisio’r syniad o steil.+ Trafodaeth ‘Come Along Do’ ar ddydd Iau 1 Tachwedd (gweler tud 7)

Killing Them SoftlyGwe 19 Hyd — Iau 1 TachweddUDA/2012/97mun/18. Cyf: Andrew Dominik. Gyda Brad Pitt, Ray Liotta, James Gandolfini.

Mae’r ffilm gyffro amrwd hon yn digwydd yn New Orleans, ar ôl i’r corwynt chwalu’r ddinas, ac ar ganol dirwasgiad a arweiniodd at don o droseddu. Mae dau gangster dibwys yn eu cael eu hunain mewn dyfroedd dynion pan ddown nhw wyneb yn wyneb â bos — a chael eu herlid gan ddau lofrudd llog. Mae’r ddrama gyflym hon, llawn comedi tywyll, yn dangos cymdeithas heb foesau a byd o lygredd a rhagrith, o’r bôn i’r brig. Dyma drydedd ffilm yr awdur-gyfarwyddwr Andrew Dominik ac, unwaith eto, mae e’n gweithio gyda seren The Assassination of Jesse James, Brad Pitt — mae hwnnw’n chwarae un o rannau mwyaf nodedig ei yrfa.

Gyda

’r cl

oc o

’r to

p ar

y c

hwit

h: B

arba

ra, D

iana

Vre

elan

d, K

illin

g Th

em S

oftl

y

Page 22: Chapter Hydref 2012

VictimSul 7 + Maw 9 HydrefDG/1961/101mun/PG. Cyf: Basil Dearden.Gyda Dirk Bogarde, Sylvia Syms, Dennis Price.

Cafodd ffilm gyffro arloesol Basil Dearden ei rhyddhau ym 1961. Roedd yn gam allweddol yn y broses o gyfreithloni cyfunrywiaeth ym Mhrydain. Rhoddodd Dirk Bogarde, eicon matinée mwyaf Prydain, ei yrfa yn y fantol i bortreadu Melville Farr, cyfreithiwr hoyw cudd, ar adeg pan oedd gweithredoedd cyfunrywiol yn anghyfreithlonCyfeillion Iris — cyflwynwch eich cerdyn yn y swyddfa docynnau i gael tocyn am £4 yn unig ar ddydd Sul neu £2.50 ar ddydd Mawrth.

Addysg IrisMer 10 HydrefMae’r cwrs ffilm diwrnod o hyd hwn, i bobl ifainc rhwng 14 – 18 oed, yn edrych ar farchnata, cyfarwyddo a pherfformio ac yn rhoi cyfle i chi weld ffilmiau ac i gwrdd â rhai o’r gwneuthurwyr ffilm.Cyflwynir gan Digon a thîm Gwobr Iris.

Sgwrs â Daniel Ribeiro Mer 10 HydrefCyfle arall i weld I Don’t Want To Go Back Alone, gan Daniel Ribeiro, enillydd Gwobr Iris 2011. Mae Daniel yn aelod o’r rheithgor rhyngwladol eleni ac mae’n paratoi i wneud ei ffilm fer nesaf yn 2013, gyda chymorth Iris. Cewch glywed peth o’i hanes dros y 12 mis diwethaf a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth iddo sgwrsio â Llywydd yr Ŵyl, Andrew Pierce, o’r Daily Mail.Cyflwyniad mewn cydweithrediad â BAFTA Cymru.

YossiMer 10 HydrefIsrael/2012/84mun. Cyf: Eytan Fox.

Gyda Ohad Knoller, Lior Ashkenazi, Oz Zehavi.

Mae Yossi, meddyg sy’n gaeth i’w waith, yn byw bywyd unig yn Tel Aviv yn dilyn marwolaeth ei gariad. Caiff ei fyd tawel ei ysgwyd pan aiff ar daith i dde Israel lle mae’n cyfarfod â Tom, dyn golygus sy’n agored hoyw.

Gŵyl Gwobr Iris22 029 2030 4400

Vict

im (t

op),

Yos

si (g

wae

lod)

Berwyn Rowlands Sylfaenydd Gwobr IrisMae gwobr ffilm fer hoyw a lesbiaidd ryngwladol Caerdydd yn helpu’r enillydd i wneud ffilm newydd trwy gynnig cyllid, cymorth ac arweiniad. Caiff Gwobr Iris ei chyflwyno yn ystod ein gŵyl flynyddol, sy’n cynnwys dangosiadau o’r 30 ffilm fer yn y gystadleuaeth, ffilmiau nodwedd newydd, sesiynau panel a digwyddiadau cymdeithasol. Mae Iris yn teimlo’n gartrefol iawn yn Chapter nid yn unig am ei fod yn lle i bobl eangfrydig ond hefyd am fod Chapter yn gartref i bobl sy’n gwerthfawrogi ffilm. Ewch i www.irisprize.org i gael manylion y dangosiadau a digwyddiadau mewn lleoliadau eraill o gwmpas y ddinas.

Gwyl Gwobr IrIs

ˆ

Page 23: Chapter Hydref 2012

Comedi a Ffilmiau LGBTSad 13 HydrefErs degawdau, os nad canrifoedd, mae pobl hoyw wedi bod yn destun jôcs di-ri. Ar ôl toreth o ffilmiau hoyw yn ystod y tri degawd diwethaf, a oes yna newid i’w weld yn y modd y cyflwynir hiwmor hoyw ar y sgrin? Wedi’i gadeirio gan Andrew White o Stonewall Cymru, mae’r sesiwn hon yn bwrw golwg ysgafn ar hiwmor hoyw ar y sgrin.

Rhaglen Ffilmiau Byrion 6 (68mun)Sad 13 HydrefMae’r detholiad hwn o gystadleuwyr am Wobr Iris yn cynnwys ffilmiau gan Craig Boreham (Awstralia), Grant Scicluna (Awstralia), Jake Graf (DG), Evan Roberts (UDA) a Christoph Kuschnig (Awstria).

VitoSad 13 HydrefUDA/2011/93mun/15. Cyf: Jeffrey Schwarz.

Mae’r ffilm ddogfen rymus hon yn edrych ar fywyd Russo Vito, ymgyrchydd hoyw amlwg a beirniad tanbaid o gynrychiolaeth LGBT yn y cyfryngau. Ef oedd awdur y llyfr cyntaf i feirniadu portreadau Hollywood o bobl hoyw ar y sgrin ac, yn ystod argyfwng AIDS yr 1980au, roedd Vito yn lladmerydd tanbaid dros gyfiawnder trwy gyfrwng ACT UP, a oedd newydd ei ffurfio pan fu farw ym 1990.

Elliot LovesSad 13 HydrefUDA/2012/92mun/15. Cyf: Terracino. Gyda Fabio Costaprado, Elena Goode, Quentin Araujo.

Mae’r ddrama gomedi hynod hon yn dilyn Elliot, Americanwr o dras Dominicaidd sy’n byw yn Efrog Newydd, yn ystod dau gyfnod yn ei fywyd. Mae’r bachgen ifanc yn dawel hyderus ac mae’r rhan fwyaf o’i fywyd yn ymwneud â’i berthynas o gariad a chasineb â’i fam sengl a llu o ffrindiau. Mae’r Elliot hŷn yn llai parod i fyw ei fywyd ac yn chwilio, heb lwyddiant, am gariad. Wedi’i datblygu gan ŵyl-bartner Iris, OUTFEST, mae’r gwaith hwn yn enghraifft wych o wneud ffilm â chyllideb pitw ac fe fydd yn apelio at gynulleidfaoedd hoyw a strêt fel ei gilydd.

Joshua Tree 1951: A portrait of James DeanSad 13 HydrefUDA/2012/93mun/15. Cyf: Matthew Mishory. Cast: James Preston, Dan Glenn, Dalilah Rain

Mae’r ffilm hudolus hon yn bortread personol o James Dean ar drothwy enwogrwydd — fel actor gwych ac eicon Americanaidd. Wedi’i gosod yn y 1950au cynnar gan mwyaf, mae’r ffilm yn gyfres o vignettes sydd weithiau’n freuddwydiol, weithiau’n ddadlennol, ac yn cyfuno elfennau o fywgraffiad a ffuglen er mwyn dangos cyfnod tyngedfennol mewn bywyd hynod.

Gŵyl Gwobr Iris 23O’

r top

i’r g

wae

lod:

The

Wild

ing,

Elli

ot L

oves

, Jos

hua

Tree

195

1chapter.org

Page 24: Chapter Hydref 2012

Electrick ChildrenGwe 12 + Sad 13 HydrefUDA/2012/96mun/15. Cyf: Rebecca Thomas. Gyda Julia Garner, Rory Culkin, Liam Aitkin.

Mae Rachel, merch yn ei harddegau o gymuned Formon ffwndamentalaidd, yn credu ei bod wedi cenhedlu plentyn trwy Feichiogi Dihalog ar ôl moment iwfforig yn gwrando ar dâp o gerddoriaeth waharddedig. Mae ei chymuned yn credu fel arall, ac yn cyhuddo ei brawd o’i threisio. Mae Rachel yn ffoi gyda’i brawd i chwilio am y dyn a greodd y gerddoriaeth ac yn dod yn rhan o griw o sglefrfyrddwyr a cherddorion. Ffilm gyntaf ffres a phrydferth gan Rebecca Thomas, sydd yn Formon gweithredol ei hun.

ScratchLlun 15 HydrefUDA/2001/92mun/15. Cyf: Doug Pray.Gyda Afrika Bambaataa, Mark 7, Dilated Peoples.

Mae’r ffilm ddogfen hon yn edrych ar fyd y DJ hip-hop a’r mudiad turntablist. O enedigaeth hip-hop yn Ne’r Bronx yn y 70au i’r San Francisco gyfoes, mae scratchers gorau’r byd, diggers, party-rockers a chynhyrchwyr yn dathlu curiadau, brêcs, brwydrau a phosibiliadau di-ben-draw finyl.

Mission to LarsMer 17 + Iau 18 HydrefDG/2012/74mun/TICh. Cyf: Will Spicer. Gyda Tom Spicer, Kate Spicer, Lars Ulrich.

Mae Tom Spicer yn dioddef o Syndrom Fragile X (a ddisgrifir gan ei chwaer fel ‘awtistiaeth gydag elfennau ychwanegol’), anabledd dysgu sy’n gwneud bywyd yn her gyson. Mae ei deulu yn penderfynu gwireddu ei freuddwyd fwyaf un — cyfarfod â drymiwr Metallica, Lars Ulrich — ond dydyn nhw hyd yn oed ddim yn barod am y tensiynau a’r pryderon sy’n codi o ganlyniad i’r cyflwr. Ffilm ddogfen onest a theimladwy am ymroddiad un ffan cerddoriaeth ac ymroddiad y Spicers at ei gilydd.Cyflwynir gan Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru.+ Sesiwn holi-ac-ateb ar ddydd Iau 18 Hydref, gyda Kate Spicer a Kai Jones o Anabledd Dysgu Cymru.

The Upsetter: The Life And Music of Lee Scratch PerryGwe 19 HydrefUDA/2008/95mun/TICh. Cyf: Ethan Higbee, Adam Bhala Lough. Adroddwr: Benicio Del Toro.

Helpodd Lee ‘Scratch’ Perry i ddyfeisio genre o gerddoriaeth yn y 1950au a gâi ei alw’n Reggae a Dub. Roedd yn fentor i’r Bob Marley ifanc, gweithiodd gyda Paul McCartney a The Clash ac mae e wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel artist solo arbrofol a chynhyrchydd. Er gwaethaf ei drafferthion niferus â gangiau, methiant ei briodas, dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau a thân yn ei stiwdio, mae Scratch wedi parhau i fod yn ffigwr allweddol a dychwelodd i’r llwyfan yn 70 oed ar gyfer taith fyd-eang. Astudiaeth hynod o un dyn — a sîn gerddorol gyfan.

FFILMIAU SWN

Ffilmiau Sŵn 24 029 2030 4400

Detholiad cerddorol godidog wedi’i ysbrydoli gan Ŵyl Sŵn eleni (gweler t13)

Elec

tric

k Ch

ildre

n (t

op),

Mis

sion

to

Lars

(gw

aelo

d)

CYNNIG ARBENNIG SŴNDewch â’ch breichled neu gadarnhad e-bost o’ch tocyn i gael tocyn ar gyfer unrhyw un o’r ffilmiau am £4.50 yn unig (£8 am docyn i ddigwyddiad Haunted Castle – gweler t26)!

ˆ

Page 25: Chapter Hydref 2012

Searching For Sugar ManSad 20 — Iau 25 HydrefUDA/2012/86mun/12A. Cyf: Mali Bendjelloul.

Beth sy’n digwydd pan fo etifeddiaeth artist o bwys mor ddirgel ac enigmatig nad oes neb yn gwybod a yw’r artist ei hun yn fyw neu’n farw? Rhyddhaodd y canwr/cyfansoddwr Rodriguez ddau albwm gwych yn y 1970au cynnar cyn diflannu o olwg y cyhoedd yng nghanol sibrydion tywyll ei fod wedi lladd ei hun ar y llwyfan. Mae dau o’i ffans yn dilyn ei drywydd o amgylch y byd i geisio canfod y gwirionedd am eu heilun.

Last Shop StandingSul 21 HydrefDG/2012/52mun/dim tyst. Cyf: Pip Piper.Gyda Billy Bragg, Norman Cook, Johnny Marr.

Mae’r ffilm ddogfen hon yn dathlu brawdoliaeth unigryw a’r dyfeisgarwch entrepreneuraidd sydd wedi galluogi i gymaint o siopau recordiau annibynnol barhau i weithredu er gwaetha’r newidiadau syfrdanol yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r ffilm yn edrych ar nifer o siopau yn y DG (gan gynnwys Spillers yng Nghaerdydd), ac yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr ac enwogion o fyd cerddoriaeth fel Norman Cook, Billy Bragg, Johnny Marr, Richard Hawley, Nerina Pallot a Paul Weller. Mae yna drac sain gwych hefyd sy’n cynnwys llu o fandiau annibynnol.+ sesiwn holi-ac-ateb gyda Graham Jones, awdur y llyfr ‘Last Shop Standing’.

Holy MotorsGwe 19 — Iau 25 HydrefFfrainc/2012/115mun/isdeitlau/18. Cyf: Leos Carax.Gyda Denis Lavant, Eva Mendes, Edith Scob, Kylie Minogue.

Taith gyffrous trwy fydysawd Monsieur Oscar, cymeriad rhithiol sy’n teithio o un bywyd i’r nesaf. Ei unig gwmni yw Celine, merch benfelen fain y tu ôl i olwyn peiriant anferth sy’n ei gludo o gwmpas Paris.Fel llofrudd cydwybodol yn symud o hit i hit, mae e’n byw mewn gwahanol gymeriadau. Ond ble mae ei wir gartref, ei deulu, ei ganol llonydd?Wrth archwilio’r berthynas dywyll rhwng ffilm a breuddwyd, mae Holy Motors yn cynnwys perfformiad canolog anhygoel gan Denis Lavant.

Casey & Ewan: MoosickMaw 16 HydrefArtistiaid fideo lleol extraodinaire. Mae Ewan Jones Morris a Casey Raymond (Clubfootfoot) yn cyflwyno detholiad o’u hoff fideos cerddoriaeth i godi blas arnoch chi ar gyfer yr ŵyl.www.caseyandewan.com

Gwestai Arbennig Sŵn Sad 20 HydrefGweler ein gwefan a www.swnfest.com am fanylion.

Ffilmiau Sŵn O’

r top

i’r g

wae

lod:

Sea

rchi

ng F

or S

ugar

Man

, Las

t Sh

op S

tand

ing,

Hol

y M

otor

s25chapter.org

Page 26: Chapter Hydref 2012

O’r t

op i’

r gw

aelo

d: E

ntit

y, C

hain

ed, B

efor

e Da

wn

Cockneys Vs ZombiesGwe 26 Hyd — Iau 1 TachweddDG/2012/88mun/15. Cyf: Matthias Hoene. Gyda Michelle Ryan, Honor Blackman, Richard Briers.

Mae Zombies yn bla ar Lundain ac yn tarfu ar griw o ladron banc, sy’n dwyn arian er mwyn galluogi i’w tad-cu aros yn ei gartref ymddeol. Gydag ymddangosiadau gan un o gyn-ferched James Bond, Honor Blackman, Tinker o Lovejoy a Chas & Dave, mae’r ffilm hon yn wahoddiad i ymuno â’r meirw byw...

In The Dark HalfGwe 26 — Maw 30 HydrefDG/2012/85mun/15. Cyf: Alistair Siddons.Gyda Tony Curran, Jessica Barden.

Mae Marie, 15 oed, yn gwarchod plentyn ei chymydog pan ddaw tro trasig ar fyd sy’n danfon y cymeriadau ar eu pennau i realiti rhyfedd ar y naw.Mae’r ddrama drawiadol, dywyll a seicolegol hon yn gynnyrch cydweithrediad cyllideb isel rhwng BBC Films, Asiantaeth Ffilm Cymru a Chyngor Dinas Bryste.+ Sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad gyda’r actor Tony Curran.

ParaNorman (Gweler gyferbyn)

Choice Cuts AbertoirSad 27 Hydref78mun/18.

Detholiad o rai o’r ffilmiau byrion mwyaf poblogaidd o ŵyl y llynedd.

The Haunted CastleSad 27 HydrefYr Almaen/1921/82mun/PG. Cyf: FW Murnau.Gyda Walter Steinbeck, Carola Höhn a Hans Stüwe.

Un o weithiau cynharaf (a mwyaf brawychus) y gwneuthurwr ffilm chwedlonol, FW Murnau. Mae grŵp o aristocratiaid yn ymgynnull mewn plasty gwledig. Ond mae un hen gwestiwn yn bygwth codi’i ben: pwy mewn gwirionedd lofruddiodd ŵr y Farwnes?+ Sgôr byw gan Steepways Sound — offerynnau byw a sain wedi’i phrosesu.£12/£10/£8

Sinema26 029 2030 4400

ABERTOIRCYNIGION ARBENNIGPrynwch 3 thocyn ac fe gewch chi 1 am ddim ar gyfer unrhyw gyfuniad o ddangosiadau gŵyl Abertoir. Tocyn dydd Sadwrn Abertoir — £20 yn unig!

Mae Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru wedi dianc o Aberystwyth er mwyn cyflwyno cyfres unigryw o ffilmiau hunllefus yn y brifddinas!www.abertoir.co.uk

Gyda chefnogaeth Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth ac Asiantaeth Ffilm Cymru.

Page 27: Chapter Hydref 2012

EntitySad 27 HydrefDG/2012/84mun/TICh. Cyf: Steve Stone.Gyda Dervla Kirwan, Charlotte Riley.

Mae criw rhaglen deledu realiti Prydeinig yn teithio i goedwig yn Siberia bell i ddatgelu’r gwir am fedd torfol y daethpwyd o hyd iddo ym 1998. Mae’r daith yn eu harwain y tu hwnt i’r goedwig at gyfrinach arswydus...+ Sesiwn holi-ac-ateb gyda Steve Stone, y cynhyrchydd Rob Speranza, a’r dylunydd sain, Mark Ashworth.

ChainedSad 27 HydrefUDA/2012/94mun/TICh. Cyf: Jennifer Lynch. Gyda Vincent D’Onofrio, Eamon Farren, Julia Ormond.

Mae Tim, wyth mlwydd oed, a’i fam yn cael eu herwgipio gan Bob, gyrrwr tacsi llofruddgar. Ar ôl lladd y fam, mae Bob yn penderfynu cadw Tim o gwmpas fel caethwas, ac yn ei orfodi i’w helpu gyda’i droseddau. Ffilm newydd unigryw gan ferch y cyfarwyddwr enwog David Lynch.+ Beast (C. Granier-Deferre, DG 2012, 16mun)Ffilm fer hyfryd a thywyll am lojar ifanc.

The Evil DeadMer 31 HydrefUDA/1981/85mun/18. Cyf: Sam Raimi. Gyda Bruce Campbell, Ellen Sandweiss, Richard DeManicor.

Mae’r clasur hwn o ‘video nasty’ yn adrodd hanes pump o ffrindiau sydd, yn ddiarwybod iddynt, yn rhyddhau ysbrydion dieflig.+ CTIN! (Cyrille Dravon, 2011, Ffrainc, 14mun)Mae dyn yn deffro wedi’i amgylchynu gan ddieithriaid.

Before DawnMer 31 HydrefDG/2012/85mun/TICh. Cyf: Dominic Brunt.

Mae Alex a Meg yn mynd i fwthyn diarffordd i geisio achub eu priodas. Yn fuan iawn, fodd bynnag, maen nhw’n brwydro am eu bywydau wrth i zombies fygwth eu rhwygo’n ddau — yn llythrennol.+ Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Dominic Brunt (Emmerdale, Inbred) a’r cynhyrchydd Helen Grace.

Diary of A Wimpy Kid: Dog Days Sad 6 HydrefUDA/2012/94mun/U. Cyf: David Bowers.Gyda Devon Bostick, Zachary Gordon, Rachael Harris.

Mae’r ysgol wedi gorffen am yr haf ond mae cynlluniau Greg ar gyfer y gwyliau ar chwâl. Beth mae e’n mynd i wneud am haf cyfan?

Dr Seuss’ The Lorax [2D]Sad 13 HydrefUDA/2012/86mun/U. Cyf: Chris Renaud, Kyle Balda.Gyda Danny DeVito, Ed Helms, Zac Efron.

Mae bachgen 12 mlwydd oed yn chwilio am yr un peth fydd yn yn ei alluogi i ennill calon merch ei freuddwydion. Rhaid iddo ddarganfod hanes cudd y Lorax, y creadur drwg ei dymer sy’n brwydro i warchod ei gynefin.

The Dark Knight RisesSad 20 HydrefUDA/2012/165mun/12A. Cyf: Christopher Nolan. Gyda Christian Bale, Tom Hardy, Anne Hathaway.

Mae arweinydd terfysgol newydd yn bygwth Gotham City — ond a fydd y Marchog Du yn ymddangos i amddiffyn dinas sydd yn ei ystyried yn elyn?

ParaNorman [2D]Gwe 26 Hyd — Iau 1 TachweddUDA/2012/93mun/PG. Cyf: Chris Butler, Sam Fell. Gyda Kodi Smith-McPhee, Casey Affleck.

Mae bachgen camddealledig sy’n gallu siarad â’r meirw yn brwydro yn erbyn ysbrydion, zombies ac oedolion i achub ei dref rhag hen hen felltith.

Wythnos Genedlaethol Ffilm i Ysgolion Maw 16 — Llun 22 HydrefYr ŵyl rad ac am ddim fwyaf yn y byd i sinemâu ac ysgolion, yn cynnwys dangosiadau ffilm, cyflwyniadau, a sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Ffilmiau dan sylw: The Princes’ Quest, Mirror Mirror, We Need to Talk About Kevin, Miss Bala a North by Northwest. Ewch i www.nationalschoolsfilmweek.org i gael mwy o fanylion.

Carry On Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming! yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill.Edrychwch ar y calendr i gael manylion y dangosiadau arbennig hyn, i bobl â babanod iau na blwydd oed.Mynediad am ddim i fabanod. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw tocynnau ar gyfer y dangosiadau hyn ar gael ar-lein. Dim mynediad oni bai fod babi gennych!

FFILMIAU I’R TEULU CYFAN

Sinema 27chapter.org

Page 28: Chapter Hydref 2012

Bwyta yfed LLogi

Oktoberfest 2012Iau 25 — Sad 27 HydrefMae Gŵyl Gwrw Oktoberfest eleni yn cynnig detholiad newydd sbon o hylifau hopysaidd o’r Almaen. Mae Dave, ein Rheolwr Bar, wedi dethol (a blasu) amrywiaeth eang o’r lagers a’r pilsners gorau, ynghyd â chwrw tywyll a gwenith o bob cwr o’r wlad i’ch swyno a’ch synnu. Welwch chi ddim mo’r hen ffefrynnau ar ein rhestr — ond rydym yn gwbl hyderus y dewch chi o hyd i ffefryn newydd. Beth am Schlöbberla, ‘land bier’ tywyll cwbl newydd hyd yn oed yn yr Almaen? Neu Mårzen wedi mygu â’i flas coediog cyfoethog? Mae syched arnom yn barod!Bydd ein cogyddion talentog hefyd yn cynnig detholiad o ddanteithion i dynnu dŵr o’r dannedd — fel cig eidion o Gymru neu chilli 3 ffa gyda reis, hufen sur a nachos, cŵn poeth Bockwurst neu fegan â saws cyri cartref, a sauerkraut; byrgyr cig eidion Cymreig gyda sglodion a cholslo, neu fyrgyrs ffalafel gyda sglodion a cholslo Morocaidd. Llond ceg a llond bol!Bydd prydau bwydlen arferol y Caffi Bar hefyd ar gael tan 5pm ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn. Bwydlen yr Ŵyl 5pm — 9pm.

Bar yr ŵyl ar agor: Iau 25 + Gwener 26 Hydref o 5pm; Sadwrn 27 Hydref o ganol dydd.

Blas yr Hydref Sad 6 Hydref 1pm–5pmDewch i flasu peth o gynnyrch ein gardd gymunedol — siytni, cawl a theisennau a mêl hyfryd gwenyn Chapter. Bydd Tom Bean o ‘Blas o’r Tân’ yn arddangos ei ffwrn daear ac yn rhoi cyfle i chi wneud eich bara fflat eich hun.

LlogiMae nifer o leoedd a chyfleusterau yn Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwefan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld beth sydd ar gael.Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell i gynnal parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu i ffilmio fideo, ymarfer neu gynnal gweithgareddau tîm, mae ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy.Bydd rheolwr ein caffi, Lex, hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58. Neu anfonwch e-bost at [email protected].

Bwyta Yfed Llogi28 029 2030 4400

Mae cysylltiad rhyngrwyd di-wifr rhad ac am ddim ar gael yng Nghaffi Bar Chapter.

Pop Up ProduceBob dydd Mercher 4–7pmMae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Mae Bara Mark yn cynnig detholiad o fara arbenigol, fel bara tatws, surdoes rhosmari neu fara resins a charawe. Ac fe fydd Get Ffresh! yn ymuno â ni o 26 Medi ac yn cyflwyno eu detholiad o salad organig a llysiau ffres ynghyd â llu o eitemau blasus a chrefftus eraill.www.Get-Ffresh.co.uk

Page 29: Chapter Hydref 2012

Info

How

to g

et to

Cha

pter

Yo

u’ll

find

us in

Can

ton

to th

e w

est o

f the

city

cen

tre.

M

arke

t Roa

d, C

anto

n, C

ardi

ff C

F5 1

QE

By F

oot

We’

re ju

st a

20

min

ute

slow

ish

wal

k fr

om th

e

city

cen

tre.

By B

us

Bus

num

bers

17,

18

and

33 s

top

clos

e by

and

leav

e ev

ery

five

min

utes

from

the

city

cen

tre.

By B

ike

Th

ere

are

plen

ty to

bik

e ra

cks

at th

e fr

ont o

f the

bu

ildin

g.

Park

ing

We

have

a c

ar p

ark

to th

e re

ar o

f the

bui

ldin

g an

d lo

cal c

ar p

arks

are

mar

ked

on th

e m

ap a

bove

. Ple

ase

resp

ect o

ur n

eigh

bour

s an

d av

oid

park

ing

on n

earb

y st

reet

s.

Acce

ss fo

r all

Chap

ter w

elco

mes

dis

able

d vi

sito

rs.

If yo

u ha

ve a

ny s

peci

fic a

cces

s re

quire

men

ts o

r que

stio

ns p

leas

e co

ntac

t our

box

off

ice

on 0

29 2

030

4400

, min

icom

029

203

1 34

30.

Asso

ciat

ed C

ompa

nies

and

Art

ists

Ch

apte

r is

hom

e to

thea

tre

com

pani

es, d

ance

co

mpa

nies

, ani

mat

ion

stud

ios,

prin

tmak

ers,

po

tter

s, g

raph

ic d

esig

ners

, mot

ion

desi

gner

s,

com

pose

rs, f

ilmm

aker

s, m

agaz

ine

publ

ishe

rs,

man

y in

divi

dual

, ind

epen

dent

art

ists

and

mor

e.

Head

to w

ww

.cha

pter

.org

for m

ore

deta

ils.

Wor

ksho

ps a

nd C

lass

es

We

host

a w

ide

varie

ty o

f dai

ly w

orks

hops

and

cl

asse

s ru

n by

inde

pend

ent p

ract

ition

ers

incl

udin

g ba

llet,

zum

ba, y

oga,

mar

tial a

rts,

bab

y m

assa

ge,

child

ren’

s m

usic

, pila

tes,

tang

o, fl

amen

co, c

reat

ive

writ

ing,

mus

ic le

sson

s an

d m

ore.

He

ad to

ww

w.c

hapt

er.o

rg fo

r mor

e de

tails

.

Myn

edia

d i b

awb

Mae

Cha

pter

yn

croe

saw

u ym

wel

wyr

an

abl.

Os o

es g

enny

ch u

nrhy

w

angh

enio

n m

yned

iad

peno

dol f

foni

wch

ei

n sw

yddf

a do

cynn

au a

r 029

203

0 44

00, m

inic

om 0

29 2

031

3430

.

Gwyb

odae

thSu

t i g

yrra

edd

Chap

ter

Fe d

dew

ch c

hi o

hyd

i ni

yn

Nhre

gann

a, i’

r go

rllew

in o

gan

ol y

ddi

nas.

He

ol y

Far

chna

d, T

rega

nna,

Cae

rdyd

d CF

5 1Q

E

Ar D

roed

M

ae h

i’n d

aith

ger

dded

ham

dden

ol o

ryw

20

mun

ud o

ga

nol y

ddi

nas.

Ar F

ws

Mae

bys

us rh

if 17

, 18

a 33

yn

aros

ger

llaw

ac

yn

gada

el b

ob p

um m

unud

o g

anol

y d

dina

s.

Ar F

eic

M

ae d

igon

o ra

ciau

bei

c ar

flae

n yr

ade

ilad.

Parc

io

Mae

gen

nym

faes

par

cio

yng

nghe

fn y

r ade

ilad

ac m

ae

mey

sydd

par

cio

lleol

era

ill w

edi e

u no

di a

r y m

ap u

chod

. Go

fynn

wn

i chi

bar

chu

ein

cym

dogi

on o

s gw

elw

ch y

n dd

a dr

wy

osgo

i par

cio

mew

n st

rydo

edd

cyfa

gos.

Cwm

nïau

ac

Artis

tiaid

Cys

yllti

edig

M

ae C

hapt

er y

n ga

rtre

f i g

wm

nïau

thea

tr, c

wm

nïau

da

wns

, stiw

dios

ani

mei

ddio

, gw

neut

hurw

yr p

rintia

u,

croc

henw

yr, d

ylun

wyr

gra

ffeg

, dyl

unw

yr d

euny

dd

sym

udol

, cyf

anso

ddw

yr, g

wne

uthu

rwyr

ffilm

iau,

cy

hoed

dwyr

cyl

chgr

onau

, art

istia

id a

nnib

ynno

l a

llaw

er ia

wn

mw

y. E

wch

i w

ww

.cha

pter

.org

am

fwy

o

fany

lion.

Gwei

thda

i a D

osba

rthi

adau

Ry

dym

yn

cynn

al a

mry

wia

eth

eang

o w

eith

dai d

yddi

ol

a do

sbar

thia

dau

gyda

g ym

arfe

rwyr

ann

ibyn

nol,

gan

gynn

wys

bal

e, z

umba

, iog

a, c

reff

t ym

ladd

, mas

sage

i fa

bano

d, c

erdd

oria

eth

i bla

nt, p

ilate

s, ta

ngo,

ff

lam

enco

, ysg

rifen

nu c

read

igol

, gw

ersi

cer

ddor

iaet

h a

mw

y. E

wch

i w

ww

.cha

pter

.org

am

fwy

o fa

nylio

n.

Market Road / Heol y Farchnad

Cow

brid

ge R

oad

East

H

eol D

dwyr

eini

ol y

Bon

t Fae

n

Church Rd.

Llandaff Road

Leckwith Road

Al

bert

St.

W

ellin

gton

Str

eet

Severn Road

Gl

ynne

St.

Sprin

gfie

ld P

l. Orch

ard

Pl.

Gr

ay St.

Gray

St.

Gray Lane

King’s Road

Mar

ket P

l.

Library St. Penllyn Rd.

Maj

or R

oad

Ear

le P

l.

Ham

ilton

St

Talb

ot S

t

Wyndam Crescent

Harvey Str

eet

To C

ardi

ff

City

Cen

tre

/I G

anol

Din

as

Caer

dydd

Cant

on

from

6pm

o

6pm

P —

free

car

par

ks m

eysy

dd /

par

cio

rhad

ac

am d

dim

bus

sto

p /

safle

bw

s—

cyc

le ra

ck /

rac

feic

s

Page 30: Chapter Hydref 2012