16
Llwyddiant i Aberystwyth Yn dilyn syndod a siom canlyniadau Cyfri- fiad 2011, lle gwelwyd canran y nifer o siar- adwyr Cymraeg yng Nghymru yn gostwng o 20.8% i 19%, daeth miloedd o bobl o bob cwr o Gymru ynghyd yn ystod yr wythnosau di- wethaf i fynnu’r hawl i gael byw yn Gymraeg. Cafwyd cyfres o Ralïau’r Cyfrif wedi’u trefnu gan Gymdeithas yr Iaith ar draws Cymru - yng Nghaernarfon, Merthyr Tud- ful, Caerfyrddin, Y Bala, a’r un olaf yma yn Aberystwyth. Mi fûm i’n ddigon ffodus i fynychu un Caerfyrddin ac un Aberystwyth. Ar fore Sadwrn, yr 19eg o Ionawr, cynhaliwyd rali y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin er mwyn rhoi pwysau ar gynghorwyr Sir Gâr a Llywodraeth Cymru i ystyried y dirywiad o ddi- frif. Er yr eira a’r oerfel, daeth dros 400 o bobl Sir Gâr a thu hwnt i ddangos eu bod am fyw yn Gymraeg. Llofnodwyd adduned “Dwi eisiau byw yn Gymraeg!” gan y dorf a hefyd gan nifer o wynebau cyfarwydd sy’n byw yn yr ardal gan gynnwys Jonathan Edwards AS, y Cynghorydd Alun Lenny, y Cynghorydd Peter Hughes-Grif- fiths, Fflur Dafydd, Tudur Dylan, Aneirin Kara- dog, Heledd Cynwal, Julian Lewis Jones a llaw- er mwy. Cafodd yr enwogion funud ar y meic i egluro pam eu bod yn llofnodi’r adduned ac i an- nog pobl eraill i wneud hefyd. Dywedodd Maer Caerfyrddin, Phil Grice, sy’n wreiddiol o Efrog: “Os galla’ i ddysgu’r iaith, dwi’n siŵr y gall un- rhyw un... Mae’r iaith yn bwysig i mi a ni i gyd yma yng Nghaerfyrddin.” Y CYMRY’N ADDUNEDU: “DWI EISIAU BYW YN GYMRAEG!” Trowch at dudalen 3 i ddarllen gweddill yr erthygl. Llun: Robin Williams YR HERIWR Papur Cymraeg Myfyrwyr Aberystwyth Cwpan Varsity yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth Tudalen 15 Athro yn ymadael Starbucks - we proudly serve? Un rheol i Starbucks, rheol arall i’r gweddill? Tudalen 6 Pantycelyn newydd Rhad ac am ddim Rhifyn y Gwanwyn 2013 Pennaeth yr Adran Gymraeg yn gadael am y Llyfrgell Genedlaethol Tudalen 3 Cynlluniau Balfour Beatty ar gyfer neu- add i 1000 o fyfyrwyr. Tudalen 2

Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Dyma rifyn y Gwanwyn, a gyhoeddwyd ar yr 20fed o Fawrth.

Citation preview

Page 1: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

Llwyddiant i Aberystwyth

Yn dilyn syndod a siom canlyniadau Cyfri-fiad 2011, lle gwelwyd canran y nifer o siar-adwyr Cymraeg yng Nghymru yn gostwng o 20.8% i 19%, daeth miloedd o bobl o bob cwr o Gymru ynghyd yn ystod yr wythnosau di-wethaf i fynnu’r hawl i gael byw yn Gymraeg.

Cafwyd cyfres o Ralïau’r Cyfrif wedi’u trefnu gan Gymdeithas yr Iaith ar draws Cymru - yng Nghaernarfon, Merthyr Tud-ful, Caerfyrddin, Y Bala, a’r un olaf yma yn Aberystwyth. Mi fûm i’n ddigon ffodus i

fynychu un Caerfyrddin ac un Aberystwyth.Ar fore Sadwrn, yr 19eg o Ionawr, cynhaliwyd rali y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin er mwyn rhoi pwysau ar gynghorwyr Sir Gâr a Llywodraeth Cymru i ystyried y dirywiad o ddi-frif. Er yr eira a’r oerfel, daeth dros 400 o bobl Sir Gâr a thu hwnt i ddangos eu bod am fyw yn Gymraeg. Llofnodwyd adduned “Dwi eisiau byw yn Gymraeg!” gan y dorf a hefyd gan nifer o wynebau cyfarwydd sy’n byw yn yr ardal gan gynnwys Jonathan Edwards AS, y Cynghorydd Alun Lenny, y Cynghorydd Peter Hughes-Grif-

fiths, Fflur Dafydd, Tudur Dylan, Aneirin Kara-dog, Heledd Cynwal, Julian Lewis Jones a llaw-er mwy. Cafodd yr enwogion funud ar y meic i egluro pam eu bod yn llofnodi’r adduned ac i an-nog pobl eraill i wneud hefyd. Dywedodd Maer Caerfyrddin, Phil Grice, sy’n wreiddiol o Efrog:

“Os galla’ i ddysgu’r iaith, dwi’n siŵr y gall un-rhyw un... Mae’r iaith yn bwysig i mi a ni i gyd yma yng Nghaerfyrddin.”

Y CYMRY’N ADDUNEDU:“DWI EISIAU BYW YN GYMRAEG!”

Trowch at dudalen 3 i ddarllen gweddill yr erthygl.

Llun: Robin Williams

YR HERIWRPapur Cymraeg Myfyrwyr Aberystwyth

Cwpan Varsity yn dychwelyd i

Brifysgol Aberystwyth

Tudalen 15

Athro yn ymadael Starbucks - we proudly serve?

Un rheol i Starbucks,

rheol arall i’r gweddill?

Tudalen 6

Pantycelyn newydd

Rhad ac am ddimRhifyn y Gwanwyn 2013

Pennaeth yr Adran Gymraeg yn gadael am y

Llyfrgell Genedlaethol

Tudalen 3

Cynlluniau Balfour Beatty

ar gyfer neu-add i 1000 o

fyfyrwyr.

Tudalen 2

Page 2: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

Elin Haf [email protected]

Gruffudd [email protected]

Jacob Dafydd EllisSwyddog [email protected]

Ffraid GwenllianGohebydd Bywyd [email protected]

Aled Morgan HughesGohebydd Newyddion [email protected]

Elliw HâfGohebydd Materion [email protected]

Adam JonesSwyddog [email protected]

Sion Eilir [email protected]

Eiri Angharad SionSwyddog Dylunio a [email protected]

Miriam [email protected]

Bethan WalklingGohebydd [email protected]

Aled Wyn WilliamsSwyddog [email protected]

Llywelyn WilliamsGohebydd [email protected]

YR HERWYR

2

Croeso i drydydd rhifyn Yr Heriwr. Mae bellach yn wan-wyn, gyda’r flwyddyn acade-maidd bron ar ben, ond bu’n dymor eithriadol o brysur, fel y gwelwch oddi wrth gyn-nwys y rhifyn hwn. Profodd Aelwyd Pantycelyn lwyddiant ar ôl misoedd lawer o waith caled, a chafwyd cyfnod etho-liadol cyffrous a thanllyd.

Yn ddiweddar, gwelwyd myfyr-wyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr yn cymryd rhan flaenllaw yng nghystadleuaeth Cân i Gymru. Llwyddodd cân hwyliog Catrin Herbert i gyrraedd y chwech

uchaf ond Jessop a’r Sgweiri o ardal y Bala a gipiodd y wobr gyda’u cân ‘Mynd i Gorwen Hefo Alys.’ Yn y band roedd Rhys Gwynfor, yr efeilliaid To-mos a Gruffydd Edwards, Bran-wen Williams a’i brawd Osian. Llongyfarchiadau mawr iddynt!

Gydag ansicrwydd mawr yn deillio o ymadawiad yr Athro Aled Gruffydd Jones, symud yr Adran Gymraeg a chau Neuadd Pantycelyn, mae ‘na deimlad o newid yn yr awyr, a’r her i ni fel Cymry’r Brifysgol yw sicrhau nad yw’r newidiadau hyn yn gwanhau ein sefyllfa a’n llais.

Cofiwch fod modd darllen y rhifyn hwn, ynghyd ag ôl-rifynnau, ar www.issuu.com. Cofiwch hefyd am ein gwefan, www.yrheriwr.org, lle gellir gweld yr holl erthyglau yn-ghyd â nifer o erthyglau nad oedd lle ar eu cyfer yn y pap-ur. Yn olaf, cofiwch ein bod fel papur yn llwyr ddibynnol ar nawdd gan unigolion a bus-nesau, felly os hoffech hys-bysebu neu gyfrannu tuag at ddyfodol y papur, cysylltwch â ni ar [email protected].

GA & EHGMawrth 2012

GAIR GAN Y GOLYGYDDION

CYWILYDD PANTYCELYNgan Gruffudd Antur

Ar y 7fed o Chwefror eleni, ymddangosodd hysbysiad yn y Cambrian News yn nodi y by-ddai ‘Diwrnod Agored Gwybodaeth i’r Cy-hoedd’ yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol ynghylch cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i adeiladu llety newydd i fyfyrwyr yn y Waun Fawr. Cwmni Balfour Beatty sydd wedi en-nill y cytundeb i adeiladu’r llety hwn ar gyfer 1000 o fyfyrwyr, a bydd yn golygu cau neuadd breswyl enwog Pantycelyn ymhen blwyddyn.

Ond nid oedd modd i gyfran fawr o Gymry’r Brifysgol fynychu’r diwrnod agored gan eu bod ym Mharis ar drip y Geltaidd. Cyd-ddig-wyddiad? Ie, efallai. Ond cyd-ddigwyddiad sy’n gwneud dim lles o gwbl i’r berthynas rhwng y Brifysgol a’i myfyrwyr Cymraeg, yn enwedig ar bwnc mor sensitif â chau Neuadd Pantyce-lyn, a chyd-ddigwyddiad sy’n nodweddiadol o’r diffyg tryloywder sydd wedi cael ei ddan-gos dro ar ôl tro yn ystod y broses ymgynghori.

Gwyddom fod y cynlluniau i gau Neuadd Pan-tycelyn ar y gweill ers blynyddoedd lawer. Ond mae wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ddiweddar mai proses, nid digwyddiad, yw cau’r neuadd. Eisoes gwelsom dorri oriau’r staff derbynfa, cyn

cael gwared ar y staff yn ddisymwth ymhen ych-ydig fisoedd. Gwelsom ddiffyg buddsoddiad en-byd yn y neuadd, a gwelsom fuddsoddiad mewn mannau yn erbyn dymuniad y preswylwyr.

Mae’n wir ein bod yn derbyn e-bost yn wythno-sol bron gan y swyddfa lety yn cwyno am ddifrod neu ymddygiad gwael. Y cwestiwn y dymunaf ei ofyn yw hyn: os nad ydyw’r Brifysgol yn barod i ofalu am y neuadd a’i pharchu, yna pam disgwyl i’r myfyrwyr wneud yn wahanol? Rhaid i barch gael ei ennyn gan y ddwy ochr, a hyd y gwelaf fi, nid yw’r Brifysgol yn dangos rhithyn o barch tuag at y neuadd na’r sawl sy’n poeni am ei dyfodol.

Bydd cerrig sylfaen y ‘Pantycelyn newydd’ bondigrybwyll yn cael eu gosod yn fuan iawn, a rhaid inni benderfynu dros beth y dylem fod yn ymladd. Yn bersonol, credaf y dylem fod yn ymladd dros adnewyddu Pantycelyn, a symud y myfyrwyr Cymraeg yn ôl i mewn iddi gynted â phosib. Gyda neuadd ar ben y bryn, bydd y cysylltiad hollbwysig hwnnw rh-wng Neuadd Pantycelyn a’r dref yn gwanhau. Â’r neuadd ar drothwy ei phen-blwydd yn 40 oed, ni fedrwn fforddio gadael i’r hyn sy’n ei gwneud yn arbennig lithro trwy ein dwylo.

Page 3: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

3

“DWI EISIAU BYW YN GYMRAEG!”gan Mared Ifan

Wedi’r llofnodi y tu allan i Neuadd y Sir, gorymdeithiodd y dorf ar hyd un o strydoedd prysuraf y dref gan ennyn sylw sylweddol gan y bobl a oedd yn treulio’r bore’n siopa. Roedd yr ymateb gan drigolion y dref yn un cadarnhaol gyda llawer o bobl yn dod allan o’u tai i gefnogi.

Daeth yr orymdaith i ben y tu allan i swydd-feydd Llywodraeth Cymru a chafodd mwy o wynebau cyfarwydd gyfle i leisio eu barn am sefyllfa’r Gymraeg. Datganodd Llio Silyn ei phryder am ddarpariaeth addysg trwy gy-frwng y Gymraeg yn Sir Gâr. Siaradodd am ei phrofiad hi fel athrawes gyflenwi yn y Sir:

“Mi ges i siom, a’r sioc fwyaf o weld y categorei-ddio iaith oedd yn digwydd yn yr ysgolion a hwn-na dwi’n meddwl ydy un o’r pethau mwyaf sydd

wedi cyfrannu at ddirywiad yr iaith yn Sir Gâr.”

Yr oedd 500 o bobl yn y rali brotest yn Ab-erystwyth ar yr 2il o Chwefror, 50 mlynedd yn union ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan. Cynhaliwyd y rali tu allan i Siop y Pethe lle cafwyd areith-iau pwrpasol gan Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Elin Jones AC a Cen Ll-wyd. Yna, gorymdeithiodd y dyrfa i Bont Trefechan er mwyn nodi pen-blwydd y Gym-deithas. Fel yng Nghaerfyrddin, roedd ymateb pobl y dref yn gadarnhaol i’r digwyddiad. Ar y bont, cafwyd ail hanner y rali a thro Ga-reth Miles a Siriol Dafis oedd hi i annerch y dyrfa. Yr oedd neges Gareth Miles, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn glir:

“Mae ymgyrchwyr iaith yn well pobl na gwleidyddion presennol y Cynulliad, ac fe ddylen nhw sefyll etholiad ar un-waith er mwyn cael eu dwylo ar rym.”

Roedd Siriol Dafis, disgybl 16 oed yn Ysgol Pen-weddig, yn siarad ar ran ei chenhedlaeth hi o siaradwyr Cymraeg. Ei neges oedd bod pobl ifanc heddiw eisiau siarad Cymraeg. I gloi’r rali, fe eisteddasom ar y bont a chanu’r anthem genedlaethol i gofio’r digwyddiad chwedlonol hwnnw 50 mlynedd yn ôl. Yr oedd y rali yn un o’r digwyddiadau amrywiol dros y penwyth-nos i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymde-ithas yr Iaith, ond hefyd i bwysleisio bod yr iaith Gymraeg mewn argyfwng ac i bwyso ar wleidyddion i weithredu er mwyn ei hachub.

O’R BRIFYSGOL I’R LLYFRGELLgan Gruffudd Antur

(parhad o’r dudalen gyntaf)

Ddiwedd mis Chwefror eleni, cyhoeddwyd mai’r Athro Aled Gruffydd Jones fyddai’n olynu An-drew Green fel Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn wreiddiol o Lanfroth-en, Sir Feirionnydd, addysgwyd yr Athro Jones yn Ysgol Ardudwy, Har-lech, cyn derbyn ei addysg Brifysgol ym Mhrifysgol Efrog a gradd MA a doethuriaeth o Brifysgol Warwick.

Bu’r Athro Aled Gruffydd Jones yn rhan o staff Prifysgol Aberystwyth er 1979, gan gael ei benodi’n Athro Hanes Cymru Syr John Williams ym 1995 cyn cael ei benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2005. Yn fwyaf di-weddar, fe’i penodwyd yn benna-eth Adran y Gymraeg yn Aberyst-wyth fis Mehefin 2012; penodiad a ysgogodd gryn drafodaeth. Dy-wedodd yr Athro Jones ar y pryd:

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natbly-giad darpariaeth Addysg uwch cy-frwng Cymraeg. Bûm yn ymwneud â sefydlu’r Coleg Cymraeg Cened-laethol ac rwyf yn awyddus i weld

Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n lla-wn at y gwaith o gryfhau’r Gymraeg ledled y Brifysgol ac at adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn ar-bennig ymhlith ôl-raddedigion.”

Trafodwyd y penodiad hwn yn rhi-fyn blasu Yr Heriwr, a ryddhawyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg y llynedd. Mynegwyd pryder yn yr erthygl ynghylch natur y penodiad, gyda rhai’n dadlau mai natur wleidyddol oedd i’r peno-diad, yn enwedig o ystyried yr ail-strwythuro eang a oedd ar y gweill ar y pryd. Bellach, pryder gwahanol sydd gan y gymuned Gymraeg, sef y bydd ymadawiad yr Athro Jones yn creu gwactod yn rhengoedd uchaf y Brifysgol o ran deallt-wriaeth a chydymdeimlad tuag at fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.

Mewn ymateb i’r pryder hwn, dywedodd yr Athro Jones:

“Yr unig beth dw i’n wybod yw bod Aberystwyth fel prifysgol yn gwbl ymroddedig i’r Gym-raeg, ac i ddatblygu’r Gymraeg a hynny ar bob lefel, o’r tîm rhe

oli uwch reit drwy’r sefydliad.”

Serch hyn, mae Adran y Gymraeg yn colli ei phennaeth ar adeg o an-sicrwydd enbyd, gyda bygythiad byw iawn o ail-leoli’r adran o’r Hen Goleg eiconig i adeilad di-gymeriad Hugh Owen ar y camp-ws. Sylwer fel y bu i’r Brifysgol, mewn ymateb i’r erthygl yn Yr Heriwr fis Awst, gysylltu â Golwg ar Awst y 9fed, 2012, i gadarnhau nad oes unrhyw fwriad i ddileu

Adran y Gymraeg. Dyna honiad na wnaethpwyd o gwbl yn yr erthygl. Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid?

Mae’n ddyletswydd arnom ni fel my-fyrwyr i sicrhau nad yw ymadawi-ad yr Athro Aled Gruffydd Jones i’r Llyfrgell Genedlaethol yn galluogi’r Brifysgol i wthio Adran y Gymraeg i’r neilltu a sathru arni fel y mynno. Yn yr adeg hon o newid mawr o fewn y Brifysgol, mae arnom angen cymaint o gadernid ag sy’n bosibl.

Page 4: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

4

CUDDIO’R GYMRAEG YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH?gan Elliw Hâf

Yn rhifyn blasu Yr Heriwr y llynedd, roedd un erthygl yn lleisio pryderon y myfyr-wyr am y sibrydion ynglŷn ag ailstrwy-thuro adrannau academaidd o fewn Prifysgol Aberystwyth. O dan y drefn newydd, lleisiwyd y bwriad i benodi un Pennaeth Adran i fod yn gyfrifol am reoli cyllid Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Saesneg ac Ysgrifennu Cread-igol; yr Ysgol Gelf; Adran y Gymraeg; a Chanolfan y Celfyddydau. Disgrifiwyd y cyfnod hwn gan y Brifysgol fel “cyfnod cyffrous” ond bellach mae’r ailstrwy-thuro yn peri cryn bryder i’r myfyrwyr.

Llwyddodd llefarydd ar ran Prifysgol Ab-erystwyth i leddfu rhai o bryderon y my-fyrwyr wrth iddynt ofni y byddai’r ailstrw-ythuro hwn yn gwasgu’r Adran Gymraeg, drwy gyfaddef fod cynnwys dogfen ‘Ail-gyflunio Adrannau Academaidd’ yn “cael ei drafod ar hyn o bryd ond nid oes ynddi gynnig i ddileu Adran y Gymraeg.”

Er bod y Brifysgol yn dechnegol yn ll-wyddo i gadw at eu gair, tipyn o siom a syndod a ddaeth i’r myfyrwyr wrth id-dynt ddeall mai bwriad y Brifysgol yw sy-mud Adran y Gymraeg o’i safle presennol i Adeilad Hugh Owen gyda’r Coleg Cym-raeg Cenedlaethol erbyn mis Medi 2013.

Ar wefan Prifysgol Aberystwyth, mae Adran y Gymraeg yn ymfalchïo yn ei lleoliad gan geisio hudo’r myfyrwyr draw i

“brofi awyrgylch arbennig adeilad at-mosfferig yr Hen Goleg a’i leoliad ben-digedig ger y lli”, ac mae’r myfyrwyr yn mwynhau astudio mewn adeilad sydd, fel Neuadd Pantycelyn, bellach yn rhan o hanes Cymru. Mae llawer yn ei hystyried yn fraint cael astudio o fewn waliau adeilad lle bu cewri llenyddia-eth Gymraeg yn crwydro ar un cyfnod.

Mae'r Athro Aled Gruffydd Jones wedi addo y bydd yn rhyddhau gwybodaeth yn syth pan fydd ganddo fwy o fanylion am gynlluniau’r Brifysgol. Ond gyda’r pennaeth newydd eisoes yn gadael yr adran i fod yn Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr newydd y Llyfrgell Gened-laethol, tybed faint o’r wybodaeth hon fydd yn cael ei chyfleu i’r myfyrwyr?

Annhegwch mawr yw bod y cynllu-niau hyn yn cyrraedd y myfyrwyr ar ôl i’r penderfyniadau gael eu gwneud, gan fod hyn yn effeithio ar allu’r my-fyrwyr i anghytuno, i leisio eu barn ac i addasu syniadau os oes angen. Mae llais y myfyrwyr yn cael ei golli ymysg cynlluniau, a lles pawb sy’n rhan o’r adran hefyd dan fygythiad. Mae trafodaethau yn parhau ymysg y Brifysgol a'r myfyr-wyr fel ei gilydd. Os ydych am fynegi eich barn ynghylch symud Adran y Gymraeg, ymunwch â’r grŵp Facebook ‘Symud yr Adran Gymraeg’ a dewch i gyfarfodydd y myfyrwyr ym Mhantycelyn er mwyn ceisio sicrhau tegwch i Adran y Gymraeg.

Page 5: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

5

Y COLEG CYMRAEG: “WEDI LLWYDDO TU HWNT I UNRHYW FREUDDWYD” gan Aled Morgan Hughes

“Wedi llwyddo y tu hwnt i unrhyw freuddwyd” - dyna’r hyn a nododd yr Athro Robin Williams am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth gael ei urddo fel Cymrodor Er Anrhydedd yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gynhali-wyd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 6 Chwefror 2013.

Mynychwyd y Cynulliad, a no-dai flwyddyn gyntaf gyfan gron y Coleg, gan amrywiaeth eang o bobl - o fyfyrwyr a darlithwyr i Is-ganghellor Prifysgol Aberyst-wyth, April McMahon. Yn ei aner-chiad, nododd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, Yr Athro R. Merfyn Jones, ei bod yn syfrdanol ystyried holl weithgaredd y Co-leg yn ystod y flwyddyn, gan gyn-nwys cyllido dros hanner cant o swyddi darlithio a 37 o brosiectau

“cyffrous” o fewn 15 maes acade-maidd, ynghyd â chyllido dros 120 o ysgoloriaethau israddedig. Aeth Yr Athro Jones yn ei flaen i aml-ygu pwysigrwydd “sicrhau bod y

Gymraeg ar gael i drafod pynciau deallusol ... nid yn unig cymuned-ol, ond hefyd pynciau astrus”.

Cynigiodd y Cynulliad hefyd

gyfle i anrhydeddu a chydna-bod myfyrwyr a oedd wedi en-nill doethuriaeth dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg, gyda 19 ohonynt yn derbyn tystysgrif mewn pynciau yn am-rywio o Ddaearyddiaeth Ffisegol i Astudiaethau Ffilm a Theledu.

Daeth y noson i ben drwy urddo tri Chymrodor Er Anrhydedd i blith y Coleg, sef yr hanesydd a chyn-warden Neuadd Pantycelyn, Dr John Davies, cyn-bennaeth drama Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Ioan Williams a’r ffisegydd a chyn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Robin Williams. Nododd y Dr John Davies yn ei araith o ddiolch mai'r ysbrydoliaeth fw-yaf iddo gael erioed oedd myfyr-wyr y neuadd breswyl honno.

Roedd Mawrth y 1af eleni yn ddiwrnod hanesy-ddol i dref Aberystwyth wrth iddi gynnal parêd Dydd Gwŷl Ddewi am y tro cyntaf yn ei hanes.

Daeth tua mil o bobl o bob cefndir ac oed ynghyd i gymryd rhan yn y dathlu, wrth i’r parêd ddirw-yn o dŵr cloc y dref hyd at sgwâr Llys y Brenin. Tywyswyd yr orymdaith gan yr ymgyrchydd iaith a’r arbenigwr cerddoriaeth, Dr Meredydd Evans, fel cydnabyddiaeth a diolch iddo am ei holl gyfraniad i ddiwylliant Cymru drwy gydol ei fywyd. Cafwyd hefyd gyfraniadau amrywiol gan Lyn Ebenezer, y pibydd Ceri Rhys Matthews a Chôr Meibion Aberystwyth i enwi ond ychydig.

Sefydlwyd Cyngor y Parêd ym mis Medi llynedd, ac o dan gadeiryddiaeth Siôn Jobbins, aethpwyd ati i sicrhau cefnogaeth gan nifer o wahanol se-fydliadau a mudiadau Cymraeg yn yr ardal, gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, UMCA, Mudiad Merched y Wawr ac Ysgol Uwchradd Penweddig.

Mewn cyfweliad gyda’r Heriwr, dywedodd Siôn Jobbins fod trefnu gorymdaith o’r fath yn Aber-ystwyth ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn rhywbeth yr oedd wedi bod yn awyddus i’w gyflawni ers am-ser bellach, gan synnu nad oedd digwyddiad o’r fath wedi cael ei gynnal o’r blaen. Dywedodd:

“Fy ysgogiad oedd ’mod i’n gwylltio wrth weld holl Union Jacks - baner y Welsh Not - yn chwi-fio yn Aberystwyth dros haf Jiwbilî ac Olympics 2012, ac felly roeddwn am adfeddiannu’r dref i Gymreictod a dangos ein bod ni ‘yma o hyd!’”

Wrth drafod rhai o’r ffactorau y tu ôl i lwyddi-ant ysgubol y parêd, awgrymodd Mr Jobbins:

“Dwi’n meddwl fod pobl wedi cael sioc a siom ar ôl canlyniadau’r cyfrifiad ac am wneud rhyw-

beth syml ond clir i ddangos eu bod am i’r Gym-raeg ffynnu a bod gennym ni nid yn unig iaith, ond hefyd ein diwylliant unigryw ein hunain.”

Cadarnhaodd hefyd y bydd parêd o’r fath yn cael ei gynnal eto yn 2014, yn enwedig gan fod yr Wŷl yn syrthio ar Ddydd Sadwrn, gan ddweud:

“Fy mwriad yw bod mwy o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y dre wedi’r orymdaith a min nos - dwi am glywed miwsig Cymraeg o bob math yng nghaffis a thafarndai’r dref.”

GWNEWCH Y PETHAU BYCHAINgan Aled Morgan Hughes

Llun: Iestyn Hughes

Llun: Richard a Tegwen Morris

Llun: Keith Morris

Page 6: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

6

Mae’r faner werdd ac arogl coffi wedi cyrraedd yr Undeb, ac yn y broses wedi achub ein Hundeb ni. Mae’n debyg fod Starbucks yn gwneud cryn dipyn o arian i’r Un-deb yn ddyddiol, ac yn graddol dynnu’r Undeb allan o’r twll ari-annol y mae wedi bod ynddo ers rhyw ddegawd. Ond mae nifer o fyfyrwyr yn wrthwynebus i brese-noldeb Starbucks yn yr Undeb, ac yn gweld hyn fel symbol o’r prob-lemau eraill sy’n wynebu’r Undeb.

Dechreuodd saga Starbucks yn 2011 gydag ymgais gan fyfyrwyr i rwystro Starbucks rhag dod i’r Undeb. Daeth yr ymdrech i atal Starbucks i’w hanterth cyn y Nado-lig gyda chyfarfod Cynulliad y My-fyrwyr diwethaf y tymor. Cafwyd pleidlais glòs ar y mater ac wedi’r pleidleisio, dewis y mwyafrif oedd gohirio’r penderfyniad - dewis oedd yn golygu y byddai reffer-endwm yn cael ei gynnal ar gael Starbucks yn yr Undeb. Ar ôl syl-weddoli goblygiadau’r canlyniad, cyhoeddwyd bod cynlluniau ar y gweill i ddod â Starbucks i’r Un-deb ym mis Ionawr ac y byddai gohirio’r penderfyniad a chynnal refferendwm yn gostus ac yn dig-wydd yn rhy hwyr i atal Starbucks.

Felly, mewn ymarferiad democrataidd amheus, cafwyd pleidlais arall. Gyda’r cyhoeddiad na fyddai gohirio’r penderfyniad yn gwneud dim gwahaniaeth, a bod bwriad i agor Starbucks yn mis Ionawr, roedd y ddadl wedi’i

distewi. Gyda nifer yn dewis ymatal eu pleidlais yn yr ail blei-dlais, trechwyd yr ymgais i rwystro Starbucks rhag dod i’r Undeb. I mi, siomedig oedd bod yn bresennol yn y Cynulliad Myfyrwyr i brofi digwyddiadau’r noson honno.

Ond pam fod y Starbucks yn creu cymaint o ddadleuon? Yn ddiweddar, mae Starbucks wedi ennyn sylw anffafriol ynghylch treth. Roedd y stori nad oedd Starbucks yn talu dim treth corf-foraethol wedi corddi nifer. Ond, mewn ymarferiad amheus arall, mae Starbucks wedi cytuno i dalu treth o £20 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mi hoffwn yn fawr petawn i’n cael llythyr gan HMRC yn gofyn faint o dreth yr ydw i am ei dalu’r flwyddyn nesaf...!

Fel nifer o gwmnïau rhyngwladol eraill, mae nifer o gwestiynau yn codi am eu hymarferion busnes. Mae cwmnïau eraill wedi cyhuddo Starbucks o ehangu’n ymosodol ac yn annheg. Mae gwefan yr ‘Ethical Consumer’ yn datgan bod Starbucks dan foicot am y ffordd mae’r cwmni yn trin ei staff ac am y ffordd mae’r cwmni wedi trin ffermwyr coffi o Ethiopia. Os ydych am ddarllen mwy, ceir rhestr hir ar wefan ‘Ethical Consumer’ am eu pryderon ynghylch Starbucks.

Bellach, mae Starbucks yn defny-ddio coffi Masnach Deg yn unig

yn y Deyrnas Unedig, ac mae hyn i’w glodfori. Yn ychwanegol i hyn, mae Starbucks yn gweithredu ei gynllun masnachu ei hun, gan

honni ei fod yn mynd ymhel-lach na’r cynllun Masnach Deg.

Wrth ystyried Starbucks o safbw-ynt Aberystwyth, mae’n drueni yn fy marn i fod cymeriad unigryw Aber yn cael ei danseilio gan ddy-fodiad brand rhyngwladol arall. Mae gan Aber ryw ymdeimlad hollol unigryw sy’n golygu bod pobl yn cwympo mewn cariad â’r dref. Mae’r holl gaffis annibyn-nol yn rhan fawr o hyn, ac yn ber-sonol mae’n rhinwedd fod diffyg brandiau mawr yn Aberystwyth. Mae’r golwg ar wynebau ymwel-wyr wrth esbonio iddynt nad oes Nando’s neu Burger King yn y dref yn bleser, ac mae’r syndod wrth ddatgan bod Domino’s ond yma ers rhai blynyddoedd yn well byth!

Mae stryd fawr Aberystwyth yn llawn hen enwau annibynnol, teu-luol sy’n gwneud Aberystwyth yn unigryw, ac mae hyn yn rhywbeth i’w drysori. Mae dyfodiad Star-bucks i’r Undeb yn agor cil y drws damed yn fwy, ac yn cyfrannu at y broses o droi Aberystwyth yn dref ystrydebol arall. Proses sydd, yn araf bach, yn erydu’r profiad y mae Aberystwyth yn ei gynnig.

Problem fawr arall yw nad yw deu-nydd hysbysebu Starbucks ar gael yn y Gymraeg. Er nad yw cwmnïau allanol yn cael eu gorfodi i gyn-nig darpariaeth yn y Gymraeg gan bolisi dwyieithog yr Undeb, onid ydyw’n deg disgwyl bod Starbucks yn cynnig deunydd yn y Gymraeg yn yr Undeb? Mae arwyddion Star-bucks yn rhai parhaol ac felly dylid mynnu eu bod yn cael eu cyfieithu.

Yn anffodus, mae enghreifftiau eraill o gwmnïau allanol yn am-harchu polisi dwyieithog yr Un-deb, ond mae’n braf gweld bod bwydlenni Stone Willy’s bellach ar gael yn y Gymraeg. Ar y llaw arall, mae darpariaeth ddwyieit-hog Stone Willy’s yn tynnu sylw at ddiffyg y Gymraeg yn narpariaeth Starbucks. Mae’n anhygoel bod polisi dwyieithog yr Undeb yn mynnu bod deunydd megis posteri cymdeithasau yn ddwyieithog cyn cael eu dangos yn yr Undeb, ond bod cwmni fel Starbucks gyda deunydd parhaol yn yr Undeb yn cael rh-wydd hynt i amharchu’r Gymraeg.

‘We proudly serve...?’ Dim diolch.

STARBUCKS - ‘we proudly serve?’gan Osian Elias ©keith morris 2013

[email protected]

Page 7: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

7

Ffrwydrodd Llwyd Owen i’n byd lleny-ddol ’nôl yn 2006. Ers hynny, gyda diolch i’w brofiadau bywyd helaeth yn ogys-tal â’i ddychymyg diderfyn, mae Llwyd bellach wedi cyhoeddi ei chweched nofel. Yn ei nofel ddiweddaraf cawn ddychwelyd yn ôl i faestref ddychmygol Gerddi Hwyan, sef lleoliad ei nofel Mr Blaidd. Bydd y rhai sydd wedi darllen Mr Blaidd yn ymwybodol nad oes llawer o dda yn digwydd yng Ng-erddi Hwyan - tref ddychmygol ar gyrion Bro Morgannwg - wrth i’r cyfoeth, y tai drud a’r gerddi taclus guddio’r trais a’r lladrata.

Mae Heulfan wedi ei lleoli yn 2016 a’r crach yw canolbwynt y nofel hon, gyda’r dihirod a’r dioddefwyr yn deillio o’r un dosbarth cymdeithasol. 'Dau dditectif. Dwy ffrind. Dau frawd. Un dyn drwg.' Yn syml, fel y crynhoa’r broliant ar gefn y nofel, saith prif gymeriad sydd yma, a dawn Llwyd Owen yw ei allu i greu cymeri-adau crwn, credadwy, a darlunio cymde-ithas heb fynd dros ben llestri. Er bod ffin

bendant ar yr olwg gyntaf rhwng y da a’r drwg, gwelwn wrth i’r nofel ddatblygu mor frau yw’r ffin fel nad ydyw’n bodoli bron.

Cawn ddilyn hynt a helynt y ddau dditec-tif; DC Aled Colwyn - dyn teulu parchus, a’i gydweithiwr, DC Richard King - merchetwr

heb ei ail, wrth iddynt fynd ar drywydd lla-dron sy’n dwyn o dan drwynau'r crach. Ceri a Catrin yw’r ‘ddwy ffrind’, ffrindiau gorau a phartneriaid busnes llwyddiannus. Mae’r naill wedi ei dal mewn priodas dreisgar, a’r llall yn ymddangos yn hapus mewn perthy-nas sefydlog. Slafio am y nesa’ peth i ddim y mae’r ddau frawd, Morgan a Prys Caradog, ar ran busnes adeiladu eu hewythr ond heb fawr o ddiolch am eu gwaith. Mae un yn briod â Catrin a’r llall yn gyn-gariad i Ceri. Mr C yw’r dihiryn perffaith - ewythr y ddau frawd a gŵr Ceri; creadigaeth yn nychymyg yr awdur sy’n datblygu yn gyflym iawn i fod yn gymeriad o gig a gwaed. Cawn y dis-grifiad perffaith ohono gan Lyn Ebenezer fel ‘angel pen ffordd ond diawl pen pentan.’

Mae yma unwaith eto blot cadarn gan yr awdur - meistr y genre trosedd a thrais yn y Gymraeg, ac mae’r nofel yn cydio drwyddi hyd y diwedd. Gyda’i hi-aith liwgar sy’n gymysgedd o dafodi-aith (y Gymraeg a’r Saesneg) yn ogys-tal â’r cymeriadu gofalus, mae’r nofel yn symud yn ei blaen yn ddidrafferth gan adael y darllenwr mewn mymryn o bicil wrth iddynt ysu am droi’r dudalen nesaf.

Mae’r themâu teyrngarwch, brad, cariad a thwyll yn rhedeg yn gyson drwy weith-iau Llwyd Owen, ac nid yw’r nofel hon yn eithriad. Mae dioddefaint hefyd yn thema amlwg iawn yn y nofel hon gyda phob cymeriad - hyd yn oed Mr C - yn di-oddef yn ei ffordd ei hun, a phawb wedi ei gaethiwo i’w hamgylchiadau personol. Cyrhaedda’r nofel uchafbwynt yn ucheldiroedd Eryri wrth i’r cymeriadau canolog gymhlethu tu hwnt i bob rhe-olaeth a chyda’r ddau dditectif dryslyd yn llywio’r helfa, tybed a gaiff y dihir-yn go iawn ei haeddiant ar y diwedd?

Dyma nofel gyffrous, afaelgar sydd yn bendant yn werth ei darllen - dim ond gobeithio na fydd yn rhy hir cyn i nofel nesaf Llwyd Owen gyrraedd ein silffoedd!

Heulfan£8.95

Y Lolfa

ADOLYGIAD O ‘HEULFAN’ - LLWYD OWENgan Elliw Hâf

“Wrth gael fy hudo gan yr arddull gain a chynnil, cefais fy hun yn troi’r dalennau’n awchus wrth ffroeni’r trosedd a’r trais a’r tywyllwch yn mudferwi yng ngwres yr heulfan.” - Dewi Prysor.

Page 8: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

ETHOLIADAU’R UNDEB

8

LLYWYDD YN LLYWIO’R BLEIDLAIS?gan Adam Jones

Mae wedi bod yn gyfnod digon cythryblus ymysg myfyrwyr Aberystwyth yn ddiweddar wrth i unigolion frwydro yn etholiadau’r Undeb. Eleni gwelwyd rhai o’r ymgyrchoedd ffyrnicaf a mwyaf bywiog ers peth amser, gan wneud y cy-fan yn ddifyr i’w ddilyn. Ond er mor barod ydym ni fel myfyrwyr i ddangos ein cefnogaeth i’r naill ymgeisydd neu’r llall yn yr etholiadau, beth am y swyddogion Sabothol a etholwyd llynedd? A ddylent hwy gael yr hawl i ddangos eu barn?

Gyda dyfodiad newydd Cynulliad y Myfyrwyr yn Aberystwyth, daeth rheolau newydd ynghylch yr etholiadau. Bellach, mae gan bob swyddog sab-othol yr hawl i ddatgan eu cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd y dymunant, oni bai eu bod yn dwyn anfri ar ymgeisydd. Gwelwyd yn ystod yr etholia-dau diweddar nifer o’n cynrychiolwyr yn datgan eu cefnogaeth; rhai ohonynt yn hollti blew drwy

fynd ati i ddangos rhinweddau ymgeisydd dros y llall. Yr hyn yr hoffwn ei gwestiynu serch hynny yw a ydyw’n foesol gywir i swyddogion sabothol ddangos ei hochr yn yr etholiadau a hwythau’n cael eu cyflogi i’n cynrychioli? Ein pleidlais ni y llynedd yw eu mandad democrataidd nhw eleni, ond pa fandad sydd ganddynt i gefnogi un ymgeisydd dros y llall wrth ystyried y dylent fod yn cynrychioli ein safbwyntiau ni i gyd?

Wrth gefnogi un unigolyn dros y llall, mae’r swyddogion yn creu rhwygiadau anorfod ac yn sathru ar draed proses ddemocrataidd yr Un-deb. Gall geirda gan un o’r swyddogion wyro’r bleidlais o blaid un ymgeisydd dros y llall, a chan ystyried eu bod wedi’u hethol i leisio barn y myfyrwyr oddi fewn y sefydliad, onid ydynt trwy gefnogi’r un unigolyn dros y llall yn gwanhau eu llais ar lefel yr ndeb? Byddai

cynrychioli un ymgeisydd yn ynysu un gar-fan o fyfyrwyr yn syth - rhywbeth rydym ei-soes wedi ei weld yn yr etholiadau diweddaraf.

Yn fy nhyb i, nid yw’n deg datgan cefnogaeth yn gyhoeddus, a thrwy wneud hyn, maent yn ymyr-ryd â’r broses ddemocrataidd, yn enwedig os gw-neir hyn yn ystod oriau gwaith. Mae’r swyddo-gion sy’n gwneud hyn yn saethu eu hunain yn eu traed - sut allant bellach barhau i’n cynrychi-oli ni i’w gorau o’u gallu? Nid ydynt wedi aros yn ddiduedd a niwtral yn y broses ac am hynny mae’r hyder sydd gennyf i yn bersonol yn nifer ohonynt wedi edwino’n ddirfawr. Roedd yn ddr-wg eu bod wedi penderfynu dangos eu hochr yn y lle cyntaf, ond bydd pethau’n waeth yn awr yn dilyn yr etholiadau. Credaf fod hwn yn fater y dylid ei gywiro ar frys cyn i ragor o bobl golli ffydd yn y sefydliad sydd i fod i’n cynrychioli.

Cynhaliwyd etholiadau Undeb Myfyrw-yr Prifysgol Aberystwyth ddechrau mis Mawrth, a ysgogodd ysbryd gwleidyddol ymysg myfyrwyr y Brifysgol. Wedi wyth-nosau o ymgyrchu brwd ar draws y camp-ws, cyhoeddwyd y canlyniadau mewn cyfarfod hwyliog, dros beint neu ddau, yn yr Undeb. Bu cryn ddathlu o ganlyniad i lwyddiant sawl ymgeisydd ac yr oedd yn braf gweld mai aelodau UMCA a oedd

yn llenwi bron i draean y gynulleidfa. Cyffrous hefyd yw gweld mai merched sydd wedi cael eu hethol ar gyfer pob swydd llawn amser hyd yn hyn, ond yn anffodus bu peth chwerwder yn yr etho-liadau ar gyfer rhai swyddi. Yn wir, bu’n rhaid gohirio ethol Llywydd yr Undeb oherwydd cyhuddiadau o fwlio difrifol yn erbyn un o’r ymgeiswyr. Datgelwyd y can-lyniad, ddydd Llun y deunawfed o Fawrth.

Dyma’r ymgeiswyr a ddaeth i’r brig:

Swyddogion Llawn-Amser

Llywydd yr Undeb: Ioan Rhys Evans

Swyddog Addysg: Grace Burton

Swyddog Cymorth Myfyrwyr: Laura Dickens

Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA: Mared Ifan

Swyddog Gweithgareddau: Liv Prewett

Swyddogion Rhan-Amser

Cadeirydd yr Undeb: Thomas Keane

Dirprwy Cymorth Myfyrwyr a Swyddog Ymgyrchoedd: Josh James

Swyddog Cyfleoedd Cyfartal: Robert Sean Davies

Swyddog Cymdeithasau: Mohammed Sa'ad

Swyddog Chwaraeon: Adam Curtis

Swyddog heb Bortffolio: Jamie Evans

Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr Ôl-Raddedig: Christopher Lloyd-Jones

Dirpiwyon Cynhadledd UCM y DU: Will Atkinson, Grace Burton, Laura Dickens

Dirprwyon Cynhadledd UCM Cymru: Will Atkinson, Grace Burton, Laura Dickens

gan Elin Gruffydd

Page 9: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

9

LLYWYDD YN LLYWIO’R BLEIDLAIS?

Cześć o Wlad Pwyl! Bethan ydw i o’r ail fl-wyddyn, ond dwi’n bresennol ar raglen gyfnewid Erasmus yn Wrocław, Gwlad Pwyl. Hyd yn hyn, mae Erasmus wedi rhoi sawl pro-fiad i mi, gan gynnwys yfed te o’r Ariannin gyda ffrind o Bolivia, dysgu dawns Mistar Urdd i Americanwyr, partïo gyda ffrind o’r Iseldiroedd tan y wawr, gwylio opera gydag Eidalwyr a dawnsio/cwffio’r Capoeira gyda ffrind o Groeg.

Roedd pacio i fynd yn cymryd tipyn o sgil (er i Bantycelyn fy mharatoi i’n eitha da) - roeddwn yn gorfod pacio am dymor cyfan sy’n cychwyn yn -15°C gydag eira mawr, ac yn gorffen gyda haul chwilboeth a thymheredd o tua 25°C! Roedd gen i ’chydig o ofn yn y dechrau, gyda chwestiynau fel “pwy fydda i’n rhannu llofft hefo nhw?”, “sut le fydd fy neuadd breswyl?” a “pha mor anodd fydd y cwrs?” yn mynd rownd a rownd yn fy mhen. Ond wrth gwrs, roedd pawb yn yr un cwch, ac ymhen dim ro’n i wedi gwneud hanner cant o ffrindiau newydd o bob cwr o’r byd! Dwi’n rhannu fflat gyda merched o’r Almaen, Kazakhstan a Hwngari – mae pawb yn tynnu ymlaen yn grêt, a’r lle yn llenwi gydag ieithoedd a synau gwahanol pan ’dan ni gyd ar Sgeip! Roedd yr wythnosau cynta’ yma yn debyg

i wythnos y glas - parti bob nos mewn fflatiau ac yna pawb yn mentro allan i’r ddinas fawr ar y tram tan berfeddion y bore. Erbyn hyn mae pethau wedi setlo i lawr ’chydig; pawb wedi cych-wyn ar eu haseiniadau ac ati. Er hyn, mae pawb yn ceisio gwneud y mwya’ o’r ddinas, a theithio o gwmpas Gwlad Pwyl ar y penwythnosau.

Mae Wrocław yn ddinas hardd gyda llawer iawn o hanes iddi. Mae poblogaeth o tua 650,000 yma sy’n ei gwneud y ddinas fwya’ yn Ne Silesia. Roedd hi’n rhan o’r Almaen am 700 mlynedd cyn yr Ail Ryfel Byd, ac yn perthyn i linach Haps-bwrg. Mae llawer o adeiladau gyda dylanwad yr Hapsbwrg crand yma, gan gynnwys adeilad y Brifysgol. Mae canol y ddinas ar ynys ac yn cael ei hamgylchynu gan afon Oder, ac mae sawl pont yn cysylltu’r ynys â gweddill y ddinas. Mae he-fyd ynys o’r enw Ostrów Tumski ble mae sawl eglwys a golygfa enwog o’r ddinas. Yno, mae pont haearn werdd arddull ‘art nouveau’, ble mae’n draddodiad i gariadon ’sgwennu eu llyth-

rennau cyntaf ar glo, gosod y clo ar y bont ac yna taflu’r goriad i’r afon. Dros y ddinas hefyd mae cerfluniau bychain o gorachod efydd. Roedd y corachod yma yn symbolau pwysig iawn yn

ystod symudiad myfyrwyr gwrth-gomiwnyddol y ‘Chwyldro Oren’ pan oedd y wlad o dan ar-weinyddiaeth yr Undeb Sofietaidd yn yr 80au.

Teimlaf ei bod hi’n ddigon hawdd ymdopi â’r ffordd o fyw yma. Dwi’n hiraethu am gaws yn arw iawn - does dim llawer o ddewis yma os nad ydech chi’n caru caws edam neu mozarel-la! Mi ddes i â phot o farmeit efo fi felly dwi’n goroesi, a dwi ’di dod o hyd i le sy’n gwerthu ffa pob Heinz yma hefyd! Mae ’na gyfreithiau go od yma, gan gynnwys dirwy o 100zl (tua £40) os ydech chi’n croesi y ffordd heb ddefnyddio croesfan sebra, a hefyd, carchar am flwyddyn os ydech chi’n cael eich dal yn seiclo yn fed-dw – dwi heb fentro’r un ohonyn nhw ... eto!

Er fy mod wrth fy modd yma, does nunlle’n yn de-byg i adre, a dwi’n edrych ymlaen at gael agor fy llenni a chael edrych allan ar y môr yn Aber. Ond tan hynny, mae fy nyth fan hyn yng Ngwlad Pwyl.

I glywed mwy o hanesion Bethan Ruth, ewch draw i’w blog

www.bethanruth.tumblr.com

CZEŚĆ O WLAD PWYL!gan Bethan Ruth

FY NHAITH I COSTA RICAYn ystod haf 2013 byddaf yn treulio 5 wythnos yn gwirfoddoli yn Costa Rica mewn ymgais i godi a gwella safon byw nid yn unig y bobl leol ond hefyd yr amgylchedd a’r anifeiliaid sydd mewn perygl. Rwyf yn codi arian drwy gefnogi Ra-leigh International – elusen sydd yn ei gwneud yn bosib i mi ac i nifer o unigolion ffodus eraill allu mentro i’r gwledydd hyn. Mae Raleigh wedi bod yn cydweithio’n agos gyda chymunedau a llywodraethau yn Costa Rica er 2001 ac maent yn parhau i ddarparu cymorth i’r gwledydd llai economaidd ddatblygiedig hyn yn flynyddol.

Rwyf yn falch iawn o'r cyfle yr wyf yn ei gael i

geisio gwneud ychydig o wahaniaeth, a gallwch chithau wneud gwahaniaeth hefyd. Bydd cy-frannu dim ond £3 (pris peint) yn mynd yn bell! Rwyf yn talu am y tocyn awyren, am yr holl of-fer ac am yr holl bigiadau y bydd eu hangen ar-naf ar wahân, ac felly bydd yr holl arian sydd yn cael ei gasglu yma yn mynd yn syth i’r elusen.

Os ydych yn awyddus i gael y cyfle i ennill £50 a chefnogi fy ymdrech i godi arian ar gy-fer yr alltaith, gallwch ddewis unrhyw ddy-ddiad o galendr 2013 am £1, cyn gyrru’r dyddiad ynghyd ag enw a rhif ffôn i mi cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd yr enillydd lw-

cus yn cael ei ddewis ar ôl gwyliau’r Pasg! Mae gennyf dudalen wedi ei chreu ar gyfer der-byn cyfraniadau ar-lein. Gallwch ymweld â'r dudalen a dilyn fy hanes nid yn unig yn codi'r arian ond hefyd holl hynt a helynt y daith drwy fynd ar y wefan www.justgiving.com/Elliw-Haf-Pritchard. Mae cyfrannu drwy ddefnyddio Just Giving yn hawdd, yn gyflym ac yn gwbl ddiogel. Unwaith y byddwch yn cyfrannu bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo yn syth i’r elusen, ac os ydych yn talu trethi gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi tic yn y bwlch GiftAid er mwyn sicrhau fod eich arian yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial.

gan Elliw Hâf

Page 10: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

10

MYFYRWYR YN DAL Y #BYGgan Bethan WalklingErs cyhoeddi canlyniadau’r cyfrifiad eleni mae sefyllfa’r iaith wedi bod yn bwnc llosg i ni-fer o bobl ac mae’r iaith, neu ddiffyg yr iaith, mewn mannau cyhoeddus yn denu mwy o sylw nag erioed o’r blaen. Mae’r sefyllfa wedi ysgogi criw o fyfyrwyr UMCA i sefydlu cym-deithas newydd o’r enw BYG (Byw Yn Gym-raeg), sydd am gefnogi busnesau lleol dw-yieithog ac am annog y rheiny nad ydynt yn ddwyieithog i ymdrechu mwy trwy gynnig cyfieithu am ddim iddynt. Maent hefyd am edrych ar sefyllfa’r iaith Gymraeg ar y we ac am annog pobl i ddefnyddio gwefannau Cymraeg a chyfieithu erthyglau Wikipedia. Mae cerd-doriaeth Gymraeg yn rhywbeth yr hoffent ei hybu hefyd, felly maent yn bwriadu cynnal gigs yn gyson a hysbysebu gigs Cymraeg eraill. Yn ychwanegol i hynny, maent eisiau annog cym-deithasu drwy’r Gymraeg a bwriadant gyn-nal gweithgareddau misol er mwyn gwneud hynny. Felly byddwch yn barod i ddal y #BYG!

Mae swyddogion yr Undeb hefyd wedi bod wrthi’n ceisio gwella dwyieithrwydd cym-deithasau eraill y Brifysgol. Ar ôl sylweddoli mai dim ond cyfryngau’r myfyrwyr, Cymde-ithas y Gyfraith a thîm rygbi dynion y Brifys-gol oedd â swyddog yr iaith Gymraeg, daeth

Llywydd UMCA, y Swyddog Gweithgared-dau a Swyddog yr Iaith Gymraeg at ei gilydd i weld sut allai’r Undeb wella sefyllfa’r iaith.Maent wedi cynllunio Gwobr Safonau Dwyieit-hog i glybiau a chymdeithasau ble y bydd gwo-br ariannol i’r clybiau sy’n gwneud yr ymdrech fwyaf i fod yn ddwyieithog. Mae tair haen i’r wobr: efydd, arian ac aur, a bydd clybiau a chymdeithasau yn gorfod cyrraedd targedau arbennig er mwyn ennill gwobr. Bydd y targe-dau hyn yn cynnwys pethau megis bod holl wisg ffurfiol y clwb neu’r gymdeithas yn ddwyieit-hog, bod gohebiaeth y clwb neu’r gymdeithas yn ddwyieithog yn ogystal â chael Swyddog yr Iaith Gymraeg neu Swyddog Cyfieithu.

Mae Swyddog yr Iaith Gymraeg a Llywydd UMCA wedi creu pamffled yn llawn brawdde-gau a geiriau defnyddiol yn y Gymraeg i’r clybi-au a chymdeithasau eu defnyddio er mwyn bod yn ddwyieithog. Felly os hoffech fwy o wyboda-eth am y pecyn neu’r wobr ei hun, cysylltwch â Carys, Llywydd UMCA, ar [email protected].

Da yw gweld bod yr Undeb yn pryderu am sefyllfa’r iaith ac yn annog eraill i boeni hefyd. Ond a fydd clybiau a chymdeithasau yn ym-drechu i newid? Cawn weld wrth iddynt bleidle-isio am eu pwyllgorau newydd ar ôl y Pasg faint fydd â swydd newydd a sawl un o’r rheiny fydd yn siaradwyr Cymraeg neu’n gallu cyfieithu.

YR AELWYD AR LWYFAN CÔR CYMRUY mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur a llwyddiannus tu hwnt i Gôr Aelwyd Pantycelyn. Ynghyd â chymryd rhan mewn sawl cyngerdd Nadolig ac yn nathliadau Gŵyl Ddewi’r Brifysgol, pend-erfynodd y côr gystadlu yn y rhaglen ‘Côr Cymru’ am y tro cyntaf.

Arweinydd y côr eleni, a’r un a ymgymerodd â her ‘Côr Cymru’, yw Eilir Pryse - myfyriwr mathemateg yn yr ail flwyddyn, sy’n wreiddiol o ar-dal Aberystwyth. Mae Eilir wedi gweithio’n ddi-baid gyda’r côr drwy gydol y flwyddyn, a hynny ar ben yr holl waith ar gyfer ei radd. Bydd yn cynnal ymarferion wythnosol, a mwy nag unwaith yr wythnos weith-iau, er mwyn sicrhau fod y côr yn llwyddo. Serch hyn oll, bydd gan-ddo wastad wên ar ei wyneb ac mae’n llwyddo i wneud pob ymarfer

yn hwyliog ac yn ddi-ffwdan. Mae ein diolch hefyd yn enfawr i Heledd Eleri Evans am ei holl waith caled yn cyfeilio - gwaith di-ddiolch yn aml ond gwaith cwbl hanfodol i lwyddiant y côr. Yn ddiau, ni fyddai’r côr wedi llwyddo nac wedi bod hanner cystal heb eu gwaith caled.

Ar ôl cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cafodd y côr glyweliad yn yr Ys-gol Gymraeg yn Aberystwyth fis Tachwedd, ac ar sail y recordiad hwnnw, aethant ymlaen i’r rowndiau cynderfynol (er eu bod wedi gorfod canu un gân nad oedd hanner y côr yn ei gwybod ac nad oedd gweddill y côr wedi ei chanu ers blwyddyn, gan nad oedd y recordiad yn ddigon hir!)

Wedi misoedd o ymarferion pellach, cynhaliwyd y rowndiau cynderfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, dafliad carreg o Ban-tycelyn. Roedd corau profiadol dros ben yn cystadlu yn erbyn yr Ael-wyd – Côr Ysgol Glanaethwy, Aelwyd y Waun Ddyfal a Chôr Ysgolion Uw-chradd Sir Gaerfyrddin. Darlledwyd y rhaglen ar S4C, a roddodd Aelwyd Pantycelyn ar lwyfan cenedlaethol ac er na ddaeth y côr yn fuddugol, bu’n sicr yn brofiad cofiadwy sydd wedi codi ymwybyddiaeth am y côr.

Wedi’r holl gyffro, nid oes cyfle i gael seibiant - mae’r Aelwyd yn awr yn paratoi’n ddygn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Maent yn cystadlu mewn sawl maes gwahanol eleni ac yn cyflwyno côr SATB, côr merched, côr meibion a pharti llefaru. Maent hefyd yn camu i faes sy’n ddieithr iddynt ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn rhoi ymgais ar y parti cerdd dant. Pob lwc iddynt!

gan Elin Gruffydd

Llun: Robin Williams

Page 11: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

Hawdd Canolig

11

Ar draws:

1. Un o’r brwydrau yn rhyfeloedd annibyniaeth yr Alban. (11)5. ... y gynnen. (6)7. Anwadal. (5)10. “... targed y creigiau” (B.M.D) (7)12. Tŷ ffasiwn. (6)13. Ty’n. (5)14. “Mae’r esgid fach yn ... mewn man nas gwyddoch chi.” (6)15. Trychineb ddiwydiannol. (6)16. Cysgod dros dro. (4)19. Anifail teilwng. (3)21. Offeryn gwaith coed. (4)22. Naddu’r tŷ ar gyfer y Nadolig? (5)

I lawr:

1. Warburton neu Tipuric. (12)2. “Gyr fab, ti a gei ...” (3)3. Enw Saesneg Craig Glais. (12)4. Un o ysgolion Cymraeg y de. (9)6. Ofoid. (2)8. “Druan rhwth, uwch dyrnau’r wig yn ... dirmygedig” (G.Ll.O) (6)9. Dymuniad ennyd. (6) 11. Ailgyflenwi. (8)17. Dyheu. (3)18. Lluosog 19 ar draws. (3)20. Ateb negyddol. (2)

Bydd yr ymgais gywir gyntaf a dynnir o’r het yn ennill copi o ‘The Phenomenon of Welshness’, Siôn

Jobbins (gweler ein hadolygiad ar dudalen 14). Anfonwch eich atebion i’r croesair ynghyd â’ch cyfeiriad at [email protected]. Cyhoeddir yr atebion ar ein gwefan, www.yrheriwr.org, adeg

cyhoeddi’r papur nesaf.

CYFLE I ENNILL LLYFR!

Anodd

Posau!

Page 12: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

12

Mae tymor arall wedi hedfan heibio ym Mhri-fysgol Aberystwyth ac mae wedi bod yn un prysur tu hwnt hefyd. Rhwng trip y Geltaidd i Baris i weld y rygbi a phenwythnos yr Ei-steddfod Ryng-golegol yng Ngholeg y Drin-dod, Caerfyrddin, synnwn i daten nad oes neb wedi cael cyfle i fynychu darlithoedd!

Yr oedd y Sŵn diweddaraf ddiwedd mis Chwe-fror yn noson gofiadwy unwaith eto, er ei bod hi’n biti i lawer beidio â dod oherwydd bod y bws i’r Eisteddfod Ryng-golegol yn gadael am hanner awr wedi deg y bore canlynol. Y thema, wrth gwrs, oedd Dydd Gŵyl Ddewi, ac roedd digon o ddychymyg wedi mynd i mewn i’r gwis-goedd, chwarae teg! Yn eu plith, ’roedd rhai wedi gwisgo fel yr Wyddfa, rhai fel archdderwyddon, rhai fel graffiti ‘Cofiwch Dryweryn’ a rhai eraill fel hen fenywod bach Cydweli, (mae ’mag i’n dal i ddrewi o losin du ’fyd!) I’r rhai wrthododd wis-go i fyny a chredu ei fod o’n ddigon i sticio Cennin Pedr ar eich crysau – ’da chi ’di cymryd ‘gwnewch y pethau bychain’ yn llawer rhy lythrennol.

Ddechrau mis Chwefror, cafodd pawb gyfle i ymlacio wedi adolygu mor galed ym mis Ionawr, pan aeth pawb ar drip blynyddol y Geltaidd i weld un o gemau’r chwe gwlad ym Mharis. Wedi teithio am oriau maith ar y bws o Aberystwyth i Dover, llwyddodd bechgyn y Geltaidd i gadw eu dillad ymlaen ar ddec uchaf y fferi eleni, yn wa-hanol i llynedd ar y ffordd i Iwerddon! Wedi cyr-

raedd, cafodd pawb gyfle i ymweld â golygfeydd godidog Paris, ond er mwyn gwneud hynny, roedd angen prynu ticed i fynd ar y Metro. Wna i fyth ddeall brys rhai o drigolion Paris i ddal y peth ’na! Yr oedd hi’n berffaith amlwg fod un ar-all am gyrraedd yr orsaf mewn llai na phum mu-nud, felly pam rhedeg fel ffŵl gwirion i’w ddal o?

Cafodd y prifysgolion a oedd yno gasglu mewn un ardal o dafarndai i gymdeithasu â’i gilydd. Yn anffodus, ni lwyddwyd i wneud hynny ar y nos Sadwrn gan fod y tafarndai’n gwrthod mynediad i’r Cymry am mai ni enillodd y ryg-bi! Roedd y myfyrwyr i gyd ar wasgar mewn tafarndai gwahanol ym Mharis wrth wylio’r gêm hefyd, ond ble bynnag yr oedd pawb, dwi’n siŵr eu bod wedi mwynhau eu hunain! Gobeithio nad oeddem ni wedi codi gormod o ofn ar drigolion Paris, druan â nhw. ’Dw i’m yn siŵr sut oedd pawb arall yn teimlo wrth gyr-raedd Aberystwyth yn ystod oriau mân ar y bore Sul, ond teimlo fel cadach llawr oeddwn i.

Ymlaen at yr Eisteddfod Ryng-golegol ar gychwyn mis Mawrth – am benwythnos gw-

ych! Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth i en-nill y chwaraeon yn ogystal â’r Eisteddfod ei hun – dyna un gamp lawn wedi ei chyflawni’r flwyddyn hon o leiaf! Aeth rhai ohonom i Gaerfyrddin ar fore dydd Gwener i weld y chwaraeon yn ystod y dydd, ac wrth gwrs, er mwyn cael esgus i fynd am beint neu ddau yn ystod y nos! Er ein bod ni’n dioddef fore Sad-wrn, y cyfan oedd ei angen arnom oedd blewyn y ci ym mar yr undeb, cyn curo’r prifysgolion eraill yn rhacs! Cyflwynwyr yr Eisteddfod eleni oedd Trystan o raglen Stwnsh a Lois Cernyw, a ’dw i’n siŵr fod rhai o berfformiadau’r pri-fysgolion wedi rhoi mymryn o sioc iddynt.

Chwarae teg i Aber, cafodd ein myfyrwyr ni dro ar bopeth bron, o ddawnsio i ganu, ac o feimio i actio. Er ei bod hi’n benwythnos Gŵyl Ddewi, mae’n saff dweud nad oedd neb o fy-fyrwyr Aberystwyth yn sobor fel sant wrth iddynt droi eu llaw at y cystadlaethau. Wrth lwc, roedd pawb yn ôl yn eu gwlâu erbyn oriau mân bore Sul, yn barod ar gyfer diwrnod llawn o ddarlithoedd ar y dydd Llun. Mae ‘A aeth pawb iddyn nhw?’ yn gwestiwn arall!

“MAE ’NA DAFARN YN Y NEFOEDD, MEDDAN NHW...”gan Ffraid Gwenllian

TRYDEDD CADAIR I GRUFFgan Aled Wyn WilliamsDymuna’r Heriwr estyn llongyfarchiadau gwresog i Gruffudd Antur ar ennill y ga-dair yn yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol iddo ennill y gadair ac ef hefyd a enillodd y ga-dair yn Eisteddfod yr Urdd Eryri yn 2012.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni ar yr ail o Faw-rth ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng

Nghaerfyrddin. Y testun ar gyfer y gadair y tro hwn oedd ‘Drysau’ a phenderfynodd Gruffudd ymdrin â’r testun drwy sôn am ddrysau Pantyce-lyn yn cau - pwnc llosg ymysg myfyrwyr Cym-raeg Aberystwyth ar hyn o bryd. Beirniad y gys-tadleuaeth oedd Mererid Hopwood, a daeth i’r casgliad mai awdl “Madog” a oedd yn fuddugol. Mae hon wir yn gamp i fardd ifanc a dymunwn bob llwyddiant iddo gyda’i farddoni yn y dyfodol.

Page 13: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

13

ADOLYGIAD O ‘PANED A CHACEN’ - ELLIW GWAWRgan Miriam Williams

Paned a Chacen£14.95Y Lolfa

Yr hyn oedd yn fy synnu cyn darllen a choginio’r ryseitiau yma gan Elliw Gwawr, oedd mai dyma’r llyfr pobi cyntaf yn y Gym-raeg. Ond roedd hi’n werth aros am y llyfr hwn. Dyma chwip o lyfr ryseitiau gyda rhywbeth i bawb, o’r dant melys i’r rhai sy’n hoff o bethau sawrus ac o’r cogy-ddion mentrus i’r rhai sy’n hoffi chwarae’n saff gyda chacennau

cri! Un o’r pethau sy’n amlwg wrth ddarllen y llyfr ryseitiau hwn ydi’r cariad sydd gan Elliw tuag at bobi, ac fel un sy’n dilyn ei blog ‘Paned a Chacen’ ers tipyn, mae’r llyfr hwn yn cynnig ryseitiau newydd yn ogystal â’r hen ffefrynnau me-gis Hyni Byns enwog Dolgellau.

Mi wnes i benderfynu gwneud un pwdin ac un gacen, a rhai gwaha-nol i’r rhai y byddwn i yn eu pobi fel arfer. Roedd y gacen gaws gyda siocled gwyn, mascarpone a ma-

fon yn swnio’n drwm iawn, ond roedd hi mor ysgafn, heb fod yn

rhy felys. Roedd hyd yn oed Dad yn cymeradwyo, ac mae hynny’n well canmoliaeth nac unrhyw beth yn ein tŷ ni! Roedd hi’n hawdd iawn i’w gwneud hefyd, a’r cynhwysion i gyd ar gael yn eich siopau lleol.

Yn ail, dewis Dad, oedd y gacen Guinness. Dim un i’r plant yw hon gan fod 200ml o’r ddiod du ynddi, ond yn sicr yn flasus iawn i’r oedo-lion. Mi wnes i’r camgymeriad o beidio ag iro un tun yn ddigon da ac felly roedd hi’n hanner cacen Guin-ness yn hytrach nac un â dwy haen iddi, ond yn dal yn flasus dros ben. Roedd tipyn o waith pobi arni - 40 munud - ond yn llawn werth yr aros!

Does dim llawer o bwyntiau negy-ddol am y llyfr, dim ond efallai bod angen i chi fod â gradd yn y Gym-raeg i ddeall enwau’r cynhwysion ac enwau’r offer yn y Gymraeg! Mi gymerodd hi sbel i mi arfer hefo’r gwahaniaeth rhwng extract ac

essence, ac roedd hi’n anodd cofio pa un oedd pa un wrth chwilota drwy silffoedd yr archfarchnad! Serch hynny, mae’n llyfr arben-nig, ac yn anrheg gwych i ber-thynas neu ffrind sy’n meddwl eu bod nhw’n gogyddion o fri!

Er mwyn dilyn mwy o hynt a helynt Elliw Gwawr yn pobi, ewch

draw i’w blog: panedachacen.wordpress.com

Teimla Arwel Gruffydd, cyfar-wyddwr artistig Theatr Genedla-ethol Cymru, ei bod yn bwysig nodi a dathlu digwyddiadau allweddol yn hanes ein diwylliant sydd wedi ein ffurfio fel pobl. Ac fe lwyddodd ‘Y Bont’, a oedd yn dynodi hanner can mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bont Trefechan, i wneud hynny. Mater o farn yw a lwyddodd yn theatrig, ond fel cynhyrchiad aml blatfform ac arbrofol, fe lwyddodd.

Yr oedd Canolfan y Celfyddydau dan ei sang, gyda 500 o bobl yn aros yn eiddgar am y perfformiad. Ochr yn ochr â hanes y brotest cafwyd stori garu rhwng Kye a Dwynwen.

Arweiniwyd pawb i fysiau o’r chwedegau a oedd yn teithio i lawr Allt Penglais. Wrth weld

y cast yn cerdded ar y pafin yn nillad y cyfnod a gweld protest-wyr wrth Swyddfa’r Heddlu, yn fy nghlustiau roedd Saunders Lew-is yn mynnu mai ‘trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo’. Llwyddwyd i gyfuno’r gweledol a’r clywedol yn effeithiol iawn.

Yna dyma gerdded lawr y Stryd Fawr i gyfeiriad y Swyddfa Bost wrth i’r cast ail-greu’r brotest wreiddiol. Yr oedd yr ail-greu hwn yn brofiad cwbl ddirdynnol, a ninnau fel cynulleidfa ond yn gallu gwylio a gwneud dim – fel yr ydym ni hyd heddiw o bosib? Arweiniwyd pawb i wahanol gaff-is wedyn, ac yno yr oedd rhai o’r bobl fu ar y bont yn 1963 yn hel atgofion ar sgriniau teledu. Pro-fiad rhyfeddol o ystyried fod rhai ohonynt newydd fod yn eistedd

ar yr un bws â mi yn gynharach.

Llwyddodd uchafbwynt y perfformiad i yrru ias i lawr y cefn, wrth i 500 o bobl gerdded tua phont Trefechan yn gwbl fud. Ar y bont roedd pawb yn gwrando ar sŵn traed y chwedegau ar y pafin, ac yn cyd-gerdded gyda nhw. Ddoe yn croesawu heddiw, a heddiw, yn arwyddocaol, yn gwneud dim ond edrych. Ac wrth i’r cyrn ganu, yn un-ion fel y gwnaethant yn 1963, roedd y cast yn gwau drwy’r gynulleidfa ac yn eu plith Kye a Dwynwen. Sio-medig oedd eu cyfarfyddiad - roedd y sgwrsio’n wan a diafael. Byddai dyfnhau’r ddeialog wedi creu di-weddglo cymaint mwy pwerus.

Dyma un o berfformiadau mwyaf mentrus y Theatr Genedlaethol hyd yn hyn, ac fel cenedl sy’n or-

hoff o gadw o fewn ffiniau a dilyn rheolau, mae’r mentro hwn i’w ganmol - boed hynny o fewn byd y theatr Gymraeg neu’n wleidyddol.

‘Y BONT’ - GWEDD NEWYDD AR HEN HANESAdolygiad gan Marged Tudur

Page 14: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

YR HERIWR Rhifyn y Gwanwyn 2013

14

Ar brynhawn Sul fis Chwefror, chwaraeodd Y Geltaidd eu gêm gystadleuol gyntaf ar wair ers rhai misoedd bellach, gan i ni-fer o gemau gael eu gohirio ym Mlaendolau ynghynt. Gyda’r gyn-ghrair dal heb ddechrau a chyda’r gemau paratoadol i gyd wedi eu chwarae ar y cae astro, roedd y gêm hon yn gyfle da i’r Geltaidd wneud eu marc eleni, gan fod peth amser ers iddynt gyrraedd rown-diau terfynol y gystadleuaeth.

Sgoriodd y Bayern Diamonds gôl yn y 10 munud cyntaf a danseili-odd gobaith Y Geltaidd i gymryd rheolaeth o’r gêm. Cafodd y naill ochr gyfleoedd da i sgorio, ac aeth y bêl heibio i’r postyn gwpl o weithiau gan Bayern. Methodd capten Y Geltaidd, Elgan Jones, â sgorio ar ôl i groesiad gan asgellwr chwith Y Geltaidd, Lewis Tomlins, gyrraedd Elgan yn y cwrt cosbi.

Heb os, gyda pherfformiadau ca-darn yn yr amddiffyn gan Y Gel-taidd a chwarae taclus yng ngha-nol y cae ar adegau, roedd y gêm yn dal yn nwylo’r gwyrddion gyda lwc. Nid oedd Y Geltaidd yn edrych fel eu bod am dorri trwodd am beth amser oni bai am waedd am gic o’r smotyn cyn hanner amser wedi i’r asgellwr chwith, Dafydd Morgan, ddisgyn yn y cwrt cosbi. Ni welodd y dyfarn-wr unrhyw falais yn y dacl, felly roedd Y Geltaidd ar ei hôl hi o 1-0.

Fe newidiwyd rhai o’r chwaraewyr ar gyfer yr ail hanner, gyda chyn-chwaraewr Average Anne, Ryan Murphy, yn cymryd lle Steffan Wil-liams yng nghefn yr amddiffyn.

Bu bron i’r Geltaidd daro nôl wedi i gynnig arbennig Steffan Davies o bell fynd dros y traws a chreu pan-ig i amddiffyn Bayern Diamonds.

Aeth pethau o chwith i’r Geltaidd pan loriwyd ymosodwr Bayern Diamonds yn y cwrt gan Ryan Murphy, a’r dyfarnwr yn pwyntio tuag at y smotyn. Fe ddyblwyd y sgôr gan achosi sialens aruthrol i ennill y gêm, er roedd dal amser i daro’n ôl. Daeth y glas-fyfyriwr, Rhodri Thomas, ar y cae er mwyn ychwanegu at yr agwedd ymosodol oedd Y Geltaidd yn ceisio’i greu. Ond ni ataliwyd Bayern rhag sgo-rio unwaith eto gan grebachu un-rhyw lygedyn o obaith i’r Geltaidd.

Ni ddaru’r drydedd gôl stopio’r Geltaidd rhag roi cynnig arall arni. Arbedodd gôl-geidwad Bayern yn wych yn erbyn cynnig Rho-dri Thomas yn y bocs wedi croe-siad o’r dde gan Steffan Davies. Yn y diwedd, fe wnaeth ymdrech y Geltaidd ddwyn ffrwyth a sgo-riodd Elgan Jones gôl adlam o gic rydd Celt Iwan i’w gwneud yn 3-1.

Achosodd Y Geltaidd fwy o drwbl i amddiffyn Bayern, ond yn anffo-dus, fe sgoriodd y gleision y bed-waredd gôl yn y munudau olaf i gloi'r gêm unwaith ac am byth. Y sgôr terfynol oedd 4 i 1. Bydd tîm Elgan Jones yn gallu canolbw-yntio ymhellach ar ennill y gyn-ghrair a thwrnamaint 7 bob ochr chwaraeon rhyng-golegol unwaith eto'r tymor hwn, heb gystadleua-eth y Cwpan i amharu arnynt.

Y GELTAIDD ALLAN O’R CWPANgan Llywelyn Williams

The Phenomenon of Welshness £7.50Gwasg Carreg Gwalch

Daw ffraethineb ac arddull grafog Siôn Jobbins i’r amlwg o’r cychwyn cyntaf wrth ddarllen teitl y llyfr hwn: ‘The Phenonmenon of Welshness, or how many aircraft carriers would an inde-pendent Wales have.’ Mae’r ffin yn denau iawn rhwng pryfocio a chythruddo, ond nid yw’r aw-dur yn ofni troedio a chroesi’r ffin honno. Cyfres o erthyglau a ymddangosodd yng nghylchgrawn Cambria yw cynnwys y llyfr hwn; erthyglau sy’n gosod hanes y Cymry o ddiwedd y bed-waredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol yn ei gyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol.

Llawlyfr ydyw hwn yn y bôn i’r sawl nad ydynt yn deall hanes a chymeriad gwleidyddol y Cym-ry; llawlyfr i’r Cymro Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Mae’n llyfr sy’n portreadu inni angerdd cenedlaetholwr rhwystredig mewn gwlad heb iddi lais na chynrychiolaeth deil-wng. Mae ei fynegiant ar brydiau’n danllyd ac mae dicter yn ei eiriau wrth gondemnio ag-wedd y sefydliad Prydeinig a meddylfryd taeo-gaidd y Cymry. Sonia am Frad y Llyfrau Glei-sion a Thryweryn, am yr ymgyrch dros sianel deledu Cymraeg a senedd go iawn i Gymru; yn wir, nid oes llawer y mae’r awdur wedi angho-fio ei grybwyll a’i drafod yn ei erthyglau. Cawn ein trwytho ym meddylfryd y Cymro cenedla-

etholgar, ein tywys trwy’r holl ddigwyddiadau sydd wedi ffurfio’r deffroad cenedlaethol yng Nghymru; o radicaliaeth yr ugeiniau i brotes-tiadau torfol y chwedegau - dyma yn fy nhyb i yw Beibl y Cymro Cymraeg cenedlaetholgar.

Mae Siôn Jobbins bellach wedi cyhoeddi llyfr ar-all, sef ‘The Welsh National Anthem - the story and the meaning’. A hithau’n gyfnod pencamp-wriaeth y Chwe Gwlad nid yw’n anghyffredin clywed ein hanthem yn atseinio rhwng waliau tafarnau Aberystwyth ond dywed yr awdur wrth wleidyddion, chwaraewyr rygbi a chefnogwyr i beidio â chanu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ oni bai eu bod nhw’n deall y geiriau ac yn cytuno â hwy. Dywedodd y byddai’n well ganddo gael stadiwm ddistaw ond gonest adeg canu’r anthem gened-laethol cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerd-don, na chlywed gwladgarwyr 80 munud yn canu’r gân a hwythau ddim yn credu yn y geiriau.

Mawr yw fy niolch i Siôn Jobbins am gynnig copi o’i lyfr i ddarllenwyr Yr Heriwr. Bydd yr ymgais gywir gyntaf ar y croesair a dynnir allan o’r het yn ennill copi o ‘The Phenomenon of Welshness’, felly ewch ati da chi. Mae’n llyfr arbennig, ac yn llyfr y dylai pob Cymro gwerth ei halen ei ddarllen.

“BEIBL Y CYMRO CYMRAEG CENEDLAETHOLGAR”gan Adam Jones

Bayern Diamonds 4-1 Y Geltaidd

Page 15: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

SEFYDLWYD 2012Rhifyn y Gwanwyn 2013

Aberystwyth a ddaeth i’r brig eleni gan guro’u gelynion pennaf, Prifysgol Bangor, yng ngornest Varsity (digwyddiad chwaraeon blynyddol ar draws prifysgolion a cholegau Prydain). Sicrhaodd Aberystwyth fuddugoliaethau yn y criced, y nofio, y saethyddiaeth a’r rygbi, yn ogystal â rhai gemau pêl-droed, pêl-fasged a lacrós er mwyn dod â’r tlws yn ôl i’r Co-leg ger y Lli tan y flwyddyn nesaf. Enillodd Aberystwyth yn gyfford-

dus yng nghystadleuaeth y nofio o 129 pwynt i 98. Roedd y canlyniad yn dangos pa mor lwcus yw Prifys-gol Aberystwyth o gael pwll nofio yn benodedig i ganolfan chwarae-on y Brifysgol o gymharu a’r pwll nofio cyhoeddus sydd ym Mangor. Llwyddodd y tîm criced dynion he-fyd i sicrhau buddugoliaeth swm-pus o 100-6 o rediadau mewn 10 pelawd, gan ddal Bangor yn rhwys-tredig gyda bowlio gwych gan Josh Tobin o Brifysgol Aber fore Sadwrn.

Nid oedd perfformiadau Aberyst-wyth yn fêl i gyd, fel y gwelwch oddi wrth y canlyniadau agos. Ni lwyddodd tîm pêl-droed y dyn-ion i roi eu tîm cryfaf yn erbyn

Bangor oherwydd bod gêm Gwpan Canolbarth Cymru yr un diwrnod. Yn sgil hynny, fe gollodd Aberyst-wyth o 2-0. Colli fu hanes tîm pêl-fasged y dynion hefyd, o drwch blewyn gyda 3 phwynt yn unig rhyngddynt a Bangor. Ond profodd y merched i fod yn dipyn gwell na’r bechgyn yn y bêl-fasged gyda bud-dugoliaeth agos o 42-39 i Aber, a he buddugoliaeth swmpus o 3-0 yn y pêl-droed ym Mlaendolau.

Y gemau eraill fu ar gaeau Blaen-dolau oedd Rygbi’r Gynghrair a Rygbi Undeb. Llwyddodd y timau rygbi i gyd, y dynion a’r merched, i sicrhau buddugoliaethau all-weddol gyda thîm Rygbi’r Gyn-

ghrair y dynion yn hawlio bud-dugoliaeth o 52-4. Canlyniad rhagorol yn wir. Enillodd y merched yn gyfforddus o 20-7 gyda’r dyn-ion yn ennill buddugoliaeth hae-ddiannol ar ôl sgôr agos a chys-tadleuol yn erbyn Bangor o 12-0.

Profodd myfyrwyr Aberystwyth fod ganddynt gywirdeb miniocach na Bangor yn y saethyddiaeth. Enillodd Aber o 5-4. Bullseye yn wir! Roedd ysbryd ‘Tîm Aber’ yn fyw ac yn iach drwy’r dydd gan sicrhau’r fuddugoliaeth allweddol. Llongyfarchiadau Aberystwyth!

ABERYSTWYTH YN AD-ENNILL TLWS VARSITYgan Llywelyn Williams

Aberystwyth 18-14 Bangor

ABER YN CADW LLECHEN LÂN YN Y RYGBIgan Llywelyn Williams

Timau o Dde Cymru yw gwrthwyneb-wyr tîm rygbi dynion Aberystwyth fel arfer, ond cawsant gyfle i herio’r gogleddwyr o Fangor ar benwythnos Varsity ym Mlaendolau. Mae gelynia-eth y prifysgolion hyn yn dal i fod yr un mor gryf â gelyniaeth Prifysgol Abertawe a Chaerdydd a bu’n rhaid i Aber wneud eu marc gan i nifer o gemau Varsity y llynedd gael eu go-hirio, ac yn enwedig gan mai Bangor gipiodd y fuddugoliaeth gyfangwbl.

Yr hyn a wnaeth y gêm yn gystadleuol a chyffrous oedd bod y ddau dîm cys-tal â’i gilydd o ran safon a chynghrair. Ond ar ddiwedd y dydd, roedd amd-diffyn Aber yn rhagorol drwy gydol y gêm a dyna oedd yn gwahanu’r ddau dîm. Yn yr hanner cyntaf, roedd Aber yn cymryd eu cyfleodd yn well na Bangor ac roedd eu dull chwarae’n llawer mwy hyderus a phwerus na Bangor. Braf oedd gweld torf bar-chus yn ystod y gêm, a chafwyd digon o gefnogaeth gan weddill y chwaraewyr o ochr y cae. Roedd hyn yn rhoi hwb i hyder chwaraewyr Aber ac yn adlewyrchu bod rygbi yn un o brif ddigwyddiadau’r Varsity.

Bu’r pac yn pwyso’n drwm ar amddiffyn Bangor ym munudau cyntaf y gêm. Gwelwyd talentau dis-

glair o fewn y garfan megis y capten, Matt Spicer, fel canolwr pwerus a chyflym, yr asgellwr, Will Lowe, yn achosi bylchau o fewn amddif-fyn Bangor yn ogystal â’r blaenas-gellwr, Colin Overend, yn cael gêm arbennig unwaith eto. Roedd 4 o chwaraewyr Y Geltaidd yn y garfan, yn cynnwys capten rygbi’r Geltaidd ac wythwr Clwb Rygbi Aberystwyth, Gwion Williams, a gafodd gêm lawn.

O ganlyniad i bwyso cyson gan Aber, fe sgoriwyd y cais cyntaf gan ail reng Ab-erystwyth, Josh Delf a roddodd Aber yn haeddiannol ar y blaen. Methwyd y trosgais ond roedd Aber yn gyfford-dus o ran meddiant ac amddiffyn.

Wrth gwrs, nid oedd 5 pwynt yn ddigon i Aber cyn yr hanner cyntaf, ac roedd ganddynt yr awch i sgorio mwy. Bu’r asgellwyr Will Lowe ac Andrew Kingswell yn rhedeg trwy’r bylchau er mwyn creu’r cyfleoedd, gydag Illtud Dafydd yn ychwanegu mwy o bwysau ar Fangor gyda’i gi-ciau hir am yr ystlys. Er yr holl ym-drech cyn yr ail hanner, ni lwyddodd Aber i dorri trwodd ac roedd amd-diffyn Bangor yn gwrthwynebu’n gadarn yn eu herbyn a’i gwnaeth yn hanner rhwystredig i’r cochion. Ond, wedi rhediadau bygythiol y canolwr

Matt Spicer, croesodd y blaenas-gellwr, Colin Overend, y llinell gais heb unrhyw chwaraewr o Fangor yn agos ato. Roedd Aber yn haeddian-nol ar y blaen o12-0 ond achosodd y garden felen a dderbyniodd Gwion Jones ym munudau olaf yr hanner cyntaf gryn boendod. Llwyddodd Aberystwyth i gadw pac cadarn yn erbyn Bangor, serch hyn, ac nid amharodd hyn yn orodol ar y gêm.

Roedd yr ail hanner yn fwy tyn o ran y chwarae ac roedd Bangor fel pe-taent wedi gwella’u hamddiffyn. Er bod pac Aber wedi blino, ni chrewyd

unrhyw fylchau i Fangor gan i Aber amddiffyn yn wych ar adegau han-fodol y gêm. Roedd y munudau olaf yn eithaf cyffrous gyda Bangor ar bigau drain eisiau cael ambell bw-ynt. Bygythiad pennaf Bangor oedd y canolwr, Ben Stelmastek, sydd he-fyd yn chwarae i dîm cyntaf RGC. Ond llwyddodd Aberystwyth i atal Bangor rhag sgorio gan sicrhau buddugoliaeth o 12-0. Cafwyd perfformiad calonogol gan y naill ochr, ond roedd cyfleoedd ac amddiffyn Aberystwyth yn drech yn y diwedd.

Prifysgol Aberystwyth 12-0 Prifysgol Bangor Llun: James Anderson

15

Page 16: Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

Cafwyd buddugoliaeth gyntaf Y Geltaidd o’r di-wedd ar noson oer iawn yn Aberaeron ar yr 21ain o Chwefror. Llwyddwyd hefyd i gadw llechen lân oddi cartref yn erbyn y tîm 1af sydd yng nghyn-ghrair Adran 4 Gorllewin SWALEC. Camp a han-ner i feddwl mai megis dechrau asio fel tîm y mae’r Geltaidd ers eu gêm ddiwethaf fis Tachwedd.

Ym munudau cyntaf y gêm, yn anffodus, bu’n rhaid i’r prop, Ianto Phillips, ddod oddi ar y cae ar ôl di-oddef ergyd i’w ben. Daethpwyd â’r blaenasgell-wr o’r flwyddyn gyntaf, Guto Jones, ar y cae a cha-fodd gêm ardderchog y noson honno, gyda’i daclo cadarn yn atal momentwm pac cryf Aberaeron. Roedd taclo o gwmpas y sgarmes yn hynod o bw-ysig i’r Geltaidd gan mai dyna ble’r oedd cryfder Aberaeron, a bu dyfalbarhad blaenasgellwyr me-gis Guto Jones, Iestyn Jones a Llŷr Morris i wrth-rycio a rhyng-gipio’r bêl o’r dacl yn allweddol. Roedd yr hanner awr cyntaf yn her i’r Geltaidd. Bu cyfnodau eithaf hir o amddiffyn, ond gyda waith

caled y taclwyr, ni achosodd Aberaeron unrhyw fyl-chau na bygythiad yn yr hanner cyntaf. Y Geltaidd fu’n dominyddu’r llinell, gyda Gwion Jones a Ben Davies yn rhyng-gipio peli Aberaeron o’r llinell, ond roedd Aberaeron yn gryfach yn y sgarmes.

Rhyng-gipiodd Ian Ellis y bêl gan Aberaeron ac edrychai fel ei fod am sgorio cais yn hawdd, ond chwythodd y dyfarnwr ei chwiban oherwydd cam-sefyll gan Y Geltaidd. Wrth i’r hanner cyntaf ddod i derfyn, cafwyd lwc o’r diwedd gan i Ian Ellis ryng-gipio’r bêl unwaith eto, heb unrhyw gamsefyll y tro hwn, a chroesi’r llinell gais. Trosodd Ian Ellis y trosgais gan roi’r Geltaidd ar y blaen o 7 pwynt i 0.

Yn yr ail hanner, profodd y gêm i fod yn un gorfforol unwaith eto, gyda blaenwyr Aberaeron yn ceisio torri trwy’r amddiffyn dro ar ôl tro. Bu bron i Aberaeron sgorio ar ôl cwpl o rediadau pwerus gan y blaenwyr. Tarodd un o flaenwyr Aberaeron y bêl ymlaen o drwch blewyn i’r llinell

gais a byddai wedi cael y cais oni bai am amddiffyn rhagorol yr asgellwr o Gaerfyrddin, Gareth Spiers.

Buan y cafodd Y Geltaidd gais arall o’u plaid. Daliodd Ben Davies y bêl a charlamu’n igam ogam o gwmpas chwaraewyr Aberaeron yn ddi-gyffwrdd i groesi’r llinell gais. Golygodd tros-gais arall gan Ian Ellis fod Y Geltaidd yn dyblu’r sgôr i 14-0. Byddai’r gêm wedi bod dipyn ago-sach pe na bai amddiffyn gwych gan yr asgell-wyr, Gwion Emlyn a Gareth Spiers, yn y gornel bellaf wedi atal unrhyw bwyntiau i Aberaeron.

Y sgôr terfynol felly oedd Aberaeron 0-14 Y Geltaidd. Bydd y capten, Gwion Dafy-dd Jones yn falch iawn o’i dîm am yr ym-drech o dan amodau rhewllyd iawn.

AR NOSON OER YN ABERAERON...gan Llywelyn Williams

Clwb Rygbi Aberaeron 0-14 Rygbi’r Geltaidd

GWANWYN I DÎM CYMRU?gan Iolo Cheung

Diolch unwaith eto i ddoniau Ga-reth Bale, cafwyd buddugoliaeth arall i Gymru yn eu gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn Awstria. Ar ôl ei gampwaith yn erbyn yr Alban ym mis Hydref, pan sgoriodd ddwy gan gynnwys y gôl wych honno i ennill y gêm yn y munudau olaf, roedd y gobeithion yn uchel ymysg cefnog-wyr Cymru y gallai ailadrodd y perfformiad hwnnw. Ac ni wnaeth ein siomi, gyda pherfformiad dis-glair arall, gan gynnwys sgorio'r gôl agoriadol mewn buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn Stadiwm y Liberty.

Braf hefyd oedd clywed cyn y gêm y byddai Craig Bellamy yn chwarae, ar ôl amheuon ynglŷn â'i ddyfodol rhyngwladol yn yr hydref yn di-lyn anafiadau. Ond cafodd yntau berfformiad da, gan achosi prob-lemau i amddiffyn Awstria gyda'i symudiadau deallus. Yn ogystal â hyn, cafwyd cyfraniad gwerthfawr gan Sam Vokes a sgoriodd ail gôl Cymru gyda pheniad campus. Does dim dwywaith y bu i fygythiad

ymosodol Cymru ostwng yn syl-weddol unwaith i Bale a Bellamy adael y cae, ond erbyn hynny roedd y canlyniad yn saff, a hynny'n erbyn tîm yn cynnwys digonedd o chwaraewyr dawnus, gyda nifer gan gynnwys David Alaba yn chwarae i glybiau mawr y Bundesliga.

Braidd yn siomedig unwaith eto, fodd bynnag, oedd maint y dyr-fa yn Abertawe. Dim ond rhyw 8000 o gefnogwyr oedd yno, yn llenwi llai na hanner y stadiwm. Roedd hynny’n effeithio ar yr aw-yrgylch, gyda'r dyrfa'n llawer llai parod i ymuno yn y canu o gym-haru â'r gefnogaeth swnllyd a geir yn y Canton End yng Nghaerdy-dd. Gallwn ond gobeithio y bydd hi'n stori wahanol yng ngêm gys-tadleuol nesaf Cymru yn y Lib-erty, sef yn erbyn Croatia fis yma.

Cynhelir dwy gêm rhagbrofol ddi-wedd y mis. Yn gyntaf, bydd y crysau cochion yn teithio fyny i Glasgow, i herio'r Alban unwaith

yn rhagor. Os bydd Cymru’n ddigon ffodus i osgoi unrhyw anafiadau i'r chwaraewyr mwyaf pwysig, yna bydd siawns dda o fuddugoliaeth, yn enwedig o ystyried llwyddiant Cymru yn erbyn y gwrthwyneb-wyr yn ddiweddar. Yn dilyn y gêm yn erbyn yr Alban, bydd Cymru’n herio Croatia yn Abertawe, ac er i

Gymru golli yn eu herbyn y tro di-wethaf, gyda chwaraewyr disglair fel Joe Allen, Aaron Ramsey ac Ash-ley Williams, a’r fantais o chwarae adref, bydd y disgwyliadau’n uchel er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Brasil, 2014.

TŶ AR OSODYstafelloedd mewn tŷ ar gyrion Bangor.Delfrydol i fyfyrwyr Ymarfer Dysgu.Hyblygrwydd - tenantiaeth wythnosol neu fisol ar gael yn ôl yr angen.Telerau cystadleuol tu hwnt.Rhannu gyda dau berson proffesiynol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llyr ar 07948848015 neu ebostiwch [email protected]

CYFRANNWCH AT YR HERIWREr mwyn i’r fenter hon fod yn llwyddiant, rydym yn ddibynnol ar noddwyr a chyfraniadau gan ein

darllenwyr.

I gyfrannu at ddyfodol Yr Heriwr, e-bostiwch:

[email protected]