7
1 lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru HYDREF 2011 HYDREF 2011 HYDREF 2011 HYDREF 2011 Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Anodd Anodd Anodd Anodd Margaret Underwood “Gweld y golau” “Heriol” “Ffyrdd newydd o feddwl” Dim ond ychydig o'r sylwadau oedd y rhain a wnaed gan aelodau o'r Parc Cenedlaethol ar ôl iddynt fynychu eu seminar flynyddol ddechrau Hydref. Cafodd y seminar hon ei llywyddu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - dan y pennawd “Cyflawni Bioamyriaeth ar adeg heriol economaidd”. Yr her a oedd yn wynebu'r Aelodau oedd cynnal y gwaith cyfredol o warchod a gwella bioamrywiaeth ac adeiladu ar y gwaith hwnnw er mwyn llwyddo i weld rhagor o fuddion er lles bioamrywiaeth trwy gofleidio yn ddi-amod y patrwm gweithreu ecosystemau. Mae'r Parciau Cenedlaethol ar flaen y gad o ran addasu yn y cyfnod newidiol hwn o ddatblygiad cynaliadwy a hyrwyddo'r buddion economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil natur a gwasanaethau naturiol eraill, fel dwr glan, pridd iach a bioamrywiaeth. A chafwyd cyfle i ymweld â dau brosiect unigryw a oedd yn ymgorffori'r agweddau hyn, er mwyn gweld sut y gall ecosystmeau gynnig budd o fewn Parciau Cenedlaethol. Mae'r ddau brosiect wedi cael eu lleoli o fewn y Bannau Brycheiniog – Deorfa Cynrig Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghantref a chynllun ail gyflwyno llygod dwr yn Llyn Llangors. Mae'r ddau brosiect yn cynnig buddion enfawr i'r amgylchedd, ac maent yn rhoi hwb incwm Gwyrdd yw'r Dyfodol Gwyrdd yw'r Dyfodol Gwyrdd yw'r Dyfodol Gwyrdd yw'r Dyfodol Cymeradwywyd 85.8% o geisiadau cynllunio ynni adnewyddol gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol dros y pum mlynedd di- wethaf. Cymeradwyodd awdurdodau cynllunio nad ydynt yn Aw- durdod y Parc 88.7% o geisiadau cynllunio dros yr un cyfnod.

Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Parciau Cenedlaethol Cymru Cylchlythyr Hydref 2011

Citation preview

Page 1: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

1

lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru

HYDREF 2011HYDREF 2011HYDREF 2011HYDREF 2011

Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg Gwneud Ein Gorau Dros Fioamrywiaeth ar Adeg

AnoddAnoddAnoddAnodd

Margaret Underwood

“Gweld y golau”

“Heriol”

“Ffyrdd newydd o feddwl”

Dim ond ychydig o'r sylwadau oedd y rhain a

wnaed gan aelodau o'r Parc Cenedlaethol ar ôl

iddynt fynychu eu seminar flynyddol ddechrau

Hydref. Cafodd y seminar hon ei llywyddu gan

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog - dan y pennawd “Cyflawni

Bioamyriaeth ar adeg heriol economaidd”. Yr

her a oedd yn wynebu'r Aelodau oedd cynnal y

gwaith cyfredol o warchod a gwella

bioamrywiaeth ac adeiladu ar y gwaith hwnnw

er mwyn llwyddo i weld rhagor o fuddion er lles

bioamrywiaeth trwy gofleidio yn ddi-amod y

patrwm gweithreu ecosystemau.

Mae'r Parciau Cenedlaethol ar flaen y gad o ran

addasu yn y cyfnod newidiol hwn o ddatblygiad

cynaliadwy a hyrwyddo'r buddion economaidd

a chymdeithasol a ddaw yn sgil natur a

gwasanaethau naturiol eraill, fel dwr glan, pridd

iach a bioamrywiaeth. A chafwyd cyfle i

ymweld â dau brosiect unigryw a oedd yn

ymgorffori'r agweddau hyn, er mwyn gweld sut

y gall ecosystmeau gynnig budd o fewn Parciau

Cenedlaethol.

Mae'r ddau brosiect wedi cael eu lleoli o fewn y

Bannau Brycheiniog – Deorfa Cynrig Asiantaeth

yr Amgylchedd yng Nghantref a chynllun ail

gyflwyno llygod dwr yn Llyn Llangors. Mae'r ddau

brosiect yn cynnig buddion enfawr i'r

amgylchedd, ac maent yn rhoi hwb incwm

Gwyrdd yw'r DyfodolGwyrdd yw'r DyfodolGwyrdd yw'r DyfodolGwyrdd yw'r DyfodolCymeradwywyd 85.8% o geisiadau cynllunio ynni adnewyddol gan

Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol dros y pum mlynedd di-

wethaf. Cymeradwyodd awdurdodau cynllunio nad ydynt yn Aw-

durdod y Parc 88.7% o geisiadau cynllunio dros yr un cyfnod.

Page 2: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

2

sylweddol i gymunedau o du pysgota a ffurfiau

eraill o hamddena cynaliadwy yn ogystal â

chynnig cyfleoedd i arddangos buddion

ecosystemau wrth eu gwaith. Ymunodd y

Gweinidog o Lywodraeth Cymru hwy ar yr

ymweliad hwn, sef, John Griffiths Aelod o'r

Cynulliad (AC) a dreuliodd fore gyda'r Aelodau

yn trafod y pwysau y bydd y Parciau

Cenedlaethol yn eu wynebu yn y dyfodol.

Meddai'r

Gweinidog

“Mae

cynaliadwyedd a

gwarchod ein

bioamrywiaeth

eang ac amrywiol

yn allweddol o ran

gwella lles pobl

yng Nghymru, a

lles pobl yn y byd

ehangach.  Trwy

ddatblygu ein

Fframwaith

Amgylchedd

Naturiol ein nod yw sicrhau fod gan Gymru

ecosystemau sy'n gynyddol fwy gwydn a

chadarn sy'n cyflawni buddion cymdeithasol,

amgylcheddol ac economaidd.” 

Er mwyn i NEF “Cymru Fyw / A Living Wales”

gyrraedd ei lawn botensial, bydd yn ofynnol cael

patrymau gweithredu arloesol tuag at yr

amgylchedd, yr economi a'r gymdeithas yng

Nghymru ac mae'r seminar wedi dangos fod

gan y Parciau Cenedlaethol gyfraniad

sylweddol i'w wneud i'r agenda hon.    Mae

cynnal cysylltiad cryf rhwng amgylchedd iach a

chymunedau cynaliadwy yn allweddol yn y rol y

mae'r Parciau Cenedlaethol yn ei chwarae.

Mwynhaodd yr Aelodau gyflwyniad bywiog ar

ecosystemau, y patrwm gweithredu

ecosystemau, gan Swyddog Bioamrywiaeth y

Bannau Brycheiniog, sef Ellis. Dywedodd nifer

mai dyma oedd yr uchafbwynt ochr yn ochr

gyda'r anerchiad ar ôl cinio hwyr a ysgogodd i

bobl feddwl, rhoddwyd yr anerchiad hwnnw

gan Clive Bates, Cyfarwyddwr Llywodraeth

Cymru ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy.

Efallai mai'r cyflwyniad mwyaf heriol oedd y

posibilrwydd o ddefnyddio asedau er mwyn

creu incwm trwy fasnachu yn y farchnad

gwrthosod carbon. Er y bydd hyn angen

deddfwriaethu hyn yn y dyfodol, mae iddo'r

potensial i ddarparu dull o sicrhau incwm er

mwyn rheoli'r ardaloedd gwerthfawr hynny fel

corsydd mawn, ar gyfer gwithredu fel sinciau

carbon yn y dyfodol. Mae gan yr ardaloedd hyn

rôl allweddol i'w chwarae yng nghyd destun

gwella ansawdd dwr, gweithredu fel ffilteri hidlo

enfawr, helpu i fynd i'r afael a'r boblem gynyddol

o ddwr sydd wedi colli neu newid ei liw a thrwy

hynny reoli adnodd hanfodol arall – sef dwr. Mae

doethindeb confensiynol yn awgrymu fod yr

amgylchedd a bioamrywiaeth yn dirywio yn

ystod cyfnodau economaidd ansicr.  Mae ein

seminar wedi dangos i ni nad felly y mae'n rhaid

i bethau fod. Mae natur yn darparu nifer o'n

gwasanaethau hanfodol am ddim a thrwy'r

Parciau Cenedlaethol – gall Bioamrywiaeth

Cymru helpu.

Buddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddBuddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddBuddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddBuddsoddi Mewn Dyfodol GwyrddDros y ddwy flynedd nesaf bydd oddeutu £1.9 miliwn yn cael ei

fuddsoddi trwy gyfrwng y Gronfa Datblygiad Cynaliadwy / CAE i

mewn i gymunedau o fewn tirweddau a warchodir yng Nghymru.

Page 3: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

3

Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar Cacynnod yn ennill cefnogwyr brwd ar

Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc Faes Amddiffyn y Wladwriaeth yn y Parc

CenedlaetholCenedlaetholCenedlaetholCenedlaethol

Mynychodd oddeutu 30 o bobl Ddiwrnod Dathlu

Cacynnod ym mis Awst ar Faes Anddiffyn y

Wladwriaeth yng Nghastellmartin, a drefnwyd

gan Yr Ymddiriedolaeth Dros Warchod Cacynnod.

A hwythau gyda'u hoffer dal gloynnod byw a

photiau pwrpasol, aeth y tim tua chyfeiriad Llwybr

Maes Castellmartin er mwyn chwilio am rai o'r

cacynnod / gwenynnod mwyaf prin ym Mhrydain.

Dywedodd cyfranogwr, Sue Beckett, a oedd yn

ymweld o Ganolbarth Lloegr : “Bu'n brofiad

cyfareddol dysgu am y cacynnod, doedd gen i

ddim syniad bod yna 24 o wahanol rywogaethau.

Mae hyn wedi fy ysbrydoli i i geisio creu cynefin

blodau gwyllt yn fy gnardd er mwyn annog rhagor

o gacynnod”

Enillodd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth

Cacynnod gystadleuaeth ar lein y llynedd am

arian cyllido gan y Gymdeithas Cadwraeth Awyr

Agored ar gyfer Prosiect Llwybr Cacynnod /

Gweynnynnod Arfordir Penfro. Mae'r arian cyllido

yn helpu i ddarparu cynefinoedd blodau gwyllt ar

gyfer cacynnod ar hyd Llwybrffordd Maes tanio

Castellmartin.

Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo Aelodau'r Awdurdod yn cymeradwyo

Cynllun Datblygu Lleol y Bannau Cynllun Datblygu Lleol y Bannau Cynllun Datblygu Lleol y Bannau Cynllun Datblygu Lleol y Bannau

Brycheiniog.Brycheiniog.Brycheiniog.Brycheiniog.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Aelodau o

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog (APCBB) gymeradwyo'r newidiadau i

Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) yr Awdurdod ar

gyfer cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w

archwilio.

Mae'r gymeradwyaeth hon gan yr Aelodau o

Ddogfennau Cyflwyno'r CDLl yn digwydd yn dilyn

pedair blynedd o ymgynghori ac ymglymiad

dwys gyda chymunedau'r Parc Cenedlaethol,

sefydliadau partner, tirfeddianwyr, asiantau a

datblygwyr. Mae hyn yn dilyn yn gyflym iawn y

ffaith fod Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Arfordir Penfro ac Eryri wedi mabwysiadu eu CDLl

hwythau – a hynny ymysg y rhai cyntaf yng

Nghymru.

Dros y chwe wythnos nesaf, bydd ymgynghori

pellach yn digwydd ar y newidiadau arfaethedig

i'r cynllun, sef yr hyn a elwir yn newidiadau ffocy-

sedig, a fydd yn mynd i'r afael a'r materion a

godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y fersiwn

Adneuo o'r (CDLl. Bydd cymunedau a budd

ddeiliaid unwaith yn ragor yn cael cyfle i leisio eu

barn, gan roi cyfle idddynt ddweud a yw'r newid-

iadau a wnaed yn delio gyda'r materion a god-

wyd yn ystod yr ymgynghoriad adneuo.  Yr

Archwilydd a fydd, yn y pendraw yn penderfynu

ar gynnwys terfynol y CDLl.

Page 4: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

4

Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Parc Cenedlaethol Eryri yn cyrraedd 60Mae nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol wedi

digwydd dros y misoedd diwethaf er mwyn

dathlu penblwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 60.

Mae'r digwyddiadau hyn yn adlewyrchu'r

gwaith a ymgymerwyd ag o gan Awdurdod y

Parc Cenedlaethol er lles cymunedau o fewn y

Parc a'r ymwelwyr o bedwar ban byd sy'n

cyrraedd yno i ymchwilio i, i brofi ac i ymlacio o

fewn tirweddau trawiadol yr ardal.

Mae'r penblwydd hwn yn 60 yn darparu cyfle i

gydnabod y gwaith caled a ymgymerwyd ag o

i wella rhinweddau arbennig y Parc ochr yn ochr

gyda hyrwyddo yr ardal er lles y cymunedau o

fewn ei ffiniau.

Fe anfonodd John Griffiths, y Gweinidog dros yr

Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy ei

gefnogaeth ar gyfer y dathliadau "Hoffwn

longyfarch holl staff Parc Cenedlaethol Eryri am

eu gwaith caled dros 60 mlynedd yn diogelu ein

amgylchedd. Mae Eryri, ynghyd a Pharciau

Cenedlaethol eraill Cymru, yn enghraifft o

dirwedd hardd ac unigryw Cymru. Mae ein

amgylchedd a werthfawrogir gennym yn creu

cyflogaeth ac incwm sy'n werth biliynau o

bunnoedd, mae'n cynnig iechyd, cyfleoedd

hamddena, chwaraeon a chyfleoedd ar gyfer

dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig

i gefnogi'r dirwedd ac yn ddiweddar lansiodd ei

Fframwaith Amgylchedd Naturiol 'Cymru Fyw', -

fframwaith newydd ar gyfer ein amgylchedd, ein

cefn gwlad a'n moroedd."

O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod

Mae presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar y rhyngrwyd yn dal i gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o Awdurdodau

Parciau Cenedlaethol gwledydd Prydain, gan gynnwys Awdurdodau tri Pharc Cymru, yn cymryd rhan mewn

rhwydweithio cymdeithasol ac yn cynyddu presenoldeb ar lein Parciau Cenedlaethol.

Gallwch ddarllen eu proffiliau, tudalennau, twît a sianelau, pob un yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei

ddiweddaru’n gyson. Mae Porth y Parciau Cenedlaethol yn cynnwys dewis cynhwysfawr o ddolenni priodol.

Gellir mynd at y dudalen honno drwy’r cyfeiriad:

http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm

Page 5: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

5

Fel rhan o'r dathliadau mae dau o lwybrau troed

newydd wedi cael eu hagor, - Pen-y-Gwryd a Thaith

Ardudwy. Mae nifer o deithiau tywys wedi digwydd

gan gynnwys teithiau cerdded ar gyfer y llai abl.

Fe wnaeth Denis McAteer, Cadeirydd Y Cerddwyr

yng Nghymru (Ramblers Wales) y sylw yn ystod

agoriad Taith Ardudwy Way - “Heblaw am y

mwynhad o gael cerdded rhan mor brydferth o

gefn gwlad bellach mae yna gyfoeth o dystiolaeth

ynghylch y buddion iechyd sy'n gysylltiedig a

cherdded. Gyda'r llwybr newydd hwn fe fydd

cynnydd yn y cyfleoedd i bawb fynd allan a chael

awyr iach. Hefyd, os gaiff ei hyrwyddo yn iawn, fe all

y llwybr hwn ddenu ymwelwyr newydd i'r ardal ac

yn sgil hynny dod a buddion uniongyrchol i'r

economi leol.”

Cododd beicwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol

Eryri £1,133 er lles 'Achub y Plant trwy gwblhau taith

feic 80 milltir o dde'r Parc Cenedlaethol i'r Gogledd.

Fe groesodd y tim o 17 ar draws y llinell i orffen y

daith yng Nghonwy ar ol iddynt deithio trwy galon

Eryri.

Daeth y rhaglen o ddigwyddiadau i'w bincal ar y 18

fed o Hydref, sef y dyddiad pan welwyd Eryri yn cael

ei ddynodi fel Parc Cenedlaethol yn ol ym 1951 yn

wreiddiol. Er mwyn nodi'r achlysur, cafodd un o

brosiectau diwylliannol y Parc “Rhyfeddodau Eryri”

ei gyhoeddi i'r cyhoedd yn Oriel Croesor, Croesor.

Mae'r prosiect sy'n rhedeg gydol y flwyddyn, yn

dathlu amrywiaeth o ryfeddodau o fewn y Parc

Cenedlaethol trwy gyfrwng dulliau dehongli

llenyddol a gweledol. Mae'r 60 rhyfeddod a

enwebwyd gan y cyhoedd yn arddangos

rhinweddau arbennig Eryri.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheini-

og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn og yn cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau €10miliwn

ar gyfer cymunedau gwledigar gyfer cymunedau gwledigar gyfer cymunedau gwledigar gyfer cymunedau gwledig

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

(APCBB) yn dathlu gyda'i ddeuddeg partner sydd

wedi eu lledaenu ar draws Ewrop, wedi iddynt

sicrhau dros €10miliwn er budd cymunedau gwl-

edig dros y bedair blynedd nesaf.       

Fe fydd y prosiect newydd – sydd wedi cael ei enwi

yn Gynghreiriau Gwledig – yn dechrau ddiwedd

Tachwedd, pan fydd y deuddeng partner a chyn-

rychiolwyr busnes yn dechrau mynychu cyfarfod, a

fydd yn cael ei lywyddu gan Awdurdod Parc Cen-

edlaethol Bannau Brycheiniog (APCBB) er mwyn

cynllunio eu patrwm gweithredu ar gyfer herio pa-

trymau gweithredu confensiynol tuag at ddatblygi-

ad gwledig. 

Chwaraeodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol rôl

arweiniol wrth ffurfio'r cais llwyddiannus am gyllid

cyd ariannu y Gronfa Datblygu Gwledig Ewrope-

aidd (ERDF) a gafodd y golau gwyrdd yn swyddog-

ol ar y 12fed o Hydref 2011 gan Raglen NWEIVB

Interreg yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y partneriaid yn cefnogi mentrau a chy-

munedau gwledig i weithio gyda'i gilydd mewn

cynghreiriau newydd er mwyn creu cyfleoedd

busnes newydd, a diogelu a gwella gwasanae-

thau gwledig a gwneud eu hardaloedd yn leoe-

odd arbennig i bobl ymweld â hwy, ac ail leoli

iddynt er mwyn magu eu teuluoedd. Bydd y pros-

iect yn parhau am bedair blynedd gyda chef-

nogaeth gan yr UE a chronfeydd partner lleol sydd

wedi eu hanelu at rwydweithio rhyngwladol, hyf-

forddiant, ymweliadau cyfnewid a'r budd o gyf-

newid arferon gorau rhwng rhanbarthau yr UE.

Page 6: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

6

Her i achub cen colledig yng Her i achub cen colledig yng Her i achub cen colledig yng Her i achub cen colledig yng

Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol

TycanolTycanolTycanolTycanol

Bydd cen sy'n rhyngwladol bwysig yn cael ei holli o

goedlan y Parc Cenedlaethol oni bai y gweithredir

i ailsefydlu'r amodau hynny lle maent yn ffynnu.

Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Tycanol yw un o

ddim ond chwe safle pori coedlannol yng

Nghymru sy'n rhynglwadol bwysig ar gyfer 400

rhywogaeth o gen sy'n tyfu yno.

Mae cen yn ffynnu dan amodau agored, golau,

ond yn Nhycanol y mae'r amodau hyn yn cael eu

colli yn gyflym fel mae'r canopi coed yn mynd yn

fwy a mwy dwys a thrwchus.

Meddai'r

Swyddog

Coedlannau,

Celia Thomas

: “Er fod

popeth yn

edrych yn

‘Dragwyddol

’- ac yn

heddychlon

iawn, mae'r

gorchudd mwsgol o dan y coed yn ennill y dydd

dros y cen, a'r cen yw'r peth a roddodd y

dynodiad i'r fangre hon fel Ardal o Ddiddordeb

Gwyddonol Arbennig (AoDdGA)), GNC

(Gwarchodfa Natur Cenedlaethol) ac Ardal

gadwraeth Arbennig (ACA). 

“Yn aml mae pobl yn dychryn pan fo coed yn cael

eu dymchwel, ond fe fyddwn yn gweithio yn galed

i gael y cydbwysedd rhwng cael gwared a rhai o'r

coed a chadw'r ymdeimlad o le yn Nhycanol.”

Rhodd i'r Parc gan Ymwelwyr EryriRhodd i'r Parc gan Ymwelwyr EryriRhodd i'r Parc gan Ymwelwyr EryriRhodd i'r Parc gan Ymwelwyr Eryri

Ar y 13eg o Hydref. Llywyddodd Parc

Cenedlaethol Eryri Gynhadledd Rhoddion

Ymwelwyr yng Ngahnolfan Astudio Plas Tan y

Bwlch, ym Maentwrog.

Gyda chymorth partneriaid o'r sectorau preifat,

cyhoeddus a gwirfoddol, ymchwiliodd y

gynhadledd i'r ffyrdd y gall busnesau, atyniadau

a chyrchfannau o fewn y Parc Cenedlaethol roi

gwerth ychwanegol i ymwelwyr trwy gyfrwng

cynlluniau arloesol, a fyddai'n cael eu hariannu

yn bennaf gan yr ymwelwyr eu hunain.

Mae'r dystiolaeth am gynlluniau tebyg mewn

rhannau eraill o Brydain ( ardal y Llynnoedd ) ac

Ewrop a Gogledd yr America yn dangos fod rhoi

rheswm i'r ymwelydd i fuddsoddi cyfran fechan

o arian yn ystod eu gwyliau, yn gallu bod o fudd

sylweddol i'r ardal.

Yn gyffredinol mae cynlluniau o'r fath yn cael eu

hadnabod fel ‘rhoddi ymwelwyr’ neu ‘ad-daliad

ymwelwyr’ ac maent wedi eu cynllunio yn

benodol er mwyn caniatau i rai sy'n ymweld ag

ardal i wneud cyfraniad uniongyrchol tuag at

gynlluniau cadwraeth neu dreftadaeth.

Wedi iddynt glywed am brofiadau o leoedd

eraill, cafodd y rhai a oedd yn mynychu'r

gynhadledd gyfle i drafod a dadlau dros y

potensial o gael cynlluniau o'r fath o fewn Eryri.

Dywedodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Parc

Cenedlaethol Eryri, “Mae'r gynhadledd hon yn

gyfle i ymchwilio i'r potensial o ddatblygu Rhoddi

Ymwelwyr o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd

y gynhadledd yn rhoi i'n sector dwristiaeth y

cefndir perthnasol i ystyried a fyddai hi'n bosib

sefydlu cynllun o'r fath er budd busnesau a

thwristiaid fel ei gilydd yn y Parc Cenedlaethol”.

Page 7: Lle I Enaid Gael Llonydd: Hydref 2011

7

Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a Cydbwysedd rhwng drain, rhedyn a

gloynnod bywgloynnod bywgloynnod bywgloynnod byw

Gall cadw llwybrau a Hawliau Tramwy yn glir ym

Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod yn fater

pigog – yn llythrennol, gyda chydbwysedd

anodd yn gorfod cael ei gadw rhwng gwarchod

cynefinoedd arbennig a chadw cerddwyr yn

ddiogel, yn enwedig yn y mannau arfordirol

hynny.

Meddai Pennaeth Hamddena a Thwristiaeth

Awdurdod y Parc, Charles Mathieson : “Mae ein

staff wedi cael eu hyfforddi i adnabod

rhywogaethau pwysig fel tegeirian y gors.”

“Rydym yn gwneud ein gorau glas i dorri ar yr

adegau hynny o'r flwyddyn fel ein bod yn gallu

gwneud y gorau o'r bioamrywiaeth o gwmpas y

llwybrau, ond mae'n wastad rhaid cydbwyso hyn

gyda'n dyletswydd gofal dros iechyd a

diogelwch y cyhoedd a chadw Hawliau Tramwy

yn agored ac ar gael i'w defnyddio.”

Mae torri gwair ar lethrau glaswelltog, fel y rhai ar

y Faes Tanio Castellmartin, hefyd angen cael ei

wneud trwy gyfrwng dull sensitif.

Meddai Swyddog Cadwraeth Fferm Awdurdod y

Parc. Geraint Jones : “Yn ddiweddar rydym wedi

cynnal ymarferiad torri gwair a gwneud beiliau

yng Nghastellmartin a hynny yn bwrpasol ar adeg

hwyrach er mwyn rhoi cyfle i'r planhigion

blodeuol i ymsefydlu eu hadau. Yr oedd yna sioe

fendigedig o'r planhigyn bengaled yn blodeuo,

sy'n bwysig dros ben i gacynnod cyn iddynt fynd

i aeafgysgu.

Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr Y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn yr

Ymgynghoriad Hawliau Tramwy  Ymgynghoriad Hawliau Tramwy  Ymgynghoriad Hawliau Tramwy  Ymgynghoriad Hawliau Tramwy  

 Mae'r cyfnod ymgynghorol ar gyfer yr holiaduron

mewn perthynas a'r Rhwydweithiau Hawliau

Tramwy wedi cael ei ymestyn hyd y 18fed o

Dachwedd, sy'n rhoi rhagor o amser i bobl gael

dweud eu dweud o ran beth yw eu barn am y

rhwydwaith gyfredol. 

 

Yn sgil y lefel o ddirddoeb a ddangoswyd gan y

cyhoedd, mae Awdurdodau Parciau Cenedlae-

thol y Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro

wedi penderfynu ymestyn y cyfnod ymgyngho-

rol sy'n gwahodd pobl i gymryd rhan yn yr holia-

dur sy'n berthnasol i Hawliau Tramwy Cyhoeddus

fel eu bod yn gallu adolygu ac asesu gwerth y

rhwydwaith yn ogystal â'i effeithiolrwydd  Bydd yr

adolygiad hwn a gynhelir ar y cyd yn gwella'r

gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y ddau Barc

Cenedlaethol ill dau o ran eu Cynlluniau Gwella

Hawliau Tramwy. 

Peintio'r Byd yn WyrddPeintio'r Byd yn WyrddPeintio'r Byd yn WyrddPeintio'r Byd yn Wyrdd

Rhwng 2009/10 a 2010/11 lleihaodd Awdurdodau'r Par-

ciau Cenedlaethol eu gollyngiadau carbon 10.25% ar

gyfartaledd, ymhell y tu hwnt i darged Llywodraeth Cymru

o 3% !