View
235
Download
5
Category
Preview:
DESCRIPTION
Digwyddiadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - Hydref 2013 - Mawrt 2014
Citation preview
1
DigwyddiadauHydref 2013 – Mawrth 2014
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
ArddangosfeyddHwyl i’r TeuluSgyrsiau a TheithiauCerddoriaeth
ww
w.am
gu
edd
facymru
.ac.uk 0300 111 2 333
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 1 14/08/2013 09:32
2 National Museum Cardiff www.museumwales.ac.uk 0300 111 2 3332 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Sad 28 Medi – Sul 5 IonawrUncommon Ground: Land Art in Britain 1966 – 1979 Dyma arddangosfa deithiol o Gasgliad Cyngor Celf Lloegr o waith rhai o artistiaid pwysicaf Prydain dros yr hanner canrif diwethaf gan gynnwys Tony Cragg, Antony Gormley, Susan Hiller, Richard Long a David Nash. Bydd yn archwilio’r ffyrdd y trodd artistiaid y 1960au eu cefnau ar ofod caeedig yr oriel gan gamu i’r awyr agored a chreu ffurf newydd o gelf. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Sad 19 Hydref – Sul 9 MawrthWallace: Gŵr Angof Esblygiad? Adeg ei farwolaeth ganrif yn ôl, cai Alfred Russel Wallace ei gyfri’n un o fawrion olaf Oes Fictoria. Roedd yn enwog am ddarganfod proses esblygiad drwy ddethol naturiol ar yr un adeg â Charles Darwin. Heddiw, fodd bynnag, prin yw’r bobl sy’n cofio am orchestion y cawr o Gymro. Bydd yr arddangosfa hon yn dathlu bywyd a gwaith Wallace, ac yn codi ymwybyddiaeth am y gwyddonydd hynod hwn.
Arddangosfeydd am ddim
Uchod: Anthony McCall, Landscape for Fire II (1972). Llun llonydd ffilm 16mm. Casgliad Cyngor Celfyddydau Lloegr, Canolfan Southbank © yr artist. Rhodd gan yr artist ac Oriel Sprüth Magers, Llundain
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Tan ddydd Sul 24 TachweddCyfansoddwr y Ffigwr a’r Gofod: Keith Vaughan. Darluniau, Printiau a Ffotograffau 1935-62Cipolwg gwreiddiol ar yr artist Prydeinig cymhleth Keith Vaughan (1912–1977). Daw’r gweithiau o gasgliad helaeth Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth o’i waith, ac archwilir y themâu oedd yn ei ddiddori fwyaf: y ffigwr gwrywaidd a gofod darluniadol.
Tan ddydd Sul 3 TachweddVisions of Mughal India: The Collection of Howard Hodgkin Mae’r artist Howard Hodgkin yn gasglwr brwd o baentiadau Indiaidd. Mae’r arddangosfa hon sy’n ddetholiad o’i gasgliad aruthrol yn cynnwys paentiadau hardd ac amrywiol o’r cyfnod Mughal (tua 1550-1850): darluniadau o arwrgerddi a chwedlau, portreadau brenhinol, golygfeydd o fywyd llys a grwp gwefreiddiol o bortreadau o eliffantod. Ar daith o Amgueddfa Ashmolean, Prifysgol Rhydychen.
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 2 14/08/2013 09:32
Sad 23 Tachwedd – Sul 16 Mawrth
Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood gan Dylan Thomas Darluniau Syr Peter Blake o Under Milk Wood. Dyma benllanw project 25 mlynedd gan yr artist gyda’r gwaith
yn cael ei arddangos am y tro cyntaf erioed. Mae’r arddangosfa’n cynnwys portreadau pensil o bob un o’r 60 cymeriad, lluniau dyfrlliw o’r golygfeydd breuddwydiol a phaentiadau a collages o olygfeydd a lleoliadau ym mhentref dychmygol Llareggub. Rhan o DT100, sef blwyddyn o ddathlu can mlynedd ers genedigaeth Dylan Thomas.
Peter Blake, Gossam
er Beynon’s Dream
, 2002 © Trw
y garedigrwydd Syr Peter Blake
33
O gelf i wyddoniaeth, ac o eitemau bob dydd i arteffactau prydferth, mae’r cyfan i’w gweld mewn un amgueddfa anhygoel.
Ar agorDydd Mawrth-dydd Sul a mwyafrif dyddiau Llun Gwyl y Banc, 10am-5pm.Ar gau 24-26 Rhagfyr 2013 ac 1 Ionawr 2014.
I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk
Amgueddfa Genedlaethol CaerdyddParc Cathays, Caerdydd CF10 3NPFfôn: (029) 2057 3000 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)
Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.
Dyl
un
io g
illad
vert
isin
g.c
om
Maw 29 Hydref – Sul 8 RhagfyrManet ar Daith Mae Amgueddfa Cymru yn falch o groesawu Portrait of Mademoiselle Claus (1868) gan Edouard Manet ar ei
facebook.com/museumcardiff
@Museum_Cardiff
daith o amgueddfeydd ac orielau’r DU. Prynwyd y gwaith yn ddiweddar gan Amgueddfa Ashmolean, Prifysgol Rhydychen.
Dde: Manyl-lun o Portrait of Mademoiselle Claus (1868) gan Edouard Manet © Amgueddfa Ashmolean, Prifysgol Rhydychen
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
MYNEDIAD AM D
DIM
MYN
EDIAD AM DDIM
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 3 14/08/2013 09:33
4 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Sad 7 Rhagfyr – Sul 11 MaiWyneb yn Wyneb: Ivor Roberts-Jones (1913-1996) a Hunaniaeth mewn Efydd Roberts-Jones oedd un o gerflunwyr portread gorau Prydain a chynhyrchodd gerfluniau efydd coffaol hynod. Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ei bortreadau efydd o Gymry enwog o amryw feysydd.
O Maw 10 RhagfyrDylan a’i Gyfeillion Portreadau o Dylan Thomas, ei deulu a’i ffrindiau i ddathlu can mlynedd ers ei enedigaeth.
O Sad 22 ChwefrorCymru: Ymweliad. Barddoniaeth, Rhamantiaeth a Myth Byd Celf Ym 1967, ymwelodd yr awdur Americanaidd Allen Ginsberg â Chymru. Wedi iddo gymryd y cyffur LSD aeth am dro i gefn gwlad. Y profiad hwn oedd sail ei gerdd Wales Visitation oedd yn tynnu ar orffennol Celtaidd ei ddychymyg, a thirwedd a llên gwerin Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ysbrydoliaeth o gerdd Ginsberg ac yn defnyddio gweithiau o gasgliad yr Amgueddfa i archwilio ffurfiau modern a chyfoes Rhamantiaeth, ac yn cynnwys gwaith gan David Jones, Richard Long, Graham Sutherland a Clare Woods. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
O Sad 22 ChwefrorAndrea Büttner Gosodwaith newydd gan Andrea Büttner yn cyfuno dau o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – darluniau Gwen John o’r casgliad Celf a mwsoglau o’r Llysieufa. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Sad 29 Mawrth – Sul 22 MehefinFfotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Dyma gystadleuaeth uchel ei bri sy’n arddangos y ffotograffau gorau o fyd natur. Yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a BBC Worldwide yw cydberchnogion yr arddangosfa.
Y Llyfrgell Mae’r Llyfrgell yn gartref i gasgliad nodedig o gyfrolau hynafiaethol ac o weisg preifat, gyda chyfoeth o lyfrau hanes natur cynnar a chofnodion o deithiau drwy Gymru yn enwedig. Mae arddangosfa Llyfr y Mis, yn y Brif Neuadd, yn gyfle i arddangos uchafbwyntiau ein casgliad i ymwelwyr.
Uchod: Clare Woods, Rhiw Rhwystrau, 2010 © yr artist a Stuart Shave / Modern Art
Arddangosfeydd
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 4 14/08/2013 09:33
Gweithgareddau i’r Teulu
Rhai Suliau, 1pm (manylion ar y wefan)Teithiau Gwyddoniaeth i Deuluoedd
Teithiau arbennig i grwpiau o deuluoedd er mwyn archwilio ein horielau gwyddoniaeth a dysgu mwy am esblygiad, bioamrywiaeth a’n lle ni yn y byd.
Sad 26 Hydref – Sul 3 Tachwedd, 11am – 4pm(ar gau Llun 28 Hydref)Lliwiau Rhybudd Wallace
Dysgwch am liwiau rhybudd byd natur a chreu eich mwgwd anifail lliwgar eich hun. Gweithdy galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
Sad 26 Hydref – Gwe 1 Tachwedd (ar gau Llun 28 Hydref) 11am, 1pm a 3pmWelwch chi Wallace?
Dewch i ddysgu mwy am y fforiwr a naturiaethwr o Oes Fictoria, Alfred Russel Wallace, yn ein gweithdy i deuluoedd.
Maw 29 Hydref– Gwe 1 Tachwedd 11.30am, 1.30pm a 3.30pmCreu Argraff gyda Natur
Dewch i dynnu lluniau gyda deunyddiau anarferol gan ddwyn ysbrydoliaeth o fyd natur a’n harddangosfa ar gelf y tir. Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Maw 29 Hydref11am – 4pmDiwrnod Agored Archaeoleg
Dewch i fwynhau diwrnod o archwilio, cyfarfod â’r curaduron a gweithgareddau ymarferol i’r teulu cyfan.
Merch 30 Hydref 11am – 4pmDiwrnod Agored Hanes Natur: Calan Gaeaf
Dewch i gyfarfod â’r curaduron hanes natur ac ymweld â’u stondinau yn y Brif Neuadd. Bydd llwybr i’r rheini sy’n ddigon dewr a thaith tu ôl i’r llenni (nifer benodol o lefydd).
Gwe 1 Tachwedd, 10am – 12.30pm, 2.30pm – 4.30pmMademoiselle Fanny Claus – Gweithgareddau i Deuluoedd
Dewch i ddysgu mwy am y paentiad hwn gan Edouard Manet trwy wisgo i fyny a rhoi tro ar weithgareddau celf yn yr oriel. Mae’r paentiad ar daith o Amgueddfa Ashmolean, Prifysgol Rhydychen.
Penwythnosau, yn ystod tymor ysgol, 2pmArchwilwyr Amgueddfa
Gweithdai i ddarganfod mwy am gasgliadau’r Amgueddfa a chreu rhywbeth arbennig i fynd adre gyda chi (themâu amrywiol).
Archebwch wrth gyrraedd Sgwrs Ymarferol Taith
Problemau posibl â symudedd, ffoniwch am gyngor. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol 5
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 5 14/08/2013 09:33
Sad 2 – Sul 3 Tachwedd 11am, 1pm a 3pmGofynnwch i Wallace
Ymunwch â chwmni Theatr Na Nóg am berfformiadau yn seiliedig ar fywyd y fforiwr ac anturiaethwr eofn, Alfred Russel Wallace.
Sad 16 Tachwedd11am – 4pmDiwali Mela Diwrnod llawn hwyl o gerddoriaeth a dawnsio Bollywood a Bhangra, gweithdai rangoli, sioeau ffasiwn, celf a chrefft Asiaidd, digwyddiadau i’r teulu a llawer mwy. Ar y cyd â Chymdeithas Hindw Cymru a Chanolfan India Caerdydd.
Sad 16 – Sul 17 Tachwedd 11am, 1pm a 3pmTyfu Bylbiau Bach!
Dewch i ddysgu am dyfu bylbiau bach a phlannu bwlb bach i fynd adre gyda chi!
Sad 7 – Sul 8 Rhagfyr 11am, 1pm a 3pmWelwch chi Wallace?
Gweler 26 Hydref.
Sad 14 Rhagfyr11am – 4pmHwyl yr Ŵyl i DeuluoeddYmunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu, cerddoriaeth, straeon a gweithdai, ac ymweliad gan Siôn Corn am 3pm!
Sad 21 Rhagfyr – Sul 5 Ionawr, 11am – 4pm(ar gau 24 – 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr)Helfa Anifeiliaid y Gaeaf
Dilynwch y llwybr o amgylch yr Amgueddfa a datrys y cliwiau! Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
Ionawr 2014, dyddiad i’w gadarnhauAnelu am y Sêr yn yr Amgueddfa!
Diwrnod o hwyl i’r teulu ar thema’r gofod! Manylion ar y wefan.
Sad 25 Ionawr 11am, 1pm a 3pmBig Garden Birdwatch
Dewch i ddysgu pa adar allech chi eu gweld yn eich gardd dros y gaeaf a chreu bwydydd adar i’w hannog i ymweld â chi.
Gweithgareddau i’r Teulu
Sad 21 Rhagfyr – Sul 5 Ionawr, 11am – 4pm(ar gau 24 – 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr)Nadolig Plentyn yng Nghymru Gan ddwyn ysbrydoliaeth o waith Dylan Thomas, dewch i greu cist drysor ar gyfer eich anrhegion Nadolig. Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
6 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 6 14/08/2013 09:33
7
Sad 22 – Gwe 28 Chwefror 11am – 4pm (ar gau Llun 24 Chwefror)Rwy’n Hoffi Archaeoleg Helpwch ni i ddathlu archaeoleg Cymru trwy greu gwaith celf. Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
Sad 22-Gwe 28 Chwefror(ar gau Llun 24 Chwefror)11am, 1pm a 3pmWelwch chi Wallace?
Gweler 26 Hydref.
Maw 25 – Gwe 28 Chwefror11.30am, 1.30pm a 3.30pmGweithdy Darlunio
Creu darluniau wedi’u hysbrydoli gan waith Peter Blake. Nifer benodol o lefydd.
Sad 1 Mawrth11am, 1pm a 3pmEin Prifddinas: Dathliad Dydd Gŵyl Dewi
Creu darn creadigol o waith celf sy’n dangos y gorau o Gaerdydd.
Sad 8 – Sul 9 Mawrth11am, 1pm a 3pm Plannu, Tyfu, Bwyta
Cyngor a phlanhigion ifanc i’ch helpu i dyfu eich llysiau eich hun dros yr haf.
Sul 16 Mawrth11am – 4pmYmarfer yr Ymennydd
Gweithgareddau rhyngweithiol llawn hwyl sy’n rhoi cyfle i blant ysgol gynradd gasglu pwyntiau a dysgu beth mae’r ymennydd yn ei wneud.
Archebwch wrth gyrraedd Sgwrs Ymarferol Cerddoriaeth
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Sad 1 Chwefror11am, 1pm a 3pmGweithdy Deinosoriaid Swnllyd
Dewch i ddysgu mwy am ddeinosoriaid a’u synau diddorol ac archwilio ffosilau o’n casgliadau. Yna, cewch gymryd rhan mewn darlleniad swnllyd o stori gan un o weithwyr yr Amgueddfa am ddeinosor arbennig iawn o’r enw Arwyn. Rhan o Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori.
Peter Blake, Captain Cat © Trwy garedigrwydd Syr Peter Blake
Sad 1 Mawrth, 11am – 4pmHwyl i’r Teulu Dydd Gŵyl Dewi
Dathlu’r Cymro enwog, y bardd Dylan Thomas, trwy gân, barddoniaeth, straeon a gweithdai creadigol. Manylion ar y wefan.
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 7 14/08/2013 09:33
8 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Merch 9 Hydref, 6pmDarlith Arbennig Gyda’r Hwyr: Sgwrs gyda Howard Hodgkin
Maw 1 a Maw 8 Hydref, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Dewch tu ôl i’r llenni i weld y casgliadau hanes natur. Cewch gwrdd â’ngwyddonwyr, dysgu mwy am eu gwaith ymchwil a gweld sut maent yn gofalu am y gwrthrychau dan eu gofal.
Gwe 4 Hydref, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cerameg Cyfoes: cyfl wyniad i rai o’n caffaeliadau diweddar gan Rachel Conroy, Curadur Celf Gymhwysol.
Gwe 4 Hydref, 2pm – 4pmGwasanaeth Barn ar Gelf
Dewch â llun neu ddarn o gelf i gael barn staff yr Adran Gelf. Dim gwasanaeth prisio.
Merch 9 a Merch 23 Hydref 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Bob dydd am 12.30pm am 30 – 40 munudTaith Dywys: Uchafbwyntiau Celf
Taith am ddim o uchafbwyntiau’r orielau gyda thywysydd gwirfoddol.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Uchod: Sultan Muhammad Adil Shah and Ikhlas Khan riding an elephant, c1645 © Casgliad Howard Hodgkin
Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 8 14/08/2013 09:33
9 Archebwch wrth gyrraedd Archebwch ar-lein Oedolion Sgwrs Taith Cerddoriaeth
Problemau posibl â symudedd, ffoniwch am gyngor. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Sul 13 Hydref, 11.30am Cyngerdd Coffi Caerdydd
Ensemble CymruTocynnau: oedolion £8.90*/gostyngiadau £6.70*o Swyddfa Docynnau New Theatre (029) 2087 8889 neu www.amgueddfacymru.ac.uk/siop. Ar y drws: £10. Mae tocynnau i bawb rhwng 8 a 25 oed am ddim diolch i haelioni Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Siambr CAVATINA (heblaw am berfformiadau unigol). (*Gan gynnwys costau trafod).
Sul 13 Hydref, 1pmCyngerdd Amser Cinio
Perfformiad gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn yr orielau.
Maw 15 Hydref, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Celf
Ymunwch â’r cadwraethydd Emily O’Reilly ar ymweliad â’r Stiwdio Cadwraeth Papur.
Gwe 18 Hydref, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Techneg Paentio ag Olew David Cox gan Rebecca Ellison, Cadwraethydd Paentiadau Olew.
Merch 9 Hydref, 6pmDarlith Arbennig Gyda’r Hwyr
Sgwrs gyda Howard Hodgkin. Dyma gyfle prin i wrando ar yr artist a’r casglwr, Howard Hodgkin, yn trafod ei gasgliad aruthrol o baentiadau Indiaidd Mughal. Gyda chyflwyniad gan Rana Mitter, cyflwynydd rhaglen Nightwaves, BBC Radio 3, ac Athro Hanes a Gwleidyddiaeth Tsieina Fodern, Prifysgol Rhydychen. Tocynnau: oedolion £5/gostyngiadau £4 o www.amgueddfacymru.ac.uk/siop.
Maharaja Dhiraj Singh of Raghugarh riding,Raghugarh, Central India, c.1700 © Casgliad Howard Hodgkin
Maw 22 Hydref, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Archaeoleg
Gwaith diweddaraf y Labordy Cadwraeth.
Gwe 25 Hydref, 1pmDatganiad ar yr Organ
Datganiad ar organ Williams Wynn Wynnstay o’r 18fed ganrif. Trefnir gan Cardiff Organ Events. Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Sad 26 Hydref 10.30am – 3.45pmCymru Anhysbys: Dathlu Bywyd Gwyllt Cymru
Cynhadledd undydd i ddathlu darganfyddiadau newydd ym maes bywyd gwyllt Cymru. I archebu, ffoniwch 01656 724100 neu e-bostio info@welshwildlife.org.
Gwe 11 Hydref, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
‘A porcelain equal in every respect to the French’: Porslen Cymreig 1813-1826 gan Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymhwysol.
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 9 14/08/2013 09:33
10 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwyMaw 29 Hydref, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: y Llyfrgell
Cyfle i weld llyfrau â darluniau o gasgliadau arbennig y Llyfrgell o lyfrau gweisg preifat.
Iau 31 Hydref, 1.05pmTaith Iaith
Taith arbennig i ddysgwyr o oriel Gwreiddiau.
Gwe 1 Tachwedd, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cyflwyniad i Portrait of Mademoiselle Claus gan Edouard Manet, ar daith o Amgueddfa Ashmolean, Prifysgol Rhydychen.
Gwe 1 Tachwedd 2pm – 4pmGwasanaeth Barn ar Gelf
Gweler 4 Hydref.
Maw 5 a Maw 12 Tachwedd, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Gweler 1 Hydref.
Merch 6 a Merch 20 Tachwedd, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Gwe 8 a Gwe 15 Tachwedd,1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Uncommon Ground: Land
Art in Britain 1966-1979. Manylion ar y wefan.
Sul 10 Tachwedd, 1pmCyngerdd Amser Cinio
Gweler 13 Hydref.
Maw 19 Tachwedd, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Celf
Stiwdio Cadwraeth Paentiadau.
Sul 24 Tachwedd, 11.30am Cyngerdd Coffi Caerdydd
Pedwarawd Castalian. Gweler 13 Hydref am fanylion tocynnau.
Maw 26 Tachwedd, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Archaeoleg
Ystafell Astudio Arteffactau: Y Cyfnod Mesolithig Cynnar yn Burry Holms, Gwyr.
Merch 27 Tachwedd, 1.05pmWallace dros Ginio
Gweler 30 Hydref.
Merch 30 Hydref, 1.05pmWallace dros Ginio
Cyfres o sgyrsiau amser cinio am fywyd a gwaith Alfred Russel Wallace. Manylion ar y wefan.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 10 14/08/2013 09:34
11
Iau 28 Tachwedd, 1.05pmTaith Iaith
Taith o arddangosfa Uncommon Ground i ddysgwyr.
Gwe 29 Tachwedd, 1pmDatganiad ar yr Organ
Gweler 25 Hydref.
Maw 3 a Maw 10 Rhagfyr1.05pm Tu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Gweler 1 Hydref.
Gwe 6 Rhagfyr, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cyflwyniad i Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood gan Dylan Thomas, Beth McIntyre, Curadur yr Arddangosfa.
Gwe 6 Rhagfyr, 2pm-4pmGwasanaeth Barn ar Gelf
Gweler 4 Hydref.
Sul 8 Rhagfyr, 1pmCyngerdd Amser Cinio
Gweler 13 Hydref.
Merch 11 Rhagfyr, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Gwe 13 Rhagfyr, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Jeff Towns, gwerthwr llyfrau hynafol ac arbenigwr ar Dylan Thomas yn trafod Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood gan Dylan Thomas.
Sul 15 Rhagfyr, 11.30amCyngerdd Coffi Caerdydd
Pedwarawd Llinynnol Mavron. Gweler 13 Hydref am fanylion tocynnau.
Iau 19 Rhagfyr, 2pmCarolau yn yr Amgueddfa
Ymunwch â ni i ganu carolau. Bydd mins peis a gwin y gaeaf.
Maw 7 a Maw 14 Ionawr, 1.05pm Tu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Gweler 1 Hydref.
Archebwch wrth gyrraedd Archebwch ar-lein Oedolion Sgwrs Taith Cerddoriaeth
Problemau posibl â symudedd, ffoniwch am gyngor. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Merch 4 Rhagfyr, 6pmDarlith Arbennig Gyda’r Hwyr: Celf
Sgwrs gyda Peter Blake. Ymunwch â’r artist celf bop enwog, Syr Peter Blake, i drafod ei ddarluniau o Under Milk Wood. Gyda chyflwyniad gan Mel Gooding, awdur, beirniad celf a churadur arddangosfa. Tocynnau oedolion £5/gostyngiadau £4 o www.amgueddfacymru.ac.uk/siop.
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 11 14/08/2013 09:34
12 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Merch 8 a Merch 22 Ionawr, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Gwe 17 Ionawr, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cyflwyniad i Wyneb yn Wyneb: Ivor Roberts-Jones (1913-1996) a Hunaniaeth mewn Efydd gan Oliver Fairclough.
Sul 19 Ionawr, 11.30amCyngerdd Coffi Caerdydd
Emma Kirkby (soprano) a Howard Williams (fortepiano). Gweler 13 Hydref am fanylion tocynnau.
Maw 21 Ionawr, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Celf
Portreadau Miniatur. Golwg fanylach ar gasgliad arbennig yr Amgueddfa o bortreadau miniatur.
Gwe 24 Ionawr, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Dod wyneb yn wyneb: Ivor Roberts-Jones a Cherfluniau Cyhoeddus, gan Jonathan Black, Uwch Gymrawd Ymchwil Hanes Celf, Prifysgol Kingston ac awdur Abstraction and Reality: The Sculpture of Ivor Roberts-Jones.
Sul 26 Ionawr, 1pmCyngerdd Amser Cinio
Gweler 13 Hydref.
Maw 28 Ionawr, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Archaeoleg
Gwaith diweddaraf y Labordy Cadwraeth.
Merch 29 Ionawr, 1.05pmWallace dros Ginio
Gweler 30 Hydref.
Iau 30 Ionawr, 1.05pmTaith Iaith
Addasiadau Anhygoel: sgwrs yn Gymraeg sy’n archwilio addasiadau anhygoel anifeiliaid a phlanhigion er mwyn goroesi.
Gwe 31 Ionawr, 1pmDatganiad ar yr Organ
Gweler 25 Hydref.
Maw 4 a Maw 11 Chwefror, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Gweler 1 Hydref.
Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwyAmgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ivor Roberts-Jones, Kyffin W
illiams
© Y
stâd Ivor Roberts-Jones
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 12 14/08/2013 09:34
13
Merch 5 Chwefror, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Gwe 7 Chwefror 2pm – 4pmGwasanaeth Barn ar Gelf
Gweler 4 Hydref.
Gwe 14 a Gwe 21 Chwefror, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Manylion ar y wefan.
Sul 16 Chwefror, 11.30am Cyngerdd Coffi Caerdydd
Triawd Piano Erato. Gweler 13 Hydref am fanylion tocynnau.
Sul 16 Chwefror, 1pmCyngerdd Amser Cinio
Gweler 13 Hydref am fanylion.
Maw 18 Chwefror, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Celf
Ymunwch â’r curadur Rachel Conroy am sesiwn trin a thrafod yn canolbwyntio ar gasgliad rhyngwladol-bwysig yr Amgueddfa o gerameg Cymreig hanesyddol.
Merch 19 Chwefror, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Maw 25 Chwefror, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Archaeoleg
Ystafell Astudio Arteffactau: Teils llawr Canoloesol.
Merch 26 Chwefror, 1.05pmWallace dros Ginio
Gweler 30 Hydref am fanylion.
Iau 27 Chwefror, 1.05pmTaith Iaith
Taith dywys yn Gymraeg o Ganolfan Ddarganfod Clore.
Gwe 28 Chwefror, 1pmDatganiad ar yr Organ
Gweler 25 Hydref.
Maw 4 Mawrth, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Gweler 1 Hydref.
Merch 5 a Merch 19 Mawrth, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Gwe 7 Mawrth, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cymru: Ymweliad – cyflwyniad i’r arddangosfa gan Nicholas Thornton.
Archebwch wrth gyrraedd Archebwch ar-lein Sgwrs Taith Cerddoriaeth
Problemau posibl â symudedd, ffoniwch am gyngor. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Gwe 7 Chwefror, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Modelu yn erbyn Cerfio: Cerflunwaith Modern o Rodin i Hepworth. Sgwrs gan Bennaeth Celf Fodern a Chyfoes, Nicholas Thornton, am rai o’r cerfluniau yn yr orielau.
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 13 14/08/2013 09:34
14 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333
Gwe 7 Mawrth, 2pm – 4pmGwasanaeth Barn ar Gelf
Gweler 4 Hydref.
Sul 9 Mawrth, 11.30am Cyngerdd Coffi Caerdydd
Sara Trickey (ffidil) a Daniel Tong (piano). Gweler 13 Hydref am fanylion tocynnau.
Maw 11 Mawrth, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: y Gwyddorau Naturiol
Gweler 1 Hydref.
Gwe 14 Mawrth, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cymru: Ymweliad. Melissa Munro yn edrych ar waith Neo-ramantaidd John Piper, Ceri Richards a David Jones o Gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams.
Sul 16 Mawrth, 1pmCyngerdd Amser Cinio
Gweler 13 Hydref.
Maw 18 Mawrth, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Celf
Y curadur Anne Pritchard yn trafod ymchwilio i baentiadau hanesyddol.
Gwe 21 Mawrth, 1.05pmSgwrs Amser Cinio: Celf
Cymru: Ymweliad. Manylion ar y wefan.
Maw 25 Mawrth, 1.05pmTu ôl i’r Llenni: Archaeoleg
Storfa Gweddillion Dynol: Claddedigaethau’r Oes Efydd
Merch 26 Mawrth, 1.05pmWallace dros Ginio
Gweler 30 Hydref.
Iau 27 Mawrth, 1.05pmTaith Iaith
Taith i ddysgwyr am ystlumod ac anifeiliaid coedwigoedd Cymru.
Gwe 28 Mawrth, 1pmDatganiad ar yr Organ
Gweler 25 Hydref.
Digwyddiadau sydd ar y gorwel...Bydd ein tymor o Gyngherddau Coffi yn parhau ar ddydd Sul 6 Ebrill a Sul 18 Mai 2014. Mae’r tocynnau ar gael nawr o Swyddfa Docynnau New Theatre neu www.amgueddfacymru.ac.uk/siop. Bydd cyngherddau am ddim yn yr orielau hefyd ar ddydd Sul 18 Mai a Sul 22 Mehefin.
EbrillLansiad y Pabi Coch Ym mis Ebrill, byddwn yn cychwyn ein rhaglen o ddigwyddiadau i goffáu can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Mawr. Ymunwch â ni ar gyfer y lansiad lle byddwn yn eich gwahodd i hau hadau pabi coch a chofio am y rhai fu farw drosom yn y rhyfel hwn ac eraill dros y blynyddoedd. Byddwn yn cynnal gweithgareddau ym mhob un o’n hamgueddfeydd dros y blynyddoedd nesaf.
Archebwch wrth gyrraedd Archebwch ar-lein Sgwrs Taith Cerddoriaeth
Problemau posibl â symudedd, ffoniwch am gyngor. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwyAmgueddfa Genedlaethol Caerdydd
1092_What's_on_Cardiff_A5_Wel_P5.indd 14 14/08/2013 09:34
Recommended