8
1 lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru Hydref Hydref Hydref Hydref 2010 2010 2010 2010 Mae’r rhifyn hwn o Breathing Spaces yn cyrraedd wrth i’r Haf lithro i’r Hydref. Yn ystod y cyfnod hwn o newid tymhorol amlwg, nid yw’n syndod deall bod newidiadau eraill yn digwydd yng Nghymru yn y ffordd rydym yn gofalu am ein hamgylchedd. Mae’r newidiadau hyn yn rhannol oherwydd yr heriau amgylcheddol rydym yn dal i’w hwynebu ond hefyd o ganlyniad i’r wasgfa ariannol y mae’r sector gyhoeddus yn gorfod ei rheoli. Cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd gyda’r sector amgylcheddol ynghylch y Fframwaith Amgylcheddol Naturiol sydd hefyd yn cael ei galw’n ‘Cymru Fyw’. Y ddogfen hon yw ymateb strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r ffaith i Gymru fethu â chyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth yn 2010 ac i broblemau amgylcheddol eraill. Mae ‘Cymru Fyw’ yn dangos dulliau newydd a llawer mwy cyfun o reoli’r amgylchedd naturiol sy’n canolbwyntio ar wella iechyd ecosystemau yn eu cyfanrwydd. Mae hyn yn debyg, er efallai ar raddfa lai, i ddulliau y mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn eu mabwysiadau ar gyfer graddfa’r tirlun. Er hynny, mae’n dangos symudiad arwyddocaol ym mholisi’r Llywodraeth a gallai gynnig nifer o gyfleoedd i Barciau Cenedlaethol Cymru. Budd ail faes, cysylltiedig, o waith, yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad, Morgan Parry, ac yn adolygu trefniadau gwaith sefydliadol rhwng tri o asiantaethau amgylcheddol mawr Cymru, y Cyngor Cefn Gwlad, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Yn rhannol o ganlyniad i’r problemau amgylcheddol a grybwyllwyd yn gynharach, a hefyd fel ymateb i bwysau ariannol, bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r asiantaethau’n cynnig digon o ddimensiwn cyfun a chynaliadwy i’w gwaith. Bydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu i’r ymgynghori yn ystod y tri mis nesaf ac mae’n debyg iawn y gofynnir i chi gymryd rhan. Os hoffech ragor o wybodaeth neu gopi ô’r ddogfen ymgynghori, ewch i: http://goo.gl/Q99E Dyddiadau i'r Dyddiadur Dyddiadau i'r Dyddiadur Dyddiadau i'r Dyddiadur Dyddiadau i'r Dyddiadur 5 – 26 Tachwedd, Seminar Flynyddol Aelodau Cymru, yn cael ei chynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Plas Tan y Bwlch

Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

Embed Size (px)

DESCRIPTION

CAPCC/Parciau Cenedlaethol Cymru Cylchlythyr Hydref 2010

Citation preview

Page 1: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

1

lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru

Hydref Hydref Hydref Hydref 2010201020102010

Mae’r rhifyn hwn o Breathing Spaces yn

cyrraedd wrth i’r Haf lithro i’r Hydref. Yn ystod y

cyfnod hwn o newid tymhorol amlwg, nid yw’n

syndod deall bod newidiadau eraill yn digwydd

yng Nghymru yn y ffordd rydym yn gofalu am ein

hamgylchedd. Mae’r newidiadau hyn yn

rhannol oherwydd yr heriau amgylcheddol

rydym yn dal i’w hwynebu ond hefyd o

ganlyniad i’r wasgfa ariannol y mae’r sector

gyhoeddus yn gorfod ei rheoli.

Cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd gyda’r

sector amgylcheddol ynghylch y Fframwaith

Amgylcheddol Naturiol sydd hefyd yn cael ei

galw’n ‘Cymru Fyw’. Y ddogfen hon yw

ymateb strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru

i’r ffaith i Gymru fethu â chyrraedd ei thargedau

bioamrywiaeth yn 2010 ac i broblemau

amgylcheddol eraill. Mae ‘Cymru Fyw’ yn

dangos dulliau newydd a llawer mwy cyfun o

reoli’r amgylchedd naturiol sy’n canolbwyntio ar

wella iechyd ecosystemau yn eu cyfanrwydd.

Mae hyn yn debyg, er efallai ar raddfa lai, i

ddulliau y mae Awdurdodau’r Parciau

Cenedlaethol yn eu mabwysiadau ar gyfer

graddfa’r tirlun. Er hynny, mae’n dangos

symudiad arwyddocaol ym mholisi’r

Llywodraeth a gallai gynnig nifer o gyfleoedd i

Barciau Cenedlaethol Cymru.

Budd ail faes, cysylltiedig, o waith, yn cael ei

gadeirio gan Gadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad,

Morgan Parry, ac yn adolygu trefniadau gwaith

sefydliadol rhwng tri o asiantaethau

amgylcheddol mawr Cymru, y Cyngor Cefn

Gwlad, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Yn rhannol o

ganlyniad i’r problemau amgylcheddol a

grybwyllwyd yn gynharach, a hefyd fel ymateb i

bwysau ariannol, bydd yr adolygiad yn ystyried

a yw’r asiantaethau’n cynnig digon o

ddimensiwn cyfun a chynaliadwy i’w gwaith.

Bydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn

cyfrannu i’r ymgynghori yn ystod y tri mis nesaf

ac mae’n debyg iawn y gofynnir i chi gymryd

rhan. Os hoffech ragor o wybodaeth neu gopi

ô’r ddogfen ymgynghori, ewch i:

http://goo.gl/Q99E

Dyddiadau i'r Dyddiadur Dyddiadau i'r Dyddiadur Dyddiadau i'r Dyddiadur Dyddiadau i'r Dyddiadur

5 – 26 Tachwedd, Seminar Flynyddol Aelodau

Cymru, yn cael ei chynnal gan Awdurdod Parc

Cenedlaethol Eryri, Plas Tan y Bwlch

Page 2: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

2

Ethol Cadeirydd Newydd i Awdurdod Ethol Cadeirydd Newydd i Awdurdod Ethol Cadeirydd Newydd i Awdurdod Ethol Cadeirydd Newydd i Awdurdod

Parc Cenedlaethol Bannau Parc Cenedlaethol Bannau Parc Cenedlaethol Bannau Parc Cenedlaethol Bannau

BrycheiniogBrycheiniogBrycheiniogBrycheiniog

Cafodd y Cynghorydd Eric Saxon, Aelod o

Gyngor Sir Fynwy, ei ethol yn Gadeirydd newydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog mewn Cyfarfod Cyffredinol a

gynhaliwyd ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae’n olynu Mrs Mary Taylor – a fu’n Gadeirydd

am y cyfnod hwyaf ar yr Awdurdod – a

adawodd y Gadair yn swyddogol ar 31 Awst

2010 ar ôl 13 mlynedd o wasanaeth diflino.

Cafodd Mrs Julie James, Aelod a benodwyd

gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ei hethol fel

Dirprwy Gadeirydd Awdurdod y Parc.

Mae’r Cynghorydd Saxon yn adnabyddus iawn

yn Sir Fynwy, lle mae wedi bod yn Gynghorydd

Sir am y chwe blynedd ddiwethaf ac yn

Gynghorydd Cymuned am 14 mlynedd. Mae

ganddo brofiad helaeth mewn meysydd megis

busnes, yr amgylchedd a llywodraethu a sicrhau

rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth ei benodi, dywedodd y Cadeirydd, y

Cynghorydd Saxon: “Mae Awdurdod Parc

Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gweld

cynnydd sylweddol o dan arweiniad gwerthfawr

Mrs Mary Taylor ond allwn ni ddim fforddio

gorffwys ar ein rhwyfau – mae yna’n dal lawer o

waith i’w wneud. Dw i ddim eisiau i’r Awdurdod

hwn fod yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan

Aelodau na Swyddogion. Mae llywodraethu ac

arwain yn effeithiol yn dibynnu ar ymddiriedaeth

a pharch, cydweithrediad a phartneriaeth.

Bydd yn rhaid i ni ddal i gydweithio i gryfhau’r

ymddiriedaeth a’r parch y naill at y llall rwyf

wedi’i weld yn datblygu ers i mi ddod yma.

Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn cael fy ethol fel

Cadeirydd. Rwy’n uchelgeisiol dros y Parc

Cenedlaethol ac yn awyddus i weld ein

llwyddiannau hyd yma yn sylfaen i wella

ymhellach yn y dyfodol. Yn fwy na dim, rwy’n

credu’n gryf yn y Parciau Cenedlaethol a

byddaf yn ymdrechu i sicrhau y gallaf arwain a

chefnogi gwaith positif Awdurdod y Parc

Cenedlaethol mewn cadwraeth ac yn ein

cymunedau lleol.

Page 3: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

3

Y Clod Uchaf i’r Y Clod Uchaf i’r Y Clod Uchaf i’r Y Clod Uchaf i’r

Adeilad UchafAdeilad UchafAdeilad UchafAdeilad Uchaf

Mewn seremoni’n ddiweddar yn cael ei chynnal

gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

Cymru (RICS Cymru) enillodd Hafod Eryri wobr

“Prosiect y Flwyddyn”. Hefyd, daeth Sefydliad

Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) i’r casgliad y

dylai Hafod Eryri fod yn un o saith adeilad yng

Nghymru sy’n haeddu clod am ansawdd eu

dyluniad a’u cyfraniad i’r amgylchedd leol.

Roedd Pierre Wassenaar, llwydd cangen Cymru

o’r RIBA yn cydnabod fod Hafod Eryri wedi’i

ddewis, yn rhannol, oherwydd bod ei adeiladu’n

gymaint o her.

“Mae’n llwyddiant aruthrol. Byddai’n ddigon

anodd ei adeiladu ar dir gwastad – ac mi

wnaethon nhw hynny mewn gwirionedd cyn ei

ddatgymalu a’u gario i fyny’r mynydd – felly,

petai ddim ond am yr ymdrech, mae’n haeddu

ei ganmol”.

Er y mai dim ond cyrraedd y rhestr fer wnaeth

Hafod Eryri'r yng nghategori “Adfywio” Gwobrau

RICS Cymru, daeth yn gyntaf o’r 15 a ddaeth i’r

brig yn “Prosiect y Flwyddyn Sgiliau Adeiladu

Cymru”.

Meddai Aneurin Phillips, y Prif Weithredwr, ar ran

Awdurdod y Parc Cenedlaethol,

“Roedd yr Awdurdod yn benderfynol o’r

cychwyn y byddai gennym adeilad ar ben yr

Wyddfa y byddai Cymru gyfan yn falch ohono.

Ers i Hafod Eryri agor, mae ymateb y cyhoedd

iddo wedi bod yn anhygoel. Aeth bron i hanner

miliwn o bobl i ymweld â’r mynydd rhwng canol

Mehefin a diwedd Hydref y llynedd – cynnydd o

27% ar ffigurau’r flwyddyn cynt.

Yn ogystal â’r ymateb anhygoel yma, mae

derbyn y gwobrau hyn gan sefydliadau sy’n

enwog yn rhyngwladol am eu harbenigedd yn y

meysydd adeiladu a phensaernïaeth nid yn unig

yn cadarnhau i ni lwyddo yn ein tasg ond mae

hefyd yn ganmoliaeth i bob un o’r gweithwyr a

oedd â rhan yn nhasg anodd adeiladu Hafod

Eryri”.

Page 4: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

4

Llofnodi tir yn ddiwrnod hanesyddol i Llofnodi tir yn ddiwrnod hanesyddol i Llofnodi tir yn ddiwrnod hanesyddol i Llofnodi tir yn ddiwrnod hanesyddol i

Awdurdod y ParcAwdurdod y ParcAwdurdod y ParcAwdurdod y Parc

Roedd diwrnod cyntaf Sioe Sir Benfro eleni’n

achlysur hanesyddol i Awdurdod y Parc

Cenedlaethol wrth iddo ddynodi’n swyddogol

22 hectar o dir Mynediad yn Freshwater East.

Ymunodd aelodau o gymuned Freshwater East

â Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros

yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane

Davidson a Chadeirydd a swyddogion

Awdurdod y Parc ar gyfer y llofnodi swyddogol

yn Sioe’r Sir.

Meddai Cadeirydd yr Awdurdod, Richard

Howells, wrth siarad yn y digwyddiad: “Bydd

dynodi Tir Mynediad yn rhoi hawl newydd i’r

cyhoedd ar droed a bydd yn cyd-fynd â’r

hawliau tramwy sydd eisoes ar Lwybr yr Arfordir

a’r llwybrau cyhoeddus yn Freshwater East.

 

“Gall tirfeddianwyr ddynodi Tir Mynediad o dan

Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

ond, hyd y gwyddom ni, ychydig o awdurdodau

lleol na thirfeddianwyr preifat sydd wedi

defnyddio’r hawliau hyn yng Nghymru.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy

o awdurdodau lleol, yn enwedig, i weithredu fel

hyn. Lle mae yna hanes o fynediad cyhoeddus

a bod hamddena’n cael ei ystyried yn

weithgaredd cynaliadwy, mae yna fanteision

amlwg i dirfeddianwyr ddynodi Tir Mynediad.

“Mae dynodi hawliau mynediad cyhoeddus yn

Freshwater East yn gwireddu ymrwymiad hir

dymor Awdurdod y Parc Cenedlaethol i

gyfarfod â dyheadau’r gymuned leol i

amddiffyn mynediad cyhoeddus ar draws y

Burrows”

Mae dynodi Tir Mynediad yn weithred na ellir ei

diddymu sy’n sicrhau y bydd hawliau mynediad

ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau,

sef yr hyn y mae’r gymuned leol wedi dyheu

amdano ers blynyddoedd lawer.

Dyma, hefyd, y cyntaf o nifer o ddaliadau tir

Awdurdod y Parc Cenedlaethol a fydd yn cael

eu dynodi’n Dir Mynediad yn ystod y

blynyddoedd nesaf.

Dechreuodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol

baratoi i ddynodi Tir Mynediad yn Freshwater

East yn 2008 a oedd yn golygu ymgynghori gyda

mwy na 80 o gartrefi a sawl sefydliad.

Page 5: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

5

Sylfaeni dysgu drwy chwaraeSylfaeni dysgu drwy chwaraeSylfaeni dysgu drwy chwaraeSylfaeni dysgu drwy chwarae

Dangosodd plant

ysgol gynradd

Sageston eu potiau

pinsio, eu lluniau

a’u barddoniaeth,

ymysg gweithiau

celf eraill, yng

Nghastell Carew

ddiwedd Mehefin.

Daeth y Neuadd

Fechan yn fyw

gyda byntin a

baneri, cleddyfau

a thariannau o

waith y 24 o blant

mewn nifer o

sesiynau yng

Nghastell Carew

sy’n cael ei reoli

gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir

Penfro.

Meddai Pennaeth Ysgol Gynradd Sageston, Mrs

Joan Morris: “Mae hyn wedi bod yn gyfle gwych

i’n disgyblion weithio mewn awyrgylch mor

anogol. Mae amrywiaeth y gweithgareddau yn

y castell wedi ysbrydoli’r plant i fod yn greadigol

a brwdfrydig ynghylch dysgu.

Roedd James Parkin, Cyfarwyddwr Hamdden,

Marchnata a Chyfathrebu’r Awdurdod yno:

“Roedd yn enghraifft wych o gymaint y mae

plant yn ei ddysgu drwy chwarae a lle gwell i

danio’r dychymyg na Chastell Carew!”

Caru Llanymddyfri Caru Llanymddyfri Caru Llanymddyfri Caru Llanymddyfri yn lansio gobaith yn lansio gobaith yn lansio gobaith yn lansio gobaith

newydd i’r drefnewydd i’r drefnewydd i’r drefnewydd i’r dref

Y mis hwn lansiodd Llanymddyfri – un o drefi

marchnad tlysaf Cymru – ei frand ‘Caru

Llanymddyfri’ a logo newydd ysblennydd i’w

ganlyn i wella’r atyniadau gwledig gan obeithio

cychwyn ar berthynas oes ag ymwelwyr â’r

ardal.

Daeth dros 100 o bobl i weld Caru Llanymddyfri’n

cael ei lansio â chryn rwysg yn Sgwâr y Farchnad

ddydd Sadwrn 14 Awst. Cafodd logo newydd

Caru Llanymddyfri, a collage enfawr siâp calon

o 400 o ffotograffau personol yn dangos beth

mae’r trigolion yn ei hoffi am y dref, eu

dadorchuddio a chafwyd newyddion cyffrous i

lansio Gwyl Ddefaid Llanymddyfri a fydd yn cael

ei chynnal ar 24 - 25 Medi.

Cafodd logo deniadol Caru Llanymddyfri ei greu

yn llywiau traddodiadol Cymru - coch ar wyrdd -

sy’n cynrychioli’r dreftadaeth ddiwylliannol y

mae pobl y dref yn gobeithio a fydd yn adfywio

Llanymddyfri fel tref Gymreig nodweddiadol ar

ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y logo’n cael ei

ddefnyddio mewn pob gwyl, deunydd

cyfathrebu ac ymgyrchoedd hyrwyddo fel

delwedd syml ond nerthol y gall pob uniaethu’n

hawdd ag e.

Page 6: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

6

Cymru Fentrus 2010 – Llwyddiant i Cymru Fentrus 2010 – Llwyddiant i Cymru Fentrus 2010 – Llwyddiant i Cymru Fentrus 2010 – Llwyddiant i

WyneddWyneddWyneddWynedd

Enillydd Cymru Fentrus 2010 yw cynllun i

hyrwyddo menter ac arloesedd a chreu

cyfleoedd i fusnesau yng Ngwynedd.

Cyhoeddwyd y newydd yn y Sioe Fawr 2010 wrth

i’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones,

gyflwyno gwobr Cymru Fentrus i Bartneriaeth

Economaidd Gwynedd am ei brosiect Llwyddo

yng Ngwynedd.

Un o brif amcanion y prosiect yw datblygu

poblogaeth sy’n mentro a diwylliant allblyg a

hyderus ymysg pobl a chymunedau Gwynedd

wledig.

Mae Llwyddo yng Ngwynedd yn gweithio gyda

grwpiau targed sydd heb, hyd yma, gyflawni eu

potensial entrepreneuriaid. Mae’r rhaglen yn

cynnwys cyfres o brosiectau sy’n gweithredu yng

Ngwynedd, drwy Gynllun Datblygu Gwledig

Cymru (2007-2013) ac mae’n anelu at annog

menter ac arloesedd yng nghefn gwlad

Gwynedd. Partneriaeth Economaidd Gwynedd

sy’n rhedeg Llwyddo yng Ngwynedd ac mae’n

cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o

sefydliadau, gan gynnwys Parc Cenedlaethol

Eryri.

Coridor gwyrdd yr arfordir yn annog Coridor gwyrdd yr arfordir yn annog Coridor gwyrdd yr arfordir yn annog Coridor gwyrdd yr arfordir yn annog

bioamrywiaethbioamrywiaethbioamrywiaethbioamrywiaeth

Mae ‘priffordd

werdd’ sy’n

rhedeg ar hyd

coridor arfordir y

sir wedi bod yn

hwb i

fioamrywiaeth,

diolch i waith

Awdurdod Parc

Cenedlaethol

Arfordir Penfro a’i bartneriaid.

Y coridor gwyrdd yw pen llanw cynllunio

cadwraethol hir dymor gan yr Awdurdod i

hyrwyddo bioamrywiaeth.

Meddai Pennaeth Cadwraeth, Mike Howe:

“Gweithgareddau dynol yn chwalu

cynefinoedd yw un o’r bygythiadau pennaf i

fioamrywiaeth a, chan bod 2010 yn Flwyddyn

Ryngwladol Bioamrywiaeth, mae’n briodol ein

bod wedi gallu datblygu gwaith ar safleoedd

ledled y Parc i frwydro yn erbyn hyn.

“Yn gyffredinol, mae cynefinoedd mewn llawer

gwell cyflwr ac mae cysylltiadau y tu fewn a’r tu

O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod

Mae presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar y rhyngrwyd yn dal i gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gwledydd Prydain, gan gynnwys Awdurdodau tri Pharc Cymru, yn

cymryd rhan mewn rhwydweithio cymdeithasol ac yn cynyddu presenoldeb ar lein Parciau

Cenedlaethol.

Gallwch ddarllen eu proffiliau, tudalennau, twît a sianelau, pob un yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael

ei ddiweddaru’n gyson. Mae Porth y Parciau Cenedlaethol yn cynnwys dewis cynhwysfawr o ddolenni

priodol. Gellir mynd at y dudalen honno drwy’r cyfeiriad:

http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm/ourwebsites.htm

Page 7: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

7

hwnt i ffiniau safleoedd wedi gwella’n arw. Mae

coridor yr arfordir o amgylch Sir Benfro erbyn hyn

yn enghraifft wych o briffordd werdd sy’n

gweithio.

“Mae’n hynod bwysig fod yr Awdurdod yn gallu

dal ati gyda’r gwaith cadwraethol craidd hwn i

wella bioamrywiaeth y Parc er ein bod yn

gweithio mewn hinsawdd economaidd galed”.

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys yr

Ymddiriedolaeth Genedlaethol,

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru,

Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Y Weinyddiaeth

Amddiffyn, Partneriaeth Bioamrywiaeth Penfro a

Nwy Naturiol Hylifol South Hook, mae’r Parc

Cenedlaethol wedi bod yn ceisio adfer y

rhwydwaith o goridorau hwylus i fywyd gwyllt ac

ehangu’r cynefinoedd allweddol i fywyd gwyllt

sy’n ffurfio gwead cefn gwlad.

Gwaith ar Lwybr y MwynwyrGwaith ar Lwybr y MwynwyrGwaith ar Lwybr y MwynwyrGwaith ar Lwybr y Mwynwyr

Ar ôl trafodaethau manwl gyda Fforwm

Anabledd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,

Fforwm Mynediad Gogledd Eryri, tirfeddianwyr

lleol ac Adran Briffyrdd Cyngor Gwynedd,

dechreuodd contractwyr weithio ar drwsio a

chynnal rhannau o Lwybr y Mwynwyr ar yr

Wyddfa fel rhan o raglen flynyddol o welliannau

Awdurdod y Parc.

Meddai Hywel Jones, Swyddog Prosiect

Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,

“Mae’r gwaith ar Lwybr y Mwynwyr yn rhan o

raglen gyffredinol o drwsio a chynnal a

gynlluniwyd fel rhan o raglen ehangach o wella

mynediad yn y Parc Cenedlaethol”.

Bu’n rhaid i ni ddefnyddio dulliau parhaol ar dair

rhan bychan o’r llwybr rhwng Llyn Teyrn a Llyn

Llydaw er mwyn sicrhau gwell mynediad a hefyd

y byddai wyneb y llwybr yn parhau. Gosodwyd

tarmac yno gyda haen o ithfaen mâl ar ei

wyneb. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl o bob

gallu i ddefnyddio’r llwybr o Ben y Pas i Lyn

Llydaw ac mae hefyd yn rhan o’n gweledigaeth

barhaus i wella mynediad ac i roi mwy o fwyniant

i bawb”.

Cafodd Llwybr y Mwynwyr i Lyn Glaslyn ei

adeiladau ddiwedd y 19eg ganrif ar gyfer

Gwaith Copr Britannia. Mae’r ffordd at y llyn yn

dal bron yn ffordd ac mae’n llwybr cyffrous a

diogel i bobl heb lawer o brofiad o fynydda.

Mae’r llwybr o Lyn Llydaw i’r copa yn fwy serth o

gryn dipyn ac yn anaddas i ddefnyddwyr

cadeiriau olwyn.    

Mae ‘Eryri i Bawb’ yn brosiect sy’n cael ei redeg

gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i annog

pobl ag anabledd, pobl sy’n cael trafferth i

symud neu rieni gyda phlant ifanc i ymweld ag

Eryri a chael amser braf a hamddenol. Fel rhan

o’r prosiect hwn, mae Gwasanaeth

Gwardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol

Eryri’n cynnal rhaglen flynyddol o

ddigwyddiadau i bobl o bob gallu , o deithiau i

ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i’r rhai â nam ar y

golwg.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am CAPCC yn

www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n

gwaith, yn cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i

ymgynghoriadau a datganiadau sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar

y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob amser

[email protected].

Page 8: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2010

8

Llwyddiant Sul y Fferm Agored yn Llwyddiant Sul y Fferm Agored yn Llwyddiant Sul y Fferm Agored yn Llwyddiant Sul y Fferm Agored yn

Llanddewi Nant HodniLlanddewi Nant HodniLlanddewi Nant HodniLlanddewi Nant Hodni

Denodd heulwen odidog, man syfrdanol ac

addewid o nifer enfawr o weithgareddau fferm

gannoedd o bobl i Ddyffryn Llanddewi Nant

Hodni ar Sul y Fferm Agored ddiwedd Mehefin.

Wedi’i drefnu fel rhan o Sul y Fferm Agored ac

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru, roedd y

digwyddiad yn dangos sut y mae fferm

Llanthony Court yn cyfuno ffermio mynydd

traddodiadol gyda rheoli’r tirlun, bioamrywiaeth

ac ymwelwyr â’r fferm.

Bu perchennog fferm Llanthony Court, Colin

Passmore a’i deulu, yn gweithio gydag

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog a dwsinau o sefydliadau partner

eraill i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol.

Roedd y gweithgareddau a oedd yn cael eu

cynnig yn cynnwys merlota, cneifio defaid a

sgyrsiau ar fywyd planhigion.

Efallai mai’r atyniad mwyaf poblogaidd oedd

ceffyl gwedd yn tynnu coed o’r goedwig ger y

fferm.

Roedd y ceffyl Ardennes hardd yn destun

edmygedd wrth wneud y math o waith y cafodd

ei hynafiaid eu bridio ar ei gyfer, tynnu coed o

goetir cadwraeth. Mae coetir trwchus a llethrau

serth yn ei gwneud bron yn amhosibl defnyddio

tractor, felly mae ceffyl gwedd, megis yr

Ardennes, yn ddelfrydol i weithio mewn man mor

anodd.

Meddai perchennog fferm Llanthony Court Colin

Passmore: “Roedd brwdfrydedd staff y Parc

Cenedlaethol, y gwirfoddolwyr a ffermwyr

cyfagos a roddodd gyflwyniadau mor ddiddorol

ynghylch cefn gwlad a ffermio wedi gwneud

hwn yn ddiwrnod hynod foddhaol”.