24
Llogi Cyfleusterau Venue Hire

Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

Llogi Cyfleusterau Venue Hire

Page 2: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at
Page 3: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

Bwyta mewn neuadd neo-glasurol gain, priodi mewn plasty o oes Elizabeth, neu gael cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at bob achlysur gan gynnwys achlysuron corfforaethol, cynadleddau, gwleddoedd, croeso ac adloniant o bob math.

Bydd ein Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol arbennig a’r tîm arlwyo ar y safle’n eich helpu chi i gynllunio a threfnu eich digwyddiad o’r ymholiad cyntaf i’r diwrnod mawr, gan adael i chi ymlacio gan wybod y caiff eich digwyddiad ei drefnu’n fanwl ac â steil.

CyflwyniadIntroduction

1

Dine in an elegant neo-classical hall, get married in an Elizabethan manor, or arrange a business meeting in an award winning hi-tech waterfront museum; National Museum Wales can offer unique venues to suit all occasions including corporate gatherings, conferences, gala dinners, hospitality and entertainment of all kinds.

Our dedicated Corporate Events Officer and on-site catering team will help you plan and organise your event from the first enquiry to the day itself, allowing you to relax in the knowledge that your event will be managed with style and precision.

National Museum Wales work in partnership with our specialist caterers to offer hospitality and service of exceptional quality. They are committed to providing food of a consistently high standard, prepared on site using the finest local Welsh ingredients.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â’n harlwywyr arbenigol i roi croeso a gwasanaeth o ansawdd eithriadol. Maent wedi ymrwymo i ddarparu bwyd o safon gyson uchel, wedi ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau.

www.museumwales.ac.ukwww.amgueddfacymru.ac.uk

Page 4: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

�2

Page 5: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

Amgueddfa Genedlaethol CaerdyddNational Museum CardiffAmgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw un o amgueddfeydd gorau Ewrop, ac mae’r adeilad, sydd mewn lleoliad blaenllaw wrth galon y brifddinas, ymhlith tirnodau mwyaf adnabyddus Cymru.

Mae ein casgliadau rhyngwladol yn creu cefndir unigryw i gynnal pob math o achlysuron, gan gynnwys derbyniadau gyda’r nos a gwleddoedd sy’n rhoi cyfle preifat i weld ein harddangosfeydd cyfoes.

3

Grand HallThis classical marbled hall has been the venue for prestigious and high profile conference dinners, banquets and receptions for up to 300 guests. It may be coupled with hire of the art galleries to offer guests an exclusive private view of works of art over pre-dinner drinks.

National Museum Cardiff is one of Europe’s finest Museums and the building is one of Wales’s most famous landmarks, boasting a prestigious location in the centre of the capital.

Our international collections provide a unique setting for a variety of entertaining, including evening receptions and dinners with a private view of current exhibitions.

Y Neuadd FawrMae’r neuadd farmor glasurol hon wedi cynnal nifer o wleddoedd cynhadledd, swperau a derbyniadau blaenllaw ac amlwg ar gyfer hyd at 300 o westeion. I gyd-fynd â hyn, gallwch logi’r orielau celf er mwyn rhoi cyfle arbennig i’ch gwesteion weld yr arddangosfeydd yn breifat cyn bwyta.

Galleries The Museum boasts internationally significant collections and special exhibitions of art, natural history and the sciences. These provide magnificent settings and can be hired independently of the Grand Hall.

Orielau Mae gan yr Amgueddfa gasgliadau o bwys rhyngwladol ac arddangosfeydd arbennig ym maes celf, hanes natur a’r gwyddorau. Mae’r rhain yn lefydd mawreddog a gellir eu llogi ar wahân i’r Neuadd Fawr.

Page 6: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

Reardon Smith TheatreBuilt in 1932 the theatre remains a favourite for eminent guest speakers, performers and conferences from around the world. The theatre can hold an audience of 340 and has dedicated spaces for disabled guests.

Icons SuiteThis suite of three meeting rooms can be hired individually or collectively as a flexible meeting space for 10 – 100 people. Tailor made arrangements offer the opportunity to combine your event with a visit to the National Museum’s galleries.

For further information contact: Neil Harrison Tel: (029) 2057 3387 | Fax: (029) 2057 3326 E-mail: [email protected]

Ystafelloedd Icons Gellir llogi’r tair ystafell gyfarfod hyn gyda’i gilydd neu ar wahân fel lle hyblyg i gynnal cyfarfodydd i 10 – 100 o bobl. Cewch wneud trefniadau arbennig i gyfuno’ch digwyddiad ag ymweliad ag orielau’r Amgueddfa Genedlaethol.

Darlithfa Reardon SmithAdeiladwyd y ddarlithfa ym 1932, ac mae’n dal i fod yn ffefryn i siaradwyr gwadd, perfformwyr a chynadleddau o bedwar ban y byd. Mae’r theatr yn gallu dal cynulleidfa o 340 ac mae mannau arbennig i westeion anabl.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Neil Harrison Ffôn: (029) 2057 3387 | Ffacs: (029) 2057 3326 E-bost: [email protected]

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | National Museum Cardiff

The Court RoomSituated on the balcony of the Museum’s majestic dome above the Grand Hall, this oak-panelled room is ideal for intimate private dinners, board meetings and launch events.

Ystafell y LlysAr y balconi yng nghromen urddasol yr Amgueddfa uwchben y Neuadd Fawr, mae’r ystafell hon llawn paneli derw’n ddelfrydol i gynnal swperau preifat, cyfarfodydd bwrdd ac achlysuron lansio.

Page 7: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

5

Page 8: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

6

Page 9: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

7

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruSt Fagans: National History Museum Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw atyniad twristiaid mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’r amgueddfa awyr agored ar gyrion Caerdydd yn nhiroedd a gerddi prydferth Castell Sain Ffagan.

Castell Sain Ffagan Mae Castell Sain Ffagan yn enghraifft wych o bensaernïaeth oes Elizabeth, ac addurnwyd yr ystafelloedd i adlewyrchu bywydau’r teulu oedd yn byw yno ddiwedd y 19eg ganrif.

Dyma leoliad perffaith i gynnig priodas fach i hyd at 40 o westeion. Mae’r castell yn llawn tapestrïau goludog, celfi rhosbren a choed derw hyfryd a phortreadau hardd.

St Fagans: National History Museum is Wales’s most visited tourist attraction. This open-air Museum on the outskirts of Cardiff is set in the beautiful grounds and gardens of St Fagan’s Castle.

St Fagan’s Castle St Fagan’s Castle is a fabulous example of Elizabethan architecture with interiors furnished to reflect the lives of the family in residence at the end of the 19th century.

A perfect setting for an intimate wedding of up to 40 guests, the castle boasts rich tapestries, opulent rose-wood and oak furniture, and wonderful portraits.

Sefydliad Gweithwyr OakdaleSymudwyd y Sefydliad Gweithwyr hwn garreg wrth garreg o gymuned glos Oakdale, ger Caerffili. Dyma le gwych i gynnal sesiynau corfforaethol i ffwrdd o’r swyddfa, priodasau a derbyniadau. Mae’r adeilad yn rhoi naws o ysblander oes Victoria gyda’r addurniadau a’r celfi gwreiddiol yn cyd-fynd yn braf â chyfleusterau corfforaethol modern.

Gall y Neuadd Gyngherddau ddarparu’n rhwydd ar gyfer hyd at 70 o bobl, mae’r llawr yn wych i ddawnsio, ac mae’r llwyfan gwreiddiol yn berffaith i gynnal adloniant.

The Oakdale Workmen’s InstituteMoved brick by brick from the close community of Oakdale, Caerphilly, the Workmen’s Institute is a fantastic building for corporate away days, weddings and receptions. The building evokes a sense of late Victorian splendour with original fittings and furniture sitting side by side with modern corporate facilities.

The Concert Hall can comfortably seat up to 70 people, has a wonderful sprung floor for dancing and an original stage for any entertainment.

Page 10: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

10

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

Y GerddiMae gerddi ffurfiol Sain Ffagan yn adlewyrchu’r mathau o erddi a gododd o gwmpas plastai mawr y bonedd. Mae gan yr Ardd Eidalaidd breifat orenwydd cain, rhosynnau prin a phwll tawel. Mae’r Ardd Rosod Edwardaidd yn cynnig rhamant hudol gardd gudd â llynnoedd pysgod canoloesol, parterre ffurfiol hyfryd a choedfa wedi ei thirlunio.

Mae’r gerddi’n berffaith i gynnal brecwast priodas ac yn destun sgwrs sydd heb ei ail ar gyfer unrhyw gynulliad neu letygarwch corfforaethol.

The GardensThe formal gardens at St Fagans reflect the types of gardens that developed around the great houses of the gentry. The walled Italian Garden has delicate orange trees, rare roses and a tranquil pool. The Edwardian Rosery offers the intoxicating romance of a secret garden with medieval fish ponds, a splendid formal parterre and a landscaped arboretum.

These gardens are perfect for wedding parties and receptions and are an unequalled talking point for any corporate gathering or hospitality.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru | St Fagans: National History Museum

For further information please contact: St Fagans: National History Museum | Tel: (029) 2057 3500 E-mail: [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru | Ffôn: (029) 2057 3500 E-bost: [email protected]

Page 11: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

9

Page 12: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

12

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

Page 13: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

13

National Museum Cardiff

“We cannot thank you enough for your efforts at our wedding, the whole evening was such a success with everyone enjoying themselves” Anthony & Louise Baker

“I will be recommending the museum as the venue, the catering and the staff were all brilliant and knowing that there is such excellent quality of service makes my job a lot easier” National Health Service Wales

Page 14: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

1�12

Page 15: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

13

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n adeilad tirnod arbennig â golygfeydd gwych dros Farina Abertawe. Mae pensaernïaeth llechi a gwydr yn cyd-fynd yn braf â’r hen stordai ar lan y doc.

Cewch logi’r adeilad blaenllaw hwn am ddigwyddiadau preifat a chorfforaethol, gyda llefydd hyblyg ar gyfer rhwng 10 a 1,000 o bobl. Mae ei lleoliad yn yr Ardal Forwrol, dafliad carreg o ganol dinas Abertawe, yn hawdd ei gyrraedd o’r M4 ac yn gyfleus i bobl sy’n teithio ar y trên.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau National Waterfront Museum

The National Waterfront Museum is a landmark building with fantastic views over Swansea’s Marina. Slate and glass architecture combine elegantly with the historic quayside warehouses.

This prestigious building can be hired for private and corporate events with flexible spaces for 10 to 1000 people. Its location in Swansea’s Maritime Quarter, just yards from the heart of the city, enjoys easy access from the M4 and is well served by regular train services.

BalconïauMae balconi godidog y Marina sy’n edrych dros yr Ardal Forwrol yn ddelfrydol i groesawu gwesteion. Mae balconïau’r Ddinas a’r Cwrt yn cynnig golygfeydd dros dreflun y ddinas, a gardd gudd yr Amgueddfa.

BalconiesOur magnificent Marina balcony overlooking the Maritime Quarter is ideal for meeting and greeting guests. The City and Courtyard Balconies offer views of Swansea city’s landscape and the Museum’s hidden garden.

Oriel yr Hen StordyMae’r hen stordy ysblennydd sy’n edrych allan dros y Marina yn lleoliad gwych beth bynnag yw’r achlysur. Mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn ein galluogi ni i symud y cesys arddangos - gan agor y llawr am wledd fawr, seremoni wobrwyo neu fwffe bys a bawd anffurfiol i hyd at 180 o bobl. Mae cyfleusterau TG ac awdio-weledol hynod, a goleuadau y gellir eu haddasu i greu’r naws priodol.

Warehouse GalleryThis magnificent former warehouse with views over the Marina will prove to be a spectacular venue whatever the event. 21st century innovation allows the Museum’s exhibit cases to be moved – opening up the floor area for either a grand sit down meal, awards ceremony, or informal buffet for up to 180 people. We have full IT and AV capacity, and adjustable lighting to create the right ambiance.

Page 16: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

OrielauBeth am groesawu eich gwesteion ymysg ein harddangosion difyr, y lle delfrydol i rwydweithio. Mae’r arddangosion rhyngweithiol yn cynnig symbyliad, her a hwyl. O gyfuno’r profiad â derbyniad yn un o’n hystafelloedd unigryw, mae’ch digwyddiad yn siwr o lwyddo.

GalleriesMeet and greet your guests among our fascinating exhibits, the ideal surroundings for networking. The interactive exhibits offer something to stimulate, challenge and enjoy. Combine the experience with a reception in one of our unique rooms and you will be onto a winner.

Ystafelloedd CyfarfodAm leoliad mwy cynefin, cewch gynnal digwyddiad o’ch dewis yn un o’n hystafelloedd cyfarfod. Dewiswch o ystafell ar lan y Doc â golygfeydd gwych dros y Marina, ystafell y Ddinas neu ystafell Wydr sy’n edrych dros y Stryd.

Meeting RoomsFor a more intimate setting you can host an event of your choice in one of our meeting rooms. The Dockside meeting room has stunning views over the marina and the other looks over the courtyard garden. Both are light and airy.

1�

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | National Waterfront Museum

Y StrydDyma lle daw’r ddinas a’r glannau’n un. Yr ardal yma dan ganopi gwydr trawiadol yw calon yr Amgueddfa. Mae’n olau ac yn awyrog ac yn lle perffaith i gynnal arddangosfeydd a pherfformiadau cerddorol, a mwynhau adloniant a bwyd.

The StreetIt’s here that the city meets the waterfront. This stunning glass canopied area in the heart of the Museum is light and airy and is perfect for exhibitions, enchanting music, entertainment and sumptuous food.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | Ffôn: (01792) 638950 E-bost: [email protected]

For further information please contact: National Waterfront Museum | Tel: (01792) 638950 E-mail: [email protected]

Y Golofnfa a’r CwrtYn eistedd yn dwt rhwng yr hen stordy hanesyddol a’r adeilad gwych o wydr a llechi mae’r cwrt. Mae’n lle perffaith i gynnal digwyddiad awyr agored, picnic, barbeciw, perfformiad neu ffair grefftau. Mae digonedd o le i godi pabell fawr. Cewch gyfuno hyn â’r Golofnfa ar lawr gwaelod yr hen stordy, a dyna chi’r lle perffaith i gynnal unrhyw achlysur.

Colonnades and CourtyardSitting perfectly between the Museum’s historic quayside warehouse and impressive glass and slate architecture you will find the secluded courtyard. Its setting is ideal for an outdoor event, a picnic, barbeque, performance or trade and craft fair. There is also ample room for a marquee. Combine this with our Colonnade which sits on the ground floor of the old warehouse and you have the ideal venue for any occasion.

Page 17: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

15

Page 18: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

1�

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

16

Page 19: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

17

Mae Amgueddfa Cymru’n deulu o 7 amgueddfa genedlaethol, a gallwn ni gynnig cyfleusterau i’w llogi ym mhob un o’n hamgueddfeydd. Beth am gynnal eich digwyddiad mewn pwll glo (Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru); chwarel lechi (Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis); melin wlân (Amgueddfa Wlân Cymru, Sir Gâr) neu mewn caer Rufeinig (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion).

Ein Hamgueddfeydd EraillOur Other Museums

Gyda thimau proffesiynol ar bob safle, gallwn ni eich helpu chi i gynllunio’r holl drefniadau angenrheidiol i sicrhau bod eich diwrnod yn llwyddiannus ac yn ddidrafferth.

National Museum Wales is a family of 7 national museums and we can offer venue hire at each of our museums, so why not host your event at a coal mine (Big Pit: National Coal Museum); a slate quarry (National Slate Museum, Llanberis); a woollen mill (National Wool Museum, Carmarthenshire) or in a Roman fortress (National Roman Legion Museum, Caerleon).

With professional and dedicated on-site teams we are able to assist you in planning all the necessary arrangements to make your day run smoothly and efficiently.

For further information visit our website at www.museumwales.ac.uk or call the switchboard on (029) 2057 3500 stating in which venue you are interested.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch y switsfwrdd ar (029) 2057 3500 gan ddweud pa leoliad sydd gennych mewn golwg.

Page 20: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

20

National Museum Wales | Corporate Hire Brochure

1�

Page 21: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

National Museum Cardiff

19

Eich priodas yw un o ddiwrnodau mwyaf eich bywyd, ac mae’n bwysig dewis y lleoliad cywir. Gall Amgueddfa Cymru gynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw i chi.

Priodi yn Amgueddfa CymruWeddings at National Museum Wales

Cewch briodi yng ngerddi hyfryd plasty o oes Elizabeth a threulio’n noson yn dawnsio yn Sefydliad Gweithwyr o oes Victoria yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r gerddi a’r llynnoedd yn creu cefndir prydferth am ffotograffau i’w mwynhau am flynyddoedd i ddod.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n lle unigryw a thrawiadol i gynnal priodas a brecwast. Cewch ddiwrnod i’w gofio yn Oriel yr hen Stordy ac ar y Balconi gwych dros yr Ardal Forwrol.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yng nghefndir hyfryd y ganolfan ddinesig, yn lle trawiadol i gynnal gwledd briodas.

Your wedding day is one of the most special days in your life, and the choice of venue is of course an important one. National Museum Wales can offer you something a little bit more different and unique.

You can exchange your vows in the elegant gardens of an Elizabethan manor before dancing the night away in a Victorian Working Men’s Institute at St Fagans: National History Museum. The picturesque gardens and lakes provide wonderful photographic opportunities for you to enjoy in the years ahead.

The National Waterfront Museum offers a stunning and unique venue for wedding ceremonies and receptions. With our historic Warehouse Gallery and beautiful Balcony set in the Maritime Quarter, you will have a day to remember.

National Museum Cardiff, in the elegant setting of the civic centre, presents a striking venue for wedding receptions.

Page 22: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

20Dylunio | Design Hoffi.com

029 2048 7941

Filming and Photography

Eight unique venues available for exterior and interior filming and photography. Locations include a Celtic village, formal gardens, a blacksmiths and a working loom – for feature films, documentaries and photoshoots.

For further information please contact Christine Hitchins E-mail: [email protected]

Ffilmio a Ffotograffiaeth

Wyth safle unigryw ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth dan do a thu allan. Lleoliadau’n cynnwys pentref Celtaidd, gerddi ffurfiol, gofaint a gwydd wehyddu – ar gyfer ffilmiau nodwedd, rhaglenni dogfen a thynnu lluniau.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Christine Hitchins E-bost: [email protected]

Page 23: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at
Page 24: Llogi Cyfleusterau - Amgueddfa Cymru · 2011. 9. 23. · cyfarfod busnes mewn amgueddfa fodern arobryn ar y glannau; gall Amgueddfa Cymru gynnig lleoliadau unigryw sy’n addas at

www.amgueddfacymru.ac.ukwww.museumwales.ac.uk