4
Digwyddiadau Hydref 2013 – Mawrth 2014 www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Sgyrsiau Crefftau Gweithdai Hwyl i’r Teulu © Shelley Daniel Photography

Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru: Hydref 2013 - Mawrth 2014

Citation preview

Page 1: Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

1

DigwyddiadauHydref 2013 – Mawrth 2014

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

SgyrsiauCrefftauGweithdaiHwyl i’r Teulu

© S

helle

y Da

niel

Pho

togr

aphy

1092_What's_on_Roman_A5_Wel_P3.indd 1 14/08/2013 09:39

Page 2: Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

2 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Llun 28 Hydref – Gwe 1 Tachwedd, 11am – 4pmGelynion Rhufain

Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn llwyddiannus iawn, yn rhannol am fod y Rhufeiniaid yn dda iawn am ddwyn syniadau pobl eraill! Dewch i roi tro ar greu torch allwedd maelwisg Celtaidd, malu grawn o’r Aifft neu ddysgu am dduwiau a duwiesau Rhufain a Groeg. £2 y plentyn.

Sad 26 Hydref, 6pm – 8pmCalan Gaeaf

Mae gwyl y meirw’n dyddio’n ôl i oes y Celtiaid, ond rydyn ni wedi ei diweddaru fel petai wrth

i ni chwarae ‘pac-man’ Rhufeinig yn yr ardd. Gwyliwch na fydd y bwgan brain brawychus a’r cerfl uniau sy’n cerdded yn eich dal yn yr ardd! Dewch yn eich gwisg ffansi ar gyfer gorymdaith wobrwyo. £3.50 y pen, plant dan 3 am ddim.

Sad 7 Rhagfyr, 11am – 4pmSaturnalia

Saturnalia oedd Nadolig y Rhufeiniaid. Byddwn ni’n rhannu bwyd a diod Rhufeinig â chi, yn chwarae gemau, yn creu anrhegion Rhufeinig ac yn gorffen y diwrnod yn y ffordd Rufeinig draddodiadol, drwy ymladd. Bydd Siôn Corn yn galw draw hefyd!

Digwyddiadau i Bawb

1092_What's_on_Roman_A5_Wel_P3.indd 2 14/08/2013 09:39

Page 3: Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

3 Archebwch wrth gyrraedd Ffoniwch ymlaen llaw i archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs

Ymarferol. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

Cyfl e i ddysgu sut roedd y Rhufeiniaid yn byw, yn ymladd ac yn marw ar gyrion pellennig yr Ymerodraeth Rufeinig.

Ar agorDydd Llun – dydd Sadwrn, 10am – 5pm, Dydd Sul 2pm – 5pm

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Lleng Rufeinig CymruStryd Fawr, Caerllion, Casnewydd NP18 1AEFfôn: (029) 2057 3550 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dyl

un

io g

illad

vert

isin

g.c

om

Llun 24 – Gwe 28 Chwefror 11am – 4pmY Fyddin Rufeinig

Cyfl e i’ch milwr bach dewr chi gael blas ar fywyd fel lleng-fi lwr Rhufeinig. Ffarweliwch â mam a dad am 25 mlynedd i ymuno â’r Lleng. Cewch roi tro ar orymdeithio ac ymladd â chleddyfau a byddwch yn cael tystysgrif ar ddiwedd eich hyfforddiant! £2 y pen.

Sad 1 Mawrth, 11am-4pmDydd Gŵyl Dewi

Dewch i’n gwyl wahanol ni a rhoi tro ar ein cystadleuaeth tafl u cennin neu fwyta bara brith! Heb anghofi o’r traddodiadol, byddwn ni’n coginio cacennau cri ac yn creu defaid ffelt.

Sad 22 – Sul 23 Mawrth 11am – 4pm Sadwrn a 2pm – 4pm SulPlymiwch i’r Pwll!

Rydyn ni gyd yn gwybod am faddondai’r Rhufeiniaid. Ond o ble ddaeth y dwr? Penwythnos o arbrofi gyda dulliau’r Rhufeiniaid o gludo dwr – rhybudd: rydych chi’n debygol iawn o wlychu!

Sul 30 Mawrth, 2pm-4pmCreu Mosaig i Mam

Dewch i greu cerdyn mosaig papur yn anrheg i mam!

Sad 8 Chwefror2pm – 4pmGweithdy Cylchau a Chalonnau Helyg

Dysgwch sut i weithio cylchau a chalonnau helyg hardd – gallwch eu rhoi fel anrhegion… os nad ydych chi am eu cadw i chi’ch hun! Gweithdai gan gwmni Out to Learn Willow, £15 y pen, darperir y deunyddiau.

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

facebook.com/romanlegionmuseum

@RomanCaerleon

1092_What's_on_Roman_A5_Wel_P3.indd 3 14/08/2013 09:39

Page 4: Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

4 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Ffoniwch ymlaen llaw i archebu lle Oedolion Sgwrs Ymarferol

Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

Sgyrsiau

Maw 3 Rhagfyr, 6pm‘Dymunwn Nadolig llawen’... o bedwar ban byd

Nid Siôn Corn ac eira yw Nadolig i bawb o bobl y byd. Mae llawer o ffyrdd gwahanol i ddathlu’r wyl ac mae rhai o’r traddodiadau diddorol yn siwr o’ch synnu. Sgwrs gan Dr Juliette Wood o Brifysgol Caerdydd. £3.50 y pen.

Sad 25 Ionawr, 1pm – 4pmGweddnewidiad Rhufeinig

Cyflwyniad gan Sally Pointer i rai o gyfrinachau’r menywod Rhufeinig mwyaf smart. Yn yr ail ran, cewch roi tro ar greu minlliw a phersawr Rhufeinig. Dyma sgwrs ddiddorol i unrhyw un sydd â diddordeb ym mywyd bob dydd y Rhufeiniaid. £8 y pen. Darperir y deunyddiau.

Merch 19 Mawrth, 6pmErgyd farwol: sut i ymladd fel Gladiator

Sut beth oedd ymladd yn yr arena? Bydd Dai Price yn dangos i chi sut oedd y mathau gwahanol o Gladiatoriaid yn defnyddio’u harfau yn y brwydrau byw neu farw oedd yn diddanu’r Rhufeiniaid ac sy’n dal i’n diddori ni heddiw. £3.50 y pen.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Merch 19 Mawrth, 6pmErgyd farwol: sut i ymladd fel Gladiator

1092_What's_on_Roman_A5_Wel_P3.indd 4 14/08/2013 09:39