13
CYLCHGRAWN CHWE MISOL PRIFYSGOL MORGANNWG GWANWYN/HAF 2011 BETH YDYCH CHI’N EI YFED? Gwyddoniaeth ddadansoddol – eich bywyd chi yn ein dwylo ni MORGANNWG

Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

Embed Size (px)

DESCRIPTION

CYLCHGRAWN CHWE MISOL PRIFYSGOL MORGANNWG GWANWYN/HAF 2011

Citation preview

Page 1: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

CYLCHGRAWN CHWE MISOL PRIFYSGOL MORGANNWG GWANWYN/HAF 2011

BETH YDYCH CHI’N EI YFED?

Gwyddoniaeth ddadansoddol – eich bywyd chi yn ein dwylo ni

Mo

rga

nn

wg

Page 2: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

TALENT | 3

CROESO’R IS-GANGHELLOR

2 | TALENT

Fel Is-Ganghellor Prifysgol Morgannwg, mae’n fraint arwain sefydliad addysg uwch sydd mor ddeinamig ac sydd ar flaen y gad o ran newidiadau arloesol yng Nghymru a thu hwnt. Mae llawer iawn o waith academaidd y Brifysgol – cyrsiau astudio, ymchwil a gweithgareddau masnachol – wedi’i deilwra i anghenion galwedigaethau, diwydiant a’r sector cyhoeddus. Rwyf yn falch iawn o’r Brifysgol a’i chyraeddiadau ac am resymau da – mae doniau’n myfyrwyr a’n staff wedi ein cymryd o’n cychwyniad fel Ysgol Mwyngloddio De Cymru a Sir Fynwy bron i ganrif yn ôl i’n safle cyfredol fel y Brifysgol ail fwyaf yng Nghymru.

Mae’r Brifysgol yn dyheu i fod “â gwreiddiau lleol ac â chysylltiadau byd-eang”.

Mae’r Brifysgol yn dyheu i fod “â gwreiddiau lleol ac â chysylltiadau byd-eang”. Mae gennym rôl bwysig i’w chwarae yng Nghymru i gefnogi adfywiad economaidd, gwella cyfiawnder cymdeithasol a hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ond credwn fod hyn yn bosib os ydym yn weithgar, ac yn bwysicach fyth, yn

gystadleuol ar y llwyfan byd-eang. Pleser ydy gallu adrodd ein bod wedi bod yn gystadleuol iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn denu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol blwyddyn ar ôl blwyddyn ac eleni mae dros 2,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn y Brifysgol. Mae presenoldeb y myfyrwyr hyn ar ein campysau yn rhoi’r cyfle am ymrwymiad addysgiadol a diwylliannol rhwng y myfyrwyr; gan gynnig y siawns i fyfyrwyr cartref fanteisio ar y cyfle i glywed syniadau newydd a datblygu cyfeillgarwch sy’n pontio’r glôb ac sy’n ein galluogi i’w ysbrydoli i weld ac i ymddwyn fel dinasyddion byd-eang.

Un agwedd yn unig o weithgareddau rhyngwladol y Brifysgol ydy denu myfyrwyr. Gosodir yr un pwysigrwydd ar ein partneriaethau sefydliadol sy’n hwyluso, er enghraifft, cyfnewidfeydd myfyrwyr a staff a chydweithrediad ymchwil. Cynsail ganolog y partneriaethau hyn ydy eu bod wedi’u hadeiladu ar ymddiriedaeth, parch a budd ar y ddwy ochr; does dim ffordd arall o ddatblygu mentrau fel hyn. Mae ein partneriaethau cyfredol yn pontio’r glôb, gan gynnwys Tsieina, ble yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi datblygu rhwydwaith partneriaeth helaeth yn ymestyn o Beijing yn y gogledd, Shanghai yn y dwyrain, Chengdu yn y gorllewin a Hong Kong yn y de.

Y llynedd, roeddwn yn lwcus i allu teithio i Tsieina am y tro cyntaf fel Is-Ganghellor; i ymweld â nifer o brifysgolion sy’n bartneriaid i gwrdd â staff, myfyrwyr a’u teuluoedd i geisio dysgu’r buddion gallai Morgannwg ychwanegu at y rhain a’r pethau y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw. Roedd ehangder y wlad, maint a graddfa dinasoedd a sefydliadau addysg uwch yn nodweddion arbennig o gofiadwy o’r daith. Un ddinas o’r fath oedd Suzhou, dinas brydferth sydd hefyd yn

Julie Lydon sy’n cyflwyno’r rhifyn hwn o Talent Morgannwg.

TALENT | 5

Mae’n berffaith wir bod eich bywyd yn nwylo’r rheiny yr ydym yn eu hyfforddi i fod yn wyddonwyr dadansoddol! Mae gan Forgannwg draddodiad hir o ragoriaeth yn y maes hwn a gryfhawyd yn aruthrol gan y buddsoddiad diweddar mewn cyfleusterau newydd yn adeilad George Knox yng Nglyn-taf Uchaf.

Yr Athro Tony Davies sy’n dweud wrth Talent am faint ein dyled i’r bobl hyn sy’n aml yn guddiedig fel gwarcheidwaid ansawdd ein bywydau.

“Un o’r troeon cyntaf i mi ymwneud â Phrifysgol Morgannwg oedd wedi i mi gael gwahoddiad i siarad mewn cyfarfod am ansawdd bwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ym Mharis yn gynnar yn y 1990au. Roedd y Dr. Peter McIntyre o Forgannwg a’i fyfyrwyr wedi adrodd ar waith yr oeddent yn ei wneud fel rhan o gonsortiwm Ewropeaidd mawr iawn a oedd yn astudio pob agwedd ar reoli ansawdd bwyd.

“Roedd gan Forgannwg gyfres o fyfyrwyr PhD ardderchog yn gweithio ym maes rheoli ansawdd bwyd ar yr adeg hon. Yn yr Almaen roedd gan fy ngrwp ymchwil i galedwedd dadansoddol o’r radd flaenaf ac fe gynhaliodd gyfres o brosiectau i ddatblygu technolegau dadansoddol newydd. Fe ddatblygodd rhaglen lle bûm yn falch o letya myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Morgannwg.

“Un enghraifft ardderchog o’r cydweithio oedd y gwaith a wnaed ar olew olewydd, bwyd sy’n gallu mynd am bris enfawr ac sydd ag enw da heb ei ail fel olew bwyd iach.

“Wyddech chi fod rhai cynllwynion troseddol enfawr sy’n gymhleth ac wedi’u trefnu’n dda iawn yn ymwneud â’r bwyd yma hefyd? Hwn yw’r bwyd lle rydych yn lleiaf tebygol o brynu cynnyrch sydd wir yn cyfateb i’r hyn a nodir ar y label ar y tu allan. Roedd angen techneg ddadansoddol syml a fyddai’n ei gwneud yn bosib gwirio tarddiad yr olew ac o bosib feintioli unrhyw amhuriad. Mae’r diagram yn dangos ein bod wedi bod yn llwyddiannus.”

Mae gan wyddoniaeth ddadansoddol ran i’w chwarae hefyd yn y broses o sicrhau bod ein dwr yfed yn ddiogel. Fe gyhoeddodd yr UE reoliadau llymach o lawer ar grynodiad plaleiddiaid mewn dwr yfed a ysgogodd waith arwyddocaol gan y gymuned ddadansoddol

i blismona’r rheolau hyn. Mae’r prosiectau ymchwil hyn wedi cael eu holynu gan astudiaethau megis gwaith llwyddiannus yn ddiweddar gan Meirion Pugh i blismona mesurau llwyddiannus i wahardd rhai sylweddau hirbarhaus ar gyfer diogelu cnydau, gan ddadansoddi afonydd Cymru o’u tarddiad nes bod y dwr yn cyrraedd ein cegau.

Mae Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan yn arbennig o wenwynig gan eu bod yn debyg o ran bioactifedd i ddeuocsin – gwenwyn Bhopal. Yn anffodus, yr union briodweddau cemegol sy’n peri i Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan fod o gymaint o ddiddordeb i ddiwydiant yw eu problem fwyaf hefyd gan eu bod yn dda iawn am wrthsefyll bioddiraddiad. Bu prosiect yn ystyried ffyrdd o ganfod y moleciwlau hyn mewn llaid carthion ac roedd yn canolbwyntio ar gydrywiaid cymhlan eithriadol o wenwynig. Buom yn llwyddiannus wrth ganfod dull, a chan ddefnyddio’r profiad a oedd gennym ym maes trosglwyddo aethom ati i symud y data crai i gyfrifiadur a oedd yn rhedeg meddalwedd datblygedig a oedd ar gael gan Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg yn Gaithersburg UDA, o’r enw AMDIS. Mae’r ffigur yn dangos sut y gellid canfod crynodiadau penodol mewn sylwedd a ddadansoddir er gwaethaf natur gymhleth iawn sampl o laid carthion. Mae’r dynodwr “T” yn dangos ble y canfuwyd y Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan ac mae’r dynodwyr eraill yn dangos ble y canfuwyd sylweddau eraill yn y llaid.

Cafodd prosiect AMDIS ei weithredu’n wreiddiol i ddarparu meddalwedd er mwyn i wledydd allu monitro presenoldeb sylweddau rhyfela cemegol yn eu hatmosffer, a thechnoleg arall a ddefnyddir yn eang i ganfod sylweddau rhyfela cemegol yw’r Sbectromedr Symudoledd Ïonau. Gall yr offer hyn ganfod lefelau isel iawn ac nid oes angen gwacter uchel arnynt. Yn Dortmund, bu gwyddonwyr yn fy ngrwp ymchwil yn astudio system broblemus arall â phroblemau sy’n rhyfeddol o debyg i’r Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan. Mae sylffwr hecsafflworid SF6 yn foleciwl sefydlog iawn sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn offer switsio foltedd uchel. Mae’n atal gwreichion yn ystod gweithrediadau switsio ond yn anffodus mae hefyd yn nwy ty gwydr nerthol â photensial cynhesu byd-eang sy’n uwch o lawer na charbon deuocsid. Dros amser, gellir cael croniad o wenwyn a rhywogaethau adweithiol iawn a all

arwain at ddifrod i’r offer switsio ac yn y pen draw at fethiant trychinebus. Fe ddyluniwyd sbectromedr symudoledd ïonau ar archeb i ganfod y nwy a rhoi rhybudd cynnar i weithredwyr y gall fod problemau fel eu bod yn gallu glanhau’r nwy cyn ceisio gweithredu’r switsh. Roedd hyn mor llwyddiannus fel bod cwmni deilliannol wedi cael ei ffurfio i weithgynhyrchu’r offer hyn.

Felly sut y mae a wnelo hyn ag iechyd, meddech chi? Wel, yn dilyn datblygiadau pellach mewn sensitifrwydd wrth ganfod sylweddau â Sbectromedrau Symudoledd Ïonau yn Dortmund ynghyd â’r gallu i fesur samplau o nwyon ar wasgedd atmosfferig, fe esgorwyd ar offeryn a allai roi cymorth i wneud diagnosis wrth ganfod clefydau. Mae’n hysbys i bawb fod arogleuon anadl yn gallu cael defnyddio i wneud diagnosis wrth ganfod clefydau ac mae wedi bod yn bosib defnyddio proses o ddadansoddi anadl ar wasgedd atmosfferig fel dangosydd ar gyfer canser yr ysgyfaint. Mae’r cam hwn ymlaen hefyd wedi arwain at sefydlu cwmni deilliannol arall yng Nghymru i weithgynhyrchu’r offer a pharhau â gwaith datblygu pellach gyda’r dyfeiswyr yn yr Almaen.”

Felly rydych yn awr wedi gweld rhai enghreifftiau o’r modd y gall arbenigedd a chymhwysedd mewn un maes o fewn gwyddoniaeth ddadansoddol gael eu trosglwyddo’n rhwydd ac yn effeithiol i faes arall gan ddwyn canlyniadau ardderchog. Mae’r gallu hwn i feddwl mewn ffordd anarferol ac adnabod cyfleoedd yn rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w gyflwyno’n fwy i’r Wyddoniaeth Ddadansoddol a addysgir ym Mhrifysgol Morgannwg gan ei fod nid yn unig yn helpu gyda’n gwaith o ddydd i ddydd ond ei fod hefyd yn gwneud ein myfyrwyr yn fwy cyflogadwy o lawer!”

Fel y mae’r Athro Davies wedi’i ddangos, mae cemegwyr dadansoddol yn brysur yn gweithio i sicrhau eich diogelwch a’ch ansawdd bywyd. Efallai nad ydynt ar gael trwy ddeialu 999 ond maent yn gwneud gwaith gwych wrth sicrhau nad oes rhaid i chi wneud hynny.

EICH BYWYD CHIYN EIN DWYLO NI

Yr Athro Tony Davies sy’n egluro sut y mae gwyddonwyr dadansoddol yn gweithioi sicrhau eich diogelwch a’ch ansawdd bywyd.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Athro Tony Davies ar [email protected]

4 | TALENT

CYLCHGRAWN CHWE MISOL PRIFYSGOL MORGANNWG GWANWYN/HAF 2011

BETH YDYCH CHI’N EI YFED?

Gwyddoniaeth ddadansoddol – eich bywyd chi yn ein dwylo ni

Mo

rga

nn

wg

AR Y CLAWREich bywyd chi yn ein dwylo niYr athro Tony Davies sy’n egluro sut y mae gwyddonwyr dadansoddol yn gweithio i sicrhau eich diogelwch a’ch ansawdd bywyd.

04

cael ei hadnabod fel “Fenis y Dwyrain”, gyda phoblogaeth o dros chwe miliwn o bobl sy’n cynhyrchu’r CMC lleol pumed fwyaf yn Tsieina. Gyda’n partner, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Suzhou, fe lansion ni rhaglen gradd arloesol ar y cyd mewn rheoli adeiladwaith, sy’n cwrdd ag anghenion sgiliau’r fwrdeistref leol a dyheadau myfyrwyr i astudio am ran o’u gradd yn y DU. Glywsom yn ddiweddar, ynghyd â chymeradwyaeth gan y fwrdeistref leol, bod y rhaglen nawr wedi cael ei chymeradwyo’n swyddogol gan Weinyddiaeth Addysg Gweriniaeth Pobl Tsieina. Roeddem yn falch iawn gyda’r newyddion hwn sy’n gyrhaeddiad anferth a bydd yn rhoi hwb i ni ar gyfer cydweithrediad pellach gyda’r brifysgol hon.

Mae cyfnewidfeydd gyda phobl hefyd yn nodwedd allweddol o’n gwaith partneriaeth. Ochr yn ochr â rhaglen hyfforddi arloesol ar gyfer staff o sefydliadau sy’n bartner sy’n cyfuno hyfforddiant ar Saesneg ac addysgeg, rydym yn rheolaidd yn croesawu academyddion o’n partneriaid i’n campysau i ddysgu, gwneud gwaith ymchwil neu weithgareddau ysgolheigaidd am gyfnodau estynedig.

Gobeithiaf nawr bod gennych chi mwy o werthfawrogiad o raddfa a phwysigrwydd gweithgareddau rhyngwladol Morgannwg – Prifysgol “â gwreiddiau lleol ac â chysylltiadau byd-eang” – sy’n gystadleuol ar y llwyfan byd-eang er mwyn i bobl Cymru allu elwa o fanteision sefydliad addysg uwch cynaliadwy.

Mawr obeithiaf y mwynhewch y darllen.

Julie LydonIs-Ganghellor

Croeso’r Is-ganghellor Julie Lydon sy’n cyflwyno’r rhifyn

hwn o Talent Morgannwg.

Cleifion Canser yn Adrodd eu Hanesion

Fe lansiwyd prosiect arbennig iawn ar gampws aTriuM y Brifysgol ym mis Tachwedd.

BBaChau i Gael Mynediad at Dechnolegau Symudol Newydd

Yn awr gall BBaChau mewn ardaloedd cydgyfeirio yng nghymru elwa o arbenigedd y Brifysgol mewn technolegau symudol datblygol diolch i ganolfan ragoriaeth newydd.

Cychwyn ar Gyfnod o Aeddfedrwydd Rhyngwladol

Mae’n Amser i’r Gymuned Rygbi Ddeffro

Un o gewri rygbi Cymru, JPr williams, sy’n trafod y pwysau corfforol ar chwaraewyr modern, ac yn egluro ymchwil newydd ym Mhrifysgol Morgannwg i anafiadau a geir wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Parc Chwaraeon Fe ddadlennodd y Farwnes Tanni

grey-Thompson gyfadeilad datblygu hyfforddwyr a pherfformiad tra modern y Brifysgol, sydd wedi costio £3.7m, ym Mharc Chwaraeon Morgannwg.

Ymosodiad Ultramarines Mae darlithydd a thri o fyfyrwyr

sydd ar eu hail flwyddyn yn astudio Technoleg greadigol ym Mhrifysgol Morgannwg wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i ffilm ffuglen wyddonol newydd.

Dysgu Trwy Gyflogaeth Morgannwg yn arwain y ffordd

Drama sy’n Torri Tir Newydd Mae llyfr newydd yr athro

Stephen Lacey ar Cathy Come Home yn archwilio effaith y ffilm hon ar gymdeithas a theledu.

Llwyddiant Saesneg Mae Saesneg ac Ysgrifennu

Creadigol ym Morgannwg yn faes sy’n ffynnu ac ymhlith ti staff mae awduron a beirdd arobryn.

Edrych Tua’r Sêr Darlithydd ym Mhrifysgol

Morgannwg, Dr Paul roche, Llysgennad y gofod dros gymru, ar seryddiaeth ym Mhrifysgol Morgannwg.

Y “Goroeswr Annisgwyl” Mae ymarferwyr meddygol

elitaidd o UDa a Byddin Prydain wedi bod yn cyfuno’u gwybodaeth yng nghyfleusterau efelychu clinigol campws Prifysgol Morgannwg yng nglyn-taf wrth iddynt ddysgu cydweithio’n ddi-dor yn yr ysbytai maes milwrol tra modern yn afghanistan.

Gall Dewis Fod Yn Brofiad Dryslyd

Bu dros 90 o athrawon ac ymgynghorwyr gyrfaoedd o bob rhan o’r DU yn archwilio’r heriau a’r materion presennol sy’n wynebu myfyrwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau ynghylch astudio mewn prifysgol yn ystod cynhadledd hynod lwyddiannus ym Mhrifysgol Morgannwg.

YN Y RHIFYN HWN03

06

08

10

12

14

22

16

17

18

24

19

20

Page 3: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

TALENT | 5

Mae’n berffaith wir bod eich bywyd yn nwylo’r rheiny yr ydym yn eu hyfforddi i fod yn wyddonwyr dadansoddol! Mae gan Forgannwg draddodiad hir o ragoriaeth yn y maes hwn a gryfhawyd yn aruthrol gan y buddsoddiad diweddar mewn cyfleusterau newydd yn adeilad George Knox yng Nglyn-taf Uchaf.

Yr Athro Tony Davies sy’n dweud wrth Talent am faint ein dyled i’r bobl hyn sy’n aml yn guddiedig fel gwarcheidwaid ansawdd ein bywydau.

“Un o’r troeon cyntaf i mi ymwneud â Phrifysgol Morgannwg oedd wedi i mi gael gwahoddiad i siarad mewn cyfarfod am ansawdd bwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ym Mharis yn gynnar yn y 1990au. Roedd y Dr. Peter McIntyre o Forgannwg a’i fyfyrwyr wedi adrodd ar waith yr oeddent yn ei wneud fel rhan o gonsortiwm Ewropeaidd mawr iawn a oedd yn astudio pob agwedd ar reoli ansawdd bwyd.

“Roedd gan Forgannwg gyfres o fyfyrwyr PhD ardderchog yn gweithio ym maes rheoli ansawdd bwyd ar yr adeg hon. Yn yr Almaen roedd gan fy ngrwp ymchwil i galedwedd dadansoddol o’r radd flaenaf ac fe gynhaliodd gyfres o brosiectau i ddatblygu technolegau dadansoddol newydd. Fe ddatblygodd rhaglen lle bûm yn falch o letya myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Morgannwg.

“Un enghraifft ardderchog o’r cydweithio oedd y gwaith a wnaed ar olew olewydd, bwyd sy’n gallu mynd am bris enfawr ac sydd ag enw da heb ei ail fel olew bwyd iach.

“Wyddech chi fod rhai cynllwynion troseddol enfawr sy’n gymhleth ac wedi’u trefnu’n dda iawn yn ymwneud â’r bwyd yma hefyd? Hwn yw’r bwyd lle rydych yn lleiaf tebygol o brynu cynnyrch sydd wir yn cyfateb i’r hyn a nodir ar y label ar y tu allan. Roedd angen techneg ddadansoddol syml a fyddai’n ei gwneud yn bosib gwirio tarddiad yr olew ac o bosib feintioli unrhyw amhuriad. Mae’r diagram yn dangos ein bod wedi bod yn llwyddiannus.”

Mae gan wyddoniaeth ddadansoddol ran i’w chwarae hefyd yn y broses o sicrhau bod ein dwr yfed yn ddiogel. Fe gyhoeddodd yr UE reoliadau llymach o lawer ar grynodiad plaleiddiaid mewn dwr yfed a ysgogodd waith arwyddocaol gan y gymuned ddadansoddol

i blismona’r rheolau hyn. Mae’r prosiectau ymchwil hyn wedi cael eu holynu gan astudiaethau megis gwaith llwyddiannus yn ddiweddar gan Meirion Pugh i blismona mesurau llwyddiannus i wahardd rhai sylweddau hirbarhaus ar gyfer diogelu cnydau, gan ddadansoddi afonydd Cymru o’u tarddiad nes bod y dwr yn cyrraedd ein cegau.

Mae Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan yn arbennig o wenwynig gan eu bod yn debyg o ran bioactifedd i ddeuocsin – gwenwyn Bhopal. Yn anffodus, yr union briodweddau cemegol sy’n peri i Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan fod o gymaint o ddiddordeb i ddiwydiant yw eu problem fwyaf hefyd gan eu bod yn dda iawn am wrthsefyll bioddiraddiad. Bu prosiect yn ystyried ffyrdd o ganfod y moleciwlau hyn mewn llaid carthion ac roedd yn canolbwyntio ar gydrywiaid cymhlan eithriadol o wenwynig. Buom yn llwyddiannus wrth ganfod dull, a chan ddefnyddio’r profiad a oedd gennym ym maes trosglwyddo aethom ati i symud y data crai i gyfrifiadur a oedd yn rhedeg meddalwedd datblygedig a oedd ar gael gan Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg yn Gaithersburg UDA, o’r enw AMDIS. Mae’r ffigur yn dangos sut y gellid canfod crynodiadau penodol mewn sylwedd a ddadansoddir er gwaethaf natur gymhleth iawn sampl o laid carthion. Mae’r dynodwr “T” yn dangos ble y canfuwyd y Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan ac mae’r dynodwyr eraill yn dangos ble y canfuwyd sylweddau eraill yn y llaid.

Cafodd prosiect AMDIS ei weithredu’n wreiddiol i ddarparu meddalwedd er mwyn i wledydd allu monitro presenoldeb sylweddau rhyfela cemegol yn eu hatmosffer, a thechnoleg arall a ddefnyddir yn eang i ganfod sylweddau rhyfela cemegol yw’r Sbectromedr Symudoledd Ïonau. Gall yr offer hyn ganfod lefelau isel iawn ac nid oes angen gwacter uchel arnynt. Yn Dortmund, bu gwyddonwyr yn fy ngrwp ymchwil yn astudio system broblemus arall â phroblemau sy’n rhyfeddol o debyg i’r Deuffenylau Polyclorinedig Cymhlan. Mae sylffwr hecsafflworid SF6 yn foleciwl sefydlog iawn sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn offer switsio foltedd uchel. Mae’n atal gwreichion yn ystod gweithrediadau switsio ond yn anffodus mae hefyd yn nwy ty gwydr nerthol â photensial cynhesu byd-eang sy’n uwch o lawer na charbon deuocsid. Dros amser, gellir cael croniad o wenwyn a rhywogaethau adweithiol iawn a all

arwain at ddifrod i’r offer switsio ac yn y pen draw at fethiant trychinebus. Fe ddyluniwyd sbectromedr symudoledd ïonau ar archeb i ganfod y nwy a rhoi rhybudd cynnar i weithredwyr y gall fod problemau fel eu bod yn gallu glanhau’r nwy cyn ceisio gweithredu’r switsh. Roedd hyn mor llwyddiannus fel bod cwmni deilliannol wedi cael ei ffurfio i weithgynhyrchu’r offer hyn.

Felly sut y mae a wnelo hyn ag iechyd, meddech chi? Wel, yn dilyn datblygiadau pellach mewn sensitifrwydd wrth ganfod sylweddau â Sbectromedrau Symudoledd Ïonau yn Dortmund ynghyd â’r gallu i fesur samplau o nwyon ar wasgedd atmosfferig, fe esgorwyd ar offeryn a allai roi cymorth i wneud diagnosis wrth ganfod clefydau. Mae’n hysbys i bawb fod arogleuon anadl yn gallu cael defnyddio i wneud diagnosis wrth ganfod clefydau ac mae wedi bod yn bosib defnyddio proses o ddadansoddi anadl ar wasgedd atmosfferig fel dangosydd ar gyfer canser yr ysgyfaint. Mae’r cam hwn ymlaen hefyd wedi arwain at sefydlu cwmni deilliannol arall yng Nghymru i weithgynhyrchu’r offer a pharhau â gwaith datblygu pellach gyda’r dyfeiswyr yn yr Almaen.”

Felly rydych yn awr wedi gweld rhai enghreifftiau o’r modd y gall arbenigedd a chymhwysedd mewn un maes o fewn gwyddoniaeth ddadansoddol gael eu trosglwyddo’n rhwydd ac yn effeithiol i faes arall gan ddwyn canlyniadau ardderchog. Mae’r gallu hwn i feddwl mewn ffordd anarferol ac adnabod cyfleoedd yn rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w gyflwyno’n fwy i’r Wyddoniaeth Ddadansoddol a addysgir ym Mhrifysgol Morgannwg gan ei fod nid yn unig yn helpu gyda’n gwaith o ddydd i ddydd ond ei fod hefyd yn gwneud ein myfyrwyr yn fwy cyflogadwy o lawer!”

Fel y mae’r Athro Davies wedi’i ddangos, mae cemegwyr dadansoddol yn brysur yn gweithio i sicrhau eich diogelwch a’ch ansawdd bywyd. Efallai nad ydynt ar gael trwy ddeialu 999 ond maent yn gwneud gwaith gwych wrth sicrhau nad oes rhaid i chi wneud hynny.

EICH BYWYD CHIYN EIN DWYLO NI

Yr athro Tony Davies sy’n egluro sut y mae gwyddonwyr dadansoddol yn gweithioi sicrhau eich diogelwch a’ch ansawdd bywyd.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Athro Tony Davies ar [email protected]

4 | TALENT

Page 4: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

6 | TALENT TALENT | 7

CLEIFION CANSER YN ADRODD EU HANESION

Datblygwyd Storybank gan Dîm Storyworks Prifysgol Morgannwg ar y cyd â Thîm Geneteg Canser Prifysgol Caerdydd.

Fel rhan o’r prosiect, a ariannwyd gan elusen canser Tenovus, bu ymchwilwyr o’r ddau dîm yn casglu ac yn paratoi hanesion digidol gan gleifion a oedd wedi gwirfoddoli i rannu eu profiadau am eu siwrne trwy Wasanaeth Geneteg Canser Cymru.

Cafodd y wefan ei lansio’n swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a ddywedodd, “Mae’n dda gennyf lansio’r wefan arloesol hon. Mae crybwyll y gair “canser” yn gallu codi ofn ar nifer o bobl a bydd unrhyw beth a all leddfu ofnau mewn perthynas â’r clefyd o gymorth mawr. Mae clywed gan eraill y mae’r clefyd wedi effeithio ar eu bywydau’n siwr gynnig cysur i bobl sydd mewn sefyllfa debyg.”

Mae’r hanesion gan gleifion yn ymdrin ag ystod o bynciau megis byw gyda chanser; byw gyda’r risg o ganser etifeddol, neu roi gwybod i blant am ddiagnosis canser.

“Er bod canserau teuluol yn brin, i bobl y mae sawl aelod o’u teulu wedi datblygu canser maent yn aml yn poeni y byddant hwythau’n datblygu canser,” yn ôl Dr Rachel Iredale, o Sefydliad Geneteg Feddygol Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y prosiect.

“Gall yr ofn yma o beidio â gwybod ble i droi achosi poen meddwl eithriadol gan wneud i bobl deimlo’u bod wedi’u hynysu ac ar eu pennau eu hunain. Dyna pam ein bod wedi datblygu’r wefan hon. Pobl go iawn yn adrodd eu hanesion ac yn ymdrin â’r materion

go iawn sy’n ymwneud â chanser, gan gynnig rhywle y gall eraill droi ato i gael cyngor a chefnogaeth,” ychwanegodd.

Yn ystod y noson, cafodd rhai o’r hanesion sydd i’w gweld ar y wefan eu dangos ac wedyn fe gymerodd y bobl a adroddodd yr hanesion ran mewn sesiwn holi ac ateb ddidwyll ac emosiynol. Fe ychwanegodd Karen Lewis, Arweinydd Prosiectau, Storyworks, Prifysgol Morgannwg: “Trwy ein gwaith ni gyda Rachel a’i thîm, rydym nid yn unig wedi gallu rhoi llais i gleifion ond rydym hefyd wedi sicrhau bod gan bobl sy’n poeni y gallent hwy fod â risg uwch o etifeddu canser ffynhonnell gwybodaeth a chyngor sy’n seiliedig ar fywyd go iawn. Roedd yn wych gweld cymaint ohonynt yn y lansiad ac roeddem yn arbennig o ddiolchgar i’r rheiny a rannodd eu hanesion gyda ni ar y noson.”

Fe ychwanegodd y Dr Ian Lewis, Pennaeth Ymchwil yn Tenovus: “Yn Tenovus rydym yn ymegnïo i wneud pobl y mae canser wedi effeithio arnynt yn gwbl ganolog i bopeth a wnawn. Mae prosiect Storybank yn allweddol bwysig i roi cymorth gyda’r anawsterau emosiynol ac ymarferol a wynebir gan bobl sy’n wynebu’r risg o ganser etifeddol. Rydym mor falch i ariannu gwaith Gwasanaeth Geneteg Canser Cymru.”

Gobeithir y bydd y wefan yn cael ei defnyddio gan gleifion presennol a chleifion yn y dyfodol, yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol.

cancergeneticsstorybank.co.ukI gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Karen Lewis ar [email protected]

“Mae’n dda gennyf lansio’r wefan arloesol hon. Mae crybwyll y gair “canser” yn gallu codi ofn ar nifer o bobl a bydd unrhyw beth a all leddfu ofnau mewn perthynas â’r clefyd o gymorth mawr.” Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Fe lansiwyd prosiect arbennig iawn ar gampws aTriuM y Brifysgol ym mis Tachwedd.

O’r chwith i’r dde:Karen Lewis, Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a Rachel Iredale

Page 5: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

8 | TALENT TALENT | 9

BBaChau I GAEL MYNEDIAD AT DECHNOLEGAU

SYMUDOL NEWYDDYn awr gall BBaChau mewn ardaloedd cydgyfeirio yng nghymru elwa o arbenigedd y Brifysgol mewn technolegau symudol datblygol diolch i ganolfan ragoriaeth newydd.

Mae technolegau symudol a diwifr ynghyd â’r Rhyngrwyd wedi achosi newid dramatig yn ein ffordd o fyw. Mae’r technolegau hyn a’r dulliau o’u defnyddio hefyd yn treiddio i bob agwedd ar fyd busnes gan arwain at welliannau mawr mewn effeithlonrwydd ac ansawdd bywyd a gwaith.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth mewn Cymwysiadau a Gwasanaethau Symudol yn fenter £4.9m a ariennir yn rhannol â Chyllid Cydgyfeirio o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

“Mae datblygu cymwysiadau symudol yn un o’r diwydiannau sy’n datblygu gyflymaf ledled y byd.”

Cafodd y Ganolfan ei chreu mewn ymateb i’r adroddiad Digital Britain gan Lywodraeth y DU, y mae un o’r amcanion ynddo’n ymwneud â chreu “hinsawdd fuddsoddi ddynamig ar gyfer cynnwys, cymwysiadau a gwasanaethau digidol yn y DU sy’n gwneud y DU yn lle deniadol ar gyfer buddsoddiadau cartref a mewnfuddsoddiadau yn ein heconomi ddigidol.”

Meddai’r Athro Khalid Al Begain, Cyfarwyddwr y Ganolfan, “Mae datblygu cymwysiadau symudol yn un o’r diwydiannau sy’n datblygu gyflymaf ledled y byd. Ar hyn o bryd mae dros 200,000 o gymwysiadau ar gael ar siop Apple ar gyfer yr iPhone. Mae siopau eraill sy’n gwerthu cymwysiadau hefyd yn cynnig peth wmbredd o gymwysiadau gan gynnwys siop Ovi gan Nokia a phlatfform Android gan Google.”

Mae ffigyrau Gartner yn amcangyfrif roedd oddeutu 8 biliwn o lawrlwythiadau unigol o ffynonellau swyddogol i osod cymwysiadau ar ffonau symudol yn 2010 – a hwnnw’n codi i ffigwr trawiadol o 21.6 biliwn erbyn 2013.

Yn ôl Gartner Research, roedd siopau sy’n gwerthu cymwysiadau ar gyfer dyfeisiau symudol yn werth US$6.2 biliwn yn 2010 a bydd y ffigwr hwn yn saethu i fyny i US$29.5 biliwn yn 2013. Mae ffigyrau Gartner yn amcangyfrif roedd oddeutu 8 biliwn o lawrlwythiadau unigol o ffynonellau swyddogol i osod cymwysiadau ar ffonau symudol yn 2010 – a hwnnw’n codi i ffigwr trawiadol o 21.6 biliwn erbyn 2013.

Aeth yr Athro Al Begain ymlaen “Mae’r datblygiadau newydd hyn yn newid strwythur arwahanol traddodiadol diwydiant y darparwyr gwasanaethau telathrebu, gan alluogi cystadleuwyr newydd i ymuno â’r farchnad. Mae’r strwythur traddodiadol hwn, lle ceir rhwydweithiau cyflin, ar wahân i’w gilydd ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan wahanol gwmnïau, yn colli ei berthnasedd wrth i dechnoleg sy’n seiliedig ar Ddarparwyr Rhyngrwyd ddatblygu. Er mwyn ymateb i’r her gystadleuol, mae cwmnïau presennol a newydd yn ceisio ffyrdd newydd a gwell o fod yn wahanol er mwyn ennill cyfran o’r farchnad sy’n ehangu’n gyflym ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau datblygedig.

Am y tro cyntaf, gall BBaChau ac arloeswyr mewn gwasanaethau allanol gyfrannu at yr arlwy o gymwysiadau a gwasanaethau – ond dim ond os ydynt yn cael mynediad at gymorth ac isadeiledd priodol.

Mewn ymateb i’r angen hwn sydd wrthi’n dod i’r amlwg, bydd y Ganolfan Ragoriaeth mewn Cymwysiadau a Gwasanaethau Symudol yn darparu platfform gwe / isadeiledd telathrebu unigryw, gan alluogi arbenigwyr academaidd i gynorthwyo BBaChau mewn rhanbarthau Cydgyfeirio i greu, datblygu, a phrofi cymwysiadau a gwasanaethau symudol arloesol cyn eu lansio ar y farchnad.”

Fe ychwanegodd yr Athro Al Begain, “Bydd y Ganolfan yn ymestyn ei gwasanaethau i fuddiolwyr o bob sector yn y rhanbarth Cydgyfeirio, gan gynnwys busnes, iechyd, trafnidiaeth, diogelwch a hyd yn oed y diwydiant ffermio yn y rhanbarth Cydgyfeirio i ddarparu datrysiadau technoleg symudol a fydd yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.” Mae’r Ganolfan wedi bod yn profi ei chyfleuster rhwydwaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf gyda nifer o gwmnïau lleol yn y rhanbarth Cydgyfeirio. Fe brofodd y cyfnod treialu’n llwyddiannus iawn a gyda’r cyllid hwn bydd y Ganolfan mewn sefyllfa i gyflwyno’r cyfleuster hwn yn raddol i lawer mwy o gwmnïau.

Yr Athro Khalid Al Begain

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Athro Khalid Al Begain ar [email protected]

Page 6: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

10 | TALENT TALENT | 11

CYCHWYN AR GYFNOD O AEDDFEDRWYDD

RHYNGWLADOLi recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ers 2002 pan grëwyd y Swyddfa Recriwtio Genedlaethol wreiddiol. Ers hynny, mae niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol wedi cynyddu o oddeutu 100 i dros 1000 o gofrestriadau newydd yn hydref 2010, ac mae disgwyl i 300 arall gofrestru yn ein hail broses dderbyn ym mis Chwefror 2011. Y canolbwynt cyfredol ar gyfer recriwtio rhyngwladol yw’r Swyddfa Ryngwladol, a grëwyd ym mis Chwefror 2010, er bod ein llwyddiant wrth recriwtio niferoedd mor uchel o fyfyrwyr hefyd yn seiliedig

LAURA TESSA BOSS

Mae Laura Tessa Boss o’r Iseldiroedd yn astudio ar gyfer gradd uwch LLM mewn Cyfraith Ryngwladol Fasnachol. Bu’n egluro wrth Talent pam ei bod wedi penderfynu dod i astudio ym Morgannwg.

“Pan orffennais fy ngradd Baglor mewn Rheoli, Economeg a’r Gyfraith, roeddwn yn awyddus i ehangu fy

Myfyrwyr a staff o Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Suzhou gyda’r ddirprwyaeth o Brifysgol Morgannwg dan arweiniad yr Is-ganghellor Julie Lydon

ar y gefnogaeth gref a dderbynnir gan y cyfadrannau pan eu bod yn mynd ar ymweliadau tramor i gefnogi cydweithwyr yn y Swyddfa Ryngwladol.

Ym mis Medi, fe dderbynion ni 1004 o fyfyrwyr newydd ac er bod 67% o’r rhain yn dod o bedair gwlad, sef Tsieina, India, Nigeria a Saudi Arabia, mae 63 chenedligrwydd tramor yn cael eu cynrychioli ymhlith ein mintai newydd o fyfyrwyr, gan gynnwys yr Ariannin, Awstralia, Dwyrain Timor, Ecuador, De Korea ac Yemen.

Mae niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol wedi cynyddu o oddeutu 100 i dros 1000 o gofrestriadau newydd yn hydref 2010, ac mae disgwyl i 300 arall gofrestru yn ein hail broses dderbyn ym mis Chwefror 2011.

Datblygwyd partneriaeth allweddol yn ddiweddar rhwng y Gyfadran Uwch-dechnoleg (AT) a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Suzhou (SUST), Suzhou, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Fel rhan o’r cytundeb, y mae sawl agwedd iddo, bydd myfyrwyr llwyddiannus o raglen SUST i israddedigion mewn Rheolaeth Adeiladu’n ymuno â rhaglenni AT i israddedigion mewn rheolaeth adeiladu neu Eiddo Diriaethol. Mae meithrin cysylltiadau cryf yn ganolog i’r bartneriaeth a fydd yn golygu bod academyddion o Forgannwg yn teithio i Suzhou i gyflwyno rhan o’r deunydd addysgu a gweithio gyda staff lleol i ganlyn cyd-ddiddordebau ymchwil. Gan ei bod wedi’i bwriadu

i fod yn bartneriaeth gydradd, bydd academyddion o Suzhou hefyd yn treulio blwyddyn ym Morgannwg yn gwneud gwaith addysgu, asesu ac ymchwil.

Cafodd yr ymweliad cyntaf dros gyfnod o bythefnos gan academyddion AT ei gwblhau’n llwyddiannus ym mis Rhagfyr 2010. Yn ystod yr ymweliad, cafodd 48 o fyfyrwyr ar eu blwyddyn gyntaf brofi dull Morgannwg o gyflwyno dau bwnc mewn bloc, ac wedi hynny fe gwblhasant gyfres o asesiadau. Er gwaethaf yr amserlen drom, fe lwyddodd myfyrwyr a staff i wneud y gorau o’r cyfle i gymdeithasu a dysgu cymaint â phosib am ei gilydd. Ar ddiwedd y pythefnos fe drefnodd staff Morgannwg ddigwyddiad cymdeithasol i’r myfyrwyr fel ffordd o ddiolch iddynt am eu gwaith caled, eu brwdfrydedd a’u trafodaethau bywiog am bêl-droed!

Sefydlwyd SUST yn 2001 yn dilyn cymeradwyaeth gan y Weinyddiaeth Addysg Genedlaethol a Llywodraeth Talaith Jiangsu, trwy uno Athrofa Adeiladu Trefol a Diogelu’r Amgylchedd Suzhou gynt a Choleg Athrawon Rheilffordd Suzhou gynt. Mae’r brifysgol

Laura Tessa Boss

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Malcolm Taylor ar [email protected]

Mae Prifysgol Morgannwg wrthi’n barhaus yn codi ei phroffil rhyngwladol trwy weithredu strategaeth ryngwladol uchelgeisiol. Ar draws y cyfadrannau, mae ethos cryf o ryngwladoli’n treiddio i bob agwedd ar y gwaith sy’n cael ei wneud, o recriwtio myfyrwyr rhyngwladol i ymchwil gydweithredol a rhaglenni cyfnewid staff gyda phartneriaid tramor.

Mae’r Brifysgol wedi mynd ati mewn ffordd weithredol i dargedu’r amcan

ngwybodaeth mewn maes penodol ym myd busnes. Roeddwn wedi treulio tri chyfnod yn astudio dramor, yn Sweden a Sbaen, felly roedd gen i brofiad o astudio mewn gwlad wahanol a thrwy gyfrwng ieithoedd gwahanol. Cwrddais â chynrychiolydd o Swyddfa Ryngwladol Morgannwg mewn ffair yrfaoedd yn Amsterdam. Bûm ar ymweliad â’r Brifysgol y flwyddyn cyn i mi ddechrau’r cwrs. Yr eiliad y gwelais y cyfleusterau roeddwn yn gwybod fy mod am ddod i astudio yma.

“Y peth yr wyf wir yn ei fwynhau am y Brifysgol yw’r dull o weithio. Mae’r darlithoedd, o’m profiad i, yn canolbwyntio ar ddialog gyda a rhwng myfyrwyr, mae’r dosbarthiadau’n fach iawn ac mae’r myfyrwyr yn hapus i rannu eu safbwyntiau ar y pwnc dan sylw.

“Fel myfyrwraig ryngwladol mae gadael cartref wastad yn gam mawr. Bu Wythnos Croesawu Myfyrwyr Rhyngwladol o gymorth mawr i mi ymgartrefu’n academaidd ac yn gymdeithasol. Mae’r wythnos yn

cynnwys nifer o ddigwyddiadau ac yn canolbwyntio’n bennaf ar eich cyflwyno i fyfyrwyr rhyngwladol eraill a’ch cyflwyno i ardaloedd Trefforest, Pontypridd a Chaerdydd. Fe wnaeth yr wythnos hon i mi deimlo bod croeso i mi ac fe wnaeth i mi deimlo’n gartrefol o’r eiliad gyntaf.

“Y peth yr wyf wir yn ei fwynhau am y Brifysgol yw’r dull o weithio.”

Rwy’n obeithiol iawn ynghylch fy rhagolygon swyddi ar ôl fy ngradd. Mae gennyf eisoes radd fusnes dda ond bydd yr LLM hwn yn rhoi hwb gwirioneddol i’m gyrfa. Nid oes amheuaeth gennyf o gwbl y bydd yr ymdrech a’r adnoddau yr wyf wedi’u rhoi er mwyn cwblhau’r radd uwch hon o fudd i mi yn y dyfodol. Nid dim ond o ran fy ngyrfa ond yn fy mywyd personol hefyd. Mae astudio dramor a’r amgylchedd rhyngwladol ym Mhrifysgol Morgannwg yn sicr wedi goleuo fy safbwyntiau ar fywyd.”

newydd yn sefydliad addysg uwch amlddisgyblaethol sydd â ffocws ar beirianneg, ond sydd hefyd yn rhoi sylw i ddisgyblaethau eraill megis technoleg, y gwyddorau naturiol, celfyddydau rhyddfrydol, rheolaeth a chelf. Mae SUST yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar raglenni i israddedigion, ond mae’n mynd ati mewn ffordd weithredol i ddatblygu rhaglenni i ôl-raddedigion ac ar yr un pryd mae’n darparu addysg bellach i oedolion.

Ym mis Medi, fe dderbynion ni 1004 o fyfyrwyr newydd ac roedd 67% o’r rhain yn dod o bedair gwlad, sef Tsieina, India, Nigeria a Saudi Arabia.

Page 7: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

12 | TALENT TALENT | 13

Un o gewri rygbi Cymru, JPr williams, sy’n trafod y pwysau corfforol ar chwaraewyr modern, ac yn egluro ymchwil newydd ym Mhrifysgol Morgannwg i anafiadau a geir wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae angen i ni gael trafodaeth go iawn am y ffyrdd y gall chwaraewyr rygbi heddiw gael eu gwarchod a’u trin am eu hanafiadau. Dyna pam ein bod wedi sefydlu pedair cymrodoriaeth newydd, sy’n bartneriaeth rhwng Sefydliad JPR Williams a Phrifysgol Morgannwg.

Hon fydd yr ymchwil feddygol gynhwysfawr gyntaf yng Nghymru i anafiadau a ddioddefir gan chwaraewyr rygbi, a sut y gellir eu hatal. Yn ogystal â

chronfa ddata o anafiadau yng Nghymru, bydd yr ymchwil ym Mhrifysgol Morgannwg yn archwilio triniaethau ar gyfer anafiadau i’r ymennydd, asgwrn cefn, ysgwyddau a chymalau, yn ogystal â sut y gall siambrau ocsigen helpu chwaraewyr i hyfforddi a dod atynt eu hunain.

Fe lansion ni gymrodoriaethau JPR mewn cynhadledd yn y Brifysgol ym mis Hydref. Roedd yn dda gennyf weld bod y cyfryngau wedi rhoi sylw eang

MAE’N AMSER I’R GYMUNED RYGBI

DDEFFRO

Morgannwg, egluro’n ddiweddar bod y gyfradd anafiadau ym myd rygbi wedi codi o 67 anaf am bob 1,000 o oriau chwarae ym 1994 i 91 yn 2009. Mae’r anafiadau hyn yn aml yn dod â gyrfa’r chwaraewr i ben.

Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu adnabod rhai gwersi ar gyfer y ffordd mae chwaraewyr yn hyfforddi yn ystod yr wythnos. Nid yn unig mae chwaraewyr heddiw’n chwarae’n amlach ac ar lefel dwyster uwch nag erioed o’r blaen. Maent hefyd yn gorfod gwneud cryn dipyn yn fwy o hyfforddi ar gyfarwyddyd yr hyfforddwyr ffitrwydd, i’r graddau bod mwy o anafiadau’n digwydd bellach yn ystod sesiynau hyfforddi o ganlyniad i orddefnydd. Mae’r anafiadau hyn yn aml yn dod â gyrfa’r chwaraewr i ben, ac mae’n wastraff addewid a thalent ofnadwy.

Mae angen i’r gymuned rygbi ymateb i’r cynnydd mewn anafiadau. Mae Cymrodoriaethau JPR yn gam cyntaf, a byddant yn harneisio gallu un o’r canolfannau rhagoriaeth mwyaf blaenllaw ym Mhrydain ar gyfer chwaraeon ac ymchwil ym Mhrifysgol Morgannwg. All y gwaith ymchwil ddim dod yn ddigon buan. A siarad yn blwmp ac yn blaen, mae’n bryd i’r gêm ddeffro a mynd i’r afael â’r broblem.

i’r digwyddiad yn y newyddion, gan ein bod wedi cynnal trafodaeth agored ar y materion gyda chyfraniadau gan arbenigwyr ym mhob rhan o’r gêm: hyfforddwyr, cynrychiolwyr chwaraewyr, academyddion ac ymarferwyr meddygol. Fe gadeiriwyd y drafodaeth gan Eddie Butler, ac roedd y siaradwyr yn cynnwys Damian Hopley, Prif Weithredwr Cymdeithas y Chwaraewyr Rygbi Proffesiynol, yr hyfforddwyr Sean Holley a Phil Davies, y meddygon Alastair Nichol a Paul Jackson ac ymchwilwyr academaidd blaenllaw ym myd chwaraeon o Brifysgol Morgannwg a Sport England.

Bydd unrhyw un sy’n fy adnabod yn gwybod na fues i erioed yn wrthwynebus i daclo’n nerthol a mwynhau’r agweddau mwy corfforol ar y gêm. Fe dderbyniais i ergydion o’r fath ar sawl achlysur. Ond mae’r gêm fodern wedi mynd gam mawr ymhellach. Mae’n fwy corfforol. Mae chwaraewyr yn hyfforddi mwy, maent yn fwy o faint, yn gryfach ac yn taclo’n galetach. Gyda’r tensiwn rhwng clybiau, rhanbarthau a gwledydd, mae chwaraewyr heddiw’n chwarae’n amlach ac ar lefel dwyster uwch nag erioed o’r blaen.

Mae triniaeth feddygol i chwaraewyr wedi datblygu’n aruthrol. Rwy’n cofio rhywun yn sathru arnaf pan oeddwn yn chwarae i Ben-y-bont yn erbyn y Crysau Duon, a minnau’n gadael y cae gyda gwaed yn llifo i lawr fy wyneb. Roeddwn yn gallu teimlo fy nhafod trwy fy moch. A’r cwbl a wnaeth fy nhad, sef meddyg y clwb ar y pryd, oedd rhoi pwythau i mi a’m hanfon yn ôl ar y cae!

Y dyddiau hyn, mae gan chwaraewyr hyfforddwyr ffitrwydd, ffisiotherapyddion, hyfforddwyr perfformiad, hyfforddwyr cyflyru, seicolegwyr chwaraeon... mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Yn enwedig yn ddiweddar, mae chwaraewyr wedi mynd yn fwy ac yn drymach yn anhygoel o gyflym. Fe glywsom yn y gynhadledd fod un astudiaeth wyddonol wedi cymharu’r chwaraewyr ar deithiau’r Llewod ym 1971 ac yn 2009 ac wedi datgelu bod chwaraewyr yn yr oes broffesiynol hyd at 25% yn fwy. Fe glywsom yn y gynhadledd fod data o rygbi Ffrainc yn awgrymu bod maint olwyr wedi cynyddu hyd at 7% yn y 10 mlynedd ddiwethaf.

Dydw i ddim yn credu mai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod y gyfradd anafiadau’n saethu i fyny. Fe wnaeth y Dr Brian Cunliffe, a raddiodd o Brifysgol

JPR Williams yn chwarae i Ben-y-bont yn erbyn y Crysau Duon

Page 8: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

14 | TALENT TALENT | 15

Y cyfadeilad hwn yw’r cyfleuster chwaraeon cyntaf yng Nghymru i gael sgôr BREEAM – Ardderchog. Fe’i defnyddir gan fyfyrwyr yn ystod y dydd a gan glybiau a thimau chwaraeon gyda’r nos, ac mae eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan dimau pêl-rwyd a badminton Cymru, Academi Ieuenctid Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd, ac Undeb Rygbi Cymru fel rhan o’u rhaglen addysgu hyfforddwyr elitaidd.

Bu’r Parc Chwaraeon hefyd yn gartref i dimau rygbi a ddaeth ar daith o Awstralia, De Affrica a Fiji wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gemau prawf rhyngwladol pwysig yn erbyn Cymru yn ystod yr hydref y llynedd.

Fe adeiladwyd y cyfleuster gwerth £3.7 miliwn gan Midas Construction ar y caeau chwarae presennol yn y Brifysgol ac fe’i dyluniwyd yn unol â chanllawiau rhyngwladol Sport England. Enillodd ei sgôr Ardderchog yn Null Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu am ei fod yn defnyddio bwyleri nwy hynod effeithlon, golau dydd a system awyru naturiol, ynghyd â manylion a gafodd sgôr A/A+ drwyddo draw, ac mae’n rhan o strategaeth barhaus y Brifysgol ar gyfer buddsoddi cynaliadwy cyfrifol.

Mae’r cyfleuster newydd, a ddyluniwyd gan Holder Mathias Architects, yn cynnwys neuadd chwaraeon aml-bwrpas gyda chwe chwrt a bloc cymorth atodol, labordy cryfder a chyflyru ar gyfer hyfforddi elitaidd, ystafell ar gyfer darlithoedd a chyfarfodydd, yn ogystal â chyfleuster addysgu gydag ystafell ar gyfer dadansoddi nodiannol. Mae hyn yn galluogi staff a hyfforddwyr i dracio cryfder a safon cyflyru athletwyr, ac i fonitro a dadansoddi eu perfformiad.

Wrth siarad mewn ystafell cyflyru elitaidd, dywedodd Jamie Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol sydd wedi serennu gyda Gleision Caerdydd, Llewod Prydain a Chymru, wrth Talent “Mae cyfleusterau campfa a hyfforddi mor bwysig i chwaraewyr yn y gêm fodern, ac mae’n beth gwych bod Academi’r Gleision yn mynd i gael mynediad at gyfleusterau mor ardderchog. Mae’r Parc Chwaraeon yn neilltuol o dda.”

Mae’r cyfleuster newydd yn cynnwys neuadd chwaraeon aml-bwrpas gyda chwe chwrt a bloc cymorth atodol, labordy cryfder a chyflyru ar gyfer hyfforddi elitaidd, ystafell ar gyfer darlithoedd a chyfarfodydd, yn ogystal â chyfleuster addysgu gydag ystafell ar gyfer dadansoddi nodiannol.

Mae’r neuadd chwaraeon yn arbennig wedi cael ei chanmol am ei llawr a phadiau siocleddfu elastig pwynt ac elastig arwynebedd. Mae’r arwyneb yn allwyro dan bwysau’r athletwr, gan atal anaf a chynnig digon o hyblygrwydd i leihau’r problemau y mae athletwyr yn aml yn eu hwynebu gyda’u pigyrnau, eu pen-gliniau a’u cluniau wrth droi’n sydyn ar arwynebau traddodiadol. Agwedd unigryw arall ar y cyfleuster newydd yw’r cyrtiau badminton â chefnau gwydr sy’n creu ymdeimlad o neuadd chwaraeon agored ac sydd hefyd yn ymarferol am eu bod yn galluogi gwylwyr a hyfforddwyr i weld

gweithgareddau sy’n mynd rhagddynt ar lefel y llawr yn hytrach nag o’r oriel yn unig.

“Rydym ni’n credu bod ein myfyrwyr yn haeddu’r gorau un”

Julie Lydon, Is-ganghellor

Yn yr agoriad, dywedodd y Farwnes Tanni wrth fyfyrwyr chwaraeon, “Rydych yn ffodus iawn i fod â chyfleuster mor wych. Mae mor bwysig ein bod ni fel gwlad yn buddsoddi mewn chwaraeon, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr i gyrraedd eu potensial trwy roi’r gefnogaeth orau un iddynt. Mae Prifysgol Morgannwg yn cymryd y nod hwn yn wirioneddol o ddifrif, ac felly rwy’n erfyn arnoch chi i gyd i wneud y gorau o’r buddsoddiad o’r radd flaenaf y mae eich Prifysgol yn ei wneud yn eich dyfodol.”

Meddai Is-ganghellor y Brifysgol, Julie Lydon, “Rydym ni’n credu bod ein myfyrwyr yn haeddu’r gorau un, ac mae cyfadeilad y Parc Chwaraeon yn un rhan yn unig o raglen ar draws y Brifysgol gyfan i fuddsoddi yn y cyfleusterau addysgu a hyfforddi y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial. Bydd Parc Chwaraeon Morgannwg yn chwarae rhan allweddol yn agenda iechyd a chwaraeon Cymru, mor agos â phosib at galon ein cymuned.”

PARC CHWARAEONFe ddadlennodd y Farwnes Tanni grey-Thompson gyfadeilad datblygu hyfforddwyr

a pherfformiad tra modern y Brifysgol, sydd wedi costio £3.7m, ym Mharc Chwaraeon Morgannwg.

Y Farwnes Tanni Grey-Thompson gyda phlant ysgol lleol

I weld drosoch chi eich hunain beth sydd gan Barc Chwaraeon Morgannwg i’w gynnig ewch at y dudalen www.glam.ac.uk/sport

Parc Chwaraeon Morgannwg

Page 9: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

16 | TALENT TALENT | 17

DYSGU TRWY GYFLOGAETH

Cyn bo hir bydd cyflogeion yn gallu cael gradd trwy eu cyfleoedd dysgu a’u profiad yn y gwaith diolch i gynllun newydd ym Mhrifysgol Morgannwg.

Yn Lloegr mae nifer fechan o sefydliadau addysg uwch wedi mabwysiadu dull fframwaith o achredu dysgu seiliedig-ar-waith. Fframwaith a phecyn cymorth dysgu trwy gyflogaeth Prifysgol Morgannwg yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae’n ymateb i anghenion penodol yr agenda sgiliau yng Nghymru ac yn ymgais i ddileu rhai o’r rhwystrau i achredu dysgu anffurfiol.

Cafodd y rhaglen DTG ei datblygu gan Ganolfan ar gyfer Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (CELT) y Brifysgol. Mae’r fframwaith yn caniatáu i unigolion sydd eisoes mewn cyflogaeth weithio tuag at gymhwyster ar lefel prifysgol yn y maes y maent yn gweithio ynddo. Prif nodwedd y rhaglen yw bod myfyrwyr yn gallu ymgymryd â’r rhan

fwyaf o’r dysgu yn y gweithle. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu ennill cyflog wrth ddysgu ac nad oes rhaid iddynt roi’r gorau i’w swydd ar mwyn astudio. Mae’r dysgwr, y tiwtor yn y Brifysgol a’r cyflogwr yn cydweithio i gytuno ar raglen astudio sy’n tynnu neu’n adeiladu ar weithgareddau gwaith y myfyriwr ac, ar yr un pryd, yn ateb y gofynion ar gyfer cymhwyster prifysgol ar y lefel briodol. Caiff contract dysgu ei lunio ac unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo gan y Brifysgol bydd yn dod yn ddogfen academaidd ffurfiol.

Meddai Peter Green, un o’r academyddion sy’n arwain y rhaglen DTG, “Gellir teilwra cyrsiau i unrhyw bwnc. Nid mater o fod yn y gwaith a chael y credydau am hynny’n unig ydyw – mae’r rhaglen DTG yn gofyn am ymroddiad unigol cryf i ddysgu yn ogystal â chyfleoedd priodol i ddysgu o’r gweithle.

Gall y dysgu hefyd gynnwys hawliad i gael credyd am ddysgu blaenorol lle y bo’n berthnasol. Yn ogystal â dysgu a datblygu yn y gweithle, mae’r holl raglenni’n cynnwys prosiectau seiliedig-ar-waith, prosiect ymchwil a modiwl ar fyfyrio ar ddysgu yn y gweithle. Gall dysgwyr hefyd gynnwys modiwlau pwnc-benodol, rhaglenni mewnol achrededig neu fodiwlau astudio annibynnol yn eu rhaglenni unigol, a chaiff y rhain eu cytuno wrth gynllunio’r rhaglen.”

Mae pecyn cymorth o ddeunyddiau ategol wedi cael ei ddatblygu gan CELT hefyd i ddarparu cyngor, cymorth a chanllawiau ymarferol mewn perthynas â’r fframwaith dysgu trwy gyflogaeth, gyda phecynnau cymorth ar wahân wedi’u hanelu at ddysgwyr, cyflogwyr a darlithwyr.

YMOSODIAD ULTRAMARINES

Mae darlithydd a thri o fyfyrwyr sydd ar eu hail flwyddyn yn astudio Technoleg greadigol ym Mhrifysgol Morgannwg wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i ffilm ffuglen wyddonol newydd.

Mae Ultramarines yn ffilm nodwedd ffuglen wyddonol CGI sy’n seiliedig ar gymeriadau a bydysawd Warhammer 40k, gêm fwrdd boblogaidd sy’n cynnwys chwarae rôl, lle mae carfannau sydd mewn rhyfel â’i gilydd yn gwrthdaro ar gadfeysydd dyfodolaidd.

Bu Chris Callow, darlithydd mewn Technoleg Greadigol yn Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Prifysgol Morgannwg, yn gweithio ar y ffilm am naw mis fel y prif artist effeithiau gweledol. Roedd hefyd yn gallu cynnwys myfyrwyr sydd ar eu hail flwyddyn, sef Victoria Boyce, Joel Ritmeyer a Jonathan Davies, fel cynorthwywyr cynhyrchu.

Fe greodd y myfyrwyr gymaint o argraff ar gynhyrchwyr y ffilm gyda’u hymroddiad a’u proffesiynoldeb fel eu bod wedi cael tâl llawn trwy gydol

y cyfnod cynhyrchu, ac wedi cael cydnabyddiaeth ar ddiwedd y ffilm.

“Roedd hwn yn gyfle unigryw ac eithriadol o brin i’n myfyrwyr gael profiad llawn o’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig â gweithio ar ffilm nodwedd animeiddiedig, ac rwy’n siwr y bydd yn profi’n amhrisiadwy pan fydd hi’n bryd iddynt gamu i mewn i’r diwydiant” meddai Chris.

Bu Joel, 20 oed, o Gaerdydd, yn gweithio ar sefydlu’r broses rendro a gwirio saethiadau cyn eu mewnosod yn y toriad terfynol, “Roedd yn rhoi boddhad anhygoel gallu rhoi’r sgiliau yr wyf wedi eu hennill ar waith mewn prosiect go iawn gyda demograffeg mor fawr. Un o uchafbwyntiau’r holl brofiad oedd gweld fy enw yn y rhestr o gydnabyddiaethau ar y sgrîn mewn sinema. Roedd yn beth gwych cael cydnabyddiaeth am brosiect mor sylweddol cyn i mi raddio hyd yn oed”.

Rhoddodd y profiad lawn cymaint o foddhad i Jonathan, 21 oed, o’r Rhondda, “Un o’r pethau brafiaf oedd clywed y ffilm gyda sain am y tro cyntaf, gan mai dim ond ar y delweddau y bûm i’n gweithio. Roedd yn beth gwych gweld y ffilm orffenedig yn ei holl ogoniant. Roedd cael fy nghydnabod ar y diwedd yn rhywbeth penigamp”.

Mae Ultramarines yn defnyddio arddull ffilmio a phroses animeiddio 3D o’r radd flaenaf, ac yn cynnwys perfformiadau gan enwau adnabyddus megis Terence Stamp, John Hurt a Sean Pertwee.

Cynhaliwyd dangosiad a pharti diwedd cynhyrchiad yn sinema Cineworld yng Nghaerdydd, lle’r oedd y criw’n gallu gweld y ffilm ar y sgrîn fawr am y tro cyntaf. Mae’r ffilm ar gael ar DVD yn y DU a’r UD yn awr.

Morgannwg yn arwain y ffordd

Cysylltwch â Peter Green ar [email protected]

O’r chwith i’r dde: Jonathan Davies, Victoria Boyce a Joel Ritmeyer Mae Morgannwg yn darparu cyfle i ddysgu o’r gweithle

Page 10: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

18 | TALENT TALENT | 19

DRAMA SY’N TORRI TIR NEWYDD

Mae Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg yn faes sy’n ffynnu. Mae ein graddau mewn ysgrifennu creadigol yn cael eu tiwtora gan grwp amrywiol o ysgrifenwyr arwyddocaol gan gynnwys enillydd Gwobr TS Eliot yn 2009, Philip Gross. Ymhlith ein graddedigion mae rhestr drawiadol o nofelwyr, beirdd ac awduron storïau byrion sydd wedi cyhoeddi eu gwaith yn rhyngwladol ac wedi ennill gwobrau, a’r rheiny’n cynnwys Maria McCann ac Emma Darwin – y gellir dadlau eu bod yn ddwy o’r nofelwyr hanesyddol mwyaf adnabyddus ac amlwg ym Mhrydain heddiw.

Mae Maria McCann, a raddiodd gyda MPhil mewn Ysgrifennu, yn mwynhau llwyddiant gwych gyda’i hail nofel, The Wilding, a gyhoeddwyd gan Faber. Cafodd y nofel ei dewis hefyd i fod yn rhan o ymgyrch hyrwyddo arbennig gan Glwb Llyfrau Richard a Judy a weithredir gan WH Smith. Yn ei hadolygiad o The Wilding, meddai Judy: “Roeddwn wrth fy modd gyda’r nofel. Mae Maria McCann yn ysgrifennu fel pe bai’n byw breuddwyd. Fydd hi byth yn rhoi cam o’i le.”

Cafodd nofel gyntaf Maria, As Meat Loves Salt, ei hysgrifennu ar gyfer ei chwrs Meistr a’i chyhoeddi gan Flamingo yn 2000 gan gael cymeradwyaeth fawr. Fel rhan o raglen reolaidd o siaradwyr gwadd, fe ailymwelodd Maria â Phrifysgol Morgannwg y llynedd i siarad gyda myfyrwyr presennol ar y cwrs ysgrifennu creadigol ac i ddarllen o’i llyfr diweddaraf.

Mae nofel y darlithydd mewn ysgrifennu creadigol Tiffany Murray, sef Diamond Star Halo, wedi cael adolygiadau gwych yn The Telegraph a The Independent a hon hefyd oedd dewis y beirniad ar gyfer Ffuglen y Flwyddyn yn The Guardian ochr yn ochr â theitlau gan Ian McEwan a’r nofel gan Howard Jacobson a enillodd Wobr Booker, sef The Finkler Question.

Ar Noswyl Nadolig, derbyniodd Gillian Clarke Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth. A hithau’n un o’r beirdd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain, mae’n adnabyddus i nifer o fyfyrwyr llenyddiaeth Saesneg o’u meysydd llafur Lefel A, ac mae wedi bod yn Fardd Cenedlaethol Cymru ers 2008. Mae ganddi gysylltiad hir â Morgannwg, a hithau wedi bod wrthi am nifer o flynyddoedd yn goruchwylio myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y radd MPhil mewn Ysgrifennu. Mae hon yn wobr bwysig a Gillian yw’r ail fardd yn unig o Gymru i’w derbyn.

Roedd fersiwn newydd yr Athro Philip Gross o Gerd gan y bardd o Norwy Nordahl Grieg yn un o dair cerdd a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Farddoniaeth ac a fu’n addurno gwaelod y goeden Nadolig yn Sgwâr Trafalgar. Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Gymdeithas Farddoniaeth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Swyddfa Maer Oslo a Llysgenhadaeth Frenhinol Norwy i ddathlu’r symbol hwn o gyfeillgarwch rhyngwladol trwy farddoniaeth.

LLWYDDIANT SAESNEG

“Ychydig o ddramâu teledu sydd â’r un presenoldeb yn niwylliant Prydain â Cathy Come Home. O’r eiliad y cafodd ei darlledu gyntaf ar Dachwedd 16eg 1966, roedd Cathy’n siwr gael effaith ar gymdeithas Prydain yn gyffredinol ac ar deledu’n arbennig.” Dyma ddywed yr Athro Stephen Lacey, y mae’i lyfr diweddaraf yn archwilio effaith y ddrama arloesol hon.

Mae’r stori yn y ddrama’n ddigon syml: mae Cathy (Carol White), sydd newydd gyrraedd Llundain o’r taleithiau, yn cwrdd ac yn priodi â Reg (Ray Brooks) ac yn dechrau teulu. Mae damwain yn achosi i Reg golli ei swydd, ac mae’r ffilm yn adrodd hanes eu cwymp didrugaredd trwy’r gyfundrefn dai, cyfundrefn a ddatgelir fel un annigonol a dideimlad. Erbyn diwedd y ffilm, mae Cathy a’i thri phlentyn mewn hostel i’r digartref, hostel y caiff ei throi allan ohono yn y pen draw. Yn y diwedd, yn un o’r golygfeydd mwyaf emosiynol yn hanes drama ar deledu, mae plant Cathy’n cael eu cymryd oddi arni mewn ffordd rymus gan y gwasanaethau cymdeithasol ar Orsaf Liverpool Street.

Cydnabyddir fod Cathy Come Home yn rhannol gyfrifol am lwyddiant yr elusen dai, Shelter, a lansiwyd ychydig ddiwrnodau yn unig ar ôl i’r ffilm gael ei dangos am y tro cyntaf. Fe ddefnyddiodd Shelter ffotograff llonydd o Cathy (Carol White) o’r ffilm fel rhan o’i ymgyrch cyhoeddusrwydd cyntaf, ynghyd â chapsiwn a oedd yn gwneud y sylw bod ‘miloedd yn llythrennol o fenywod fel Cathy ym Mhrydain ar hyn o bryd’. Roedd i’w weld fel pe bai’n cael effaith, ac fe gododd £50,000 yn ei fis cyntaf.

Roedd Cathy Come Home yn seiliedig ar waith ymchwil trylwyr ei hawdur, y newyddiadurwr Jeremy Sandford, ac fe arweiniodd y sylw a roddodd i wirioneddau’r argyfwng tai yn y cyfnod ar ôl y rhyfeloedd yn uniongyrchol at newidiadau ym mholisi’r Llywodraeth (rhoi’r gorau i wahanu dynion oddi

wrth eu teuluoedd mewn hostelau i’r digartref). Fe newidiodd hefyd y ffordd yr oedd dramâu teledu’n cael eu gwneud a’r ffordd y meddylid amdanynt. Roedd Cathy, sef yr ail mewn cyfres o sawl darn o waith ar y cyd rhwng y cyfarwyddwr Ken Loach a’r cynhyrchydd Tony Garnett, yn un o’r dramâu teledu cyntaf i gael eu gwneud yn gyfan gwbl ar ffilm ac i raddau helaeth ar leoliad, gan gyfuno dulliau dramataidd a dogfennol o adrodd stori i greu ffurf newydd o realaeth gymdeithasol.

Fel yr ychwanega’r Athro Lacey, “Mae’r ffilm yn dal yn bwysig, er iddi gael ei gwneud fwy na deugain mlynedd yn ôl. Yn wyneb ofnau newydd am y cynnydd mewn digartrefedd o ganlyniad

i gapiau ar lefelau budd-dal tai, mae Cathy Come Home wedi dod yn amserol unwaith eto – ychydig o ddarluniau mwy effeithiol sydd, o safbwynt emosiynol a gwleidyddol, i’n hatgoffa o gost ddynol digartrefedd.

Llyfr yr Athro Lacey yw’r astudiaeth hir gyntaf o Cathy Come Home, ac mae’n ymddangos yn y gyfres boblogaidd a chlodwiw, TV Classics, gan BFI/Palgrave. Mae’n cynnig dadansoddiad manwl ac addysgiadol o’r ffilm, y dylanwadau ar ei gwneuthurwyr, sut y daeth i’r sgrîn a sut dderbyniad gafodd gan gynulleidfaoedd a beirniaid. Mae’r llyfr, a ddarlunnir â lluniau llonydd o’r ffilm, yn hygyrch i’r darllenydd cyffredinol ac mae hefyd yn ysgolheigaidd ac yn ddarllenadwy.

Perfformiwyd cerddi newydd yn y seremoni swyddogol i oleuo’r Sgwâr ar 2 Rhagfyr a chawsant eu lapio o gwmpas bôn y goeden ar faneri mawr. Wrth i’r goleuadau gael eu troi ymlaen, roedd tri o blant yn perfformio’r gerdd ‘Green Magi’, a gyfansoddwyd gan John Agard, gan ddefnyddio llinellau o gerddi gan blant ysgolion cynradd Westminster, Islington a Kensington & Chelsea. Caiff y gerdd ‘Green Magi’ ei harddangos ochr yn ochr â ‘Gerd’ a ‘Growing a Tree’, cerdd a ysgrifennwyd gan blant ysgol Immingham gyda Kevin Crossley-Holland.

Cafodd y prosiect ei ymestyn hefyd i Oslo, lle mae cerdd gan Adrian Mitchell yn cael ei harddangos yn y ddinas, i greu cyswllt â seremoni Gwobr Heddwch Nobel.

Caiff hanes cryf yr adran ym maes ymchwil ei ddangos gan ei llwyddiannau yn y ddau Ymarfer Asesu Ymchwil diwethaf. Yn fwy diweddar, rhoddwyd mwy o goel ar y bri sydd i ymchwil Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg yn sgîl y cyhoeddiad bod yr Athro Jane Aaron wedi’i phenodi’n aelod o’r is-banel Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil sydd ar ddod (REF2014). Y REF yw’r system newydd ar gyfer asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU a bydd yn cael ei gwblhau yn 2014. Bydd darnau o waith a gyflwynir yn y 36 Uned Asesu’n cael eu hasesu gan is-banel arbenigol, gyda phob un yn gweithio dan gyfarwyddyd un o’r pedwar prif banel. Caiff academyddion eu henwebu gan eu cymheiriaid mewn prifysgolion a chyrff eraill a chanddynt ddiddordeb mewn ymchwil gan gynnwys busnesau, cyrff yn y sector cyhoeddus, elusennau a mudiadau eraill yn y trydydd sector ledled y DU.

Lluniau llonydd o Cathy Come Home

Page 11: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

20 | TALENT TALENT | 21

yn dilyn llwyddiant y sioeau Stargazing Live ar y teledu, a ddarlledwyd dros dair noson olynol yn gynnar ym mis Ionawr. Roedd y sioeau’n cynnwys yr Athro Brian Cox a’r digrifwr Dara O’Briain, ac roeddent wedi’u hamserlennu fel eu bod yn cyd-daro â diffyg rhannol ar yr haul a chawod meteorau. Yn ffodus, nid oedd bwriad i arsyllu yn yr awyr agored (a hithau’n fis Ionawr yn y Cymoedd...) ond roedd yr ymwelwyr yn gallu profi’r sêr y tu mewn i blanetariwm Starlab digidol Dark Sky Wales.

“Mae’r ddau Delesgop Faulkes, sydd wedi’u lleoli yn Hawaii (Telesgop Gogleddol Faulkes) ac Awstralia (Telesgop Deheuol Faulkes), yn cynnig cyfle unigryw i reoli offer seryddol o safon ymchwil yn fyw dros y Rhyngrwyd.”

Roedd llawr gwaelod adeilad Alfred Russel Wallace yn cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd, gyda thelesgopau o Gymdeithas Seryddol Brynbuga a samplau go iawn o’r gerrig y Lleuad a’r blaned Mawrth o brosiect “Down to Earth” Prifysgol Morgannwg/Amgueddfa Cymru. Rhoddodd y tîm o Arsyllfa Ofod Herschel ym Mhrifysgol Caerdydd ddangosiadau gyda chamera is-goch thermol, ac roedd yr ymwelwyr yn gallu gweld orielau’n llawn delweddau o Brosiect Telesgopau Faulkes (FTP), sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Morgannwg fel rhan o’r dyfarniad BSc newydd mewn Seryddiaeth Arsyllol.

Mae’r ddau Delesgop Faulkes, sydd wedi’u lleoli yn Hawaii (Telesgop Gogleddol Faulkes) ac Awstralia (Telesgop Deheuol Faulkes), yn cynnig cyfle unigryw i reoli offer

EDRYCH TUA’R SÊR

Darlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg, Dr Paul roche, Llysgennad y gofod dros gymru, ar seryddiaeth ym

Mhrifysgol Morgannwg.

Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod prysur i seryddiaeth ym Mhrifysgol Morgannwg, gan ddechrau gyda’m hapwyntiad i rôl â theitl crand braidd, sef “Llysgennad y Gofod dros Gymru”, sy’n rhan o fenter gan Asiantaeth Ofod Ewrop – yn anffodus nid yw’r swydd yn rhoi imiwnedd diplomyddol, na hyd yn oed gyflenwad o Ferrero Rocher am ddim, ond mae’n cynnig llwyfan i gynnwys disgyblion ysgol, athrawon a’r cyhoedd ym mheth o’r wyddoniaeth a’r diwydiannau uwch-dechnolegol sy’n digwydd yn y DU. Trwy’r rôl hon, rwyf wedi bod yn gweithio gyda chyrff addysgol ar hyd a lled y wlad, gan ddefnyddio seryddiaeth a gwyddoniaeth y gofod i geisio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr rocedi.

Yn nes at adref, ar nos Fercher wlyb a gwyntog ganol mis Ionawr, fe fentrodd 160 o bobl allan drwy’r glaw yng Nglyn-taf Uchaf ar gyfer y digwyddiad Stargazing Live gan y BBC. Trefnwyd digwyddiadau cyhoeddus ledled y DU,

seryddol o safon ymchwil yn fyw dros y Rhyngrwyd. Mae’r telesgopau, a ariannwyd yn wreiddiol gan ddyngarwr o’r DU, Dr. Martin Faulkes, yn cael eu defnyddio’n bennaf gan ymchwilwyr yn UDA, ond mae’r rhaglen addysgol (sydd bellach yn cael ei rhedeg o Brifysgol Morgannwg) yn cynnig oddeutu 1,500 o oriau o amser arsyllu bob blwyddyn i ysgolion a seryddwyr amatur. Rydym hefyd yn defnyddio’r telesgopau hyn i gyflawni rhaglenni ymchwil, sy’n amrywio o astudio asteroidau, comedi a lleuadau Wranws yng nghysawd yr haul, i arsyllu ar dyllau duon tra anferth mewn cwasarau pell, sydd wedi’u lleoli sawl biliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd o’r Ddaear.

Mae’r dyfarniad BSc newydd mewn Seryddiaeth Arsyllol yn caniatáu i israddedigion gyfranogi mewn, ac yn y pen draw sefydlu, prosiectau ymchwil sy’n rhedeg ar yr offer hyn, gan eu cynnwys mewn gwyddoniaeth reng-flaen trwy gydol eu hastudiaethau. Mae myfyrwyr hefyd yn gallu gweithio mewn ysgolion, canolfannau gwyddoniaeth ac mewn digwyddiadau cyhoeddus, ochr yn ochr â rhaglen addysgol Awyr Dywyll Cymru. Mae cyfuno cyfranogiad mewn prosiectau gwyddoniaeth go iawn â gwaith ymgysylltu ag ysgolion a gwaith allgymorth gyda’r cyhoedd yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau cyfathrebu, ac yn darparu math hollol newydd o radd seryddiaeth ar ein cyfer.

Ar y cyfan, mae wedi bod yn dymor prysur i’r seryddwyr ym Mhrifysgol Morgannwg, ond sut bynnag yr edrychwch chi, mae pethau’n sicr i’w gweld ar i fyny.

M51 : Galaeth y TrobwllDelwedd gan Daniel Duggan

M20 : Nifwl TeiranDelwedd gan Nik Szymanek

IC 4703 : Nifwl yr EryrDelwedd gan Daniel Duggan

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Dr Paul Roche ar [email protected]

Pob llun trwy garedigrwydd Prosiect Telesgopau Faulkes

Page 12: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

22 | TALENT TALENT | 23

yn yr Almaen ar hyn o bryd, yn dechrau defnyddio’r ysbyty ym mis Hydref.

Yr Is-gyrnol Patrick McAndrew yw pennaeth y 67ain Tîm Llawfeddygol Symudol (Awyrgludedig). Meddai, “Mae’r hyfforddiant cyn-ymfyddino hwn gyda Byddin Prydain yn hwb i’n gwaith paratoi. Pan fyddwn yn glanio yn Afghanistan byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’n cyfeillion Prydeinig, ac mae gan yr wybodaeth yr ydym wedi’i rhannu yn y sesiynau hyn ym Mhrifysgol Morgannwg y potensial i fod yn werthfawr iawn.”

Mae’r enghreifftiau o ddatblygiadau mewn triniaethau a drafodwyd yn cynnwys yr hyfforddiant diweddaraf un ar gyfer rhoi presgripsiynau gan ymarferwyr meddygol sydd dan bwysau, a defnydd blaenoriaethol o lindagau i atal milwyr rhag colli llawer iawn o waed ar ôl cael anafiadau mewn brwydrau. Mae gwybodaeth am y datblygiadau hyn yn cael ei throsglwyddo’n ôl i Brydain i’w chynnwys mewn hyfforddiant meddygol ar gyfer ymarferwyr dinesig a milwrol trwy unedau Ysbyty Maes a phersonél y Fyddin Diriogaethol yn ysbytai addysgu mwyaf blaenllaw Prydain a phrifysgolion pwysig, megis Prifysgol Morgannwg.

Meddai’r Athro Donna Mead OBE, Deon y Gyfadran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth: “Mae perthynas y Brifysgol ag Ysbyty Maes (Cymru) 203 yn galluogi ein nyrsys a’n hymarferwyr meddygol dan hyfforddiant i rannu’r syniadau a’r profiad llawfeddygol diweddaraf un gan arbenigwyr mewn trawma sydd ar flaen y gad. Rydym mor falch ag erioed i hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth feddygol a fydd yn achub bywydau.”

Y “GOROESWR ANNISGWYL”

Cafodd y meddygon a’r nyrsys o’r 67ain Tîm Llawfeddygol Symudol (Awyrgludedig), uned awyrgludedig elitaidd ym Myddin UDA, eu croesawu ym mis Ionawr gan arbenigwyr clinigol o Brifysgol Morgannwg ac Ysbyty Maes (Cymru) 203 Byddin Prydain ar gyfer hyfforddiant ar y cyd mewn trin “goroeswyr annisgwyl” yn Afghanistan.

Mae’r “goroeswr annisgwyl” yn ymadrodd milwrol a ddefnyddir yn gynyddol i ddisgrifio milwr sydd, er ei fod wedi dioddef anafiadau trychinebus, er enghraifft o ganlyniad i fom ar ymyl y ffordd, yn gallu cael ei achub yn awr gan y driniaeth feddygol ddiweddaraf.

Meddai’r Cyrnol Kevin Davies, athro nyrsio yn y Brifysgol a Phrif Swyddog Ysbyty Maes (Cymru) 203, “Mae ein profiad ni yn Afghanistan wedi arwain at ddatblygiadau enfawr mewn gwybodaeth feddygol ac arferion llawfeddygol. Mae bywydau’n llythrennol yn cael eu hachub gan y technegau newydd hyn, ac felly mae’n allweddol bod yr holl ymarferwyr meddygol sy’n mynd i Afghanistan yn elwa o’r wybodaeth a gafwyd ar flaen y gad mewn meddygaeth filwrol. Trwy gyfuno ein profiad o frwydrau â’r cyfleusterau ymchwil a hyfforddiant o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Morgannwg, mae fy uned i fy hun yn gallu datblygu ei gallu i drin cleifion sydd wedi dioddef trawma. Rydym wrth ein bodd yn rhannu ein profiad gyda’n cydweithwyr o’r Unol Daleithiau.” Yn ysbyty milwrol Gwersyll Bastion, sydd dan reolaeth Brydeinig, mae ymarferwyr meddygol o America a Phrydain yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd i achub bywydau milwyr a anafwyd mewn ymgyrchoedd. Bydd uned feddygol yr UD, sydd wedi’i lleoli

Mae ymarferwyr meddygol elitaidd o UDa a Byddin Prydain wedi bod yn cyfuno’u gwybodaeth yng nghyfleusterau efelychu

clinigol campws Prifysgol Morgannwg yng nglyn-taf wrth iddynt ddysgu cydweithio’n ddi-dor yn yr ysbytai maes milwrol

tra modern yn afghanistan.

Ymarferwyr meddygol ym Myddinoedd y DU ac UDA yn hyfforddi yn ystafell efelychu Prifysgol Morgannwg

Page 13: Morganwg Talent GWANWYN/HAF 2011

24 | TALENT

wybodaeth ymarferol i athrawon ac ymgynghorwyr, gwybodaeth y gallant ei defnyddio yn ôl yn eu hysgolion a’u colegau. Roedd yn beth gwych ein bod wedi denu cynadleddwyr o bob rhan o’r DU, sy’n dangos yr angen am y math yma o gymorth.”

Cynhadledd yr Athrawon ydy dim ond un rhan o’r gweithgareddau i gadw mewn cyswllt ag ysgolion a cholegau. Rydym yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth AU, yn gweddu sgyrsiau i’ch anghenion, yn trefnu sesiynau cyflwyno i’r 6ed dosbarth ac yn cydweithio gyda chyfadrannau i ddarparu digwyddiadau ac ymweliadau ar bynciau penodol. I ddarganfod mwy am sut gallwn ni eich helpu chi a’ch myfyrwyr wrth i chi fynd trwy broses UCAS trwy ddarparu sgyrsiau a gweithdai ysbrydoledig a llawn gwybodaeth cysylltwch â [email protected]

GALL DEWIS FOD YN BROFIAD DRYSLYD

rolau fel pobl sy’n cynghori myfyrwyr trwy broses UCAS. Trwy raglen o gyflwyniadau a gweithdai diddorol iawn, roedd y cynadleddwyr yn gallu archwilio amrywiaeth o faterion a oedd yn amrywio o gyllid myfyrwyr i ddewis cyrsiau mewn marchnad gystadleuol a defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ymchwil ar gyfer cyrsiau. Cafodd y cynadleddwyr gyfle i ofyn cwestiynau i banel o ymgynghorwyr profiadol a myfyrwyr ac i rwydweithio’n gyflym gydag ystod o diwtoriaid derbyn i ganfod beth maent yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr.

Meddai’r Swyddog Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau, Sarah Watkins, “Gyda chymaint o newidiadau diweddar mewn Addysg Uwch, mae’n hollbwysig bod gan ymgynghorwyr yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf i helpu myfyrwyr i ymateb i’r her o wneud y penderfyniadau cywir ynghylch eu dyfodol. Rhoddodd y gynhadledd

“Rhoddodd y gynhadledd gyfle perffaith i ymgynghorwyr gael yr wybodaeth a’r arfau diweddaraf i’w harfogi yn eu rolau fel pobl sy’n cynghori myfyrwyr trwy broses UCAS.”

athrawon ac ymgynghorwyr gyrfaoedd o bob rhan o’r DU yn archwilio’r heriau a’r materion presennol sy’n wynebu myfyrwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau

ynghylch astudio mewn prifysgol yn ystod cynhadledd hynod lwyddiannus ym Mhrifysgol Morgannwg.

Roedd y gynhadledd ddeuddydd, a oedd yn dwyn y teitl Choosing is Confusing: Advising Students on their Higher Education Decisions, yn archwilio cymhlethdod y dewis a’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn eu hwynebu wrth wneud penderfyniadau ynghylch astudio mewn prifysgol ac roedd hefyd yn rhannu arfer gorau mewn arfogi myfyrwyr i wneud synnwyr o’r opsiynau sydd ar gael ac ymateb i’r her o wneud dewisiadau doeth ynghylch astudio mewn prifysgol.

Fe wnaeth Roger Brown, Athro Polisi Addysg Uwch ym Mhrifysgol Hope Lerpwl osod y cyd-destun ar gyfer y gynhadledd ag araith gyweirnod ar y newidiadau i’r trefniadau ar gyfer cyllido addysg uwch a’u goblygiadau posib. Roedd siaradwyr amlwg eraill yn cynnwys Helen Connor – Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Y Cyngor dros Ddiwydiant ac Addysg Uwch (CIHE), Liam Owens – Cadeirydd Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch yn y DU a Peter Mulligan – Swyddog Datblygiad Proffesiynol, UCAS. Rhoddodd y gynhadledd gyfle perffaith i ymgynghorwyr gael yr wybodaeth a’r arfau diweddaraf i’w harfogi yn eu

Cynadleddwyr yn y gynhadledd Choosing is Confusing ym Mhrifysgol Morgannwg